Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL.! CFNWYSIAD AM MAWRTH. Y Mis. | Rhai Gwersi o Hanes Dewi, Sant a'i Amserau. Pregeth. < Yspryd y Puritm. Y Methodistaidd Calvinaidd a < Datgysylitiad yr Eglwys yn Nghymru. a CrisL Hanes. I O'r Arsyllfa. j Bwrdd y Golygydd. i Manion. |

Advertising

j }) hl1 I_PLANT CTWVYSIAD AM MAAVKTfi. Dadleuoll Magie J onp. Darluniiiu Mi- Mawth. ) Darlui, Piofiad Henri Bach, j Y Protfeswr a'r Pryfaid. [lun). Hugh Samuel Williams (gyda Dar- Sul v Blodau. He'vntion Caplau Llong Ryfel. Ton, Am yr Ysgol Rati Sabbotbol. ) Yr Alarek a'i Gywion. [Wladfa. Adgweiriad Eglwys i Gymry y Cyn ydd yr Eglwys. Golygydd Newydd yr Haul.' Huwcvn ar Ci. Bwrcld y Gan Rhe".t; y Ffyddloniaiu. Kr Cof am Da.id Jones Thomas. Gfiietli yn Dychwelvd ei Thad. Beth mae'i Eglwys yn ei WneyJ. Y Pagan Bach'Du. Eglwya Hynd. Y Paganiaid Bach nuon. Perlau y Perl. Y Gystadleuaeth. Llithiau Priodol am v Mis. Barddoniaelh-

