Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Y Blaid Gymreig Mewn Tymher DdpwgI

Y Blaid Gymreig Mewn Tymher Ddpwg. [GAN ELIPHELET.] Bu cyffro cethin yn ngwersyll yr yspeilwyr yr wythnos cyn y Nadolig. Achoswyd y cyffro drwy i'r Weinyddiaeth i gael ei gor- fodi i ganiatau i'r Eglwye 1 gadw X,15,000 yn ychwanegol o'i heiddo cyflawn ei hun. Yr ydoedd yr yspeilwyr Cymreig wedi gosod eu calonau ar drawsfeddianu y A15,000 yna, a phan welsant fod pob gobaith am lwyddiant wedi dianc, collasant eu tymherau yn lIwyr, gan fyned yn gynddeiriog wyllt. Bygyth- iodd yr Aelodau Radicalaidd dros Gymru y bvasent yn cyfodi mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, ac yn eu gorfodi i ymddi- Iwyddo. Traddododd Mr. Llewellyn Wil- liams araeth finiog iawn, gan gondemnio y Weinyddiaeth yn ddiarbed. Cynhyrfwyd f ysprydoedd gwancus Syr David Brynmor J ones ao Edgat Bach hefyd i'w gwaelodion, a chwythasant hwythau fygytWon a ohelanedd yn erbyil yr hyn a ddesgrifient fel gwendid anghydmarol ar ran y Llywodraoth. Y mestynodd y cyffro i Gymru befyd, a gos- odwyd gwifrau y pellebyr ar waith, a galwyd aelodau y gwahanol bwyllgorau yspeilgar ynghyd, i roddi ystyriaeth frysiog i'r sefyllfa ddifrifol & gvfodasai mor ddteymwth. Fflachiai y mellt cyflym genadwri ar ol cen- adwri i fyny i Lundain, ao yn ol i Gymru. Yn mhen diwrnod neu ddau tawelodd y cythrwfl, ac amlygwyd i'r byd fod I y mynydd wedi esgor ar lai na llygoden y tro hwn yn wir esgorodd ar ddim OR nad ar wynt. Cysgodd yr Aelodau Cymreig noswaith, ac erbyn dranoeth gwelsant y buasai gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth yn fwy o drychineb na chaniatau i'r Eglwys gael cadw 15,000p., oherwydd buasai hyny yn peryglu y 400p. o gyflog a dderbynir gan bob un o honynt yn flynyddol. Rhag peryglu'r gyflog penderfynasant 1 beidio gwrthwynebu yn mhellacb, a thrwy hyny cafodd yr Eglwys gadw 15,000p., a bwytaodd yr aelodau dros Gymru eu geiriau. Pob peth a rydd dyn yn gyfnewid am ei einioes,' ebai yr hen ddywediad, a bellach gellir ychwanegu, Pob peth a rydd aelodau Radicalaidd Cymru am 400p. yr un y flwyddyn.' Fe ddylai pob Eglwyswr ymdrechu deall o ba ttynonellau y tardd y 15,000p. y bu gy- maint cynwrf yn eu cylch*; byddai hyny yn fantais iddo ddeall hefyd hawl Eglwyswyr iddynt, ao yn mhellach galluogid ef i fesur haeHoni yr yspeilwyr tuag at yr Eglwys, am yr hyn y clywir mawr swn yn y dyddiau hyn. Ceiaiaf yma daflu ychydig oleuni ar y mater. Gwneir y 15,000p. i fyny o ddau swm gwahanol o arian sydd yn meddiant y Gronfa neu y Drysorfa Eglwysig bono a adnabyddir fel y Queen Anne's Bounty. Cynwysa un o'r Bymiau yna 9000p., a'r llall 6000p. Llog arian ydyw pob un o'r ddau. Ymdriniaf, yn gyntaf, a'r X9000. 0 ba le y deilliodd y capital' sydd yn cynyrchu y llog blynyddol yna ? Fe gofia y darllenydd 0 fod yr Eglwys yn hen sefydliad yn y wlad hon, a bod hen arferion yn perthyn iddi. Yn mhlith ereill, y mae yr un canlynol yn arfer- iad hynafol yn yr Eglwys :—Pan yr apwyntir esgoln i'w esgobaeth, a phan yr apwyntir rhai o'r offeiriaid i'w plwyfydd, y mae yn hen ddefod fod iddynt osod o'r neilldu gyfran benodol o'u cyflogau am y flwyddyn gyntaf at wasanaeth cyffredinol yr Eglwys. Mewn geiriau ereill, ni cbaniateir i'r esgobion a llawer o'r offeiriaid i gadw at eu gwasanaeth eu hunain yr oil o'u cyflogau am y flwyddyn gyntaf y byddont yn dal eu swyddau, ond