Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
IMR ASQUITH AR DYFODOL

MR. ASQUITH A'R DYFODOL- Hirs pan ysgriienasom o r blaen gwnaed dwy araeth o'r pwys mwyaf, un gan Mr. Lloyd George, ym Mangor ddydd Sul, a'r ilall gan Mr. Asquith yn Nhy'r Cyffredin ddydd Llun. Yr ydym yn delio ag araeth y Oanghellor mewn lie arall, felly nid oes angen dywedyd dim ymlieulach yma. Baich arianol y rhyiel ac ateb y wlad hon i fygythion yr Almaen ar y mor oedd gan Mr. Asquith, ac yr oedd yr hyn a ddywedodd ar y naillfater a'r Ilallvnbwysig lawn. Gofynodd am gan-, iatad y Ty i godi £287,000,000, ac eglurddd na fwriedid i'r swrn anferth yna, barhau ond am gan' niwrnod o Ebrill y cyntaf. Gollyga hynny y byddwn yn gwario yn rhyvvle yn ol uwy filiwn o bunaau y dydd. Y mae'r Ty eisoes wedi pleidleisio £ 325,000,000 ar ddwy. waith, yn ychwanegol at amcangyfrifon Arferol y Llynges a'r Fyddin, ac nid oes un- rhyw debygrwydd na bydd yn rhaid cael liawer yn rhagor eto. Y mae y rhylel yn myned yn ddrutach o hyd. Miliwn y dydd a werid yn yr Hydref, miliwn a haner yn avvr, dwy filiwn ymhellach ymlaen, ac nid oes dim sicrach na bod y wlad yn barod i. gynyddu'r gwario o hyd os bydd raid er mwyn sicrhau heddwch terfynol ac anrhydeddus bellach. Cyfyd y cwestiwn i £eddv.lllavver-os gellir cael arian fel hyn at aracanrhyfel, onid ellid cael rhyw ganfedi ran ohonynt adeg heddwch at amcanion ereill? Dyma'r rhyfel fwyaf costus a fu erioed meddai Mr. Asquith, ond tra yn pwysleisio anferthrwydd v gwario gofalodd hefyd am roddi yr ochr anllll. N lei oedd ef, fwy na Mr. Lloyd George ym Man- gor, yn bychanu dim ar ddifrifwch y sefyilfa, ond dywedai fod y rhagolygon ar y cyfan yn galonogol. Ni bu'r Liywodraeth," medd- ai, mewn geiriau a dderbynlwyd. gvda- chyrner- adwyaeth uchel, erioed yn fwy hyderus nag ydyw heddyw parthed gallu a phenderfyniai y teyrnasoedd uriedag i sicrhau buddugoinaeth derfynol a pharhaol yn y diwedd." Dang hosodd y rhan o'i araeth oedd yn ymwneud a'r gweithrediadau yn y Dardanelles fod y Liywodraeth yn ystyried y symudiad hwnnw yn un pwysig iawn. Yna daeth y mater yr oedd yr holl wlad yn disgwyl clywed ei farn am dano, sef blockade yr Aùmaen gyda'i submarines. Darllenodcl v rhan yma o'i araeth yn ofalus, ond gellir crynhoi yr hyn a ddywedodd i frawddeg, sef fod yr Almaen, trwy dori deddf rhyfel gyda'i hymosodiadau ar longau masnach, yn ein gorfodi ninnau i atal pob math o nwyddau, yn cynwys bwyd, hyd y medrom, rhag"* cyrhaedd yr Almaen. Cymerir pob gofal o longau a hawliau gwled- ydd amhleidiol, ond nid pes ddim ynddynt hwy nac mewn un ffordd arall i gyrhaedd yr Almaen. Dyna'r cynllun yn syml; nid yw ei gymhwyso llawn mor syml.

