Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
SASIWN LLANIDLOES

SASIWN LLANIDLOES. LLYTHYR MR. GOODMAN EDWARDS. 1(AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Wrth ddarllen llythyr y brawd da a ffydd- lon o Fagillt ar Sasiwn Llanidloes yn y GOLEUAD diweddaf, gofynwn i mi fy hun tebyg i beth fyddai Sasiwn heb neb yn siarad ynddi. Dyna, debygwn i, ddelfryd rhai brodyr. Rhyfeddwn, hefyd, fod Mr. Goodman Edwards, yn anad llawer, yn beio ar helaethrwydd ymadrodd. Ond ymddengys mai ar gwestiwn cyfansoddiad y Gymdeithasfa y bu mwyaf o siarad diangenrhaid yn Llanidloes, ac, yn aniffodus i mi, y pechadur pennaf oedd y cyn-ysgrifenydd. Y mae'n wir nad oedd y siarad i gyd yn ddiangenrhaid. Y mae rhywun yn siarad synnwyr ymhob trafodaeth, ac yn yr achos hwn gwnaeth dau frawd, yn ol eu harfer, 'sylwadau cryf, goleuedig ac amserol." Gellid gwan-ddisgwyl, ar ol sylwadau felly y buasai pawb yn deall y pwnc. 'Ond, rhyfedd iawn, y mae Mr. Goodman Edwards yn y tywyllwch y gellir ei deim- lo. Pe sylwasaiar yr ychydig eiriau syml ddy- wedodd olynydd y cyn-ysgrifenvdd siaradus, buasai yn nes i'r llewyrch o filltiroedd nag y dengys ei lythyr ei fod. Eglurodd yr ysgrifenydd presenol mai nid yr hyna ddyfynnir gan Mr. Edwards, a'r hyn a ddywed efe, yn anghywir, ddarfod ei basio yng Nghymdeithasfa v.emaes, yw y rheol. Cynhyg- iad y Pwyllgor oedd hwnw, a barnodd y Gymdeith- asfa yn Llanrwst yn ddoeth beidio ei dderbyn, ond pasio yn hytrach fod rhyw un o gynrychiolwyr y Cyfarfodydd Misol a'r Henaduriaethau i aros yn ei swydd am dair blynedd" (Cylchlythyr, Llanrwst, Mehefin 11014, tud. 27). Felly yr oedd angen am y genadwri o iDdyffryn Clwyd—i'r amcan oedd gan y brodyr yno mewn golwg. Rhaid dweyd un peth dyddorol iawn arall: un o'r ddau frawd a wnaeth y sylwadau cryf> goleuedig ac amserol" yn y Gymdeithasfa oedd cynhygvdd y genadwri o DdylTryn Clwyd yn y Cyfarfod Misol! 11 Yr eiddoch, &c., Y CYN-YSGRIFENYDD.

