Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
PENLLWYN AR PARCH D POWELL RICHARDS

gywiro tipyn ar jr vparagraf¥ sydd yn chwerthinllyd o anghywir. nÿ"Ina y gwir am y brawd y sonir am dano, gan un oedd yn ei adnabod o'i febyd, ac a barhaodd yn gyfaill ffyddlon iddo a chanddo hyd y diwedd. Hoff ganddo bob amser oedd talu ymwel- iad a mi yn fy nghartref, bob tro y deuai ar ymwel- iad a'r ardal. Mab ydoedd y diweddar Barch. David Richards i John Richards, Dolblodau, un o hen fiaenoriaid eglwys y Methodistiaid yn Penllwyn ag a fu farw y flwyddyn ddiweddaf, ac aelod yn eglwys Penllwyn, yn mhlwyf Melindwr, oedd 'David Richards hyd yr adeg yr ymadawodd i Ysgol Brecon. Yn, yr eglwys hon, eglwys y Methodistiaid, y magwyd ef ac y dygwyd ef i fyny ,a bachgen pert, ffraeth, eyflym a 11awn bywyd ydoedd. Ac yn y cyfnod hwnw y meithrinwyd ynddo yr awydd am ragori fu yn sym- byliad iddo ddringo mor uchel mewn blynyddoedd dilynol. Daeth yn adroddwr penigamp cyn gadael ei ardal enedigol a'r eglwys Fethodistaidd ym Mhen. llwyn, a chipiai y gwobrwyon yn yr holl eisteddfod- au gynhelid yn y cylch hwn bryd hyny, ac yr oedd ei weled ar y llwyfan yn ddigon i benderfynu pwy oedd i gael y wobr tra fu yma. Rhyw ychwa**gi»d dieithr i mi, cymharol ddiweddar, mi dybiwn, oedd yr enw canol "Powell. Nid anghywir yw yr hysbysiad mai brodor o Ben- llwyn ydoedd, ond anghywir yw dweyd fod capel Penllwyn yn mhlwyf Capel Bangor. 'Does dim plwyf o'r enw hwnw i'w gael yng Ngogledd Aber- teifi. Melindwr yw enw y plwyf, 'tae bwys am hyny. Yr eiddoch, &c., Penllwyn. JOHN MORRIS.

w PARK HAL CAMP OSWESTRY

-———— w PARK HAL:" CAMP, OSWESTRY. (AT OLYGYBD Y GOLBUAD). 'Syr,-A gal ft drwy y GOLEUAD gydnabod gyda diolchgarwch cynes iawn garedigrwydd cyfeillion sydd wedi bod yn meddwl am y Cymry yn y gwersyll hwn. Yn ychwanegol at y rhai a gydnabyddwyd beth amser yn ol bellach, y mae y cyfeillion a enwir isod wedi anfon rhoddion gwerthfawr tuagat ddwyn y gwaitli ymlaen gyda'r bechgyn yn yr hut sydd wedi ei ganiatau i mi fel caplan gan yr awdurdodau milwrol. Fe ddeallir mae'n ddiau mai yr hyn a elwir yn Chaplain's hut ydyw, neu fel yr wyf fi wedi mentro argraffu ar y papur-ysgrifen a ddarperir i'r bechgyn, The Calvinistic Methodist Hut." iNi fwriedir iddo fod yn lie i gynal Church Parade. Y mae yn rhy fychan. Nid yw y Swyddfa Ryfel yn daTparu lleoedd i hyny i neb, ond y mae pob caplan hyd y mae yn bosibl yn cael Chaplain's hut lie y gall gyfarfod y bechgyn yn niwedd y dydd. Bydd- af fi yn agor yr hut am 5-30 ac yn ei gadw yn agored hyd 9 o'r gloch. Yr anfantais fwyaf ynglyn ag ef ac ynglyn a hut pob caplan arall yma, yw eu bod twedi eu lleoli yn rhy bell oddiwrth y bechgyn a ddisgwylir i mewn. Efallai yr un pryd mai nid janfantais i gyd yw eu pellder, gan mai yr amcan penaf mae'n ddiau, wrth eu codi, oedd cael tawel- wch, a'u bod wedi eu codi