Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. I I I CYNWYSIAD AM IONAWR. J Nodion Coffa Cymru Fu j Ffurfiau o Weddi Forms of Prayer Mynachlogydd Cymru yn y Canoloesoedd Yapryd y Puritan I Fy Hen Athraw Canu ¡ Cwyn Coll I I

Advertising

PERL Y PLAN T CYNWYSIAD AM CHWBFROB. Dadleuon Magi Jones. Cof-hanesion o Ganolbarth Sir Aberteifi. Pa fodd y Cyfododd y Plant y Gwynt. Pen Punt a Chvnffon Dimai (gyda Darlun). Y Ddeuddegfed o Chwefror; Elin Jane o'r dref a Tomi Jones o'r wlad (gyda darluniau). < Marwolneth Margiad Puw, Aber- gynolwyn. Dywediadau Plant, j Rhoddion Gwirfoidol at Yspyttai { Llundain. Ton—Y Deigryn. | Hanei y Wisdia Gymreig. Franklin a'r Niaen Llifo. Chwareu Triwant (gyda darluniau). Pedwar Rheswm yn Erbyn Dadgy- ) sylltiad a Dadwaddoliad. | Rbestr y Ffyddloniaid. | Canenon Plant y 'Perl.' Betli j mac yr Eglwyg yn ei wneyd. ( Y Gvstadieuaetb. Y Paganiaid | Bach Duon. Er Cof. Perlau y | Perl.1 Llithiau Priodoi am y f Mis. Barddoniaeth-