ISAFLE ARIANOL Y SYMUDIAD IYMOSODOL

SAFLE ARIANOL Y SYMUDIAD I. YMOSODOL. .(AT OLYGYDD Y GGLEITAD). Syr,-Yr wyf.newydd ddarllen adroddiad blyn- yddol y Symudiad Ymosodol am 1915. Ymddeng- ys i mi fod ynddo rai manylion y dylid galw sylw aelodau'r Cyfundeb atynt yn ddiymdroi. Cwyna'r Arolygydd parchus yn ei sylwadau rhag- arweiniol fod prinder arian yn llesteirio'r gwaith.. Dywed nad ydyw y casgliad blynyddol yn ddigonol i gyfarfod v treuliau. ac ychwanega fod dyled y Symudiad i'r Trysorydd Cyffredinol, ar ddiwedd y flwyddyn, wedi cyrraedd un cant ar bymtheg o bun- nau. Gan fod galw cyffredinol,' yn y dyddiau blin hyn, am gynildeb, purion peth fyddai i'r Pwyllgor ys- tyried y priodoldeb—os na wnaethant hynny eisys -0 leihau'r treuliau swvddogol. Credwn yn gryf y gellid gwneud hynny heb amharu dim ar effeith- iolrwydd y gwaith. Yn y flwyddyn o dan svlw, yr oedd cyfanswm y d'erbyniadau yn rhvwle o gwmpas pum' mil o bunnau. O'r swm yna aeth rhyw wyth gant o bunnau at dreuliau'r swyddogaeth (' management expenses,' ys dywed y Sais). Wele rai o'r taliadau o dan y pena,wd hwn:— L s c 'Cyflog y Goruchwyliwr (SCOp.), a chyflog yr Ysgrif..(129p. 3s. 4c.) 429 3 4 Argraffu. Adroddiadau, etc. 125 2 6 Treuliau'r Swyddfa 93 12 10 Treuliau'r Goruchwyliwr 69 15 0 Treuliau teithio Gynrychiolwyr 24 12 0 Treuliau cyfarfodydd, teithio, ac ymweliadau i'r Cyfarfodydd Misol 36 16 6 Treuliau Efrydwyr, a Gwasanaeth Sabbothol 12 10 0 Yn ol yr adroddiad, perthyn i'r Symudiad bump a deugain o neuaddau, yr oil ohonynt, ag eithrio :pump, yn Neheudir Cymru, ac yn gyfleus i Gaer- dydd. Yn wyneb natur y gwaith, ymddengys i ni fod y treuliau uchod yn afresymol. Golygant fod deunaw punt yr un, mwy neu iai, yn cael eu gwario ar arolygiaeth swyddogol y neuaddau. Gellir profi'n rhwydd ddigon fod cymdeithasau Cyfundebol eraill, o'r unrhyw nodwedd a'r Symud- iad, yn gweithio ar linellau cynilach. Er engraifft, dengys adroddiad yr Achosion Seisnig yn y Goecledd mai rhyw 80p. ydyw cyfanswm cyflog a threuliau-r Ysgrifenydd, ynghyda, threuliau teithio'r pwyllgor, a'r draul am argraffu. Ystyr hyrmy ydyw, mai pedair punt yr un sy'n cael eu gwirio ar arolygiaeth Isvyddogol yr ugain eglwys a nodir yn yr adrodd- iad. Eto, yn ol adroddiad y Gvmdefthas Genhadol Gartrefol yn y Goglerld, am 1914, gwelir fod 122 a eglwysi yn perthvn iddi. Cyfanswm yr holl dreut- iau swyddogol ydoedd 2S3p.—dwy bunt a chwe' swllt ar gvfer bob eglwys. O'i gymharu a'r cym- deithasau hyn, y mae'r Symudiad Ymosodol, yn ei swyddogaeth, o lawer yn ddrutach. Edryched y darllenydd ptl) pr v chrlun hwn :—■ Rhoddion i'r Treuliau Eglwysi. Swyddogol. I £ s c £ se 1. Achosion Seisnig. 521 2 () 78 17 7 P. Y G-nhad-qtli C,irtrefol 3^45 13 6 283 0 10 3. Y Symudiad Ymosodol 3000 0 0 800 0 0 Dengys y ffigyrau uchod fod cyfartaledd y treul- iau i'r rhoddion fel y canlyn:—(1) 17 y cant; (2} 8 y cant; (3) 26 y cant! Carwn ofyn un cwestiwn. Os gall un swyddog ofalu am 122 o eglwysi am gyflog o 172p. 10s., pa- ham y mae eisieu dau swyddog i ofalu am 45 o eglwysi am gyflog o 429p. 3s. 4c. ? Hefyd, os yw ?110p. 10s. 10c. yn ddigonol i arolygu gwaith y Genhadaeth Gartrefol a'r 122 o eglwysi ?waith y 'iddi, sut y gellir cyfreithloni gwario dros 350p. ar arolygu gwaith y Symudiad Ymosodol? Yr eiddoch, &c., GWEINIDOG. ■ i i

