Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
No title

Yn Brussels. A" Achosodd newyddion y rhyfel ddiwedd yr wythnos i lawer deirnld yn bur bryderus. Yr oedd byddin Belgium, fel y gallesid disgwyl, yn gorfod cilio'n ol o fiaen lluoedd yr Ahnaen, a dydd Gwener daeth y newydd fod y fyddin Almaenaidd, nul yn unig wedi meddianu Brussels, ond hefyd wedi cyrhaedd Ghent, cryn lawer i'r gogledd, ac o fewn rhyw ddeug- ain milltir i Ostend, ar lan y mor ac ar gyfer Prydain. Ychydig a wyddid yn fanwl am eu symudiadau, ond yr oedd y ffeithiau a nodwyd yn ddigon i brofi eu bod yn symud ymIaen yn gyflym iawn. Pe gorchfygu Belgium fuasai eu hamcan, buasai wedi ei gyrhaedd. Ond y mae'n rhaid cofio mai ymosod ar Ffrainc oedd mewn gohvg o hyd. Cymerwyd Brussels, y mae'n debyg, er mwyn codi calon- au yr Almaenwyr gartref, ac hefyd gydag amcan arall y ceir crybwyll am dano ymhell- ach ymlaen. Ond nid oedd cymeryd Brussels ynddo ei hun yn.hanfodol angenrheidiol i gyn- llun Ymherawdr yr Altnaen. _«t» -u

No title

Y Cynllun. Parodd symudiadau cyflym y fyddin Almaenaidd i lawer anesmwytho, ac nid heb reswm. Y mae'n debyg mai yr amcan mawr oedd cael at oclir chwith y fyddin unedig, a'i throi yn ol ar ei chanol, yn Namur, gan toddi cyfle i'r byddinoedd Almaenaidd yn is i lawr dori trwyddi ac felly, rhyngddynt, ei cliym- eryd neu ei difetha. Yr oedd y fyddin Ffrengig yn gorffwys y pen deheuol ar Namur, lie cadarn iawn, a'r pen gogleddol yn rhywle heb fod ymhell o lan y mor. Ond v mae'n rhaid cadw mewn cof hefyd nad oedd y fyddin Belgaidd eto wedi ei dryllio. Pe llwyddasai yr Almaeniaid i wneuthur hynny buasai y sefyllfa yn un wir beryglus i'r fyddin unedig. Ond yr oedd y Belgiaid wedi syrtli- io'n ol, yn weddol gyfan, ar Antwerp, un o amddiffynfeydd cadarnaf y wlad, ac felly yr oedd yr Almaeniaid, wrth symud ymlaen tua'r gogledd a'r gorllewin yn gadael byddin gweddol gref ac anorchfygedig o'r tu cefn iddynt. Nid allent fforddio colli amser i ymosod ar Antwerp, ac y mae'n amheus iawn a fuasent yn llwyddo pe gwnaent hynny, felly y maeri fwy na thebyg nad ydynt wedi gadael ond mfer cymharol fychan o'i rnilwyr i wylio'r lie. Felly, y sefyllfa ddiwedd yr wythnos oedd fod yr Almaeniaid yn ymarferol wedi meddianu canolbarth Belgium, fod y byddin- oedd Ffrengig- a Phrydeinig yn rhywle o'u olaem, a byddin Belgium o'r tu ol iddynt yng nghysgod caerau Antwerp. Yn Alsace yr oedd y Ffrancod yn neshau at Strasburg ac wedi dal eu tir ar hyd y terfyn. Yr oedd byddin Rwsia yn dechreu symud tu 1'1' Almaen ac Awstria, ac yr oedd yn amlwg fod gan Awstria lawn digon o waith i'w wneud, rhwng Rwsia a Serfia, i'w chadw rhag ymyryd llawer ýIl y gweithrediadau gorllewinol. "fc -+- -+-

