Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. CYNWYSIAI) AM MAWRTH. Y Mis. Rhai Gwersi o Hanes Dewi Sant a'i Amserau. j Pregeth. j Yspryd y Puritan. Y Methodistaidd Calvinaldd a j Datgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. j Crist Hanes. O'r Arsyllfa. i Bwrdd y Golygydd. Manion.

Advertising

I PERL Y PLANT | CYNWTSIAD AM MAWRTH. Dadleuon Magie Jones. Darluuiau Mis Mawrib. Darlum, Profiad Henri Bach. Y Proffeswr a'r Pryfaid. [Iun). Hugh Samuel Williams (gyda Dar- f Sul y Blodau. Helyntion Caplan Llong Kyfel. Ton, Am yr Ygol Rad Sabbothol. j Yr Alarch a'i Gywion. [Wladfall Adgweiriad Eglwys i Gymry y j Cynydd yr Eglwys. Golygydd Newydd yr Haul.' Huwcyn a'r Ci. Bwrdd y Gan j Rhestr y Ffyddloniaid. Rr C6f am David Jones Thomas. Geneth yn Dychwelyd ei Thad. Beth mae'r Eglwys yn ei Wneyd. Y Pagan Bach Du. Eglwy. Hynod. j Y Paganiaid Bach Duon. Perlau y Perl.' Y Gystadleuaetb. Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Cyfarfod Amddiffynol yn Burry Port Pembrey

Cyfarfod Amddiffynol yn Burry Port, Pembrey. Nos Iau, Ebrill 3, cynhaliwyd eyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Blwyfol Burry Port, i wrthdystio yn erbyn Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, pryd y traddodwyd anerchiadaa grymus gan y Parch. J. F. Ovargue Bradley, gwelnidog Ym- neillduol o Loegr, a chan Arglwydd Esgob Tyddewi. Llywyddwyd gan Mr. R. G. Thomas, Brynhafod, yr hwn mewn araeth fer a ddangosodd mai un o brif wendidau y byd Cristionogol heddyw ydyw ei ymraniadati, a chredai y dylai pob crefyddwr brotestio yn erbyn mesur men y Llywodraeth, am y bydd- ai iddo, pe dodid ef ar ddeddf-lyfrau'r wlad, aehosi teimlad cas a gymerai ragor nag un oes i'w ddileu. Siaradodd Mr. Bradley am awr gyfan, a chafodd wrandawiad astud o'r dechreu i'r diwedd. Dywedai ei fod yn gwrthdystio yn erbyn y Mesur am ei fod yn credu yn gyd- wybodol ei fod yn gwbl groes i egwyddorion Criationogaeth. Mae dwyn oddiar yr Eglwys^ ei gwaddoliadau a'u trosglwyddo i'r Cyngor Sirol yn annheg, yn anghyfiawn, ac yn ffol- ineb o'r fath waethaf. Nid oes neb yn ameu nad oes gan y Senedd allu i wneyd hyn. Eitbr un peth yw gallu, peth arall yw hawl: foesol. Mae gan y Senedd allu i ymyraeth a phob eiddo, eiddo personol yn ogystal ag eiddo ymddiriedol, Trust property," ond ni chlywyd Ymneillduwr erioed yn dweyd y byddai yn onest ac yn deg defnyddio y gallu hwnnw i yspeilio Capel o'i waddolladau. Nid oes ond dau achos all gyfiawnhau ymyraeth ag