Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
DR REES BRONANT

——— DR. REES, BRONANT. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). ;Syr,—Yn eich ,Nodiadau'r Dvdd yn y GOL- EUAD am Orffenaf y 7fed, gwnewch gyfeiriad at y diweddar Ddr. David Rees, Bronant. Wrth ei ddarllen, daeth yn sydyn i'm cof am ei gyfarfod ar- yr Heol Fawr yn Aberystwyth, ar fore dydd Llun" tua diwedd mis Medi, wyth mlynedd ar hugain yn ol, a dyma yr ymgom i'u rhyngom,—" Bore da, Dr." "Wel, fachgen, sut wyt ti?" "Go lew, Dr." diolch." "Wel, yr wyt yn edrych yn iawn; sut. maent hwy gartref?" Reit dda, diolch i chwi." Gwyddwn o'r gore beth a ddisgwyliai wedi hynny, sef gofyn iddo lie yr oedd yn pregethu y Sul cvntr iddo gael cyfle i ymhelaethu dipyn ar ei waith. Felly gofynais iddo, Lie 'ro'ech chwi ddoe, Dr?" "0" yn Aberdyfi, wel di. 0, yn wir." Ie, wer di, a rhyfedd iawn, yr oedd yno Ddr. arall yn pregethu gyda'r Saeson hefyd." Rhyfedd iawn," meddwn wrtho, Pwy oedd ef?" "0, Principal Edwards, wel di, 'rwyt ti'n gwybod,' meddai, il a llond ei lygaid o ddireidi, y mae yn rhaid i'r llongau mawr yma gael cryn dipyn o ddwr i nofio, ac y mae digon yn Aberdyfi o ddwr i ddwy long go fawr nofio i'w fewn, ac yr oed'd dwy go lew yno 

o CYMDEITHASFA PENLLWYN

-o ——— CYMDEITHASFA PENLLWYN. {AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Gofynir y dyddiau hyn a oes dim hysbysiad i ymddangos yn y GOLEUAD am Gymdeithasfa Pen- llwyn, i geisio gan y cynrychiolwyr ac eraill fwriad- ant ddod yma afon gwybod i'r ysgrifenydd. Na, nid oes angen i'r cynrychiolwyr na'r swyddogian, lMI'I, cyn-lywvddion anfon atom, gan fod genym restr gyflawn swyddogol oddiwrth Ysgrifenydd y Gym- deithasfa o'r holl gynrychiolwyr, yn-ghyda"r pregeth- wyr ieuainc sydd i'w hordeinio eleni a ddisgwylir yma, ae yr oedd genym eisoes cyn hynny enwau yr- holl swyddogion a'r cyn-Iywyddion. Bwriedir anfon tocynau ynghylch llety a bwyd i'r oil o'r rhai hyn yr wythnos hon, ac os bydd rhywrai o'r cyfryw yn! methu dod, dymunir arnynt ddychwelyd y tocynau modd y gallom drefnu eraill yn y lletyau hyn. Mae ceisiadau oddiwrth erail', lu nad ydynt gyn- rychiolwyr, yn parhau i ddod i mewn bob dydd, heb unrhyw hysbysiad, ac anhawsder mawr i ni fydd cael lie iddynt oil yr adeg hono os nad egyr llawer o ddrysau o'r tu allan i'r ardal hon i'w derbyn. Y Inae pob teulu all yn ein hardal ni wedi agor eu- drysau yn ewyllysgar i dderbyn cynifer ag a allont yn groesawgar a chynes. Gallwn ychwanegu fod' eglwysi Aberystwyth yn garedig wedi derbyn pwylF- gor lluosog y Genhadaeth Gartrefol a'u lletya. Yr- ydym hefyd wedi anfon apel at eglwysi eraill sydff yn agos a chyfleus i dderbyn rhai i letya, a thra bo lie agored i'w gael, ni drefnwn goreu medroi^. nr gyfer yr eraill sydd wedi anfon atom. Sonia un brawd am dderbyn pawb." Na, nid oes ond Un yn gallu gwneyd hyniiy. Mae ein hewyllys ninau, yn ddigon Ilydai-i-ein gallu sydd yn rhy fychan. Dylaswn ychwanegu nad yw cyfeiriad y pregeth- wyr ieuainc sydd i'w hordeinio genym, ond yr ydyrn yn trefnu ar eu cyfer, a chant clocynau pan gyr-. haeddant yma. Yr eiddoch, &c., Gorffenaf 17. Gorff enaf 17. JOHN MORiRIS, I Ysgrifenydd yr eglwys.