No title

Ysbail. -y- -y- Dydd Sadwrn gwnaed yn hysbys fod yr Almaen yn gofyn wyth miliwn o bunnau oddiar Brussels a dwy filiwn oddiar Liege. Synwyd y byd. Y mae'n wir na chaniata cyfraith y teyrnasoedd weithian i fyddinoedd ysbeilio dinasoedd y gelyn a Haelel a lladrata yn ddiarued yn ol yr hen drefn, ond ym- ddengys ei bod yn caniatau ffurf arall ar ysbail. Nid yn unig y mae'r Almaon yn ymosod ar Belgium, yn llosgi ei phentrefi, yn meddianu ei threfi, am na cKaniateid iddi gludo ei byddinoedd trwyddi,—y mae hefyd am ei llethu yn arianol. Y mae'n sicr na wna hyn ddim ond drwg i'w hachos ymhlith cenhedloedd gwar, ac y mae'n debyg y bydd yn rhaid iddi dalu'r arian yn ol gyda Hog chewerw rhyw cTdiwrnod. Y mae Belgium yn myned i dalu'r arian, ac y mae Prydain yn myned i rodcli benthig deng miliwn o bunnau iddi—ai at hynny ynte at amcanion ereill, ni wyddom. T mae yr hyn a ofynir gan Brus- sels yn gyfystyr a threth o £ 60 ar bob teulu, yn dlawd a chyfoethog, yn y ddinas. Adroddir llawer o ystraeon ereill am ddull yr Almaen o ddwyn y rhyfel ymlaen. Dylid bod yn araf iawn i'w credu, ond y mae lie i ofni fod rhyw gymaint or Kyn a ddywedir am losgi pentrefi a thai a saethu pobl sydd heb fod yn filwyr yn wir.

No title

Diffig Gwaith. Y mae felly yn ei heffeithiau gartref yn ogystal ag ar y Cyfandir. Y mae prisiau bwyd yn dal yn weddol resymol yn y wlad hon hyd yn hyn, ac yn wir yn gostwng mewn rhai cyfeiriadau. Gwneir pob ymdrech—llwydd- ianus weithiau-i feddianu masnach yr Almaeniaid. Ond y mae'r ffaith fod ein cwsmer goreu wedi troi'n elyn a bod llawer i wlad arall wedi ei chau rhagddom yn sicr o ddweyd, ac y mae wedi dweyd eisoes. Yng Nghymru y mae'r chwareli yn dechreu teimlo'r wasgfa, ac y mae lie i ofni y teimlir mwy eto fel yr a i'r gauaf. Yn Lancashire y mae dyddiau blin yn dechreu dal y gweithwyr yn y melinau cotwm. Yn nosbarth Oldham y mae eisoes tua 53,000 o weithwyr cotwm allao o waith, a rhwng deg ac un mil a'r ddeg o beiriannwyr ar amser byr. Y mae dros 10,000 o bobl allan o waith yn Bolton, ac yn ystod yr wythnos ddiweddaf yr oedd 65 o'r melinau yn segur. Yn nosbarth Nelson yr ydys eisoes yn gorfod bwydo tua saith gant o blant ysgol. Meddylier am foment am y dioddef, y difrod ar arian a gynilwyd, y pryder a'r digalondid a gynwysir yn y ffigyrau a roddasom. 0 dipyn i beth bydd pethau yn debyg mewn rhannau ereill o'r wlad hefyd, ac y mae'n rhaid i ni sylweddoli mewn pryd ein bod yn wynebu ar aeaf du a dialed iawn. Y ma8'r Gronfa Ymwared yn dringo i. fyny yn anrhvdeddus, ond nid yw yn debyg y bydd ynddi yr un geiniog dros ben yr eisiau.