SASIWN LLANIDLOES A CHENADWRI CM DYFFRYN CLWYD

SASIWN LLANIDLOES A CHENADWRI C.M. DYFFRYN CLWYD. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Yn eich rhifyn diweddaf, y mae Mr. Good- man P. Edwards yn datgan rhyfeddod fod cyfeill- ion DyiTryn Clwyd wedi myned i'r drafferth o anfon y fath genadwri, pan nad oedd dim o'i angen, ac y mae (meddai) yn fwy rhyfeddod fyth fod amser gwerthfawr y Gymdeithasfa wedi ei dreulio," &c. Gallaf ei sicrhau fod cyfeillion Dyffryn Clwyd wedi sylwi ar y penderfyniad y cyfeiria ato, yn Ebrill, 1914, sef Fod rhyw un o gynrychiolwyr y Cyfarfodydd Misol a'r Henaduriaethau i aros yn ei swydd am dair blynedd. Y cynrychiolydd hwn i fod naill ai yn ychwanegol at y cynrychiolwyr pre- senol, neu yn un ohonynt,( yn ol barn a theimlad y Cyfarfod Misol neu yr Henaduriaeth ymhob achos." Daeth y ffurf uchod gerbron y Gymdeithasfa o'r Cyfeisteddiod, bnd yn apiffodus, heb ystyriaeth ddigonol, barnodd y Gymdeithasfa yn briodol i wneyd i ffwrdd a'r ad ran olaf. Pe y buasai y Gym- deithasfa yn derbyn cynygiad y Cyfeisteddfod yn ei gyfanswm, ni buasai cyfeilion CDyifryn Clwyd yn ymyrryd ag "amser gwerthfawr y Gymdeithasfa." Angenrhaid osodir arnaf finnau i ddatgan rhy- feddod na buasai ein cyfaill, Mr. Goodman Ed- wards wedi sylwi ar hyn. Yr wyf mewn llawn gydymdeimlad1 a'n cyfaill yn ei fwy rhyfeddod fyth fod amser gwerthfawr y Gymdeithasfa wedi ei dreulio," &c., a phan ddygir y mater gerbron eto, hyderaf y ceir ei gefnogaeth rn cais rhesymol. Da genyf ddeall i'r Parch. J. Roberts, iRhyI, ddwyn y cais gerbron mewn dull mor ddeheuig, a phe buasai galwad arnynt yr oedd y cynrychiolwyr eraill o'n Cyfarfod Misol yn wyr cymhwys at y gorchwyl o egluro ymhellach. Yr eiddoch. &c.. Rhyl, Rhyl, ROBERT RICHARDS. Goriienaf 10, 1916. ————— -4-

PREGETHWYR LLUNDAIN

PREGETHWYR LLUNDAIN, (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). „ Syr,—Caniatewch i mi ddiolch i Mr. Edwards, Clapham, am ei ysgrif ar y mater uchod, a dymuno arno barhau yn ddiwyd i roddi i ni ychwaneg. Dymunwn ategu ei apel ar i'r Parch. J. Thickens gyhoeddi y tair prpgeth hynny. Clywais y bregetli ar yr achub trwy broffwyd a phery hyd heddyw yn fwyd i'r meddwl. Clywais beth beirniadu arm. a 'hynny sydd yn ei stampio yn bregeth fawr. Bydd- ed i Mr. Thickens ei chyhoeddi, dyweder yn y GOLEUAD, fel y byddo amheuthyn i'r meddylgar a chyfeiriad i'r gwirionedd. Ymataliaf rhag traethu ar y pregethwr, er mor felus fuasai hynny. Yr eiddoch, &c.. Wood Green. HUGH JONES.

