Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. CYNWYSIAD AM IONAWK. Nodion Coffa Cymru Fu Ffurfiau o Weddi Forms of Prayer Mynachlogydd Cymru yn y Canoloesoedd Yspryd y Puritan Fy Hen Atbraw Canu Cwyn Coll

Advertising

mil t, A | CYNWYSIAD AM IOXAWR. G weddi Plant y Perl." At y Perliaid. Class No. 1 (gyda darlun). Dadleuon Magi Jones Englyn Dylanwad Miss Owen. Y Diweddar Mr. David Jones. War- den Eglwysig Miliffordd, Penrhyr, ( deudraeth. At a Xmas Party. ( Edward y Cyffeswr a Westminster Abbey. O'r Papur Newydd. < Rhestr y Ffyddloniaid. Pa fodd y Cyfododd y Plant y Gwynt. Y Brenin a'i Fibl. Profiad Milwr Ieuanc. Bwrdd y Gin. Canenon Plant y Perl.' Y Paganiaid Bach Duon. Y Draul o gadw Paganiaid Bach Duon y Perl.' Beirniadaeth ar y Gystadleuaeth. Perlau v 'Perl.' V Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth-

Y Peiriant Seneddol

Y Peiriant Seneddol. [GAN JUNIUS."] Ty y Gyffredin, Westminster. Dydd Mawrth, cynygiwyd ail ddarlleniad Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Gymreig yn Nhy yr Arglwyddi gan Arglwydd Beauchamp, a chynygiwyd ei wrth- odiad gan Arglwydd Kenyon ar ran yr Wrth- blaid, cynygiad, ar ol ymdrafodaeth am dri diwrnod, a gerir gan fwyafrif sylweddol. Ymhen tri neu bedwar mis, bydd y mesur hwn ynghyd ag un Ymreolaeth yn cael ei an- fon i Dy yr Arglwyddi eto. » »# Mae y Weinyddiaeth a'r chwipiaid yn rhoddi pob gewyn ar waith i ohirio y Ty ddiwedd yr wythnos, fel ag i alluogi* y gwleidyddwyr blinedig i sicrhau gorphwysdra o waith seneddol am ryw ugain diwrnod. Nis gallal y Llywodraeth ddal i fyned ymlaen lawer yn hwy pe gwrthodid y gorphwysdra hwn i'w dilynwyr. Feallai fod y cyhoedd oddi allan i'r Ty wedi blino cymeryd dyddor- deb llawn yn ngweithrediadau presenol y Senedd, ond y mae yn rhaid i'r aelodau ffugio eu bod hwy yn cymeryd dyddordeb dwfn ynddynt. Ond er yr oil, mae yn rhaid iddynt gael ychydig seibiant. Mae y Radicaliaid wedi blino cael gosod eu trwynau yn barbaus ar y maen Uifo gan y chwipiaid, ac y maeut yn myned yn fwy annibynol a herfeiddiol yn barhaus. Yr wythnos ddiweddaf, ynglyn a'r ymdrafodaeth ar y mesur dadgysylltiol, gad- awsant i fwyafrif y Llywodraeth stiddo i lawr 1 28 ar ddiwrnod olaf yr adroddiad, ond caw- sant dalu am hyny