Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
No title

Y SAFLE. N id ellir dywedyd fed y newyddion yr wythnos yma, yn rhai calo-necol iawn, er nad oes ynddynt ddim i beri i ni anobeithio. Yn hytrach y maent yn alwad arnom i ddeffro ac ymwroli, ac yn arbenig i gadw ein pennau. Nid oes dim llawer sy'n newydd i'w ddywedyd am Mesopotamia, ac y mae hynny'n golygu fod y safle yn parhau yn bur ddyrus, gan nad all ein byddin syrnud ymlaen tua- Ivut. Yn wir y mae lie i amheu a ydyw yn ceisio gwn- euthurhynny ar hyi-i obryd, gan fod ytywydd yn parhau yn ddrwg a 'r llifogydd heb ostwng. Yn y arall o'r maes hwn, lIe y mae'r Rwsiaid yn gweithredu, y mae'r Tyrcod mewn cryn bryder ynghylch diogelwch Erarurn, ac y mae'n debyg y bydd ein byddin ni a byddin- oedd. Rwsia, er pelled ydvnt oddiwrth ei gilydd, yn cydweithredu o ran cynlhmiau. Nid oes amheuaeth nad yw Twrci—a'r Almaen wrth gwrs—yn rhoddi. pwys mawr ar y rhan yma o'r maes, ac er fod si fod byddin fawr o'r Tyrccd yn barod i weithredu gyda Bwlgaria yn erbyn Salon ica prin yr ydym yn barod i gredu hynny. Y mae Mesopotamia yn ddigon i gadw'r Twrc yn brysur ar hyn o bryd. ac er ein bod wedi gadael Galiipoli prin y gall y gelyn adael y pentir heb ei wylio, rhag ofn. i ni benderfynu dychwelyd ftio rhyw ddi- wrnod. Nid oes gyfnewidiad yn y safle yn Salonica, ag eithrio fod y cyngrheiriaid wedi meddianu un c'r amddiffynfeydd Groegaidd sydd ar lan y mor. Amcan hynny oedd rhwystro sudd-longau'r gelyn rhag dyfod yn agos at y porthladd, a dywedir fod y mihvyr oedd gan Groeg yn y lie wedi ei gadael ar 01 eael rbvbudd gan. y cyngrheiriaid. Y mae'n arnhosibl credu fod gweithred fel lio-n wrth fodd Groeg, ond y mae'n amhosibl gwybod hyd yn hvn beth a wna'r wlad honno yn y diwedd. Y mae safle Rumania-yn parhau yn ddyddorol, ac y mae'n ei bod yn peri blinder i'r Almaen ac i Awstria. Dywed y papurau Almaenaidd fod holl fyddin Rumania dan arfau, a bod y rhan fwyaf ohoni wedi ei chrynhci ar dueddau Awstria a Bwlgaria. Ychwanegir y dylid gorfodi Rumania i egluro ei safle, nc y mae rhyw sibrvdion fod Awstria wedi ceisio dyfod i gytundeb a hi i brynn ei hamhleidgarwch ond wedi methu. Un farn ydyw y bvdd i'r cyngrheiriaid yn y dwyrain a'r gorllewin ymosod yn y gwanwyn, ac y daw Rumania i mewn o'u plaid y pryd hynnv. Ond dyfaliadau ydyw y pethau hyn oil; gall- ent fod yn gywir. ond ni chynghorem ein dar- llenwyr i'w derbyn yn ddigwestiwn.

