Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

BOOKS FOR STUDY OR RECREATION ON ALL SUBJECTS. Text-Books for all University and other Examin- ations. Special Departments for Educational, Technical, Literary, Law, Medical, and Musical Works. Second-Hand at Half Prices. New at 25 per sent. Discount. Send for Catalogue No. 255 (Post Free), and state wants. Books sent on ap- proval. Books Bought. Best Prices Giveti.-W. & G. Foyle, 121-123 Charing Cross Road, London, w C. Telegrams: Foylibra, London. BRIGHTEN YOUR HOMES by getting your Electroplated Articles silverplated as new at small cost. Write for Free Price List, to Town- shend's, Ltd., Ernest :St., Birmingham. WAITED.—Capable Lady-Help in boy?' boarding  school (40 boarders). Nursing training or ex- perience desirable. JB30 or more, according to qual- ifications. Apply,—Mrs. Jones, West Monmouth School, Pontypool. PWYLLGOR Y LLYFRAU, Golv gydldiaeth- Y ORYSORFA-1918-1922. TRYSORFA Y PLANT—1918—1922. THE TREASURY-1918-1922. Gwahoddir, Ceisiadau am y naill lieu'r llall o'r achod, erbyn Mawrth 3ydd, 1917. Ceir y manylion drwy anfon at yr Ysgrifennydd,—Parch. D. O'Brien Owen, Carnarvon.

No title

Yn y "Manchester Guardian" ysgrifenodd W.B.S. ar le'r pregethwyr yn yr eglwysi l'hyddion. Ofna fod llawer eglwys wedi caledu dan yr efengyl-eu bod wedi gwrando ar y genadwri mor ami nes myned ohoni yn ddiystyr iddynt. Iddynt hwy y mae'n fwy o ddiod gwsg nag o sain udgorn, a dywed W.B.S. os ydym i gael diwygiad gwirioneddol fod yn rhaid iddo gychwyn yn y pulpud. Dylai pob pregethwr, medd yr ysgrifenwr hwn, bced ef wr o ddawn neu beidio, fod yn broffwyd ac yn ddyn Duw. Ond yehwanega gwr y mae ganddo genadwri ddi- gamsyniol, rhyw "Fel hyn y dywed yr Arglwydd" i'Wi draddodi, yn debyg o fod yn -hohlogaidd. Ond dyma'r bobl y mae eu 3 urn gen, ac ni bu iddynt erioed amgenach ryfle. Rhaid i'r dynicn hyn lafurio a. rhoddi eu goreu yn eti gwalth. "Y mae ar y bobl eisiau gwybod am y pethau sylfaenol, Duw a ■< liragwyddoldel), ac a ellir madden pechod. Y mae'r gwr yn y pulpud yno i ddywedyd \vrthynt, a gwae ef os nad yw yn gwybod, ac os nad oes ganddo genadwri i gyfarfoc1 a'u liangeai. Ond nid ar y pregethwr, medd W.B. S., y v dibyna'r cwbL Rhaid wrth wrandawyr mawr i wneud pregethwyr mawr. Os nad oes ar y hobl eisiau dim ond rhywbeih i'w suo i gysgu tieu i oglais eu clustiau, gwyddant ymhle i'w -gael. "Ond os ydynt yn alarus ac yn of nus, mewn gwirionedd yn ceisio cymorth, rhodiad agosach gyda uuw, helaethach sierwydd am faddeuant, cenadwri o fywyd a gobaith, fe deimla'r pregethwr hyny, ac nid all lai nag ateb." -0- Yna, a ymlaen i ddywedyd fod rhai pethau y pulpud dalu sylw neilltuol iddynt yn awr. Un ydyw esboniad agored ar y Beibl yn wyneb y ddysgeidiaeth ddiweddaraf, a dywed nad oes dim yn fwy buddiol na phre- gethu esboniadol 0'1' iawn ryw. Peth arall y mae angen am dano ydyw cymhwyso Crist- nogaeth at y bywyd bob dydd. "Uwchlaw popeth y mae angen pregethu Crist,—nid dyfalu yn Ei gylch, ond Ei gylweddi i ddynion fel eu hunig Waredwr rhag peeliod, L'Li hunig obaith am amser a thragwyddoldeb. Y mae yr hen rym yn y gair hwn o hyd, pa. le bynag y lleferir ef yn rhydd, yn argyhoeddiadol, ac allan o galon yn lla wn cariad. Y genadwri J tori a adeiladodd yr Eglwysi Rhyddion, ac i lefaru hon y maent wedi bvw. Bydded iddynt ei dysgu drachefn, a'i chyhoedcli yn iaith heddyw, ac yna ni raid iddynt ofni am y rtyfodol;"