y dydd canlynol. Er mwyn gwneyd i bethau ymddangos yn well, myn: odd Chwipia!d y Llywodraeth i bob un o'u cefnogwyr, o bob adran, i lawr i'r rhai claf ac anafus, droi i fyny i bleidleisio ar drydydd darlleniad y Mesur Cymreig, gyda'r canlyn- iad i'r Llywodraeth sicrhau mwyafrif da am nnwaith. Ond ymdrech ydoedd nas gellid prin ei hail wneyd. Aeth y Rhyddfrydwyr allan o drefn y diwrnod canlynol, a dydd lau yr oedd gwrthsafiad cyndyn gan Ryddfryd- wyr cymedrol a Radicaliaid Ysgotaidd yn erbyn ysgrifenydd Ysgotlaud ynglyn a Mesur Dirwestol Ysgotland, a chafodd y Llywodraeth ysgydwad trwm arall. # Mae yr holl wir ynglyn a'r helynt Ysgot- aidd ddydd Iau diweddaf yn wybuddys erbyn hyn. Mae y prif welliantau wnaed gan yr WrthbUid yn darparu hawl i arolygiaeth anfuddianol, ac yswiriaeth orfodol. Mae llawer o aelodau y blaid Rhyddfrydol yn ffafriol i arolygiaeth anfuddianol, yr hyn sydd ar yr un llinellau a chyfundrefn Gothenburg, ac y mae amryw o'r Gweinidogion yn ffiifrio y syniad. Mae Mr. Sherwell wedi cymeryd dyddordeb dwfn yn y mater, a phan ydoedd y mesur yn Nhy y Cyffredin cynygiodd welllant, yr hwn wrthodwyd gan Mr. McKin- non Wood. Gosodwyd ef i mewn yn Nhy yr Arglwyddi, ond ni chymerai Ysgrifenydd Ysgotland mo hono. Ar awr olaf y cynygiad, gwnaed araeth gan Mr. Sherwell yn erbyn Mr. McKinnon Wood am ei wrthwynebiad, gan feio y blaidRvddfrydol am y ddull yr oeddynt wedi dyfetha diwygiad dirwestol am fiynyddau, Fel y daniosodd Mr. Bonar Law mewn araeth a draddododd yn Llundain ddydd Gwener, nid oes gan y Llywodraeth ond un meddylddrych gyda golwg ar ddiwygiad trwyddedol, sef anafu y fasnach drwydd- edol drwy ei threthu yn drom, ar unig feddylddrych a'u meddiana ynglyn a diwyg- iad tirol yw gosod trethi trymion ar y tir. Yn yr achos cyntaf, rhaid i'r yfwr dalu mwy am ei ddiodydd, a chyda'r Hall aifF y tir yn ddiwrteithiedig, a chyll y gweithwyr hynaf eu gwaith. Cafwyd trafodaeth flin, ond ar anogaeth Mr. Lloyd George, tynodd Mr. Pringle ei gynygiad i ohirio y ddadl yn ol am ryw hyd. Daw y mesnr ymlaen eto mewn rhyw tfurf neu gilydd, orid enfodd yr Wrth- blaid weled fod anghydgordiad difrifol yn y rhengoedd Rhyddfrydol. Mae yr ymdrafodaeth gymerodd le yn Nhy yr Arglwyddi ar sefyllfa adfydrs y milwyr