ar gyfer dosparth o fech- gyn sydd yn hoffi bod yn y crowd ynghanol y swn a'r miri, ond mewn ychydig o neillduedd a distawrwydd. Da iawn genyf ddweyd fod nifer dda o rai felly yn dod ac fod y nifer yn cynyddu. An- fonwyd llawer o'r Cymry i'r Aipht ac i Ffrainc yn ystod y ddau fis diweddaf, a chollasom drwy hyny lawer o'r bechgyn ffyddlonkf. Aath yr hut lawer yn wacach am rai wythnosau. E'rbyn hyn, ar ol ych- ydig o amser digalon ,y mae y nifer lawer uwch nag erioed. Y mae genym nifer lied dda o lyfrau iddynt, a misolion, a newyddiaduron Cymraeg. Dar- perir ychydig o games' hefyd 'iddynt. Y mae cyfeillion Sion hefyd wedi rhoddi benthyg piano i ni. Ond yr hyn sydd yn golygu cost arianol i ni yw y ddarpariaeth at ysgrifenu sydd genym, a'r gramophone hefyd ag y mae y bechgyn mor hoff ohono, a'r galw am records' newydd sydd. Nos iFawrth, am 7 o'r gloch, bydd geuym Gyfarfod Gweddi, ac y mae hwnw yn gyfarfod tra bendithiol. Yr oedd dros drigain o fechgyn wedi dod ynghyd i weddio y ddwy wythnos ddiweddaf, ac ymhob cy- 1 farfod y mae rhywun yn cymeryd rhan mewn gweddi yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed. Nis gall yr un rhai fod ymhob cyfarfod oherwydd fod eu dyled- swyddau yn gwneyd eu hamser yn ansicr. Ond y mae ugeiniau lawer yn idod i'r Cyfarfod Gweddi pan y gallant, er mai rhyw 50 neu €0 ar gyfartaledd fydd yn bresenol ar yr un pryd. Cyfarfod Gweddi hynod yw hwn. Gonestrwydd a symled,d y gwedd:au sydd yn fy ngorchfygu i, a gwlith trwm y Nefoedd sydd bob tro yn disgyn ar y cyfarfod. Rhwng y gwedd- iau dywedir adnodau, a hyny jrydag eneiniad amlwg. Y mae yr hut, er yn rhy fychan ac yn rhy bell, yn ateb diben da. Y mae yn rhoi mantais i ddod i L gyffyrddiad personol a'r bechgyn, ac i gael gair back 'V gyda hwynt. Gyda golwg ar y crwydredig, wrth gwrs rhaid myned ar eu holau. ac y mae llawer ohonynt. Yr wyf wedi derbyn llvthyrau lawer o'r Aipht ac o Ffrainc, ac oddiwrth rieni yn Nghymru, yn dweyd eu bod yn diolch llawer i'r Nefoedd am yr hyn a wneir yn yr hut, a llawer o'r bechgyn yn dweyd fod arnynt hiraeth mawr ar ei ol, ac yn enwedig ar ol y Cyfarfod Gweddi, a'u bod wedi cae l bendith lawer vnddo. Hiraeth sydd yma am danynt hwythau hefyd. a gweddio taer drostynt yn y cyfar- fod nos Fawrth. Yr wyf vn dweyd y pethau hyn ir mwyn i'r cyfeillion caredig sydd wedi anfon arian, lyfrau, 'c. wybod mai nid ofer yw eu caredig- rwydd. Gallant fod yn sicr fod bendith ar y miloedd Testamentau y galluogwyd ni i'w rhanu drwy yr arian a anfonw Y d, au bod gan y bechgyn sydd yma ? ? 4'r rhai sydd erbyn hyn yn bell oddiyma. Derbyn- k 5vq)ld oddiwrth y personau ca.nlynol. Diolch yn ft fawr iddynt. Parch. R. E. Williams (a chyfeillion), Philadelphia, Pa., U.S.A. 4 4 3 Mr. Edward Watkin Jones, 78, Manod aoad, Blaenau :Ffestiniog. 0 10 0 Ffrynd 0 2 0 Miss L. Thomas, Milwaukee {un o Leyn) drwy law Ceridwen Peris. 