Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
I 0 FON I FYNWY

I 0 FON I FYNWY. Ymhlith y gweinidogion a ddisgwylir i bregethu i gymanfa liyuyddol Annibynwyr l^erpwl a Birken- head, ddiwedd yr wythnos hon, y mae'r Parch, D. Tecwyn Evans, B.A. Da genym ddeall fod yr ail-lifftenant Ieuan Vaughan Hoskinswedi gweila o'r clwyf a dderbyn- iodd i'w droed, ac wedi uychweiyd at ei waith yn y ffrynt. Anrhegwyd y Parch. vV. Edwin Hughes, M.A., yr hwn sydd wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Capel Mawr, Criccieth, a, roll-top desk hardd iawn gan eglwys y Waenfawr, yn yr lion y'i magwyd ac yn yr hon y dechreuodd bregethu. Y mae Madame Clara Novello Davies, y gantores Gymreig enwog ,wedi dychwelyd i'r America ar ol arhosiad o ryw bythefnos yn y wlad hon. Ym- ddengys ei bod yn trefnu taith i gor o ferched Cym- reig trwy Canada a'r Unol Dalaethau, er budd cron- fa genedlaethol y rhyfel. Ymddangosodd paragraff yn y papurau yn dywed- yd fod y Parch. Evan Davies, Trefriw, wedi myned am wyliau am y tro cyntaf er's dwy flynedd ar bymtheg ar hugain. Yn sicr yr oedd yn bryd iddo ddechreu, a haedda wyliau da wedi tymor mor faith o waith. Ymhlith y meddygon sy'n gofalu am y milwyr Cymreig yn vsbytv Withington, Manchester, y mae Dr. Garth ap Thomas, mab y Parch. Keinion Thom- as, Porthaethwy. Daeth drosodd o'r maes cenhad- 01 i wasanaethu ar y clwyfedigion. Y mae'r Parch. D. Jones, Edge Lane, Lerpwl, yn awr wedi dychwelyd adref o Fon, lie cymerwyd ef yn wael, a'r lie y bu'n gorwedd am wythnosau. Da genym ddeall ei fod beth yn well. Aeth y Caplan J. J. Evans, gweinidog eglwys M.C. Niwbwreh, Mon, i Ffrainc gyda'i gatrawd ddechreu'r wythnos. Y mae Mr. Evans yn gaplan er's yn agos i ddwy flynedd, ac yn boblogaidd iawn gyda pliawb. ] Yn N hrysorfa'r Plant am y mis hwn dechreuir gyda darlun o Arglwydd Kitchener, a hanesyn tar- awiadol am dano, yn cael ei adrodd gan Mr. E. Davies Bryan, Cairo. Y mae llawer o bethau dydd- orol ereill yn y rhifyn a, darluniau da. Y mae'r ys- traeon yn nhasg y plant vn ddifyr. Ymhlith y rhai sydd newydd gael y Groes Filwrol am wrhydri ar faes y frwydr yn Ffrainc, gwelwn enw'r Ail-lifftenant Huw Ifor Lloyd, mab hynaf. Mr. a Mrs.. Isaac T. Lloyd (o eglwys Walham Green), Chelsea ac Aberdyfi. Yn Nazareth, Birchgrove, y Sul a'r Llun, Medi 24 a'r 25, traddodd y Parch. J. Owen Jones (Hv- freithon), Cwmafon, gyfres o bregethau dylanwadol, a thystiolaeth y cynulleidfaoedd lluosog oedd mai "da oedd bod yno." Bu y Parch. D. Ward Williams, Gwrecsam, i lawr yn y De yma yr wythnos ddiweddaf yn pregethu ac yn darlithio, a hyny gyda grym mawr. Nid oes ddadl nad hwn yw un o bregethwyr mwyaf addaw- ol Cymru. Gwir y dywedodd y GOLETJAB am dano, dro yn ol, mai efe oedd un o feddylwyr mwy- af gwreiddiol ein gwlad. Arddeliad neillduol gafwyd ar y gwasanaeth y Sul a'r Llun diweddaf, yn Hermon, Sciwen, y Parchn. Morgan Jones, Llanelli, a J. O. Jones (Hy- freithon), Cwmafon, yn traddodi yr hen, hen hanes gyda bias. Llwyddiant mawr fu cyfarfodydd blynyddol Car- mel, Aberafon, y Sul a'r