Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
No title

YN ERBYN PRYDAIN. Y mae Herr von Bethman Hollweg, Canghellor Ymherodrol yr Almaen, wedi dyw- edyd mai mudiad nesaf y rhyfel fydd ergyd lethol i Brydain am mai Prydain yn unig sydd yn sefyll ar ffordd heddwch. Y mae'n werth i ni sefyll uwchben y bygythiad hwn a. cheisio Ideall pa, beth y mae'n ei olygu—nid yn unig i ni ond hefyd i'r Almaen. Yn y lie cyntaf y mae'n ddigon amlwg fod Bethman-Hollweg yn sylweddoli mai Prydain sydd wedi drysu holl gynlluniau'r Almaen. Onibuasai am ein llynges ni buasai'r rhyfel, yn ol pob tebyg, drosodd ers misoedd, llynges yr Almaen yn meddiaiiu'r moroedd, a Ffrainc dan draed. Onibuasai am dani hi, hefyd, ni buasai mas- nach yr Almaen wedi drysu ac ni buasai prin- der bwyd ymhlith ei phobl. Dengys yr hyn a ddywed y Canghellor ei fod yn sylweddoli hyn a'i fod hefyd yn sylweddoli fod gafael Prydain ar y mor yn -wneuthur holl fuddug- oliaethau'r Almaen ar y tir i raddau pell yn ddieffaith ac yn ddiffrwyth. Y mae Ewsia yn ymgryfhau, y mae'r llmellau yn Ffrainc heb eu tori, ac nid yw'r ymosodiad mawr yn y dwyrain wedi cyrhaedd ei amcan. Y mae'n eglur mai prif amcan hwnnw oedd ymosodiad ar yr Aifft ac, yn ol pob tebyg, ar India, wedyn, ond y mae'r ffaith i'r Oadfridog Sar- rail lwyddo i gipio'r byddrnoedd o grafangau'r gelyn ac i ymsefydlu'n gadarn yn Salonica wedi difetha'r cynllun. Ac yn y cyfamser nid yw pethau'n dda, yn yr Almaen. Mewn llythyr nodedig dywed y Oadfridog mwyaf poblogaidd sydd ganddynt, sef Hindenberg, ■ fod ei filwyr yn poeni oherwydd eu hamgylch-. iadau gartref, ac eddyf fod dosbarthiadau sydd, mewn adeg heddwch, yn enill bywol- iaeth gysurus hecldyw yn dioddef ac yn debyg 0 gael eu darostwng i dlodi anobeithiol wedi'r elo'r rhyfel heibio. Dengys hyn fod y safie yn y wlad hon yni.gyfryw" nad all yr arwein- wyr chwareu a, hi, a, dywed un gwr o wlad amhleidiol a fu yno yn ddiweddar fod y bobl ymhob man yn dechreu gofyn i ba, beth y mae eu buddugoliaethau da os yw bwyd yn myned yn brinnach, brinnach, a, heddwch yn ym- ddangos cyn belled ag erioed ? Y mae meistr- olaeth Prydain ar y m6r yn gwneuthur yr un peth i'r Almaen heddyw ag a wnaeth i Ffrainc yn amser Napoleon, ac nid yw'n rhyfedd fod 1,, ma i yr unig ffordd y gelyn yn argyhoeddedig mai yr unig ffordd i fuddugoliaeth ydyw llethu Prydain. sfc.