No title

Parodrwydd. Ni ddylai neb gymeryd yr Almaeniaid yn ysgafn. Ddiwedd yr wythnos llwyddodd Sais mentrus i ddianc o Brussels i Ostend, a dyw- edodd fel y gwelodd y fyddin Almaenaidd yn cyrhaedd prif ddinas Belgium. Synodd at ei chyflwr rhagorol ac at y drefn ardderchog oedd ami. Yr oedd y dynion yn flinedig ond yn gryfion ac yn hyderus. Yr oedd y meirch yn rhagorol, eu holl dresi yn newydd, a phob milwr yn cludo pedolau newydd at alwad wrth ei werthyl. Cyfrodd y Sais—ni roddir ei enw —yn ymyl tri chant o ynnau mawr yn cael eu cludo trwy'r heolydd, a dywed fod yno lawer yn rhagor ond ei fod wedi blin'n cyfrif. Y mae'n eglur fod y peiriant Almaenaidd bron yn berffaith; ceir gweled eto a ydyw'r ymenydd- iau sydd yn ei gyfeirio a'i reoli cystal. Am drigolion Belgium, y maent hwy yn hynod ddigalon, ac nid rhyfedd hynny. Gofynant ymha le y mae'r Prydeinwyr a'r Ffrancod, ac y maent yn ddig oherwydd i'w llywodraeth eu hunain gelu gwir sefyllfa pethau rliagddynt cyhyd. Yr oedd yr holl wlad mewn dychryn pan ddeallwyd am neshad yr Almaeniaid ddiwedd yr wythnos, ac yr oedd y golygfeydd ar hyd y ffyrdd, pan oedd teuluoedd a chlwyf- edigion yn 'dianc, yn dorcalonus iawn. Dywed y Sais y crybwyllwyd am dano fod yr Almaeniaid wedi ymddwyn yn weddol ddi- dramgwydd yn Brussels. Talai y milwyr am y pethau a gymerent o'r siopau, ond yr oedd y cadfridog yn cymeryd yr hyn oedd eisiau at amcanion cyffredinol yn ddidal. Rhaid cofio fod milwyr yr Almaen wedi arfer bod yn dra-awdurdodol yn eu gwlad eu hunain— y mae digwyddiad Zabern yn brawf o hynny —a phrin y gellir disgwyl iddynt fod yn well mewn gwlad orchfygedig.

No title

Ar Led. n. Anodd ydyw gwybod yn ianwl sut y mae pethau yn myned ymlaen mewn mannou ereill. Y mae'n hysbys bellach fod y Rwsiaid wedi cyrhaedd Dwyrain Prwsia, ac mewn cyfres o frwydrau poethion, wedi gorchfygu byddin Almaenaidd. Bydd hyn yn clirio'r ffordd i'r brif fyddin Rwsiald(I ddyfod ymlaen trwy Warsaw. Os na fedr y Caiser daro yn llwyddianus, a tharo yn fuan yn erbyn y Fyddin Unedig, bydd Rwsia ar ei warthaf. Nid all ddisgwyl ond ychydig o gymorth. gan Awstria. Y mae'n hysbys erbyn hyn fod y Serfiaid wedi gorchfygu y fyddin Awstriaidd oedd yn ceisio goresgyn y wlad, ac y mae gan Awstria fwy na llond ei dwylaw. Yn Lorraine bu raid i'r Ffrancod gilio 0 fiaen yr Almaeniaid, ar ol cael cryn golledion, ond y maent yn dal eu tir yn Alsace, ac nid oes yr un adran o'r fyddin Almaenaidd ar dir Ffrainc. Dywed y Cadfridog Joffre, pen- naeth y byddinoedd Ffrengig, mai blerwch rhai o'r cadfridogion Ffrengig a barodd i'r fyddin golli Mulhausen. Y mae-wedi eu di- swyddo, a phenodwyd rhai ereill yn eu lie. Yn y Dwyrain y mae Japan wedi cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen, ac y mae ei llynges yn symud yn erbyn Kiao-Chau. Y mae'r Eidal yn parhau yn amhleidiol, ond y mae tennlad cryf yn y wlad yn erbyn Awstria a'r Almaen. Cred rhai Eidalwyr v dyll(I manteisio ar y cyfle i enill yr oclir Awstriaidd o'r Adriatic yn ol i'r Eidal.