No title

Y CYMHWYSIAD. Pe buasai Mr. Asquith wedi dywedyd mewn cynifer o. eiriau ein bod yn cyhoeddi blocad ar yr Almaen, yna buasai yn hawdd ei ddeall. Golygai hynny na buasai gan yr un wlad amhleidiol hawl i gludo unrhyw nwyddau i'r Almaen ond ar ei pberygi o-i hun, ac y buasai'n rhaid i'r Almaen dori 'trwy'r blocad neu lwgu. Ond gwrthododd Mr. Asquith yn bendant ddefnyddio'r gair blocad, ac yn niffyg hynny yr ydym dan ein dwylo am yr hyn a fwriedir ei wneuthur. NH1 oes amheuaeth nad yw yr hyn a ddywedodd ef yn Nhy'r Cyffredin cystal a chyhoeddi blocad, ond gan ei fod yn gwrthod yr enw y cwestiwn a ofynir yn awr ydyw sut yrymddvgir at long- au amhleidiol ? Cawn. weled hynny cyn bo hir, y mae'n sicr, ond y mae ein perthynas a gwledydd amhleidiol llawn mor bwysig i ni a llwgu'r Almaen, ac ni thai i ni golli, os gellir yn gyfiavvn ei gadw, gyfeiHgarweh yr America. Ond. nid yw'n amhosibl"na weUr datblygiadau pellach cyn: bo hir. Y mae'r Almaen yn deall ei pherygl, ac y mae'n gwybod beth ydyw gaMu a chyrhaeddiad ein llynges; efallai y bydd iddi ail-ystyried gwaith ei submarines, ac yn wir, y mae rhyw arwydd- ion ei bod eisoes yn gwneuthur hynny. Ond beth bynag a, ddigwydd, y mae'n rhaid dangos iddi mai genym ni y mae'r Haw uchaf ar y mor ac na fynnwn ni gymeryd ein llwgu gan Dalaetliau eisoes yn siarad am atal aUforio ei submarines 'llofruddiog. Y mae un peth lied ddifrifol yn digwydd yn yr America y dyddiau hyn. Y mae pobl yn anesmwytho oherwydd y codiad. mawr ym mbris bwyd, ac oherwydd y cynydd mawr yn y bwyd a all- forir i wledydd ereill. Y mae rhai yn yr U nol gwenith. Pe cymerid cam felly nid gwiw ceiu na buasai yn fater difrifol iawn i'r wlad hon. Ond ipid achosion naturioi sy'n rheoli marchnad y Talaethau, mwy na marchnad- oedd gwledydd ereill, bob amser, ac y mae'r ffaith i bris y gwenith ddisgyn yno pan ddeall- wyd am lwyddiant rhagorcul yr ymosodiad ar y Dardanelles yn awgrymiadol iawn, X mae rhywrai yn ceisio elwa ar y prinder, l

No title

Y FYDDIN GYMREIG. Y mae Cymru wedi synu ei chyfeillion goreu trwy godi mwy o filwyr yn y cyfwng hwn, yn ol yr herwydd, nag unrhyw ran arail o'r Deyrnas Gyfunol. Ni ddaeth y drych- feddwl am fyddin Gymreigdrychfeddwl Mr. Lloyd George, fel y dywedir,—i lod tan ddechreu Tachwedd, ac erbyn hynny yr oedd miloedd lawer o Gymry wedi ymrestru, a dar- oganai rhai pobl y byddai yn amhosibl cael byddin Gymreig at hynny. Os ceid hi, meddid, ni byddai ei hansawdd yn rbagorol iawn. Ond fel arall y bu, ac yn awr y mae'r corfflu Cymreig mewn bod, a, thystiai y Cad- fridog Syr Henry Mackinon ddydd Llun ei fod yn rliagorol, o ran ei ansawdd. Gwnaed hyn broil yn hollol trwy apeuo at deimlad cenhedlaetbol Cymru, a dylai'r awdurdodau milwrol gofio hynny yn y dyfodol pan fvnnir gwneuthur Cymru, yn ol delfryd y Cadfridog Syr Ifor Herbert, yn adran fi'iwrol ar ei phen ei hun. Yr oedd gweithrediadau ctydd Gwyl Dewi yn Llandudno yn ddyddorol. Yn y bore gorymdeithiodd y frigad gerbron Syr Henry Mackinon 8, Mr. Lloyd George. Cyf- lwynodd boneddigesau Mon gleddyf i'r Cad- 'fridog Owen Thomas 'ac arno y geiriau a. ganlyn yn Gymraeg, Oddiwrth ferched Mon i'r Is-Gadfridog Owen Thomas, o'r Fyddin Gymreig, yn achos cyfiawnder a rhyddid, 1915." Yn y prydnawn cafwyd byr-bryd yng N gwesty Sant Sior, pryd y siaradwyd gan amrvW. ac yn yr hwyr, yn y Pafiliwn, cvn- ae yn yr hw yi- haliodd, y milwyr eisteddfod, pryd yr oedd Mr. Lloyd George yn bresenol ac y cafwyd araeth ganddo. Siaradodd gyda balchter am y fyddin Gymreig, a dywedodd fod y man- bap urau Seisnig sydd wedi bod yn ceisio tafiu dirmyg ar Gymru wedi cael eu distewi am byth. Yr oedd un peth ynglyn a'r diwrnod y carasem iddo fod yn wahanol, a hynny oedd absenoldeb yr aelodau seneddol Cymreig- mewn unrhyw gymeriad swyddogol, beth bynag. Yr un diwrnod yr oedd y Guards Cymreig yn troi allan yn LIundain am y tro cyntaf, i sain Breuddwyd y Frenhines., Ymdaith Gwyr Harlech ac alawon Cym- reig ereill. Yn Llundain, hefyd, nos wyil Dewi, cafwyd cyfarfod brwdfrydig iawn gan y Cymry dan lywyddiaeth Syr Vincent Evans. ajs