lw1Y DDIOD AR RHYFEL

< lw- Y DDIOD A'R RHYFEL. '(AT OLYGYDD Y GOLEUAD). iSyr,—Dichon na fu dim erioed yn foddion mor effeithiol i ddatguddio drwg y Ddiod Feddwol a'r iRhyfel presenol. Ac yn yr olwg ar y drwg wna i fuddianau uchaf y deyrnas a'r rhwystrau arswydus deifl ar ei ffordd yn awr fawr ei hymdrech am iawn- der a rhyddid, mae'r argyhoeddiad y dylid gwneud? rhywbeth mawr ac effeithiol i dori ei grym yn cryf- hau ac yn ymledu. Gwelir hyn yn dra amlwg mewn gwledydd eraill. Gwyr pawb am y gwa- harddiad basiwyd gan Rwsia ar wneuthur a gwerthu- y ddiod. Ac mae lluaws o dalaethau mawrion yn' America a Canada wedi gwneud yr un peth, ac v mae eraill yn eu dilyn yn gyflyra. Hyd yma 'dyw yr argyhoeddiad vna ddim wedi tyfu gryfed yn y wlad hon. Er hynny tyfu y mae, a thyfu yn* gryfach o ddvdd i ddvdd. Prawf o hyny yw sefyd- liad y Bwrdd Llywodraethol Canolog. Ac er's rhai wythnosau bellach mae Cymru, gan gynwys Sir Fynwy, wedi ei dwyn dan ei reolaeth. Ac i herr arwyr dirwest yn y Dywysogaeth mae hyn yn gam mawr, ac yn gam yn yr iawn gyfeiriad. A dis- gwylir y bydd yr effeithiau vn dra benditlror. Yh ddios mae'r Bwrdd hwn wedi gwneud erwaith da yn barod. Yr un pryd mae'r areyhoeddiad y cyfeir- iwyd ato yn cryfhau ac vn galw am fesur cryfach eto i ddelio. a'r Fasnach IDd'od. A'r mesur eryfaclt hwnw yw Gwaharddiad (' Prohibition Ac yn barod mae'r Alban a'r Iwerddon-y Celtiaid ar y

CENEDLAETHOLIR FASNACH FEDDWOL

CENEDLAETHOLI'R FASNACH FEDDWOL. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Yr ydych o dan gamargraff; nid cyfeirio at Carlisle ydoedd y Provost Foster, ond at drefi ar- Lennig yn yr Alban. Yr eiddoch, &c. Wolf's Castle, S.O., Wolf's Castle, S.O., P. D. MORSE. Gorffenaf 17, 1916.

