Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

CARDIAU DIRWEST A PHURDEB. (Dan nawdd y Gymanfa Gyffredinol). Cymhwys i'r amseroedd, wedi eu hysgrifenu gan rai o wyr blaenaf y Cyfundeb, ar y Testynau canlynol: (I} Hap-Chwareuon; {2) Yr Eglwys a Dirwest; (3) Cartref; (4) Purdeb; {5) Dirwest a Chymdeithas; (6) Beth ellir wneud a'r Arian? Prisiau :-100 am Is.; 200, Is. 9c.; 300, 2s. 5c.; 400, 3s.; 500, 3s. 6c.; 1,000, & wedi talu'r cludiad. DROS 30,000 WEDI EU GWASGARU YN BAROD. I'w cael oddiwrth y Parch. JAMES JONES, WAENFAWiR, CAERNARFON. HYSBYSIAD. Cvfeirniad newydd yr Efengylydd William H. Griffith yw- 9, HERBERT TERRACE. BRIDGEND, GLAM., neu- ■ C/o REV. JOHN THOMAS, Secretary of the Forward Movement, CARDIFF. Y N EISIBU yn dioed, L150 ar eiddo Cyfun- *■ debol. Ymofvner, gan nodi'r 116g, a, M.N., GOLEUAD Office, Carnarvon. Sep. 1. APEL AT BREGETHWYR M.C. Yn gymaint a bod Llyfr Cyhoeddiadau iSabbothol y Gro, ger Corwen, wedi ei golli, fe ddymunir ar i bob pregethwr sydd a chyhoeddiadau yma o hyn ymlaen i hysbysu hynny trtoy gyfrwng y GOLEUAD. E. R. JONES. BRIGHTEN YOUR HOME by getting your -D Electroplated Articles, Silverplated as new at small cost. Write, for Free Price List, to Town- shend's Ltd., Ernest St., Birmingham. W ANTED-By September, a place as House- 'V keeper to a Minister, by a capable person. 7 years' experience Ín same. Apply,—X.Y., GOL- EUAD Office, Carnarvon. AT EIN GOHEBWYR. Bu raid i ni gadw rhai llythyrau mewn Ilaw. Deuant yn fuan.

Y COLEGAU

Y COLEGAU. Gobeithio y ceir rhyw arweiniad i'r rhai sy'n petruso ynghylch y ewestiwn o sefydlu cadair neu gdeiriaudiwinyddol ynglyn a. Phrifysgol Cymru yn Sasiwn Bangor ddydd Mawrth nesaf. II yd yn hyn ychydig iawn o ddim pendant a galwyd, ageithrio anerchiad y Prifathro Prys yn Sasiwn Penllwyn, a mynegi ei fam bersonol ei hun yr oedd yntau i raddau pell..Yn y pendetfytiladau. a gynygir i Sasiwn Bangor yr wythnos nesaf- dywedir y dylid penodi athrawon a darlith- wyr mewn diwinyddiaeth yng ngholegau'r Brifysgol ar ol ymgynghoriad a Bwrdd a, fo'n cynwys cynrychiowyr y Colegau Diwinyddol, ;ac y dylid cydnabod pynciau cynorthwyol i .efrydiaerth mewn diwinyddiaeth, me.gis Groeg y Testament Newydd, Hebraeg, ac Hanes- iaeth Eglwysig, fel cwrs rheolaidd am radd' B.A. Ond ychwanegir y penderfyniad hwn:- Ystyriwn fod yn gwbl angenrheidiol i bob pre- gethwr ieuanc fo yn myned trwy, neu wedi myned trwy, unrhyw gwrs Diwinyddol y dichon y Brif- ysgol ei ddarparu, fyned i Goleg perthynol i'n Cyfundeb ni ein hunain i gael ei hyfforddi mewn iDiwinyddiaeth Athrawiaethol a Bugeiliol, Hanes y Cyfundeb, &c., ac i dderbyn pob cynorthwy i "feithrin ynddo ei hun ddefosiwn a chrefyddolder ysbryd ar gyfer gwaith cysegredig Gweinidogaeth y Gair. Yr anhawster fydcl, cysoni'r penderfyniad diweddaf a sefydliad cadair ddiwinyddol yn y Colegau, Cenedlaethol a. chael gan efrydwyr diwinyddol, os cymerant gwrs mewn Arts ac mewn diwinyddiaeth yn un o'r colegau hynny fyned ymlaen wedym i'r Bala neu i Aber- ystwyth. Er mwyn ein