Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
No title

AR Y MOR. Cyn troi i roddi cryrihodeb o ddigwyddiadau milwrql yr wythnos efallai y byddai'n briodol i ni gyfeirio at y safle ar y mor. Tueddwn i anghofio honno weithiau, ac i siarad, pan yn son am ran y wlad hon yn y brwydro, fel pe na buasai genym ddim i'w wneud ond vmladd yn Ffrainc a Gallipoli. Y gwir yw rrai cad- ernid ein llynges sy'n gwneuthur yr ymladd yn y naill Ie a'r Hall yn bosibl. Oni buasai am y llongau na byddwn byth yn clywed son am danynt, ae na wyddom ym mha, le y maent buasai'r gelyn wedi glanio yn ein gwlad, yn. tynu ei holl adnoddau angenrheidiol o wled- ydd tros y mor, wedi difetha glannau Ffrainc ae, a siarad yn ddynol, yn anorchfygol. Fel y mae pethau y rnae cylch haiarn am dano ac nid oes un o'i longau yn hwylio'r .-efntor. Dywed rhai pobl yn awr fod yr Almaen wedi crvfhau Ilawei- iawn ar ei llynges yn ystod y misoedd diweddaf, ac y bydd iddi dclyfod allan cyn bo hir. Fe all hynny fod yn wir, ond ni (idylid siarad fel pe na baem ninnau wedi cryf- hau ein llynges. hefyd. Y mae'n ddigon gwybyddus ein bod wedi gwneuthur hynny, He y mae 'lie i gredu ein bod yn gryfach yn ol yr herwydd yn awr nag ericed. Mewn un- rhyw gyfrif a wneh- o'r rhyfel wedi yn agos i flwyddyn fyned heibio, nid all neb anwyb- vddu yr hyn a wnneth ein llynges orddo.'ii. A phan ddeuir i edrych i mewn i'r unig ddull v gall yr Almaen ymladd ar y mor yn awr, sef trwy suddo 'llongau masnach yn ddirybudd gyda'i submarines, nid vw'r golled ngos gymaint as y gellid tybio. Y mae Mr. Archibald Hurd wedi rhoi manylion dyddorol iawn am hyn. Y mae bellach chwe' mis ers pan ddechreuodd y gelyn ar y cynllun llof- ruddiog hwn gyda'r amcan penodol o Iwgu Prydain ac o suddo pob Hong Brydeinig fel na fentrai yr un fvned i mewn nac allan o'u porthladdoedd. Beth vNvr canlyniad? Nid yw Prydain wedi ei llwgu, ac y mae'n llongau yn hwylio yn ol a blaen o byd. Yn ystod y Hiwe' mis hwvlicdd a chyrhaeddodd 31,385 o longau. Suddwvd 98' o longau masnach Prydeinig, neu 0.31 y cant o'r cyfanswm, Llofruddiwvd 505 o'u dwvlaw (ni chyfrifir y "Lusitania"), a suddwvd 95 o longau gwled- ydd amhleidiol. Dyna'r ffigyrau a rydd Mr. Hurd, a dyna'r ffigyrau swyddogol, fel Had oes amheuaeth am eu cywirdeb. Geilw sylw, hefyd, at y ffaith fod yr holl longau wedi cu hvswirio fel nad yw perchenogion llongau yn dioddef. Fel mater o ffaith y mae busnesar y mor yn dda iawn ar hyn o bryd—diolch i'n llynges-ac y mae'r llongau, medd Mr. Hurd, yn worth tu a dwywaith yr hyn oeddynt cyn y rhyfel. Yn ol Ehestr Lloyd's yr oedd 442 o longau, cyfanswm o 1,506,925 o dunelli, yn cael ei hadeiladu mewn ierdydd Prydeimg ddiwedd Mehefm, ar wahan i longau rhyfel. Fellv, medd Mr. Hurd, ar un llaw y mae tniliwn a. haner o dunelli vn cael eu hadedadu, ac ar y ¡]Jaw ai all llwyddodd y gelyn mewn chwe' mis i suddo ychydig yn llai na, 21,200 Y mae'r ffigyrau yn darawiadol iawn. Y mae'n ddigon amlwg oddiwrth hyn mai mefch- iant truenus ydyw'r ymgvrch yma, o eiddo'r gelyn hyd yn oed cyn belled ag y mae colledu ein llongau yn myned. Y mae'n debyg nad oes ond amser a ddengys faint o fethiant ydyw ynglyn a gwledydd amhleidiol, ond sicr yw mai dyma un o'r camgymeriadau gwaethaf a, wnaeth yr Almaen er dechreu y rhyfel.

