Teitl Casgliad: Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug)

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
14 erthygl ar y dudalen hon
EMYN AMYNEDD

EMYN: AMYNEDD. 0 ARGLWYDD Dduw'r amynedd, Amynedd dod i mi,, I rodio'n ffordd gwirionedd, A'm golwg arnat Ti; Er amled ydyw'r brwydrau, Er cpoethetd, ydyw'r tan, Edrychaf tua'r bryniau, A'th enw fydd' fy nghin. Mor nerthol yw'r gelynion,, Yn ddiafol, cnawd, a byd, Sy'n ohwalu pob cysuron, Ar ddfe ac aswy'n nghyd; 0 am g-ael gras i'm.cadw, Yng ngwlad y cystudd mawr, A'r hirymaros hwnnw, Sy"n edrych tua'r wawr. Gofynaf am amynedd, A chalon raslawn ddoeth, Fo'n gartref i dangnefedd, *>„_ Yng- ngwreis y ffwrnes boeth; Yn llaw fy Nuw ymaflaf, Dan bob rhyw ing- a loes, A mwy na choncrwr fyddaf, Yn. ymyl Crist a'i Groes. J. E. DAVIES Llandilo. (Rhuddwawr).

No title

Da gennyf weld fod yr Alliance i yn parotoi llenyddiaeth fuddiol ar glyfer y frwydr agoshaol ar gwestiwn g-waharddiad. Der- byniais sypyn o hysbysIeni: a v thraethodynau oddiwrth Plen- i ydd,-praw,f fod yr hen arwr yn s fyw ac effro.

No title

? Dywed Esg-ob Tyddewi y rhaid i'r Eglwys yng Nghymru godi miliwn o bunniau er mwyn gwneud i fyny'r hyn a gollodd drwy D.dad- ? waddoliad. A dyna'r Llywodr- aeth yn rhoi miliwn, a'r Cynghor- r au Sirol i gael dim am ddeugain mlynedd! I ba le y mae'r anan yn myned?

No title

Ymgymerodd gfwyr ieuainc Bethel, Cilfynydd, yn ddiweddar a myn'd ati i tai ha.,u, y festri. Golygai hyn arbed gryn draul, a dengys hefyd fod y bobl ieuainc yng N--bilfynydd a'u calon yng ng-hyfeiriad daioni, ac ni ddywed neb lai na chrelfftwyr dan gamp sydd wedi bod wrthi.

No title

Beth bynnag a ddywredir am hynny, mae dawnsio yn dyfod yn boblogaidd yng Nghymru. Mae; llawer yn dawnsio yn ddirgelaiddl, am eu bod yn ofni'r gweinidog a'r blaenor. Eraill yn gyhoedd- us, heb ofni neb. A'r merched ieuainc yn ystyried fod dawnsio yn rhian hanfodol o ddiwylliant yr ugeinfed ganrif. Yn y man, daw dawnsio yn rhan o ddisgyblaeth gorfforol yr ysgolion parhad, ac i'r ysgoldai ynglyn a'r capel. Mae gennyf barch d'ifesur i'r rhai sydd yn erbyn, a'r peth goreu 1 ddeisyf ar eu rhan yw am iddynt g-ael myned i'r- nefoedd yn fuan, oblegid rhacid i Ymneiltuaeth gymati il djtwnsio 3111 y byd hwn. Dywe;dai swydd'og cyhoeddus y dydd o'r blaen na bydd y Cyng- horau Sirol yn cael eu trafferthu gan waddoliadau'r Eglwys un ddeugain mlynedd Ac fe ddywed yr Eglwyswyr fod eisiau 150, ooop. y flwyddyn i wneud ru colled hwy i fyny. I ba le y mae"r arian yn myned meddwch chwi ? Clywais rywun yn aw- grymu mai y gweision cyflog yn unig fydd ar eu hennill drwy Ddad waddoliad1.

No title

Gwyn. eu byd y tangnefeddwyr. Gwnaethant waith rhagorol ym mrawdlys Abertawe. Ar dcfech- reu'r frawdlys yr oedd yno, ddwsin am waed eu gilydd, a hann.-r dwsini o fargyfreithwyr yn gfwth- io'r cwoh i'r dwfr. Ond yn sydyn daeth y tangnefeddwyr i awdur- dod, ac yr oedd pawb ar y telerau goreu a'u gilydd,—'Syr Alfred Mond a Mr. David Davies yn dangos sut y mae: cymodi. Par- haed brawdgarwch.