Ysgrif Awgryraiadol

Ysgrif Awgryraiadol. (O'r Genedl Cynit-eig), Swn anfoddlonrwydd, amheuaeth, ac ofn, glywir, o lawer cyfeiriad, yn yr holi a'r dyfalu am y ffurf derfynol gymer cwestiwn Dad. waddoliad yr Eglwys yn N ghymrn, Ambeua rbai fod ein cynrychiolwyr Seneddol yn tueddu i roddi mwy yn ol i'r Eglwys nag sydd ganddi hawl iddo. Amheua eraill lawer mwy ynghylch y priodoldeb o drosglwyddo cyllid y Dadwaddoliad i amcanion bydol. Nid wyf heb sail i gredu fod y dosbarth hwn yn lluosog ac yn myned ar gynydd, ac yn eyuwys Ymneillduwyr o ddylanwad mawr sydd wedi bod ar hyd en bees, ac yn parhati yn aiddgar dros ddidgysylltiad a dad wad dol, iad ar linellau teg i Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr. Yng nghwis v ddadl yn Nhy y Cyffredin dygwyd i amlygrwydd y flaith fod y teimlad yn gryfach nag y tybiwyd erioed yn erbyn tros- glwyddo eiddo sydd er's oeaau wedi ei glust- nodi i amcanion crefyddol tuag at sefydiiadau aeachosion bydol. Gwyddom fod Ilawer o ddad- len ynghylch tarddiad a dibenion cyntaf y degwm. Eto rhaid addef fod y drafodaeth yn Nhy y Cyffredin, ac oddiallan, wedi deffro merldylgarwch adyfnhau yr argyhoeddiad am yr eiddo cenedlaethol y mae yr Eglwys yn dal ei gafael ynddo, mai eiddo wedi ei glustnodi i amcanion crefyddol ydyw, ac mai i'r amcan- ion hyny yn gwbl y dylid ei ddefnyddio pan fydd dadwaddoliad wedi ei gwblhau. Pe buasai y bwriad o ddefnyddio y cyllid i amcanion addvsgol yn oael ei amlyeru cyn sefydlu ein colegau cenedlaethol a'n cyfun- drefn o addysg ganolraddol, dichon na buasai nemawr wrthwynebiad i'r cynllun ymhlith Ymneillduwyr. Heb sylweddoli yn briodol fel y gwneir fwy fwy yn awr mai cwestiwn ymherodrol yw addysg. Pe trosglwyddid y cyllid i'r amcan hwn yn awr, defnyddid ef, yn ddiameu, i chwyddo cyflogau athrawon nad yw Cymru, byd yn hyn, wedi manteisio ar eu dylanwad i'r graddau y gobeithiai, yn genedl- aethol, ymneillduol, na chrefyddol, ond yn hytrach wedi ei chlwyfo yn dost lawer tro gan eiriau ac ymddygiadau i'r gwrthwyneb. Swn cytundeb sydd i'w glywed ar gwestiwn y cyllid. Y mae y symudiad wedi cychwyn yn Nhy y Cyffredin, ac ofna llawer yr a. ym- hellach ar y llinellau fydd yn ail ennyn a chadw hen deimladau eiddigeddus yn fyw. Ni ddymunwn weled Eglwys Loegr yn cael ei hamddifadu o unrhyw gyfran o'r hyn gydna- byddir sydd yn perthyn iddi fel y cyfryw. Am y gweddill, y mae hyd yn awr wedi bod yn manteisio arno, methaf a gweled paham na chymaerir cynygiad Arglwydd H. Cecil, Mri. Ormsby Gore ac Alfred Littleton, yn sylfaen cytuudeb pan y cyuygiant ar ran yr wrthblaid i'r swm gael ei ranu rhwng yr Eg- 9 t, lwys a'r gwahanol enwadau Ymneillduol. Pabam na ellir gwneyd hyn yn foddhaol ar gyfartaledd cyfraniadau gwirfoddol, neu ynte nifer cymunwyr pob plaid ? Ni fu adeg erioed pan y bu mwy o angen arian i gyfarfod gal- wadau nag yn awr. Yr ydym yn byw mewn n 088 ag mae ei gweithgarwch crefyddol ynym- agor i gyfeiriadau na feddyliodd ein tadau erioed am danynt, ac fe ymddadblygai yn eangach fie yn gyilymach onibai y diffyg ar- ianol sydd yn ei lesteirio. Gan y byddai y swm dderbynid yn y dull hwn yn rhydd oddiwrth bob llyffetheiriau gwladol, methaf a deall y byddai yn groes i egwyddorion hanfodol Ymnsillduaeth nae yn unrhyw ddiraddiad cytuuo ar y llinellau aw- grymir gan yr Wrthblaid yn y Senedd. Nid gwrthwynebiad i gydnabyddiaeth ar ran y Llywodraeth ond gwrthwynebiad pendant i unrhyw ymyriad yn ei rheolaeth a'i threfn- iadau mewnol sydd with wraidd Ymneilldu- aeth. Fel mater o ffaith, ni ymyrai y Llywodr- aeth yn nhrefniad mewnol yr Eglwys Bres- byteraidd yn yr Iwerddon, ond cyfranai swm mawr yn flynyddol am uleiiiiati o flynydd- oedd i'r Eglwys Bresbytesaidd, a phan ddad- n gysylltwyd yr Eglwys YVyddeligyn y flwydd- yn 1869 ataliwyd y rhodd, a derbyniodd yn lie hyny £ 700,000 yn un Bwm, yr hwn a gymerwyd o gyllid yr EgIwys Wyddelig a c3 1 ddadgysylltwyd. Yr un modd a,.ii ugeiniau o flynyddau, yn el wir hyd y 1H51 cyfranai y Llywodraeth swm

Ysgrif Awgryraiadol

Bylweddol yn flynyddol er cynorthwyo'r Wein- idogaeth Ymneillduol yn Nghymru a Lloegr, ac y mae pob sicrwydd mai i Gymru y daeth y doraeth o'r symiau hyny, gan mai yma. yr oedd Ymneillduaeth gryfaf ar y pryd. Dichon y buasai y swm hwn yn parhau i dd'od hyd yn awr, ac yn ymddangos yn y Parliamentary Votes, fel y gellir ei olrhain am y deugain mlynedd olaf y pleidleisiwyd arno, onibai am y dirgelwch, yr anhrefn, a'r anhegweh oedd yn nodweddu y gweinyddiad. Carwn weled y mater yn cael sylw yn Nghymdeithasfa agoshaol y Methodistiaid yn Machynlleth, a chan yr boll enwadau cref- yddol. Hwy sydd i benderfynu y mater pwysig hwn, ac nid ein cynrychiolwyr Senedd- ol, er cymaint ein parch iddynt. Dylai fod eiii cynrychiolwyr yu cael barn a theimlad cyfangorph Ymneillduwyr Cymru ar ol ysfcyr- iaeth bwyllog. Gwyddom nad ydynt yn ol braidd ar unrhyw amgylchiad o glywed syn- iadau rbyw nifer o bersonau sydd yn ystyried eu bod yn deall barn, teimlad, ac angen Cymru ar bob cwestiwn, ac yn dra phryder- us am i'w cynrychiolydd wybod beth sydd ganddynt hwy i'w ddweyd.—Yr eiddoch, Llanllyfni. G. CfirDioo Roberts.