No title

YR AMERICA. .0. 1 Y mae r Unol Ualaethau we(ii ateo noayn yr Almaen ar v "Lusitania," ac wedi ei ateb mewn ffordd sy'n profi fod Dr. Wilson, er yn ochelgar ac yn bwyllog, yn wr cryf ac anhyblyg yn y pen draw. Y mae'n gwrthod cychwyn trafodaeth ynghyleh po-lisi Prydain, ac yn gwrthod vn bendant gynyg sarhaus yr Almaen y bvddai iddi beidio suddo llongau Americanaidd ond iddi gael sicrwvdd nad oedd ddim gwaharddedig arnynt ac iddynt, idwyn rhyw arwyddion arbenig. Dywed fod ym- ddygiad yr Almaen yn drosedd anfaddeuol yn erbyn cenhedloedd amhleidiol, ac y mae'n pwyso am gadw hawliau gwledydd anrnhleid- vol yn fanwl. Wedvn diw'r geiriiti, difrifol. Oy"eitliwn hwynt air am air: "Y mae hwn yn fater difrifol. Y mae cyfeillgarwch ei linn yn gorfodi Llywodraeth yr Unol Dal- aethau i hysbysu y Llywodraeth Ymherodrol yr ystyrir ail-adroddiad o weithredoedd sy'n groes i hawliau gwledydd amhleidiol gan longau rhyfel Almaenaidd, pan yn cyffwrdd a dinasyddion Americanaidd, fel ymddygiad ?iewn sydd yn fwriadol anghyfeillgar." Mewn trafodaeth rhwng llywodraeth un wlad a llyw- odraeth gwlad arall y mae ystyr arbenig i'r gair "anghyfeillgar," ac ystyrir y nodyn Americanaidd yn gyfystyr a rhybudd tedynol i'r Almaen. Os anwybyddir. ef, golyga y bydd i bob perthynas ddiplomataidd rhwng y ddwy wlad beidio. Cymeradwyir y nodyn gan yr holl bapurau Americanaidd, ac y mae'r wasg Almaenaidd yn chwerw iawn. juywed- ant yn awr nad yw'r America yn amhleidiol ond mewn enw yn unig. Y mae'n amhosibl dywedyd beth a ddigwydd, ond ni ryfeddem weled yr Almaen yn penderfynu anwybyddu'r Talaethau a'u herio i gyhoeddi rhyfel. Yn wir, y mae fel pe wedi penderfynu gwneud hynnv, canys ddydd Mawrth hysbyswyd eLl bod wedi suddo Hong Americanaidd arall.

No title

RWSIA. Ofnwn mai drwg yw'r safle yn Rwsia. Y mae'r gelyn ers wythnos yn agoshau yn raddol at Warsaw o'r de a'r gogledd, a phan yr ydym yn ysgrifennu y mae wedi cyrhaedd rhai o'r amddiffynfeydd allanol. CyTi belled ag y gellir gwybod, y mae gan Awstria a'r Almaen tua dwy filinvii o filwyr yn gweithredu ar y maes yma, ac y mae'n amlwg eu bod wedi penderfynu dryllio byddinoedd Rwsia yn ogystal a ehymeryd Warsaw. Ni raid i ni alw sylw at ddifrifwch ein sefyllfa ni a Ffrainc pe llwyddent yn eu hamcan, ond yn ffodus y mae'n amheus a wnant. Gall Warsaw gwympo, er nad yw hynny o lawer yn sicr, ond credwn y gall y Grand Duke achub ei fyddinoedd, ac os gwna hynny, buddugoliaeth waglyddai hyd yn oed enill Warsaw i'r gelyn. Ar hyn o bryd y mae ymosodiad y byddinoedd Almaenaidd wedi arafu cryn lawer; y mae'r wlad y rnaent yn symud trwyddi yn ddyrus iawn, yn llawn corsydd a choedwigoedd, ac y mae'r Ewsiaid yn gwrthwynebu gyda 1)hen- derfvniad mawr. Mewn mwv nag un lie bu raid i'r gelyn sefyll, ac yn y de gorfodwyd ef i gi-lio ychydig yn ol, ond y mae'n amhosibl i ni, gyda'r wybodaeth sydd genym, bender- fynu a ydyw hyn yn gwneud rhywbeth mwy na gohirio'r dydd drwg. Dibynna'r all, y mae'n debyg, ar arfau y Rvvsiaic1, canys nid oes arnynt hwy unrhyw brinder dynion. Y mae'n wybyddus eu bod, ychydig wythnosau yn ol, yn ddiffygiol iawn mewn ergydion i "N gynnau mawr, a'r cwestiwn ydyw a ydynt yn well yn awr pan y mae porthladd Archangel yn agored? Os ydynt gellir gobeithio y bydd iddynt droi'r llanw yma yn ol eto; os nad ydynt, y cwbl y gellir ei ddisgwyl ydyw y hydd iddynt dynnu eu byddinoedd yn ol yn llwyddianus a gadael Warsaw i'r gelyn. •sV

