Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 12 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
I SIR FFLINT

Drwg genym hysbysu am farwolaeth Mr. Daniel "Roberts—blaenor hynaf yr eglwys yn Ffynnongroew. IDyn eithriadol o ffyddlawn am oes faith, ac y mae sail i gredu iddo ddangos ei gariad at y Cyfundeb yn ei ewyllys. Gresyn na buasai mwy o hyn. Yn y rhestr newydd o'r Ynadon perthynol i'r sir lion, da genym weled enwau Cadben Joseph Pulford, Mr. Thomas Roberts, Wyddgrug, a Dr. Fraser, Buckleytri o frodyr perthynol i ni, a diau y rhodd- ant gyfrif da ohonynt eu hunain yn eu cylch new- ydd. Llongyfarchiadau iddynt. ———— .e+

TREFALDWYN UCIIAF

TREFALDWYN UCIIAF. I v C-M, Cynhaliwyd Cyfarfod Misol cyntaf y flwyddyn lion yn China Street, Chwefror 7 a'r 8. Cyfarfyddodd amryw o'r pwllgorau nos Fawrth, Nid oedd y gyn- rychiolaeth mor frtwr ar arfer. Caed dadl pur bwys- ig ar gwestiwn y teithio costus a dianghenraid. Cryn drafferth gawd i gael trafodaeth ar y cwestiwn hwn, a gwyddis erbyn hyn paham. Y mae'r eglwysi mwyaf am contractio allan." Cynhygiwyd fod pwyllgor newydd i'w benodi i edrych beth ellid wneud. Ond mynnai gwyr yr eglwysi mwyaf i'r mater fyn'd i bwyllgor y weinidogaeth Sabbothol. lPe felly golygid ad-drefnu ymhlith y teithiau sydd yn derbyn cvmorth a gadael y lleill allan. Meddwl hyny yw gwella y rhai glanaf yn y mater, a gadael y rhai gwaethaf yn eu hafiechyd. Dywedwyd yn blaen gan un blaenor fod gan eglwys hawl i roi cy- hoeddiad i'r sawl a fyn. Cydnebydd pawb hvnny yn rhwydd. Ond y cwestiwn sydd wrth wraidd y cyfan yw a oes gan eglwys o'r Cyfarfod Misol hawl i gau allan rai o weinidogion y Cytfarfod Misol yn llwyr? Tybed fod y blaid hon yn dal y syniad yn eu calonau fod rhai ofugeiliaid y Cyfarfod Misol yn rhy sal i ofyn eu gwasanaeth. Dywedodd un siaradwr "y dylid ymroi ati i bregethu," fel y gallont gael eu galw. A yw hynny yn golygu nad ydynt yn gwneud eu goreu yn awr ? Y mae cyhudd- iad wrth wraidd siarad fel hvn. Y gwir yw vr hyn a ddywedodd y Parch. D. Da vies, Saron: Nid oes yr un o weinidoeion y Cyfarfod Misol yn rhy ddi- genadwri i wrando arno ddwywaith yn y flwyddyn. Taflu y mater a wnaed yn y diwedd i Bwyllgor y Weinidogaeth Sabbothol. Ond gwyr pawb nad oes gan y teithiau i gyd gynrychiolaeth yn y fan honno. Gellid meddwl fod yn ddyledswydd ar yr eglwysi cyffredin fod yn Fethodistiaid. ond caniateir i'r rhai mwyaf fod yn Annibynwyr! Y mae'r mwy- afrif o blaid cynilo ac ad-drefnu, ond ymddengys fod yr ycliydig yn gyndyn. Dywedodd y Parch. J. T. .Davies mai un ffordd allan o'r dyryswch yw i'r teithiau roi 26 Sul i'w bugeiliaid eu hunain. Ond y cwestiwn yw i b'le yr Ant am y gweddill? -0- 1 Y DREFN BRESENOL. • Y mae Ilawer o ffolineb, fel y dywedodd Mr. Elias Jones, ynglyn a'r drefn bresenol. Y mae gwastraff mawr ar amser ac arian. Cyfyagir ar nifer y Oyfar- fodydd Misol er mwyn cynildeb. Paham nad ellir hefyd roi i fyny y teithio direswm ynglyn a'r wein- idogaeth? Ac yn enw pobpeth peidier a thaflu an- fri di-alw-am-dano ar weinidogion y Cyfarfod Misol er mwyn osfoi y cyfnewidiad mae'r amserau yn gwaeddi am dano. -0- LLYWYDDION. Etholwyd llywyddion newydd am y flwyddyn, Mr. Richard Jones, Croesllyn, a'r Parch. Edward Evans, Llangurig. Dewiswyd hanner y nifer arfer- ol i fyn'd i'r Cymdeithasfaoedd, &c. Prin y teimlai rhai fod eisieu pasio penderfyniad o blaid total pro- fiobition eto. Ond ei basio a wnaed. Paham na chynhelir cyfarfod cyhoeddus yn mhob canolfan ar y cwestiwn oll-bwysig hwn? Gellid cynyg help i'r heddgeidwaid er mwyn i'w gwaith fod yn fwy effeithiol. Ni ddylid gadael y gwaith hwn i gyd iddynt hwy. Caed croeso mawr gan eglwys China St. Nid oedd ball ar eu parotoadau mewn Jletyau a bwydydd. -1,7- v MODDION. Yr oedd y pregethu yn llewyrchus iawn. Yr oedd arddeliad amlwg ar y gweision. Teimlai pawb fa yn y seiat ei bod yn un o'r rhai goreu. Yr oedd y Parchn. R. W. Jones, Wallace Thomas, It. Jones, M.A., Llandinam; J. Williams, B.A., a Barrow Williams yn cymeryd rhan. iNid wyf yn cofio erioed clywed Mr. Barrow Williams yn well. Pre- 'gethai yn rymus i galon y dorf. Llawen oedd y saint o gael croesawu un pregethwr newydd i'r cylch—y Parch. Alun Williams, Cemmaes. Pre- gethodd yn ifelus odiaeth. Creai rhyw awyrgylch liyfryd cyfansoddai'n dlws a gofalus. Dymunir ei I wyddiallt yn fawr o fewn y Oyfarfod Misol. Prin y mae eisieu dweyd fawr ddim am y ddau avail, y [Parchn. Cunllo Davies ac Elias Jones. Y mae Mr. Jones bob amser yn dda. Oyfansodda'n wastad. 'Nid oes yr un darn sal yn ei bregeth. Traddodai'n 'ddifrif. Oyrr y genadwri i bob calon ystyriol. Y mae'n cadw yn gampus. er ei fod yn myn'd ymlaen o ran blynyddoedd. Y mae gan Mr. Cunllo Davies rywbeth amserol bob tro y clvwir ef. Y mae ol llafur a meddwl ar bob pregeth o'i eiddo. Y mae rhyw naws hyfryd o'i gwmpas yn wastad. Sieryd yn rhwydd ac yn glir heb fawr ymdrech. Tery ei u fresbno*<* v rhan oreu o bob cynulleidfa. I>aet.h < rf o bob! n hob rhan o'r wlad, a golygfa i'w eh^R> ♦~>rM y. idfa faw -n sefvll 111" pi thraed "iw -n cL..M;;—•-  i ;J "a ddllvnwyr vr O.i.

