Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
T CAIS MR VICTOR GRIFFITHS

T CAIS MR. VICTOR GRIFFITHS. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. SY.r,Pan yn codi i siarad ar achos fy ordeiniad, yng Nghymdeithasfa Penllwyn, dywedodd y Prif- athro Prys ei fod yn teimlo y dylai rhywu- ddweyd r'hi/tvbeth a dyna a ddywedwyd. Teimlaf finnau felly mai teg yw rhoddi ffeithiau yr achps. Yr ceddwn ar fy ail flwyddyn yng Ngholeg yr lesu, Rhydychen, ond oblegid ystad eithriadol pethau yno, oherwydd y rhyfel,—yr efrydwyr ya. ymadael, a'r coleg yn headquarters i fintai o fil- wyr,—gwelais nad oedd dim i minnau wneyd ond ymadael am dymor, a phenderfynais gymeryd gofal eglwys hyd nes y gallwn ddychwelyd i orphen fy nghwrs am fy ngradd mewn diwinyddiaeth. Per- swadiwyd fi gan lawer o gyfeillion i anfon cais am gael fy ordeinio, a dyna a wnaethum, ond yr oedd yn ddealledig fy mod yn dychwelyd i orphen fy nghwrs. Ar gynygiad y Parch. J. Morgan Jones, laerdydd os wvf yn cofio yn iawn, aeth yr achos gyda chym- eradwyaeth y Gymdeithasfa yn Llanwrtyd i'r Bwrdd Addysg, a phasiwyd yno, nid yr hyn a ym- ddangosodd ar raglen Gymdeithasfa Penllwyn, ond a. ganlyn,—" Gan nad yw wedi gorphen ei gwrs nas gallasai y Bwrdd ei gymeradwyo, ond nad oedd yn rhwystro y Gymdeithasfa i wneyd fel y gwel yn dda yn ei achos." Wedi hyn daeth yr ymdr niaeth yng Nghymdeithasfa Awst, a dywedodd y Prifathro,— Yr oedd ar hanner ei Arts Course, ac nid oedd efe yn gweled sut y gallai gymryd diwinyddiaeth ond mewn honours Course,' ac nid oedd yn meddwl y gallai rrvmryd Honours Course.' Pell yw hyn o fod yn gywir; nid yn unig y mae yn bosibl cael diwinyddiaeth yn Rhydychen heb gymeryd yr Hon- ours Course, ond yr Honours Course wyf yn gymeryd ac yr wyf eisoes ar y llwybr pan yn darparu ar gyfer < Moderations,' yr hyn sy'n gyfystyr, gallem feddwl, i'r hyn elwir uchod yn Arts Course.' Gwnaethum hyn yn hysbys i ysgrifenydd y Bwrdd Addysg pan anfonodd ataf am fanylion. Anhawdd gweled fod fy nghais wedi ei wrthod oherwydd fy safle addysgawl, gan y pasiwyd i'w hordeinio rai (1) Heb unrhyw gwrs colegawl o gwbl; :(2) Heb basio yr Entrance Examination i Goleg Diwinyddol y Cyfundeb; (3) Heb dderbyn galwad o un eglwys. -Collais pleidleisiau am i lawer oedd yn ge'fnogol i'r cais gredu mai cynrychiolwyr yn unig oedd i bleid- leisio. iDiolchaf i bawb a gefnogodd y ca;s, a gobeithiaf na fydd dim yri fy hanes a'i gwna yn edifar gan- ddynt eu bod wedi gwneyd. Dymunaf ddiolcK hefyd i bawb gymerodd y drafferth i ysgrifenu ataf am eu geiriau caredig a chalonogol. Yr eiddoch, &c., Llanstephan, Llanstephan, VICTOR G. GRIFFITHS. Awst 18, 1916.