Safle y Wraig yn y Cartref

Safle y Wraig yn y Cartref. Darllenwyd papyr ar hyn beth amser yn ol mewn cyfarfod yn Nolwyddelen gan Mrs. Jones, London House 'Mewn gwirionedd ni ddylai fod dwy farn yn meddwl neb ar y mater hwn; mae y cwestiwn wedi ei hen benderfynu, a cheisiaf broft unwaith ac am byth, mae llywodraeth y wraig sydd i fod ar y ty, ac mae ei theyrnas arbenig hi yw y cartref. Paham y gofynir y cwestiwn hwn yn awr ? Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dod o hyd i'r atebiad. Mae y ferch heddyw yn cael llawer o sylw, oblegid y mae yn mynu cael y sylw dyladwy sydd yn perthyn iddi, ac ni orphwysa hyd nes cael ei hiawnderau. Mae dyn am lawer canrif wedi cadw merch oddiar ei gorsedd, a'i hamddifadu o freintiau bod rhesymo), a chredaf mal yr amcan wrth ofyn y cwestiwn uchod yn awr ydyw, yn gyntaf, ceisio perswadio y byd i gredu mai unig le merch ydyw y cartref; yn ail, ei hamddifadu o'r unig deyrnas gysegred- ig sydd yn perthyn iddi. Nid trwy ystrywiau o'r fath yna y penderfynir tynged y ferch, na'r wraig, na'r fam. Nid oes arnaf ofn can- lyniad ymchwiliad manwl. Mae yn rhaid ini ystyried y cwestiwn yn ddifrifol, a'i bender- fynu unwaith ac am byth. Y cartref yw sefydliad hynaf y byd. Mae i bob croadur ryw fath o gartref, a pho uwchaf y bywyd goreu oil yw y cartref. Diben mawr cartref yn benaf, and nid yn unig, yw dwyn i fyny y teulu. Mae cartref a theulu megis castell yn mysg paganiaid ac anwariaid, ac yn gysegr- edig iawn yn eu golwg. Ond yn eu mysg hwy, nid y ferch sydd-yn 1iywodraethu y ry. Yn y cysylltiad yna, y mae fy nadl gyntaf, nas gall yr un dyn, na phleidiwr dyn, ei gwrth- brofi. 1.—Yn mysg anwariaid mae y wraig yn isel ei pharch, ac yn cael ei chyfrif fel offeryn gwaith hwylus, ac yn gorfod gweithio i mewn ac allau, er enill angenrheidiau I'r ty. Ond ymysg pob cenedl wareiddiedig wedi dad- blygu, y wraig yw brenhines yr aelwyd, a hi hefyd sydd yn llywodraethu. Mae y sawl sydd yn pleidio y gwr fel llywodraethwr y ty, felly, am i ni ddychwelyd yn ol i oesoedd tywyll ac anwaraidd. Edrycher ar hanes cenhedloedd lie nad yw y ferch yn cael ei lie ei hun; yno ceir amlwrelciaeth yn eu mysg gyda phob anrhefn. Dyna hanes Twrci heddyw, a rhaid credu am y lie nad oes aelwyd dan lywodraeth un wraig, nad oes yn bosibl bod yno gariad yn Ilywodraethu. 2.—Un o fendithion mawr Cristionogaeth ydyw, rhoddi ei lie ei hun i'r ferch. Yn ngwledydd Cristionogol y byd, y ferch yw brenhines yr aelwyd. Canlyniad ei diorsedd- iad hi fyddai yn hollol anghristionogol. Dros yr hiniog y mae gwaith dyn-a pha fodd y gall efe lywodraethu y ty] Gwrthrych tos- turi fyddai pob ty, pe bai y gwr yn aros gar- tref yr holl amser. Nid yw y reddf i lywodr- aethu ty gan y gi-r, a golwg ddifrifol o drist fuasai ar gartrefi yr ardal hon pe dibynent am eu cadwraeth a'u llywodraethiad ar y gwr yn unig. Llywodraeth cariad ydyw eiddo gwraig, ond llywodraeth awdurdod yw eiddo y gwr. Rhaid i'r gwyr fod yn onest a chyf- addef hyn. Y trydydd rheswm ydyw y cryfaf, er fod un o'r tri yn ddigonol i bawb rhesymol. Nid wyf eto wedi son am y fam. Dyma. y gair bach mwyaf cysegredig mewn hanes. Y mae mwy o swyn a phrydfert %cho gylch y gair mam nag y sydd yn) J c vu i unrhyw air arall. Efe yw gair cyntaf îb dyn, ac nid anghofia unrhyw fod rhesy ei fam. Mae digon o reswm dros i'r wra% ywodr- aethu y ty cyn y gelwir hi yn fani, i wedi ei breintio a'r enw anwyl mam, nid o es le i amheuaeth nad y hi sydd ac a ddylai ddal y deyrnwialen. Y fam sydd yn adnabod y teulu oreu, ac yn ei astudio. Gan benaf, argraff y fam geir ar y plant. Hi sydd yn ffurfio arferion a chymeriadau y teulu. Cartref yw ysgol gyntaf dynolryw. Pan yr aiff y gwr allan i'w waith hyd yr hwyr, ar y fam y gorwedd y cyfrifoldeb. Ffurfio cymer- lad y plant ydyw neges bwysicaf bywyd mam, a pho fwyaf y cyfrifoldeb, mwyaf oil y bo'r urddas, a'r urddas a gaiff ydyw y goron a'r deyrnwialen. Os hi sydd yn dioddef fwyaf, os hi sydd yn aros yn y ty, os hi sydd yn cael mwyaf o argraff ar y teulu, ac os hi gerir fwyaf, paham yn enw pob rheswm