TABERNACL RHUTHYN

TABERNACL, RHUTHYN. Nos Fercher, y 7 cyf., treuliwyd Seiat ddyddor- ol ac adeiladol mewn darllen detholion o lythyrau dderbyniodd y gweinidog, y Parch. R. R. Parry. oddiwrth aelodau yr eglwys a'r gynulleidfa sydd yma a thraw yn gwasanaethu eu gwlad, yn y rhyfel echryslawn bresenol. Mae y nifer bellach yn 36. Daethai nifer luosog ynghyd, a theimlid fod cymun- deb yspryd a bywyd rhyngom a'r bechgyn wrth glywed y darlleniad. Nodweddid y llythyrau gan dri pheth yn arbennig,-(I) Diolchgarwch am ddydd- ordeb parhaol a chynyddol yr eglwys a'r gynulleidfa ynddynt, yr hyn ennynai deimladau serchog a charu- aidd ynddynt hwythau ati. (2) Crediniaeth mewn gweddi; y disgwyliad wrth weddi yr eglwys, a'r profion fod gweddi yn hanes llawer ohonynt ddim amgen nag anadl bywyd. Yn hyn, sicr yw y gwel yr eglwys ei chyfle a diau yr ymegnia ar fod ei ffydd a'i gweddi gyfryngol yn cryfhau. Pwy wyr faint feddylia ein bechgyn am weddi yr eglwysi, ie, a ddis- gwylient wrthi ac mewn rhan ddibynant arni? (3) Crediniaeth yn nmddiffyn Duw drostynt; y teimlad o hyder yn Nuw, a'r ymwybyddiaeth o'i agosrwydd Ef atynt; eu ffydd ynddo fel eu bywyct a'u hiach- awdwriaeth yn mhob achos. Yn hanes rhai ohonynt amlwg yn eu profiad yw olion yr ymdrech, mewn ymorphwysiad nrno y glynnant wrth Dduw. Ym- ddiriedant ynddo. Rhyfedd fel y cyferfydd yr aelodau oil o ran eu hysbryd, er yn absenol o ran y corph, wrth orsedd gras Duw. Mynegiad yw yr uchod o'u teimladau hwy tuag atom ni. Afraid arnom yw dweyd fod iddynt hwythau oil le dwfn vn ein serch fel eglwys. Teimlwn yr haeddant bob aberth ar ein rhan, fel yr ymgynhaliont o dcin bwysau a gwres y dyddiau tanllyd hyn.