darllenwyr nad vdynt wedi dilyn y pwnc efallai y goddefir i ni roddi am- linelliad byrr ohono. Y cwestiwn ydyw a ddylid sefydllu cadeiriau diwinyddol ynglyn a. Phrifysgol Cymru. Ar hyn o bryd y mae hynny yn groes.i'r Siarter, ond y mae'n sicr y. gwneir cyfnewidiadau yn honno gyda hyn, .a dibyama cwestiwn y gadair ddiwinyddol i raddau pell ar farn enwadau crefyddol Cymru. Y mae gan bob un o'r enwadau hynny eu colegau diwinyddol eu hunain, a'r cwestiwn iddynt hwy ydyw a ydynt yn fodd- Ion yrnddiried addysg ddiwinyddol eu gweini- dogion i'r Brifysgol yn gyfangwbl, neu a eillir cael cydweithrediad rhwng y colegau diwinyddol a'r Brifysgol, fel yn Manchester er engraifft, yntau a yw'r enrwadau i gadw eu haddysg ddiwinyddol yn gyfangwbl yn eu dwylaw eu hunain, a'r Brifysgol i aros fel y mae, heb ddysgu diwinyddiaeth o gwbl. Y mae llawer o wahanol farnau ar y mater, ond barn y Cyfundeb, hyd y mae wedi ei fynegi, ydyw y dylai'r Brifysgoil ddysgu "Brenhines y Gwyddorau" dan amodau neilltuol parthed gofal gyda, dewisiadi a.thrawon, end nad yw'r Cyfundeb, serch hynny, i roddi hebio ei golegau ei hun nac i ollwng ga-fael ar addysg y rhai sydd a,'u hwynebau ar y weinidogaeth yn y Corff. Y mae o leiaf ddwy ffordd i roddi hyn mewn gweithrediad. Gellid cael, fel yn Manchester, gydweithrediad rhwng y. cotlegau enwadol a'r Brifysgol, gydag athrawon y naill yn darlithio yn y llall. Golygai hynny symud y Balai naill ai i Fangor neu i Aberyst- wyth. Mantais y cynNllll, y mae'n debyg, fuasai sicrhau darlithiau uwchraddol yn y Brifysgol, a gadawn i'r sawl sydd yn gwybod am athrawooi Prifysgol Cymru farnu a, geir felly well .manteision ac hyfforddiant nag a geir eisoes yn ein colegau diwinyddol. CynKun arall ydyw trosglwydido yr holl addysg ddiwinyddol i'r Brifysgol, gan symud yr efrydydd wedyn, neu ei berswadio i fyned, i'r Bala neu i Aberystwyth, am gwrs o ddiwiinyddiaeth fugeiliol, pregethu, ac adran- nau cyffelyb. Ymddengys fel petai'r pender- fyniada.u a gyflwynir i Gymdeithasfa'r Gogledd yn cymeryd cwrs felly i ystyriaeth. Ond y mae llwybr araill hefyd, sef un a awgrymir ym mhumed penderfyniad, y Cyf- eisteddfod, sydd fel y canlyn:— Y dylid cydnabod pynciau cynorthwyol i efryd- iaeth o Ddiwinyddiaeth, e.g., Groeg y Testa- ment Newydd, Hebraeg, Hanesiaeth Eglwysig, fel cwrs rheolaidd am y radd o B.A. Y mae'n amlwv y gallai'r efrydN-vr sydd yn myned i me,wn am eu B.A. cyn myned i'r Bala neu i Aberystwyth fanteisio ar y cwrs hwn, canys byddant felly yn barotach i ddechreu ar eu hefrydiau diwinyddol yn un o'r colegau enwadol. Nid ydym yn gweled y gall fod; gwrthwynebiadt i hwn, ond clywsom resymau cryfion yn cael eu dwyn ymlaen dros wrthwynebu'r naill a'r (iiall o'r cynllun- iau ereill. Clywsom hefyd resymau cryfion o'u plaid. Y mae'n mater yn un pur bwysig, nid i'r Cyfundeb a'r enwadau crefyddol ereill yn unig, ond hefyd i Gymru a'i dyfodol. Dis- gwyliwn gaetl trafodaeth bwyllog a goleuedig, arno ym Mangor fel y gallo'r Cyfundeb symud ymlaen yn unol art, yr hyn fydd ddoethaf a goreu.