Y CYFUNDEB AR DDIRPRWYAETH FRENHINOL

Y CYFUNDEB A'R DDIRPRWYAETH FRENHINOL. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Y mae yn hysbys i ddarllenwyr y GOLEUAD fod Dirprwyaeth Frenhinol yn awr yn gwneud ym- chwiliad i Addysg Cymru. Y mae hyn yn beth a ddichon beri gwelliantau a chyfnewidiadau pwysig iawn i fywyd deallol, moesol a chrefyddol y genedl. Gall, hefyd, ddylanwadu yii ddirfawr ar ein Coleg- au Duwinyddol; oblegid nid yw yn amhosibl na bydd y Dirprwywyr yn eymhell sefydlu cadeiriau mewn Duwinyddiaeth ynglyn a (Phrifysgol Cymru. Geilw hyn am i ni fel Cyfundeb fod yn effro; ni ddylai yr ymchwiliad pwysig hwn gael ei gwblhau heb ein bod wedi dweyd ein barn yn groew ar rai pwyntiau yr ymchwilir iddynt. Fel Cyfundeb cyfan y dylem ddatgan ein barn, ond feallai nad annyddorol i'ch darllenwyr fydd gwybod beth a wneir yn y mater hwn gan y Corff yn y Gog lead. Yn y Gymdeithasfa yn iLlani-dloes danghoswyd fod y mater yn ddigon pwysig i gyfiawnhau gahv Cymdeithasfa arbennig i'w ystyried pe byddai raid. Yr oedd iCyfeisteddfod y Gymdeithash yn aw- grymu penodi pwyllgor o saith i roddi sylw i'r maer, and barnodd y Gymdeithasfa fod galw am i'r nifer fod yn llawer mwy. Felly penderfynwvd i Gyfeisteddfod Athrofa'r Bala, ynghyda'r saith brawd, gymeryd y mater mewn Haw. Mewn hyder fod ein brodyr yn y De yn symud ar linellau gweddol debyg, dewisodd Cyfeisteddfod yr Athrofa is-bwvllgor o naw i gyfarfod ei hunan yn gyntaf oil. ac yna i gyfarfod ag is-bwyllgor cyffelyb o'r De, fel gallo'r ddwy dalaeth gyd-symud. Wedi Vr ddau is-bwyllgor gytuho ar fraslun o gynllun," neu ar y prif linellau i gerdded wrthynt, trefnir i alw Cyfeisteddfod Athrofa,'r Bala yn llawn i gyd" eistedd a'r De, a Chyfeisteddfod Athrofa Dduwin- yddol Aberystwyth i ystyried pa adroddiad a gyf- lwynir i'r ddwy Gymdeithasia. Y mae yn rhy gynnar eto i ddweyd dim am olyg- iadau unrhyw bwyllgor, ond hyderir y gall y Cyf- undeb symud yn gryf, a symud gyda'i gilydd, i geisio sicrha,u y bydd awgrymiadau'r Ddirprwyaeth y fath ag i oi;wedd yn esmwyth ar feddvvl a chalon a. chydwybod pob Methodist goleuedig, ac i hyr- wyddo buddiannau gore'r genedl. Yr eiddoch, &c., Caernarfon. Caernarfon. JOHN OWEN, Ysg. Cyfeisteddfod Athrofa'r Bala. —

LLYWODRAETH DUW

LLYWODRAETH DUW. 1 (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Yr wyf newydd ddarllen ysgrif Dr. Roberts yn y Traethodydd," a daeth i'm meddwl fod y s dyfyniad isod o lythyr a gefais o linell y tan yn ddameg o lywodraeth Duw. "Yr oeddwn yn cymeryd noddfa ddoe rhag y tan-beleni mawr, ac yn meddwl ynof fy hun beth oedd syniad Duw am y pethau yma. Yr oedd fy meddwl wedi myn'd. yn bur isel. Er fy syndod, gwelais ehedydd bach yn codi i fyny cydrhwng y ddau dan, ac yn canu dan godi .Ymhen ychydig cefais innau gysur i'm ysbryd, ac yr oeddwn yn gallu canu Deued diluw, deued tan." Hyn ddaeth i'm meddwl, sef fod yr ehedydd yn dangos fod llvwodraeth Duw yn ddiysgog, a bod y cyfiawi-i yn ei ffyddlondeb" yn med.ru esgyn dan ganu ynghanol cythrwfl Ewrob gan wybod mai "cyfiawn yw Efe." Yn ddiameu pechod sydcl heddyv/'n esgor ei ffrwyth yn ei dy ei hun. Ein diddanwch yw fod byd a theyrnas Duw o'i amgylch —deddfau pa rai yw cvfiawnder a chaxiad. Yr eiddoch, &c., Wood Green. H.J.