BRYNCIR

BRYNCIR. Ffurfiwyd pwyllgor yn ddiweddar yn y lie hwn i ofalu am y milwyr a berthynant i'r lie, yn aelodau a gwrandawyr, ynghyda'r rhai y mae eu cartrefi yn v He. Mae dau gasgliad wedi eu gwneud yn barod, a bwriedir gwneud casgliadau etofel y bydd yr am- gylchiadau yn galw. A da genym ddweyd fod y pwyllgor yn gwneud eu gwaith yn rhagorol, yn en- wedig y chwiorydd. Anfonwyd parseli iddynt at y Nadolig diweddaf, a bwriedir anfon parseli iddynt y dyddiau dyfodol. Mae 13 o filwyr yn perthyn i'r lie bychan hwn. Nos Lun, Ionawr 29, bu y Parchn. J. Henry Wil- liams, Porthmadog, ac R. J. Williams, Lerpwi, yn y lie hwn yn gosod achos dyled y Genhadaeth Dramor o flaen y gynulleidfa. Pregethodd Mr. Williams, Porthmadog, yn effeithiol, a chaed araeth wresog gan Mr. Williams, Lerpwi, nes codi'r gynulleidfa x yspryd cyfranu. Oredwn mai nid yn ofer y bu en hymweliad a'r lie hwn. Bu farw y wraig rinweddol, Mrs. Parry. Hafody- llyn, Nantuca', yn ddiweddar, yr hon oedd yn briod a Mr. John Parry o'r lie uchod, yng nghanol ei dyddiau, a chladdwyd hi yn mynwent Dolbenmaen Merch hynaf ydoedd i'r diweddar Mr. Wiltiam Llysty'ncanol, Bryncir, a'i briod, Mrs. Elizabeth Jones, yr hon sydd yn aros eto. Mae cydymdeim- lad cyffredinol â'i phriod a'i mham, yr hon sydd wedi bod mewn cryn wendid yn ddiweddar. a'r teulu oil sydd yn eu galar. Nawdd y 'Nef fyddo dros y teulu oil yn eu galar. — 0