Llun diweddaf, Hydref 1 a'r 2, y Parchn. W. M. Jones ,(Birkenhead), ac R. J. Bees, M.A., Aberystwyth, yno'n pregethu gyda grym a dylanwad.. Yn Tabor bu v Parch. J. Thos. Job, Bethesda, yn darlithio ar "Ber Ganiedydd Cymru." Cad- eiriwyd gan Mr. John Beynon, M.E., Grovesend. iRhoddes cyfeillion eglwys Hebron yn garedig fen- thvg eu haddoldy hwy at wasanaeth eglwys ieuanc Tabor. Cydymdeimlir yn fawr a'r Parch. D. R. Griffith, Penrnaenmawr, a'r teulu, ar farwolaeth yr ail fab, y Preifat David Llewelyn Griffiths. Bu farw yn Salonica wedi gwaeledd byrr. Cyn ymuno yr oedd r "yn brif glerc gyda Mr. John Hall, Machine Works, iCaerdydd, ac yn uchel ei barch gan bawb. Yr f oedd yn naw ar hugain oed. Gorchwylanhawdd yw cael tafleni y cyhoeddiad- au Sabbothol oddiwrth vserrifenyddion yr eglwysi yn brydlon, fel ag i ddwvn allan y Llyfr Cyhoeddiadau erbvn dechreu blwyddyn. Gwelwn fod ysgrifenydd C.M. Gogledd Aberteifi yn datgaf ei it.der fel y canlvn, y dychwelir hwy iddo erbyn diwTedd Hydref "Hyn a wnewch. mi wn yn awr,— Cawn ninnan lyfr cyn Ionawr." Gaciawodd y aiweddar Mr. W. Prichard Williams, Cae'r Onnen, Bangor, eiddo gwerth 7,378p. Yn Nazareth, Cwmcam, cynhaliwyd cyfarfod pre- gethu llwyddianus iawn y bul a'r Llun, Medi :¿4 a zo. Cafwyd pregethau rnagorol gan y Parch. G. H.Havard, M.A., gweinidog newydd Abercarn. Dyma'r tro cyntaf i Mr. Haviard bregethu yn Saes- neg er pan ddaeth i'r cylch, a daeth arweinwyr eg- lwysi pob enwad i'w wrando. Ni welwyd y fath gynulhadau yn Nazareth yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Ni sic-mwyd neb yn y pregethu. Er nad yw Mr. Havird wedi bod yn yr ardal ond amser byrr, eto y mae eisoes wedi liwyddo i eirill dust y Cymry a'r Saeson yn y cylch. Dydd Mercher cynhaliwyd Cyfarfod Misol arben- ig, yn Seion, Llanrwst, dan lywyddiaeth Mr. Ed- ward Williams, Colwyn Bay. Yn y prydnawn cyn- haliwyd cyfarfod gweddi, ac yna agorwyd y mater, sef "Agwedd crefydd yn ein plith," gan y Parch. William Thomas. Yna caed rhydd-ymddiddan. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr trwy fawl a gweddi. Caed anerchiadau ar dri o faterion, sef (1) Pa fodd i gael yn ol esgeuluswyr yr Ysgol Sul, a chael gafael, ar y bob I nad ydynt yn dyfod i glvw yr Ef- engyl," gan y Parch. O. Galianydd Williams, Ro Wen. (2) Y pwy&igrwydd i hi fel swyddogion eg- lwysig gael ein cyffroi." gan y Parch. H. M. Pugh, Colwyn Bay. (3) Pa fodd y gellir ennyn mwy o sel mewn cyfarfodydd crefyddol, yn arbenig y Cy- farfod Gweddi a'r Seiat," gan y Parch. Robert Wil- liams, M.A., Llansantffraid. Pasiwyd fod swydd- ogion pob eglwys i gynal cyfarfod cyffelyb i ymdrin a'r un materion yn eu "lith eu hunain gartref. MARW MR. DANIEL DAVIESa TON. Drwg iawn genym hysbysu am f,.a,rwo,aetl-i. y blaenor adnabyddus a'r llenor rnedrus, Mr. David Davies, (Cashier yr Ocean Collieries) Ton, Ystrad, mewn oedran teg. Yr cedd Mr. Davies yn flaenor yn Jerusalem, Ton, ac yn un o'r Methodistiaid mwyaf adnabyddus yn y Deheudir. Yr oedd yn hynafiaethydd ac yn lienor gwych. Ceir hanes manylach yr wythnos nesaf.