trosglwyddant gyfran helaefch o'u cyflogau y flwyddyn hono i un o gronfeydd cyffredin yr Eglwys, sef y Queen Anne's Bounty. Defn- yddia llywodraethwyr y gronfa y symiau a dderbyniant o'r ffynonellau yna i ychwanegu cyflogau offeiriaid a weithiant mewn plwyf- ydd poblog lie y mae y gwaddol yn fyeban. Sylwed y darllenydd ar hyn, ni fydd yr Eg- lwys byth yn defnyddio y 'capital,' eittir y llog yn unlg a ddefnyddir ganddi. Ceidw y capital yn gyfan, ac ymdrecha ychwanegn ato yn barhaus. Erbyn heddyw y mae yr Eglwys drwy y drefn yna wedi sicrhau digon o gapital i gynyrchu llog o £ 9,000 y flwyddyn, a defnyddia y llog yna i ychwanegu gwerth bywoliaethau bychain, ac hefyd i ffurfio plwyfydd newyddion a dybenion ereill. Y pwynt pwysig i'r darllenydd i'w gofio ydyw fod y capital' sydd yn cynyrchu y llog yna wedi dyfod allan o logeHau esgobion ac offeiriaid yr Eglwys yn Nghymru, neu mewn geiriau ereill arian y mae yr Eglwys wedi eu cynilo ydyw y swm sydd yn cynyrchu p £ 9,000 y flwyddyn. Gan hyny fe ganfyddir ar unwaith fod yr arian yna, a dyweyd y lleiaf, yn eiddo cyfiawn i'r Eglwys, a bod pob cyfiawnder ya galw am iddi i gael eu cadw. Dyna eglurhad syml ar gyfran o'r X15,000 y mynai yr Aelodau Cymreig i'r Llywodraeth i'w lladratta oddiar Eglwys Dduw. Erys ^6,000 eto i gyfrif am danynt. 0 ba le y oafodd yr Eglwys yr arian hyn ? Mewn atebiad i'r gofyniad yna, credaf na allaf wneuthur yn well nac ail adrodd yr hyn a ddywedwyd genyf mewn ysgrif ddiweddar. Rhwng y bIyn yddocdd 1809 ac 1820 yr ydoedd cyflwr arianol Prydain mewn sefyllfa lewyrchus iawn, ac yr ydoedd gan Llywodr- aeth y dydd fwy o arian nac ydoedd arni ei heisiau, yn debyg, fel yr ydoedd gan Mr. Lloyd George yn agos i 66,000.000 dros ben y I ei angen flwyddyn yn ol. O'r awm oedd ganddi yn ormodol yn y cyfnod Uewyrehus n hwnw gwnaeth y Llywodraeth roddion arianol i wahanol gyrph crefyddol yn y wlad. Rhoddodd amryw symiau i'r Eglwys, ond rhoddodd symiau mwy i Ymneillduaeth Pa beth a wnaeth Ymneillduaeth o'r gyfran a dderbyniwyd ganddi hi ? Defnydd- iodd yr oil o hono yn y fan, heb osod dim o'r neilldu ar gyfer y dyfodol. Byw o'r Haw i'r gonau' y mae Ymneillduaeth wedi arfer ei wneyd, ac felly dyna derfyn ar ei chyfran hi. Ond pa beth a wuaeth yr Eglwys à'r gyf- ran a dderbyniwyd ganddi hi ? Cyflwynoid ef i ofal Queen Anne's Bounty, un o'i thrys- orfeydd canolog,:ac ni ddefnyddiodd ddim ond y llog yn unig, ac erbyn heddyw y mae y llg yn cyrhaedd y ewm o 6000p. yn flynydd- ol, ac y mae y -capital yn aros yr un faint o hyd. Felly, fe welir fod y cyfalaf a'r Hog yn aios yn meddiant yr Eglwys eto, ond yn ol dar- pariadau y Mesur presenol, hyd nes newid ychydig arno yr wythnos eyn y Nadolig, gofynai y Llywodraeth am gael y capital' yn ol. Y mae yn deilwng o sylw mat yr unig rodd arianol a dderbyniodd yr Eglwys Gym- reig erioed oddi ar law y Senedd ydoedd y Iwm yna sydd erbyn heddyw yn cynyrchu Hog o GOOOp, yn flynyddol, ac wele, y mae y Llywodraeth oludog bresenol yn ei ymofyn yn ol. Beth pe bai y Llywodraeth yn troi at yr Ymneillduwyr gan ddywedyd, Rhoddwch yn ol i ni yr arian a dderbyniasoch gan ein rhag- flaenoriaid.' Cyfystyr fuasai hyny ac erchi caws o fol ei,' ond byddai yr un mor gyfiawn a gofyn i'r Eglwys i ddychwelyd y swm a dderbyniodd hithau. Fel yna y cyfrifir am y 15,000p. a arbed- wyd i'r Eglwys yr wythnos cyn y Nadolig. Daeth yr h)n sydd yu