No title

PA FODD? Y cwestiwn i ni ei ystyried ydyw pa, fodd y gall wneuthur hyn? Gallwn awgrymu am- ryw ffyrdd. Un ydyw buddugoliaeth fawr yn y gorllewin. Yn ystod y dyddiau diweddaf dywedir fod yr Almaeniaid wedi casglu mil- oedd lawer o filwyr ac o arfau i Belgium a bod arwyddion digamsyniol eu bod yn cynllunio ymosodiad mwy na'r un a, wnaed hyd yn hyn, -ymosodiad ar yr un llinellau a, r un a, fu mor llwyddianus yn erbyn Rwsia, y llynedd. Nid oes dim yn hanfodol anhebyg yn hynny, ac fe all y gelyn fod yn cynllunio ymosodiadau mawr ar wall an ol rannau o'r llinell. Ynfyd- rwydd ynom fyddai dibrisio ei adnoddau, fel y gwnaethom yn ystod y gaeaf diweddaf, a ffolineb fyddai meddwl nad all wneuthur ym-: osodiadau peryglus eto. Ond y mae dau. beth yn peri i ni fod dipyn yn amheus o'r hyn a ddywedir. Un ydyw nad all yr Almaen ffcrddio gwneuthur crynhoadau mawr iawn ar ran neilltuol o'r maes heb wanhau rhyw gym- aint ami .ei huni mewn' rhannau ereill. Nid oes arwyddion ei bod wedi gwneuthur hynny ym Mholand hyd yn hyn, beth bynag, ac y mae rhyw si eibod: yn cynllunio ymgyrch newydd yn erbyn Rwsia, ac yn enwedig yn erbyn Riga, ar f6r a thir. Prin yr ydym yn meddwl y gall ymosod yn y gorllewin ac yn y dwyrain^ ar unwaith. Os nad allai wneuthur hynny flwyddyn yn ol nid all wneuthur hynny yn awr ar ol ychwanegii at ei chyfrifoldeb trwy gymeryd Serbia, a Montenegro. Y peth arall sydd yn peri i ni fod yn amheus ydyw'r ffaith ein bod wedi clywed eymaint am yr ym- osodiad mawr sydd ar ddyfod. Trio cyffredin mewn rhyfel ydyw. gwneud i'r gelyn gredu fod ymosodiad i fod yn un lie tra y mae mewn lie arall, mewn gwirionedd, y mae i fod. Fod yr Almaen am geisio ymosod cyn i Brydain neu Ffrainc wneuthur hynny sydd yn, ddigon tebyg, ond y mae'n amheus genym a. wyr rhywun ymhle y gwneir yr ymosodiad liwnnw. Ac y mae'n bosibi nad yw'r crynhoi yn Belgium,—canys y mae'n amlwg fod rhywbeth yn myned ymlaen yno—yn ddim end paratoadau ar gyfer yr ymosodiad a ddis- gwylir o'n hochr ni. 4* —

No title

Y ZEPPELINS. Ond nid dyna'r unig ffordd y gall yr Almaen ymosod arnom. IJanghosodd yr ym- osodiad a, wnaed o'r awyr yr wythnos ddiw- eddaf y gall y Zeppelins wneuthur difrod ym- hob rhan o'r wlad bron. Gellir eu drysu a'u twyllo, y mae'n wir, trwy ofalu am dywyllu pob man, ac y mae'n arntwg erbyn hyn i'r rhai a fu yma wythnos i ddydd Llun golli'r ffordd yn llwyr, ond bernir fod llawer o ym- osodiadau tebyg yn cael eu gwneud, achosent lawer o boen, 0 golled, ac o gynwrf yn y wlad. Dull barbaraidd .0 ryfela ydyw, canys y mae merched. a phlant. yn dioddef; ateb yr Almaen i hynny, hyd y deailwn, ydyw ein bod ninnau trwy ein blocad yn llwgu eu merched a'u plant hwythau. Y mae'n debyg fod hynny yn wir, and gallwn ateb yn ol fod y blocad yn ateb diben milwrol penodol gan ein bod yn cadw, bwyd rhageyrhaedd byddinoedd y gelyn. Cyn belled ag y mae, yn myned y mae'n ateb dig- onol, ond nid allwn ddywedyd i sicrwydd nad all ymosodiadau y Zeppelins gyrhaedd am- canion milwrol hefyd, er, yn ffodus, nad ydynt wedi gwneuthur hynny eto. Ar hyn o bryd y mae 11a,wer o siarad am y dull y dylid ei fabwysiadu i'w gwrthsefyll. Cred rhai y dylid ymosod yn yr un modd ar drefi'r Almaen, gan ymcstwng i'r un budrwaith a'r gelyn, ond mewn llythyr i'r wasg rhoddodd un o'n milwyr enwocaf, sef Syr Evelyn Wood, ei lais yn bendant yn erbyn hynny. Heblaw ei fod yn warthus, ni chredai ef y deilliai unrhyw les oddiwrtho. Y cynllun goreu, heblaw tywyllu pob tref a phentref, ydyw ymosod ar y mannau lie cedwir y Zep- pelins a'u dinystrio yn eu nyth-leoedd. Y mae'n amlwg fod colli un ohonynt yn myned at galon yr Almaeniaid. Wrth ddyehwelyd o Lloegr ehedodd y Zeppelin L, 19 dros dir Hol- land, saethwyd ati, ac y mae'n amlwg iddi gael niwed, eanys daeth llong bysgota Bryd- einig ar ei thraws ym Mor y Gogledd, a'i chriw yn. ymbil am gael eu cymeryd oddiarni, Gwrthodcdd capten y llong hynny am fod yr Almaeniaid yn arfog ac yn fwy niferus na'i griw ef. Aeth i hysbysu llong ryfel o'r hyn a ddigwyddodd, ond erbyn hynny yr oedd y Zeppelin a'i chriw wedi suddo. Y mae'r Almaen yn ddig iawn oblegid gwrthodiad y capten, ond y mae'n anodd gwybod pa beth arall a, allasai ei wneuthur, ae nid oes gan" yr Almaeniaid hawl i edliw. Ychydig cyn yr anffawd yr oedd yr L 19 wedi gollwng bomb ar fwrdd llong lo fechan ac wedi ei suddo hi a, 'i chriw. Colli ychwaneg o'i llongau awyr a. ddysg yr Almaen nad yw'r ymosodiadau yn talu. •sfc tfc

