Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAITR DYDD

NODIADAITR DYDD. Dyqcl Mercher, yr wythnos ddiweddaf, bu farw Arglwydd Rothsclikd, pen y teulu Iddewig enwocaf yn y byd, y mae'n debyg. Heblaw bod yn filiwnydd-a chryn lawer uwchiaw hynny,—ac yn arianwr eiiwog, yr oedd perthynas Arglwydd Rothschild ag ixidewon yr holl i'yd yn un arbenig iawn. Efe, mewn gwirionedd, oedd eu bren;n. Ltifeddu r orsedd a wnaeth, a. dywedir nad oedd ei ddylanwad gymaint ag eiddo ei dad, canys tybid ei fod. yn cyfyngu ei sylw yn ormodol i Iddewiaeth Seisnig. Cyhuddid ef, heblaw hynny, o geisio Seisnigeiddio yr Iddiewo-n, ac nid yw ysbryd goreu yr hen genedl yn dygymod a hynny. -Uriodo,dd rhai o r Rothschilds Gristnogion liefyd',—an ohon- ynt hwy oedd gwraig Arglwydd Roseberry- ac nid yw hynny, ym rnarn y gwir Isradiaid, yn beth i' \V oddef. Amheuir a geir neb i lenwi'r orsedd wag lllWV. Y mae Iddewiaeth fel popeth arall, yn datblygu ar lineilau gwerinol. Bu'r diweddar Arglwydd Rothschild yn Bhyddfrydwr ae mewn cysylltiad agos a Mr. Gladstone, yr hwn a'i gwnaeth yn Arglwydd. Ond aeth drosodd ar gwestiwn Ymreolaeth, ac er nad oedd yn cymeryd rhan amhvg mewn gwleidyddiaeth ers blynyddoedd, iild oedd wahaniaeth rhyngddo hellach a'r Toriaid rhoncaf. Adeg cyITicleblawr 1909 yr ymyr- odd-yn gyhoeddus—ddiweddaf a gwleidydd- ia,r--th, ae un o'r pethau dewraf a, wnaeth Mr. Lloyd George y pryd hynny oedd ymosod yn ffyrnig ar y penclefig Iddewig yn un o'r areith- lau a draddododd yn Llundain. Cyn hynny, yr oedd rhyw fath o draddodiad fod Arglwydd Rothschild uwchiaw beirniadaeth, ond chwal- odd Mr. Lloyd George y traddodiad hwnnw, I fel Ilawei- un arall, i'r pedwar gwynt. Ar 01 y cystwyo cyhoeddus hwnnw, i-ilci ynivrodrl Arglwydd Rothschild mwyach—mewn araeth c:, gyhoeddus, beth bynag. — Y maeamgylchiadau yn newid perfchynas- au dynion a'i gKydd. Yn awr y rnae Mr. Lloyd George yn canmol Arglwydd Roths- child, ac yn dywedyd ei fod, pan dorodd y rliyfel allan, wedi anghofio pob gwahaniaeth b,,i'r n a fu rhyngddynt, ac wedi gosod ei wyb- odaeth ddigyniar am arian a busnes at wasan- aeth ei wlad. Yr oedd o blaid dyblu'r dreth incwm a. chynyddu'r dreth ar incwm mawr er mwyn cyfarfod costau'r rhyfel. Yr oedd, tuedd y Ca.nghe.llor, yn wr o ysbryd cyhoeddus ac y mae ei farw yn awr i I led i'r deyrnas. Y ma8  newid llawer 0 bethau. Y mae rhyfell yn newid 11awer o bet h au. Y mae. oddeutu t7,000 o'r arian a, gasgi- v. yd at amcanion y gwrthryfel Cymreig yn erbyn y Ddedcli Addysg yn aros mewn illaw, ac nid ellir eu defnyddio. Mewn- oyn- hadledd a gynhaliwyd yn y Bala tua, 1902 neu 1903, penderfynwyd nad oedd yr arian i'w defnyddio at dclim ond y gwrthryfel. Y mae'r gwrthryfel bellach ar ben, ac y arian yn segur. Gasglwyd hwy yn symiau bycliam, ac y mae'n debyg y