WRTH FYND HEIBIO

WRTH FYND HEIBIO. YR EISTEDDFOD. Bu pwyllgor Aberystwyth yn petruso'n hir a ddylid cynal yr eisteddfod! eleni a'i peidio. Bu yno ryw gymaint, meddir, o anghyd- welediad1 a llawer iawn o bryderu. Ond heddyw y mae'r pwyllgor, gyda mwy na deu- ddeg cant o bunnau yn ei boced, yn rhyfeddu at ei ofnau ei hun ac yn meddwll fod cynal eisteddfod genedlaethol ar adeg rhyfel yn beth ardderchog iawn. Chwareu. teg i'r pwyllgor. Nid wyf yn rhyfeddu fod llawer wedi ofni a phryderu, a da iawn genyf fod eu heofndra yn y diwedd Wedi ei goroni a'r fath Iwyddiant diamheuol. Ni welwyd mwy o bobl mewn eisteddfod fawr erioed, ac yr oedd y tyndra, yn stesiom Aberystwyth ddydd Sadwrn, a'r tyrfaoedd yn troi adref, yn arbenig i'r De, yn rhywbeth i ryfeddu ato. Taerai un aelod o'r pwyllgor y byddai peiriant un o'r trenau yng Nghaerdydd cyn y bydda,i'r .rhan olaf o'r tren yn gadael Aber- ystwyth Tipyn o ormodiaeth, hwyrach, ond hollol esgusodbl mewn aelod o bwyllgor yr eisteddfod genedlaethol fwyaf llwyddianus a, gynhaliwyd erioed1. Gellir dywedyd peth felly yn ddibetrus am ochr aria,nol yr wyl; yr cedd y trefniadau hefyd, hydly clywais i, yn rhagoroI, a'r holl swyddogi.on yn gwrtais ac yn barod iawin i gynorthwyo pawb. Y mae rhywbeth yn awyr Ceredigion, rhywbeth caredig, siriol, Cymreig, sydd i'w deimlo hyd yn oed mewn tref fel Aberystwyth lie y mae cynifer o ddieithriaidi a, Saeson yn yr haf j ac yr oedd yr ysbryd hwnnw yn cyniwair trwy'r eisteddfod. Ond y mae'n rhaid i mi gyd- nabod mai ychydig o'r eisteddfod a gefais i; yr oedd yn brydnawn lau pan gyrhaeddais i'r dref ac yr oedd myned i'r babell y pryd hynny yn amhosibl. Yr oedd ynofiIoedd yn gwrando ar Mr. Lloyd George-llawer ohonynt heb erioed ei weiled o'r blaen, a'u brwdfrydedd yn rhedeg trosodd. "Isn't he lovely! Oh, isn't he lovely!" ebe un ferch ieuanc a, safai yn ymyl pan yr oedd yr Ysgrif- enydd Rhyfel yn myned heibio, ond nid wyf yn meddwl i Mr. Lloyd George glywed- Prun bynag, ofer oedd ceisl3 ymwtlilo trwy frwdfrydedd fel yna, a rhoddais dro o gylch y, cae. 1 0 Y CAE. -0- Ar 'lawer cyfrif y mae'r cae o amgylch pabell eisteddfodi genedlaethol llawn mor ddyddorol a,'r babell ei hun. Yno y gwelwch hen gyfeillion a chydnabod nas gwelsoch, efallai, ers blynyddoedd, ac yno y clywch am y peth yma a'r peth arall ynglyn a'r eistedd- fod; Sonid ar y cae dydd lau am ddonioldeb yr Athro Edward Edwards fel arweinydd, am araeth .ragorol Mrs. Herbert Lewis, am rai o sylwadau Syr Owen Edwards, ac