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 LAEGE VOLUMES 0 OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30 per set. I (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

Marwolaeth Pencerdd Gwalia

Marwolaeth Pencerdd Gwalia. Ddydd Mercher, bu farw Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia), un o brif delynorion os nad penaf delynor gwlad y delyn. Ganwyd y Pencerdd bydglodusyn Mhenybont ar-Ogwy yn 1826, felly yr oedd wadi cyraedd yr oedran teg o 87. Daeth i fri fel telynor yn ieuanc. Pan nad oedd ond deuddeg oed, enillodd ar ganu ei hoff offeryn yn Eisteddfod y Fenni, yr hyn a'i dygodd i sylw a nawdd Arglwyddes Llanofer. Yna cafodd gwrs o addysg yn y Royal Academy, a buan y dat- blygodd yn gerddor o fri, yn enwedig yn y greft Gymreig swynol—' tynu met o'r tanau man.' Darfu i Bencerdd Gwalia swyno clustiau brenhinoedd a brenhinesau lawer yn ei dro. Yr oedd yn delynor y llys i'r ddiwedd- ar Frenhines Victoria a'r Brenin Edward. Ell hefyd yn chwareu ofiaen brenin dall Hanover, yr hwn oedd gerddor o eh waeth, ac yr oedd yn gyfeillgar a. Brenhines athrylith- gar Kournauia, Carmen Sylva. Ond er cymdeithasu a. phenau coronog, a chael eL anwylo a'i anrhydeddu gan fawrion byd, nid anghofiodd y graig o'r hon y'i nawddwyd a'r wlad a roddes fag iddo. Gwnaeth lawer i godi hen wlad y delyn yn ei hol. Yr oedd efe hefyd yn gyfansoddwr o safon uebel. Efe bian amryw o'n tonau gwladgarol mwyaf coeth a chanadwy. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1863 cyfansodd- odd ei gantawd ddramayddol hysbys Llewelyn.' Erys ei gasgliad o alawon Cymrelg yn gofgolofn fythol i'w enw per. Dyddorol ydyw sylwi mai yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdar yn. 186 I y cafodd John Thomas urdd gorsedd fel Pencerdd Gvyalia.' Teithiodd lawer yn ei oes. Bu ar daith drwy gyfandir Ewrob, ac yn ystod ei hynt ymwelodd 4 bron bob llys brenhinol ar y Cyfandir, a rhoddid iddo yn ddieitbriad dderbyniad tywysog. Teiliwr wrth ei grefft ydoedd tad y telynor enwog, yr un enw a'i fab, ac fel yntau bu farw yn 87 oed. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd blinid y telynor gan ddallineb, ond rhyfedd mor siriol yr ydoedd drwy y cwbl. Priodol fyddai i ryw fab y delyn ganu nodau prudd Dafydd y Gareg Wen er cof am y mwyaf ei glod o delynwyr Gwalia.