No title

Ar y Mor. Y mae niwl tew-ffigyrol-yn gordoi'r gweithrediadau ar y mor. Braidd nad ydym yn y wlad hon bron ag anghofio mai yno y mae ein diogelwch ni. Ni wyddis ddim am weithrediadau ein llynges ym Mor y Gogledd. ond y mae distawrwydd y llynges Almaenaidd yn brawf pur foddhaol fod ein llynges ni yn cadw gwyliadwriaeth bmvl. Y mae'r Mor Canoldir, meddir, yn glir, ac y mae llongau yn dyfod i'r wlad yma o'r Aifft yn hollol, ddiogel. Y mae llongau bwyd, hefyd, yn croesi Mor y Gogledd o Denmarc. Y mae cychod Norwe a Denmarc wedi bod yn brys: f yn c-odi'r 'mines', a osodwyd gan yr Almaen- iaid, canys yr oedd y rhai hyn, nid yn unig yn beryglus i'n llongau rhyfel ni, ond yn bygwth eu trafnidiaeth fasnachol hwythau hefyd. Bu tanio rhwng Hong Almaenaidd ac un Brydeinig yn rhywle ar y AYerydd. Dihangodd yr Almaenwr ac ni tharawyd y llong Brydeinig o gwbl. Cymerwyd un ilong fasnachol perthynol i Brydain gan long ryfel Almaenaidd yn rhywle oddiar lannau dwyr- einiol De America, a suddwyd un arall. Llywydd honno oedd Capten J. N. Jones, a Hong o Lerpwl oedd. Achubwyd yr holl griw a glaniwyd hwy ym Mhernambuco. Ar y cyfan, gellir dywedyd fod y Werydd yn ddiogel. Nid oes neb a wyr pryd y daw'r frwydr fawr ym Mor y Gogledd, os claw o gwbl.

No title

-y T T Pryder. Achoswyd pryder mawr gan newydd'on ddvdd Mawrth a dydd Mercher. Dechreuodd y frwydr fawr rhwng yr Almaeniaid ar un ochr, a'r Ffrancod a'r Prydeinwyr ar yr ochr arall. Hysbyswyd fod Namur, lie y tybid a ddaliai am dri mis, wedi syrthio i ddwyiaw'r gelyn, ac yr oedd y byddinoedd unedig wedi cilio'n ol tua therfynau Ffrainc, ar ol brwydro ffyrnig a gwaedlyd iawn. Ni chafwyd eto ddim eglurhad boddhaol ar gwymp Namur, ond dywedir fod Belgiaid yr ochr honno yn tueddu ar y cychwyn i adael i'r Almaeniaid fyned trwy eu tiriogaeth. Nid oes sicrwydd am hyn, ond ymddengys yn anodd egluro'r digwyddiad mewn unrhyw ffordd arall. Y mae maes y frwydr yn awr yn eang iawn, o Lille i Nancy, ac nid oes amheuaeth bellach fod y Ffrancod wedi cael colledion trymion iawn ac wedi gorfod cilio'n ol yn Lorraine. Hysbyswyd yn swyddogol ddydd Mercher fod 2,000 o Brydeinwyr wedi eu lladd a'u clwyfo. Ymladdasant, meddir, yn ddewr iawn, a chil- iasant mewn tiefn pan orchmynwyd hynny. Pan ydym yn ysgrifennu, nid ellir rhoi dim manylion pellach, ond y mae'n mnlwg fod yr Almaeniaid yn medru dwyn pwysan gorlethol e wyr yn erbyn y byddinoedd unedig. Gob- eithir, modd bynag, y llwyddir i'w dal yn ol ar derfynau Ffrainc, Cyhoeddir hanesion erchyll iawn am yrnddygiadau'r fyddin Almaenaidd yn y pentrefi Belgaidd, a dywedir fod eu llongau awyr wedi gollwng tan-belenau yn Antwerp. Y mae pump o'r Zeppelins hyn wedi ei dinystrio gan y Ffrancod, ond y mae chwech eto'n aros. Y mae'n eglur bell- aeh fod yn rhaid i'r rhyfel hon fod yn un o'r rhai ffyrnicaf a welwyd fawr erioed, ac ni ddylid anobeithio na digaloni os ymddengys y newyddion yn ddrwg ar brydiau..

No title

Arglwydd Kitchener. Dydd Mawrtli cyfarfu'r Senedd. Gwnaed busnes angenrheidiol yn Nhy'r Cyff- redin, a deallir mai terfynu'r tymor a wneir,