Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 10 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
WRTH FYND HEIBIO

Owen Lawgoch. Cofier hefyd am Owain Lawgoch, gor- wyr Llywelyn Fawr. Yn erbyn y Saeson yr ymladdai ef, gan gofio'r gorthrwm yr oedd ei wlad yn dioddef dani. Breuddwydiai am enill anibyniaeth Cymru yn ol, gyda chynorthwy Ffrainc ac Ysbaen, ac yr oedd yn gymaint o ddychryn i'r Saeson fel y rhoddasant un o'u hysbiwyr, John Lambe, ar waith i'w ladd1 Llwyddodd, ond nid cyn i Owain Lawgoch. a'i fintai o Gymry eu henwogi eu hunain fel ymladdwyr ymhob cwrr o Ffrainc.; Ffrancwyr a Glyn-iDwr. Yr oedd gan y ddau Lywelyn, yn ogystai a Glyn Dwr gytundebau a brenhinoedd Ffrainc yn erbyn y Saeson, ond daeth milwyr Ffrengig trosodd i Gymru i gynorthwyo Owen Glyn Dwr. Rhoddir manylion dyddorol yn y Welsh Outlook am y cynorthwy hwnnw. Yn 1405, glaniodd pum mil o Ffrancwyr, pigion y fyddin, yn Milford Haven. Ymun- asant a byddin o ddeng mil o Gymry dan Glyn Dwr, a buont yn fuddugoliaethus am amser. Y mae rhai o'r bobl sy'n siarad heddyw wedi anghofio hen draddodiadau rhyfelgar Cymru. Personol. Y mae'n ddrwg genyf ddeall fod y Parch. Owen Evans, Colwyn Bay, yn cwyno. Gob- eithio y caiff wellhad buan. Darllenir ei Adgófion" gyda bias gan ddarllenwyr y II Goleuad," ac y mae'n anodd gwybod at ba beth i ryfeddu mwyaf-ei gof, ynte ei sylwad- aeth fanwl. Hanesyn nodweddiadol iawn am y diweddar Thomas Hughes, Machynlleth, a geir yn y beriod sy'n ymddangos yr wythnos yma. Gweiaf fod paragraff yn myned o amgylch y papurau i'r perwyl fod y Prif-athro Ellis Edwards ar y Cyfandir ac heb fod ym- hell o faes y frwydr. Nid yw hynny yn gywir —o gryn dipyn. Deallaf ei fod wedi meddwl myned, ond yn ffodus newidiodd ei feddwl mewn pryd. I Drefriw yr aeth—ac nid yw swn rhyfel wedi cyrhaedd i Drefriw eto. Emynau. Gofynai rhywun pa emynau ddylid eu canu mewn gwasanaeth crefyddol amser rhyfel. Nid gwaith hawdd iawn ydyw dewis. jY mae'n sicr y bydd i bawb gofio am 0, Arglwydd Dduw rhagluniaeth," -y mae'r emyn hwnnw wedi gwneud gwasanaeth ar lawer amgylchiad lywyll. Ond beth arall sydd i'w gael? Y mae genyf amryw yn fy meddwl, er nad ydyw'n llyfr emynau ni yn gyfoethog iawn mewn emynau y gellir eu galw yn genedlaethol neu gymdeithasol. Crefydd bersonol ydyw'r nodwedd amlycaf yn y rhan fwyaf o emynau Cymraeg. Os oes rhywun ymhlith darllenwyr y Goleuad a hoffai wneud rhestr o emynau cymwys, byddai yn dda genyf gael eu cyhoeddi yma. Yr Eglwys a'r hyfel. Y mae pawb meddylgar yn y dyddiau hyn yn ceisio penderfynu beth ydyw dysgeidiaeth Crist am ryfel. Beth ydyw dyledswydd yr eglwys ? Yng Ngholofn Hawl ac Ateb yn y rhifyn yma y mae Mr. Puleston Jones yn ateb cwestiwn o'r fath, ac yn addo atebiad pellacli eto yr wythnos nesaf. Y mae'r atebiad a rydd