Y Peiriant Seneddol

tiriogaethol yn debyg o fod yn un a gofir yn hir. Yr oedd yn amlwg oddiwrth areithiau aelodau y Llywodraeth nas gallant guddio oddiwrthynt eu hunain fod yn rhaid gwneyd rhywbeth pendant i wella yr anhawder pres- enol ynglýn a. denu rhai i ymaelodi, er fod Arglwydd Haldane yn awgrymu fod pobpeth er daioni, ac wrth gwrs mai efe oedd yr Ysg- rifenydd Rhyfel goreti a gafwyd ac a geir. Rhoddwyd gwrandawiad parchus fel arferol i Arglwydd Roberts, yr hwn yn ystod y blyn- yddoedd di weddaf sydd wedi ceisio cuel gan ei gydwladwyr i sylweddoli difrifoldeb ein. sefyllfa amddiffynol fel cenedl. Mae lleihad parhaus y tiriogaethwyr wedi peri anesmwyth- der mewn llawer cylch, a diau y gwneir rhyw- beth effeithiol i greu mwy o frwdfrydedd o blaid y mudiad.

Advertising

EFENGYL S. IOAN (AIL RAN). Gan y PARCH. D. J. JONES, Arholydd Esgobaethol Bangor. Prisiau- 1 copi, 2s.; 6 copi, 9s 6c.; 12 copi, 18s. LLAWLYFR I'R PLANT Gan y PARCH. J. WHELDON GRIFFITH. Pris-2s. y dwsin. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Archeb. :0: Anfoner yn ddioed at- MANAGER, "Llan" Office, Lampeter.