No title

GWERINIAETH. Yn y "Welsh Outlook" am fis Chwefror y mae ysgrif pur ddyddorol ar y werin a'r Brif- ysgol. Nid oes enw na ffugenw, wrth yr ysgrif, a diogelach gan hyny yw peidio ceisio dyfalu pwy yw'r awdur. Ni bydd a fynof y. fro hwn a'r hyn a ddywed am y Brifysgol. Prifysgol Cymru. a'i llywDdraeth-ond yn anuniongyrchol, er pwysiced cwestiwn ydyw hwnw. Yr hyn a'm tarawodd i yn neilltuol yn yr ysgrif oedd syniad yr awdur am werin- iaeth a'r ffaith fod ei syniad ef yn arwydd o'r hyn sydd yn myned ymlaen heddyw mewn llawer cylch. Son y mae am y si fod Dir- prwyaeth y Brifysgol yn bwriadu gwneud cyfnewidiad mawr yn y dull o lywodraethu Prifysgol Cymru, a, gosod yr awdurdod uchaf yn Ilaw rllyw, ddeg o wyr i'w henwi gan y Llywodraeth. Gwyr fy narllenwyr fod teimlad cryf yn erbyn hyn yn bod yng Nghymru, a bod dynion amlwg y mae gan y wlad ymddiried ynddynt, yn protestio'n erbyn y peth fel cyfnewidiad gwrth-werinol. Nid yw yn hollol amlwg beth yw safie awdur yr ysgrif yn y 'Welsh Outlook"; ond deallaf gymaint a, hyn, cred mai bychan a ddylai'r prif gorff llywodraethol fod, a chanddo awdurdcd helaeth. Nid yw ei 'gasgliadau ereill yn eglur. Ond nid a hyn, fel y dyweda-is, y mae a fynof yn awr, eithr a syniadau'r ysgrifenydd galluog am lywodraeth werinol. Dywed yn blaen mai nid ei heffeith- iolrwydd yw'r ainddiffyniad goreu i lywodraeth werinol, ac ychwanega Champions of democracy as a political principle are seldom sufficiently explicit in their recognition that some degree of inefficiency is an almost uni- versal accompaniment of democratic government. Yna. a ymlaen i geisio profi hyn trwy. ddyfynu esiampl y Prif Weinidog. Bu raid i Mr. Lloyd George, i-iiedd yr awdur, benderfynu absenoli ei hun i raddau pell o'r Senedd a gweithredu ohono ei hun "heb wrando ar yr holl gynghorion a roddid iddo gan gynrychiol- wyr y genedl." Ond nid dyna, tybed, ystyr yr hyn a wnaeth y Prif Weinidog ?

No title

Y CASGLIAD. Y casgliad teg i'w dynu oddiwrth yr ym- resymiad uchod, sef fod llywodraeth werinol yn aneffeithiol am fod cynifer a llais ynddi, ydyw, mai po leiaf gwerinol fo ffurf y llyw- odraeth mwyaf yn y byd- o effeithiolrwydd fydd ynddi. Clywais hyny yn cael ei ddywedyd o'r blaen. "Nid all yr un werin- iaeth," ebe rhywun, "ryfela yn effeithiol," ac y mae cryn lawer o bobl ddifeddwl yn tueddu i gredu hyny heddyw. Hyd yn oed pe bai yn wir nid wyf yn sicr ei fod yn ddadl yn erbyn gweriniaeth. Ond nid yw yn wir Parodd y mesur o weriniaeth sydd genym yn y wlad hon anfoddlonrwydd mawr i rywrai achlywyd pobl yn galw am unben a dictator oedd i gael ■ awdurdod Cromwell a, Napoleon gyda'i gilydd. Anghofiodd y bobl dda—ond lied fyrbwyll-hyn beth a ddigwyddodd i gyfundrefnau Cromwell a Napoleon, a'r gwir amlwg ydyw nad oes dim mwy, a dywedyd y lle-iaf, o effeithiolrwydd yn pertbyn i lywodr- aeth unbenaethel nag i lywodraeth werinol. Y mae'n debyg mal'r ta-ir llywodraeth fwyaf gwrth-werinol yn Ewrob ydyw eiddo Twrci, Rwsia, a'r Almaen. Gwyr pawb ohonom beth yw hanes y Twrc fel llywodraethwr; gwyddom hefyd nad yw yn batrwm o ryfelwr llwyddianus. Gellir dywedyd yr un peth am Rwsia. Er ei bendithio a-g unbenaeth o'r fath ag a. garai'r gelyn mwyaf anghymodlawn i weriniaeth, gorcMygwyd hi gan Japan, ac nid yw yn batrwm o effeithiolrwydd i Ffrainc neu i Brydain yn y rhyfel hwn ychwaith. Ond yr Almaen? meddai rhywun,—a. byddaf yn rhyfeddu fod rhai pobl yn parhau i siarad gyda rhyw barch dwfn am 'effeithiolrwydd" yr Almaen. Hyd y mae yn bod o gwbl y mae'n codi o aniahawd y genedl ac nid o'i ffurflywodraeth. Cenedl weitligar, di-wyadl, lafurus, fuasai'r Almaeniaid pe bua-sai gan- ddynt arlywyddyn lie caiser. Ac nid yw yn debyg y. buasent wedi gwneud y fath gamgym- eriad a myned i'r rhyfel hwn. Y mae'n wir iddynt ddangos llawer o fedr mi-lwrol ya codi o'u hanian genedlaethol. Canlyniad gwendid llais y werin yn ei llywodraeth yw fod yr Almaen heddyw wedi gwario miliynau o aur ac o'i bywydau goreu-yn ofer ac am ddim.