PENLLWYN AR PARCH D POWELL RICHARDS

PENLLWYN A'R PARCH. D, POWELL RICHARDS. I AT OLYGYDD Y GOLRUAD. Syr,-Ymddangosodd paragraff o'r Llan yn y 1 GOLEUAD, Awst 4ydd, yn yr hton y dywedid mai nid un o Behllwyn oedd y diweddar Barch. D. Powell Richards, ac mai enw ar gapel oedd Penllwyn, yn mhlwyf Capel Bangor. Gofynwch ar y diwedd,— Beth a ddywed pobl Penllwyn am hyn tybed?"' W el gan nad oes neb arall wedi ateb, amonaf air i

COFFA ALAFON

COFFA ALAFON. (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—Dymunaf ran fechan o'ch gofod i alw sylw at y mater uchod. Y mae'r cyfraniadau at yr amcan teilwng o roddi ffurf arhosol i goffadwriaeth yr hynaws fardd a phregethwr yn dal i ddod i mewn, a hyny o bob cwrr o'r wlad. Adlewyrcha hyn y warogaeth uchel a delir i'w enw gan ei gydnabod, pell ac agos. Fe geir O.N. i'r perwyl yma gan swyddogion y pwyllgor ynglyn â'r rhestrau o'r cyfranwyr :Gan fod swm lied dda wedi ei dderbyn eisoes bwriada y pwyllgor nid yn unig godi cof-golofn, ond hefyd gael ysgoloriaeth. yn ei enw yn yr Ysgol Sir ym Mryn- 'refail," &c. a Drwg genyf na allaf yn fy myw weled y priodoldeb o gyfyngu'r budd oddiwrth goffa Alafon i'r ysgol hon. Pe cesglid yr arian yn ardaloedd Deiniolen, wrth gwrs buasai y peth mwyaf naturiol mewn bod. Yn awr,'yn hytrach nag ymgymeryd fel eglwys (neu ardal) i godi cof-golofn i'r gwr teilwng, agorwyd y cyfle.i'r wlad, ben bwy gilydd, ac yn sicr y mae'r casgliad yn parhau i chwyddo i raddau anisgwyliad- wy-a da hyny. Ond y cwestiwrt bellach ydyw a ydyw yn deg defnyddio'r arian a gyfrenir mor gy- ffredinol trwy'r wlad at amcan mor leol, er iddo fod yn amcan da? Yn ol yr arwyddion y mae'r awydd am anrhydeddu coffa Alafon yn beth cyffredinol, a'r aberth at wneud hyny yr un modd; onid ydyw hyn yn galw ar i'r pwyllgor eangu ei drefniadau? Oni buasai Ysgoloriaeth agored perthynol i ysgolion y sir yn ddiwahaniaeth yn llawer mwy naturiol a theg? Oni buasai hefyd yn deilyngach coffa i'r gwr anwyl? Y mae'i enw ef yn werth ei gadw'n fyw-ac fe'i cedwid felly, nid mewn ardal, end yn y sir i gyd. Ac i mi awgrymu mater arall, oni buasai ysgoloriaeth agored mewn llenydd- iaeth Gymraeg yn cydweddu'n ardderchog a'i goffad- wriaeth? (Nid oes gan ysgrifenydd hyn o lythyr yr un 's  ol'?Sir Bryn- rheswm dros beidio dymuno'n dda i Ysgol Sir Bryn- 'refail, ond fel mater o degwch ni allaf ymatael heb wneud hyn o sylw ar y mater, a hyny, mi hyderaf, mewn pryd. Yr eiddoch. &c., CYFRANWR. —