byddai yn amhcsibl eu dychwelyd i'r tanysgrifwyr, canys nid oes gvi'rif am y rhai hynny. Efallai y gellid apelio at y Mysoedd am gniiiatad i'w.defnyddio at amcanion ereill, ond y cwestiwn ydyw—at ba amcanion? Y mae rhai pobi yn meddwl y buasent* yn ddefnyddiol iawn yn y cyfwng yma yn hanes datgysylltiad. Dyddoral fuasai syniad Mr. Lloyd George am hynny. — Y mae cwynion wedi ymddangosmewn ainryw bapurau am na chaniateir i filvvyr Cymreig yn Ffrainc. ysgrifenmi. llythyrau Cyraraeg, ac vjpae. termlacl eryf y dylid rael "censor" yn deail Cyraraeg. Yn y "Gol euad" y rhoddwyd sylw i'r mater yma gyntaL Ond y mae rhai yn oredu yn awr fod yna, Gymro yn swyddfa'r "censor." Ysgrifena. Mr. J. Talwrn Jones, Brymbo, i'r "1\1anched- ter Guardian," i ddywedyd iddo ef gael ;im- ryw lythyrau. Cymraeg oddiwrth filwyr yn Ffrainc. Yr oeddynt, wrth gwrs, wedi eu marcio gan y censor, ac wrth y stamp yr oedd y llythrenau D. J. Y mae'n debyg fod ;hÿ\' Gymro wedi cael ei benocil h. Anheg hollol a'r milwyr Cymreig ac a,'u teulu- oedd a'u cyfeillion oedd ceisio eu gorfodi i ysgrifennu yn Saesneg. —7$.— Y mae can Mr. R. H. Jones yn rhifyn diweddaf y "Goieuad" wedi cyffwrdd teimlad- au lawer. Nid rhyfedd hynny, canys y mae gan Mr. Jones gyffyrddiad tyner a sicr iawn. Daw yr hyn a ddesgrifiodd yn brofiad ymhob ai-dal yng Nghymru gyda, hyn. Eisoes y mae 1 lawer lie yn teimlo a, llawer teu'lu wedi ei fylchio. Am y tro cyntaf yn ein hanes, mewn blynyddoedd diweddar, daw rhyfel yn rhyw- beth byw i bob teulu, a, galluogir ni i sylwedd- oli i ryw raddau ystyr rhyfel i'n cyn-dadau pan ymladdent dros ryddid Cymru ac, y mae'n rhaid addef, dros uchelgais a rhalb eu tywysogion. Adroddir rhai straeon rhyfedd am ysbiwyr yr Alnlaen. Yn agos i bentref bychan ar lan y mor yng Nghymru yr oedd ty, oedd yn eiddo i wr oedd yn byw yn un o drefi Lloegr. Deuai yno yn achlysurol. Rai misoedd yn ol syl- wyd fod goleuni yn ffenestri'r ty ar yr ochr a edrychai tua'r mor, a hynny yn hwyr iawn y nos. Gwnaed ymehwiÜiadau; cafwyd mai Almaenwr oedd y perchenog, a chymerwyd ef i'r ddalfa. Erbyn hyn y mae pob lie i gredu fod un o submarines mwyaf yr Almaen yn yrnyl y lan y noson honno, a, bod y ty wedi ei oleuo fel arwydd iddi hi. Ac eto digwyddodd hyn yn ymyl un o bentrefi tawelaf Cymru. Da gan Gymry ymhobman oedd gweied fod Syr Henry Jones wedi dechreu ymaflyd yn ei waith cyhoeddus unwaith eto a'i fod wedi bod ar ymweliad a. Chymru. Dwfn iawn yw'r lie sydd iddo ef yng nghalon y wlad, a mawr yw ei ddylanwad. Rhyw dair wythnos yn ol ymddangosond ysgrif ddienw ar y diweddar Glan Ctfllen yn "Y Brython." Yr oedd y sawl a'i hysgrifenodd yn ddisgybl i Glan Collen yn yr Ysgol Sul yn Llangernyw gynt, ac nid ydym yn medcLwily byddem ym- hell iawn o'n lie pe mentrem ddywedyd mai Syr Henry Jones oedd