Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

.> YR HAUL. I I I I CYNWYSIAD AM IONAWR. | Nodion e Coffa Cymru Fu Ffurfiau o Weddi Forms of Prayer ) Mynachlogydd Cymru yn y Canoloesoedd j Yspryd y Puritan Fy Hen Athraw Canu ? Cwyn Coll

Advertising

I PKHL IJPLANT | CTNWYSIAD AM IOKAWR, I Gweddi Plant y Perl." j At j Perliaid. | Class No. 1 (gyda darhin). [ Dadleuon Magi Jones. ) Englyn Dylanwad (Miss Owen. > Y Diweddar Mr. David Jones, War- | den Eglwysig Mmffordd,Penrhyn« j deudraeth. At a Xmas Party. j Edward y Cyffeswr a Westminster > Abbey. O'r Papur Newydd. Rhestr y Ffyddloniaid. Pa foid y Cyfododd y Plant y Gwynt. Y Brenin a'i Fibl. Profia.d Milwr Ieuanc, Bwrdd y Gan. Caneuon Plant y Peri.' Y Paganiaid Bach Duon. Y Draul o gad w Paganiaid Bacii Duon y Perl. Beirniadaetli ar Gystadlenaeth. Perlau y | Perl.' Y Gystadleuaeth Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth-

Nodion yr Wythnos

Nodion yr Wythnos. Mae gan Eglwyswyr Cymru bob lie i deimlo'n galonog ar ol yr Etholiad ym Mwr- deisdrefi Fflint. Yr oedd y Radicaliaid wedi llwyddo i gael yr ymgeisydd cryfaf oedd yn kosibl i ymladd eu brwydr, oblegid yr oedd cysylltiadau lleol Mr. Parry a'i deulu yn elfen bwysig o'i blaid, ar wahan i'w alluoedd personol ef ei hun, ond dychwelwyd ef trwy fwyafrif Uai nag a gafwyd er's deuddeng mlynedd. A chofier fod y mwyafrif Radical- aidd wedi bod yn cynyddu'n gyson yn y cyf- nod hwnnw. 347 gafodd Mr. Herbert Lewis ya 1900, ond eafodd Mr. Howell Idris 376 yn 1906. Codwyd hwn i 427 gan Mr. Summers yn lonawr, 1910, ac erbyn Rhagfyr yn yr un flwyddyn, dyma'r mwyafrif Radicalaidd i ( fyny i 509. Yr wythnos hon, dyna Mr. Hamlet Roberts yn ei dynnu i lawr i 211 trwy ddodi pwnc y Dadgysylltiad o flaen pobpeth arall. Heriodd Mr. Roberts y Radicaliaid i, ymladd ar y pwnc hwnnw'u unig, ond cred- ent hwy'r hen ddiareb, Discretion is the better part of valour,' a buont yn ofalus i'w osgoi goreu gallent. Pe buasent wedi derbyn heriad Mr. Roberts, buasent wedi colli'r dydd trwy fwyafrif llethol. Nis gellir eu beio'n wleidyddol am ddodi callineb o flaen gonestrwydd, ond yn sicr mae'n warth fod arweinwyr y blaid yn Fflint wedi camarwain a tbwyllo'r etholwyr trwy haeru fod yr Undebwyr yn bwriadu trethu bwyd y werin y tro nesaf y bydd yr awenau yn eu Haw. Mae pob dyn sy'n darllen y papyrau newydd yn gwybod yn eithaf da fod yr Undebwyr, o Mr. Bonar Law i lawr, wedi ymwrthod i'r syniad o drethu bwyd mewn unrhyw ffurf, ac y mae'n resynus fod y fath anwireddau disail yn cael eu lledaenu er mwyn camarwain y werin. Ond nis gellir disgwyl I ddynion sydd am dorri pob cysyllt- lad rhwng y wladwriaeth a chrefydd fod yn ofalus iawn ynghylch egwyddorion moesol mor gyffredin a gwirionedd ac uniondeb. Un gair o gyngor i Eglwyswyr. Yn ei ar- aeth ar ol yr etholiad, dywedodd Mr. Roberts fod nifer fawr o'r etholwyr yn analluog i wa- haniaethu rhwng Dadgysylltiad a Dadwaddol- iad. Er fod Eglwyswyr Cymru wedlgwueyd gwaith rhagorol i