yr wythnos yma yn ddyddorol iawn ac, fel ei holl atebion ef, yn hynod glir. Datg-ysylltiad. Y mae'r Eglwyswyr-rhyw ddosbarth, beth bynag, yn meddwl mai pechod anfaddeuol fuasai pasio Mesur Datgysylltiad yn awr. Ni allaf weled fod yr amgylchiallau wedi newid dim, ac ni ddylai'r Weinyddiaeth lacio dwylo. Yn unig g?l.'id estyn yr amser cyn y delo dad- wad doliad i rym. Nid wyf yn meddwl y Jbyddai gan neb wrthwynebiad i hynny. Ond sylwch fel y mae'r gwrthwynebwyr.yn edrych ar .hon fel eu hadeg Clywir rhai clerigwyr yn Eglwys Loegr yn ymosod yn barhaus ar weinidogion Ymneilltuol am nad ant o ..arngylch y wlad i gymhell pobi i ymuno a'r fyddin. Pan glywant am rai yn gwneud .Iiynny, gwawdiant a difriant hwy. Y mae'n ddryyg genyf orfod dywedyd hyn, ond yn anffodus, y mae'n ddigon gwir, fel y gwn oddi- wrth fy mhroliad fy hum; We. Adrei < Dyma beth erchyll eto, meddat r Sais oedd yn darllen y papur newydd. Y mae'r Germaniaid wedi cyhoeddi'r Almaeneg yn iaith swyddogol Belgium—iaith na ddeallir gan naill haner y boblogaeth. Dyna drahauster! Wel, yr wyf fi wedi cynefino byw dan drefn felly," meddai'r dyn oedd ar ei gyfer. Ni chaf gyfeirio fy llythyrau yn fy ngwlad fy hun yn fy iaith fy hun. Os af i lys barn ni chaf siarad fy iaith os medraf yr un swydd- ogol. Os na fedraf, rhaid i mi ddibynu ar gyfieithydd, canys fel rheol nid yw'r barnwr yn deall yr un gair o iaith y bobl y mae'n tcoi yn eu plith. Oymwynas fawr ydyw cael hys- bysiadau pwysig yn iaith y bobl, ac os na cheir hwy, eto disgwylir i'r bobl eu deall yn iaith yr estron a chosbir hwy am beidio Os meth- ant a siarad yr iaith swyddogol yn hollol rwydd, cyhuddir hwynt o fod un ai yn bendew neu yn gelwyddog. Y mae'r peth yn anhygoel! meddai'r Sais. 0 ba le yr ydych yn dyfod? Ai o Poland? Nage," meddai'r Hall, yn dawel, o Gymru. Chwithdod. Ohwith iawn gan laweroedd fydd clywed am farw sydyn Dr. Robert Roberts (Isallt), Blaenau Ffestiniog. Bu hyn ddydd Mawrth, ac efe'n 75 mlwydd oed. Un o hen deuluoedd meddygol CymruoedcfDr. Roberts, ei dad yn feddyg, a'i ddau frawd yn feddygon. Y diw- eddar Dr. John Roberts, Caer, oedd un o honynt. Hen wr bonheddig Cymreig rhadlon ac urddasol ei olwg oedd Isallt,. yn feddyg rhagorol, yn eisteddfodwr aiddgar, yn cymeryd pleser mawr gyda chan a thelyn. Yr oedd yn awdurdod ar ganu gyda'r tannau. Yr oedd yn wladwr rhagorol, a bydd llawer yn chwith o'i golli. Y Pab. Pasiodd etholiad y Pab newydd yn hynod ddi-sylw. Nid oedd enw y Cardinal della Chiesa, Archesgob Bologna, yn adnabyddus i ond ychydig o Babyddion, hyd yn oed, yn y wlad yma. Bu adeg pan allasai Pab ddyl- anwadu yn fawr, y naill ffordd neu y llaIl, ar ryfel rhwng gwledydd Ewrob, ond y mae'r adeg honno wedi myned heibio. Nid all Benedict XV. wneud dim i atal y llifeiriant gwaedlyd yn awr."