I SASIWN BANGOR

SASIWN BANGOR. AW ST 29-31. I(!AT OLYGYDD Y GOLEUAD).. Syr,—Da genyf ddeall i fy sylw am y Sasiwn dynu peth sylw fel ag i Mr. Owen anfon atebiad. Mawr hyderaf y bydd i'r Pwyllgor Lleol geisio eu goreu ddarparu ar gyfer rhai miloedd ddaw i'r ddinas, canys dvwedir na bu Sasiwn Moil erioed mor bob- logaidd ag eleni, ac yn Llanidloes fe ddywedir fod 1,500 mewn cape] nad oedd i gynwys He ond i 950. Os y gwnaeth Cyfarfod Misol Mon fentro pregethu mewn pabell, beth yw y rhwYRtr i fabwysiadu yr un cynllun ym Mangor? Wedi'r cwbl gogonianfc Sasiynau Sir Gaernarfon vdyw torf o filoedd yn gwrandaw yn yr un man, ac liid rhuthro o gapel i gapel a methu cael lie yn ami. Cofiaf yn dda am Sasiwn 1907—gwlaw mawr a rhedeg o gapel i gapel. Sylwaf yn y Blwyddiadur mai fel canlyn ydyw maint capelau Bangor: Tabernacl, 809 Twrgwyn, 650; Park Hill, 610. I Yr eiddoch. &c., Primrose Road, Primrose Road, R. J. GRIFFITHS. Birkenhead.

No title

V* mae y newydd galarus wedi cyrhaedd Port Talbot fod y gwr ieuanc talentog, Mr. Ezra Owen, Inter: B.Sc., mab y Parch. E. Owen a Mrs. Owen, wedi colli ei fywyd yn Ffrainc, yn y rhyfel. Daw gair etc ymhellach am dano. -0- Y Sul a,'r Llun diweddaf y gweision canlynol fu yn cyhoeddi yr hen, hen hanes gyda bias yn y Ton Mawr, ger Pontrhydyfen Parchn. John Owent Jones (Hyfreithon), Cwmafon, a T. H. Morgan, Maesteg. > —O— Y Sabboth a nos Lun, yr ail a'r trydydd cyf., fe gynhaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol y Tabern- ael, Bangor. Pregethwyd gan y Parchn. T. Charles Williams, M.A., a John Roberts, M,I.< Caerdydd. Cafwyd oedfaon neillduol o rymus, a hyderwn fod arddeliad ar y gwirioneddau a dra- d do clwyd i'r cynuileidfaoedd lluosog. Gwnaed casgliad ym mhob oedfa tuagat y ddyled, a der- byniwyd y swm sylweddol o 137p. 18s. ——u—- Yng nghyfarfod diweddaf Henaduriaeth Mald- wyn a Sir Amwythig darllenwvd y llythyr a ganlynr oddiwrth Mr. Francis G. Tloworth Gentlemen, As most of you are aware, I have been building a manse at Guilsfield for the use of the minister attached to the Gross, Maesgwyn, and Tabernacle churches;the present arrangement* Whatever the future combination may be I wish Groes shall always have a permanent interest in the building; and in handing it over I should like to say a word or two as to my reasons for doing so. (1) There seemed to be a great need for something of this sort: (2) and chiefly was the feeling that I should iike to do something to show my appreciation of the great kindness which I have received from your people now for the last thirty years. Though be- longing to what I may call a sister church, still, r have worshipped fairly regularly with the friends at Groes on the Sunday evenings during the whole of the time, and have many very hapDY recollections of both pastors and people. The lecal document will follow in due course. Yours, Francis G. Ho- worth." Pasiwyd pleidlais gynes o ddiolch i Mr. Howorth am ei rodd. Y mae gardd a shrubbery gyda'r ty, sydd yn ymyl pentref Guilsfield.