Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
13 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

1 YR HAUL.! i < I < ) < CYNWYSIAD AM IONAWK. i < Nodi on j Coffa Cymru Fu j Ffurfiau o Weddi Forms of Prayer j Mynachlogydd Cym ru yn y < Canoloesoedd Yspryd y Puritan Fy Hen Athraw Canu | ewyii Coll J

Advertising

PEHL f PLANT 0TWVYSIAD AM < gW«KR«*. Dadleuon Magi Jones. Cof-hanesioii o Gamlbarth Sit Aberteifi. Pa fodd 7 -)dodd y Plant y Gvrynt. rtant a Chvnffon Dimai (eyd* Darl*nV Y Ddeuddegfed o Chwefror { Elin Jane o'r dref a Tomi Jones e'r J wlad (gyda dai-luniau). Marwolneth Nlargiad Puw. Abe-t- gynolvvjH. Dywediadau Plant, Rhoddion Gwirfoddol at Vspytt9.f Llundain. Ton-Y Deigryn. Hanel y Wiadfa Gymreig. Franklin a'r Maen Llifo. Chwareu Tt iw&n* (gydadariuniau). Pedwar Rheswm yn Erbyn Dadjcy- sylltiad a Dadwaddoliad. Rhtatr y Ffyddloniaid. Canenou Plant y I Pei-I.' Beth mae yr Eglwy. yn ei wneyd. Y Gystadleuaeth. Y Paganiaid Bach Duon. Er Cof. Perlau y Perl. Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth-