Y GWETHWYNEBWYR CYDWYBODOL

Y GWETHWYNEBWYR CYDWYBODOL. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). S-yr,-Claniatewch i mi ychydig bach o'ch gofod i longyfarch y Parch. Llew. G. Williams, y Barri, am ei wroldeb mawr gyda golwg ar achos pwysig y Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Y mae Mr. Williams mi gredaf, i'w gymeradwyo yn fawr am sefyll i fvny mor gadarn i amddiffyn cydwybod, pan y mae yni cael ei hanwybyddu a'i diystyru gan fwyafrif mawr, hyd yn oed ein gweinidogion, yn yr adeg ry- fedd bresenol. Mi gredaf bydd enw Mr. Williams a'i gyffelyb, oherwydd eu gwroldeb dros fater mor bwysig a hwn, yn cael ei drosglwyddo i'r oesoedd a ddel, fel y mae enwau yr hen ferthyron, o'r oesau o'r blaen, yn addurn i Gristioiiogaeth, y rhai, oher- wydd eu cydwybod i Dduw a aethant i'r ystanc i farw yn hytrach na diystyru eu cydwybod. Ac fe ddylai ein heglwysi yn neillduol ddangos mwy o gyd- vmdeimlad a'r eyfry w—mewn adeg pryd y mae yn destyn gwawd, dirmyg, a diystyrwch, y rhan fwyaf yn y byd yn enwedig yn y tribunlysoedd ar hyd a lied y wlad. Tra y mae llawer o'r rhai sydd yn eistedd mewn awdurdod yno yn hollol amddifad o gydwybod eu hunain, y maent yn meddu yr hawl i farnu ac i geis:o treisio cydwybod onest y rhai sydd yn dod ger eu bron. Mi gredaf fod Duw yn galw heddyw yn eglur ar yr eglwys, Deffro, deffro Seion, gwisg wisgoedd dy ogoniant, a dangos yn eglur dy fod yn myned i amddiffyn cydwybod, pe byddai yn rhaid i ti ddioddef o'i phlegid." Y mae yn rhyfedd mor eidd'1 ydyw y penderfyniadau sydd wedi eu tynu allan yn ein Cwrdd Misol, ac yn y Gy. manfa, bron fel pe na b'ai yn werth i gael dod ym mlaen o gwbl, ond fa gafodd ddod i mewn {megis trwy ddrws y cefn), ond fel y cyfeiria Mr. Williams yn ei lythyr, yr oedd cwestiynau eraill canmil llai eu pwys yn cael sylw rnanwl. ISôn am ymladd dros gyfiawnder yn wir; bydded i ni ddechreu gartref yn gyntaf, pan y mae y gyneddf gysegredig hon, y Gydwybod, yn llefain yn ei gwaed megis. ac yn der- byn pob anghyfiawnder ac anhegwch a diystvrweh., Y mae yn wir ei bod yn gofyn am wroldeb i fod yn y lleiafrif, ond dim gwahaniaeth, y mae yn well bod yn y lleiafrif ond bod yn iawn. Hawdd iawn ydyw myned gyda'r gwynt, ond llywio yn erbyn y gw:m. sydd yn orchest. Diolch am ddynion sydd yn e A wyddorol ,( er yn y lleiafrif) ac yn fyw i bwysigrwydd a chysegredigrwydd cydwybod yn y dyddiau rhyfedd presenol—" Y rhai. oherwvdd cydwybod. dedwydd ydych, ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na'ch cynhyrfer." Yr eiddoch, &c., Merthyr Vale. ROBT. PRITCHARD.