No title

Y LLYNGES. Wedyn y mae'n rhaia i ni aroi at y llynges. Ni ddylem dybio fod yr Almaen yn foddlon i'w llynges fod yn hpllol segur. Os oes arni eisiau llethu Prydain y mae'n rhaid iddi wneu- thur rhywbeth ar y mor. Ni ddylem feddwl. chwaith, nad yw'r Almaen wedi ychwanegu llawer at ei llynges ac, ef allai, wedi newid cynlluniau ei llongau ac wedi adeiladu gyn- nau mwy. Nid afresymol o lawer oedd aw- grym Mr. James Douglas yn y "Daily News" beth amser yn ol, y gall y gelyn fod yn dar- paru llongau gyda gynnau dwy fodfedd ar bymtheg ar gyfer y gynnau un fodfedd ar bymtheg sydd genym ni. Wrth. gwrs, efallai fod genym ni erbyn hyn ynnau mwy o lawer, ond y mae'r sefyllfa, yn gyfryw ag y dylai y rhai sydd yn gyfrifol am ein llynges fed yn effro iawn. Dengys yr hyn a. wnaed gyda'r "Appam" fod yr Almaen yn dechreu ym- ysgwyd ar y m6r eto, ac nid yw y "Mowe, y llong a ymosododd ar yr "Appam" ac am- ryw longau ereill, eto wedi ei (Lcd. Nid yvt y rhai mwyaf cyfarwydd ar y mor yn rhy- feddu cymaint iddi lwyddo i ddianc o'r Kiel Canal, end dengys y ffaith nad oes dim rhy effro i fed. Y mae rhai papurau yn awr yn "g'.tl\v am gael Arglwydd Fisher yn ol i'r Admiralti. Collwyd ei wasanaeth am na fedrai gyd-fyw a Mr. Winston Churchill, ond gall fod Mr. Churchill wedi myned bellach y mae'n anodd gweled paham nad ellir galw'r llongwr mwyaf athrylithgar sydd genym i gyfarwyddo ein prif amddiffyniad a phrif am- ddiffyniad ein holl gyngrheiriaid. Nid ydym am geisio' mawrh.au'r perygl, ond byddem yn rhy hyderus pe tybiem ein bod wedi darfod gyda, llynges y gelyn. Bygythir ni yn anvr ag ymgyrch newydd gan eu sudd-longau, ond y mae'n debyg ein bod yn gwybod bellach sut i ddelio a'r rhai hynny.

