Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
No title

GWASANAETH CENEDLAETHOL. Gyieinasom yr wythnos ddiweddai at araeth Mr. Neville Chamberlain ar ei gynllun ynglyn a gwasanaeth cenedlaethol, ac nid amhricdol fydd rhoddi ychydig o fanylion pellach yma. Gwahoddir pawb rhwng 16 a GO mlwydd oed sydd heb fod eisoes yn y fyddin neu eisoes yn gwneud gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol megis amaethyddiaeth, adeiladu llongan, etc., i gynyg ei wasanaeth. Gellir cael ffurfien iw llenwi yn lleol yn y Uythyrdai a'r cylnewid-feydd llafur, a sicrheir isafnod cyflog o 25s. yn yr wythnos. Hyd y gellir rhoddir y dyiiion y cymerir eu gwa,sanaeth i weiihio yn eu eu hunain, ond os eymudir hwvnt i ardaloedd ereill telir eu costau teithic a thelir at eu cynhaliaeth hwy a'u teuluoadd. Pum' swllt- ar hugain yw'r Ileiafswi-ii; tclir safon cyflog y gwaith arbenig a wneir lie bynag y bo hwiiw yn uwch na 25s., ond er hyny y mae'n amlwg y gofynir i lawer iawn o bobl aberthu. Nid yw 258. yn llawer 111\VY na digon i un dyn pan y mae prisiau fel y maent yn, awr, heb son am rhulil, ond y mae'n debyg iDaI'r aieb i hyii fydd fod yr aberth a ofynir gan y milwr yn llawer mwy. Gwiiioddol yw'r cynllun ar hyn o bryd, ond dywedodd y Prif Weinidog y gofynir am hawliau gorfodol os ceir na bydd digcn yn ymrestru dan y cynHun hwn. Nid hawdd fydd gorfodi, ac y mae'n rhaid bod yn ofalus iawn rhag drysu diwydianau ac am- gylchiadau arianol y wlad. Deallwn fod y cynl'un yn gweithio'n foddhaol hyd yn hyn; y mae llawer yn ymrestru ac yn cynyg eu gwasanaeth, ond cwestiwn i'r swyddogion ei benderfynu ydyw pa. ddefnydd a ellir ei wneud o'r rhai sydd yn eu cynyg eu hunain. Gofynir i bob dyn ddywedyd pa waith arbenig a all ei wneud, ac y mae'n debyg fod llawer Had allenfc wneud dim ond y gwaith y maent vedi arfer ag ef, a. mater i'r Cyfarwyddwr a'i gynorthwywyr fydd, pendefynu beth i'w .wneud a hwy. Yng Nghymru cyfarwyddir y gwaith gan Mr. John Rowland, M.V.O., ac y mae eisoes yn trefnu ac yn gweithio yn egniol. Dylai pawb sydd yn teimlo y gall fod o wasanaeth ymofyn ffurflen ar unwaith a'i llenwi. Y mae rhai galwedigaethau mewn angen neilltuc.l am ddynion, megis amaeth- yddiaeth, gweithfeydd cad-ddarpar, a gweith- feydd llonga.u, a glofevdd. Y mae llawer o anhawster aii ar y ffordd, ond gellir gwneud llawer i gynorthwyo ymliob ardal os eglurir y darpariaethau yn glir gan y gweinidogion neu'r ysgolfeistriaid Reol.