oynyrchu 9000p. y flwyddyn o logellau esgobion ac offeiriaid Cymru er y flwyddyn 1704. Daeth y gweddill a gynyrcha 6000p. fel rhodd oddi wrth y Senedd ryw gan mlynedd yn ol. Ond meddai rhywun, 108 mai o law y Senedd y derbyniwyd y awm yna, y mae gan y Llywodraeth hawl i ofyn am dauo yn ol.' I Owael iawn,' ddywedwn ninau mewn at- ebiad, fyddai ymddygiad y dyn a rydd anrbeg i arall un diwrnod, ao a a. ddiwrnod wedi'n i'w hawlio yn ol.' Chwareu teg, fe welodd amryw o'r Senedd- wyr Rhyddfrydig Saesnig, yn Eglwyswyr ac yn Ynaneillduwyr, ei fod yn beth afresymol i gymeryd y ddau swm yna oddiar yr Eglwys, a gorfadwyd Mr. McKenna i ganiatau iddi i gael eu cadw, a dyna achosodd i'r Aelodau Radicalaidd Cymreig i fyned i dymherau mor chwerw, a chyftroi mor enbyd. Gwell fuasai ganddynt weled y Mesur yn cael ei daflu dros y bwrdd na chaniatau oymaint a hyn yna o chwareu teg i Eglwyswyr Cymru. Yn mhlith y rhai a ofynent am gyfiawnder i'r Eglwys yn y mater hwn yr ydoedd yr aelod anrhydeddus dros Morley, Mr. France wrth ei enw, yr hwn sydd yn Wesleyad. Aohwynodd Mr. France yn y Ty ychydig yn ddiweddarach fod rhai o'r aelodau Cymreig wedi myned mor bell ag i ddial eu Hid arno efdrwy anfon i Morley i geisio dylanwadu ar ei etholwyr i rwyitro Mr. France i bleidio cyfiawnder i'r Eglwys, drwy ei fygwth. A ellir dychymygu am weithred waelach na hynyna ? Dyna fesur yr ymdeimlad o an- rhydedd a berthyn i'r aelodau Radicalaidd Cymreig. Ond dychymygaf glywed un o'm darllen- wyr yn codi gwrthddadl, gan ddywedyd nad ydyw yn deg i farnu Ymneillduwyr Cymru i gyd wrth ymddygiadau gorwael yr aelodau Seneddol. Yr atebiad i'r wrthddadl yna ydyw hyn, y mae yr aelodau Cymreig yn proffesu eu bod yn gweithreu ar ran, ac yn enw, ein cyd- wladwyr Ymneillduol. Yn mhellach eto, tystiodd Syr David Brynmor Jones yn y Ty, ei fod wedi derbyn cenadwri ar genadwri o bob parth o Gymru, yn cyfleu yr anghymer- adwyaeth a pha un yr edrychai y mwyafrif mawr o Ymneillduwyr Cymru ar gynygion y Llywodraeth i ganiatau i'r Eglwyswyr gael cadw y 15,000p. uchod. Os ydoedd Syr Brynmor yn dweyd y gwir, pa ymddiried a allwn ei roddi yn nheimladau da ein cym- ydogion Ymneillduol ? Nid yw yn rhyfedd ychwaith fod Ymneillduwyr Cymru yn ym- wylltio ac yn ymgynddeiriogi, oherwydd y maent yn deehreu sylweddoll erbyn hyn ynfydrwydd x dallineb eu harweinwyr. Syl- weddolant fod ysbeillo yr Eglwys yn golygu y bydd i swm o arian gael ei gymeryd i flwrdd oddiwrth grefydd a'i drosglwyddo at amcanlon bydol, ac eto na fyddant hwy na'u capeli yr uii geini*oo, ar eu henill. Os rhaid myned i'r arian oddiar yr Eglwyg, paham er hyny na ellid eu cadw yn ngwasanaeth cref- ydd, drwy eu defnyddio at anghenion y capel? Nid oes angen yr arian hyn ar y Wladwr- iaeth, oblegid yr ydoedd ganddi 6,000,000P. yn ngweddill y llynedd. Y mae eu hangen ar Ymneillduaeth, er hyny bu arweinyyr politicaidd Y mneilduaeth yn ddigon meddai i adael iddynt lithro drwy eu dwylaw. I ba beth y bu y golled hon ? Wrth derfynu, caniataer i mi gyfeirioj meddwl y darllenydd at un ffaith arall. Y IDle llawer Eglwyswr yn credu nad ydyw y Llywodraeth yn cymeryd yr un ddimai oddiar yr Eglwys, a adawyd iddi wedi y flwyddyn 1662. Yn hyn gwna-Eglwyswyr gamgymer- iad difrifol. I brofi hyn yna digon ydyw dy- wedyd fod yr oil o'r 15,000p. yr ydwyf wedi bod yn ymdrin a. hwynt wedi dyfod i feddiant yr Eglwys ar ol y flwyddyn 1704.