No title

Yn y Wireless World," ceir hanes Gorsaf Marconi yn Nhowyn, Meirionydd, prif orsaf y pellebyr di-wifrau. Disgrifir y modd y mae'r gwaith rhyfedd hwn yn cael ei gario. ymlaen. Danfonir oenadwriau o'r orsaf v Towyn i'r orsaf gerllaw Caernar- fon, a chyda pheiriannau sydd1 vn hollbl d'an reolaeth y swyddfa )'n Towyn, danfonir hwy i Belmar, gerllaw New York, yn ol y cyf- lymder o gant o eiriau y funud. Derbynir y oenadwriau 0 Belmar yn Towyn,.

No title

Dadleuais lawer yn erbyn gwaith Hyfra'r Methodistiaid vn lladd y Hyfrwerthwr teithiol. Gwnaed hynny yn llythrennol drwy gynnyg- yr un teljerau i Ys- golion Sul ac eglwysi ag a roddid' i'r llyfrwerthwr. Clywais Mr Richard Jones, Aberangell, yn dweyd fod hynny wedi ei ysbeilio ef o'i fywoliaeth. Ac nid dyna'r golled fwyaf. Erbyn hyn gwelaf fod y Parch. John Owen, M.A., Caernarfon, am ail godi'r hen deithwyr. Gobeithio nad yw yn rhy hwyr.

No title

Mae Mr. Llefwelyn WiUiams, j M.A., K.C.. yn cystwyo Canon Camber-Williams ^n enbyd yn y 'Geninen' am Hydref, sydd newydd dd'od' i law. Ysgrifennodd y Canon erthygl ar yr Eg-lwyswr a'r Piwritan, ac y mae'r bargyf- reithiwr yn myn'd drwy'r ysg-rif bob yng-ymal, gan ddangos sut y mae'r gair Piwritan we:di gwneud i'r Canon gweryla a g-wronitl-I rhyddid yng- Nghymru. Ac (s dymunech astud'io gwahaniaeth rhwng- llenorion, darllenwch er- thygl yr Athro Gwynn Jones nr Principal Roberts, neti, eid'do'r Parch. Puleston Jones ar An thro- pdt; Mae achos newydd gan y Wes- leyaid wedi ei gychwyn yn y Bala, lie yr oedd eisoes fwy na dig-on o le i bob Cristion a phagan yn. y dref i addoli. Pob bentlith ar yr achos newydd, ond gwyr pawb fod cychwyniad achosion fel hyn yn wadiad ar bob proffes a wneir am un'deb, cydweithrediad, a chynhildeb. Nid wyf yn beio neb. Dangos yr wyf fel y mae cred a buchedd yn croesi ei gilydd er gwaethaf popeth.

No title

Mae Dr. Addison, y Gweinidog Iechyd, yn torri tir newydd. Y diwrnod o'r blaen anerchodd swyddog-ion Bwrdd Iechyd Cym- ru yng Nghaerdydd. Wrth gyf- lwyno diolchiadau iddo, dywed- odd'Mr. James Evans nad oedd yn. cofio ond am un cyfarfod cyffdyb o'r blaen yn ystod e:i brofiadi o 30 mlynedd yn y Civil Service, a hynny pan yr oedd Mr. Balfour yn Ysgrifennydd dros y Werddon. Talodd ymweliad a'r swyddfa lie y gwasanaethai Mr. James Evans ar y pryd.

No title

Daw'r newydd annisgwyliadwy o America' fod y 'Drych' mewn perygl. Mae ei berchenogion yn teimlo nad yw yn talu fel y dylai, ac y mae ei ddyfodol yn y glorian. Mae'r 'Drych' yn cael ei ystyried y newyddiadur Cymraeg goreu yn y byd; ond ni wyd'dai fawr neb fod yn y ganmoliaeth argm, fod y diwedd yn y golwg. Byddai'r golled i Gymry America yn ddi- frifol i'r eithaf. Ond gwyr pawb sy'n sylwi fod y Cymry yn suddo o'r golwg yn- yr Americaniaid. Gobeithiio y daw rhyw wawr o rywle, obleigid1 byddal'n chwith iawn i lawer o honom ar ei ol.