No title

YN Y GORLLEWIN. Nid yw'r newyddion yn toadhaol lawn yn y gorllewin. Ddiwedd yr wythnos gwnaeth y gelyn ymosodiad ffyrnig ar linellau'r Ffrancod .i'r gogledd o Arras, a llwyddasant i gymeryd tua dwy filltir o'r ffosydd blaenaf a chryn nifer o garcharorion. Hyd yn hyn nid yw'r Ffrancod wedi gwneud unrhyw wrthymosod- iad effeithicl, ond gellir tybio iddynt Iwyddo i atal yr ymosodiad, canys nid yw'n ymddangos i'r gelyn wneuthur dim cynydd pellach. Yn yr adran Brydeinig gwnaeth nifer o'n milwyr ni ymosodiad sydyn ar un >0 ffosydd y gelyn gan beri tipyn o niwed, ond nid ymddengys fod hyn obwys mawr. Y gwir ydyw y mae llinellau y naill ochr a'r Hall mor gryf yn Ffrainc a Belgium yn awr fel nad all dim llai nag ymosodiad mawr, gyda miliwn neu ragor o ddynion, a digo-nedd o ynnau mawr dori trwyddynt. Hyd yn oed dan amod.au felly byddai'r colledion1 i'r ochr ymosodol yn erch- yll; ond ni wna ymosodiad llai, megis eiddo'r gelyn yr wythnos ddiweddaf, ddim ond. tolcio ychydig ar y llinell. A wneir yr ymosodiad mawr sydd gwestiwn nad allwn ni mo'i ateb ond barn pawb cyfarwydd ydyw mai yn y gorllewin yn y diwedd y penderfynir y rhyfel.

No title

ADNODDAU'R ALMAEN. Ar y wyneb y mae'r Almaen yn llwydd- ianus ar y tir, er iddi fethu yn' druenus ar y mor. Ond cyn penderfynu ynghylch ei llwyddiant y mae'n rhaid i ni edrych y tu cefn i'r dnrlun. Barn y Ffrgneoii-ac y mae eu 0 hwy hyd yn hyn wedi bod yn lied gywir, bydd adnoddau'r Almaen mewn dynion (reserves) wedi eu dihysbyddu erbyn diwedd mis Awst. Eisoes y mae arwyddion nad oes, ganddi gyfoeth dihysbydd ohonynt. Ond beth am ei hadncddau arianol'? Fe. dclywedodd Louis XIV., pan mewn rhyfel a rhan fawr o gyfandir Ewroh, mai'r bunt olaf oedd yn enill, ac y mae'r un peth yn wir heddyw a.g yn ei amser ef. Ar y mater hwn y mae araeth Syr Edward Holden, c'adeirydd y London City and Midland Bank, yng nghyL srfod blynyddol y banc ddydd Gwener diwedd- af yn bwysig ac yn galonogol. Y mae Syr Edward nid yn unigyngadeirydd y bane mwy- af yn y byd, ondefe hefyd ydyw un o brif awdiirdcdau. arianol y byd ar hyn o bryd, fel y gellir gwrando ar ei eiriau fel eiddo dyn sydd yn gwybod ei bwnc o'i ddechreu i'w ddiwedd yn drwyadl. Yn ei araeth gosododd ef bwys- lais ar y ffaith mai Llundain ydyw canolbwynt arianol y byd ac ar ei gred ddiysgog y bydd iddi barhau felly ar ol y rhyfel, er fod rhai YLt darc-gan yr enilla- New York y lie blaenaf. Eglurodd paham y mae gwerth y bunt wedi gcstwng mewn gwledydd ereill; sef am ein bod yn prynu mwy yn awr gan y gwledydd hynny nag ydym yn ei anion iddynt, a gofid- iodd na buasai y wlad hon, trwy gynilo mwy, yn prynu llai gan wledydd tramor. Yn ein perthynas a Holland, er engraifft, y mae gwerth y bunt wedi disgyn 10.3 per cent. end y mae gwerth y mark (sef safon arianol yr Almaen, fel y mae'r bunt yn safon arianol yn v wlad hon) wedi disgyn 33 per cent, yn Holland. Yn New York y mae gwerth y bunt yn llai o 1.9 per. cent.; yn yr un ddinas y mae gwerth. y mark yn llai o 21.5 y cant. Heb fanylu ychwaneg, dengys hyn cyn gliried a dim y gwahaniaeth sydd rhwng safle arianol y naill wlad a'r llall.

