Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. GYNWYSIAT) AM MAWRTH. Y Mis. Rhai Gwersi o Hanes Dewi Sant a'i Amseran. Pregeth. Yspryd y Puritm. Y Methodistaidd Calvinaidd a Datgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Crist Hanes. O'r Arsyllfa. Bwrdd y Golygydd. 11.6__2_-

Advertising

j PERL Y PLANT. j eTNWTSIAD AM MA WIUII. Dadleuon Magie Jones. Darluuian j Mis Mawrth. j Darluia, Proifad Henri Bach. Y Proffeswr a'r Pryfaid. CIUR). j Hugh Samuel Williams (gyda Dar. Sul y Blodau. I Helyntion Caplan Llong Ryfel. Ton, Am yr Ysgol R&d Sabbotbol. Yr Alarch a'i Gywion. (WiadfoM J Adgweiriad Eglwys i Oymry y Cynydd yr Eglwys. j Golygydd Newydd yr Haul.' Huwcyn a'r Ci. Bwrdd y Gau Rhestr y Ffyddloniaid. j Er Cof am David Joneq ThomM. Geneth yn Dvchwelvd ei Thacl. Beth mae'r Eglwys yn ei W, neyd. j Y Pagan Bach Du. Eglwys Hynoi. Y Paganiaid Bach Duon, Perlau y I Perl. I Y Gystadleuaeth. ] Llithiau Priodol am y Mis. j Barddoniaeth-

Cynhadledd Unedig Esgobaethau Y Bangor a S Asaph yn Llandudno

Cynhadledd Unedig Esgobaethau %Y Bangor a S. Asaph yn Llandudno. Y mae'r trefniadau ar gyfer y Gynhadledd hon yn awr wedi eu cwblhau, ac y mae pob argoel y ceir cynulliadau lluosog iawn ac ym- driniaeth ddeheuig ac addysgiadol ar y pync- iau amserol sydd wedi eu dewis yn destynau. Y mae cynhadledd unedig o'r fath hon yn beth newydd, ond, er hyny, yn dra chymwys ar yr adeg ddifrifol hon yn hanes yr Eglwys Gymreig. Cytunasai Pwyllgor cynhadledd S. Asaph ryw fis yn ol i ofyn am Gynhadledd Unedig,ac oddeutu yr un amser penderfynodd Pwyllgor Bangor wahodd aelodau cynhad- ledd y chwaer Esgobaeth i'w cynbadledd hwy. n y Gan fod amgylchiadau yn gorfodi Bangor i gynal y gynhadledd yn gynar yn Ebrill, a bod yr amser I barotoi yn brin, y mae trefn- iadau'r gynhadledd yn nwylaw Esgobaeth Bangor, ond y mae derbyniad helaeth a chyffredlnol wedi cael ei roddi gan aelodau S. Asaph i'r gwahoddiad i ymuno yn y gweith- rediadau. Gryn amser yn ol, cyn fod haner yr atebion wedi dod i law, yr oedd dros bum cant o gynrychiolwyr Hen a lleyg o'r ddwy Eegobaeth wedi addaw eu presenoldeb, a dis- gwylir erbyn hyn y bydd y nifer a ddaw ynghyd yn tynu'n agos at fil, os nad ychwan- eg. Dechreuir ddydd Mercher, Ebrill 9fed, pryd y cynheliv gwasanaeth Saesneg yn Eg- lwys y Drindod Sanctaidd am 7 o'r gloch yn yr hwyr, pryd y pregethir gan Arglwydd Esgob Ossory, a gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Sant George yr un adeg gyda phre- geth gan y Parch. T. J. Jones, rheithor Gelli- gaer. Fore dydd Iau, Ebrill lOfed, am 8 o'r gloch, bydd gweinyddiad o'r Cymun Bendi- gaid yn Eglwys y Drindod ac am 10.30. bydd cyfarfod cyntaf y gynhadledd yn y Pavilion. Testun yr ymdrafodaeth yn y boreu fydd Effeithiaii Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru pe deuai y cyfryw yn ddeddf,' a siaredir yn gyntaf ar y pwnc gan Syr Foster Cunliffe, Barwnig (yn Saesneg), a ohan Mr. Arthur E. Hughes (yn Gymraeg). Bydd yr all gyfarfod yn dechreu am 2.30 yn y prydnawn. pryd yr ymdrinir a'r pwnc, Dyledswydd Eglwyswyr Cymru yn yr argyfwng presenol.' Y siarad- wyr cyntaf fydd Arglwydd Esgob Ty Ddewi a Mr. Gordon Roberts, Caergybi. Ar derfyn yr ail gyfarfod, adolygir gweithrediadau'r dydd gan Arglwydd Esgob Llanelwy. Am 7 yn yr hwyr, cynhelir cyfarfod defos- iynol yn y Neuadd Drefol, pryd y ceir an- erchiadau gan Deon Bangor, Canon Joyce, rheithor Lerpwl, y Parch. T. P. Ring, ac ereill. Y mae'r rhaglen uchod, enwau y prif slaradwyr, y testynau yr ymdrinir a hwynt, a nifer y cynriolwyr presenol yn profi y bydd y Gynhadledd hon yn un dra nodedig yn hanes dwy esgobaeth Gogledd Cymru, a diameu y bydd llygad yr holl Eglwys yn LIoegr yn gystal ag yn Nghymru yn dilyn y gweith- rediadau gyda dyddordeb anghyffredln. Ys- grifenydd y Gynhadledd yw y Parch. J. E. Williams, ficer Porthmadog.