Nodion o Ddyffryn Clwyd

Nodion o Ddyffryn Clwyd. Dinbtch.—Cymerwyd Gwasanaeth y Tair Awr Ddydd Gwener y Groglith gan y Parch. L. O. H. Pryce, Warden Rhuthyn Bn Rbeithor Dinbych yn cymeryd y cyfryw was- anaeth yn Eglwys St. Pedr, Rhuthyn.—Yr un dydd yn yr Ystafell Genhadol rhoadwyd anerchlad yn y prydnawn gan Ficer Prion. Bu Rheithor Llangynbafal yma yr wythnos ddiweddaf hefyd yn anerch y cymunwyr.— Yr oedd nifer y cymunwyr Ddydd Pasg ych- ydig yn llal na llynedd. Yn dra tbebyg fod afiechyd wedi Iluddlas amryw. Oer a thym- hestlog oedd yr hin, ond anheilwng fyddai rhoddi hyn fel esgns am fod yn absenol, gan yr iach &'r heiny beth bynag. Hwyrach i'r hin rwystro rhai gweiniaid. LLAXELWY.- Y Tra Pharch. Ddeon Bangor fu yn yr EgIwys Gadeiriol yn cymeryd Gwas- anaetb y Tair Awr Ddydd Gwener y Grog- lith. Yn yr hwyr yn Eglwys y^Plwyf ar ol gwasanaeth byr, caed dadganiad rhagorol o gerddoriaeth addas i'r dydd. Canodd Mr. E. Barlow yr unawd tenor, There is a green hill far away.' Dadganodd y cor yr anthem Behold the Lamb of God,' ac hefyd y Gantata Is it nothing to you V Mr. J. R. Jones oedd wrth yr organ.—Dydd Pasg nid oedd nifer y cymunwyr i fyny a'r rhif eithr- iadol o dda y llynedd. Cysrto a -LADRAD.-Dydd Sadwrn, wythnos i r diweddaf darganfyddwyd fod Heidr wedi bod yn tori i flychau elusenol amryw o eglwysi yn yr ardaloedd hyn. 13ti yn Llan- drillo-yn-Rhos, Colwyn, Abergele a Llanelwy. Methodd yn ei amcati gydag un blwch yn Abergele, gan fod un clo yn rhy gadarn i'w ystryw. Yehydig gafodd yn Llanelwy, gan fod y warden wedi gwaghau y blwch yn ddiweddar. Trueni fod dyhiryn a ysbeilia Dy Dduw ac a gymer yr hyn a fwriedir at y tlawd a'r rheidus heb ei ddal, ac fe haedda gosb lem. Cymered wardeniaid rybudd i fynych waghau y blychau elusenol o fewn yr eglwysi. TREFAST.- Ystafell Genhadol y Green.— Yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd y Rheithor anerchiad ar yr Oberatumergau Passion Play, 1910,' a dangoswyd darluniau gan yr hud-lusern. Btwoliaeth Llankliax. Gall fod y Parch. J. Hamer Lewis, wedi tynu yn ol ei dderbyniad o'r uchod y mae'r Arglwydd Esgob wedi ei chyuyg i'r Parch. George Owen, ficer Tryddyn, ger y Wyddgrug, ac y mae yntau wedi ei derbyn. Conffirmasiwn.—Bu yr Arglwydd Esgob yn gweinyddu y ddefod o Arddodiad Dwylaw yn Tremeirchiou ddydd Mercher o flaen y Pasg ac yn Ruthin y boreu canlynol. Ni fu gwasanaeth Conffirmasiwu yn hen Eglwys Treitielre,hion er's blynyddau lawer, a da elywe;-i fod yno gynifer o ymgeisa vt-. Y It Hin.—Cawsom wlawogydd trymion iawn yn y Dyflryu brydnawn Noswyl y Pasg, fel y ba yu y wlad yn gyffredinnl. Yr oedd yn eirtt. ar lethrau mynyddoedd a warohaeant yr hen Ddyflryn hwn. Fel arfer yr afori Rlwy a ddangosodd gyntaf mor dtwm fu'r gwlaw, a choiold yn tichel y Sd () ,d adeg y treiy, hi y pryd hyny y deffry yr Lieu UIwyd araf ddofn, a boreu Llun gorlifai dros y glauau gan droi meusydd eang yn llynau llonydd a'rgwylanod brith-wynion yn hedeg yn heidiau amgylch ogylch gan ymgiprys am dameidiau blasus, a'u clegar yn diaspedain 0 dros y dolydd, fel pe baent hwythau mewn asbri yn mwynhau eu hunain ar Wyl y Banc. Daeth cyfnewidiad dymunol yn y tywydd. Diwrnod hafaidd fu yr Wyl, a chaed tywyniad tesog teyru y dydd.

