Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
No title

KITCHENER. Y mae'n debyg mai'r digwyddiad a barodd fwyaf o siarad yn ystod yr aruser a, basiodd ers pan ysgrifenasom o'r blaen ydyw'r cyf- newidiad a ddigwyddodd yn hanes Arglwydd Kitchener. Duiwedd yr wythnos hysbysodd rhai o bapurau Llundain yn bendant ei fod wedi ymddiswyddo. Gwadwyd hynny yr un mor bendant gan yr awdurdodau, ond nid oedd hynny yn ddigon gan y "Globe, un o'r papur- au sydd wedi bod yn ymoscd yn haerllug ar y Jjlywcdraeth ers misoedd. Haerodd iod yr hyn a ddywedoddam Kitchener yn wir. i can- 'lyniad oedd i'r awdurdodau ddisgyn ar swydd- fa'r "G'lobe" ddydd Sadwrn, dan awdurdod Deddf Amddiffyn y Deyrnas, uieddianu yr hall bapurau oedd heb eu dosbarthu, a. chymeryd rhannau o'r peiriannau yrnaith fel nad eiiir :argraffu yellwaiieg. Cawn ddychwelyd at y mater yna eto; ag Arglwydd Kitchener y mae a, fynom yn awr. Ddydd Sul cyhoeddwyd hysbysiad swyddogol fod yr Ysgrifenydd Rhyfel wedi cychwyn i'r Dwyrain. Teill hyn oleuni ar y ewbl-ar ei ymweliad a'r Brenin, ar ei .absenc'ldeb o'r Swyddfa Ryfel, ac ar y ffaith fod Mr. Asquith yn gwneud ei waith yn ei le. Y pethau hyn, acawydd i ddrygu'r Llywodraeth, a barodd i'r "Globe," y mae'n debyg, feddwl fod Arglwydd Kitchener wedi ymddiswyddo. Y gwir ydyw fod gwaith trefniadol y Swyddfa Ryfel yn awr yn myned yn ei bwysau, ac y mae'n hawdd meddwl, gan fod Arglwydd Derby yn gofalu am yr ym- .restru, y gall Arglwydd Kitchener fod yn fwy defnycldiöl mewn maes arall. Ond y mae'n myned i'r Dwyrain-i Serbia, Gallipoli, neu yr Aifft-fel Ysgrifenydd Rhyfel Prydain, ac nid oes ritbyn o sail dros ddywedyd ei fod wedi ymddiswyddo. Y mae'r ffaith ei fod wedi myned i'r Dwyrain yn dangos y pwys mawr a rydd y Llywodraeth ar y rhan hwnnw o'r maes, ac y mae'r dybiaeth yn cryfhau bob dydd y byddai llesteirio bwriadau yr Almaen yn y cyfeiriad hwn yn gyfystyr—yn ymarferol -ag enÜly rhyfel. J- J. J.

