Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAUR DYDD

NODIADAU'R DYDD. Ni bydd moratorium ar renti y rliai sy'n ymuno a'r fyddin. o fawr werth os wynebir y ffiilwr, pan ddychwel, a baich anobeithiol o ddyled. Nid hawdd fydd taro ar gynllun. —jjc— Clywsom un cerddor Cymreig yn rhoddi'r flaencriaeth i'r "Marseillaise" ar "Ymdaith Gwyr Harlech," am fod mwy o'r lleddf yn Y gyntaf. Nid y lleddf sy'n rhcddi gwerth ar aiaw rhyfel, a chamgymeriad dybryd yw tybio fod y lleddf yn nodwedd arbenig yn y cymer- iad Cymreig. Y mae Gwyr Harlech" yn dywedyd wrthym sut rai oedd ein tadau rhy- felgar yn well nag unrhyw ddyfaliadau a darn- caniaethau heddyw. Yn y "Cerddor" am fis Tachwedd difynnir y paragraff a ganlyn o'r "Musical Opinion" am y "Marseidaise" :—"All the push in the world will not alter the fact that it is an un- equal piece of work. Its first few bars are more stirring than anything in either of the other National Anthems, but for sustained interest it falls behind the Russian and the English. I believe Men of Harlech' beats it in every way." Ac ychwanega yr Athraw David Jenkins, "A'r frawddeg olaf yr ydym yn cytuno, yn hollo.l. —jfc— Dechreuodd tymor y cymdeithasau llen- yddol, ac y mae'n rhyfedd gweled cyn lleied sy'n medru taro ar destynau newydd i ddadleu arnynt. Nid yw'r gymdeithas lenyddol mor bablogaidd yng Nghymru ag y bu. Paham? A oes rhyw ddosbarth a fyddai'n-arfer darllen a, meddwl wedi peidio a gwneuthur hynny ? Ddechreu'r wythnos ddiweddaf anghofiodd Jlawer o bobl reolau newydd y llythyrdy. Ofnwn i ni wneuthur hynny yn y swyddfa yma, a gwyddom i rai o'n gohebwyr wneud hynny. Talasom dair ceiniog" am un llythyr, am nad oedd y sawl a'i hanfonodd wedi rhoddi ond ceiniog arno. Ond y mae popeth yn iawn. Dyna dair ceiniog yn rhagor i'r Llyw- odraeth i ddyrnu'r Caiser. I Cafodd Arglwydd Kitchener, meddir, un o lythyrau Arglwydd Derby y dydd o'r blaen yn gofyn iddo ymrestru, a dywedir fod amryw filwyr clwyfedig wedi cael un hefyd. Gwydd- om am un dyn dall a, gafodd lythyr. Y mae'n ddiameu fod genym rai swyddogion o alluoedd meddyliol disglaer iawn. — jjc— Rhyfedd y pleser a rydd pardduo eu gwlad eu hunain i rai pobl-ac yn enwedig, i rai papurau. Y cynllun diweddaraf ydyw dy- wedyd fod dynion yn ceisio osgoi ymrestru trwy briodi, trwy fyned i'r America, neu trwy symud eu llety yn ddirgelaidd ar ol y Gofrestriad. Y mae'r cynllun diweddaf, wrth gwrs, yn drosedd yn erbyn y ddeddf, ond faint sydd yn euog ohono, tybed? Hyd y gwelsom ni, y mae mwyafrif mawr y bobl yn wynebu'r safle fel dynion ac yn barod i wneuthur eu dyletswydd. Ymddengys mai unig syniad rhai Cynghor- wyr am gynilo ydyw edliw eu cyflogau i aelod- au seneddol. Eithaf peth fyddai edrych yn nes adref. Nid yw holl gynghorau sir Úymru wedi bod yn enwog am eu darbodaeth yn y