LLYTHYE LLUNDAIN

LLYTHYE LLUNDAIN LLUXDALN, NOS LUN. AR FAES Y FRWYDR. Cafodd Mr. Richard Humphreys, West Hamp- btead, yr wythnos ddiweddaf, y newydd galarus fod ei ail iab, y Lifftenant Victor Humphreys, wedi ei ladd yn Ffrainc. Cyn myned allan i'r ymgyrch— ar y nos Wener, a fu'n angeu iddo, ysgrifenasai y llanc lythyr i'w rieni yn eu hysbysu berycied y gwaith a ymddiriedid iddo, ac nad tebyg y dychwel- ai o'r ymgyrch yn fyw. Gwir oedd ei dyb. Nid oedd ond pedair blwydd ar bymtheg mewn oedran. Hoffid ef yn ddirfawr gan ei gydnabod, ac adwaenem ef fel llanc uniawn, gwrol ac unplyg. Blaenor yn teglwys Willesden Green yw ei dad; bu hefyd yn liywydd Cyfarfod Misol Llundain yn 1914. 0 Lau- wrtyd yr hana ei fam, lie y trigiana ei thad hyd y dydd hwn, ac efe mewn gwth o oedran. Brodyr iddi hi yw y Mri W. Price, Shirland Road, Isaac Price, Falmouth Road, a'r Parch. John Prys, Llan- ofer. Y SASIYNAU. no no Cafwyd yng JNghyiarlod Misol Lfiundam, yr wyth- nos ddiweddaf, adroddiadau o'r fath fwyaf dyddorol am Sasiynau mis Awst a gadwesid ym Mhenllwyn ac ym Mangor. Caed gan yr adroddwyr yn gyhoedd mewn llys yr hyn a siaredir gan agos bob dau mewn congl-pob dau oddieithr y rhai hynny sydd hedd- yw yn gwneud hanes digalon i'r Cyfundeb. Dy- wedid am Fangor a Phenllwyn mai ychydig gymhar- ol a siaradai ar y gwahanol faterion, eithr fod yr ychydig hynny yn. dra ami am eu traed. Cwynid hefyd y gwastreffid amser y C'ymdeithasfaoedd a materion bychain, a chan ymdriniaethau distadl ar bynciau mawr a theilwng. Awgrymid y ceid ar- eithiau hyawdl ar yr Ysgol Sul gan bersonau nas gellid dangos y gwnaent ddim er ei dyrchafu hi, os mynychent hi o gwbl. Tra y mae Cymru ar dan, awgrymai un arall, a bywyd y genedl yn myned i ddistryw, treulir dwy awr yn fondigrybwyll i siar- ad am envelopes o wahanol-liwiau at wahanol gasgl- iadau. Dydd drwg i'r Cyfundeb a Chymru fydd hwnw pan na fo gan Gyfarfod Misol ddim i'w ddweyd wrth-yr eglwysi; dydd llawn cyn ddryced i'r Oorph fydd hwnw pan fo y Cyfarfod Misol wedi alaru ar ei lysoedd uwch. Onid yw'r -dydd hv;n wedi torri? OSSIAN DAVIES. Yn Shortlands, SiWydd Kent, bu farw y Parch. John Ossian Davies, a fu yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn yr eglwys Annibynol am gyf- nod hir. Pan yn gweinidogaethu i eglwys Pad- dington y torrodd ei iechyd i lawr, ac y gorfu iddo ildio o'r weinidogaeth oherwydd parlys yn ei wddf. 0 Aberteifi yr hanai. Wedi gorphen ei gwrs add- ysg yn Abernonddu, gweinidogaetnodd yn Nhabern- aci, i-lanelii, ac weai hynny yn Abertawe, loilmg- ton Bank, Bournemouth a rhaddingtoIl. Gyda, phersonoLaeth swyngyfareddoi, rneauai ar athryiith yr areithydd a chyllymder meddwl mawr. Dilyn- wyd ef ym Mournemouth gan Gymro araii—y ,Yyd ef ym L Parch. J. D. Jones, D.D.