No title

-y- -I- Y WASG. "'f- 'f" Y mae'n debyg iawn na chyhoeddasid dim am vmadawiad Arglwydd Kitchener onibuasai i'r "Globe" ruthro i gyhoeddi casgliadau byr- bwyll ac anghywir, "er mwyn lies y cyhoedd, ebe'r papur hwnnw. Y g\yir ydyw y mae rhyw gyfran o'r wasg Seisnig wedi bod wrthi ers misoedd yn ceisio drygu'r Weinyddiaeth ac yn ceisio gwueud: dwyn y rhyfel ymlaert ym mhob ffordd ond yn ol rhyw fympwy o'r eidd- ynt hwy, yn amhosibl. Gallasai pob newydd- iadurwr profiadol feddwl nad oedd angen hys- bysebu 11a wer ar symudiadau Arglwydd Kitchener; gwyddai pawb, beth bynag, nad oedd dim lies i'r cyhoedd i'w gyrhaedd trwy eu hysbysebu. Nid yw'n amhosibl nad yw cyhoeddi ei symudiadau fel hyn wedi bod o beth cymorth i'r gelyn. Prim bynag am hynny, cyfyd holl gwestiwn rhyddid y wasg. Y mae y rhyddid. hwnnw, fel pob rhyddid arall, wedi et gwtogi yn fawr yn amser rhyfel, ond yr hyn sydd yn synnu liawer ohoeom I N- e r o l io,rc,,m ydyw fod rliai papurau wedi bod yn llawer mwy dibris na'i gilydd am ddoethineb yr hyn a gyhoeddid ganddynt ac am les y deyrnas. Y mae, rhai pobl yn galw yn uchel am ddelio a'r papurau hyn ers misoedd, ond nid peth i'w aberthu ar chwareu bach ydyw rhyddid y yvasg. TTnwaith y caiff swyddogion flas ar ata'l papurau bydd yn lleel anodd tynu'r llinell. 'Tybia. Ilawer mai trwy'r llyscedd gwladol, ac nid trwy gyfraitb filwrol, y dylid gweithredu mewn achos fel hwn. Ond y mae'n rhaid cael doethineb gyda beirniadaeth. Y peth jsvdd yn oll-bwysig 1: ni yn awr ydyw c,iiill y' rhyfel, ac ni ellir goddef i genfigen a inalai-s rrfAn-b",eldwyr wneuthur dim i lesteirio yr amcan hwnnw. Gall yr hyn nad yw ond ynfyd yn amser heddwTch fod yn beryglus yn amser rhyfel, a chredwn fod haerllugrwydd rhan o'r wasg Seisnig eisoes wedi gwneuthur drwg mawr i'n hachos ar v Cyfandir. Gwydd- tom ni yma faint o hwys i'w roddi ar y papur- au' hynny a deallwn eu hamcanion. ond nid ellir disgwyl i"r Ffrancod a'r Rwsiaid eu deall cystal. Y gwir vdyw. codant galon ein gelyn- ion a chreant ddrwffdybiaeth tuag atom ym mynwesau ein cyfeillion.

No title

YR UNOL DALAETHAU. Peth na ddylem ei ddibrisio mewn modd yn y byd ydyw nodyn yr Unol Dalaethau i Lyw- odraeth Prydain yn protestio yn erbyn ein dull o drin masnach ar y mor. Cwynion y Tal- aethau ydwy fod llongau Americanaidd yn cael eu hatal yn ddiachos a'u gorfodi i fyned borthladdoedd er mwyn eu chwilio pan nad oes resymau digonol dros hynny; fod ein blocad yn aneffeithiol; nad yw ein llysoedd yn foddhaol a'n bod wedi tori y ddeddf ryng- genedlaethol amryw weithiau. Y mae'r protest yn un penderfynol ac y mae'n ddiameu ei fod yn adlewyrchu teimlad cryf mewn cylchoedd masnachol yn yr America. A chan y bydd ein perthynas fasnachol a'r America yn bwysig iawn pan elo'r rhyfel heibio, y mae'n rhaid i ninnau gymeryd y nodyn o ddifrif. Nid, yw yr hyn a, ddywedir am an- effeithiolrwydd y blocad yn hollol anisgwyl- iadwy, cainys y mae'n rhaid cofio fod amgylch- iadau'r gwledydd wedi n'ewid yn fawr iawn ers pan fu y fath gynllun mewn gweithrediad o'r blaen. Cyn i'r ffyrdd haiarn groesi'r gwled- ydd yr oedd yn rhaid eludoWnwyddau i borth- laddoedd y wlad y bwriedid hwynt iddi; erbyn beddyw y mae Holland, Denmarc, ac hyd yn oed Sweden, yn gystal rhannau o'r Almaen i'r pwrpas hwn a Hamburg ei 'hun. Nid hawdd iawn yw barnu y teimlad yn yr America ar y pwynt, ond gwelwn fod un papur yn rhybudd- io Dr. Wilson ar iddo fod yn ofalus am beidio defnyddio geiriau cryfio-n iawn am golli eiddo tra y bydd ei eiriau cryfion i'r Almaen am golli bywydau yn aros heb eu hateb. •sk>