TREFILAN

TREFILAN. DYDD MAWRTH YNYD.—Y mae y dydd hwn yn bwysig yngolwg deiliaid Ysgol Sul Eg- lwys Trefilan. Dyma'r dydd y cymer eu gwyI de le. Teulu parchus a charedig y Godly sydd bob amser yn darparu mor rhag- orol, ac yn dileu heb rwgnach bob traul ynglyn a'r wledd. Er cof gan yr ysgrifen- ydd ag y mae hyn, broii yn fwy o fiynyddau nag y dymunwn gyffesu ar golofnau y LLAN, y ddiweddar Mrs. Griffiths, o barchus goffa- dwriaeth, oedd yn parotoi, ac yn ein gvva- hodd ynghyd. Wedi ei marwolaieth y mae eto yr un elfen garedig yn amlwg yn y Gelly, —yn mhersonau y Parch. T. W. Griffiths, M.A., a'i nith; Miss Evans. Parhant yr un arferiad, ac ni chwtogant mewn dim. Os oes gwahaniaieth, ar i fyny y mae i'w weled. Gwenau croesawus a phresenoldeb Miss Evans, ynghyd d'r byrddau trwmlwythog o bob melusion, yn gwneyd i ni deimlo nnii da yw bod yn aelod o Ysgol Sul Eglwys Tre- filan. Wei, eleni eto yr oedd y darpariadau yn bobpeth allesid ddymuno, a'r nifer ddaetli ynghyd yn tystio drwy hyn y gwertlifawrog- ent y caredigrwydcl. Dyma beth sydd yn hapus. Bod ar un Haw bobl yn barod j ffytrajia, ac ar y Haw arall bobl yn cydnabod a gwerthfawrogi y rhoddwr. Nid rhyfedd fod y fath undeb cyfeillgar ac agosrwydd yn bodoli rhwng pobl dda y Gelly a deiliaid yr Ysgol Sul. Wel. i fyn'd ymlaen, wedi cael ein digoni ag ymborth da corphorol, cliriwyd y byrddau erbyn cael ymborth i'r tneddwl mewn clerbyn gwobrwvon am gysondeb, ac adrodd penodau yn ystod y flwyddyn 1912. Y n n cawsom gyngerdd amrywiaethol. Llywyddai ein Kheithor, ac yr wyf yn meddwl mai fan hyn y mae i'w werd yn ei elfen, yn cyfranu cynifer o lyfrau da am a ffyddlondeb yn yr Y.-ar^l 3::1 Yr oedd y gawellaid llyfrau yn tystio yii groew fod gweithwyr ffyddlon yn y winllan, ac ar y ddaear 'does un rodd i'w chydmaru a rhodd am deilyngdod ynglyn a'r Ysgol Sul. Amryw wedi bod yn gyson drwy y flwyddyn, eraill wedi colli o un hyd dri o Suliau, ac o yna lawr i wyth Sul. Gwelem hefyd ffrwyth fcrysori ar y cof. Miss Jennie Hov/ells, Blaenrhywfallen, gipiodd rodd y Kheithor am adrodd fwyaf o adnodau. Yn canlyn hyn cawsom gyngerdd rhagorol. Yr oedd vma eto 61 Ilafur, pawb yn gampwyr ar eu gwaith, a neb yn fwy felly na'r plant bach ieuengaf gymerodd ran. Blasus dros ben oedd eu gw!t!l u nlnv mor siwr o'u gwaith. Nid rhy- fedd fod hwn wedi bod yn gyfarfod hapus dros ben. Llewyrcha hyn ar lwyddiant a diwydrwydd yr arolygwr am y flwyddyn 1912, Mr. Edward Davies, Frongelly. Bu yn ymdrechgar iawn ei hun, a thrwy hyny yn esiampl i'w adeiliaid. Os byddwch yn fodd- lon, Mr. Gol., carwn i chwi osod y rhaglen ganlynol i mewn, gan fod pawb sydd a'i enw fan hyn yn deilwug o le yn y LLAN, ac add- awaf finau i beidio eich blino ar ol hyn am dro. A ganlyn yw y rhaglen :-Allerchiad, y Rheithor; pianoforte duett, Miss Nellie Lloyd a Miss M. Howells; Can, Plant yr Ysgol; adroddiadau, Miss Phyllis Howells. Stanley Hamond Jones, Mary Lewis, Evan Davies cydgan, Da yw Duw,' Griff. Howells a'i barti; adroddiad, Gwen HoA/ells; dadl. Jenkyn Evan Jones a David Hooks; can, j Miss Ann Davies; adroddiadau, Racli-I Davies a Llew. Davies; can, Mr. Evan Davies; adroddiadau, Dal yn wrol,' Mary Davies, Shop, a Wm. John Davies. Penlone; cydgan, Sif dros y gwir,' Grift. Howells a'i barti; adroddiad Y Bontbr('ll' (Dolbwba), Ivor Davies; can, Mr. Evan Davies; cydgan, Chwareu,' Plant. yr Ysgol; adroddiad, I'r te' (airbenig), Stanley Hamond Jones; chwareu. Plant lleiaf yr Ysgol; can, Mr. Evan Davies; adroddiad. Phyllis a'i ptiarU; cydgan, Bydrlin Dir- west,' Griff. Howells a'i barti; DiiN\- Gadwo'r Brenin.' Ar ddiwedd y cyfarfod talwyd plfeidlais wresog iawn o ddiolchgarwch i roddwyr y wledd, y Parch. T. W. Griffiths a Miss Evans, Gelly. gan ddyniuim i bob un o honYllt. lawer o fhvyddi eto i fyw a pharhau i wlleyd daioni. Croe.-a wa i yl gynuJleidfa y bleidlais giii limes 3.' Felly terfynwyd. un wyl yn ycliwaneg. Pawb yn foddlon ac yn falch fod cyfarfodvdd fel hyn yn dod vii eu ti-().-I,.O.D. Condemnia Esgob Bath a Wells y blys sydd mewn cvnifer o ddynion i ddyfod yn gy- foethog yn fnau.