Safle y Wraig yn y Cartref

nad hi sydd ac a ddylai lywodraethu ? Mae y wraig, fel mam, wedi el chynysgaeddu a. gallu nad all y gwr mo'l ddirnad. Gofyn- wch i ddyngario haner pwn o flawd, ac fe wna heb duchan, ond gofynwch iddo gario baban ugaln pwys, byddai yn edrych fel pe byddai ugain tunell yn ei freichiau. Ond gall y fam ei gario am filldiroedd heb flino. Mae y ferch am gadw ei theyrnas nid oes arni els- ieu myn'd i'r chwarel, nac i weithio ar y fferm, ond y mae am fynu llywodraethu ei thy. Byddai yn ddifrifol o chwith i ami i dy pe byddai i'r wraig roddi i fyny y llywodr- aeth. Beth pe byddai i wragedd y pentref fyned ar streic am un wythnos, a gadael llywodraeth y ty i'r gwr ? Ni wyddai beth i'w wneyd a'i eiddo ei hun, ac ni wyddai beth i'w wneyd a'i blant ei hun. Ie, pe digwyddai streic o'r fath, byddai yn golygu mwy o chwyldroad na phe byddai glowyr y deyrnas i gyd oil yn streicio. Na, tra y mae llywodraeth y ty gan y wraig, mae yr aelwyd yn ddiogel, y gwr yn ddiogel, cymeriad y teulu yn ddiogel, ac am geuedlaethau i ddy- fod yn ddiogel. Hi yw brenhines ei chastell, wedi ei bwriadu i fod felly gan natur ei hun. Holed paw b ef ei hun, ac fe gyfaddefa ei fod i ddiolch am ei gartref a'i fendithion i lyw- odraeth y fam. GtVyn fyd yr aelwyd lie y mae llywodraeth cariad y fam yn llywodraethu. ROLANDO.

Advertising

EFENGYL S. lOAN (AIL RAN). Gan y PARCH. D. J. JONES, Arhoiydd Esgobaethol Bangor. Prisiau- 1 copi, 2s.; 6 copi, 9s 6c.; 12 copi, 18s. LLAWLYFB I'R PLANT Gan y PARCH. J. WHELDON GRIFFITH. Pris-2s. y dwsin. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Archeb. -:0:- Anfoner yn ddioed at— MANAGER, Lian Office, Lampeter.