Gwyl Gorawl Glyn Aeron

Gwyl Gorawl Glyn Aeron. Diameu fod corau Glyn Aeron yn disgwyl cael gwybod beth ydyw yr Anthem gogyfer a'r wyl sydd i'w chynal yn Aberayron yn mis Mehefin nesaf. Yr anthem ydyw Ni pblyg- wn byth i lawr' yn Gymraeg, cydgan o 'Judas Macoabaeus' (Handel). Gellir cael copiau gan Mr. John Jones, Llyfrwerthwr, Aber- ayron, drwy anfon am danynt. Gobeithio y gwnaiff pawb eu goreu i ddysgu hon eleni eto; tipyn yn galed ydyw hi, ond nid ydyw yn rhy galed os gwnaiff pob cor daflu ei hunan i'r gwaith yn Bwyr. Gwnaed pawb ddechreu ar unwaith. Nis gellir cael coplau Hen Nod. iant yn Gymraeg; felly fe fydd yn rhaid i bob un yagrifenu y geiriau Cymraeg ei hunan —J.J.L.

Marwolaeth Arianydd Enwog

Marwolaeth Arianydd Enwog. Derbyniwyd y newydd ddydd Llunam far- wolaetb Mr. J. Pierpont Morgan, arianydd Americanaidd enwog, yr hyn gymerodd le yn Rhufain, He yr oedd yn aros e'rs peth amser. Bu farw yn werth canoedd o filiynau o bunau.

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 IARGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30/- per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