ST ANNS BETHESDA

ST. ANN'S, BETHESDA. CTSGBRDD AMRYWIAETKOL Y PLANT.—Ed- rychid ymlaen gyda brwdfrydedd mawr gan blant tair Yagol Sul y plwyf-Tanysgafell, I In Tanybwlch a Bodfeirig-at nos Wener, y 24ain cyntisol-noswaith y cyngerdd. Buont am rai wythnosau yn llafurus yn paratoi o dan hyfforddiani Mrs. Wynne-Griffiths, a da genym ddweyd iddo droi allan yn llwyddiant perffaith. Gweithredwyd fel cyfeilwyr gan Mr. Jos. Hughes, Tal Duon Catherine Jane Parry, Hendurnpike, a hefyd gan y Parch. R. Wynne Griffiths. Prif atdyniad y cyfar- fod ydoedd 1 Action Song and Dance.' Dainty Dancing Fairies gan y genethod, a gwnaeth- ant eu gwaith yn rhagorol. Edrychent yn brydferth neillduol mewn gwyn i gyd, ac wedi eu gwiago yn hardd fel Fairies.' Hefyd 1 Pinafore Song and Dance' gan enethod, y rbai hyn eto mewn gwyn. Cafwyd hefyd Action Song,' I Little Mothers,' gan y genethod bychaln, ac edrychent yn anwyl a hen ffasiwn, wedi eu gwisgo fel mamau yn suo eu 'dollies,' &c Ymddangosodd y genethod bychaln ddwy waith yu ychwanegol ar y llwyfan, I Ring Song' a Fan Drill.' Cafwyd dwy gan a chydgan, un gan Jennie Eirwen Thomas a'r genethod, a'r Hall gan Griffith J. Jones a'r bechgyn. Dwy ddeuawd gynwysai y rhaglen, 'Y Plentyn a'r Blodeu.yn/ Mamie P. Jones ac Albert Hughes, a Humor- ous Action Duett and Chorus,' I musn't,' gan Willie Jones a Doris Owen. Canodd y plant i gyd cydgan Siglo,' a thon gron ar y terfyn, Good night.' Dau ddetboliad ar y berdoneg gan W. Baden-Poweil Evans a Catherine Jane Parry; Dialogue gan Jeenie Eirwen Thomas, Gracie Jones, Ellen G Williams, a Keturah Daries: adroddiadau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan Ceraint Hughes. Freddy Templer, Annie May Parry, I Nelly Templer, Julia Davies, ac Ifor Jones Yr oedd yr ysgol yn orlawn, a thystiolaethai pawb mai cyngerdd ardderchog ydoedd, yn dangos 61 llafur mawr. El yr elw at Gronfa y Can-mlwyddiant. ac felly dyma gvfrau gyntaf v plant tuag at yr amcan clodwiw. Dymunwn gydnabod gwaith aelodau cym- deithas Bodfeirig yn neillduol yn gosod y j llwyfan i fyny a'r ystafell mewn trefn, ac i bawb am eu gwasanaeth y noswaith, yn drys- orion, a'r stewards i gyd. CTMDBITHAS LENYDDOL AC AMODIFFYN'OL BODFEIRIG.-Parhsu yn llawn bywyd y mae y gymdeithas uchod y tymor yma eto, a phawb yn cydweithio yn selog. Y swyddog- ion am y tymor 1912-13 ydynt-Llywydd, Parch. R. Wynn e-Griffi tbs is-lywydd, Mr. J. Evan Jones; trysorydd, Mr. Wm. Morris Williams; ysgrifenydd, Mr. Llew, Jones. DisLywvlir y ceir hamdden i rodd! yn y rhifyn nesaf o'r LLAN grynhodeb byr o weithrediadau y tymor hyd yn byn. CYFARFOD ADLONIADOL TANYBWLCH.—Nos Fawrth Ynyd cynbaliwyd yr uchod yn Tan- ybwlch-yr ail y gauaf yma. Llanwyd y gadair gan y Parch. W. Morgan, ac arwein- iwyd gan y Parch. R. Wynne-Griffiths. Drwg genym fod ein horganvdd, Mr. Jos Hughes, yn analluog i fod yn bresenol i gyf- eilio, oberwydd afiechyd. Eiddunwn iddo adferiad buan. Llanwyd y bwlch yn fedrus gan Master Ffraneon Thomas, organydd Tre- garth, a hen organydd Tanybwlch. Cyfeil- I I iwyd, hefyd, gan Mr. Baden-Powell Evans. Y dadgeiniaid oeddynt, Miss Louisa M Jones, Hendurnpike; Miss Mamie Hughes, Miss Rachel Evans, Maggie Hughes, Mamie P. Jones, Doris Owen, a Myfanwy Williams, Mr 11. Griffith (Eos Elidr), a Mr. R. J. Hughes. Cafwyd deuawd gan Albert Hughes a Mamie P. Jones, a chyd-gan y 1 Gwanwyn,' gan barti Eos Elidr a Mrs. Wynne-Griffith yn cyfeilio. Yr adroddwyr oeddynt—Minnie Roberts, Lizzie Cath. Hughes, Geo. Roberts, Freddy Templer, Gwyneth Thomas. Jennie Roberts, Nelly Templer, Mary E. Jones, Hughie Ro- berts, Willie Parry, Harry Parry, Daniel Percy Jones. Julia Davies, Katie Roberts, a Mabel Thomas. Digon yw dweyd am y cyf- arfod hwn, ei fod yn cadw i fyny safon ein cvfarfdydd adloniadol yn Nhanybwlch. Di- olchwvd vn gynes i bawb ar y terfyn gan y Ficer. Gwasanaethwyd fel ysgrifenydd gan Mr. R. H. Jones. Deallwn i'r drysorion, Mr. Wm. Hughes a Mr. Henrv Owen, gyflwyno |swm sylweddol i Mr Jnc. Jones (trysorydd) tuag at chwyddo cronfa yr Ysgol Sul.

