Teitl Casgliad: goleuad

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 16 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
GWERTHFAWROGIAD

GWERTHFAWROGIAD. AT OLYGYDD Y GOLEUAD, ddarllenais un amser ragorach ysgri'f goffa nag eiddo y Parch. E. Price, Ebbw Vale, ar y diweddar Barch. John Davies. Ai onid yw yn un o'r pethau cyftawnaf a pherffeithiaf a welwyd M'len '5 Yr eiddoch, &c., ■ —

MEDALS C OF F AD WRIAETBOL MM A MRS GEE

MEDALS C OF F AD WRIAETBOL MM. A' MRS. GEE, Syr,—Goddefwch i mi hysbysu y rhai a ftwriadant ymgeisio am y medals uchod fod yn iragewrheidiol iddynt ddanfon eu hen-wan gyda'r leyfeir'iad i'r Parch. David Oliver, The Manse, Holywell, ar neu cyn Mawrth 28ain, 1917. Rhaid i'r ymgeisydd fod yn 70 oed, ac yn parhau i fynychu yr Y sgol. Y mae yn ofynol hefyd nodi yn fanwl nifer y blynydd- oedd y mae wedi bod yn aelod, ac yn mha le. Rhaid i bob cais gael ei arwyddo gan Ysgrifenydd Cyngor Eglwysi Rhyddion y cylch. Yr eiddoch, &c., DAVID OLIVER.

AWDURAETH EMYN

AWDURAETH EMYN. ÅT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Yr oeddwn inau yn disgwyl y buasai rhyw- un wedi cymeryd sylw o lythyr eich gohebydd o berthynas i awduraeth y ddwy emyn "ffosaniia, Haleliwia," a Beth sydd i mi yn y byd." Bu- asai yn ddyddorol cael gwybod ar ba sail y priodol- wyd awduraeth yr emyn cyntaf yn yr hen lyfr i David Charles, ac yn y llyfr presenol i Morgan Rhys. Ni cheir mohoni yn y casgliad o emynau, Golwg o Ben tnebo (gwel yr ail argraffiad, 1764) tra mae pob emyn arall sydd genym o'i waith wedi eu cym- eryd o'r casgliad hwn. Cyhoeddodd Morgan Rhys amryw gasgliadau ereill, ac fe all yr emyn hon fod wedi ymddangos yn un o'r rhai hyny. 0 berthynas i'r emyn, "Beth sydd i mi yn y bydd," mae hon i'w gweled yn yr ail argraffiad (y cyfeiriwyd ato uchod) yn ogystal ac yn argraffiad 1775 (gwel gwaith Morgan Rhys dan olygiaeth y Parch. H. Elvet Lewis, M.A., cyhoeddedig gan Gymdeithas Lien Cymru). Cawn hi yma yn emyn o bedwar penill chwe' llinell. Mae yn bosibl mai uid Morgan Rhys yw ei hawdur, gan mai Casgliad o Hynmau y geilw ei lyfr. Nid wyf yn teimlo fy mod wedi gallu dadrys yr anhawster, pnd yn dis- gwyl y cawn ychwaneg o oleuni gan rai o'ch dar- llenwyr. Yr eiddoch, &c.. Caernarfon. ROGER EVANS. [Ysgrifenodd Mr. Evans ei lythyr cyn gweled llyth- yr E.D. yn y GOLEUAD diweddaf.-Gol. y GOLEUAD.]