i LLANIESTYN LLEYN

LLANIESTYN (LLEYN). Nos Wener diweddaf, yn eglwys y plwyf uchod, cafwyd gwasanaeth a phregath er budd y Gymdeithas Genhadol Eglwysig (C.M.S.) Darllenwyd y gwasanaeth yn ab- senoldeb ein parchus Reithor oherwydd ei waeledd, gan y Parch. W. S. Williams, rheithor Bottwnog, ac hefyd pregethwyd ganddo yn rhagorol iawn. Fe ymdriniodd yn dda ac i bwrpas yn yr achos hwn. Ar ol y bregeth gwnawd casgliad, ac hefyd agorwyd y blyohau gan Miss Davies, Rheithordy, a'r cynwysiad fel y canlyn :-Casgliad ar ol y bregeth, lis. 5c.; Blychau-ddalwyr: Miss Maggie Jones, P.O., 7s. lo. Miss Davies, Rheithordy, 4s. lc. Miss M. J. Williams, Rhosgoch, 2s. 5c. Miss Lizzie Hughes, Mur- llwyd, 2s. Mr. John R. Hughes, Cil-llidiart, 9c.; cyfanswm, lp. 78. 9c. Diolch i'r blychau- ddalwyr am eu hymdrechion tuag at y gym- deithas fendigedig hon. Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.' Da genyf gael dweyd wrth ysgrifenu hyn fod ein parchus Reithor yn gwella, a'n dymuniad yw ar iddo gael adferiad buan i'w gynefin iechyd fel o'r blaen. Gwasanaetkwyd yn yr eglwys yma y Sul diweddaf gan ei fab, y Parch. T. A. Davies, rheithor Llanflhangel-y-Pennant. —R.J. BURRY PORT. EGLWYS ST. MARY. Cynhaliwyd festri mewn cysylltiad a'r Eglwys uchod nos Iau, Mawrth 27ain. Cymerwyd y gadair gan y Parch. David Jones, ficer y plwyf, yr hwn a dalodd ddiolchgarweh gwresog i swyddogion ac aelodau yr Eglwys am eu llafur a'u cyd- weithgarwch diffllant yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Llongyfarchodd hwy hefyd ar sefyllfa lewyrchus yr Eglwys ymhob ystyr, a sylwodd na byddai ond ychydig o waith am- ddiftyn yr Eglwys yn Nghymru pe gwelsid ymhob Eglwys weithwyr mor ymroddgar ag a welir yn St. Mary's. Yr oedd y cyfrifon am y flwyddyn yn dra boddhaol, cyfanswm y casgliadau dros 200p., yn gadael gweddill mewn Haw o 9p. Appwyntiodd y Ficer Mr. Thos. Griffiths fel ei warden, ac ail-etholwyd Dr. Owen Williams fel warden y bob!. Pasiwyd pellderfyniad yn gwrthdystio yn erbyn Mesur y Llywodraeth i Ddadgysylltu a Dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru, a diwsddwyd y festri trwy i'r Ficer ddatgan y Fendith. 5 CWRDD DIRWESTOI,-Nos Wener, Mawrth 28ain, cafodd preswylwyr Burry Portyfraint o wrando am y tro oyntaf ar Syr Stafford Howard yn traddodi araeth ddirwestol. Mae y gwaith da a gyflawnir gan Syr Stafford a'i briod, Lady Howard, ei haelioni i'r tiawd a'i barodrwydd i gynorthwyo pob achos da, ac yn arbenig ei sel dros ddirwest yn hollol wybyddus i gylch tra eang, ac yn perl fod ei enw yn cael ei anwylo gan bob dosbarth o bobl. Nid rhyfedd felly fod preswylwyr Pembrey a Burry Port yn ymfalohio yn y ffaith ei fod ar fin gwneuthur ei gartref yn hen bias Cilymynydd. Prawf o'r croesaw cynes roddir i Syr Stafford a'i briod yn Burry Port oedd y dorf ymgynullodd yn y Neuadd Eglwysig nos Wener. Haner awr eyn dech- reu y cyfarfod yr oedd y Neuadd eang a gynwysa dros bum cant o bobl wedi ei llanw hyd yr ymylon, a gorfu i einial1 ddychwel- yd o'r drws. Llywyddwyd gan Mr. J. Eager, llywydd yr I.O.G.T. yn Burry Port. Siarad- odd Syr Stafford yn effeithiol am dros awr o amser, a chafodd wrandawiad astud o'r dech- reu i'r diwedd. Siaradwyd hefyd gan y Parch. J H. Rees, Mr. D. Williams, Mr. J. Rees, a'r Parch. 1. Harries Williams. Ter- fynwyd cyfarfod hynod o lwyddianus trwy dalu y diolchiadau arferol.

Marwolaeth y Parch John Rees Tylorstown

Marwolaeth y Parch. John Rees, Tylorstown. Ddydd Gwener, yr 28ain cynfisol, ar ol hir nychdod, bu farw y Parch, John Rees, ficer Tylorstown, yn 68 mlwydd oed, er mawr alar i bawb o'i gydnabod. Un o'r dynion mwyaf diymhongar a charedig ydoedd y diwaddar wr parchedig-bob amser yn gwneyd yr hyn a allai i leddfu poen ac angen pawb, ac yn Gristion teilwng. Cydymdeimlir yn ddwys a'i weddw a'r plant yn eu gatar dwfn ar ol priod a thad anwyl. Duw fyddo yn llon'd ei addewid iddynt. Claddwyd ei weddillion rnarwol ddydd Mercher yn nghladdfa Fern- dale.