0 15 0 Roberts ac Edwards, Estate Agents, (Liverpool 1 0 0 Mr. J. Vaughan Hughes, 280, Anfield Road, Liverpool 0 5 0 Pwyllgor y Milwyr, drwy law Mr. J. Owens, Caer. 10 0 0 Swyddogion i(Methodistiaid) y 3-7th R,W.F 1 17 6 Mrs. E. Jones, illaurwst 0 10 0 Parch. W. :S. Jones, Caer. 1 0 0 Teulu Broneraicr. Corwen. 2 10 0 Derbyniwyd hefyd lyfrau, dilladau, &c., oddiwrth y personau canlynol :-Cyfaill o Padeswood, Parch. W. M. Griffith, M.A., Dyffryn; Mr. T. W. Wil- liams, Penygroes (i fechgyn o ardaloedd Penygroes) Parch. R P. Griffith, Cefncanol; Second Lieut. I. V. Hoskins; Mrs. Lloyd Williams Croesoswallt; Mr. R. M. Roberts, eto; Mr. W. Llewelyn Davies, eto. Mrs. Ernest Owen, eto. Y Llyfrfa, drwy law y Parch. D. O'Brien Owen; Mr. R. P. Hughes, Corwen; Mr. Roberts, Wasperton House, Caernarfon; Mr. Richard Wil- liams, Bodhyfryd, eto; Cyfaill o Bethesda, Arfon; Mr. Owen Thomas, 21, Waterloo Road, Runcorn, Mr. R. Jones Cerniog Bach, Nefyn; Mr. W. Jones, Yr Eifl, Pwllheli: Mr. W. iH. Ellis, Woodcroft, Croesoswallt; Parch. J. Owen Jones, B.A., Caer- narfon. Yr ydym yn dra diolchgar hefyd i'r swyddfeydd gwahanol am barhau i anfon i ni yn gyson y cy- hoeddiadau canlynol:—Y Traethodydd, Y Drysorfa, Trysorfa'r Plant, Cymru, Cymru'r Plant, Yr Eur- grawn, Y Winllan, Y Cerddor, Y GOLETIAD, Y Genedl Gymreig, North Wales Observer and Express, Y Dinesydd, Y Faner, Y Cymro, Y Brython, Y Glorian. Y mae yma lawer o fechgyn o Fon, a llawer o ymholi am rai o'r newyddiaduron a gy- hoeddir yno. OS" digwydd i lygaid cyfeillion o Fon ddisgyn ar y llinellau hyn hwyrach yr anfonent i ni y papurau a gyhoeddir yno, yn enwedig y Clorianydd, a'r Wyntyll. Y mae y bechgyn yn teimlo dyddordeb mawr yn eu hardaloedd gartref, ac yn awyddus am bob newyddion yn eu..cylch, a chan fod yma fechgyn o bob ardal yn y Gogledd, buasai yn dda genym gael pob newyddiadur lleol a gyhoeddir. Buasem eto yn gallu gwneyd gyda mwy o lyfrau pwrpasol. Ychydig wythnosau yn ol agor- wyd yr ysbyty newydd sydd yn cynwys tua 500 o welyau. Yr mae yn adeilad ardderchog a phob darpariaeth ynddo ar gyfer y rhai svdd yn wael eu hiechyd; ond nad oes yno lyfrau. Fel rheol, bydd yno ddwsinau o Gvmry, a mawr ydyw awydd llawer ohonynt am rywbeth i'w ddarllen. Aethum a, chy- maint ag y medrwn eu hebgor iddynt yr wythnos o'r blaen, ond prin yw y nifer sydd mewn llaw ar gyfer y rhai sydd bob prydnawn yn dod i'r hut,' a'r rhai sydd yn yr ysbyty. Os anfona cyfeillion lyfr- an pwrpasol, fe ofelir am eu cadw yn yr ysbyty ar igyfer y Cymry fvdd yn dod yno o dro i dro ar hyd yr amser y byddis yn y gwersyll hwn. Gellir anfon fel o'r blaen nnrhvw barsel i mi— C/o Quartermaster. 3/7 R. IV. P., Park Hall Camp, Oswestry. Cyfeirier pob llythvr i mi eto fel o'r blaen i 22, Ferrers Road. Oswestry. Gyda diolchgarwch cynhesaf oddiwrth y bechgyn. Yr eiddoch yn gvwir. D. HOSKINS.