No title

«Sp» Y YN, Y DWYRAIN. GeYir crynhci y safle yn Serbia i ychydig froddegau. Y mae'r Almaeniaid yn symud ymlaen o'r gogledd ac y mae'r Bwlgariaid yn symud ymlaen o'r dwyrain a'r de. Llwydd- asant i gymeryd Nish, prif ddinas bresenol Serbia, ac y mae'n eglur eu bod yn ceisio atal byddin Serbia rhag medru encilio tros y ffin i Montenegro. Y mae yn gyfyng lawn ar Serbia, ar cwestiwn ydyw a all Ffrainc a Phrydain ei chynorthwyo cyn difodi ei byddin. Yr wythnos ddiweddaf erii'ilodd y Serbiaid a'r Ffrancod fuddugoliaeth sylweddol yn y de, ond ni wyddis hyd yn hyn a oes gan y cyng- rhciriaid ddigon o fyddin yno i wneuthur v gwaith yn iawn. Bellach, wedi cymeryd Nish, y mae gan yr Almaeniaid ddwy ffordd haiarn i Gaercystenyn. Nid yw yn bosibl. y gallent ddechreu cludo gynnau mawr ar hyd- ddynt yn awr, ond gwnant hynny, gellir bod yn sicr, cyn bo hir os nad allwn eu rhwystro, a defnyddir yr arfau hynny yn erbyn ein byddin yn Gallipoli. Dibynna hyny ar weith- rediadau Ffrainc a Phrydain ym Macedonia. Y mae perygl arall yn -dyfod i'r golwg hefyd. Y mae Awstria yn ymosod ar Montenegro, a phe llwyddai i crchfygu byddin y wlad honno ni byddai llawer rhyngddi wedyn ag ymuno a'r Bwlgariaid yn neheudir Serbia ac am- gylchynu byddin y Serbiaid. Y mae'r safle yn un hynod bwysig. Pe'r enillai yr Almaen yn y fan hyn fel yr enillodd Belgium a Pho- land byddai yn anodd iawn cyrhaedd ati mewn unrhyw fan. Fel y dywed un newyddiadur, datblygai y rhyfel yn ladd diamcan a cheisiai yr Almaen heddwch. ar delerau ffafriol iddi ei hun. Gallai adael Twrci a Bwlgaria i ofalu am y dwyrain. Buasai Serbia wedi peidio a bod, a buasai Rumania a Groeg yn dawel. Dylem sylweddoli nad oes ddim tebygrwydd ar hyn o bryd, y daw Groeg i fewn o'n tu. Y mae'n wir i Venizelos lwyddo i orchfygu'r llywodraeth yn y Senedd, ond cafodd y Brenin Brif Weinidog newydd. Y gwir vdyw nad oes yn Groeg, hyd y gallwn weled, unrhyw frwdfrydedd o blaid myned i ryfel. 'Efallai y daw i me,wn eto, ond nid yn fuan. sfc jfc iji

No title

HEDDWCH. Ni fynnem roddi golws1 dvwyll .ar bethau yn y Dwyrain, ond ychydig iawn a wyddom eto am ein cvn-lluniau ein hunain yno, ac y mae'n rhaid i ni sylfaenu ein damcaniaethau ar yr hyn a. wna,'r gelyn. Credwn fod yr Almaen yn rhoddi poh egTIi ar waith yn awr i'w gosod ei hun: yn y fath safle fel y gall son am heddwch cvn bo hir-heddweh fiT ei theler- au ei hun, dealler. Y mae lie i dybio fod am- gylchiadau arianol a masnachol y wlad yn ddrwg iawn; dywed y rhai a ddylai fod yn' gwybod fod bwyd yn yr Almaen wedi cyrhaedd prisiau anhygoel, ac nad all ond y cyfoethog gael cig o gwbl. Y mae ymenyn yn ymyl pedwar swllt y pwys yno. Os yw y pethau hyn yn wir, fel y mae lle i gredu eu bod, v. mae'n rhaid fod Germani yn gweled nad all fyned yinlaen gyda'r rhyfel lawer yn hwy ac y mae'n naturiol iddi geisio gwneud. heddwch pan yn anterth ei llwyddiant milwrol. Hedd- wch fydd hwnnw, cofier, a adawa'r Almaen yn gryfach nag erioed ac eithrio mewn arian, heddwch heb dalu yr un geiniog o iawn i Bel- gium nac i'r un wlad arall, ac heddwch, efall- ai, yn gadael rhyw ran o'r diriogaeth aysbeil- icdd yn nwylaw'r Almaen. Nid ydym yn meddwl fod yr un o'r cyngrheiriaid yn barod i dderbyn heddwch felly, ond y mae'n berygl i'r Almaen fedru dylanwadu ar y gwledydd amhleidiol sydd yn dioddef yn eu masnach oherwydd y rhyfel a'u cael i gytuno i ofyn am heddwch yn awr. Ond ymddengys i ni mai anffawd ddifrifol fyddai hynny. Ofer fuasai yr holl fywydau a gollwyd a,'r holl arian a wariwyd os yw'r Almaen i gael heddwch ar ei thelerau ei hun. jfc ck