No title

Y BRWYDRO. Ar y cyfan y mae'r newyddion o faes y frwydr yn bur galonogol yr wythnos hon. Er nad yw v Prydeinwyr na'r Ffrancod yn gwn- euthur llawer iawn o gynydd, nid ydynt yn colli dim tir, ac y mae arwyddion fod y gelyn yn clechreu anesmwytho. Yn 0\1 cyfrif swyddogol Liywodraeth Ffrainc, y mae'r Almaeniaid yn parhaii i gadw yr un nifer o filwyr yn y Gorllewin o hyd, ac nid ydynt yn debyg o'u lleihau. Yn hytrach i'r gwrtlv wyneb y gwnant, canys y mae arnynt fwy o ofn ymosodiad o'r cyfeiriad hwnnw nag o un" rhyw gyfeiriad. Y mae hyn yn bwysig am y dengys faint ac anhawster y gwaith sydd yn aros y byddinoedd unedig yn y gwanwyn. Yn y Dwyrain y mae y Rwsiaid nid yn unig yn dal eu tir, ond, yn -011 pob golwg, wedi enill buddugoliaeth sylweddol ar yr Almaeniaid a chvmeryd llawer iawn o garcharorion. Nid ydyw hyn, wrth gwrs, yn, derfynol\nac yn ddim tebyg i hynny. Ond y mae'n arwydd dda ac yn dangos nad. all yr Almaeniaid wneuthur fawr yn erbyn y Rwsiaid unwaith yr ant, o gyrhaedd eu ffyrdd haiarn eu hunain. Dei'l y Rwsiaid eu gaifiel o hyd ar brif fylchati mynyddoedd Carpathia, ac y mae'n wybyddus erbyn hyn fod byddin gref o Germaniaid ac o Hyngariaid yn eu hwynebu. Am Hyngari y somr yn awr ac nid am. Awstria. Y mae re, pe buasai'r Alinaen.wedi cyfaddef o'r diwedd i-iad yw waeth ganddi am Awstria ond ei bod. am ddefnyddio gw ladgarwch y Magyariaid at ei dibenion ei hun.