MISS MAGGIE EVANS TREFNEWYDD PORTHCAWL

MISS MAGGIE EVANS, TREFNEWYDD. PORTHCAWL. Bu farw y chwaer anwyl a charedig uchod foreu Gwener ,J4eg cyfisol, yn 43 mlwydd oed. Merch ydoedd i Mr. Walter Evans a'r diweddar Mrs. Eliza Evans, gynt o Llanbedr. Bu yr ymadawedig yn gystuddiol am flynyddau lawer. Symudodd y teulu i Drefnewydd er ceisio adgyfnerthiad i'w hiechyd. Barnwyd ar y dechreu y cawsai adferiad, ond vn fuan, er cael goreu y meddygon ,gwelwyd arwvdd- ion o ddadfeiliad, ond daeth y diwedd yn Iled ddi- symwth a gorffenodd ei gyrfa yn orfoleddus, gan bwyso yn drwm ar Dduw ei thadau. Yr oedd yn hanu o deulu parchus a chyfrifol mewn masnach a chrefvdd. Cafodd ei magu ar aelwyd neilldnol o grefyddol. Ei thaid ydoedd yr enwog Barch. John Jones, Llanbedr. Cadwodd hithau draddodiadau y teuln yn fyw ac yn lan. Nodweddid ein chwaer gan amryw rasusau. Gwnaeth y rhai hyn hi yn anwyl gan bawb. Yr ydoedd yn meddu parch dwfn tuag at weinidogion y Testament Newydd, ac ymgeledd- odd lawer ohonynt mewn dydd o galedi. Bu hefyd yn garedig ac haelionus tuag at bob mudiad daionus. Yn ystod blynyddau o gvstudd ma;th dangosodd amynedd mawr. Dioddefodd boenau mawrion yn hollol ddirwgnach, a chafodd ami ymwelydd fendith yn ei hystafell yn yr olwg ar ei sirioldeb. Bydd bwlch a cholled fawr ar ei hoi yn yr eglwys a'r gymydogaeth., Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. Unig ydyw ei thad galarus. wedi colli ohono bellach ei anwyl briod a'i ferch. Y mae iin o'i blant eto'n fyw ,ac yn hynod ddiwyd ac haelionus gyda phob achos da, priod Mr. T. Evans, U.H., Craig-y-par^, IPentyrch, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn un 0'r (lynion pwysicaf ynglyn a'r fasnach lo yn >Nehevydir Cymru. Cymerodd y gladdedigaeth le yn Llanbedr. Claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni yn meddrod y teulu. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Parchn. E. W. Pearce, Porthcawl, a D. Evans (A.), Llan-' bedr. Heddwch i'w llwch hyd foreu'r adgyfodiad.