blynyddoedd a. basiodd. Telir cyflogau mawr i swyddcgion, a gwerir ar bethau ereill mewn dull dibris na buasai yr un dyn yn meddwl am ei ddilyn yn ei fusnes ei hun. Ond maddeuer i ni,—hyfdra anfaddeuol ydyw rhoddi cynghor i awdurdod cyhoeddus. Yn awr, pan y mae cymaint o son am gyn- haliaeth y weinidogaeth, dyddorol ydyw gweled beth oedd barn Dr. Lewis Edwards ar y mater yn y flwyddyn 1847. Ysgrifennai yn Chwefror y flwyddyn honno at ei gyfaill, Mr. Matthews, ac ar ddiwedd ei lythyr dywed:— I really do not know wihat will become of our 'Connexion. The wretched way in which our ministers are paid is a burning; ishame to us. The old Methodists were very good men, but they could not do lesis than tfhey did in the) way of lasting benefit to their native country. One may almost tsav that they left everything undone. They were the means, 'it is true, of saving thousands who camei to hear tlnem, and this of Course, was an everlasting good! to those immed- iately concerned, but they laboured' as if the world was to be blotted, out at the end of that age. We now Buffer the consequences, but we must not despair." Pa, le y mae'r gweledydd a'r gwladweinydd eglwysig ymhlith Methodistiaid heddyw? A yw gweinidcgion leuanc y Cyfundeb mor selog dros y Gymraeg a rhai sydd genhedlaeth yn hvn na hwy ? Amheuwn weithiau a, ydynt, ac y mae rhai ohonynt na wyddant ond ychydig iawn am lyfrau Gymraeg. Gresyn hynny. Gwnaeth rhai o'r hen weiniclogioln waith mawr dros yr iaith, ac y mae dylanwad y gweinidog yn bwysig iawn o hyd. Dylid argyhoeddi rhieni o'r cam dybryd a, wnant a'u plant trwy eu hamddifadu o'r unig iaith a all fod yn fam-iaith mewn gwririonedd iddynt. —^— Wedi iddo ymddihatru oddiwrth ei waith bugeiliol gelir disgwyl cryn lawer oddiwrth y Parch. John Hughes, M.A., Lerpwl, fel lienor. Y mae ganddo ysgrif yri "Y Drysor- fa," am y mis hwn, a chan wreiddiol iawn yn y "Traethcdydd," dan y penawd "Y Corrid- or." Nid oes dinr*yn hollol yr un fath a hi yn ein barddcniaeth; tarawodd Mr. Hughes ar wythien newydd ac un dal am ei gweithio. Dywedir fed pcnnau pregethau yn myned o'r ffasiwn, er fod rhai eto yn ddigon ar ol yr oes i fedru saernio rhai gwreiddiol a tharaw- iadol iawn. Ond nid pawb sy'n meddu dawn yr hen bregethwr hwnnw a bregethai unwaith ar yr Iesu yn marchogaeth i Jerusalem ar ebol llwdn asyn. Rhanodd ei bregeth yn dri phen, a dyma ceddynt; 1. Cvflwr dyn wrth natur, —ebol llwdn asyn. 2. Penarglwyddiaeth -e t )o l llwcln as y n. Duw,—yr Iesu yn marchogaeth. 