No title

Y RHYFEL NEWYDD, 'Gydag ymgyrch newydd suddlongau'r gelyn y mae r rhyfel wedi dechreu ar gyfnod newydd. Y mae'r Almaen yn ymarferol wedi anobeithio am lwyddiant ar y tir tra pery Prydain yn oruchaf ar y m6r, ac yn awr y tnae'n, rhoi pob egni ar waith i'n difetha. yn y cyfeiriad hwnw. C Danghosodd digwydd- iadau'r wythnos a aethheibio pa, inor ddifrifol yw'r perygl. Suddwyd lliaws o longau pei-thynol i lawer g^;lad, ac yn eu plith y Calif orni a, liner fawr, gyda'rhon y coliwyd llawer o fywydau. Yn ystod y dyddiau di- Xveddaf ni bu'r suddlongau mor llwyddianus ac y mae eryn lawer o ddyfalu am y rheswm. Efallai nad yw ond digwyddiad. Ar y llaw arall gall nad oes cymaint o longau yn myned ^vllan, ac os felly y mae'n beth mor ddifrifol i ni yn y wlad hon a phe suddid hwynt. Ond y mae dau reswm arall y gellir eu cynyg hefyd. Un ydyw fod yr Almaen yn arafu gan weled fed barn gwledydd amhleidiol yn gadam yn ei herbyn, a'r Hall ydyw fod ein Ilynges yn cymeryd moddion effeithiol i ddelio a'r perygl. Nid ydym yn credu yn y cyntaf; y mae'r difrod a wuaed. eisoes ar longau gwledydd amhleidiol yn brawf fod yr Almaen .wedi penderfynu herio'r holl fyd, a gellir clywedyd mai yr unig wlad amhleidiol y mae'n Bi liofni yw'r America. Nid hawdd iawn ar hyn o bryd ydyw gwybod- sut y eaif pefchau rliyngddi a'r America; cawn ddychwelyd at hyny eto. Y mae Sbaen wedi protestio, ac felly Holland hefyd, ond nid yw yn debyg yr t't.'r gwledydd hyn ymhellach, a dylem ddeall yn glir nad yw'n debyg y tfll y gelyn unrl-iyw sylw i'w gwrthdystiadau tra y cred fod ei ymgyrch yn llwyddianus. Dywedasom yr wythnos ddiweddaf fed yn rhaid i ni ddibynu araom ein hunain yn benaf yn y perygl hwn, ac yma, y daw gwaith y, llynges yn bwysig iawn. Ar y cyfan, y mae y rhai sy'n gymwys i farnu yn bur obeithiol ar y pen hwn. Nid oes -dim yn wybyddus wrtli gwrs, ond gwyddis ein bod wedi gorchfygu'r ymgyrch cyntaf, ac er fed yr anhawsterau yn fwy yn awr, y mae'n anodd genym gredu na lwyddir i orchfygu hwn eto. Ond y mae'r peth wedi dangos ein perygl; collasom ein golwg i ryw raddau ar y mor, a chrynhoasom ein holl adnoddau ar y fyddin. Yn awr y mae'n rhaid i ni rodcli pob gewyn ar waith i adeiladu llongau masnach, i dyfu bwyd ar ein ffermydd, ac i gynilo ar y bwyd sydd genym.

No title

YR AMERICA. Dywedasom uchod fed yn lied anodd gwneuthur safle'r Talaethau yn eglur ar hyn o bryd, ond y mae'n amlwg iddynt fod yn ymyl rhyfel, os nad ydynt felly etù. Ddívvedd yr wythnos tybiwyd fed yr Almaen yn gwrthod gollwng Mr. Gerard, y llys-genhadwr Americanaidd, o Ferlin, a phe buasai hyny yn wir golygasai ryfel. Ymddengys fod rhywbeth wedi digwydd, ond beth bynag oedd, y mae Mr. Gerard yn awr wedi cychwyn adref, ac y mae Prydain wedi rhoddi caniatad i Count Bernstorff, llys-genhadwr yr Almaen yn yr America-, i fyned adref, er nad yw yn rhoddi unrhyw sicrwydd iddo na syrth yn aberth. i farbareiddiweh suddlongau ei wlad ei hun. Y mae'n sicr fod yr angenrhaid am gael y caniatad hwn fel halen ar friw i'r Almaen. A all yr America osgoi rhyfel hyd yn oed yn awr ? Y mae llawer yn amheu. Dywedir fed dwy llongau masnach wedi hwylio am y wlad hon yn un pwrpas i edrych a faidd y gelyn eu suddo. Os gwna, y mae rhyfel yn sicr. Y mae'r Talaethau yn parotoi yn brysur, ond cyfyd anhawster arall ar y gcrwel. Dywedir fod niter o swyddogion Almaenaidd yn Mexico ar hyn o bryd, ac mai eu hamcan ydyw ei gyru yn ddrwg rliwng y wlad hono a'r Talaetha.u. Pe deuai 'r America i mewn i'r rhyfel buasai Mexico elyniaethus i'r de iddi yn anfantais fawr. Ond y mae'n debyg y buasai gan rai o weriniaethau Deheudir America, rywbeth i'w ddywedyd wrth hyny. Dywed rhai o'r Americanwyr sydd wedi gadael yr Almaen ac wedi myned i Switzerland gyda, Mr. Gerard, fod yr mmaen wedi llwyr ymgynddeiriogi ac yn credu y bydd i ymgyrch ei suddlongau sicrhau budd- ugoliae.th iddi. Os yw hyn yn wir, nid yw'n debyg y bydd iddi ymatal rhag dwyn yr America i'r rhyfel. sk X &