IY CYFUNDEB

Y CYFUNDEB. El BOBL A'I BETHAU. Yma ac acw yn y De. Y RHYFEL. Y mae y blaenor enwog,—Mr. D. C. Roberts, Maer Aberystwyth, ynghyd a' rParch. R. J. Rees, M.A., wedi bod yn traethu eu lien ar y rhyfel, mewn cyfarfod brwdfrydig o'r trefwyr yn y Drill Hall. 'Dywedodd Mr. Roberts fod y cyfle yn un arbenig .i'r iiifer lluosog oodd yn rhy hen i fyncd allan, i faes y frwydr, i gynnyg eu gwasanaeth er amddifFyn eiddo gartref, ac i arddangos eu cydymdeimlad ynghyd a'u teyrngarwch trwy ufuddhau i alwad y Prif-Gwnstabl. Yr oedd ef fel Maer y dref, yn teimloyn ddiolchgar, ac yn wir falch o'r teyngar- wcli oedd eisoes wedi ei ddatigos. Mynegodd y Parish. 'R. J. Rees, M.A., mal braint oedd cael gwasanaethu y brenin a'r wlad. Ein bod yn myned trwy argyfwng yn hanes ein Lwlad, -a'r dynion goreu yn cael eu blino gan yr ymofyniad: "Beth allai iwneyd i amddiffyn eiddo, a bodolaeth fy ngwlad 1" Yr oedd ef yn y gorphenol wedi bod yn edmygwr mawr o'r Almaen-yn edmygwr o athrylith y genedl fawr honno yn ei llenyddiaeth, ei barddoniaeth, a'i duwinyddiaeth, ond yn sicr nid oedd yn edmygu yr yebryd barbaraidd oedd yn rheoli y dosbarlh oe g'dr yn lywodraethu, yn ei hymddygiad at genhedloedd llai. Dyma wedd, meddai Mr. tRees" ddylasai apelio at bob Cymro i sefyllyn ddi-gryn mewn cynorthwyo i ddarostwng a lladd ysbryd mor afiach. Er yn un o feibion We- ddweh, ac yn ddadleuwr drosto bob amser, eto, carai weled yn yr amgylch- iadau presenol, "squad" 0 ddynion ieuainc o dref Aberystwyth yn dyfod allan ac yn penderfynu aberthu eu hunain ar allor gwasanacth dros eu gwlad, eu cartrefi a dynoliaeth. CANOLBARTH MORQANWC, Yn ystod yr wythnos sydd wedi myned heibio y mae yna. nifer lluosog-eithriadol fell, o gymoedd y Llyfnwy, Garw, ac Ogwy, o wirfoddolwvr wedi eu cynyg eu hunain i wasanaethu yn Myddiri yr Ar- glwydd Kitchener. Yr oedd eu gweled yn dylfo ollan yn ,Mhen-},f?oIltarQgwy o drere Maesteg, Pontycymmer, Nantrynioel, Ogmore Vale a Gilfach- goch, yn dweyd yn eglur na fydd byth alw am yr hyn sydd mewn gweithrediad mewn gwledydd eraiil, ac a elwir gan ein cymydogion yn "conscription," yn oin gwlad ni. Gwelsom olygfeydd nad anghof- iwn mohonynt byth ar orsaf Pontypridd drachefn. BUn gennym glywed er hyny, fod yna grrynion yn dyfod o ganolfanau arbennig, nad ydyw y gwirfodd- olwyr hyn yn cael y darpariadau anghenrlieidiol wedi cyrhaedd y "depot." Yn Bridgend yr oeddynt yn gorfod aros oriau lawer cyn cael ychydig o ym- borth i ddiwallu eu hangheiiion naturiol. Y mae Eglwysi Ilh,ydjion y dref wedi gosod -es- iampl deilwng, trwy gymeryd y mater yn eu Haw, a darpar ymborth i'r gwirfoddolwyr fydd yn aros oriau lawer cyn cael eu danfon i'r "depots" arben- ig. Y mae yna fwrdd wedi ei osod y tuallan i neuadd y gwirfoddolwyr, a chyflawnder o "fara a chaws a the" i'r dynion ieuainc. Y mae y Parch. W. J. Thomas, gweinidog yr eglwys Saesnig yn y dref ynfiaenllaw iawn gyda'r mudiad, ac yn gofalu am y "stall." CRONFA TYWYSOC CYMRY. Da gennyf arddeall fod ein heglwysi ni mewn lluaws o fannau wedi casglu yn anrhydeddus at y gronfa sydd yn dwyn enw ein Tywysog ieuanc. Clywais am un o'n heglwysi Saesnig, heb fod yn 70 o aelodau, wedi casglu y isabbot-li o'r blaen, dros £4. Sicr y bydd i'n Cyfundeb yn y De gadw ei anrhydedd yn y casgliad hwn eto, fel gyda phob casgliad cenedlaethol wneir. Y mae Llundain hefyd am ddangos ei