Yr Ysgol Sul

Yr Ysgol Sul. RIIAI O'N ANHAWSDERATT. IV.—DIFFYG AMSER. (Parh&d). Ni roddir fel rheol ond rhyw awr neu awr a haner at waith yr Ysgol Sul yn wythnoBol, ac y mae hyny, fel y sylwyd eisoes, yn fychan iawn o'i gydmaru a'r ddwy awr a haner neu dair awr a neillduir at yr un gwaith yn ein hysgolion dyddiol, yn enwedig pan gofiwn fod athrawon yr ysgolion hyny yn liawer mwy cyfarwydd a'r gwaith o gyfranu addg, Ond y mae amser yr Ysgol Sul yn myned yn llai fyth pan ystyriwn nad oes heddwch i'w gael hyd yn nod yn ystod yr enyd fechan hon. Yn fuan ar ol dechreu darllen neu ddysgu,—os bydd yn Sul cyntaf yn y mis,' daw hogyn neu ddan heibio i ddosbarthu llyfrau a chylchgronau, a gwyn fyd na buasai rbagor o Eglwyswyr Cymreig Cymru yn barod i ym- j gymeryd ag ef, ond yr ydym yn cydwybodol gredu mai nid dyma'r amaer na'r lie i'w gyflawnl. 0 hyn allan y mae ymron yn amhosibl i'r athraw enill sylw'r dobbartb, gan fod un neu'r Hall o'r aelodau'n barhaus yn ceisio oael rhyw gipdrem ar gynwys y misolyn, ac yn enwedig cael golwg ar y dar. luniau. Y mae dylanwad y cylchgronau hyn yn fawr, ond nis gallwn lai na meddwl fod gan yr Eglwyswr mwyaf prysur ddigonedd o hamdden i'w harchwilio ar ryw adeg arall heblaw amddifadu'r Ysgol Sul o'r ychydig amser a roddir yn wythnosol i fyfyrio ar Air Duw ac ar egwyddorion crefydd. Wrth reswm y mae dosbarthu'r misolion yn yr ysgol yn llelhau gwaith y dosbarthwr yn fawr iawnond a ydyw yn ormod gofyn iddo wneyd ychydig aberth i'w rhanu ar ryw adeg arall yn hytrach ua pharlysu gwaith yr Ysgol Sul fel hyn. Y mae yn hen bryd alltudio'r pla oesol hwn o'n hysgolion ermwyn i'r athrawon a'r disgyblion gael ychydig dawelwch a llon- yddwch i geisio ymwneyd a gorchwyl mor bwysig. Y mae'r hen arferiad hon yn amharu disgyblaeth yr Ysgol, ac yn lluddias llwyddiant pawb a'i haelodau. Gwehelyth arall a adewir yn fynych i greu annrhefn yn yr ysgol ydyw dyn y clwb,' yn enwedig yn ein hysgoliou trefol. Y mae clwb yr Ysgol Sul yn sefydliad bendithiol, ac y mae anog ieuenctyd ein gwlad i arfer cynildeb yn ddyledswydd grefyddol bwysig, ond dylid cofio nad ydyw'r Ysgol Sul yn bodoll er hyr- wyddo llwyddiant y 'clwb,' ac ni ddylai'r olaf gael ei oddef i rwystro ysgol i gyraedd ei phrif amcan. Wrth reswm, ni adewir i'r clwb dori ar heddwch ein hysgolion goreu, gan fod yr arolygwr yn ddigon call ac yn ddigon gwrol i rwystro gwr y pies i gychwyn ar ei bererlndod hyd oni fyddo pob dosbarth wedi treulio hyny o amser a ganiateir i fyfyrio ar y wers. Gresyn na fnasal pob arolygwr a phob periglor hefyd yr un mor afaelgar yn hyn o beth. Rhwystr bwysig arall ar ffordd llwyddiant ein hysgolion ydyw arfer rhai ath- rawon ail-raddol o ddwyn gwers lyfrau neu es- boniadau gyda hwy i'r ysgol, a cheisio darllen yno. Beth mae'r dosbarth yn wneyd (yn en- wedig os bydd yn gynwysedig o blant) tra bydd yr athraw yn ceisio goleuni trwy gyf- rwng y gwers-lyfr neu'r esboniad? Gadawer i'r profiadol ateb a dwys-ystyried ei atebiad ar ol hyny. Y mae'r hen egwyddor nai gellir cyflawni dau waith ar y tro yn berffaith wir, ac ofer ydyw gwaith rhai o'n hathrawon yn ceisio ei gwrthbrofi. Gorchwyl penodedig yr athraw ydyw cynghori ac addysgu y rhai sydd o dan ei ofal, a dylai ymroddi i gyf. lawni'r ddyledswydd hon, a hon yn unig, tra yn yr ysgol. 11 Pla arall ag sydd yn taityru nawer ar amser yr ysgol, ac yn amharu ei gwaith, ydyw'r 'pen-siaradwr' yn nosbarth y rhai mewn oed. Gwr haerllug, digywilydd, ydyw hwn ag sydd yn cwbl gredu fod yr Ys- gol Sul wedi ei darparu gyda'r unig amcan o roddi cyfleusdra iddo ef i arddangos ei allu oedd areithyadol. Pc buasai'r gwr hwn yn feddianol ar feddwl treiddgar, o bosibl y gallasai'r dosbarth dderbyn rhyw les oddi- wrth el bregetfeau hirfaith ond, fel rheol, nid ydyw ond baldorddwr' aml-eiriog yn unig Gresyn, gan hyny, ei fod yn cael ei oddef i rwystro ereill i ddweyd eu barn, ac I gymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth. Y mae