No title

Myner PERL Y PLANT yn mbob ty yn Nghymru. -J-'

Nodion a Lloffion

Nodion a Lloffion. Dychwelais. yn ol o Sir Fon yr un diwr- nod, wedi gweled y wraig ieuanc a i chwaer; yr oedd y gwr oddi cirtref hyd yr hwyr. Da oedd genym weled lie mor gysurus ganddynt, a deall- eu bod yn rly I weddol lwyddianus yn eu bamgylchiadau bydol. Yr oedd genym awr a haner i aros eto yn Bangor, a brysiais ar unwaith am y Cathedral, a, phan ar ei bwys gwel- ais y drws yn agored ac amryw yn myned i fewn. Clywais yr organ ar waith, a deallais fod y gwasauaeth hwyrol yn cael ei gynal. Aetlium i fewn yn araf, a chymerais fy eisteddle ar gyfer y di-ws. Daillenwyd. y llith gyntaf gan yr Hybarch Arcddiacon Lloyd Jones, a'r ail gan y Deon Roberts. O'r braidd yr oeddwn yn aUnog i cldeall un o honynt yr oeddent a u penau yn isel yn y llithiau a'u llais yn dyrchafu i'r neii yn lie cerdded i lawr i blith y gynulleidfa. Yr oedd y canu y b w gyda'r goreu glywais erioed, yn enwedig yn y Magnificat.' Gyda deehreu yr 1. emyn ar ol y tr}Tdydd Colect, gorfu i mi ymadael, ond. teimlwn yn ddioichgar am y traint o gael un cyileustra yn fy mywyd i gael rhan yn ngwasanaeth Cathedral un o Esgobaethau lienaf ein gwiad. Yn yr orsaf cyfarfyddaLs a'r Parch. Ganon E. T. Davirs, B.A. (Dyfrig), rheithor Gaerwen, Sir Fon. Yr oeddwn wedi ei weled yrwythlloS ilaenorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ngwrecsam. Yr oedd yn flin ganddo nas gallwn ddych- welyd g'ydag ef i dreulio un noson yn Ynys Mon. Ni fuasai dim yn fwy wrth fy modd pe byddai amser yn caniatau hyny. Treuliasom noswaith gyda n gilydd flynyddau maith yn ol, ar ol iddo fod yn pr egethu yn ngwasanaeth diolchgarwch Treorci, Dyffryn Rhondda, plwyf Ystrad- yfodwg. Yr oedd yn dda genyf ei weled yn edrych mor dda ar ol bod yn wael ei iechyd. Cofion fyrdd ato. Dydd Gwener, aetlium i Pwllheli; yr ocdd dyn dyeithr yn pregethu yn St. Pedr, sef eglwys y plwyf yno. Fe ddaeth Rheithor Llannor genym. Yr oeddwn am gael golwg ar eglwys y plwyf ynia, oherwydd yr oedd fy hen fTrynd Dyfrig wedi bod yn ficer y plwyf hwn am flyn- yddau. Y ficer ar hyn o bryd yw y Parch. J. Edwards, B.A., o Go leg Dewi Sant, L!anbedr-pont-Stephan. Brodor o'r De- heudir yw Mr. Edwards, a'i guradiaeth gyntaf oedd yn Pontlottyn, gyda'r Parch. T. Rees, B.A., yr hwn oedd y pryd hyny yn ficer yno, ond y mae wedi symud yr haf diweddaf i r Gogledcl i gymeryd gofa1 plwyf Llangynhafal. Mae Mr. Edwards yn