No title

CANLYNIADAU. Nid hawdd, ychwaith, yw rhagweled can- lyniadau yr ymgyrch yn erbyn Warsaw. Hawdd fuasai tybio mai un o'i '.ffeithiau cyntaf fuasai peri i wledydd fel Rumania a Bwlgaria benderfynu o blaid parhau yn am- hleidiol, ond nid oes sicrwvdd am hynny. Cyn helled ag y gwyddom ni nid oes unrhyw arwydd eto fod y gwledydd hyn yn dyfod i'r frwvdr. Pe deuent o'n hoclir ni y mae'n clehyg y byddai i Rumania daro Awstria ac i Bwlgaria daro Twrci, a gallai hynny wneuthur mwy na dim arall i brysuro terfyn y rhyfel. Yr hyn sy'n tueddu dyn i feddwl y gall yr hyn a ddywedir am gyd-ddealltwriaeth rhyg- om ni a Eumania fed yn wir ydyw pender- fyniad y wlad honno i atal i'r Almaen anfon arfau rhyfel i Twrci trwyddi. Pery'r son o hyd fod y Twrc yn fyrr o ergydion, ond hyd yn hyn nid oes arwydd fod: ei wrthwynebiad yn Gallipoli yn gwanhau fawr. Y mae rhai Eidalwvr yn credu y dylai Itali anfon bydd in vno i gydweitbredu a'r Prydeinwvr a'r Ffrl,,it-icod, a'ti hwy o blaid hynny vJyw y byddai i laniad byddin yn Gallipoli brysuro (Modiad Bwlgaria. i'r maes. Ond y mae'n rhaid bod yn wyliadwrus., Y mae Twrci wedi trosglwyddo rhyw ddarn o Facedonia i Bwlgaria yn ystod y dyddiau diweddaf. Nid ymdclengys fod neb o'r tu allan yn gwybod ystyr hyn, ond y mae'n peri anesmwythid ym meddyliau rhai pobl. Yr oedd yn ddealledig nad ymunai cenhedloedd y Balkan yn y rhyfel ar y naill ochr na'r llall hyd nes y byddai'r cvnhaeaf drosedd. Y mae bron drosodd erbyn hyn, a'r peth cyntaf i ddigwydd ydyw rhyw gytundeb rhwng Twrci a Bwlgaria. Yn y cyfamser y mac Itali yn gwneud yn dda yn erbvn gwrthwynebiad penderfynol iawn, ac ni ryfeddem glywed unrhyw ddiwrnod yn awr eu bod wedi. meddianu Gorizia. Ell hamcan mawr ar hyn o bryd ydyw gwneuthur ou safle yn nhiriogaeth Awstria yn ddiogel. 1 mae eu terfyn hwy eu hunain yn un amhosibl ei amddiffyn yn llwyddianus. Oherwydd hYllny y maent wedi meddianu'r lleoedd manteisiol yn nhiriogaeth y gelyn a byddant gyda hyn wedi eu sefydlu ar iinell nad ellir ei throi. $^