eiddo ymddiriedol, sef (1) Fod yr eiddo yn eael ei gam-ddefnyddio. (2) Nad oes mwyach angen cyflawni y gwaith y rhoddwyd yr eiddo i'w hyrwyddo. Nid oes un o wrthwynebwyr yr Eglwys wedi llwyddo i brofi un o'r ddau gyhuddiad yna mewn perthynas i'r Eglwys. Yn hytrach, mae arweinwyr y blaid Radicalaidd wedi dwyn tystiolaeth ddiamwys i'r modd teilwng y defnyddia'r Eglwys ei gwaddoliadau, ac i'r angen cynhyddol deimlir am waddoliadau i gario ymlaen achos crefydd ymhob rhan o'r wlad. Felly onid ffolineb o'r fath waethaf a chamwedd eithafol ydyw trosglwyddo gwaddol y sefydliad crefyddol hynaf yn Nghymru, tuag at aehosion bydol ? Pa ddyn yn ei synwyrau fedrai fod mor gibddall ag ymresymu y deilliai Iles moesol ac ysprydol i werin Cymru, trwy ymddiried gwaddol y eyssegr i'r Cyngor Sirol. Fel Rhyddfrydwr, fel Ymneillduwr ac fel un sydd yn credu yn eg- wyddorion mawr crefydd Crist yr oedd ef yn apelio at ei frodyr Ymneillduol i ystyried yn ddifrifol gamwedd a clweulonder y Meisurl cyn caniatau iddo ysbeilio yr Eglwys, niweid- lo crefydd, a halogi enw da Rhyddfrydwyr eln gwlad. Dywedodd Arglwydd Esgob Ty Ddewi mai hwn oedd y cyfarfod cyntaf iddo ef anerch yn Nghymru wedi i Dy yr Arglwyddi wrthod Mesur McKenqa. A dymunai ymdrin a phedwar o bethau parthed y sefyllfa bresenol. (1) Paham y darfu i Dy yr Arglwyddi wrthod y Mesur 1 (2) A ydyw barn y werin o blaid y Mesud (3) Beth yw y rhagolygon? (4) Beth yw dyledswydd Eglwyawyr ac Ymneill- duwyr a gredant fod y Mesur yn anghyfiawn? Gwrthodwyd y Mesur gan Dy yr Arglwyddi am fod y Parliament Act' wedi gosod ainynt y ddyledswydd o wrthod pob mesur pwysig nad oedd wedi derbyn cefnogaeth ddiamwys y werin. Mae y Mesur yn un pwysig, oblegid y mae yn tori y cysylltlad henafol sydd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, y mae yn rhwygo corff yr Eglwys, a hyny yn groes i twyllys ei haelodau, ac y mae yn yspeilio yr Eglwys o'i gwaddoliadau, a hyny mewn adeg pan y mae pob eorph cre- fyddol yn gruddfan oblegid prinder gwaddol- iadau. Felly ni wnaeth Ty yr Arglwyddi wrth wrthod y Mesur ond cyflawni ei ddyled- swydd trwy roddi cyfleustra i'r werin ddatgan eu barn arno. Yr oedd yn berffaith amlwg yn Nhy y Cyffredin nad oedd barn y werin o blaid y Mesur. Syrthiodd mwyafrif y Llywodraeth fwy nag unwaith islaw haner ei nerth arferol. Pedair gwaith yn y ty achub- wyd y Mesur gan bleidleisiau y Gwyddelod. Hefyd mae etholiadau lleol wedi profi nad yw y werin o blaid y Mesur. Felly hefyd y tyst-