YN 98 MLWYDD OED

YN 98 MLWYDD OED. MRS. EDWARDS, LLANGEFNI. Fel y mae yn hysbys i lawer bellach, mae'r bcln wraig oedranus a pharchus hon wedi marw a'i chladdu. Yr oedd wedi byw yn y byd 98 o fiynvdd- oedd, a bu farw Awst 2, yn Llangefni, yn inhre- swylfod ei merch, Mrs. Garland. Er yn hen, nid dyna ei hynodrwydd penaf. Yr oedd yn batrwm o Gymraes ddiwyd, ddeallus, ddarllengar a chanddi drysorfa oadgofion yn ymestyn yn ol i ieuenctyd y ganrif o'r blaen. Bu yn gwrando enwogion y pwlpud Cymreig er pan yn ferch ieuanc; trwythwyd ei hys- bryd gan ddylanwadau crefydd, ac yn y pethau byn yr ymddigrifai ei henaid yn benaf. Mam yn Ig rael mewn ysbryd a dull a diwyg hollol Gymreig. Bu yn adrodd penod o'r Ysgrythyr o flaen Johri, Elias ac eraill o'r hen bregethwyr oedd yn teithio Elias ae eraill o'r hen bre?, Cymru y pryd hyny. Eto, nid oedd yn byw yn y gorffenol yn barhaus, pan nad oedd bosibl i neb fod yn fwy ei pharch i weinidogion yr Efengyl hyd ei dyddiau diweddaf. Byddai yn ami yn barod i ddweyd gair wrth bregethwr ieuanc er ei galonogL. Teimlai y dyddordeb dyfnaf yn symudiadau cym- deithasol, gwleidyddol a chrefyddol Cymru, ac hyd' o fewn ychydig wythnosau yn ol ni phylodd ei llygaid ac ni phallodd grym ei deall. Ganwyd hi yng nghymydogaeth Talybont, Cered- igion, ac yno y treuliodd y rhan helaethaf o'i hoes yn fawr ei pharch a'i chymwynasgarwch. Gweddw Mr. John Edwards {Troedrhiwfedwen) ydoedd, yr- hwn a gladdwyd 34 mlynedd o'i blaen. Nid oedd' manteision addysg yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig, 80 neu 90 mlynedd yn ol yr hya ydynt heddyw. Arferai hi gerdded bob dydd i ysgol y Llandre, yr hyn oedd tua thair milltir o'i chartref. Yr oedd yn hoff o gymharu yr ysgol hono a rhai'r oes bresenol. Yno dysgodd ddarllen ac ys- grifenu yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd gandcri law ysgrifen neilltuol o glir a chadarn, ac yr oedd yn rhyfedd sylwi ar lanweithdra ei llvthyrau. YH ypgol Llandre yr oedd Dr. 'Lewis Edwards yn -ddis- gybl hynach yr un pryd. Gan'fod Penllwyn yn rhy bell iddo gerdded oddiyno bob dydd, arhosai yn Ty'nrhos (cartref y Parch. Ddr. Wm. James, Man- chester). Bu yn athrawes yn Ysgol Sul y Methodistiaid yn Taliesin am amser maith, dyweder tua 50 o flYJl- yddoedd, canys yno yr oedd yn aelod, ac yn hen gapel Tre'rddol, cyn symud yr achos i Taliesin. Felly, JIu ydyw y merched a basiodd drwy ei dos- barth yn y cyfnad maith a nodwyd. Hyfryd a dyddorol ydoedd clywed a gwrando ar amryw o'i hen ddisgyblion, erbyn hyn yn wragedd a mamau, ddydd yr angladd ac wedi hyn, yn cyfeirio at y ffaith, a'u hadgofion am dani hi a'i dosbarth. Try- sorodd yn ei choi yr Efengyau a'r Epistolau, a llaw- er o'r Hen Destament. Darllenodd y Beibl lawer gwaith drosto. Bum' mlynedd