DYFFRYN TAWE

DYFFRYN TAWE. Y S TRADG YNLA IS,—C YN( i HERDD. Y mae'r dreflan uchod wedi enill enwogrwydd nid bychan yn myd y celfau cain—cerddoriaeth, barddas a lien. Nid wyf yn tybied y byddai yn ormodiaeth pe dywedid ei bod yn fyd-enwog, trwy rai o'r meib- ion athrylithgar y mae wedi fagu. Amryw ohonynt wedi dringo i safleoedd uchel o anrhydedd a bri; a'r hen ardal a hwythau yn teimlo yn falch iawn o'u gilydd. Mae'n gryn demtasiwn i roddi rhestr o'u henwau disglaer; ond gwell peidio hwyrach,— enwau sydd fel cynifer o flychau ennaint toredig, yn gwasgar eu perarogl i bob cyfeiriad. Neu. i newid y gymhariaeth. maent fel cynifer o ffynhonellau o ys- prydiaeth i'r rhai sydd yn dyfod ar eu hoi i ddracht- io ohonynt. Ac amlwg ydyw fod ysprydiaeth eu henwau yn gwefreiddio'r awyr yn yr Ystrad yn y dyddiau hyn, lawn cymaint ag erioed, a da genym weled fod yna feib a rhianod yn cerdded yr un Ilwybrau heirdd, ac yn tyfu i fyny yn deilwng o'r tadau a'r mamau yn Jsrael; rai ohonynt, er wedi marw, yn llefaru eto. Os bydd cymanfa ganu, neu gyngherdd, neu eisteddfod i'w chynal yn y gymyd- ogaeth. ni fydd petrusder yn meddwl neb am eu Uwyddiant. Mae'r llanw i fewn bob amser pan fydd galw am dano, a digon o hwyl yn cael ei chodi ar y llong, a pheth lawn mor bwysig a hyny, digon o awel i lenwi'r hwyliau a chludo'r Hong i mewn i hafan ddymunol llwyddiant. Yr wythnos ddiwedd- af bu Cor y Tabernacl, o dan arweiniad y cerddor gwych a'r arweinydd tnedrus a phoblogaidd, Mr. Edgar O. Morgan, yn rhoddi perfformiad o'r Gant- awd swynol, "Joseph (Dr. Parry), mewn charact- er, a throdd allan yn llwyddiant mawr yn mhob ystyr. Buwyd wrthi yn perfformio am ddwy noson, a'r adeilad yn orlawn, a deallaf fod yna ddymuniad cryf a chyffredinol am noson neu ddwy arall. Cad- eiriwyd yn ddeheuig. nos Fawrth, gan Mr. Tom n. T>. Tondon House, a nos Fercher gan Mr, T. Pivasei- ;) C. S. Yr golyg- feydd gwahanol yn effeithiol iawn, yn enwedig ym- weliad yr angylion, a phan y dygwyd i Jacob siaced fraith ei fab wedi ei thaenellu a gwaed. Hefyd, pan y gwnaeth Joseph ei hun yn adnabyddus i'w frodyr, ac yn olaf pan yr ad-unwyd ei dad ac yntau. Yr oedd y datganiad o radd uchel iawn, a'r gwa- hanol gymeriadau yn chwareu eu rhan yn ardderch- og. Mae clod mawr yn ddyledus i'r arweinydd am ei ymroddiad, a'r brwdfrydedd y mae wedi llwyddo i'w daflu i'r cor ac i'r gwaith, ac i'r cor yn ogystal am eu ffyddlondeb a'u hymdrech ganmoladwy i peth allan gyda'r fath deilyngdod uchel. Yr wy;'f yn deall iddynt wneud swm sylweddol iawn o elw, yr hwn sydd yn myn'd i gronfa'r organ new- ydd i'r Tabernacl. Clywais ar sail dda fod yn niwriad y cyfeillion caredig hyn i roddi perfformiad eto, mewn lie canolog yn y dosparth, a'r elw i gyn* orfclnvyo eglwys Siloh, M.C., Owaun-cae-gurwen, sydd yn cario baich mor drwm o ddyled. Bendith arnocli, a llwyddiant a'ch dilyno.