No title

T T T AR LED. Nid oes ond ychydig sydd yn newydd i'w ddy wedyd am Rwsia a Ffrainc, ac efallai mai mwy dyddorol am dro fyddai troi i feysydd ereill. Y mae dwy stori i'w hadrodd am y Sudd-longau. Yn y Mor Canoldir ac yn yr Aegean y mae sudd-longau y gelyn yn peri eryn lawer o drafferth i ni. Suddasant un o'n llongau bychain y dydd o'r blaen ac fe wyddis eu bod wedi suddo rhai o'n llongau oedd yn cludo milwyr. Y mae hyn yn bwysicach nag y gellid tybio ar yr olwg gyntaf, canys y mae cynorthwy ein llynges yn hanfodol i'n gweith- rediadau ym Macedonia, ac yn Gallipoli. Y mae'n rhyfedd genym os nad ellid dyfeisio rhyw gynllun i rwystro'r sudd-longau hyn rhag myned trwy gulfor Gibralter. Yn y Baltic y mae'r stori yn wahanol. Yno y mae'n sudd-longau ni yn brysur ac yn llwydd- ianus. Ddydd Mawrth hysbyswyd fod un ohonynt wedi suddo'r "Undine," un o longau rhyfel yr Almaen; y mae'n debyg mai dyma'r drydedd long ryfel a gollcdd yr Almaen trwy'r mcddion hyn yn y Baltic.—Byddai'n eithaf peth i ni gadw ein golwg ar welthredia-dau ein byddin ym Mesopotamia hefyd. Gwyddis erbyn hyn mai amcan y fyddin Dyrcaidd yn y rhan honno o'r byd oedd gweithredu yn erbyn yr India, ond bellach y mae'r breuddwyd hwnnw wedi ei chwalu. Y mae gweithred- iadau ein byddin ni ym Mesopotamia wedi bod yn hynod lwyddianus ac y mae'n debyg ei bod bellach yn agoshau at Bagdad, os nad yw eisoes wedi cymeryd y ddinas honno. Ceisia'r papurau Almaenaidd ddywedyd na. byddai un- rhyw bwysigrwydd milwrol yn hynny, ond cydnabyddant ar yr un pryd y byddai yr effaith yn y dwyrain yn fawr iawn. Ac y mae'n ddiameu y byddai. -A- -U

No title

-i- S' Sf- DIWEDDARAF. Ncs Fawrth, yng ngwledd flynyddol Arglwydd Faer Llundain, gwnaed rhai areith- iau pwysig, yn enwedig gan y Prif Weinidog a, Mr. Balfour. Cymerai Mr. Balfour olwg pur obeithiol ar bethau, er ei fod ifn cydnabod ac yn pwysleisio yr anhawsterau mawr sydd ar ffordd y cyngrheiriaid. Dywedodd fod ein hadnoddau mewn dynion ac mewn arfau yn myned ar gynydd parhaus. Yr oedd yr Almaen wedi llwyddo i gael Bwlgaria i ymuno a hi ond gwadai mai i ddiffyg ein diplomydd- iaeth ni yr oedd priodoli hynny. Yn hytrach liiaib ac ofn Bwlgaria oedd yn gyfrifol am y peth. Edrychai ef ymlaen gydag hyder tawel at y diwedd. Yr oedd ganddo ef a Mr. Asquith rai pethau chwerw i'w dywedyd am adran o'r wasg sydd, fel yr honnant hwy, wedi calonogi'r gelyn ac wedi argyhoeddi rhai gwledydd amhleidiol ein bod yn myned i golli Soniodd Mr. Asquith am neges Arglwydd Kitchener a phwysleisiodd y ffaith fod y cyng- rheiriaid yn unedig, ac yn sefyll neu syrthio gvda'i gilydd. Wfftiodd y siarad am hedd- wch cynamserol, a dywedodd na cheid hedd- weh hyd nes y byddai y gelyn wedi ei drechu. —Parhau yn ddrwg y mae'r newyddion o Serbia. pan ydym yn myned i'r wasg,