Y GYlUANFA GYFFREDINOL 1917

Y GYlUANFA GYFFREDINOL, 1917. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Ychydig amser yn ol darllenais yn eich cy- hoeddiad gwerthfawr awgrymiad fod y Cyfarfodydd Misol yn Ileihau m'er eu cyfarfodydd. (Erbyn hyn y mae y rhan fwyaf o'r Cyfarfodydd Misol yn teim- lo gorfodaeth i leihau nifer eu cyfarfodydd. Buasai yn dda iawn genyf pe buasech yn dwyn i sylw y Cyfundeb y priodoldeb o ohirio y Gymanfa Gyfl'redin°];, yr hon sydd i'w chynal eleni yn Nhre- orei, yd y uwvddyn nesaf, pry a, fd v. £ §gllwn ar awdurdod da, y bydd heddwch eto yn teyrnasu dros ein gwlad. Dywedir fod cwmniau y ffordd haearn wedi manteisio o gyllid y Cyfundeb tua 2t>0p.' pan y cynhaliwyd y Gymanfa yn Llundain. Yn ol hyn buasai rhywbcth tebyg i 400p. a rhagor yn cael eu talu y flwyddyn yma os cedwir y Gymanfa yn iNhre- orci. A allwn ni fel Cyfundeb ddim fall in line gyda Chyngor yr Eglwysi Rhyddion, sydd yn gohirio eu cyfarfod blynyddol yn Sheffield, ac Undeb yr Annibynwyr eu Cymanfa Mai yn Llundain? Tebyg os gwna y Gymanfa Gyffredinol symui yn.y cyfeir- iad yma y bydd yn rhaid i-Sasiwn y De a'r Gogledd i'oddloni ar dyweder ddwy yn lie pedair Sasiwn eleni. 0 Clywais am rai eglwysi yn gweithredu yn ar- dderchog wrth benderfyiiu peidio cael eu cyfarfod pregethu y flwyddyn hon, er mwyn rhoddi y fee fel bonus' i'w gweiiiidog. CVedaf y byddai aberth tebyg yn lies i'r holl eglwysi ac yn sicr o sirioli y gweinidogion sydd yn ymdrechu byw ar gyflogau bychain. Y mae son y dyddiau hyn am '4 gyflogau arian. Beth pe byddai y Cyfundeb yn gwneud hyny gyda'r arian a arbedir wrth beidio cynal y Gymanfa Gyffredinol a dwy o'r Sasiynau, a defn- yddio'r gronfa newydd hon yn y. fath fodd fel y gallasai pob eglwys sydd yn rhoddi bonus i'w phregethwyr gael percentage' o'r gronfa? Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol fod yr eglwysi mwyaf yn barod yn gofalu am eu gweinidogion yn y cyfeiriad yma. Os yw yr Ei fengyl yn werth i'w chael a'i chynal, y mae yn sicr yn angenrheidiol ini weith- redu yn anrhydeddus tuagat ein cenhadon hedd y dyddiau blin hyn, fel y byddont yn gryf yn gorphor- ol yn ogystal ac yn ysbrydol pan y gwelwn y diwyg- iad mawr mewn crefydd sydd yn sicr o ddilyn yr amserau tywyll hyn. Yr eiddoch, &c., Sfcetty Road, W. COLLINS LEWIS. Ahertawe. 