Adgof Uwch Anghof

Adgof Uwch Anghof. OWAIN A. ROBERTS, (OWAIN ARAN). Mae yn bosibl na fydd ychydig o hanes yr awenydd uchod yn annerbyniol gan ddarllen- wyr y LLAN. Yr oedd Owain Aran yn un o'r ser hyny sydd yn ymddangos yn awr ac eil- waith yn ffurfafen ein llenyddiaeth. Gellir ei restru mewn rhai ystyriaethau gydag ereill o feirdd ieuainc ein gwlad a symudwyd yn gynar. Ganwyd Owain Aran yn y flwyddyn 1836 yn agos i Dolgellau, ac yno y claddwyd ef yn 1863. Yr oedd wedi meistroli y cyng- haneddion yn ieuanc darllenwyd englynion o'i waith gan Galedfryn yn Eisteddfod Madog yn 1851, pan nad oedd eu hawdwr ond tua phymtheg oed Yn yr eisteddfod hono yr enillodd Hiraethog am ei awdl ardderchog ar Heddwch.' Yn yr un eisteddfod y gwobrwy- wyd Robin Wwn o Eifion am ei englyn i Carnhuanawc':— Carnhuanawc, cawr ein hynys—gwnai'n Gwnai'n hanes yn hysbys, henw, Gwnai'r delyn syw yn fyw a'i fY8- 0 !'r mawr wr—yma'r erys.' Efe oedd y goreu o 127. Yr oedd el gynydd mewn dysg yn fwy dyledus i'w ymroad ef ei hun nag i un achos arall. Trwy ei ymdreeh i hunan ddysgu daeth yn athraw Ysgol Bryncoedifor aeth oddiyno i'r Bala, ac wedi hyny i Bryneglwys, gerllaw Corwen. Yr oedd yn cynghaneddu mor rhwydd ag anadlu. Gellid rhoi llawer o engreifftiau. Yr oedd un boreu Sal yn myned i'r afon i ymolchi. Gofynwyd iddo pa le yr oedd yn myned. Dywedai- I dori Sabbath efo dwr a sebon.' Dywedai cyfaill o fardd wrtho un tro, 'Rwyf yn neidiwr ofnadwy.' I Ar y maes mae neidiwr mwy,' meddai yntau ar unwaith. Yr oedd efe a chyfaill iddo wedi cael gwahoddiad i de, ac ar y ftordd dywedai Owain fladdyw 'o gawn oil de ddigon a—chig Moch, a wyau, gyda 'Menyn doraeth ar fara Twym,—oni fydd yn fwyd da.' Efe oedd y buddugwr ar yr englyn i'w osod ar gof-golofn Dafydd Ionawr. Yr oedd lluaws o brif-feirdd Cymru yn cystadlu. Dyma el englyu- I'r Anfaidrol lor yn fydrydd,—y bu Gyda'i her awenydd A'i holl waith, ddiwall ieithydd, O'i ol yn anfarwol fydd." Dywedir mai englyn difyfyr o'i eiddo yw yr englyn adnabyddus nwn i'r Fynwent "— "Y cnwd hwn yw'r cnawd dynol,- pwy edrydd Wedi pydru'n hollol Drwy Un o fedr Anfeidrol O'r cnwd 'e wneir y cnawd yn ol." Gallai gynghaneddu yn berffaith naturiol yn yr iaith Saesneg hefyd. Dyma un englyn o'i eiddo- "Come, fair dame, your fame befits--you to be Amongst bards of merits 0 pour away your pure wits To spur my dormant spirits.' Dyma englynion doniol o'i eiddo i Gwen :— 'Adwaenaf ar hyd Wynedd-enethod Glau eithaf eu buchedd Rai tirion gwychion eu gwedd, Yn goronog o rinwedd. Ond os i ferch y dewisaf fi-ganu, Cofio Gwen raid imi, Ni anwyd merch fwy heini, Nac ail Gwen i'm golwg i. Gwen fel eirian, Gwen fel arian—ei IIi w, Gwen a llais fel organ Gwen wen, dlos, Gwen hynod lan, A Gwen orau gan Aran.' Dyma ddywed un o i gyfeillion bardd- unol am dailo-- Owain Aran weua u wrol,—gvwydd Ag aweu orchestol Y mae dawn ganddaw n ei gol Aili i afou lifeiriol.' Ysgrifenai un o'i gyfeillion nxynwesol fel hyn ar ei ol:— Credaf na anadlwyd awyr Gwalia er- ioed gan un mwy tirion, cywir, ac anrhyd- eddus na'r anwyl Owaín Aran. Credaf nad oedd iddo elyn ar y ddaear ond y gelyn diweddaf. Cofiaf yn dda iddo un boreu ddangos ei fraicli; a'r dagrau yn ei olygon dywedai, Dyma sydd yn tori fy nghalon, fachgen, yr wyf yu gwaelu bob dydd. Er pob ymdreeh i'r gwrthwyneb, cilio mae fy nghnawd a'm nerth.' l I tn Bu farw yn 27 oed. Yr Hir a Thoddaid hwn farnwyd yn oreu i'w osod ar ei fedd: LIyngcu da addysg wnai y llanc diddan, Ei dasg allwyl oedd dysgu ei hunan A thrwy ei fer-oes athraw fu Aran, Garai ddiwygio y rhai oedd egwan: A thlos farddoniaeth lall--o'i ddwylaw Dilynai i enaid oleuui anian. GRAIENYN.