LLANBEDRPONTcTEPHAN

LLANBEDR-PONT-cTEPHAN. Y DDIWEDDAR MISS DOVEY. Claddwyd gweddillion marwol y ddiweddar Miss Dovey yn mynwent eglwyij y plwyf ddydd Iau. Yr oedd yr angladd yn un anghyhoedd, ac yn gyf- yngedig i'r perthynasau agosaf. Blaenorid yr orymdaith angladdol gan y Parchn Ganon Camber-Williams, ficer Canon Jones, Glan- ogwen (cefnder), D. J. Evans, a R. H. Rich- ards, curadiaid, ac yr oedd y rhai canlynol mewn cerbydau :—Mrs. Moore, Miss Dovey, Mrs. Price, a Mrs. T. L. Davies (ch viorydd). Parch. W. Dovey (brawd), Llanmartin, Myn- wy; Miss Jones a Mrs. Thomas, Ficerdy Corris (cyfnitherod); T. L. Davies a J. Price (brodyr-yn-nghyfraith): Miss Gwennie Davies (nith), Mrs. Williams, Caerfyrddin Nurse Jarmyn. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y ficer, Canon Jones, a'r Parch. R. H. Rich- ards, a chwareuodd Mr. Ivor Caradoc Jones y I' Funeral March,' &c., ar yr organ. Yr oedd trefniadau yr angladd dan arolygiaeth Mr. Walter Davies, a gwnellthurwr yr arch ydoedd Mr. W. Jones. Anfonwyd pleth- dorchau hardd o flodau gan y rhai canlynol —Miss Dovey, Mrs Moore, Miss Gwen Davies, Fairfield Parch. T W. a Mrs. Moore, Dollie a Winnie, Llanmartin Parch. W. a Mrs. Dovey, etc Mrs. T. Lloyd, Mr. a Mrs. James Price, Penybont-ar-Ogwy; Cyfnitherod, 24 College Street: Mrs. a'r Misses Jones, Eastfield Mrs. Williams, Caerfyrddin Mr. a Mrs. Woolrych, Croxby Mr. a Mrs. James, Mrs. Whitworth. Cludwyd y corff gan y rhai canlynol -Mri. Edward Davies, Evan Davies, W. Davies, J. Lloyd, J. C. Davies, A. James Price, J. James, a T. Jenkins. Y NODACHFA EGLWYSIG.—Ar ol talu yr holl dreuliau, cafwyd 125p. o elw o'r nodacb- fa Eglwysig a gynhaliwyd yma yn ddiweddar. Y TLOTTY.—Mae Mr. James Evans, meistr y tlotty, wedi anfon ei ymddiswyddiad i'r gwarcheidwaid, a chymer etholiad le dair wythnos i heddyw i Ianw y swydd. DYDD 0 YIOSTYNGIAD AC YMBIL—Dydd Mercher, dylifai Eglwyswyr y dref i eglwys y plwyf yn dyrfaoedd er ymbil yn ostynedig ar Dduw yn ngwyueb yr ar gyfwng difrifol y mae yr Eglwys yn myned drwyddo ar hyn o bryd. Gweinydd- wyd y Cymun Bendigaid am 7.30 y boreu, pan y daeth nifer dda ynghyd. Cynhaliwyd gwasanaetb dwy-ieithawg am 10.30, gwasan- aeth i'r plant am 3-30, a gwasanaeth Cym- raeg am saith yn yr hwyr. Cafwyd cynull- eidfaoedd da ymhob gwasanaeth. Cynhelid I gwasanaeth am ddau o'r gloch yn eglwys Maestir, a St. loan, Pentrebach, 7 o'r gloch, a gwasanaeth Seisnig yr un adeg yn y Neuadd Eglwysig. Y CYNGOR SIROL.—Drwg genyf ddeall fod y Prifathraw Bebb, Coleg Dewi Sant, wedi penderfynu peidio sefyll fel ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Sirol oherwydd gwaeledd iechyd. Bu yn aelod defnyddol am flynydd. oedd, a bydd llawer yn gofidio oherwydd ei ymddiswyddl a]. Credir y bydj i Mr. J. C. Harford, Falcondale, ymgeisio am sedd fel cynrychiolydd y dref hon. Mae o'r pwys mwyaf i Eglwyswyr ymhob man fod yn effro a gwyliadwrus ynglyn ag etholiadau y Cyngor Sirol y mis nesaf, a cheisio dychwelyd Eglwyswyr fel aelodau. Y LLYNGBS.—Mae y Parch. T. Williams, B.A diweddar gurad Balham, Llundain, a'r hwn fu yn trigianu yn y dref hon am amryw flynyddoedd, wedi ei benodi yn gaplan ar un o longau y Llyuges Frenhinol, a bydd yn dechreu ar ei ddyledswyddau ar y 19eg o'r mis hwn. Pob llwyddiant iddo. MARWOLAETH.—Nos Fawrtb, ar cl dioddef cystudd caled a maith, bu farw Mrs Jones, anwyl briod Mr. Jenkin Jones, clocbydd, yn 45 mlwydd oed, gan adael gttr, tri o blaut, a lluaws o berthvnasau a chyfelllion i alaru ar ei hoi. DioddLti er's blynyddoedd oddiwrth wendid, a dioddefai yr oil yn ddiachwyn. Duw a nertho ei phriod a'i phlant i ddal dan y ddyrnod dro-X, Chwi ddylech gael medal aur meddai Syr Marchaut Williams wrth ddyn o'r enw David Edward Thomas, Merthyr, yr hwn oedd yn analluog i siarad gair o Saesneg. Cyfarfod Cyugor Llyfrgel! Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ddydd Gwener, Syr John Williams yn y gadair. Penderfynwyd myned ymlaen gyda rhan newydd o'r adeilad.