yr awdur. Treuliodd Syr Henry Jones y Sul olaf o Fawrth yn ei hen ardal yn Llangernyw, ac fel arfer, aeth i'r Ysgol Sul. Fel y gweilir mewn He arall, aeth i Gymanfa Ganu'r Groglith i Fethesda, ac y mae ei ddyddordeb yn yr Ysgol Sdl a'r Cymanfaoedd yn parhau mor fyw ag erioed. Yr oedd Syr Henry 'l'j hull frodvr yn gerddgar yn y dyddiau gynt, a phan yn fachgen ieuanc byddai ef yn arfer cynal cyf- arfodydd i ddysgu egwyddorion y Tonic Sol-fa i ieuenctyd y cylchoedd. Y mae rhai pobl, pan yn gadael Cymru, yn anghofio eu hen gysylltiadau ac hyd yn.oed eu hiaith. Nid un o'r dosbarth sailw hwnnw ydyw yr Athro '.ewri Athroniaeth1 Foesol ym Mhrifysgol Glasgow. Wrth son am iaith, cofus genym glywed Syr Henry Jones yn dyfod i wrthdarawiad a phorter Seisnig yn un o orsafoedd mwyaf y ffordd haiarn yn sir Gaernarfon. Gofynodd i'r porter yn Gymraeg pi-, bryd y cai dren i Gaer. Gofynodd hwnnw ideE siarad yn Saes- neg. "Oni fedrwch chwi Gymraeg ebe'r athro yn Saesneg. "N a, fedraf," oedd yr ateb. "Then what are you doing in Wales?" meddai'r athro yn sydyn, nesedrych o'r porter mewn braw a syndod. Nid oes rhyw lawer yn areithiau ^rglv^ydd Charles Beresford i egluro ei boblogrwydd mawr. Ond clywsom hanes am Gymro ieuane sydd yn newyddiadurwr yn un o dreft 'Gogledd Lloegr i daflu peth goleuni ar y mater. Bun dilyn cyfarfodydd amryw 0 siaradwyr amlwg y blaid Doriaidd, a claeth i gyffyrddiad a rhai ohonynt ar ddiwedd v cyrddau. Pan ai at ambell un i ofyn am ryw gyfarwyddid neu eglurhad parthed yr hyn a (Mywedodd, cwta, ac oeraidd fyddai ei groeso. Ond un noson bu raid iddo fyned at, Arglwydd Charles Beresford. A dyma'r llongwr yn rhoddi ei fraich am ei ysgwyddau ac yn dywed- yd, "Well,- sonny, what can I do for you?" Ac y mae Charles Beresford yn wr pur bwysig gan y bachgeri hwnnw. Y mae sirioldeh a charedigrwydd yn myned ymhellach na doeth- ineb gwleidyddoil yn ami. —*— Geihv Artifex yn y. "Manchester Guard- ian" sylw at anghysondeb y bobl sydd yn methu dywedyd yn ddigon da am ein milwyr nac yn ddigon drwg am ein veithwyr. Y mae ein milwyr yn ddewr, yn siriol, yn dyner, ae yn wladgar; y mae y dosbarth gweifchiad, yn ol barn y bobl yma. yn hunangar, yn gwbl anwladgar, yn ddiog, ac heb feddwl am tldini ond eu budd eu hunain. Ac eto, medd Artifex, nid yw mwyafrif mawr ein. milwyr ond gweithwyr wedi newid eu gwisg. A ydyw'n bosibl fod y cyfnewidiad alianol hwnnw yn gwneuthur y fath gyfnewidiad mewnol ? Y gwir, wrth gwrs, ydyw nad oes gan y bobl sydd yn .siarad fel hyn unrhyw syniad am -vveithwyr. Y mae yr hyn a ddywedant am y milwyr yn wir; nid yw yr hyn a ddywedant am y gweithwyr yn ddim tebyg i wir. Ond y maent wedi arfer b\vnv'r bai ar y "dosbarth gweithiol" am bob anghaffael, ac am nad yw'r dosbarth gweithiol yn ateb yn oil yn hyglyw iawn y mae'n