No title

YN FFRAINC, 1. Y mae' r ymladd yn Ewsia wedi Lulu r ymladd yn Ffrainc i'r cysgod, ac fel mater o ffaith nid oes llawer i'w ddywedyd am dano. Gwneir rhai ymosodiad.au gan y naill oclir llall, ond i bob pwrpas y mae'r byddinoedd wedi arcs yn eu hunfan ar hyd yr wythnos. Credwn fod peth tuedd i gwyno oherwydd livn. yn Ewsia; teimlir yno y gallasai Ffrainc a Phrydain ysgafnhau'r pwysau arni hi trwy wneuthur ymosodiad mawr yn v Gorllewin. Ni wyddom paham na wnaed hynny, ond y mae'n ddiau fod rheswm digonol. Y mae gan yr Almaen linellau tair milltir o yn Ffrainc, ac nid gwaith hawdd: yw torri trwyddynt. Ni wyddom a yw ein cliriygion mewn "high explosives" wedi eu cyflawni eto, ond y mae'n debyg fod pethau yn llawer gwell nag y buont. Clywir cwynion weith- iau, hefyd, nad yw'r adroddiadau swyddogol a gawn o Ffrainc yn y wlad hon yn ddigon llawn nac yn ddigon agored. Prun byaag am hynny, y mae teimlar1 y dylid gwneud rhyw hvsbysiadi ar yr un llinellau a cherwd- wriau mawrion Syr John French yn arnlach.

No title

COLLEDION. Dclvdd Mercher yr wythnos hon yr oedd yn ben blwydd cyhoeddi rhyfel gan Aw stria- Hungari ar Serbia, a chyn pen yr wythnos yr oedd Rwsia, yr Almaen, Ffrainc, Belgium, a Phrydain wedi myned i mewn i'r rhyfel yn y drefn y'u henwir uchod. Awst y pedwerydd, fel y cofir, oedd y diwrnod y cyhoeddodd Pryd- I i y 'r Cyffredill, ain ryfel ar yr Almaen. Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd Mawrth diweddaf, cytlwynodd Mr. Asquith ystadegau am y colledion Prydeinig ar for a thir, yn Ffrainc, Belgium, ac yn y trefedigaethau, yn ystod y flwyddyn. Y mae'r ffigyrau a roddir yn cynwys y rhai a laddwyd, a glwyfwyd, ac a gymerwyd yn wael. Yr oedd ein eolledion ar v mor hyd Orffenaf 20 yn 9,10G o ddynion, heb. gyfrif, wrth gwrs., y bywydau a gollwyd ar longau masnach a suddwyd. Yn Ffrainc, hyd Orffenaf 18. collwvd 266,903 Or ddynion. Yu y Dardanelles, gan gynwys yr adran lyng- esol, collwyd 49,238; ac mewn rhanau ereiil o'r maes, heb gyfrif South West Affrica, coll- wyd 5,748 o ddynion. Cyrhaedda'r cyfan- swm niilwrol 321,889 o ddynion, ac o ych- wanegu eolledion y llynges atynt, ceir y rhif anferth o 330,995. Ond er mor erchyll yw'r cyfanswm yma, y mae-'n rhaid ei ystyried yng ngoleuni yr hyn a ddywedodd y Prif Wein- idog o'r blaen, sef fod tua 60 y cant o'r olwyf- edigion a'r cleifion yn gwella ac yn alluog i ddychwelyd i faes y frwydr. Pan yn myned i'r wasg nicJr oes fawr ddim. newydd i'w dflywedyd ,,iTi-i y sefyllfa yn y Dwyrain. Y mae'r frwyclr am Warsaw yn myned ymlaeri llawn ffyrniced ag erioed, ac y er fod y gelyn yn symud rhyw ychydig yn ei flaen, araf iawn yw ei gynydd erbyn hyn. Y mae'r Rwsiaid yn ymladd gyda dewrder ang- hyffredin, ac v mae rhai gwyr cyfarwydd yn tueddu i fod braidd yn fwy gobeidliol nnl y. safle erbyn hyn. Y mae'n bosibl y bydd ein darllenwyr yn gwybod llawer mwv nag a wyddom ni yn awr cyn y bydd y geiriau hyn- yn cael eu darllen.