PENODIADAU PWYLLGOR YSGOL SUL Y CYFUNDEB

PENODIADAU PWYLLGOR YSGOL SUL Y CYFUNDEB. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Cymeradwyaf waith eich gohebydd yn y GOLEUAD am Awst 11, yn galw sylw Pwyllgor yr Ysgol Sul at y priodeldeb o benodi y Parch. R. Roberts, B.A., Ph.D., i ysgrifenu un o esboniadau'r Cyfundeb ar ei faes cynefin ei hun. Nid wyf na char na chyfaill i Dr. Roberts, ond gwyliais ei yrfa addysg a gwn dipyn o fanylion yr ymdrech ddewr a wnaeth yn Liepzig i enill ei Ph.D. Ond y mae sylwadau eich gohebydd yn agor y mater mewn gwedd eangach arno, a chredaf mai da a fyddai gwyntyllio ychydig yn eich colofnau ar dull Pwyll- gor yr Ysgol Sul o benodi ysgrifenwyr yr esboniad- a.u. Cydnabyddir yn gyftredinol nad oes yna yn mhlith yr esboniadau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf dd:m mwy na hanner dwsin yn werth eu cadw ac edrych arnynt; a Oirgc-lwch na wyr ond y Pwyllgor ei hun am dano ydyw y rheswm tros fod amryw o'r rhai a benodwyd wedi cael eu henwi erioed i'r gwaith., Os y cymer un drafferth i edrych pwy a fydd vn bresenol yn y Pwyllgor, gwel y naill flwyddyn ar ol y Hall paham yr enwir hwn ac arall i'r gwaith. Ond y peth rhy- feddaf ynglyn a gwaith y Pwyllgor ydyw y modd y ceidw allan yn llwyr o'r bron o'r gwaith hwn radd- edigion B.D. Prifysgol Cymru. Y mae ein Colegau Diwinyddol yn troi allan raddedigion y B.D. bellaeh er's tros bymtheng mlynedd, ac y mae erbyn hyn ddegau ohonynt yn weinidogion ein heglwysi, ac amryw ohonynt yn ysgrifenwyr cyson i'n cylchgron- au. ac ami un wedi cyhoeddi llyfrau ar bynciau Beiblaidd. Rhoddodd ein Cyfundeb o'r cychwyn ei gefnogaeth wresog i gwrs diwinyddol Prifysgol Cym- ru. Y mae nerth ein colegau wedi ei dreulio,— efallai, fel y dywed y Parch. G. O. Griffith, Dinbych, ar draul esgeuluso ereill,—i geisio parotoi ar gyfer gradd y B.D., a choronwyd ymdrech athrawon ac efrydwyr a. llwyddiant yn yr arholiadau. Gofynir gan rai nad ystyriant anhawdded yw cyhoeddi yn ddigolled lyfr Cymraeg, paham nad ysgrifenai ein gwyr graddedig- fwy o lyfrau Cymraeg, ac eto wele yr unig bwyllgor sydd gan y Cyfundeb a allai helpu yn y cyfeiriad hwn fel pe yn fwriadol, flwyddyn ar ol blwyddyn, yn cau y gwyr hyn allan o'r gwaith. Yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf un yn unig o'r holl raddedigion y gwelodd y pwyllgor yn dda ei benodi i wneud na llawlyfr na gwerslyfr. Cyhoedd- odd tri neu bedwar o raddedigion B.D. y blynydd- oedd cyntaf nifer o lawlyfrau eu hunain ar y maes llafur, a bu y rhai hyny, efallai, yn gystadleuwyr Bed beryglus i lawlyfrau y pwyllgor. Ai tybed i hynyna. ddigio y pwyllgor, nes ymdynghedu ohonynt gau yr oil o'r tras hwn allan? Yn sicr, rha.d fod rhyw reswm cyfrin gan y pwyllgor neu buasai, ynghorff pymtheng mlynedd o amser, wedi gallu anrhydeddu mwy nag un o'r gwyr y mae ein colegau ni ein hunain wedi rhoi goreu eu hadd- ysg ddiwinyddol iddynt, a'n Prifysgol wedi datgan eu cymeradwyaeth ohonynt. Os nad yw ein colegau mewn pymtheng mlynedd o amser yn gallu troi allan fwy nag un B.D. y gellir ymddiried gwaith fel hyn iddo, da a fyddai cymeryd mantais ar y cyfle pre- senol i dorri ein cysylltiad a. chwrs y B.D. jCymreig. Anfoner y rhai mwyaf uchelgeisiol o'n hefrydwyr am eu gradd ddiwinyddol i Rydychen. Ymddengys i ni nad oes gan y pwyllgor ofn penodi gwr gyda gradd ddiwinyddol i'r gwaith, os y bydd ef wedi enill y radd hono y tu allan i Brifysgol ei wlad ei hun. Efallai fod gan y pwyllgor, neu un o'r aelodau, ryw esboniad boddhaol i'w roi. Hyderwn mai di-sail yw ein hofnau y cauir graddedigion B.D. Cymru allan yn fwriadol. Hawdd ydyw deall paham y penodwyd llawer un sydd wedi ei benodi i'r gwaith. Ond da a fyddai cael rhyw esboniad paham y cauir allan o gylch cyfrin rai y buasai'r Cyfundeb yn disgwyl oddiwrth eu cwrs addysg a'u teitlau hir eu bod yn gymhwys i ysgrifenu esboniad ar ran o'r Beibl. Yr eiddoch, &c., GWYLIWR.

GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL

GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL. ,(AT OLYGYDD Y GOLETJAD). Syr,—Darllened Tongwynlais fy llythyr un- waith eto, ac yna fe wel, os nad yw yn anfeddygin- iaethol o ragfarnllyd, ei fod wedi gwneuthur cam a'r hyn a ysgrifenais. Ni chyhuddais y gwrthwyn- ebwr cydwybodol go nest o lochesu tu cefn i opiniyn- au politicaidd. Fe wel, ond iddo ddarllen yn ofalus, fod yna gyfeiriad yn fy llythyr at ddau ddosbarth o wrthwynebwyr rhyfel. Hoffwn wybod ganddo a oes esboniad i'r ffaith fod mwyafrif y gwrthwynebwyr hyn yn aelodau o'r un blaid boliticaidd, plaid a daflodd anfri ar grefyddwyr a chrefydd yn y dyddiau a aethant heibio? Carwn wybod pa beth allasai Prydain wneuthur yn wahanol i'r hyn a wnaeth yn Awst, 1914. Gwn yn eithaf da nad ydyw o wahan- iaeth i mi enwau pwy drosglwyddir i'r oesau a ddel: oni wyddai "Tongwynlais" mai cymhwyso geiriau gwrthwynebwr cydwybodol oeddwn pan yn defnyddio y geiriau hyn. Credaf gydag, ef,— Ein dyledswydd sydd yn y presenol." A'n dyled- swydd bresenol, mi goeliaf, yw dinystrio gallu Ger- mani am byth. Ai difater gan Tongwynlais fod plant y Seiat, meibion gweimdogion a blaenoriaid duwiol, yn dihoeni yn y ffosydd ac yng ngharcharau Germani? A ydyw wedi anghofio yn barod y diefl- waith wnaed yn Belgium? Beth am gaethgludiad gwragedd a merched,!Lille? A ydyw wedi gollwng o got lofruddiaeth Nurse Cavell a Capten Fryatt? A glywodd, tybed, am suddiad y Lusitania "? A ydyw o'r farn fod gan y fath allu a Germani hawl foesol i gymeryd ei lie mwyach ymhlith teyrnasoedd Ewrop ? Yr wyf yn barod i gydnabod fod amryw o'r rhai a elwir yn wrthwynebwyr cydwybodol yn onest, a haeddant well triniaeth na'r hyn a dder- byniant. Yr wyf yn cydymdeimlo a. hwynt yn eu dioddefiadau; ond beth am ddioddefiadau erchyll y bechgyn dewr, gonest a chydwybodol, sydd heddyw yn y ffosydd ac ar ein llongau? Beth ddywed Ton- gwynlais am danynt? A ydynt yn gwe'thredu'n groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd? Nid wyf yn filwr, nac yn filwriaethus, cas genyf filwr- iaeth, ac hyd yn oed bob ymrafael. Am fy mod felly nis gallaf lai na phleidio y teyrnasoecM sydd yn ymladd yn erbyn milwriaeth fygythiodd oresgyn Ewrop a'r byd. Rhaid i mi gyfaddef nas gallaf ddeall sut y medr yr un dyn sefyll o'r neilldu a, gwrthod cefnogi ein LlyWodraeth yn y dyddiau hyn. Nid wyf yn condemnio cydwybodolrwydd y gwrth- wynebwr, eithr condemniaf ei fatn. Y mae modd i ddyn fod yn gydwybodol ac eto weithredu yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd. Nid yw fod dyn yn gydwybodol yn brawf fod ei farn yn uniawn nac yn oleuedig.^ Os teimlo Tongwynlais awydd ateb, darllened yn fanwl yr hyn a ysgrifenwyd rhag iddo vchwanegu camwri at gamwri. Paham yr ym- guddia tu cefn i ffugenw? Tybed ei fod yn ysgrif- enu yn enw holl drigolion y pentref bychan, tlws, ar lannau y Taf? Diolchaf yn gynes i Owain Ddu am ei atebiad caredig, ond nid yw wedi rhoddi prawfion Ysgryth- yrol o'r priodoldeb o alw lesu Gr:st yn Ferthyr. I mi, syniad llac, undodaidd yw. Ond ymdaweled. Nid oes ynof finnau awydd 'chwa'?th fyned ar heresy hunt." Rhaid i mi gyfaddef nas gwydd- wn pwy ydoedd ar y dechreu. Nis gwyddwn fod fy hen gyfaill, O. T. wedi esgyn i oriel y beirdd. Derbynied fy llongyfarchiadau. Yr eiddoch, &c., Caerphili. DAYID J. EVANS.