No title

Y DARDANELLES. Eglurwyd pwysigrwydd y gweithrediadau. yn y Dardanelles yn ein rhifyn diweddaf, ac erbyn hyn y mae'r gweithrediadau hynny wedillwyddo y tuhwnt i ddisgwyliad. Y mae Kongau Prydain a Ffrainc, yn ol yr adroddiad diweddaraf, wedi myned i fyny'r culfor tua, phedair milftir, ac wedi ysgubo'r mines yn llwryr am fwy o. bellter na hynn y.. Dinystriwyd yr amddiffynfeydd yng ngenau'r culfor yn Mwyr, ac y mae'r ffaith i nifer o filwyr a llongwyr oddiar y ilongau lanio i gwblhau'r gwaith yma yn ddigon o brawf fod y gelyn wedi cael digon yn y rban honno o'r wflad—-gwlad enwog mewn chwedloniaeth, canys ar yr ochr ddeheuol i'r Dardanelles y mae gwastadeddau Caerdroia, a'r Scamander, a rnynycld Ida, hen faes arwyr Llomer. Y mae'r digwyddiadau yn y Dardanelles yn ddyddorol am eu. bod yn brawf eglur mor hir yw braich y gallu sydd oruchaf ar y mor. Ddydd Llun gwnaed yn hysbys fod y Queen Elizabeth yno, tllong ryfel newyddaf Pryd- ain a'r fwyaf a chryfaf yn y byd. Hyd hynny ni wyddai neb ei bod yn barod. Y mae gan- ddi hi ynnau pyrntheng modfedd yn taflu pelen sy'n pwyso tunell i bellter o ryw bym- theng neu ugain milltir, ac nid oes yr un gwn yn amddiffynfeydd y Dardanelles i gystadlu a hwnnw. Y mae'r tywydd yn anffafriol i'r Ilongau ar hyn o bryd, ac y mae'n rhaid arfer amynedd, ond cyn belled ag y gellir gweled yn awr, y mae y rhagolygon yn dda. Y mae'r Hongau eisoes wedi dechreu tan-belenu yr amddiffynfeydd ar y man culaf yn y culfor ac y mae'n gynwrf mawr yng Nghaercys- tenyn. Byddai cwymp y ddinas honno yn derfyn. ar deyrnasiad y Twrc yn Ewrrob, yn derfyn ar ei ymosodiad ar yr Aifft, ac yn der- fyn ar obeithion yr Almaen yn y Balkan.,

No title

DIWEDDARAF.. Y mae yr hyn a ddywedodd Mr. Asquith wedi codi llawer o gwestiynauau yn yr Unol Dalaetliau, ac fe ddywedir yn awr y bydd i. lywodraeth y wlad honno brotestio yn erbyn y cynllun. Dywedir hefyd fod yr Almaen wedi ateb nodyn diweddaf yr America, mewn dull cyfeillgar, ac nad yw y wlad hon hyd yn hyn wedi ei ateb. Beth oedd cynwys y nodyn hwnnw, ni wyddis, ond tybir fod yr America, wedi galw ar y ddwy wlad i beidio ymyryd a tbrafnidiaeth mewn bwyd ac i beidio defn- yddio mines mewn unrhyw fan ag eithrio i amddiffyn portMaddoedd. Nid oes amheu- aeth ami un peth; genym ni ac nid gan yr, Almaen y mae hawl i siarad ar y mater hwn.. Os oes arni hi eisiau gosod ei deddf ar y mor,, deued ei llynges allan i enill yr hawl honno' iddi. Nid yw y submarines Almaenaidd, hyd; y gwyddis, wedi gwneuthur lIlawer o ddrwg yn ystod yr wythnos lion, a phrofwyd mai cel- wydd baerlilug oedd dywedyd eu bod wedi.' suddo un o'r Ilongau, sy'n cludo milwyr ft Ffrainc. Y newydd diweddaraf am eu helynt pan ydym ar fyned i'r wasg ydyw fod liong; ilo Brydeinig, perthynol i Fanceinion, weai taro submarine ym Mor y Gogledd a'i suddo; Dyna esiampl ragorol i longwyr Prydain.—Y mae'r terfysgoedd, llafur yn tawelu,. ond yn' araf, ac nid yw'n ymddangos fod rhyw ddos- harth o'r gweithwyr eto'n medru sylweddoli5 fod diogelwch y wlad yn bwysicach hyd yn oed na'u hawHiau hwy. Heddyw,. pan y mae pob diwrnod yn, bwysig, y mae'r gweithwyr ar y Clyde yn myned yn ol at eu gwaith yn' dymhoraidd fel pe'na buasai dim brys neill- tuol. Ni thai hyn ddim.—Ar faes y frwydr y mae pethau'n parhau yn Red debyg i'r hyn a ddesgrifiwyd uchod, ond y mae llwyredcl buddugoliaeth Rwsia wedi dyfod yn ainlyc- ach. Y mae'n amlwg erbyn hyn mai meth- iant truenus fu'r ymosodiad Almaenaidd di- weddaf, cyn, belled ag y mae dryllio Rvvsia, yn myned. Cydnebydd y gelyn yn awr iddynt golli Prazasnysz, ac nid oes amheuaeth no- chymerodd y Rwsiaid tua deng mil o garchar- orion yn ystod yr wythnos neu'r deng niwr- nod diweddaf.