Y Gyflafan yn y Pegwn Deheuol

Y Gyflafan yn y Pegwn Deheuol. GWASANAETHAU COFFADWRIAETH- OL I'R GWRONIAID. Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol cenedlaethol i arwyr ymchwiliad y Pegwn De- heuol yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain, ddydd Gwener, pryd yr oedd y Brenin, Gweinidogion y Goron, a chynrychiolwyr y bywyd cenedlaethol, ynghyd a'r Arglwydd Faer, ac urddasolion y ddinas yn bresenol. Yn gynar yn y boreu, ymgasglodd tyrfaoedd o bobl gerllaw yr Eglwys Gadeiriol, a chan y gwyddid nad oedd tocynau yn angenrheid- iol i gael mynediad i'r gwasanaeth, cynyddai y tyrfaoedd yn barhaus. Yn fuan wedi naw o'r gloch, hysbyswyd fod yr eglwys yn llawn, a chyn deg o'r gloch cyhoeddwyd naa gellid cymeryd dim ychwaneg i mewn. Creodd hyn siomedigaeth i'r canoedd a ddisgwylient oddiallan. Ychydig funydau cyn deuddeg, gorymdeithiodd nifer o glerigwyr ac Esgob Llundain o'r drws deheuol, gan flaenori y Brenin, yr hwn a arweiniwyd i'w sedd dan y pwlpud gan yr Esgob. Dechreuwyd y gwas- anaeth drwy ganu yr emyn, Rock of ages cleft for me,' ac yr oedd yr effaith yn gyfryw nas anghofir. Yn ddilynol, canwyd dwy Salm, a darllenodd y Deon y llith. Tra yn darllen y rhelyw o'r gwasanaeth, enwyd y pump a gollasant eu bywydau, sef Robert Falcon Scott, Lawrence Edward Graces Oates, Edward Adrian Wilson, Henry Robertson Bowers, ac Edgar Evans. Canwyd yr emyn, 'Jesu, lover of my soul,' a diweddwyd y gwasanaeth drwy i Esgob Llundain ddatgan y Fendith. Cynhaliwyd gwasanaethau coffadwriaethol yr'unadeg yn Portsmouth, Edinburgh, Caer- grawnt, Gestinthorpe, Capetown (Deheudir Affrica), Caerdydd, &c. Mae trysorfa yn cael ei chasglu tuag at gyuorthwyo y perthynasau, a gosod i fyny gofadeiliau i'r arwyr dewr a gollasant eu bywydau.

Penodiadau yn Esgobaeth Llandaf

Penodiadau yn Esgobaeth Llandaf. Mewn gwasanaeth neillduol a gynhaliwyd yn nghapel y Palas foreu Llun, Chwefror 17eg. gosododd yr Esgob y Parch. William Jones, rheithor Llansoy, mewn meddiant o reithoriaeth Llanfihangel Tormynydd (i'w dal dan awdurdod oddiwrth Archesgob Caer- gaint). Trwyddedwyd y Parch. Daniel Mathias i guradiaeth barhaol Eglwvsnewydd, Mynwy, ac befyd fel caplan neu weinidog Capel Devanden, yn yr un plwyf, a phenod- wyd y Parcb. Henry Samuel Frank Williams, B.A i ficeriaeth St. Mathew,, Pontypridd. Trwyddedwyd y Parch. David James, B.A yn gurad-mewn-gofal o ddosbarth Abercarn a Cwmcarn, yn mhlwyf Mynyddislwyn, a thrwyddedwyd y rhai canlynol i guradiaeth- au:—Parch. Frederick William Ainley i Magor a Hed wick; Parch. David Michael Evans, B.A., i St. loan yr Efengylwr, Main- dee, Casnewydd-ar-Wysg; Parch. Thomas Reginald Guise Lyell, A.K.C., i St. Martin, Roath, Caerdydd Parch. Sidney George Morgan, L.D., i Dewi Sant, Fleur-de-Lis, Caerdydd, a'r Parch. William James Wil- liams, L.D., i St. Cadoc, Bedlinog.