WILKESBARRE DDA

WILKES-BARRE. D.D.A. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Mae yn ddiameu gennym y bydid yn dda gan lawer o ddarllenwyr y GOLEUAD gael gair o hanes y Parch. R. R. Davies, sydd wedi bod yn gwa-sanaethu yr eglwys Fethodistaidd yn y ddinas uchod am y tair blynedd diwedidlaf. Dymunwn yn gyntaf oil gydnabod ein dyled i'r enwog Barchedig W. E. Prytherch, Absrtawe, yr hwn a fu yn gyf- rwng i ni gael ein gweinidog allan i'r wlad hon am y waith gyntaf yn haf 1913. Y mae Mr. Davies wedi bod yma bellach am dair blynedd', a'i yrfa er y dydd y glaniodd efe ,a,'i deulu yn New York wedi bod yn llwyddianus dros ben. Y mae ei weinidog- aeth rymus wedi cadw ein capel eang yn Hawn er y Sabboth cyntaf y cychwynodd ar ei weinidogaeth. Un o'r golygfeydd harddaf a welsom yw y dyrfa o bob! ieuainc sydd yn tyru i'w wrando bob nos Sul. IPregetha yn y boreu yn Gymraeg, ac yn iSaesneg yn yr hwyr, a theimlwn fodlDuw wedi ei ddonio yn arbenig at y y mae yn awr yn ei gyfla;wni. Yn y Seiat w.;7thnosol, gynhelir bob nos Fawrth, y mae y neuadd eang yn llawn hyd yr ymylon, a'thrwy. y gauaf hwn y mae o dri-ugain i dri-ugain a dag o blant yn adrodd eu hadnodau bob wythnos. Nidi ydym yn cofio i ni woled, dim cy- ffelyb yn unman, a dyddorol fyddai gwybod: lianes eglwysi mawrion ereill yn y peth hwn. Os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd eglwysi bychain y wlad yn dra ffyddlon gyda'r gwaith hwn. Y mae yr olygfa ydym yn gael yma bob wythnos ar y dyrfa o blant yn gylch o gwmpas yr ystafeq fawr yn FOllni calon pawb ohonom, ac yn peri i ni wybodl fodi dyfodol yr eglwys yn ddiogel. Y mae Mr. Davies. hefyd wedi cyflaw)ii gwasanaeth gwerthfawr iawn gyda chaniadaeth y cyssgr er pan y mae yma. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yr ydym wedi cael yn y ,dyffryn hwn gymanfaoedd canu na welwyd eu cy- ffelyb mewn rhix a dyla-nwad. Ac erbyii hyn y mae pawb yn edrych ymlaen at Gymanfa Gaiiii y Pasc fel un o wyliau mawr yr ardaloedd; Er pan yn y wlad' yma v mae Mr. Davies wedi pregethu mewn Cyfarfodydd Drsbarth a Olymanfa- oedd yn nhalaethau New York, Oih'.o. Vermont, Wis- ronsin, a Minn-ssota. Yr haf diweddaf bu yn pre- gethu yn ua o eglwysi mwya.f enwog yr Unol Dal- aethau, sef y New York Avenue Presbyterian Church yn Washington. Bu wyth o Arlywyddion y wlad yma yn aelodau yn yr eglwys hon, ac yma hefyd yr addolai yr anfarwol Abraham Lincoln. Pregethodd hefyd a gynu'leidfa fawr yn nghapel vr enwog Gymro pybyr, DT. J. Wjams Jones, Balti- more. Yn yr 'Hydref diweddaf etholwyd Mr. Dalies yn LIywyd¿ Gymauh Pe.nnsylv;mia, a:? a.nrhvd,edd nid bychan i weinidog mor ieuanc oedd id-do, ymhen dwy flynedd wedi ei ddyfodiad i'r wlad, gael ei ethol yn Llywyddi Cymdeiibas y Gweinidogion yn y ddinas hon, yr hon a wneir i fyny o weinidogion perthynol i bob en wad. Wedi gweVd y gwaith mawr a gyflawnir ganddo, ac ar gy"rif ei chariad cynnes ato ef a'i briod yr eglwys yn Wilkes- Barre ar d1 lecliretf v flwyddyn hon ddangos ei gwerthfawrogiad o'i In fur trwy ychwan- i 1-i f u.?- trwy yc h wai-t- egu ei crvflogr ddau gant o didoleri' y flwyddyn, a rhoddi iddo ddeufis o eeibiant yn He un. Diau y bydd yn dda gan eu gyfeillion yn Nghymru ddeail am Iwyddiant mawr y brawd anwyl hwn. Yr eiddoch, &c., REES W. MORGAN. ————.