Yr Had am Ebrill

Yr Had am Ebrill. Yn yr Haul' nesaf ymddengys y gyfres gyntaf o Nodiadau y Parch. D. W. Davies, Llangernyw, ar Joshua I.-XXIV. (Maes Llafur Ysgolion Sul yr Eglwys). Ymhlitb yr erthyglau ereill bydd y canlyn Y Method- istiaid Calfinaldd (ail ran), gan y Parch. W. Williams, Bangor; 'Gwaddol yr Eglwys,' gan y Parch. J. C. Morrice 'Blodau Beddau Mallwyd,' gan 'Tyswyn'; 1 Yr Haul yn 1844 ac 1845,' gan y Parch. D. Ambrose Jones Dwfr Ei Natur a'i Ddefnyddioldeb,' gan y Parch. R. Jones, Cyffin Ysbryd y Puritan,' gan y Parch. J. H. Jenkins, Cii- rhedyn; Y Mis O'r Arsyllfa SymLid- iadau Eglwysig.'

Yr Haul

"Yr Haul" Un o bleserau penaf fy mywyd pan yn fachgen oedd trol a throsi pentwr o hen rifyn- au o'r hen Haul-hen Haul Llanymddyfri a Chaerfyrddin, dan olygiaeth ddawnus Brutus. Yr oedd genyf hoffder hyd y nod at yr hen amlen oedd am dano, a'i lliw. Hoffwn weled y lliw hwnw eto ar amlen Saul ein dyddiau ni, y brown goleu hwnw, yn ymylu ar goch. Cafodd yr Haul ei gychwyn yn 1835 yn Llanymddyfri dan olyglad Brutus. Ei argraphwyr cyntaf oeddynt y Brodyr Rees, Llanymddyfri, ond rhoddasant hwy y gwaith argraphu i fyny yn lied fuan ar ol hyn, a gwerthwyd hawl yn yr Haul i Brutus. Ymhen tua ugaln mlynedd gwnaeth Brutus drefniadau gyda Mr. Spurrell, Caerfyrddin, i argraphu yr Haul, ac ø swyddfa Mr. Spurrell y parhaodd i ddod allan am dros haner cari" mlynedd ar ol hyn. Parhaodd Brutus yn olygydd yr Haul o'i gychwyn hyd 1866, sef am 31ain mlynedd, pan y bu y golygydd athrylitbgar farw. Yna cymerodd Mr. Spurrell ei hunan yr olyglaeth, a chyn- orthwywyd ef yn benaf gan y Pareh. John Daries, B.D., (Hyivel), ficer Llanhywel, a Mr. John Rowlands (Giraldus), Ysgolfeistr, Caer- fyrddin. Anturlaeth bersonol ydoedd hyd 1885, pan y prynwyd ef gan bwyllgor o Eg- Iwyswyr ac y penodwyd Ells Wyn o Wyrfai yn olygydd, a pharhaodd yn olygydd am ddeng mlynedd, sef hyd ei farwolaeth yn 1895. Yna daeth yr olygiaeth i Dayffryn Conwy, pan y penodwyd y Parch. R. Williams, B.A., ficer Dolwyddelen yn olygydd. Gwyr darllenwyr y LLAN yn iawn am dano ef erbyn hyn, fel y llafurfawr Canon Camber-Williams, ficer Lampeter, sydd wedi gwneyd cymaint dros ei Eglwys yn y dyddiau blln hyn. Aeth ef o Ddolwyddelen yn nlwedd 1896 yn ddar- lithydd i Goleg Llanbedr, ac yma, yn 1898, fe gredaf, cychwynodd y 'Welsh Church Press Company,' a deuwyd a'r Haul i fyny yma o Gaerfyrddin, a chyehwynwyd Gyfres Newydd Llanbedr.' Mae hon yn bedwaredd gyfres i'r Haul, fe gredwn oherwydd cawn Haul Llanymddyfri, Haul Caerfyrddin, I Ail Gyfres Caerfyrddin' (1885—1898); Cyfres Newydd Llanbedr.' Os nad wyf yn iawn yn hyn, gobelthio y cywirir fi gan rywun rhag- blaen, oherwydd mae'r hanes yn ddyddorol, ac yn werth bod yn gywlr ynddo. Mae ffawd yr Haul, fel eiddo y Welsh Church Press Company, yn rhy wybyddus i aros llawer arno. Dylid, er hyny, sylwi ar lafur neilldu- ol dau, beth by