Ty yp Arglwyddi ar Mesur Dadgysylltiol

Ty yp Arglwyddi a'r Mesur Dadgy- sylltiol. MWYAFRIF ARUTHROL YN EI ERBYN. Yn y drafodaeth olaf ar y meaur hwn yn Nhy yr Arglwyddi ddydd Iau, dywedodd Esgob St. Albans nad oedd gan y Wlad- wriaeth hawl i ranu'r Eglwys. Dywedodd Arglwydd Aberconwy y buasai'n dda ganddo ef pe gwelsai'r Weinyddiaeth ei ffordd yu glir i adael yr holl waddol i'r Eglwys. Yr oedd cryn wahaniaeth barn ar y mater yma ymhlith Rhyddfrydwyr, a phe byddai i'r Arglwyddi basio gwelliantau yn awr yn lie taflu'r Mesur allan, gallent sicrhau gwell telerau i'r Eglwys. Ar y llaw arall, pe taflent y Mesur allan, y canlyniad fyddai iddo basio heb newid llinell arno. Yr oedd y Mesur yn weithred o gyfiawnder, ac yr oedd Cymru wedi penderfynu ei gael. Siaradodd Arglwydd Halsbury yn erbyn y Mesur. Dywedodd Esgob Tyddewi fod Eglwyswyr Cymreig yn gofyn i'r Arglwyddi beidio rhoddi ail-ddarlleniad i'r Mesur oherwydd ei fod yn fesur pwysig iawn na roddwyd erioed o flaen y Wlad. Oariwyd cf trwy'r Ty arali drwy gymorth y Gwyddelod a'r Ysgotiaid. Yr oedd y Mesur yn un anheg ac yu wrth-werinol. Cyn pen hir, pe teflid y mesur hwn allan, credai y deuai Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr Cymru i gyd-ddealltwriaeth gyfeillgar. Yr oedd yn demtasiwn i'r esgobion Cymreig nofio gyda'r lli er mwyn enill poblogrwydd yn Nghymru, ond dysgai hanes hwynt mai un o beryglon mawr yr Eglwys oedd ildio i fudiadau poblogaidd y foment. Er fod mwyafrif yn Nghymru o blaid dadgysylltiad, nid allai ef am foment lacio ei wrthwynebiad i ddadgysylltiad er mwyn cael gwell telerau ar ddadwaddoliad. Mesur bach sal ydoedd, ac yr oedd yn argyhoeddedig na chymerad- wyid ef gan y Cymry, pe caent gyfle I ddy- wedyd eu barn arno. Siaradwyd ymhellach yn erbyn y Mesur gan Arglwydd Salisbury, Arglwydd Grey, Arglwydd Peel, ac Arglwydd Glanwysg. Yn ystod ei araeth yn erbyn y Mesur dy- wedodd Arglwydd Lansdowne mai nid cwest- iwn i Gymru yn unig oedd hwn. Rhan o Loegr oedd Cymru yn ddaearyddol, yn wleidvddol, ac yn Eglwysig. Nid oedd modd gwahauu'r Eglwys yn Nghymru oddiwrth yr Eglwys yn Lloegr, ac nid oedd modd gwahanu yr enwadau Ymneilltuol yn Nghymru oddiwrth yr enwadau Ym- neilltuol yn Lloegr. Nid oedd o unrhyw wahaniaeth iddo ef fod pobl Cymru yn gofyn am y Mesur. er nad oedd ganddo zz 0 ddiffyg parch i deimlad ILeol yn unrhyw ran o'r wlad. Ond ni ddylai teimlad lleol gael ei ffordd ar fater o bwys mawr i'r Wladwriaeth yn gyffredinol. Terfynwyd y ddadl gan Arglwydd Crewe, arweinydd y Rhyddfrydwyr yn Nhy'r Arglwyddi. PIeidleisiwyd fel y canlyn:- Dros wrthod y Mesur 252 Yn erbyn ei wrthod 51 Mwyafrif yn erbyn y Mesur 201

Yr Wyl Genedlaethol yn Eglwys Gadeiriol St Paul Chwefror 28 1913

Yr Wyl Genedlaethol yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Chwefror 28, 1913 Y mae yr holl drefniadau yn awr wedi eu cwblhau. Llafargenir y rhan gyntaf o'r gwasanaeth gan y Prifathraw Thomas, ac ar ol yr anthem gan y Parch. W. Griffith, Cap- lan St. Padam. Darllenir y liith gyntaf gau y Parch. J. Crowle Ellis, ficer St. Benet's, a'r ail lith gan y Parch. Dr. Hartwell Jones, rheithor Nutfield. Argreffir dros ddeng mil o docynau, a chymaint yw'r galwad am dau- ynt fel nad oes ond tua mil ar law yn awr. Ceir hwynt gan yr ysgrifenydd, Mr. J. E. Davis, 39, Upper Park Fields, Putney, S.W., ond anfon stamped envelope.'