NOSON YN Y PANDY

NOSON YN Y PANDY. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Pa bai yn fy ngallu i ffurfio fy hun, i'r diweddar Barch. John Davies, Pandy, y dymunwn ymdebygu. Rhaid i mi gyfaddef, er fod awydd cryf arnaf gyfarfod ag amryw, n;d oedd yr un wedi goglais fy nychymyg a'm disgwyliadau gymaint i'w gyfarfod—rhyw hiraeth cryf, aflonydd yn cyniwair drwy fy mron lawer tro. Daeth duwies wamal ffawd a mi i gyfarfyddiad ag ef gyntaf yn Llyfrgel] Gladstone, yn Hawarden. Am ddiwrnod cyfan gwnaeth fy llusgo yn ol trwy wch y gronfa ddethol- edig honno o lyfrau. Tranoeth gwnaeth i :i ddych- wclyd gydag ef i Lys y Pandy—cartre' llawer breu- ddwyd i mi erbyn hyn. Y noson gyntaf, penderfyn- wyd helynt y Saith Dinas. mwy na hyny, .pender- fynwyd o hyny allan fy mod i berthyn i'r un gatrawd ag ef yn y fyddin, ae ystyriaf fy mywyd o'r noson honilo hyd heddyw yli ganoaidd. lAwchlymodd yr uchelwyi honno fy nyddordeb mewn pob peth a berthyn i hanes Cymru, ac nid wyf byth wedi dym- uno ymysgwyd o ledrith y gorphenol. Mor naturiol yr yfai o felus ffrydiau yr hen oesau, ac mor ddeheuig y cydiai yn nolennau coll hanes. Mor ddyrus i mi oedd cyfnod y Mabinogion, vn dywyllwch Aiphtaidd, ond daeth awelon y Pandy yn Gwent Ts-y-coed a pliob gronyn o lweh o'nt llygaid, nes medrwn wel'd tir pell y gorphenol, ty- wysogion y Mabinogion, a thyIwyth urddasol y Ford Gron, yn eu tegwch. Y pleser oedd iddo chwilio i achyddiaeth Gymreig Gwyddai am ganghenau cyfochrog pob teulu o bwys, ac er mor ddyryslyd ydyw tras a gwehelyth y gen- edl o genhedlaethol i genhedlaeth, yr oedd y cyfan yn berffaith oleu i'w gof bywiog a gafaelgar. Hyd y noson hon yn y Pandy, ychydig wyddwn ac ach- yddiaeth helaeth a manwl siroedd Brycheiniog a Morganwg, am eu bod wedi eu gadael allan o Her- aldic Visitations, Dwn." Gyda gradd o eneiniad eglurodd gysylltiadau teuluoedd y rhanbarth hwn, a phan ddaeth at deuluoedd Gorwydd a Llanwrtyd, gwelais fod blodyn serch gwanwyn fy mywyd yn disgynyddes o dras Elystan Glodrydd. Cefais lawer cyfle arall i wel'd ansawdd ac amryw- iaeth gwreiddiol ei alluoedd, n'r ystor o wybodaeth oedd wedi croni ynddo. Nid oedd ei fath fel henafiaethydd, ac y mae wedi gwneud y ffordd yn hawddach i lawer rodio yn ol i hen oesau. Byddai gartro' gyda hanes boreu glwys ein cenedl ac oes hyglod y meini iglo. Er i mi fod y hela'r Twrch Trwyth gyda Syr Joliii Elivs, yn olrhain y llwybrau cudd at gell Ieuan Deulwyn gyda Syr Owen M. Edwards, ac yn edrych ar degweh ac olion natur am boreu gydag Anthropos ar ben Twtil. credaf i gwm- ni a chyfaredd eel gyfrinion John Davies y Pandy wresogi'm yspryd a thrwytho fy meddwl, os nad nnvy, lawn eymaint a'r ddau farchog a lienor enwog Segontium. Yr oedd yn un o'r cymeriadau hyny sydd yn cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru. Yn y Gyfundeb mae adwy lydan ar ei ol, a bwlch na lenwir mohono yn fuan. Mae arnaf hiraeth cfwys ar ei ol—prudd-der yn fy nygyfor. Er nad allaf byth fynegu yr hanuer ;1, welais ac a glywais yn Llys y Pandy, anniolchgar ar fy rhan yw cysegru cyn lleied a hyn o linellau i'w goffadwriaeth. "Rhyfeddol oedd dy gariad tuag attaf." Holaist am danaf yn dy ddyddiau olaf- pan yn swn rhydiau yr hen lorddonen. Cu iawn fuost ac a fyddi byth genyf. Yr eiddoch. &c.. Blaengwynfi, TOM BEYNON.