oleuo'r wlad ar y pynciau hyn, mae'n amlwg iawn fod eisieu gwneyd rhagor eto. Gwyddom fod llawer o Ym- neilltuwyr yn erbyn DadAaddoliad ac o blaid Dadgysylltiad, ond taerai'r arweinwyr Radi- calaidd fod yn anmhosibl cael y naill heb y Hall. Ein dyledawydd, felly, ydyw gwasgu'r fFaith yma at gydwybodau ein cyfeillion Ym- neilltuol. Mae miloedd ohonynt yng Nghymru na fuasent byth yn fotio o blaid Dadgysylltiad pe gwyddent ei fod yn golygu Dadwaddoliad. Dalier ati, ynte. Mae cyd- wybod y werin yn iacb eto, er fod cynifer o'r arweinwyr Radicalaidd yn ceisio eu gwyr- droi, ac ond i ni barhau i gyhoeddi'r gwir- ionedd am y cysegr-ysbeiliad yr amcenir ei gyfiawni, gallwn lwyddo eto i ddiogelu'r ym- ddiriedaeth a osodwyd arnom. Ddwy flynedd yn ol, dywedodd rhai o'r Radicaliaid mwyaf blaenllaw fod arnynt fwy o ofn Dadgysylltiad na Home Rule, ac y mae'r ymdriniaeth ar y ddau Fesur yn Nhy'r Cyff- redin wedi profi nad oedd eu hofn- au heb sail iddynt. Am ryw reswm neu gilydd nid yw'r wlad wedi dangos teim- ladau agos mor frwd yn erbyn rhwygo'r Ymherodraeth ag yn erbyn rhwygo'r Eglwys. Yn y ffaith hon eto gwelwn le i ymwroli. Mae mwyafrif y Llywodraeth ar y gwahanol adranau o Fesur Home Rule wedi cadw'n gyson uwchlaw cant, ond ar bwnc Dadwadd- oliad mae wedi syrthio i lal na banner bynny. Yn wir onibai am gynorthwy'r Gwyddelod Pabyddol buasai'r Llywodraeth wedi ei gorchfygu dro ar ol tro ar Fesur yr Eglwys. Nid yw'r frwydr eto drosodd er fod rhai o'r Dadgysylltwyr yn dechreu cweryla eisoes ynghylch rhannu'r ysbail. Beth pe byddai iddynt gofio'r then air, First catch yonr hare." SOll am gweryla, clywsom ar yr awdurdod uwchaf fod yr aelodau Gwyddelig yn ffieiddio'r aelodau Radicalaidd Cymreig am eu hymagweddiad tuagat y Concessions

Nodion yr Wythnos

roddwyd i'r Eglwys. Ymladdwr teg yw'r Gwyddel gyda'i holl ddiffygion, a phan gaiff ei guro'n deg mae'n cydnabod hynny, ond nid yw tegwch i'w gael yng ngeiriadur y Radical- iaid Seneddol Cymreig. Pan orfuwyd i'r Llywodraeth ildio ar bwnc y Queen Ann's Bounty, a gollwng rhyw ^15,000 allan o'u( crafangau, aeth y Radicaliaid Cymreig yn gynddeiriog. Diameu eu bod yn edrych arnynt eu hunain fel gwroniaid gwrthdystiol. Piti na fuasent yn gwybod beth oedd barn y Gwyddelod am danynt, "Spoilt children in a bad tamper yw'r desgrifiadgoreu o honynt. Bydd yn ddyddoroi gweled beth a ddaw o bwnc pleidleisiau i ferched yn ystod y dydd- iau nesaf. Mae un peth yn berffaith sicr. Mae anfadwalth y penboethiaid hanner gwall- gof sydd wedi bod yn peryglu bywydau dyn- ion drwy eu gweithredoedd ffol wedi peri i liaws oedd o blaid yr egwyddor droi yn ei herbyn. Dichon, er hynny, y ceir digon o aelodau Ty'r Cyffredin o blaid yr egwyddor i beri trafferth i'r Llywodraeth, oblegid os llwyddir, yn ystod y Committee Stage, i ddodi yn y Mesur welliant o blaid rhoddi pleidleis- iau i ferched gwneir y Llywodraeth yn gyfrifol am yr egwyddor, ac yna, yn ystod y Trydydd Darlleniad, efaillai y try'r fantol fel arall.