No title

RHYFEL A HEDDWCII. Y mae'r un peth yn wir am ryfel a heddweh. Y mae Ffrainc werinol yn ofnadwy mewn brwydr; nid oedd Ffrainc dan ymherodraeth y trydydd Napoleon ond testun chwerthin. Mewn rhyfel a heddweh y mae'r America wedi bod yn llwyddiant. Dywed yr ysgrifenydd yn y "Welsh Out- look":— The one j ustification of democratic govern- ment in any sphere is not that it is efficient but that it is educative. Political democrascy, e.g., is worth while having, not because it means a well-governed country-we know to our cost that it does not-but because it give the largest number eff citizens the opportunity to pariticipate in the discipline and moralising experience of self-govern- ment." Y mae hyn yn ddigon gwir cyn belled ag y, mae a fyno ag addysg; ond ffwlbri yw dywedyd nad all y werin lywodraethu ei gwlad yn ddl. Y mae rhywbeth, wedi'r cwblj yn yr lien ddelfryd o wlad rydd; ac y maer llywodraeth a }"2rha ryddid yn gryn la,wer mwy effeithiol !la'r llywodraeth sydd yn ffitio pob rhan o'r bywyd cenedlaethol i'r Hall, fel tegan mewn bocs. Yr olaf yw delfryd rhai pobl yng Nghymru heddyw—un gwr yn trefnu popeth yn ol ei benarglwydd- iaeth ei hun ac er budd a lies—bid sicr—y rhai a drefnir felly. Hyd yn oed pe ceid gwr yn ddigon galluog, yn ddigon doeth, ac yn ddigon da i gael y galluoedd hyn ac i'w defnyddio i'r pwrpas goreu, beth fyddai'r canlyniad? Ni raid i neb a wyr rywbeth am y natur ddynol-y mae rhai na, wyddant ddim -—befcraso. AAA

No title

YNG NGHYMRU. Yr wyf wedi synu at rai yng Nghymru sydd wedi myned i amheu'r werin ac i ddyheu am rhyw, unben amhosibl. Buont gynt yn dywedyd eu bod yn credu Illewn gwerin ac mewn rhyddid, ond daeth y rhyfel a dym- chwelwyd eu holl syniadau. Ni ddywedaf eu a rgyhceddiadau, canys y mae amheuaeth erbyn hyn a- fu ganddynt rai erioed. Gwelant gymaint o weledigaethau newydd fel y mae'n ancdd meddwl fod yr un weledigaeth arall wedi gwneud argraff barliaol arnynt. Y mae gweledigacth sydd yn aros, a- gweledigaech rhyddid yw hono. Nid oes neb a'i gwelodd yn ei thegweh a all edrych llawer ar bethau llai wedyn. Ond collodd y bobl hyn eu ffydd, ysgubwyd hwynt ymaith gan genllif coch y rhyfel, a meddyliasant, am eu bod hwy wedi symud, fod yr hen seiliau wedi symud. Siarada rhai ohonynt am Ryddfrydiaetli fel pe na, bai yn ddim ond chwareu yn lie bod yn egAyyddor a gostiodd fywyd ami un a ymladdcdd drosti. Sonia rhai heddyw am y Scnedd a. chyfansoddiad Prydain fel pe na baent yn ddim ond maen tramgwydd, yn lie bod yn wrthglawdd a adeiladwyd gan lafur a dioddef llawer cenedlaeth i arnddiftyn ein rhyddid ni.

No title

Y WERIN. Nid oes neb yn ddigon ynfyd i ddadleu fod y werin yn berlfaith. Nid yw yn berffaith o gryn lawer; y mae ei diffygion yn ddigon amlwg, end diffygion, y mae pob lie i obeithio y gorchfygir hwynt ydynt. Nid yw'r werin na llywodraeth werinol 1 wedi cael llawn chwfreu teg eto, ond gellir dywedyd un peth yn ddibetrus,—y mae'n well na dim a ellir ei gynyg yn ei lie. Beth tybed yw barn Cymru ar y mater? Yehydig-ao nid pwysig iawn— yw'r dosbarth yr wyf wedi son am danynt, end a, yw cyfangorff y wlad yn cytuno a hwy i ryw raddau? Nid wyf yn meddwl eu bod Gwreiddiwyd Cymru'n bur ddwfn yn egwydd- orion rhyddid gwladol a, chrefyddol, ac nid yw hyd yn oed gwynt mawr y rhyfel wedi ysgwyd pawb. Llywodraeth o "experts" a gynygir i'n haddysg gan awdur yr ysgrif yn y "Welsh Outlook." Y mae genyf bob parch i'r "experts"—fel pobl i ymgynghori â hwynt