No title

11 Y BRWYDRO. Y mae'r brwydro yn y Gorllewin wedi bod yn bur ddyddorol yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Gwnaeth y Prydeinwyr amryw ym- osodiadau llwyddianus ar y rhan o'r llinell syn rhedeg o'r Ancre i'r Somme, gan gymeryd amiyw; o ffosydd y gelyn. Yn y rhan uchaf i'r adran yma cymerasom Grand- court, ac ymddengys i'r gelyn gilio o'r pentref hwnw heb aros am ymosodiad. Yn is i lawr ac yn ne,s at y Somme ciliodd y gelyn o fryniau isel Sailly. Y mae.'r ddau ddigwydd- iad yma yn awgrymiadol. Danghosant. i ddechreu fod ein byddin yn parotoi i symud yn gynarach eleni na'r llynedd, a'i bod yn ceisio eangu mates ei gweithrediad. Y mae'r llwyddiant ger Grandcourfc yn gosod Serre mewn perygl, ac yr oedd Serre yn un o'r lie oedd a. barodd fwyaf oanhawster i ni y llynedd. Y hiae'r llwyddiant ger Sailly yn rhoddi mantais i ni i ymosod ar goed St. Pierre Vaast, lie a. ddelir ar hyn o bryd gan y gelyn. Anfantals faw-r yr ymgyrch ar y Somme y llynedd oedd ein bod yn gorfod ymosod ar linell gymharol gul, lie yr oedd yn ancdd i ni ddefnnyddio ein dynion i'r pwrpas goreu, a lie yr oedd yn hawdd i'r gelyn gryn- hoi ei nerth i'ri gwrthwynebu. Po hwyaf fo'r llinell yr ymosodir ami mwyaf yn y bvd yw'r fantais i'r j-tnesodwr; geill felly ddef- nyddio ei nerth yn well a; dewis man i ymosod arno yn ddiarwybod i'r gelyn, Cwestiwn arall sy'n codi yn naturiol ydyw paham y ciliodd yr Almaeniaid. o'r lleoedd hyn gyda. chyn lleied o ymladd? Ofer ydyw dywedyd nad cedd y safleoedd o werth iddynt. Yr oeddynt yn werthfawr, ac y mae'n anhebygol y buasent yn gollwng eu gafael arnynt pe'n alluog i'w meddianu. Ni ddylem fod yn rhy barod i feddwl fod adnoddau'r gelyn yn myned yn isel—yr ydym wedi ein slomi fwy nag unwaith—ond anedd peidio dyfod i'r casgliad fod ei linellau yn deneu yn y lie neilltuol hwn. Efallai hefyd nad oedd yn disgwyl ymosodiad yn ystod y tywydd caled. Eto y daw pwys- igrwydd y digwyddiadau hyn yn amhvg.