Cyfarfod Amddiffynol yn Burry Port Pembrey

iolaetha cyfarfodydd cyhoeddu3. Dros y wlad yn gyffredinol cynhelir cyfarfodydd mawrion a brwdfrydig i wrthdystio yn erbyn y mesur, tra mae pob ymgais o eiddo el bleidwyr i greu brwdfrydedd yn erbyn yr Eglwys wedi trol yn fethiant. Ceir hefyd dystiolaeth eglur y petitions. Danfonwyd dr08 fir 0 honYllt yn erbyn y Mesur, ac yr oeddynt wedi eu arwyddnodi gan o leiaf un rhan o dair o'r beblogaeth yn Ngbymru. Pan ddaeth Lloyd George i Gaernarfon I siarad o blaid y Mesur, bu yn ddigon call i droi ffrwd ei hyawdledd i gyfeiriad cwestiwn y Sir. P'am 1 Am ei fod yw gwybod fod gwerin Cymru wedi laru ar gelwyddau am yr Hen Fam, ac yn cyflym ddeffro i sylweddoli mai ffrwyth dychymyg ydyw y ffeithlau ar ba rai y sefydlir cri y Dad- gysylltwyr. Dywed E Jones, Caernarfon, fod Dr. Cynddylan Jones yn adwaen pob modfedd o ( Gymru yn well na'r un gwelnidog Cymraeg arall, ac y mae Dr. Cynddylan wedi bod yn ddigon gwrol i gyhoeddi nad yw Cymry o blaid trosglwyddo eiddo cysegredig at achos- Ion bydol. Ategwyd barn Dr. Cynddylan gan y Parch. G. Ceidiog Roberts, gweinidog Ymneillduol blaenllaw yn Ngogledd Cymru. Mewn gair, ceir profion diamheuol o bob rhan o'r wlad nad yw Mesur y Llywodraeth yn cael ei gefnogi gan y werin. Beth am y rhagolygon ? Nid oedd ef (yr Esgob) yn credu y byddai Prif Weinidog Prydain Fawr mor ffol a gosod mesur mor anmhoblogaidd ar ddeddflyfrau'r wlad heb yn gyntaf ei gyflwyno i farn y werin mewn etholiad cyffredinol. Mae yn rhy fuan i bleidwyr y Mesur ymffrostio. Cymer llawer o ddigwyddiadau le. yn ystod deuddeg mis, ac ond i Eglwyswyr Cymru barhau i welthio a'u holl egni yn erbyn y Mesur, gallant fentro gofyn i'w gwrthwynebwyr dderbyn awgrym eu harweinydd, I IVa?'t and see.' Onid yw yn bosibl fod achos teilwng yn allu cryfach na phedwar ugain o bleidlelslau Gwyddelig. Y cwestiwn pwysig yw, nid beth yw y rhagolygon, ond beth sydd lawn. O. yw Eglwyswyr wedi eu hargyhoeddi fod y Mesur yn tori ar draws egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth, yna boed iddynt gyflawni eu dyledswyddau yn wrol heb golli amser i bryderu ynghylch y canlyniadau. Siaradodd ei arglwyddiaeth am drosawr o amser, ac yr oedd ei araeth fel arferol yn llawn hyd yr ymylon o ffeithiau yn dangos yr hyn a amcenir ei gyflawni. Er fod y cwrdd yn faith, ni wel- wyd yr arwydd lleiaf fod neb yn blino. Yr oedd ein brodyr Ymneillduol, gwyr lien a lleyg, yn gwrando fel Methodistiaid mewn Sasiwn ddeg o'r gloch, a gobeithiwn fod y gwirioneddau dielthr a ddisgynodd ar eu clustiau wedi suddo yn ddwfn yn eu cyd- wybodau. Pasiwyd cynygiad yn protestio yn erbyn y Mesur ynghanol banllefau o gymeradwyaeth, a diweddwyd y cwrdd ar ol canu emyn trwy i'r Esgob ddatgan y Fendith

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" IS LARJGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. QO/- per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lam peter.