nag, o'i olygwyr, sef y Canon William Williams, Jeffreston, ac yn enwedig y Canon Camber-Williams. Bydd arnaf ofn, weithiau, ein bod wedi rhedeg y gwr hwn i ormodedd fel Eglwys, Mae wedi gwneyd gwaith gwron dros ei Eglwys, tra mae can- oedd o'i gyd-glerigwyr yn disgwyl yn ddiog am ffrwyth ei lafur, gan dori allan yn awr ac eilwaith mewn gair o feirniadaeth pan yn ymestyn yn eu diogi. Bydd yn dda genyf feddwl mai un o feibion Arfon deg yw y Canon Camber-Williams, ac hefyd y Canon William Williams, ac, yn benaf oil, y dihafal Esgob Owen. Mae genym, fel Eglwyswyr Arfon, feddwl mawr o honynt. Ond dyma fi 'off the point,' onide 1 Yn ol, ynte-yr Haul a'r Canon Camber-Wil- liams. O'r diwedd, mae'r Canon dewr wedi gorfod rhoi pwys yr olygiaeth i fyny, ac mae Rheithor diflino Penmachno wedi ym- gymeryd a'r gwaith. Dyma'r olygiaeth yn ol i'r Gogledd etc, ac yn wir, yn ol i Ddyffryn swynol y Gonwy. Mae gan y golygydd newydd lawer o'i blaid—car yr Eglwys hyd at fer ei esgvrn, cir Gymru a'i Ilenyddiaeth, car ysgrifenu er erioed (mae rhai ohonom yn cofio ei Lythyr o Rydychain J yn wythnosol yn y LLAN, tua phum' mlynedd ar hugain yn ol, ac mae wedi dal i ysgrifenu byth er hyny mae yn weithiwr caled di-ildio, ac yn rhyfelwr dl-ail. Ond nis gall neb dyn byw wneyd cyfnodolyn fel yr Haul yn llwyddiant heb gynorthwy eraill. Dylai pob clerigwr Cym- reig drwy Gymru fedru rhoi un ysgrif fach wrth ei gilydd yn nghorph blwyddyn o amser. Pe gwnaent, dyna lawenydd lanwai galon y golygydd. Gallasai wed'yn bigo yn lie gorfod cymeryd rhywbeth gaiff. Ond dyma rifyn cyntaf golygiaeth y Parch. Benjamin Jones ar y bwrdd o'n blaen, ac yn wir argoela bethau gwych. Mae ysgrif amserol y Deon Roberts, Ban- gor, ar Rhai Gwersi o Hanes Dewl Sant a'i amserau' wrth gwrs, oherwydd ei phriodol- deb mewn rhifyn Mawrth, yn cael y lie blaenaf. Ysgrif dda iawn ydyw, a haedda ddarllenlad manwl. Mae Morfa yn y LLAN eisoes wedi cyfeirio at ysgrif y Parch. William Williams, caplan Esgob Bangor, ar Y Meth- odistiaid Calfinaidd a Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru,' ac at bregeth y Canon Camber- Williams yn eglwys St. Paul's, Llundain, nos- wyl Dewi Sant diweddaf, a rho iddynt gan- moliaeth uchel, ond nid rhy uehel. Mae y Parch. William Williams yn amlwg yn bwr- iadu dilyn ei fater mewn Haul dilynol, a bydd ei waith yn un o gyfraniadau pwysicaf yr Eglwys yn y ddadl boeth sydd rhyngddi a'i gelynion y dyddiau hyu. Bllyna y Pareh. Gwilym Lewis ei gyfraniadau blaenorol o'i gyfieithiad o waith y Dr. Neville Figgis, Yspryd y Puritan.' Mae Cymraeg y cyf- ieithydd yn gryf a chlasurol. Gwylied ein hanwyl gyfaill rhag myn'd i gors gis pedantry: dyna'i berygl, ond cymered yr awgrym yn garedig. Anfona Rheithor darllengar Llan- gadwaladr flaenffrwyth ei ymdriniaeth fwr- iadedig ar I Grijit Hanes.' Wrth reswm, gwelir y Golygydd ei hun drwy'r rhifyn llawn addewid hwn. 1 LLICHID.