Advertising

LLYFRAU NEWYDD AR GYFER MAES LLAFUR YSGOLION SUL YR EGLWYS. -:0:- • EFENGYL S. IOAN (AIL RAN). Gan y PARCH. D. J. JONES, Arholydd Esgobaethol Bangor. Prisiau- 1 copi, 2s.; 6 copi, 9s 6c.; 12 copi, 18s. LLAWLYFR I'R PLANT Gan y PARCH. J. WHELDON GRIFFITH. Pris-2s. y dwsin. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Archeb. I -:0:- Anfoner yn ddioed at— MANAGER, Llan Office, Lampeter.

CRICCIETH

CRICCIETH. Diwrnod i'w hir-gofio gan drigolion Cric- cieth a Llanystumdwy ydoedd dydd Iau, Ion- awr 16eg, sef dlwfnod prlodas y Parch. Canon J. P. Lewis, rheithor Llanystumdwy, a Miss Mary Elizabeth Ellis-Nanney, unig ferch Syr Hugh a'r Anrhyd. Lady Ellis-Nanuey, o'r Gwynfryn. Er mai yn Eglwys St. Sior, Han- over Square, Llundain, y priodent, 'roedd yma arddangosiad amlwg o lawenydd a dymuniad am lwyddiant a hapusrwydd i'r par ieuanc.' Cafodd plant ysgollon Criccieth a Llanystum- dwy, yr I old-age-pensioiiers' a thenantiaid ystad y Gwynfryn eu gwala a the a bara brith, I a chaed mwy nag un coelcerth yn yr hwyr. Deallwn fod Canon a Mrs. Lewis wedi der- byn nifer lluosog o anrhegion gwerthfawr a hardd. Yn eu plith yr oedd un plat arian prydferth ddeg modfedd ar ei draws, ac oddi tanodd iddo yr inscription canlynol :I A wedding gift of the Clergy of Eifionydd to the Rev. Canon Lewis; M.A., Jan. 16, 1913 ac yna lac simile o autograph-signature pob un o offeiriaid Eifionydd. Hir oes a phob llwyddiant a hapusrwydd i'r Canon a'i briod yw dymuniad lawer un heblaw-

BODFEAN

BODFEAN. CYFARFOD CYSTADLKUOL.—Nos Wencr, yr 17eg o'r mis hwu cynhaliwyd cyfarfod o'r natur uehod yn ysgoldy Bodfean. Lludd- iwyd y llywydd penodedig, sef Dr. J. Ellis Griffith, Pwllheli, i fod yn bresenol gan am- gylchiadau anorfod. Arweiniwyd yn hwyliog gan y Parch. G. Salt. Enillwyd ar y gwahanol destynau gan y personau canlynol:—T. Thomas, Oswald Williams, John Williams, D. S. Davies, R. Jones, A. a M. Pritchard, G. Roberts, Annie Roberts, O. J. Williams, W. Thomas, G. B. Davies, E. Hughes, L. J. Thomas, Mr. T. 0. Williams, Mr. J. Williams, Miss J. Williams, H. Rowlands, Humph Rowlands, Mr. Gomer Jones, Mr. W. A. Thomas, Mr. Isaac Davies, Miss J. Williams, Mr. W. Jones; party o 12, goreu, party L. Thomas; parti o 4, daeth amryw ymlaeb, i rhanwyd y wobr rhyngddynt. Caed cyfarfod da iawn, a bywiog trwyddo, a daeth cynulliad da ynghyd, fel yr oedd y lie yn orlawn. Y beirniaid oeddynt:—Mr. W. Jones, Morfa Nefyn; Ap Gwallter, a Mr. Owen Davies, Mr. C. A. Thomas, Mr. R. W. Thomas, Pwllheli, Mr. Robert Williams, Tyddyncoed; Mrs. Salt a Mrs. Thomas. Cyfeiliwyd yn fedrus fel arfer gan Mrs. Salt. Canwyd Hen Wlad fy NhadaH,' ac aeth pawb adref wedi treulio tair awr ddifyr.-