MR E T DAWIES EMPORIUM LLANSTEPHANI

MR. E. T. DAWIES, EMPORIUM, LLANSTEPHAN. Bu farw y gwr da uchod ar y Sabboth cyntaf o'r mis hwn, a chladdwyd ef ar y dydd Mercher canlyH- ol yng nghladdfa Moriaii, Llanstephan, yn ymyl ei anwyl briod. Yr oedd Mr. Davies wedi enill lie amlwg yn mhlith blaenoriaid Sir Gaerfyrddin, ac yr oedd new- ydd orphen ei dymor fel llywydd y Cyfarfod MisoL Brodor ydoedd o ardal New Inn, lie enwog yn hanes Methodistiaeth fel cartref yr Hybarch John Evans (Llwynffortun). Hanai o deulu crefyddol; cymer- odd yr iau yn fore, a bu yn ffyddlon hyd fedd i'w broffes. Ceir darlun rhagorol ohono, ac ysgrif ddyddorol arno yn "Nhrysorfa y Plant" am Hydref, 1912. Bu yn preswyiio mewn amryw axdaloedd yn Sir Gaerfyrddin yng nghyfnod cyntaf ei oes, ond am y 40 mlynedd olaf o'i oes bu yn dwyn ymlaen fasnach helaeth yn mbentref prydferth Llanstephan. Bu felly am dymor hir yn un o brif arweinwyr yr eg- lwys yn Moriah. Bu yn ffyddlon yn holl gyjehoedd y ty, ac yn arbennig felly fel athraw medrus a selog yn yr Ysgol Sul. V i: oedd ya ddarlienwr eang. ac wedi meistroli hufen llenyddiaeth Cymru. Dioddefodd ami a blin gystuddiau, ond yr oedd wedi dysgu ymdawelu i cwyllys ei Arglwydd. Er garwed yr hin, daeth tyrfa fawr ynghyd i'w gynhebrwng. Trefnwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. E. Thomas, Treforis (Llanstephan, ar ol dechreu Ebrill nesaf), a darllenwyd a gweddiwyd yn y ty gan y Parchn. Watkin Davies, Ficer St. Jude's, Abertawe, a W. Llewelyn Davies, Llangaddocli (perthynasau agos i'r ymadawedig). Yn y capel cymerwyd y rliannau arweiniol gan y Parchn. J. Cassam (A.), Llanybri, a Victor Griffiths. Pentwyn. Siaradwyd yn fyrr gan y Parchn. D. E. Thomas, J. O. Jones. W. Nantlais Williams. J. John (A.), a J. W. Harries, Pilrhoth (cyd-swyddog yn Moriah am yn agos i 40 mlynedd), a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. D. E. Jones, B.A.. Pentre. Offrymwyd gwaddi eilwaith ar Ian y bedd gan y Parch. iNantlais Williams, nc vmwasgarodd v dorf yn swn odlau gobaith am ddydd y gwelir "plant y tonnau ".011 yn eu gy-nau gwynion, Ac ar eu newydd wedd. Ymhlith y galarwyr yr oedd Miss R. A. Davies (merch), a Mr. a rlS, J. R. Hughes '(merch a mab-, yng-nghyfraitli), Mr. D. Davies, Caerfyrddin (brawd). Mr. Samuel, Go]den Grove (brawd yng- nghyfraith), dwy chwaer i'r ymadawedig, o Pembre, Parch. E. Jones, Ficer, Llangian (cefnder), &e. ■Nawdd y Nef fo'n gysgod i'r ddwy ferch anwyl fu'n gwylied eu hanwyl dad mor dyner yn ei hir gystudd, a chyfoded Duw eto ddynion ieuainc tebyg i'n hanwyl frawd i wasanaethu crefydd ein Har- giwydd yn y cylch. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd, fendigedig."

No title

Wythnos i'r Sul dhveddnf, yn bur sydyn, bu farw Mr. Thomas Hughes, 103 Claughton Road, Birkenhead. Yr oedd yn fiaenor ffyddlon yn eglwys" Parkfield, Birkenhead, ac yn un o Gymry hynaf y dref. Yr oedd yn agos i bedwar. ugain mlwydd oed.