-ac yn Mliaddington gan y diweudar Barch. W. Nicholson, Cymio o ran afiaeth a naws, yn gystal a thaiod. -N i chredwn ei fod yn llinach ■•statesmen yr Annibynwyr, megis y mae, dyweder, Dr. J. D. Jones; pregethwr oedd efe, a darllthiwr. Yn ei ddyddiau ei yr adeiladwyd capel R.chmond Hill, Bournemouth Credai yn y bregeth, ac mewn Ymneillduaeth. Adnabyddir ei frawd mewn cylch eang-y Parch. T. Eynon Davies, Woodford,—a rydd i fyny ei bwlpud i fod yn ys- grifenydd mudiad perthynol i forwyr. Y GENHADAETH GENEDLAETHOL. Bellach y mae National Mission" yr Eglwys Sefydledig wedi cychwyn. Bu Esgob 'Liundaai ar daith yn parotoi meadyliau llaweroecid, yn St. James's, Picadilly, Victoria Park, Tower Hid, Ham- mersmith, a Willesden. Defnyddid bands, scouts, milwyr clwyfedig a llawer modd.on i dynu syiw at y symudiad mawr. Ceid gorymdeitliiau o'r gwahanol eglwysi i fan canolog, lie y cyfarfyddai yr esgob a'r tyrfaoedd. Gwr yw efe sydd yn llawn o ynni, ac yn meddu ar lawer o lithrigrwydd a symlrwydd y siaradwr cyhoeddus poblogaidd. Ni lefara frawdd- eg nas deailir ei hystyr gan y mwyaf syml-feddwl, a chan y britha ei areithiau & hanesion poblogaidd, gan mwyaf o ddigwvddiadau\n ei fywyd ei hun, hawdd deall paham y mae efe mor dderbyniol gan y lluaws. Crynhoai gynwys yr anerchiad a glywsom ni i ddau air Rhyfel a "Thystiolaeth." Myn- nai i ni gyhoeddi rhyfel derfynol yn erbyn anllad- rwydd, drwg-dymer, anifyddlondeb teuluol, a honnai na ddylid caniatau mwyach i werthiant diodydd cryfion ar oriau diweddar o'r nos megis cynt. Cwvn- ai yn dost oherwydd diffyg nwyd a gwroldeb aelodau yr eglwys i ddwyn tystiolaeth i'w perthynas a chre- :iydd, a soniodd am gyfaill a fynegai ei syndod i ddea.11 trwy cnyddiadur ben bore fod un a gy- farfuasai bob dydd am bedair blynedd ar hugain, ond a fuasai farw yn ddisyfyd, ei fod yn church warden,' tra yr oedd efe wedi dyfod i'r casgliad am dano er's blynyddau mai agnostic oedd. Neges syml felly oedd gan yr esgob, wedi ei gwisgo mewn iaith ac ymadrodd syml hefyd. Bore Sul diweddaf yr oedd Archesgob Caergaint yn cychwyn y genhad- aeth fawr yn Westminster Abbey. Bu yno lawer, o dri o'r gloch y bore hyd amser agoriad y drysau, yn aros yii. amyneddgar tua.g at sicrhau mynediad i mewn. GWAELEDD. Bydd yn fEn gan luaws cyfeillion y Parch. D. Tyler Davies, Clapham Jui-icir-on, ei fod o dan orfod i gymeryd seibiant am ychydig wythnosau. Ni -theimlai yn galonog pan yn cychwyn ar ei wyliau yn Awst, a methodd dynu adgyfnerthiad o'i ym- weJiad a'r wlad..Ervs ym Mrighton ar hyn o bryd, ond bydd yn dychwelyd yn ol i'w waith yn fuan wedi grynuso ei hun i ateb galwadau ei fywyd. Bu efe yn eithriadol o lafurms i weini cysur i tilwyr 7 clwyfedig a ddychwelent o'r ffrynt, ac odid na, ddarfu iddo osod gormod treth arno ei hun.