am araeth Mr. Lloyd George. Credaf i mi glywed mwy am ddawn, Mr. Edward Edwards, nag am ddim arall. Dyma'r tro cyntaf iddo ef arwain mewn eisteddfod genedlaethol, ond y mae'n sier y bydd galw arno i wneuthur hynny eto. Ni chlywais fawr o siarad am y cystadleuon llenyddol, ac yn wir nid oedd ddim yn neiillt-uol iawn idynu sylw yn y rhai hynny. Enillwyd y, gwobrau pwysig gan wyr cedd eisoes yn adnabyddus, a rhai ohonynt, hwyrach, yn ddynion a, ddylasai roi'r goreu i gystadlu bellach. Y mae'n wir na enillodd bardd y gadair gadair na choron genedlaethol o'r blaen, ond y mae yntau yn bur adnabyddus. GwrandaWodd y dorf anferth, fel arfer, yn astud iawn ar yr Athro J. Morris Jones yn darllen ei feirniadaeth ac yn difynnu diairnau o'r awdl fuddugol; y mae'n debyg nad oes neb yng Nghymru a. all wneuthur hyn ond efe. Clywais dipyn o ddlyfalu pwy oedd yr ymgeisydd arall y tybiai'r Parch. J. J. Williams y dylsid ei gadeirio, ond ni chafwyd dim goleuni eto. Gwelais un peth arall ddrydd lau, sef holl ogoniant yr Orsedd yn cael ei symud mewn hamperi mewn oerbyd digon diolwg, oddiar y maes. Yr oddydedd a,'r pethau ardder- chog ereiill yn cael eu cludo fed pe na buasent ond pentwr o bethau a brynodd rhywun yn rhad mewn rhywi arwerthiant. Dywedodd rhai ohonom, wrth Eifionydd nad oedd hyn yn deilwng o fawr .a dyrchafedig urddas yr Orsedd, ond yr ateb a, gawsom oedd y bydd.ai'r Orsedd byw ymhell ar ol ein marw, a'n hanghofio ni. Y mae'n ddigon tebyg. Gyda Haw, clywaisi fwy nag unwaith y buasai rhai o'r areithiau yn yr Orsedd yn wen, pe buasent yn fyrach o'r haner.. Ond efallai fy mod yn cablu urddas eto. _r\- Y GYMANFA. Y peth newydd ynglyn a, r eisteddfod hon oedd y gymanfa ganu fawr a gynhaliwyd trwy'r dydd ddydd Gwener. Daeth tyrfaoedd anferth i hon, mwy -hyd yn oed nag i gyrdd- au ereill yr wyl, a, dywedir mai nid yr un bobl oeddynt yn hollol. Daeth pobl y wlad o gylch Aberystwyth yn lluoedd i hon, er fod y cynhaeaf yd wedi dtechreu, ac nid anghofiaf yr olwgi oedd ar y babell enfawr brydnawn ddydd Gwener. Nid wyf fi gerddor ac nid af i geisio dywedyd dim am y canu, ond i mi ei fwynhau. Yr oedd rhai o'r hen donau yn mynd yn ardderchog, yn eniedig Llanllyfni a,c Abergele yn y bore a, Dies Irae yn y pryd- nawn. Yr oeddwn yn meddwl i mi glywed gwell canu ar y Delyn Aur ac f ni chefais gyfle i glywed Andalusia. Un o'r rhai a fwyn- heais i fwyaf oedd! Gwinllan, ond pan genid Llanllyfni yn y bore gwelwn un gwr enwog iawn ar y llwyfan yn foddfa o ddagrau.