Nodion o Lanau Tegid

Nodion o Lanau Tegid. SUL T PAsG.-Drwg iawn genym ddeall na ddarfu cymaint o honom fel Eglwyswyr gy- muno ar Sul y Pasg yn Eglwys y Bala ag arfer; nid yw hyn yn adlewyrchu yn ffafrlol, yn neillduol felly yn yr argyfwng presenol yn hanes yr Hen Fam.' Os bu adeg pryd y dylem fod yn unol, aiddgar, a phenderfynol I ddangos ein bymlyniad wrthi, hwn ydyw; ond ymddengys mai tipyn yn llipa a dl-sel, ydyw rhai o Eglwyswyr y glanau yma. Da chwi, frodyr, deffrowch a gwnewch eich rhan yn unol a'ch proffes. Gwnaeth y c6r ei waith yn ganmoladwy. Canasant ddwy anthem a'r Psalmau yn hwyliog. Ag yslyried y rhif, nid gwaith hawdd i gor bychan yw dal ati, ac weithiau nid yw yr uchel-feirniaid yn gallu cydymdeimlo a hwy. Addurnwyd yr Eglwys yn brydferth gan y boneddigesau fel arfer diolch iddynt. CURAD.Gwelaf oddiwrth y Maga.hie fod un Mr. Hughes, B.A., yn dyfod yma i wasan- aethu yn mis Mai fel Curad, Brysied yr amser. HANER CANRIF.- Y mae ein hystlyswr a'n cyd-drefwr parchus a di-sen Mr. Morris Davies, ddydd Iau nesaf, yn dathlu ei haner canrif yn ngwasanaeth Mr. Morgans, currier, ac edrycha Mr. Davies mor hoeyw a chwim el droed fel y gallai wneyd haner cant arall. Gwyn ei fyd. Mn. GORDON PRICE—Bu Mr. Gordon Price, ein hysgolfeistr a'r arweinydd corawl medrus, yn clorianu y cerddorion yn Llawrybetiws y dydd o'r blaen efe hefyd fu yn beirniadu y gan yn eisteddfod gadeiriol Eglwyswyr Llan- uwchllyn, Llun y Pasg, a chlywals ddau neu dri na roddodd wobr iddynt yn ei ganmol rhyfedd hyn, onide ? Mae gan Mr. Prioe ddull o'i eiddo ei hun i geryddu gyda geiriau tyner, a gwyr sut i gyfranu addysg y tuallan i'r ysgol nid pawb fedd y gras prin hwn. 0 GWALL.- Yn fy nodion diweddaf, rhoddais bed war 8 Lanuwchllyn fel wedi eu conffirmio yn lie cbwech. Drwg genyf amryfusedd difwriad oedd. LLWYDDO.—Bu Mr. W. Meredith, Photo- graper,' naor ffortunus ag enill ceffyl graenus a braf yn y slcooting match yn Llanbedr, ger yr Abermaw, y dydd o'r blaen. Llongyfarchir y cyfaill gan ei gyfoedion yn y Bala a'r Traws. Beth enilla nesaf, tybed ? Y FESTRI.—Cynhaliwyd y Festri flynyddol yn y Church House, pryd yr apwyntiwyd Mr. M. J. Jones yn warden y Rheithor, a Mr. D. Evans, Tremarran, yn warden y plwyfolion. Deallwn mai ychydig ddaeth at eu gilydd i'r Festri. Gwelsom daflen o'r cyfrifon am y flwyddyn ddiweddaf, a da genym wc-led ein bod rhyw ddwy bunt o'r ochr-oreu i'r clawdd. Gwelaf mai y Rheithor fu yn auditio y daflen. Pwy well, meddwch chwi 1

Advertising

ARGRAFFU RHAJi), riYFLYM, A DESTLU8 YN WYDDFA'R LLAN,"