theyrngarwch i(ac i'r De onide y perthyn .L-lundain?). Y mae rhai o'r eglwysi yno wedi gohirio yn mis Awst, am fod cymaint ar eu gwyliau. Dyna hanes eglwys Charing Cross gyda'r gronfa, ac y maent am i'w casgliad fod yn deilwng o'r achos, ac o eg- lwys Charing Cross. Y mae bechgyn ieuainc yr eglwys hon yn awyddus iawn o wasanaethu yn ber- sonol yn yr ymgyrch, ac y mae yna amryw o nurses wedi eu derbyn eiisoes o'r eglwys hon gan y Swyddfa Ryfel i wasanaeth ar faes y frwydr. Nawdd y Net fyddo drostynt i gyd yw gweddi teulu'r ffydd yn mliob man. MARWOLAETHAU. Y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodJ am farwolaeth dwy ferch ieuanc, un o Don-yr-efail, a'r liall o Garmel, Aberavon. Yr oedd y chwaer ieuane, Miss Hilda Jones o Don-yr-efail, yn 18 mhvydd oed, ac yn ferch i Mr. a Mrs. D. L. Jones, London House. Yr oedd yn wyres hefyd i'r blaenor adnabyddus, Thomas Lewis, ac y mae ei mamgu- gweddw Mr. Thomas Lie-,A,iis-yn un o ffyddloniaid Sion Duw hedayw. Y mae cydymdeimlad y gym- ydogaeth yn fawr a theulu London House, gan fod ein brawd Mr. D. L. Jones wedi bod yn nychu ac mewn gwendid er's misoedd lawer. Hyderwn y ca adferiad ar fyr i'w gynefin iechyd. Y Hall yw Miss Elizabeth Thomas, merch ieuengaf Mr. W. Thomas, Aberavon. Bu farw yn 21 oed ar. ol cystudd byr. Yr oedd ei pharch yn y dref yn fawr. Trodd yr Ysgol iSabbothol allan yn gryf i ddangos y gymwynae olaf i un o'i ffyddloniaid, hefyd aelodau Cymdeithas y Temlwyr Da, o ba un yr oedd ein chwaer yn aelod ffyddlon. •Wrth osod y chwiorydd hyn yn nliy eu hir gartref, yr oeddem yn gweled yr amaethwyr yn ddyfal wrthi yn cynaeafu, a daeth i'h meddwl y pennilhon hynny o eiddo Elfed dan y penawd. "AXGLABD DliWRXOD CYNH.AEAF." "Ond rhaid marw ddydd cynhaeaf, A rhoi'r cryman lawr; Hhaid i ddyn, pan 'fo brysuraf, "n Gwrdd a'i awr. "Os yw'r Haw fu'n hau y gwenith Yii yr amdo'xl gaeth, Dwed y dwysen dan ei bendith Beth a wnaeth. "Y mae'r byd yn fwy na'r beddrod, Dyn yn fwy na'i oes. Ni cha gwaith y gweithiwr ddarfod Gyda'i loes." BUCEILIAID. Y mae Mr. E. Edwards Hughes, Carmel, Arfor), wedi derbyn yr alwad unfrydol gafwyd ganddo i ddyfod i fugeilio eglwys Closygraig, Caerfyrddin. Y mae y Parch. E. W. Edwards, Pont-y-berem, ar wahoddiad unfrydol eglwysi Llandyfaelog, Bane- y-capel, a Llangendeirne, yn myned i'w bugeilio. Dymuinvn i'r brodyr hyn lwyddiant mawr yn eu meusydd newyddion. Y mae eglwys Pisgah, Penvgraig, Rhondda, yn penderfynu talu y pwyth yn ol i wlad Myrddxn am fyned a' i bugail oddiwrthynt i Lanstephan, trwy at", atynt i'w bugeilio y Parch. R. T. Jones, Llan- edi. Y mae y Parch. iR. C. LeAyfe, B.A., yn bwriadu dechreu ar ei waith fel bugail eglwys Salem, Peii- coed, ddechreu mis Hydref. SASSIWN MAWRTH. Y mae Cyfarfod MisolSir Gaerfyrddiu yn myned i estyn gwahoddiad cynes yn Ninbych-y-Pysgod i ddyfod i Ie newydd spon yn y sir, i gyilal iSageiwn mis Mawrth, sef y Tumble. Dyma Ie ardderchog i Sassiwn i fyny yn Nghwm y Gwendraeth, a phoblogaeth y lie yn cynyddu yn .gyflym. IRydd cynal. iSassiwn yn Tumble yn fwy tebyg i Gwm y Rhondda, nag yn ngwlad Myrddin, fel y ga-na gweithfeydd newyddion gyfnewid ardal- tiydd mor enwog mewn amaethyddiae^n. Ond dym» íoodd, na wyddai cynt ond am frefiadau defaid, a chyfarthiadau'r cwn. GAIR Y CYMMOD. •¥ Parchedigion. Wm. Adams, B. A., Llanelh, a S. E. Prytherch, Xantymoel, fu yn Tabor, Ffynon Taf,