I ii Y FYDDIN GYMREIG

-I—- ——— ii Y FYDDIN GYMREIG. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,-Drwg genyf weled yspryd eich nodiadau gyda golwg ar y Cadfridog Owen Thomas. Teimlaf yn bur sicr nad ellwch gyfiawnhau yr hyn ddywed- wch ond 'rwyf yn hollol sicr nad ydyw yn deilwng o'r amserau hyn. Cyfeiriaf yn neilltuol-at y brawddegau: Ofer celu'r ffaith fod Cymru'n ddrwg-dybus; gwyddom trwy hen brofiad nad oes gan y cylch swyddogol Seisnig unrhyw gydymdeimlad ag iaith na delfrydau cenedlaethol Cymru, ac fel rheol llwydda'r cylch hwnnw i gael rhyw esgus tros eu hanwybyddu." Credaf fod edrych ar symudiad y Cadfridog yng ngoleuni'r uchod vn wrthun. Y mae genym fel Cymry y dyddiau hyn le i ymhyfrydu yn y ffaith mai Cymro ydyw y dylanwad mwyaf yn y Llyw- odraeth. Gwn y cytunwch a mi mai felly y mae-. Eto, er na chlywyd gair o brotest oddiwrth y gwlad- weinydd hwnnw, mynnwch fod y Cadfridog wedi ei symud am resymau anheilwng. Mae'n wir yr addawyd i ni fyddin Gymreig yng nghyda swyddogion Cvmreig. ond mae'n wL- hefyd ein bod hyd ag a allem ddisgwyl wedi eu cael. Cenedl yn ceisio dilyn heddwch fuom ar hyd y blynvddau. a srormod vdoedd disgwyl i ni gynyrchu byd din "-fel caws-llyffant-mewn noson. Nid blwvddyn neu ddwy sy'n angenrheidiol i ddwyn at ei gilydd yr elfennau gofynol i hyn ac i gael swydd- ogion cymhwys i'w harwain ar faes y gad. Pob un at ei waith ei hun—mae'n ddioel v¡:myffi'n ber- sonol fod y rhai hynny o'r catrodau Cymreig sydd eisoes ar y maes yn nwylaw milwyr. Atebodd ein gwlad alwad cydwvbod yn y cyfwng bycl-lydan nre- senol yn anrhydeddus, ond am nad milwyr ydym drwv alwedigaeth, ac nad milwriaeth vw testyn efrydiaeth y mwyafrif mawr obonom, gadewch i ni dewi ac ymddirid i'r sawl svdd wrth V llyw i gael i ni arweinwyr teilwng. Ysprvd cul, anystyriol, gwvd fwgan ac ysgerbwd fel diffyg cydymdeimlad ag iaith a delfrydau cenedlaethol Cymru gan y cylch swvddoorol Spisnigr yn y cvsvlltiad hwn. Nodiadau fel y rhai hyn o'ch eiddo sy'n cynyrchu H yr argraff ddrwg iawn ar feddwl Cymru y soniwch am dano. Gwneyd mynydd o dwmpath a chreu ystorm mewn cwpan, yn fy marn i, yw yr holl ysgrifau a siarad ynglvn a'r Cadfridog. Mewn ateb:ad i gwestiwn yn Nhy'r Cyffredin, yr wythnos o'r blaen, dywedwyd fod y Cadfridog wedi gwrthod sefyllfa oedd yn cyf- ateb i'w alluoedd yn well." Nid oes eisiau manylu ar hyn. Mae ei alluoedd neillduol mewn rhai cyfeir- iadau wedi profi yn werthfawr iawn i'w wlad a'i genedl eisoes, a sicr yw y ceir iddo yn fuan gylch i'w yfnarfer eto. Yn y cyfamser rhown heibio ein hymddygiad plwyfolyn y mater hwn. Yr eiddoch, &c., UN YN Y FYDDIN.

0 ISASIWN LLANIDLOES11

.0. SASIWN LLANIDLOES. 1. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Gyda gwylder gostyngedig y dymuinTf ddiolch i gyn-Ysgrifenydd parchus y Gymdeithasf: a'r Parch. Robert Roberts, Rhyl, am fy nghywiro trwy eu llythyrau caredig—os miniog—yn y GOLEU- AD diweddaf. Gwelir trwy hyn yn amlwg yr an genrheidrwydd am y 5ed penderfyniad yn ad-drefnu gwaith y Cymdeithasfaoedd, sef annog ein holl swyddogion i ddarllen cylchlythyrau y Gymdeithas- fa yn fanwl, &c. iDvlaswn innau fod wedi gwneud hyn, ond trwy esgeuluso cylchlythyr Llanrwst, a phwyso ar un Cemaes, dyma fi wedi gwneud cam cyhoeddus a chyfeillion Cyfarfod Misol Dyffryii Clwyd, ac a chewri y Gymdeithasfa, a'r peth sydd weddus ar fy rhan wyf yn ddymuno wneud—cydna bod fy mai. Ond, peth i'w ryfeddu ato eto yw fod y Gym- deithasfa yn iLlanrwst wedi bod yn llai Rhyddfryd; ig na'r pwvllgor, trwy wrthod y penderfyniad fel vr oedd, sef caniatau rhyddid i'r Cyfarfodydd Misol a'r Henaduriaethau i wneud fel y barnont oreu gyda golwg ar y cynrychiolydd tair blynedd. Yr eiddoch, &c., Bagillt, Bagillt, GOODMAN P. EDWARDS. Gorffenaf 17, 1916.