No title

YN Y DWYRAIN. Ag eithrio ymladd pur ffyrnig rliwng yr Italiaid a'r Awstriaid yn y Gorizia, md oes llawer yn ychwaneg wedi digwydd ar linell y gcrllewin. Ni bu dim o bwys niawr yn y Balkans ychwaith; y mae'r gauaf wedi atal pob symudiad yno. Ond y mae lie cryf i gredu fod y Rwsiaid a'r Rumaniaid yn gwneud defnydd da o'r seibiant, a. phrin yr ydym yn tybio y llwydda'r gelyn i symud ymlaen ymhellach, Ar un olwg mae ei safle yn Rumania yn anfantais iddo, canys y mae ganddo linell hir i'w hamddiffyn, ac y mae byddinoedd Sarrail yn Saloniea, a Monastir yn bygwth. ei gysylltiadau. Ond ar y Haw arall y mae .wedi enill llawer trwy feddianu bwyd oedd yn y wlad ynghydag olew a phethau ereill yr cedd arno fawr angen am danynt. Yn y cyfnmser y mae'r Rumaniaid yn ad-drefnu eu by,ddinoedd yn egniol, ac y mae'r ffaith eu boct wedi bwrw un o'u cadfridogion amlycaf i garchar yn awgrymu eu bod hwy yn tybio fod rhywbeth difrifol o'i le yn rhywle. Os cywir hyny, y mae'n egluro llawer ar safle oedd yn ddirgelwch i lawer o bobl. Ym Mesopotamia bu'r fyddin Brydeinig yn brysur gyda'r ym- osodiad penderfynol ar Kut. Yr adeg yr ydym yn ysgrifenu meddianwyd lie. ar ffin y dref ac y mae pob golwg y bydd y lie wedi syrthio cyn hir. Er hyny nid allwn ddisgwyl llwyddiant buan ym Mesopotamia. Y mae gan y Tyrcod fyddinoedd cryfion yno, ac y maent wedi eu sefydlu eu hunain mewn ffosydd cedyrn. Bu ade.g, dros flwyddyn yn ol bellach, pan oedd Bagdad yn ymddangos yn y cyi"haedd, end coliwyd y cyile, ac yn awr y mae gwaith mawr a dyrus yn aros ein bydd- inoedd. Nid yw yr amcan yn gwbl glir, ond y mae'n amlwg fod ar Brydain eisiau dal y rhan yma o lwybr yr Almaen tua'r dwyrain fel y bydd ganddi rywbeth i'w ddywedyd ar y mater pan ddelo'r amser i drafod telerau heddwch. Ychydig iawn o ddirn newydd sydd yn cyrhaedd o Groeg ar hyn o bryd.

No title

ARIANOL, Dydd Gwener (y diwrncd y daw'r nodiadau hyn i ddwylo'r darllenwyr) bydd yr echwyn rhyfel yn cau. Y mae'n anodd pwysleisio gormod ar bwysigrwydd yr echwyn hwn yn awr pan y mae cymaint yn dibynu ar ein safle arianol. Yn ol poh tebyg bu yn llwyddiant mawr, a. dywedodd Mr. Bonar Law yn Nhy'r Cyffredin ddydd Llun ei fod yn credu y byddai cyfanswm y t-anysgrifiadau yn uwch na, dim a gafwyd o'r blaen. Rhoddodd Mr. Bonar Law: rai manylion am wedd arianol y rhyfel hefyd. Gofynodd am i'r Ty bleidleisio 550 0 filiynau o bunoedd, ac nid yw'r swm yma ond digon i'n dwyn ymlaen hyd ddiwedd Mai. Erbyn diwedd Mawrth bydd cyfanswm y ddyled wladol, heb gyfrif ein benthyciadau i'r cyngrheiriaid, yn dair mil o filiynau, ac y mae'r rhyfel yn awr yn costio i'r wlad hon dros bum miliwn y dydd. Dywedodd Mr. Bonar Law ei fod yn credu y gallai'r wlad hon ddal y baich arianol yn hwy na,'r Almaen. Ond. y mae'n eglur nad all yr un wlad ddal beichiau fel hyn am amser amhenodol. JQ* Bu trafedaeth bwysig ar gwestiwn y sudd- longau yn Nhy'r Arglwyddi ddydd Mawrth. Dywedodd Iarll Lytton, Is-Ysgrifenydd y Mcrlys, fod popeth posibl yn cael ei wneud i gyfarfcd a'r perygl, ac ar y cyfan yr oedd yn cymeryd golwg pur foddhaol a gobeithiol ar bethau. Ni cheisiodd fychanu'r perygl, ychwaith, ond dywedodd y byddai'n rhaid cwtogi llawer etc. ar rai o'r pethau a, ddygir i'r wlad hon. Dyletswydd pawb ydyw byw cyn gyniled ag y bo modd; felly y gall y dyn cyffredin i lielpu i orchfygu'r suddlongau.