gymeradwy iawn yn ei blwyf, ac yn fug-ail diwyd a gofalus ar ol y praidd a'i blwyfolion. Cafwyd awr a mwy yn ei breswylfod cyn dychwelyd, a dymunwn ddiolch iddo ef a'i. hriod:1111 eu croesaw cynes i un egwan fel fy liun. Gobeithio ei fod ef a i bnod a'i fam oedranus yn mwynhau iechyd rliagorol yn awyr iach Pwllheli. Yr oedd yn ddiweddar arnom erbyn cerdded i Llannor ond gan mai hon oedd y noson ddiweddaf i mi yn y Gog- ledd nid oedd fawr hwyl i frysio mewn un ffordd, ond CYll cyraedd y gwely dyma r Rheithor yn gosod llyfr mawr o'm blaen, rhyw lyfr coffadwriaeth, er mwyn i mi i osod i lawr rhyw ychydig sylwadau ar hanes fy ymweliad a Llannor. Dyma'r amser mwyaf pryderus fu arnaf er's tro. gwyddwn beth i ddweyd na pha le i ddechreu, gan i'r amgylchiad gymeryd lie mor ddirybudd a disymwth daeth rhyw ochrys droswyf, hyd nes i fi ddechreu troi'r tudalenau a, gweled beth oedd hwn a'r llall wedi ysgrifenu, a sylwi fod rhai or rhai oedd wedi tori eu henwau yn y llyfr yn adnabyddus i mi; felly ysgrifen- ais ychydig linellau, ac wedi hyny y tri phenill yma. Mae Rheithor hawddgar Llannor, A i wraig a'i blant yn ddidor, Y rhai dedwydd4 yn y fro, Nis gellir byth eu hebgor. Mae croesaw yma'n gyson, A llawer mwy na digon I bawb fynychant drothwy'r drws 'Does neb mwy tlws na'r Person. Boed iddo ef a'i deulu Fod byth dan nawdd yr Iesu. Bendithion llawn fo iddynt oil, Hyn yn ddigoll yw'm gweddi. Gyda Haw, gallaf ddweyd fod priod y Rheithor yn hanu o deulu v Gurneys, Norwich.* Pan achwynwyd wrth offeiriad nad oedd Cymdeithasau yr Eglwys iit, gyii- orthwyo curadiaid yn cael y gefnogaeth a ddisgwyliwyd iddynt. dywedodd fel hyn: Dylasai curadiaid Cymru briodi genet hod ag arian ganddynt.' Nis gallaf 1 171 ddweyd dim mwy ar y pen yma bydded i bob un fod yn sicr yn ei feddwl ei hun. Yr oeddwn i ddal y tren drnnoeth yn Pwllheli, ac yr opddwn ym/n brydl'on wedi cyraedd mewn cerbyd o Llannor a'r Rheithor genym. a daeth dwy o'i ferched i'm gweFd yn ddiogel yn v tren, ac hefyd b J h. 0/ Ficer Pwllheli. Diolch lawer iddynt am eu boll garedigrwydd a'll gofal. Nid anghofiaf hytJI fv nhaith gyntaf i'r Gog- Iedd a Sir Fon. Wrth syhvi a holi cefais bob lie i gredu fod yr Eglwys yn adnewyddu ei nertli fel yr eryr, ac yn eynyddu yn barhaus ymhob eyfeiriad er lies tymorol a ihragwyddol i'w plant a'i pliobl. Enwoglawn yw'r Wen Eglwys—ar y Graig Fawr eiigrym y gorphwys Oorwych y deil ymgyrch dwys Holl uflern a llu aphwys.' •