Family Notices

G-ENI, PRIODI, MARW PRIODASAU. JENKINS-J)AVIE!S,-Ghwefror 6, yng nghapel Pembroke Terrace, Caerdydd, gan y Parch. J. Morgan Jones. Edward Jenkins, U.H., 154 Cathedral Road, Caerdydd, trysorydd Cymdeith- as Yswiriol y Cyfundeb, a blaenor yn eglwys Pembroke Terrace, a Miss M. Davies, 8 Llan- dough ISt. Caerdydd. ROBEB.TS—ROBERTS.—Chwefror i. yng nghapel M.C. Panltfield, Birkenhead. gan y Parch. W. Morris Jones, Gomer Derfel, mab y diweddar Hugh Roberts, Birkenhead, a, Dorothy, trydedd ferch y diweddar Mr. a Mrs. John Roberts, Llanrhaiadr. DAVIES—JENKINS.—Chwefror 3, yng nghapel M.C. Charing Cross.( Llundain. gan y Parch. Peter Hughes Griffith, T. W. Davies, A.O.C., unig fab Mr. a Mrs. T. Davies, Ardwyn, Resol- ven, a, Margaret Jenkins, Highgate, Llundain. JOSEPH—NICHOLAS.—Chwefror 7, yng nghapel Grove Place, Port Talbot, gan y Parch. J. Lloyd Thomas, Bryn, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. E. Rees (Ap Nathan), Port Talbot, Mr. David James Joseph {mab Mr. William Joseph), a Miss Maria iNicholas fmerch Mr. B. iïcholas), y ddau o BrynGurnos St., Bryn, ger (Port Talbot. ihir oes, llwyddiant a dedwydd- wch fyddo eu rhan yw dymuniad eu Iluaws cy. feillion a'u cydnabod. MARWOLAETHAU. HUGHES.—Chwafror 7, yn 23 Sunbourne Road, St. Michaels, Thomas (Tom), annwyl briod Nan Hughes, a mab ieuengaf y diweddar Hugh ac Ann Hughes. 52 Egerton Road, Lerpwi. LLOYD.—Chwefror 7, yn 8 Kelvin Grove, Lerpwl, May, annwyl ferch ieuengaf Mary Lloyd a'r di- weddar Hugh R. Lloyd. THOMAS'.—Chwefror 8, yn 12, Chetwynd Street, Lerpwi, Owen, annwyl fab David a Jane Thom. as, Gwnhingar, (Niwbwrch, Moil. WILLIAMS.—Chwefror 7, yn Fernhill, 53 Anfield Road, Lerpwi, Laura Ellen, annwyl briod y di- weddar Barch. John Williams, a merch hynaf y diweddar Gapten Richard ac Elizabeth Rich- ards. WILLIAMS.—Edwin Samuel, mab ieuengaf y di- weddar John Williams, Manchester House, Amlwch, yn 47 mlwydd oed. JONES.—Chwefror 6, wedi cystudd hir, David Jones, Belan View, Groeslon, yn 66 inlwydd oed. PARRY. -Cliwefror 9, Mrs. Mary Parry, Gwyndy, Carmel, Arfan, gweddw Thomas Parry, yn 73 mlwydd oed. DAVIES.—Chwefror 7, y Parch. John Davies, U.H., F.S.A., Pandy, Abergaifenni, Llywydd y Gy- manfa Gyffredinol. LEWIS.—Yr wythnos ddiweddaf, y Parch. Gwilym Lewis (Gwilym Berw), Rheithor Abergynolwyn a Llanfihangel y Pennant, yn 71 mlwydd oed. JOiN'ES'Chwefror 6, William Jones, Trefriw Terr- ace, Dinbych, yn 59 mlwydd oed. MORGAN.—Chwefror 6, y Cynghorydd B. Ellis Morgan, Marine Terrace, Aberystwyth, yn p9 mlwydd oed, JONES.—Ar faes y frwydr ym Mesopotamia, Ed- ward Jones, mab Mr. Thomas Jones, Brynmel- yn, Llandderfel. IP UGH.—Chwefror 6, yn Nhynant, Llanelltyd, Henry Pugh, Bertlilwyd, Ganllwyd. R:OBER:I'S!Chwefror 6, yn Llwyn View, Dolgell- au. Ann Roberts, gweddw John Roberts, Pandy. OWE!N.-Chwefror õ, Robert Owen, Pen y Gwaith, Llanberis, yn 68 mlwydd oed. WILLIAMS.—Ionawr 30, yn Mona, The Crescent, Davenport, Stockport, gweddw y diweddar Robert Williams, builder, yn ei 74 mlwydd. Claddwyd yn mynwent Stockport, Chwefror 2. Yr oedd Mrs. Williams yn ferch hynaf i'r di- weddar William Rogers, Maes Helen, Llan- fechan. JON'ES.—Yr wythnos ddiweddaf, Mrs. Jones, Rhiw iHouse, Porthmadog, gweddw Capten Jones. ROBERTS,Chwefror 1. Daniel Roberts, Ffynon- gr-3w, yn 83 mlwydd oed. Bu'n swyddog ffyddlon yn eglwys Ffynongroew am ugain mlynedd. ROBERTS.—Robert Roberts, Croesengan Farm, Bettws Abergele, yn 45 mlwydd oed. THOMAS.—Chwefror 1, Mrs. Thomas, Ty Fry, Penygarnedd, M6n, yn ei 77 mlwydd, wedi byr ac ysgafn gystudd. Claddwyd ei chorph y dydd