No title

Wrth son am y 'Drych' dywed- odd g-wr sydd yn gwybod llawer am y wasg yng Nghymru fod y frwydr yn galetach nag y gwyr neb. Giwerthir amryw bapurau i gwmniau cyfoethog", a thrwy gys- ylltiad y cwmniau hynny a cKwmni yn Llundain, ceisir maethuir papurau gfweiniaid a hysbysiadau. Yr hysbysiadau neu ariart cyfoethogion sy'n cadw amryw rhag suddo, ac yn radd'ol llynck bron yr oil gan y cwmniau mawr.

No title

Methiant llwyr fu ymgais Miss Violet Douglas-Pennant i brofi'r cyhuddiad'au gfwaethaf yn erbyn y s'wyddogion a merched y W.R.A.F. Ar ddiwedd yr ym- chwiliad, cyn gohirio i ystyried ol eu hadroddiad, dywed'odd y Cad- eirydd nad oedd y cyhuddiadau o anfoeisoldeb ynglyn & Hurst Park Camp wedi eu profi, ac nad' oedd sail i'r cyhuddiadau eraill yn eirbyn' y swyddogion. Ceir ad- roddiad eto ar y cyhuddiad o fod cynllwynion i d'roi Miss Violet Douglas Pennant o'i swydd; ond ail beth yw hynny. Buasai yn well gan amryw erbyn hyn pe buasent i gwrando ar y CYMEO.

PERSONOL

PERSONOL. Mae Mrs. Davies-Bryan a'i merch wedi cychwyn yn ol i Alex- andria ddydd Sadwrn. Traddododd y Parch. Evan Price, Ebbw Vale, ddarlith ragor- ol ar Kilsby Jones yng nghyfarfod cyntaf Cymd'eithas Lenyddol y Pandy, Abergafenni. Wedi g-wasanaethu fel athraw ysgol Glanypwll, Blaenau Ffes- tiniog-, am 37 mlynedd, mae Mr. Edward Griffith wedi ymddis- wyddo. Mab iddo yw Mr. Idwal Owen Griffith, M.A., sy'n dar- lithio yn Rhydychen. Trodd Lieut. Gwilym Evans, mab Dr. R. D. Evans, Blaenau Ffestiniog, yn ol i St. John, New- foundland1, i fyned1 i'r banc lie yr oedd cyn dyfod adref i ymuno a'r fyddin. Ei frawd Dr. Carey Evans yn myned' yn ol i Bagdad tua'r un adeg. Clywais fod yn debyg y gwa- hoddir Dr. John H. Hutton, D.D., i lanw pulptid. y City Temple. Efe'n bregiethwr graen- us, ac yn awdur amryw lyfrau adnabyddus. On Accepting- Ourselves ydyw enw y diwedd- af o'i lyfrau. --t- Crefydd Crist ynte Crefydd Cymru ydyw teitl ysgrif gan Mr. G. M. LI. Davies,-Y gwrthwyn- ebwr cyd'wybodol adnabyddus,— yn y Geninein. Dadleu y mae fod blaenoriaid cred yn traethu petli- au sy'n groes i Grefydtd Crist. Gresyn fod neb yn cilwgu ar ddynion fel Mr. Davies. Mae d'igon: o Ie i ddynion o argy- hoeddiadau dyfnion yng Nghym- ru, a'r rhai ymta fydd y gfwroniaid yn y man. -+- Yn Founcrosses, cyflwynodd Cangen Ddirwestol y Merched Yspectol Aur ac Arian Nodau i Ce rid wen Peris fel arwÿdd o'u parch tuag ati. Rhodd'odd lawer o'i gfwasanaetihi i'r Gangen am 25 o flynvddoedd. Canwyd yn ystod y cyfarfodi gan y Band of Hope, a chafwyd' hefyd Adrod'diadau ac Unawdau. Llywyddwyd gan D. R. Daniel, Ysw., gan yr hwn y cafwyd sylwadau diddorol am ei daith yn America. Llif cydymdeimlad. cywir yr ardal i Mr. Rees Evans, y Ddol- wen, yn ei waeledd, ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn Abeirtawe dan driniaeth feddygol. Efe yn bilI blaenor a thrysorydd Pensarr., Deheu Aberteifi, er ys blwyddi hir. Gwr o feddwl effro ac argy- hoeddiadau pendant yw efe, yn noddwr cadarn i burdeb a moes, yn arwrol ei ysbryd ac yn awdur- dodol ei air, yn asset i'r gymyd- ogaethrriewn eglijrder meddWl a rhuthr a brwdfrydedd. Y mae dau o'i feibion yn flaonoriaid, am- lwg1, un yn Treharris a'r llall yn Blaencydadi.