No title

Y SAFLE ARIANOL. Yna try Syr Edward i feirniadu araeth ddiweddar Dr. Helfferich, gweinidog arianol yr Almaen, a gofyna, rai cwestiynau iddo nad yw yn debyg y ce-ir ateb iddynt yn fuan iawn. Nid awn i rcddi'r cwestiynau hynny yma, end y mae'n amlwg fod Syr Edward Holden yn credu nad allai'r Almaen eu hateb yn ffafriol. Gofyna i Ddr. Helfferich egluro, ymhlith pethau ereill, y terfysgoedd yn erbyn pris y bara ym Merlin os o,es gan yr Almaen, fel y dywed eft ddigo-nedd o fwyd, ac ymhellach gofyna a,i onid yw bron yr oil 0. sicrdebau tra- mor yr Almaen yr oedd modd eu gwerthu bell- ach wedi eu gwerthu. a bod hynny yn peri fod yn anodd iawn iddi daiu am nwyddau? Yn ben ar y cwbl geilw sylw at y ffaith fod Prydain yn benthyca arian-tua mil o filivnau —am gyfartaledd o 3i y cant, tra, y mae'n rhaid i'r Almaen dalu 5 y cant. Dengys hyn, fel y dywed Syr Edward, fod arianwyr yn credu mai'r cyngrheiriaid sydd i fod yn fudd- ugoliaethus, a, bod y wlad hon yn dal y prawf arianol, er trymed ydyw arni hi, yn llawer iawn gwell na'r gelyn. A

No title

YR AMERICA. Y mae etholiad yr arlywydd yn agoshau yn yr Unol Dalaethau, ac y mae amryw bolil yn gwneud areithiau ar hyd a lied y wlad. Yn ystod yr wythnos a aeth heibio gwnaeth yr Arlywydd Wilson ddwy neu dair o areith- iau pur nodedig. Yn y gyntaf ymddangosai fel pe'n bygwth yr Almaen vn uniongyrchol. "Nid wn," meddai, "beth fydd perthynasau tramor y wlad hon yforu." Yn y llall yr oedd dipyn llareiddiach ac fel pe'n tueddu i ranu'r bai rhyngo-i-n ni, am ymyryd a masnach yr America, a'r Almaen, am ladd dinasvddio-n Americanaidd ar longau diamddiffyn. Y mae cryn wahaniaeth rhwng y Odati beth mewn gwirionedd, ac y mae Mr. Roosevelt, gyda'i h vawdledd arferol, wedi bod yn cyhuddo Dr. Wilson o ofyn i.'r Americanwyr gusanu dwylo gwaedlyd llofruddion. eu gwragedd a'u plant. Prun bynag am hynny, ymddengys fod y drafodaeth rhwng y Talaethau a'r Almaen wedi ei cbyfyngu" vn awr i bwnc y "Lusit- ania. Ni wnaed llawer vn gvhoeddus, ond dywedir fod. yr Almaen1 wdi cynyg iawn' arianol i deuluoedd yr Americaniaid a- fodd- wvd ar ei1 bwrdd, a. bod llywodraeth y Tal- aethau wedi gwrthod hynny. Dywedir hefyd fod y Talaethau yn pwyso am ateb terfynol ymhen ychydig1 ddyddiau. Y mae anhawster- au'r Arlywydd yn fawr, ac y mae'n ddiameu ei fod yn ceisio gwneuthur yr hyn sydd oreu i'w wlad, ond nid yw y rhan fwyaf o'r Amer- icanwyr yn petruso. Beth bynag oedd eu syniadau cynt, cynhyrfwyd eu.teimladau i'w gwaelodicn gan suddiad y "Lusitania," ac nid ydynt yn debyg o roddi unrhyw ymyriad a'u masnach ar yr un tir a hynnv. as ck