Our Ancient Mother

Our Ancient Mother. For eighteen hundred years The Church of our forefathers Has held aloft the Lamp of Grace To native born and strangers. We love the Church that bore us, This song shall be our chorus, We'll save her yet spite foe or sect By the heaven's ruling o'er us. The pious agitators Of pillage are ferocious, They strive to rob, to steal, and strip Her gifts of generations. No weapon formed against her Shall be allowed to prosper, She is the Candle of the eye Of God, who doth defend her. Let us not therefore waver To fight under her banner, Ko sect, no creed, no foe, no fiend Shall be allowed to touch her. God bless our Ancient Mother, Be this our cry for ever, Renew her strength from day to day, And evermore defend her. Cyrbaeddais fy mwtliyn yn y wlad yn gynar nos Sadwrn, ac felly dygais fy nhaith i derfyniad. Drwg iawn genym nas gallwn anfon hyn o nodion yn fwy cyson. Carwn wncyd rhai. sylwadau ar y diweddar Ddeon Edwards, Bangor^ ond rhaid tewi ar liyfi o bryd.

Nodion o Lanan Tegid

Nodion o Lanan Tegid. LLANUWCHLLYN.—Testvn y gadair yn Eisteddfod y Pasg ne^af yn Llanuwchllyn yw Llwybr,' ac Ap Ceredigion fydd yn clorianu y frawdoliaeth farddol. Gellir cael y testy nan odiiwrth yr ysgiifenydd g-weithgar, Mr. T. Gittins Owen. Rhwydd hynt iddynt yn mhen uwchaf y llyn yma. FRONTGOCH. Pleser digymysg genyf ddeall fod Ficer y phvyf hwn a'i ddeadell ffyddlon yn up-to-date,' a-n bod yn cael liwyl gyda'u cyfarfodydd adloniadol. Ar y 12fed o r mis diweddaf, darllenwyd papyrau gwir alluog ar 'The "Welsh Bill' yn Saesneg; 'Disestablishment' gan Mr. A. Leake; Disendowment gan Mr. G. Gregory. Yn Gymraeg, ac ar yr un pwnc, gan Mr. John Jones a Mr. Morris Thomas. Ar y 19eg, y testyn ydoedd Beth yw Eglwys Loegr,' pryd y caed papyrau Cym- 1.) b reig a. Saesneg gan y Mri. Leake, Gregory, a J. Jones. Dyma gam i'r iawn gyfeiriad, sef ymdrin a chwestjynau amserol a buddiol. Brysied plwyfolion ereill y Ddeoniaeth yma i ddilyn camrau y cyfeill- ion hyn. Mae gwir angen cyfarfodydd o'r fath ymhob plwyf o gylch y glanau yma, yn sicr i cliwi, coeliwcb neu beidio. 1913. Darlithiau cyhoeddus (cyfres. Gymreig) dan nawdd Canorion Glanau Tegid; dyna. wleddoedd penigamp sydd yn ein haros. a'r enwog Dr. J. Ll. Williams, Bangor, fydd yma yn Ion. 24-aill, Y11 traethu ar Alawon Gwerin Cymru': y Parch. Tom Evaiis, M.A., B.D., yn llywyddu. Chwefror Bed, Mr. T. Gwynn Jones, Aberystwyth, draetha ar Feirdd y Cywydd,' a'r hynaws Ddr. Williams yn cadeirio. Chwefror 14eg, y 'Parch. E. 0.. Jones?, ficer Llallidloes fydd wrthi ar Gyfieithu,' a phwy wyr yn well nag ef am y gelf gain hon? fel y prawf ei gyfieith- iadait riiao-oi-ol o weithiau telynegol Ceii,io(, y Prif Athro J. C. Evans, I I el I M.A., lywydda y noson hono. Mawrth 7fed, Mr. Ifor Williams, M.A., geir yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar laith Llafar Gwlad," a'r Parch. T. Talwyn Philips, B.D., yn y gadair. Bu darlith- iau Gilchrist yn llwyddiant hollol yma dro yn ol, a diau genym y bydd y rhai hyn hefyd. Dengys yr enwau uchod fod talentau goreu Cymru wedi eu sicrhau. Mae y diflin Mr. W. E. Jones London City (i- M. Bank, gyda'i Ganorion yn brysur, brysur er's misoedd yn parotoi go- gyfer a'r darlithiau. Cenir Alawon Cym- ru ymhob cyfarfod, a gwyddom trwy brof- iad sut ganu gawn. Nid all undyn a | g'.ywodd en dadganiad yn Aelwyd Ang- haradd ei anghofio. Gwyn ein byd na cliaem fwy o gytTelyb W.E. i roddi lien, awen, a clian, a llai o'r Die Shondafydd ion crebachlyd yma'gyda'u clnvareuon cti- fudd byth a hefyd. Cas wr nas caro » wlad a'i mago.' Gwir bob gair. RHODDION.—Yn yr Ysgoldy Genedl- aethol, brydnawn Gwener, yr 20fed, der- byniodd y plant Gardiau Nadolig gan Miss Jones, Fron Dderw; teganau o bob math. Hun, a lliw gan Mrs. Á: Passingham, ac aur-afalan gall Mrs. Owen Jones, Maes-yr- hedydd. Bu Miss Jones garediced hefyd a chyflwyno llyfrau i.fiaenion y plant enill- asant y marciau uwchaf yn y gwahanol safonau. Dyma'r blaenion :—Willie Gwil- iiam, Harold Williams. G. Grainger, Maurice Humphreys., Matilda Roberts, ac Isabella Jones. Am gadw yr ysgol yn dchfwleh am saith mlynedd derbyniodd Gwennie Lee a Bessy Parry fatliodau aur; am gadw yr Ysgol yn ddi-fwlch am l>edair blyuedd derbyniodd" Frank Lewis a, Dannie Lee oriawr arian bob un, a rhoed Vjathod- au arian am gadw yr Ysgol am flwydd^yn yn ddifwlch i Harold Jones. Th. R. Jones, Geo. W. Bell, Isaac L. Robrt. B. Bell, Gwennie ".J. Williams a Dora Owen. Dewisodd v rhai dilynol lyfrau yn hytraeh na bathodyn arian :—Percy Roberts, J. R. Jones, G. Grainger, II. O Roberts, Bessie Jones a Mary Parry. Maedda y Prif Athro Mr. Gordon Price giod uchel b am yr olwg lewyrchus sydd ar yr ysgol heddyw, a haedda y boneddigesau uchod hefyd glod mawr am y dyddordeb, tra- fferth, a'u haeledd tuag at y plant sy'n mynychu yr ysgol hon y naill flwyddyn ar ol y Ilall. Diolch calon iddynt.. NEWYDDIADUR NEWYDD.-Mae yn mryd Undebwyr Meirion ddod a phapyr newydd wythnosol allan ddechreu Mawrth nesaf, er mwyn hynvyddo eu hachos yn y Sir. Prnffwydir yn dda, a dywed y nhw yma y bydd yn llwyddiant. Ilei hvc.