ICYMDEITHASFA BANGOR

CYMDEITHASFA BANGOR, AWiST, 1016. .(AT C)LYGYDD Y GOLBUAD). Prin y tybiaf fod naill ai Mr. R. J. Griffiths, Bir- kenhead, na Mr. 0. T. Owen, o Fangor, wedi deall yn gywir natur neu sail y gwyn sydd gan amryw o aelodau y Cyfundeb yn erbyn Methodistiaid Arfon ac yn arbenig yn erbyn Methodistiaid dinas Bangor ynglyn a'u dull- o gario ymlaen Sasiynau y blynydd- oedd diweddaf hyn. Nid yw o lawer o bwys, ac ni wna nemawr wahaniaeth mai dau bregethwr yn unig wahoddir yn arbenig i Fangor eleni. Gofidir fod yr hen arfer dda o Sasiwn ar y maes yn cael ei rho'i heibio eleni yn Sasiwn Awst, ac of nir mai effaith cael pregethu mewn gwahanol gapelau fydd crwydro poenus o gapel i gapel fel ag i aflonyddu pregethwr a gwrandawyr. Ond mwy na hynyna, ofnir fod y gras o letygar- wch yn darfod o'r tir. Ciwyfwyd ami hen Fethocr- ist teyrngarol i'r Sasi wn gan benderfyniad cyfeillion Bangor dair blynedd yn ol nas gellid trefnu llety i neb ond i gynrychiolwyr, &c., a rhoed ar ddeall i'r rhai hynny yn eithaf eglur mai hyd fore dydd y pregethu yn unig yr oedd y croesaw yn estyn. Eleni, nid oes hyd yn hyn unrhyw arwydd y gwneir dim yn amgenach. Buasai yn dda i Fethodistiaid Ban- gor sy'n gwneyd i fyny chwech o eglwysi cryfion, gymeryd dalen o lyfr Methodistiaid 'Pwllheli, sy'n cynwys pedair eglwys a dwy ohonynt yn rhai pur wan, yng-yn a'r peth hwn. V' Yr eic'doch, METHODIST. Yr eiddoch, &c.,

0 DR ZWEMER A CHREFYDD

.0. DR. ZWEMER A CHREFYDD MOHAMED. I (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). » Sir,—In the correspondence column of your paper for lAnril 28th, there is a quotation from the "Life and Teachings of Mohammed by Syed Ameer Ali, brought forward by your correspondent in criticism of the title of my recent book Mohammed or Christ," in which the question is asked why the two religions should be hostile to each other, and why they should not harmonize. May I be allowed to state in reply that in its origin, history and inner- raost character Islam stands directly opposed to Christianity both in regard to dogma and ethics. There is not a single fact in regard to Jesus Christ our Saviour, His incarnation. His death, His resur- rection, and His ;sess:0n at God's right hand, which is not categorically denied by the Koran. Polygamy, concubinage, and human slavery are divine institutions according to the teachings of Mohammed in the Koran fOnd Tradition. All of them are contrary to the spirit of Christianity. The central conceotion of every religion is its con- ception of God and the wav of salvation. Tn the case of Islam this is unitaran and a salvation by works of merit; in the Christian religion we hove the revelation of the Triune God and salvation through redemption and the atonement. It is only through a superficial knowledge of these two great world religions that anyone can say that they both aim at the same results and that they can work together for the salvation of the world. Syed Ameer Ali's one-sided presentation of the life and teachings of Mohammed is not accepted by orth- odox Moslems themselves. Sincerely yours, Cairo, May 18. S. M. ZWEMEK.