Etholiad Achlysurol Kendal

Etholiad Achlysurol Kendal. Teimlad hapus yn ddiau ydyw teimlad y morwr pan mae yu dychwelyd o'i fordaith. Felly hefyd yw fy nheimlad inau pan wedi cael dyfod yn ol i'r hen ardal unwaith yn rhagor ar ol bod yn ymladd brwydr ein Heglwys am bum' wythnos. Gwaith caled a phwysig ydyw gwaith milwr pan ar faes y frwydr, felly caled a phwysig ydyw gwaith y cewri Cymreig sydd yn cario brwydr dros eu Heglwys i ganol gwerayllfaoedd y digrefydd a'r diddduw. Mae yn syndod genyf fod Ym- neillduwyr Cymru erioed wedi bod mor ffol a phledidio addysg ddidduw. Ond caraswn pe yr arweinid pob coppa walltog o honynt trwy heolydd rhanau dwyreiniol Llindaiii. Cawsent weled a phrofi canlyniad cau gair Duw allan o gyraedd y to ieuanc sydd yn codi. Ond mae ryw duedd crwydro ynof ymhell o'r testun. Yr oeddwn wedi meddwl crynhoi ychydig o hanes yr etholiad ucbod a'r rhan flaenllaw a gymerodd amddiffyniad em Heglwys ynddi, yn enwedig ar ol i'r Gymdeitbas Undebol yn Llundain wrthod cydnabod yr ymgeisydd amddiffynol am uad oedd yn cydfyned a hwy ar boliai y tollau. Ond erioed ni fu gan y blaid yr un ymgeisydd gonestach na Col. Weston. Ffuifiodd ei farn ei hun arnynt, a daeth a. hwy yn syth o flaen I yr etholwyr. Diameu fod yr anealldwriaeth I yma wedi peri peth Ilawenydd yn ngwersyll y Radicaliaid, oherwydd buont yn brysur iawn yn ceisio daliu yr etbolwyr nad oedd ef yn cynryehioli neb os etholid ef. Un o'r cwestiynau caletaf iddo oedd, I Beth wnai ef pan fyddai y blaid yn cynyg y diwygiad tollawl?' Wait and see,' oedd yr ateb. Ond i ddyfod yn ol at y rhan a gymerodd yr amddiffynwyr Cymreig yn y frwydr hon. Nos Lut), 10fed o Fawrth, wele frysneges yn disgwyl wrthyf yn fy Hetty gyda'r geiriau yma yn ysgrifenedig arno, Come to Church House 10 to-morrow morning ready to start for Kendal.' Ratite)- a tall order, onide ? Ond waeth am hyny, rhaid ufuddhau i'r udgorn, yn enwedig pan fydd brwydr i'w hymladd. Borell dydd Mawrth wele chwech o fechgyn Cymru yn llawn arfau yn cychwyn am faes y frwydr. Diwrnod blinedig ydoedd dydd Mawrth, yu y tren o ddau hyd wyth y nos yn trafaelio dau cant a thriugain o filldiroedd o Lundain i Westmoreland. Cael llety glin a chyffordd- ns ar ol cyraedd. Boreu Mercher yn dechreu ymosod ar gadarnle Iladicalaidd, sef Kendal. Yma mae nerth y criw yn yr etholaeth hon. Un o'r pethau cyntaf fyddaf yn wneuthur bob amser cyn cychwyn ein brwydr ydyw cael gafael yn anerchiad yr ymgeisydd ysbeil- gar, ac ar ol ei chael, a'i hastudio, a thynu cymaint o eiriau twyllodrus allan ohonl, wed'yn ni fydd dim ohoni yn werth y papyr yr argraffwyd hi arno. Er mwy 11 i'r darllen- ydd ei darlien, rhoddaf ei dystiolaetb am yr Eglwys Gymreig :—' The Church of England in Wales has ceased to be a National Church in fact, and by a majority of ten to one Wales has consistently requested its disestab- lishment. The Government's Bill will effect, the endowments of the Church being dealt with in an equitable manner. In my opinion this is a fit subject for compromise, but un- fortunately, the opposition have shown no disposition to any settlement by consent.' Nis gallai ateb pa bryd y darfu i'r Eglwys golli ei chenedlaetholdeb, na pha bryd y gwrtholwyd ei chredo gan grefyddwyr Cymru. Yn yr ail ran o'i anerchiad cofleidia mewn ffigyrau, ond pwy sydd gyfrifol am ffigyrau yr ymgeiswyr Radicalaidd, a'i y Daily News ynte Mr. Ure ? Gwyddom ein bod wedi eu herio dro ar ol tro am gyfrifiad crefyddol, a phob tro yr ydym wedi ein gwrthod. Gwyddom oddi wrth ein hysUdeg- au fod yr Eglwys Gymreig yn uwcli o'i hys- gwyddau i fyny Ha'r un o'reuwalau estronol eraill. Beth feddylia am equitable manner V Rhwng y diafol a'r ddyfrllyd fedd, unwaith yr ant i ddwylaw blonegog y Cynghorau Sirol, ni wel y genedl les mwy oddi wrthynt. Cyhudda yr Wrthblaid o wrthod cytundeb. Oni chynygiwyd i ranu yr ysbail rhwng y gwahanol enwadau, ond ni fynant hyny. Ar ol iddo gael ei orchfygu ar ei anerchiad ei hun, ceisiodd ail-drefnu un arall, yn yr hou y dywedai,os etholid ef, y buasai yn pleidio hael- frydedd i'r Eglwys Gynreig, Ond nidoesarnom eisiel1 eu haelfrydedd hwy y cwbl a fynwn yw cael Ilonydd i ddefnyddio y gwaddoliadau gonest sydd wedi eu hymddiried i ni at yr amcan y rhoddwyd hwy. Yr wyf bellach yn hen law hefo'r etholiadau achlysuroi yma. Clywais lawer i ymgeisydd Radicalaidd yn son am delerau mwy hael na'r presenol i'r hen Eglwys, ond ar ol eu hethol, 'toe the line ydyw hi arnynt ni soniant am hael- frydedd byth wedi byn. Yr wyf yn myned yn bur faith y tro yma. Digon yw dweyd fod mwyafrif dros yr Eglwys wedi chwyddo yn ddau ddyblyg. MERLLYXWR.