Yr Ysgol Sul

angen mawr dadblygu galluoedd areithyddol Eglwyswyr, ond nid yr Ysgol Sul ydyw'r lie iddynt ymarfer y ddawn hon. Yn nghvfar- fudydd y gymdeithas amddiffynol neu lenydd- ol cint bob cyfleusdra i arllwys eu hyawdledd ar ben y gwyddfodollon, ond nid yma. Pan gofir fod yr het11 ddylanwadau hyn ar eu heithaf i leihau amser yr Vagol, nid rhy- fedd y clywir cynifer o'n harweinwyr yn cwyno fod ein Hysgolion Sul yn syrthio'n fyr o gyraedd eu hamcan, ac yn eu hanobaith mynych y clywir y goreugwyr hyn yn barod i gynyg rhyw gyfnewidiad eithafol yn nhrefn ein hysgolion. Yn hytrach na cheisio tori'r pren i lawr fel hyn, dilyner cyngor y gardd- wr, am yr hwn y sonlodd ein Harglwydd yn yr Efengyl, a chloddier 0'/ amgylch a bwrier tail. Alltudier yr holl ddylanwadau din- ystriol a nodwyd, ac yn sicr ddigon caiff llawer o'n Hysgolion Sul eu gwedd-newid o'r herwydd. Gan fod yr amser mor fyr, dylid ei roddrn gyfan at y gwaith, ac nid gwlw i neb faio ymroddiad ein hathrawon na llafur ein disgyblion hyd nes y rhoddlr pob ohwareu teg iddynt i wneyd eu goreu trwy sicrhau llonyddwch oddiwrth y gelynion poenus hyn. v. Hyd yma, yr ydym wedi ceisio nodi rhrwystrau ac anhawsderau allanol, yn benaf, ond y mae yna ddigonedd o rwystrau ereill ag sydd yn tarddu oddiar anmherffelthderau aelodau ein hysgolion a gwendid ein dynol anian, a'r penaf o honynt ol! ydyw I gorfanyl- wch.' Treullrhynyo amser ag sydd at e u gwasanaeth mewn hidio owybed-gorchwyl hynod o ddiddefnydd ar bob adeg. Pa faint mwy dibwrpas yr ymddengys yma pan arferir, ef mewn cysylltlad & gwaith mor bwysig 1 Clyweom am lawer dosbarth yn treulio holl amser yr Ysgol trwy hel tir a mor' o gwmpas 0 un adnod, tra y taer erfynir arnynt gan drefn ddarparedig ein Hysgolion Sul i geisio rhodd rhyw ychydig sylw yn gyffredinol i ryw bym theg neu ugain o honynt. Y mae'r dadleuon diderfyn hyn hefyd yn rhwystro'r dosbarth i gael uurhyw afael ar y wers fel cyfangorfF, a hyn wedi'r cyfan ydyw prif amcan yr Ysgol. Y mae'r gwersi wedi eu trefnu'n ofalus er ceisio rhoddi pob cyileustra i'r dosbarth sylweddoli rhyw atbrawiaeth bwysig nas gellir cael unrhyw afael arni oidi wrth un adnod yn unig. Am y gorfanylwch hwn ydd oJ yn esgor ar gymaint gwastraff, y mae'r ath- raw i raddau: helaetli yn gyfrifol, a dylai wneyd ei oreu ar bob adeg i geisio cael gan aelodau ei ddosbarth i oddlweddyd rhagor o'r gwaith. Gall wneyd llawer er dileu'r arferiad trwy sylweddoli prif amcan y wers cyn dyfod i'r Ysgol, a thrwy alw sylw ei ddosbarth at hyn cyn dechreu'r wers. Yn lie gwneyd fel y dylid, prysura yn rhy fynyoh i ddechreu dar- llen lley gorphenwyd y Sul diweddaf, heb roddi unrhyw gyfarwyddyd i'r dosbarth. Nid rhyfedd felly fod un nen'r llall o'r aelodau yn crwydro i bob man heb un amoan nag awydd penodol. Diwedd hyn oil ydyw afreoleidd- dra a gwastraff diarbed

Advertising

EFENGYL S. lOAN (AI L RAN). Gan y PARCH. D. J. JONES, Arholydd Esgobaethol Bangor. Prisiau- 1 copi, 2s.; 6 copi, 9s 6c.; 12 copi, 18s. I LLAWLYFR I'R PLANT Gan y PARCH. J. WHELDON GRIFFITH. Pris-2s. y dwsin. Rhaid anfon Blaendai gyda phob Archeb. -:0:- Anfoner yn ddioed at- n MANAGER, c, Llan" Office, Lampeter.

IFfordd Annheilwng i dalu dyled Capel I

Ffordd Annheilwng i dalu dyled Capel. Yn Nottingham, mae capel perthynol i'r Bedyddwyr, dan yr enw y Tabernacl, ar yr hwn y mae dyled o bedair mil o bunau. Mae y gweinidog a'r blaenoriaid wedi darganfod ffordd aunheilwng i gael gwared o'r ddyled, sef rhoddi y capel at wasanaeth cwmni Cinematograph ar ddyddiau a nosweithiau yr wythnos i arddangos darluniau, a'i ddefn- yddio at wasanaeth crefyddol ar y Sul Yn sicr, mae crefydd a moesoldeb yn cael eu dar- ostwng drwy betbau o'r lath hyn, ac eto dyma y bobl a daflant laid at yr Eglwys, sydd yn esiampl godidog iddynt yngljn a thalu parch dyladwy i addoldai. Mae rhai o drigolion y drof wedi arddangos gwrthwynebiad i'r capel gael ei gamddefnyddio, ond mae y gweinidog 0 a'r blaenoriaid yn benderfynol o beidio gwrth- od cynygiad yr arddangoswyr darluniau.