No title

CYNLLWYNION. Heblaw y pethau hyn y mae'n amlwg fod y gelyn yn cynllwynio ymhob cyfeiriad. Nid. oes sicrwydd ai y gelyn sy'n gyfrifol am losgi Senedd-dy Canada, ond dywed rhai papurau Americanaidd fod cynllwyn ymhlith German- iaid y wlad honno i ymosod ar Canada, a bod dau can' mil o ynnau eisoes wedi eu casglu at y pwrpas. Prun bynag a, oes gwir yn hyn ai peidio, dengys y llythyrau a, gymerwyd oddiar Von. Papen ynfyd fod cynllwynion prysur yn iiiyiie(I yinlaen i'n. herbyn ymhlith y Germaniaid Americanaidd, ac ni ryfeddeni pe bai ymosodiad ar Canaaa, yn rhan o'r cyn- Hwynion hynny. Yn y cyfamser, ymdrTcngvs fed y Talaethau a'r Almaen yn debyg o dfly" fod i ryw gyd-ddealltwriaeth ynglyn a'r "Lusitania." Bu pethau yn edrych yn bur fygythiol, ond y maent yn tawelu, ac efallai, pe gwyddid y cwbl, fod yn llawn cystal i ni hynny. Methwn a gweled pa fantais i ni fuasai ymyrid yr Unol Dalaethau yn y rhyfel.

No title

Y SAFLE. Ychydig sydd. i'w ychwanegu am y safle filwrol at. yr hyn a. ddywedasom yr wythnos ddiweddaf. Yr ydym wediamlinellu uchod yr hyn y gellir ei ddisgwyl, ac y mae lie i dybio fod yr Almaen yn sylweddoli nad oes ond gorchfygiad yn ei haros os na wneir rhywbeth yn fuan, ond gallwn fod yn sicr y gwna ym- drech gawraidd i wneuthur y rhywbeth hwnnw, pa beth bynag a. fydd. Ar hyn o bryd y mae prif ddyddordeb y sefyllfa filwrol ynglyn a. ehrynhoad honedig yr Almaeniaid, ym MelgiUIn, ac ynglynl â Rumania. Y mae'n eglur fod y gelyn yn lied anesmwyth ynghylch y wlad honno, a dywed gwasg Ffrainc a'r Eidal yn ddifloesgni ei bod yn dyfod i'r rhyfel o ochr y cyngrheiriaid, ond nad yw yn dyfod ar unwaith. Ymddengys fod ein gwaith yn dal Salonica a rhai o symud" iadau diweddaraf Rwsia, wedi gwnenthur cryn argraff ar ei harweinwyr, ac y mae'n ddiameu y byddai ei hymlyniad yn gryn gymorth i ni yn ystod y misoedd nesaf. Prin yr ydym yn disgwyl ymosodiad buan ar Salonica, a barnu üddiwth yr arwyddion ar hyn o bryd, ac y mae sibrydion parhaus am anghydwelediad rh wng yr Almaen a Bwlgaria a Twrci. Ym Mesopatamia, hyd y gwyddom, pery'r safe yn debyg. Y mae lie i brvderu am v Cad- fridog Townsliend a'i fyddin yn Kut el Amara, canys y mae'n anodd credu fod gan- ddynt ddigon o fwyd i wrthsefyll gwarchae hir, ac nid yw Aylmer a'i fyddin eto wedi medru eu cyrhaedd. Yn ol y newyddion pan ydym ar fyned i'r wasg ymddengys nad ydyw Kut mewn perygl mawr ar hyn o bryd, a bod yr awdurdodau wedi penderfynu dal y lie oherwydd. ei bwysigrwydd. Ni ddylid ang- hofio'r rhan yma. o'r maes: fel y danghosod(T y "Daily News" ddydd Mercher, yr hyn yr ydym yn ei wneud yno, yn vmarferol, ydyw sefyll ar ffordd yr Almaen i'r India, Y mae'n debyg v cawn gydweithrediad Rwsia, canys y mae'n amlwg fod y wlad honno yn ystod yr wythnosan diweddaf wedi pe,ri llawer o ffolled- ion i'r Tyrcod vn Armenia. Heblaw'liynny, y mae eanddi fyddin lwyddianus ym Mhersia, ac fe ellici disgwyl i honno fed mewn safle cyn pen hir iawn i gynorthwyo ein byddin ni ym Mesopotamia, trwy ymosod ar aden chwjih y Tyrcod.