ar hugain yn ol yr ymadawodd o'r ardal, gan fyned i fyw at ei merch, Mrs. Garland, yn Llangefni, ac yno y treuliodd weddill ei hoes, yn gartref ol iawn yn y dref ac eglwys Moriah. Yr oedd yn adnabyddus i lawer ym Mon ac yn fawr ei' pharch. Bu farv ar ol deng wythnos o gystudd ysgafn a di-boen, yn hollol hyderus. Yr oedd dipy. yn gyfriniol yn ei chrefvdd. Arferai bwysleisio mai peth personol ydoedd crefydd-y berthynas rhwng Daw a'r person-a chredwn iddi fyw ei hoes faith dan ddylanwad yr ysbryd yna. Yr oedd yn gyf- uniad o ben da a chalon dda, ac yn gyffredin yr olaf yn llywadraethu'r blaenaf. Nodweddid hi fel un syml a dirodres, ac fe fuasai braidd yn ysmala gan- ddi feddwl fod neb yn ysgrifenu gair am dani. Pan yn gorwedd yr wythnosau diweddaf, dywed- odd wrth un o'i meibion, Nid wyf yn ofni yn awr. Fe gaf fi gyfiawnder, ac nid oes genyf ddim arall i ddisgwyl. Y mae Duw yn holl wybodol, holl ddoeth a thrugarog, hefyd yn hollol bur. Nid oes ond y pur all weinyddu cyfiawnder," yna ychwanegodd, Yr wyf yn meddwl am brofiad fy mam wrth farw yr oedd ganddi hithau sicrwydd." Hanai Mrs. Ed- wards o deulu crefyddol. Yr oedd ei thad a'i mam: felly. Yr oeddynt o blith y pererinion arferant fyned i Llangeitho bob mis i'r Cymun am dymor. Yr oedd i Mrs. Edwards bedwar o blant yn fyw, set Mrs. Jones, Llandrindod; Mri. Hugh a John Ed- wards, !Liverpool, a Mrs. Garland, Llangefni. Y mae pedwar o'i hwyrion yn y fyddin, dau yn Ffrainc o Langefni, un yn yr Aipht o Landrindod, un yn Aldershot-Pri-vate D. T. Garland, yr hwn a ddaeth i'w hangladd. Cymerodd yr angladd le ddydd LIun, Awst 7fed, yn Talybont. Yn Llangefni, cyn cychwyn o'r ty, cvnhaliwyd gwasanaeth, v Parch. Dd. Thomas (W.), Beaumaris (genedigol o Tre'rddol), yn darllen rhant o'r Ysgrythyr, a gweddiodd y Parch. G. Williams. Yr oedd swyddogion eglwys Moriah yn bresenol, a lluaws p'r trefwyr. Yna cychwynwyd gyda'r trem 7-50 am y Llandre a Thalybont. Cyhaeddwyd gor- saf Llandre am ddau o'r gloch, a Thalybont am dri* Yr oedd amryw o gyfeillion wedi dyfod i'r orsaf, eraill yn cyfarfod ar y ffordd, a lluaws yn disgwyl yn y pentre'. Gweinyddwyd yn y fynwent gan y Parch. Thomas Jenkins, gydag anerchiad briodol yit- amlinelln bywyd yr ymadawedig. a gweddiwyd gan Dr. D. H. Williams (Newport), Ilywydd Cymdeith- asfa'r De. Hir a hardd oedd ei hoes .a melus wedi'r ymdaith fydd gorffwyso yn mro ei mebvd. Y prif alarwyr oeddynt Mr. Hugh Edwards a Mr., John Edwards, Liverpool (meibion); Mr. a Mrs.. Garland, Llangefni (mab-yng-nghyfraith a mereb) Private D. T. Garland, ;R.F.C. Mr. Arnold Gar- land, Colwyn Bay,(wyrion), a .Miss Garland {wyres)1. Amevlchiadau anorfod rwystrodd y Parchn. J. Hen- ry Williams, Porthmadog a .Prys Owen, Llangefni, i fod yn bresenol yn yr angladd.