Penodiadau yn Esgobaeth Llandaf

Penodiadau yn Esgobaeth Llandaf. Mewn gwasanaeth neillduol a gynhal- iwyd yn nghapel y Palas, Llandaf, ddydd LIun, Rhagfyr 23ain, gosododd Esgol.) Llandaf y Parch. Thomas Price, B.A., mewn meddiant o reithoriaeth Coity, gyda chapel Nolton, Penybont-ar-Ogwy. Caniataodd ei arglwyddiaeth hefyd In drwydded gyffredinol i weinyddu yn yr esgobaeth i'r Parch. Charles William Tyler, M.A., a timvyddedwyd y Parch. Thoma? Wright, B.A., i gaplaniaeth y Genbadaeth i'r Morwyr yn Nghasnewydd- ar-Wysg. Trwyddedwyd y rhai canlynol i gurad- iaethau Y Parchu. Philip Francis i St.. Sior, Cwmparc; Gwilym Jones, L.D., i Cyfarthfa; Charles Arthur Strange, M.A., i St. loan y Bedyddiwr, Ca»newydd-ar- Wysg; Sidney William Ernest Williams, B.A.. i St. loan, Penydarren. Caniatawyd trwyddedau Heygol i IMr. Francis William Probert, St. Tyfaelog, Pontlottyn; Mr. William Roberts, Llan- gynwyd, a Mr. Charles Skidmore Taylor, St. loan yr Efengyhvr, Maindee, Cas- newydd-ar-Wysg.