rhaid, medd y doethion, fod y cyhuddiadau yn wir. Gwiliwn ninnau, yn y cyfwng yma, rhag syrthio i'r un arnryfusedd- Cynrychiolir dau hen deulu Cymreig ym- lilitl-i swyddogion ail fataliwn ar bymtheg y Fusiliers Cymreig. Y cyrnol ydyw yr Anrhydeddus Henry Lloyd Mostyn, brawd Arglwydd Mostyn—un o'r hen deuluoedd svdd o hyd yn ofalus am eu traddodiadau Cymreig ac yn falch o'u tarddiad. Yr ail swyddog ydyw1 Major Evan Bowen Jones, Ynysfor, yntau yn tarddu o un o deuluoedd hynaf Meirion, ac yn Gymro trwyadl. Ni theimlwn fod angen chmyd, fel y gwna, rhai o'r papurau Saesneg, ei fod yn medru Gym- raeg. Beth a. feddylid pe dywedid fod dyn yn Sais trwyadl ac yn medru siarad yr iaith? Cvmry yw'r oil, oddigerth dau, o swyddog- ion y gatrawd hon. —*— Dcliwedd yr wythnos bu farw'r Parch. D. Rhagfyr Jones, gweinidog eglwys Annibynol Bethania, Treorci, yn 57 rnlwyddoed. Brod- or o Ddolgellau oedd Mr. Jones, ac er nad oedd mor adnabyddus ag ambell un, yr oedd ganddo ddawn 'lenyddol ymhell y fcuhwnt i'r cyffredin. Ni wvddom ond am dri llyfr 0'; eiddo, se' l "I'r Aifft ac yn 01," "Dafydd Owen a.c Ereill," a'r "Lioffi Fach." Cred- wn mai'r diweddaf yw'r goreu, ac yn wir, y mae'n llyfr rhagorol iawn. Y ma,e'n -,Ilawri. darluniau o gymeriadau na, cheir yn ami eu swell, ac wedi ei ysgrifennu mewn arddull ystwyth a, chain. Am rvw reswm neu gilydd ni ehafoddy sylw a haeddai-ond dyna ffawd ami i lyfr tebyg, hyd yn oed yn y blynyddoedd byn pan y mae cymaint o siarad am lenydd iaeth Oymru.

II Y CAN MIL

'II Y CAN, MIL." Can' mil o fechgyn glanaf ein gwlad Glywsant yr alwad, aethant i'r gad; Nid hawl ymherodraeth a'i rhwysg, hyfaleh had, Gewynog ogonedd" eniHodd eu bryd: Glew yspryd y tadau, o'i hir esmwyth hun, Ddeffrodd .yng nghalonnau y bechgyn bob ur <0 faes, c fynydd, 0 gwmwd, a gwaen, Clywaf y canmil yn ymdaith ymlaen. Can' mil o fechgyn glanaf ein gwlad, Glywsant am anrhaith. brynt-waith a brad; Yn foreu fe'u dysgwyd ar aéwyd ddinam, Ac ysgol, a chapel, i atal bob cam. Ar all or dyledswydd yn. ebyrth byw, glte, Dan ganu emynau, wynebant y tan; o faes, o fynydd, o gwmwd, a gwaen, Clywaf y canmil yn ymdaith ymlaen. ,,Can' mil 0 fechgyn glanaf ein gwlad, Rhuthrant i'r adwy dros obaith yr had, Dros^iawliau dyiioliaeth pob cenedl i fyw, \5Thros egwyddorion Cyfiawnder, a Duw, Dros ddelfryd tangnefedd, ac angel pob oes, Ymdyrrant dan faner y Ddraig Goch a'r Groes; o faes, o fynydd, o gwmwd, a gwaen, Clywaf y canmil yn ymdaith ymlaen. Can* mil o fechgyn glanaf ein gwlad, Glywsant yr alwad, aethant i'r gad. Heddyw mae Rhyddid yn rhwym wrth y cledd, A Chariad yn alltud, a Grym ar ei sedd. A fydd lawnder farw? Mae Duw yn ddi-dranc, !A gwawr adgyfodiad yn llygad pob Ilanc; O faes, o fynydd, 0 gwmwd, a gw aen, Clywaf y canmil yn ymdaith ymlaen. Caernarfon. GWYNFOK.