LLANU WCHLLYN

LLANU WCHLLYN. Confirmasiwx —Yn y Contfirmasiwn a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Bala gan Esgob Llanelwy, yedd 6 o'r rhai a gonffirm- iwyd yno o Llanuwchllyn, 3 o feibion a 3 o ferched, oil yn bobl ieuainc. YR WYI. Gorawl.—Bu y Parch. Cadwalader Williams, curad Corwen, yn pregethu yma ar y 12fed eyfisol, fel un o bregethwyr y Garawys. Wedi'r gosper bu'm gwrando ar gor EglwJs Llanuwchllyn yn canu'r atithemau Seisnig a Chymraeg ar gyfer yr IWyl Gorawl a gynhelir yn X ghorwen yn mis Mehefin nesaf. Deallwn iddo gael ei foddbau yn fawr yn y dull yr aeth y cor trwy ei waith, ac befyd yn 1 leisiau a nifer aelodau y cor. YR EGI,WYS.-NOS Sul diweddaf cafwyd pregeth rairorol yn Eglwys y Plwyf gan y Parch R. T. Hughes, un o feibion y Ficer.

Ficer Newydd Llanelian

Ficer Newydd Llanelian. Mae Esgob Llanelwy wedi cynyg ficeriaeth Llanelian, Sir Ddinbych, i'r Parch. George Owen, ficer Tryddyn, Wyddgrug, yr hwn sydd wedi ei derbyn. Gwerth y fywoliaeth yw 290p. y flwyddyn, ynghyd a thair erw o dir. Bu Mr. Owen yn gurad yn Nghorwen ac yn Bodelwyddan.

Marwolaeth CynReithor Llanfor

Marwolaeth Cyn-Reithor Llanfor. Ar y 24ain eyfisol, yn 39 Portland Street, Aberystwyth, ar ol dioddef yn hir, bu farw y Parch. Richard Owen, cyn-reithor Llanfor, Bala, yn 75 mlwydd oed. Yr oedd y bouedd- wr ymadawedig yn frawd i'r Parch. George Owen, ficer Tryddyn, ac i Mrs. Bowen, Towyn.