Gofyniad yn Llanbedr wedi cael ei ateb

Gofyniad yn Llanbedr wedi cael ei ateb. Dro ar ol tro, yr ydym wedi darllen am ddyeitbriaid mewn trefi pellenig wedi eu gwella drwy ryw feddyginiaetb neu gilydd, ond y cwestiwn parhaus yn Llanbedr ydoedd, "A oes rhywun yma yn Llanbedr wedi ei wella." Gall gair dyeithr-ddyn, yn byw gan mlllfcir o bellder, fod yn wir, ond nis gall feddu yr un dylanwad arnom a'r dystiolaeth roddir gan gyd-drefwr, un ag yr ydym yn gydnabyddus ag ef ac yn ei barchu, a thyst- iolaeth yr hwn ellir ei brofi yn rhwydd. Dywed Mrs. A. Evans, sydd yn byw yn 9, Harford Row, gyferbyn a Chapel Soar, Llan- bedr:—Yn ddiweddar, blinid fi gan boenau ymsaethol ar draws fy nghefn a'm hysgwydd- au. Nis gallwn fwynhau gorphwysdra priod- ol yn y nos. Yr oedd y dwfr allan o drefn, ond derbyniais les dirfawr drwy gymeryd Doan'. backache kidney pills. Cefais rydd- had drwyddynt o'r deehreu, ac ni fum yn hir cyn bod yn hollol iawn drachefn. Yr wyf yn credu fod peleni Doan yn feddygin- iaeth dda iawn, a bydd i mi yn sicr gynghori ereill i'w cymeryd. (Arwyddwyd) ANN EVANS." Pan y mae anhwylder ar yr elwlenod, mae yr holl gorff yn cael ei wenwyno yn araf. Dyna y rheswm fod anhwylder yr elwlenod mor ddifrifol, a phaham y terfyna mor fynych yn angeuol. Mae Doan's Backache Kidney Pills yn glanhau ac yn gwella yr elwlenod yn dyner, ac felly yn symud ymaith achos yr anhwylder, poen yn y cefn, crydcy- malau, dropsi, anhwylder dyfrol, grafel, gwendid, a marweidd-dra annaturiol. Gwerthir am 2s. 9c. y blychaid; chwe' blwch, 13s. 9c.; ar werth gan fasnachwyr, neu oddi wrth y Foster-McClellan Co., 8, Wells-street, Oxford-street, London, W. Peidiwch gofyn am beleni at boen yn y cefn a'r elwlenod, ond gofynwch yn bendant am Doan's backache and kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Mrs. Evans.

BODFEAN

BODFEAN. NADOLIG.-—Boreu dydd Nadolig, am 10, yn Eglwys St. Buan, cawsom y fraint o ymuno i gyfranogi o'r Cymun Bendig-aid, ac yr oedd rhifedi lied dda wedi dod ynghyd. Am 6 yn yr hwyr, cawsom garolau gwir dda. Canwyd yn rhyfeddol o dlws gan dri phlentyn bychain Mr. Salt gyda'u gilydd, ac hefyd gan gor 0 blant bychain. Cafwyd unawclau hefyd a quartetts yn hynod dda gan y personau canlynol: -Misses P. Hunter. Rhoda Wheeler, K. Proffitt, Annie Roberts, L. J. Thomas, Mri. Salt, Lewis Thomas, a Wm. Thomas. Awd trwy y g^vasanaeth a phregetliwyd gan y Parch. G. Salt. YR YSCOL SUL.—Y11 ddiweddar bu Mr. W. Thomas, Pwllheli, ar ymweliad a'u Hysgol Sul. ac yn profi y plant. Yr oedd yn eu canmawl yn fawr.—O.D.

BETTWSYNRHOS

BETTWS-YN-RHOS. A OFI'XT.—Yjiregeethwyr neillduol eleni oeddynt y Parchn. Robert Edwards, Tro- raerth David Lewis, Llysfaen Ebenezer Avails,^ rheithor Llanfair Talhaiarn. NADOLIG.—Dathlwyd gwyl Nadolig yn y modd mwyaf priodol trwy ddechreu gyda r hen Blygain am 6 o'r gloch. Yr oedd yr eglwys yn Hawn, a chafwyd carol- « au lawer gan gor yr Eglwys a phartis o'r Capel. Dymal'r Blygain fwyaf lewyrchus a fu yma yn nghof pobl y Llan. Am 10, j gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd i'r Cymrv am 11.15, i'r Saeson g"wasanaet.h a phregeth am 6 yn yr hwyr. Cafwyd cynulljadau rhag-orol trwy'r dydd. SOCIAL.-—Mae parotoi. mawr ar gyfer y Parochial Social. Dyma'r adeg pan y byddwn bawb ohonom fel Eglwyswyr yn I, mwynhau ein hunain gyda'r wledd i'r cor-pit a'"r meddwL Pawb fel arfer yn y cywair non. Os cawn hwy] rhoddir hanes y Social yn y LLAN nesaf. a