No title

ZEPPELINS. Nos Sadwrn a nos Sul gwnaed ymosod- iadau ar Baris gan Zeppelins. Yn yr ym- osodiad cyntaf lladdwyd tua deg ar hugain o bobl ac anafwyd amryw ereill; yn yr ail ym- osodwyd ar y Zeppelin mewn I pryd a llwydd- wyd i'w throi yn ol eyii idd* wneuthur un- rhyw niwed. Nos Lun gwnaed yr ymosodiad gwaethaf a wnaed eto ar y wlad hon. Ym- osododd amryw Zeppelins—saith medd rhai— ar Derbyshire, Leicestershire, Lincolnshire, a Staffordshire. Honna'r gelyn iddynt ymosod ar Lerpwl a Manchester, ond y mae'n amlwg mai celwydd ydyw hynny, er i'r Zeppelins eu dangos eu hunain yn alluog i gyrhaedd cyn /( belled a hynny. Tybir iddynt ollwng 220 » dan-belenau, a chvn belled ag y gwyddis yn 9 gw .vdrlis Vll awr, lladdwyd 54 o bobl ac anafwyd 67 Gwnaed cryn lawer o ddifrod ar eiddo, ond fel arfer, ni wnaed niwed mibvrol. Y gwir ydyw y mae'r ymc-sodiadau hyn nid yn unig yn farbaraidd ac yn greulon ond y-maent hefyd yn hollol ddibwrpas. Nid ydvnt yn gwneud, fel y gwelir, unrhyw niwed mihvrol, ac nid ydynt yn dvehryn y wlad. Y mae'n debyg mai dyna eu hamcan, ond gyda hyn, fel gyda llawer peth arall. y mae'r German- iaid wedi eu dangos eu hunain yn hynod gib- ddall. Ni welwn unrhvw arwyddion o wen- did nag o ddychryn; yn hytrach dyfnhau y mae'r penderfyniad o hyd. & cfc A

No title

"YR APPAM." Un o'r pethau rhyfeddaf a ddigwyddodd eto ydyw hanes yr "Appam," un o liners yr Elder-Dempster. Yr oedd y llong hon ar ei ffordd o Orllewin Affrica i'r wlad hon, gyda llawer o deithwyr, rhai ohonynt yn bobl adnabyddus, ar ei bwrdd. Ar 01 Ionawr 15 nid oedd gair o'i hanes wedi cyrhaedd y wlad hon, ac yr oedd pawb wedi penderfynu ei bod wedi myned ar goll a bod y criw a'r teithwyr wedi boddi. Bore ddydd Mawrth,1 modd bynag, cyrhaeddodd y llong borthladd Nor- folk, Virginia, yn yr Unol Dalaethau, dan faner yr Almaen ac yng ngofal criw o Almaen- iaid. Y mae ei chriw hi ei hun a'r holl deith- wyr, hyd y gwyddis, yn ddiogel, a dywedir fod dwylaw amryw longau ereill a suddwyd gan- ddi yn ystod y fo-rdaith hefyd ar ei bwrdd. Ymddengys mai dyma, a ddigwyddodd. "Cym- erwyd yr "Appam" gan un o sudd-longau'r gelyn—neu gan rhyw: long arall wedi dianc o'r Kiel Canal, nid yw'n eglur iawn prun,— pan ar dueddau Ynysoedd y Canari, a thro- wyd hi tua'r America. Y mae'n debyg fod yr Almaeniaid yn ofni, pe'r elent am noddfa i un o borthladdoedd Spaen, yr unig wlad amhleid- iol arall yn y cyrhaedd, y daliesid hi gan ein llongau. ni. Fel y mae, y mae'n anodd gwy- bod sut y llwyddodd i osgoi ein llongau ar eu mordaith i Virginia. Y cwestiwn yn awr ydyw beth a wn a, llywodraeth y Talaethau a'r llong. Hawlia'r Almaeniaid ei bed yn eiddo iddynt hwy. Os cydnebydd y Talaethau'r hawl honno bydd yn rhaid iddi naill ai gadael y porthladd ymhen pedair awr ar hugain neu aros yno hyd derfyn y rhyfel. Ar y Haw arall. os penderfyna'r Talaethau ei hystyried yn llong fasnach trosglwyddir hi yn ol i'r Llyw- odraeth Brydeinig. Cwestiwn cyfreithiol lied anodd ei benderfynu ydyw, end ar y cyfan ymddengys y gyfraith ar y pwynt vii ei-bvii yr Almaen. Y mae'n ddiameu y bydd llawenydcl mawr ymhlith y gelyn oherwydd yr orehest hon, a, phe buasai holl weithredcedd eu sudd- longau o'r un natur ni buasai eu henw, fel v mae. yn ddrewdod yn ff ro,en,,iii'r byd. Y mae'n rhydd; i ni gydnabod fed hon yn weith- red ddewr a' medrus, yn wahanol iawn i or- chestion blaenorol y sudd-longau ac i ynfyd- rwydd creulon y Zeppelins.