a A CALL TO THE CHURCH OF TODAY

-———— «a» A CALL TO THE CHURCH OF TO-DAY. AT PIYGYDD Y GOLEUAD. I. Sir,—It would be as well for us in these days to realize what the Church of God should stand for. What is the Church in the world for? 1.—The Church must be representative She must stand ever and firmly for the loving, lowly Christ. 2.—The Church must be a witnessing Church imbued with the very spirit of Christ, standing among men, bearing her unequivocal and unchallengable testim- ony against all wrong; never silent when she ought to speak; never neutral where right and wrong are involved. 3.-The Church must a missionary Church, heeding the call of humanity and minister- ing to the need and comfort of all: She is to evangelize the whole world. 4.—She must be a min- istering Church. She is to lend a helping hand to every person and to every interest that is in need- She must reach all men and succeed in saving alt classes. 5.—She must be a teaching Church. She must announce and emphasize her character-stand- ards as well as her doctrinal-standards. It must be made clear to all men that the Church stands for higher standards of living, for loftier aims, for nobler purposes, for greater unselfishness, for a more sacrificing spirit than can be found elsewhere. I would warn everybody with whom I have the least influence that there must inevitably come a time of sharp adversity, that lean years and days of keenest suffering and distress taust lie ahead, and these are the days for arming ourselves to meet them. If I were asked where among all the Christian Churches of the age, the Gospel is to be found, I would answer where it always has been found: in the Christian, life and I belive we may find in Christianity itself the principle that may revive Christianity. Yours, &c., CAERLEON.

11ANFARWOLDEBi

"1 ANFARWOLDEB. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,-Darlleiiais gyda bias erthygl alluog a meistr- olgar y Parch. Evan Williams, M.A., Llanddeusant, yn y Traethodydd diweddaf, ar Safle Plato ar Anfarwoldeb yr Enaid." Ond carwn i ac eraill gael ei eglurhad ar hyn a ganlyn, Nid yw fod yr enaid yn syml yn profi ei anfarwoldeb ond profa ei dragwyddol fodolaeth i raddau pell. Ona mae yn ofynol cofio fod gwahaniaeth eang rhwng tragwydd- ol fodolaeth ac anfarwoldeb." Yr oeddwn i bob amser yn meddwl fod tra- gwyddol fodolaeth" ac "anfarwoldeb" yn ymadj roddion cyfystyr. Byddaf ddiolchgar iawn os rhydd Mr. Williams oleuni pellach ar y mater cyn hir yn y GOLEUAD. Yr eiddoch, &c. YMOFYNYDD. II