Coleg Dewi Sant

Coleg Dewi Sant. Y DDADLEUFA GYMREIG.—Nos Ian, cyn- haliwyd cyfarfod cyntaf tymor y Garawys o'r gymdeithas uchod. Pwnc yr ymdra- fodaeth ydoedd y Dylid cael Confocasiwn y iwii yn arbenig ar gyfer yr Eglwys yn Nghym- ru.' Cymerodd Mr. W. H. Williams yr ochr gadarnhaol. Dywedai y dylai yr Eg- t, ZD lwys yn Nghymru fod a barn hollol anni- bynol, aC felly dylid cael Confocasiwn yn arbenig i Gymru er ymdrin a'r pynciau Eg- lwysig hynv sydd yn pertbyn i'r Cymry yn neillduol. Mr. R. O. Rowlands oedd yn g-wrthwynebu gosodiad y testyn. Haerai y byddai ymraniad oddiwrth Loegr yn gwanhau yr achos cysegredig. a bod yr ym- n zn I lyniad a, Lloegr fel mantell yn gochelyd yr Eglwys yn Nghymru. 'Roedd gymaint o fFeithiau grymus gan y ddau siaradwr, fel mai anhawdd ydoedd dewis eu prif ffeith- iau. ac ni chafodd yr un frawddeg ei siarad nad oedd yn hollol ar y testyn dan sylw. Eiliwyd Mr. Williams gan Mr. T. Jones (Caderfab), a Mr. Rowlands gan Mr. T. Madog Williams. I apel y llywydd am i'r siaradwyr ddod i draethu eu barn mor fuan ag oedd yn bosibl, cafwyd atebiad union- gyrchol. Daetli y siaradwyr yn mlaen, y naill ar ol y Hall. heb oediad. Siaradwyd dros y cadarnhaol gan y Mri. S. M. Harris (Silvan), Isaac Edwards, Rhys James (Moelfre). W. R. Thomas. J. Washington Jones ac A. Lloyd Jones; dros y nacaol gan y Mri. D. Harris Williams, T. J. Good- win ac R. W. Lloyd Jones. Credaf fod y ddadl hon yn un o'r rhai Ta yaf difyr a bywiog ag a fu'ni yn wrando erioed. Pan roddwyd y pwnc i'r bleidlais, cafwyd fod nxwyafrif o bedwar dros yr ochr gadarn- haoT. PENCARREG.- Y Sul diweddaf pregeth- wyd yma gan Mr. R. Davies. a llafargan- wyd y gwasanaeth gan Mr. W. F. Williams. PENTREBACH.—Y preget-hwr y Sul di- weddaf ydoedd Mr. D. Jones (L.), ac aeth- pwyd drwy y gwasanaeth gan Mr. D. Jones. EGLWYS Y PLWYF.—Darllenwyd yn Gym- raeg gan Mr. J. L. Davies. AP TYSWYN.