Yr hen hen amser gynt

Yr hen, hen amser gynt. IACHAF CIG. lachaf cig, llwdn gwyllt, Iwrch. Iachaf cig, llwdn dof, Twrch. lachaf cig, edn gwyllt, Petris. lachaf cig, edn dof, Giar. lachaf pysgod mor, Llythi, h.y. f at fish a geir yn y m6r yn agos i aberoedd. lachaf pysgod dtf r croyw, Brithyll.

EDERN

EDERN. M AKWOI.AETH.—Rlioddwvd yr hyn oedd farwol o'n hen chwaer. Mrs. Ann Williams, Lon Fawr, i orphwys yn mynwent y LIHJI dydd jMawrth diweddaf, y curad-mewn- gofal yn gwasanaethu ar yr achlysur, Goroesodd eiu hymadawedig yr addewid. I gan ei bod yn 75 mlwydd oed, ond carem ei charI gyda ni am lawer blwyddyn eto, gan ei bod yn un or rhai ffyddlonaf yn ngwasanaetli v cysegr. Cafodd gynheb- -rwng hardd, a phawb yn amlwg dan deim- ladau dwys. Heddwch j'w llwcli. a Duw roddo I as yn gymorth cyfajnserol i r teuin .1 0,.1 ..I yn eu profedigaeth lem. 4RGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLuS YN SWYDDFA'R "LLAN."

LLANDYSSUL

LLANDYSSUL. Dydd Gwener diweddaf, yr oedd yn ddiwr- nod mawr yn ardal St. Ffread, plwyf Llan- dyasul. Yr oedd teulu Gilfachwen yn rhoddi gwledd i'r plant a holl Eglwyswyr y lie, ar yr achlysur fod Miss Lloyd, etifeddes yr estate,' newydd gyraedd el un ar hugain oed. Y mae teulu y Gilfachwen yn hynod am eu haelioni oil. Nid oes ball na phrinder ar eu caredigrwydd. Nid oes angen i ml ddywedyd fod byrddau Yiigol y Cyngor yn llwythog o ddanteithion o'r fath oreu. Yr oedd sirloldeb a moesgarwch Mrs. Lloyd a Miss Lloyd, ynghyd a boneddigesau y Ile, yn ein gwneyd ni yn hapus droa ben, yn y mwynhad o'r amrywiaeth drugareddau. Ar ol diwallu ein angenrheidiau oorfforol, a symud y byrddau, cymerwyd y gadair gan y Parch. E. D. Henry. Ar ol anerchiad byr, galwodd ar y Parch D. Worthington, Llangeitho, i dra- ddodl ei ddarlith ar yr Efengylwr mawr o Langeitho, Daniel Rowland. Yr oedd yr Ys- goldy yn orla ivn. Cawsom wledd a darlith wrth ein hodd, ac yr ydym yn teimlo ein bod yn fwy parod i ymladd a'n gwrthwynebwyr nag erioed.