CWRDD FFARWEL II

CWRDD FFARWEL. Y PARCH. JOSEPH JENKINS, BLAENAU FFESTINIOG. 'Cynhaliwyd cyfarfod yng nghapel y Garreg Ddu, Blaenau Ffestimog, nos Fawrth, Medi 26, i Narweiiu a'r Parch. Joseph Jenkins, ar ei ymdawiad i Lan- ymddyfri. Llywyddid gan y Parch. Thomas Hughes, B.A., Rhiw, a daeth agos 10n'd y capel o bobi. Trefnasid i Mr. Jenkins draddodi ei ddarlith ar John Jones," sef y Cymro—ei ragoriaethau a'i wendidau. Digon yw dweyd fod Mr. Jenkins mewn hwyl, a'i lais fel cloch arian, a'i arabedd yn ysgubol. Dechreuai'r cyfarfod am 6-45, ac ychydig wedi wyth, ar ddiwedd y ddarlith, cafwyd gair gan am- ryw frodyr. Heblaw y liywydd, siaradodd Mri. J. R. Jones, J. R. Evans, a W. P. Evans, Y.H., o'r Garregddu, a'r Parchn.' Enoch E. Jones, T. H. Hughes '(y ficer), D. Francis Roberts, B.D., a Mr. G. G. Davies dros y cylch. Yna galwyd ar Mr. Owen Owens, un o aelodau hynaf yr eglwys, i gyf- Iwyno cod o nodau arian y Llywodraeth i'r gwein- idog. Gwnaeth hynny'n ddoniol a chynes. Caf- wyd gair gan Mr. Jenkins, a hawdd ydoedd gweled nad bychan o beth ganddo ydoedd ffarwelio. Teg yw croniclo hefyd i Mrs. Jenkins gael sylw teilwng gan fwy nag un siaradwr. Cafwyd siarad di-wen- iaith, a llawer llai o seboni nag arfer mewn cyfarfod (j'r fath. Diweddwyd gan y liywydd. Chwith iawn colli gwr o athrylith ac vsbrydol- rwydd Mr. Jenkins o Ffestiniog. Cofir yn hir am ei anerchiadau hyawdl oddiar Iwyfan y Neuadd Gyn- uli, a mwy na hyny am y seiadau a gafwyd gydag ef, at am ei breget-hau grymus; ond dymunai pawb iddo ef a'i briod a'u saith pkntyn fendith gyfoeth- ocaf y Nef yn ei faes newydd.

No title

Pregethwyd yng nghyfarfod biynyddol Penuel^ FerndaJe, gan y Parchn. J. Wilson Roberts, Ynys- hir, a J. Green, B.A., Twrgwyn. Cymerodd Mr. Roberts, ar fyrr rybudd, le y arch. D. Jones, Ler- pwl, yr hwn sydd yrr waef.