3. Parhad mewn gras,—i Jerusalem. —afc— Deddf yr Ysbeilio yw enw Arsyllydd yn "Yr Haul" ar ddeddf Datgysylltiad. Y mae ei syniadau yn ddyddorol ac yn dangos fel y gall dyn galluog gclli golwg ar bob synwyr a. rheswm weithiau. "Yn ol yr athrawiaeth wTrth-Eglwysig," medd Arsyllydd, "fel y dysgir hi yng Nghymru a chan holl bleidwyr gormesu Eglwyswyr yn enw 'crefydd', y mae yspeilwyr Ellmynig eglwysi Ffrainc a Bel- gium mewn categori gwahanol i ysbeilwyr eglwys CyiTiru; ond petae 'Arsyllydd' yn troin lleidr eglwysi gwcll fuasai ganddo restru ei hun gyda, lladron Louvain a Termonde, oherwydd mai yn enw rhyfel y gwnaent hwy eu ffieidawaith, ac nid yi-i enNN, 'crefydd' fel Phariseaid erlidgar Cymru." Nid oes eisiau dywedyd dim yn rhagor ar y geiriau caredig hyn. Gwyddom ymhle yr ydym. Y ffurf-lenni a anfouir allan i'w llenwi gan glerigwyr sy'n dal bywiolaethau sydd wedi cynhyrfu hyav/dledd Arsyllydd. Sonia, am anghyfiawnder, celwydd, casineb, malais, a chenfigen y bobl sydd o blaid datgysylltiad, ac ar ddiwedd ei lith, gan gyfeiria at y ffurf-lenni, dywed; "Parthed llanw'r 'returns' hyn, gwell filwaith fyddai gennym fynd i garchar ac farn nag ysgrifennu iod na. gair ynddynt." Pwy a ddywedodd nad yw personiaid Cymreig yn hyawdl? —#— Y mae cymysgfa rhyfedd yn y fyddin newydd. Gwyddom am wr oedd yn ben- naeth swyddfa bwysig. Ymrestrodd fel mil- wr cyffredin, ac y mae erbyn hyn wedi dringo i fod yn sergeant. Y mae un o'r gwasanaeth yddion yn yr un swyddf a, yn awr yn lifftenant, a phan gyferfydd y sergeant ag ef bydd yn rhaid iddo roi ei law ar ei gap yn barchus. Gofelir am ddywedyd mai o barch i gomisiwn y brenin y go-fynir i'r milwyr gyfarch y swyddogion felly, end nid dyna, syniad po b swyddog, chwaith. Gwelwn mai nad gwir y si i Mr. Richard Lloyd George gael ei ddyrchafu vn lifftenant eyrnol ar ol bhvvddyn o wasanaeth yn y fyddin. Buasai'r dvrchafiad dipyn yn. rhv gyflym ac yn peri i bobl siarad—ond pe buasai Mr. Lloyd George vn perthyn i deulu pen- dengaidd buasai pawb yn ddigon distaw. Nid ydym 011 wredi colli ei-n cynffonau eto. ydym cll wedi eelli ei?n cynffonati eto. Y mae Syr W. J, Thonias, Ypys Riff wedi rhoddi £ 1.050 at waddoli v wely, yn ysbytty Edward 'VII. er cof am Miss Cavelt. Dyna, ffordd ragorol i goffhau am arwres, a'r i'fordd, y mae'n sicr, y buasai hi ei hun yn ei dewis o fiaen yr un arall. Y mae'r marchog o Ynys Hir a theulu Llandinarn am y goreu yn cyf- ranu eu cyfoech at achosion da, ond y mae pobl gyfoethog ereill yng Nghymru na chlywir byth air OF son am danynt. Paham Owestiwn sy'n cael ei drin a'i drafod yng; nghylch Prifysgol Cymru ydyw pa bryd y pencdir olynydd i'r diweddar Syr Edward Anwyl yn Aberystwyth. Enwir Ni vn eu plith Dr. T. H. Parry Williams, Rhyd-ddu,, Mr. T. Gwynn Jones, Mr. Timothy ijewis, Mr. W. J. Gruffydd, a Mr. I for Williams. Ni wyddom a oes yr un ohonynt wedi ii-ieddwl am y swydd, ond llanwai pob un ohonynt hi, yn rhagorol. —34c — Sylwcdd rliywun y dydd o'r blaen fod y Parch. Evan Jones, Caernarfon, wedi cael myncd i'w fedd heb i Brifysgol Cymru roddi unrhyw arwydd ei bod yn gwybod ei fod yn bod o gwbl. Bu llawer