LLANLLICHID

LLANLLICHID. Gan fod yma nifer fechan o gystadleuwyr ag oeddynt yn sefyll yn fuddugwyr, ac heb eu nodi allan yn y golofi a roddwyd yn y LLAN yr wythnos ddiweddaf, yr ydwyf yn gwneyd ymddiheuriad o'r anffawd. Nid ymgais na bwriad, oDd digwyddiad oedd. Dynca fel y maent yn sefyll :-Am y pencil sketch o ben ei 1 ag 2, Wm. Williams, Glan Betblem, Talybont; canu y ddwyjdelyn Mr. Bob Davies, Glanogwen; am yr ymenyn goreu.- 1, Miss Maggie Hughes, Panthwfa; 2, Miss Maggie Griffith, Ty Slaters; rhangan, 'Serch hudol swyn,' Llechid Parti; y prif draethawd ar Ddiwydrwydd Mr. Robert G. Roberts, Llanllechid; am y walking stick Mr. R. Roberts, Stanley Ter., Llanllechid. Nos Fercher, y 15fed, cynhaliwyd cyfarfod o'r gymdeithas yn ysgol eglwysig Rachub, pryd yr oedd nifer dda wedi cyfarfod yno. Cymerwyd y lywyddiaeth gan y Parch. D. Lewis (Ap Ceredigioo), ac awd gan ddechreu ar y gwaith am y nos trwy alw ar Mr. Robert G. Roberts i ddod ymlaen, a thraddod- odd anerehiad gynwysfawr ragorol ar Ddiwydrwydd.' Ar ol agor y gymdeithas, siaradwyd ar y testyn gan amryw o'r cyfeill- ion. Gresyn na ba'i modd dwyn ein ieuenctyd i weled gwerth eu cyfleusderau a chymeryd mantais i hogi eu deall, ac i ddatblygu y gallu i lefaru yn gyhoeddus.

CAERFYRDDIN

CAERFYRDDIN. CTFARFOD CYSTAI>LEUOL.—Nos Iau diwedd- af cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol hynod o lwyddianus yn Ysgol y Priordy o dan nawdd yr ysgol Sul perthynol i Eglwys St. Pedr. Cadeirwyd gan Faer y Dref (Mr. J. B. Arthur). Clorianiwyd yr adran gerddorol gan y Parch. W. Glynfab Williams rbeithor Dinas Cross, Sir Benfro, a'r amrywiaeth gan y Parch. D. Caleb. Hughes, o Goleg Caerfyrddin, a rhoddodd y ddau berffaith foddlonrwydd. Cyfeiliwyd ar yr achlysur gan Miss Daisy Jones, a Mr. G. H. Sparks. Rhoddodd Mr. H. C. Reeves ei holl galon yn y gwaith fel ysgrifenydl, ac y mae yn deilwng o ganmol- iaeth uehel. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a chafwyd cyfarfod llewyrchus. Gofod a ball i mi roddi y rhaglen. Ar gynygiad y Parch. E. D. Aldred Williams, wedi ei eilio gan y Parch. W. liar Edwards, paaiwyd pleidlais o ddiolcbgarwch i'r caderydd, y beirniaid, a'r oil a gymerodd raa yn y cyfarfod. Terfyn- wyd trwy ganu 'God save the King. Melus moes eto. C.E.M.S.—Cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd y gymdeithas hon nos Fercher diwedd- af a chafwyd anerehiad pwrpasol gan yr Arch- ddiacon Bevan ar Sylweddoldeb Aelodaeth (Reality of Membership.) Eto, prydnawn y Sul yn Eglwys St. Pedr, cynhaliwyd cyf- arfod i wrywod, o dan nawdd yr un gym- deithas, a chafwyd anerchiad hwyawdl gan y Parch. D. Watkin Morgan B.A., ficer Llanelly. Sylwodd yn fwyaf neillduol ar amcanion y gymdeithas, ac awgrymodd yn darawiadol y modd y gallai yr aelodau wneyd rhywbeth yn ddyddiol er lies yr Eglwys. Ar ddiwedd y cyfarfod derbyniwyd nifer o aelodau i'r gymdeithas gan y Parch. Aldred Williams.-