ST ANNS BETHESDA

ST. ANN'S, BETHESDA. GWASANAKTHAU Y GARAWYS.—Fel arforol, yr ydym wedi sicrhau gwasanaeth ofteiriaid dyeithr bregethu yn St. Ann's a Thany- bwlch yn ystod y Garawys. Ni chawsom neb dyeithr yr wythnos gyntaf, ohtrwydd y trefniant o ddydd o ymbll. Yr oedd 61 aberth mawr yn y gwasanaethau y boreu a'r hwyr, a mwy na'r cwbl, yr oeddem oil o dan deimladau dwys Nos Fawrth diweddaf, pregethwyd yn St. Ann's gan y Parch. — Jenkins, Llanberis, ac yn Nhanybwlch gan y Parch. T. A. Cooke, Caernarfon. CYMDEFTHAS AC AMDDIFFYNOL BoDrKiRiG.—Yn unci A'n aaddewid, dyraa ni yn cymeryd hamdden i daflu cipolwg frysiog ar waith y tymor hyd yn hyn. Hydref 23ain, agorwyd y tymor gydag an- erchiad ar Hanes yr Eglwys foreuol gan y Parch. R. Wynne Griffiths, gyda chyfeiriad neillduol at erledigaethau y Cristionogion. Bwriedid yr anerchiad yn benaf fel cyfar- wyddyd ac arweiniad 1 mewn i hanes yr Eglwys foreuol. Hydref 30ain. 'Dadl ar y Ddeddf Yswiriantcadarnhaol, Mr. Moses S. Jones, a'r nacaol gan Mr. William Owen, yn cael eu cefnogi gan Mr. W. H. Parry, a Mr. W. M, Williams. Caulyniad oedd mwyaf- rif yn erbyn y Ddeddf Yswiriant-Tach, 6ed, papyrau, Pabam yr wyf yn Eglwys- wr,' gan Mr. Hughie Jones. Hanes yr S.P.C.K. gan Mr. David Thomas; Hanes Eg- Iwys Gadeiriol Bangor' gan Miss M. Thomas. Taoh. 13, darlith ar 'Drydan,' yn cael ei hegluro gydag arbrawfion gan Mr. Emmanuel Davies, Bodfeirig. Tach. 20, papyr ar Gymdeitbasau Gweithwyr' gan Mr. W. H. Parry. Tach. 28, papyr, Yr Eglwys a LIen. yddlaeth,' gan Mr. Jno. E. Jones. Rhag. 5, anerchiad gan y Llywydd ar Hanes y Beibl Cymraeg.' Rhag. 12, papyr, Y Ddwy Fil,' C5 gan Mr. Wm. Morris Williams. Rhag 19, papyrau ar General Booth gan Mr. David Arthur Hughes, ac ar H. M. Stanley' gan Mr. Henry. P. Thomas. Ion. 9, darlith ar Ddaeareg' (yn ymwneyd yn fwyaf neillduol a Chwarel y Penrhyn) gan Mr. Rhys Wil- liams, Bangor (Inspector of Mines). Ion. 17, anerchiad gan y Parch. J. W. Roberts, Glan- ogwen, ar 'Y Llyfr Gweddi a'i Ddiwygiad.' Ion. 30, dadl ar John Penry gan y Mri. W. J. Davies a Mr. W. M. Williams. Chwef 6, papyr ar Y Litani' gan Mr. J. Owen. Chwef. 13, papyr ar Ragoroldeb Ffurf Weddi gan Mr. Wm. Richard Jones. Chwef. 20, p;¡,pyr ar Dymorau yr Eglwys gan Mr. Llew. Jones. Rhaid addef fod y gymdeithas yn parhau i wneyd gwaith da n o hyd, ac yn llawn bywyd.