yn disgwyl gweled yr, awdurdedau yn cynyg gradd anrhydeddus- iddo,—gwnaed hynny a. rhai a. wnaethant lawer iawn llai o wasanaeth i'w gwlad na Mr. Evan Jones. Ai ofn yr ysbryd enwadol a barodd iddynt beidio? Beth bynag cedd y rheswm, nid. yw'r pelh yn un y gall y Brif- ysgol ymfalchio; ynddo. Y mae gan Mr. Beriah Evans ysgrif yn y "Fortnightly Review" ar Mr. Lloyd George fel gweinidog y werin. Dywed rai pethau cvrhaeddgar, ond y mae'n anodd iawn rhoddi cyfrif clir am Mr. Lloyd George yn awr. Torodd y rhyfel ar draws popeth, ac hyd onicF elo heibio, nid ellir dywedyd beth fydd ei dyl- anwad ar gwrs y gwr y gellir disgwy lfwyaf oddiwrtho yng ngwleidyddiaeth Prydain: heddyw. Mewn ysgrif alluog yn "Cymru" ar y Doctor Du try Elfyn o'r neilltu am funyd i ,e,xan d er Siiilt h a'r- son am ddylanwad Alexander Smith a'1" "Spasmodics" ar Islwyn. Credwn ei fod yn llygad ei le. Bu adeg pan oedd dylanwad Smith yn fawr iawn yng Nghymru, ac nid oes, neb hyd yn hyn wedi olrhain hynny. Y mae, awgrym Elfyn yn ddyddorol iawn; eithaf peth. fuasai cynyg gwobr mewn eisteddfod am draethawd ar dylanwad Alexander Smith a i- ysgol ar farddoniaeth Cymru. Enfyn brawd o wei.nidog atomi. ddiolch, inni am y sylw ynglyn 4'r Parch. R. J. Camp- bell a Mr .Bottomley yn ysgrifennu ar y rhyfel yn y papurau Sabothol ,ac ychwanega; "Da chwi deliwch ati i godi'ch llais yn erbyn y sothach yna a elwir yn newyddiaduron dydd Sul. Nid yw'r ell ond cynllun ystrvwgar i hud-ddenu'r ehud drwy roi gwedd grefyddol ar bethau. Dylai pob Cristion ymwrrthod a'r cyfryw bapurau. Cryn ond i mi yw gwybocf fod yn ein plith gynifer o eiddilod hawdd i'w temptio denu." Trwy farwolaeth Mr. John Jones ("Yr Athraw"), Caernarfon, eoHwyd ystorfa. 0" adgofion am enwogion megis Ieuan Gwyllt a Dr. John Hughes. Gwrthododd eu hysgrif- ennu, ac y mae'n aniheus a fedrai eu hysgrif- ennu mor ddawnus ag yr adroddai hwynt. Am Ddr. Hughes, yn enwedig, yr oedd gan- ddo lawer 0 bethau i'w dywedyd. Soniai am seiat Engedi pan alwyd ar ben frawd pur an- llythrenog i ddechreu. Rhoddodd yntan y penill a, ganlyn allan i'w ganu:— Mae'r adar to a'r deryn du o livii yn disgwyl wrthyt Ti. Yr h-.vn sy'n Dorthi'r brain o hyd A'n gwnelo ninnau'n frain i gvrl. Aeth y gynulleidfa i chwerthin. a chanwyd" emyn mwy adnabyddus, ond yr cedd yn amlwg fod teimladau yr hen frawd wedi ei-i., harcholli. nes i Dr. Hughes ei hun. trwy gym- eryd. dyddordeb mawr ynnhardcliad yr hen benill, ei sirioli drachefn.

No title

Y mae si fod gweinidog pur adnabyddus vn myned' i svmudi yn fuan. Y mae'n ddiau y ceir clywedi ychwaneg cyn bo hir. -0- "Y Gen; -Ile,TTi-ii-r ynddi bok math o bwnc, vn enwadVil. duwinyddol. athronvddoh gwyddonoT", bywgraffyddlo], hynafiaethob ieitiliy-ldol, f-istedd- fodol. llerorol, iianesyddol, amaetlJyddoJ; chwarsl- yddol glofaol, etc.