Llawlyfr Cerddorol Lleyn 1913

Llawlyfr Cerddorol Lleyn, 1913. Eleni fydd y nawfed ar hugain tro i gorau Eglwysig Lleyn gyfarfod mewn man cylchyn- ol i gynal eu gwyl gorawl, sef yn Eglwys Llanengan ar ddydd Iau, Mehefin 5ed, o dan arweiniad Mr. W. Pentir Roberts, Llan- bedrog. Diameu genyf y bydd rhyw rai yn rhywle yn falch weled trefr a cbynwysiad y gwasanaethau. Hyn wyf yn bcrffalth sicr y buasai yn dra derbyniol genyf fel un o aelod- au y pwyllgor cerddorol cael gwybod am hoff chants ac emynau gwahanol ardaloedd er mwyn gwneyd awgrymiadau i'r pwyllgor, canys penderfynir ar bob un yn oly mwyafrif. Ceir dau wasanaeth genym-y Boreol a'r Brydnawnol Weddl-fel y canlyn :—Boreol Weddi: Emyn Orymdeithiol, 'Ellers' (Dr. Hopkins), Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen Venite (Dr. Dupius); Salmau neillduol, viii. (Dr. Stainer), cxlTi. (J. L. Rogers); Te Dejum, adnodau 1-13 (W. Russell), 14-21 (J. Jones), 22-29 (K. J. Pye); Jubilate Deo (J. Jones); Anthem, O'r Dyfuder y LIefaia (W. T. Samuel) Emyn, Diademata' (Syr G. Elvey, Mus. Doc.), Pererin wy'n y byd emyn, 'Bavaria' (Mendelssohn, 180'-1847),' Go- sod babell yn ngwlad Gosen.' St. Hywyn' (R. E. Williams, Brynbelyg, Pwllheli), I Mae Seion wan yn griddfan dan y Grces.' Cors- ygarnedd (W. Rees), Glan gerubiaid a ser- aphiaid.' Babel' (trefniedig gan J. H. Ro- berts, Mus. Bac., Cantab.). Ni fydd pregeth yn y gwasanaeth cyntaf, ond gofelir am fwyd naturiol yr adeg yma, a hawdd ydyw dyfalu mai gwaith anhawdd sydd gau y I caterer' i ddiwallu anghenion y canoedd lawer sydd yn dyfod, yn enwedig pan gofir fod pobpeth ar wasgar yn y wlad, ac fod ycorau wedi dy- fod, rai bymtheg, a'r rhan fwyaf ddeg o fill- diroedd—rhai mewn cerbydau a ddylesid, ar bob eyfrif, eu hanfon i'r British Museum, er mwyn i'r oesau a ddel gael gwel'd antique furniture ond ereill a ddaw mewn motor cars a bicycles.' Erbyn i'r te iyued dros- odd, bydd yn amser myned i'r gosper, sef fel hyn Emyn gorymdeithiol, Paradise (Henry Smart), 'Paradwys, 0 Baradwys wen;' Salm CXKXV. (Dr. Goss); cxliv. (Dr. Morgan) Cantate Domino (Jos. Itobinson); Nuuc Dimittis (Parch. W. Jacobs); Anthem, I Tyrnasoedd y ddaear,' (J. A. Lloyd); Y don Blatitudo (Parch. J. B. Dykes, Mus. Doc.), Mi welaf gyrau'r hyfryd wlad Dominus Regit Me (Dr. Dykes), '0 fewn y lien, tu draw y bedd Holstein (o Goral Ellmyn- aidd,' trefn. gan R. Rogers, Mus. Doc.), '0 Salem, ti ddinas fy Arglwydd Verona, (Coral Eidalaidd), Disgyn, lor, a rhwyga'r nefoedd Eventide, (Dr. Ionk., o aros gyda mi, y mae'n hwyrhau.' Ynglyn a'r wyl, ac o dan ei haden, ceir trefniant i hyr- wyddo am dystysgrifau yn y Tonic-Sol-ffa, a daw amryw am danynt bob tro. Ond nid wyf eto wedi clywed am yr un o honynt wedi dringo y grisiau i gyd i'r pen uchaf. Wrth gydmaru y llyfr yma a'i rag-flaenoriaid ceir ei fod yn debyg iddynt yn ei rinweddau a'i ffaeleddau. H. R. ROBERTS.