ILLANBEDR PONTSTEPHAN

I LLANBEDR PONT-STEPHAN. I ANIL)DIIIFYNIAI, EGLWYSIG.—Mae y Parch. R. H. Richards, M.A., cynrychiolydd y Gym- deithas Amddiffynol Eglwysig yn esgobaethau Ty Ddewi a Llandaf, eisioes wedi cyflawni llawer o waith da drwy anerch cyfarfodydd mewn llawer lie. Mae Mr. Richards yn tfr dysgedig, yn siaradwr penigamp, ac yn cael dylanwad ar gynulleidfaoedd mawrion drwy ei ddull eglur a phendant o ymresymn. Nos y Lun, yr oedd yn Cellan; nos Fercher yn Pan carreg, a nos lati yn Darry Ormond. Daetb cynuHiadau da i'w wrando, a chafodd wrandawiad astud. CYMDEITHAS GEIDWADOI. SIR ABERTEIFI.— Dydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod blynydd- ol Cymdelthas Geidwadol ac Undebol Sir Aberteifi yn y Neuadd Drefol, pryd y daeth cynulliad lluosog ynghyd o bob rhan o'r sir Yn absenoldeb Mr R. E. Jones, cymerwyd y gadair gan Mr. J. Evans, Aberteifi, gan yr hwn y cafwyd anerchiad da. Darllenwyd llythyrau oddiwrth amryw yn datgan eu gofid oherwydd nas gallent fod yn bresenol, a chyflwynwyd y cyfrif arianol am y flwyddyn ddiweddaf i sylw, oddiwrth yr hwn y ceid fod y derbyniadau yn 552p. 8a. 8c.; taliadau, r 2p. 8s. llc" gan adael gweddiH o 109p. 19s. 9c. Rhoidodd Mr. A. G. Harries, y goruchwyliwr dros y sir, adrodd- iad o'r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn, ac am ei ymweliadau a phob rhan o'r sir. Mae Mr. Harries wedi enyn brwd- frydedd a gweitbgarwch ymhob aelod o'r gymdeithas drwy y sir, ac wedi ychwanegn 173 o etholwyr drwy gyfrwng y llysoedd cofrestriadol, a diau y clywir am lawer ych- waneg o enilllon yn y dyfodol agos, gan mal un penderfynol a gweithgar yw efe-bob am- ser yn cyflawni ei ddyledswyddau yn ffydd- lon.—Penodwyd y gwahanol swyddogion am y flwyddyn hon, ac y mae y rhagolygon yn addawol iawn. Cafwyd anerchiad ardderchog gan Syr Edward Pryse. Gogerddan, yr hwn yw yr ymgeisydd dewisedig ar ran y Ceid- wadwyr a'r Undebwyr dros Sir Aberteifi yn yr etholiad nasaf. Pe llwyddid i ddychwelyd Syr Edward, byddai yn fendith annhraethol, gan ei fod yn foneddwr sydd yn deall yn drwyadl y sefyllfa wleidyddol, yn hollol an- nibynol a didderbynwvneb, ac nid yn ceisio myned i'r Senedd er mwyn cael tal o 400p, y flwyddyn. Cafwyd anerchiad yn àdilynol gan Mr. Waddington, prif oruchwyliwr oym- deithasau Ceidwadol ac Undebol Cymru, a therfynwyd cyfarfod da fawn drwy dalu y diolchiadau arferol.-X.

TYDDYNGWYN

TYDDYNGWYN. ST. MARTHA.—Cynhaliwyd y cyfarfod di- weddaf o'r gymdeithas am y tymor eleni, dan lywyddiaeth Mr. Richard Lewis, pryd y cafwyd dadl frwdfrydig iawn ar y Mesur Yswiriol Cenedlaethol.' Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Thomas Morris, a'r naca- ol gan Mr. E. A. Williams. Cafwyd papyrau gwir dda, gyda ffeithlau boddhaol gan y nalll ochr a'r Hall, a chymerodd amryw o'r aelod- au ranyn yr ymdrafodaeth fel, rhwng pawb, cafwyd cyfarfod rhagorol iawn. Wedi rhanu y tý, cafodd yr ochr nacaol un o fwyafrif. Dlweddwyd trwy ganu I Dtiw Gadwo'r Brenin.' ARHOLIAD.—Mae yn bleser o'r mwyaf genym longyfarch dau fachgen o'r Eglwys hon am eu llwyddiant yn arholiad ysgrifeu- edig yr esgobaeth yn mis Tachwedd di- weddaf, sef Tommy Morris a John H. Ellis. Ymlaen yr elont, meddaf, gan obeithio y bydd iddynt greu mwy o frwdfrydedd yn eu cyd-gyfoedion i ymgeisio y tro nesaf.—Hefyd, y Sul o'r blaen, fe wnawd casgHad arbenig yn yr Ysgol Sul tuag at y gronfa yma sydd yn rhoi gwobrwyon, a chafwyd casgliad sylwedd- ol. Pe b'ai pob Eglwys yn yr esgobaetb yn efelychu, buan iawn y ceid cronfa ddigon cref, o bosibl, i ymestyn rhif y gwobrwyon, ac, yn sicr, fe ddylai y gymdeithas arddercbog yma gael sylw neillduol ymhob Ysgol Sul, a'u cefnogaeth hefyd. HUD-LUHERX. Nos Lun diweddaf, yn nghyfarfod y plant, dangosodd y Parch. W. G. Jones, curad, drwy y 'Scientific Lantern, nifer mawr o ddarluniau o hen offeiriadon Cymru, wedi eu codi ar wydr ganddo ef ei hun allan o hen gylchgronau Eglwysig. Yr oeddynt yn wir dda.

o all Xoving fccmors of

o all Xoving /fccmors of EYAX OWEX PHILLIPS, late Dean of St. Davids, who died March 2nd 1897. In old time it was strength to be with him} now, it is strength to remember him."