Clebar y Clwb

Clebar y Clwb. (GAX Y PARCH. JAMES H. JENKINS, RHEITHOR CIURHEDTN.) DEWIS CLERC USTUSIAID. CYMERIADAU. Scweier Big Wig. Cadeirydd y Fainc. Mr. Trwmbwrs, ) v Mr. Die Shon Dafydd, j Ynadon" Mr. Fillgap. Ysgrifenydd Cyfamserol. Golygfa. Y stafell yr Ustusiaid. Wedi darllen cof- nodion y cyfarfod blaenorol, Scweier Big Wig yn siarad :— S.B.W. Fy mrodyr hoff, o'r nn urddasol fainc, Cyn dechre ar bwysicaf waith y dydd 0 ddewis dyn a fedr lanw'r swydd 0 ysgrifenydd sydd yn awr yn wag, Gwyn fyd nad allech weled fy nghalon friw Sy'n gwaedu'n drist wrth ganfod dros y wlad, Y Llysdai wasanaethir heddyw gan Frodorion yn eu gorohfygedig dir, A gwelir mor anniwall yw eu rhaib Pan ddringo wnant i feinciau Llandain fawr, Deheuig ddigon ydynt, eithaf gwir, Ond nid yw hyn ond troi y drwg yn waeth, A pheri'n brodyr o'r tu draw i'r Clawdd I golli golwg ar fwganod lu Ddyfeisiwyd genym lawer blwyddyn hir, Y ni sy'n adwaen yr afrywiog Gelt, Sugna wrthryfel gyda llaeth ei fam, Ac, yn ol natur, pethau nis gall fod Yn iTrind i'r cyfansoddiad, trefn a deddf, A phe b'ai ganddo o ystyriaeth radd, Fe ddylai wybod fod ei le i lawr, Ond gwelwch mor ddi-ddiolch yw y gwaloh Wrth ei awyddfryd daer i droi ei gefn Ar fan lie bu cyhyd. Mr. Die Shon Dafydd :— Ardderehog, wir, Yw'r geiriau a lefarwyd gan ein Chief, y I Ac er fy mod yn Welshman of the Welsh, Mae'n rhaid i ni, o barch i'r Union Jack, Glust-nodi swydd fel hon i'r Englishman, For ever and a day. Mr. Trwmbwrs Da genyf fi Ein bod am gadw at y llwybr cul Gysegrwyd gan arferion oesau gynt, Pe gwyrem oddiwrth y rhaglen hon Drwgdybid ni ar unwaith gan ein gwell 0 gydymdeimlo i'r werlnos dlawd. Fy enaid, gwel y gwarthrudd dwfn o hyn, Ac arbed ni rhag syrthio i'r fath gam. Edrychid arnom fel bradychwyr ffol Werthasant uchel draddodiadau'r Llys Gan dynu ar ei hanes yr ystaen O'r gwastrafi mwyaf ofer fu erioed, Pa alwad sydd am ddangos gofal dwys, Cyfiawnder, addysg gain a chwareu teg, Daliadau eangfrydig, telmlad da Ag adnabyddlaeth lwyr o lafar gwlad Wrth drafod haid o Gymry? Scweier Big Wig :— Un cals sydd ger ein bron, Ffaith werthfawrogir gan bob carwr hedd, Oblegyd gwyddom oil po amlaf fydd Y cystadleuwyr am ryw swydd fel hon Mwyaf i gyd yw y teimladau cas A ddygir i'r drafodaeth. 'Nawr gwrandewch: Mr. Fillgap yn darllen :— Soft Crib, Hunting Ledge, All Fool's Day, 1913. Gentlemen, I have great pleasure in forwarding you the copy of the resolution passed last night by the John Bull Administration Society thanking you for your courage and wisdom in keeping those wretched Welshmen in their places. For the vacant post I have every confidence in recommending my dear son, who is, like magenta pills, quite English in every respect. He is also a real gentleman. He does nothing on Mondays, Tuesdays, and Wednesdays. For a handsome salaary he is prepared to do the same for you on the re- maining days of the week, provided he can have Sunday for a game of golf. Trusting you will remember him, I have the honour to remain, Gentlemen, Your obedient servant, ALGERNON" LOOK OUT. Mr. Dic Shon Dafydd :— Mae'r enw'n ddigon i arddangos class A phwy sy'n berchen ar well confidence Na'i dad ei hut) ? 'Rwy'n cynyg Young Look Out.' Mr. Trwmbwrs :— A minau yn ei ellio. Scweier Big Wig Pob un sydd dros y cynyg ? Pawb o'i du I 0 galon llongyfarchaf chwi ar hyn, Nid oes amheuaeth nad yw'r peth yn lawn, Y rheol euraidd yw pan fydd y dorf Yn dysgwyl le ei harweinwyr doeth Rhaid ateb Nage mewn egluraf lais A phan ddisgwylia am y Nage fwyn Ei siomi ddylid gydag Ie gref. Swn dyeithr yn cyraedd yr ystafell. Parti o alcanwyr yn cauu o'r tu allan:- Dan orchudd dirgelwch, 0, clywch mor ddi- grap Mae'r gwaddod mewn cynghor yn traethu, A'u deall mor fyohan a'r Twrc neu y Jap O'r bobl maent wasanaethu. Goroeswyr ffosilaidd o ddyddiau y trais, Gwell ganddynt na dim ein difodi, Prif goron eu credo yw rhagfarn y Sais I gadw y Cymro heb godi. Fel ysgub y Dawe wrth gwrdd ar ei thaith Fan rwystrau heb arwydd o ddial, O'r gorthrwm gwna'r cenllif gwerinol byr waith, A syber cael gwared ysbwriel. Mr. Die Shon Dafydd, mewn ton frawychus: Fillgap, shut that ffenast, cwic.

LLANDUDNO

LLANDUDNO. CYMDEITHAH Y BRYTHONIAID.—Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf y tymor ynglyn a'r gym- deithas hon yn Eglwys Si. Sior ar yr cilfed or mis hwn. Etholwyd y Parch. E. Lumley i'r gadair, a chaed anerchiad rhagorol ar destyn dyddorol, sef hanes Diwygiad Eglwys- ig y ganrif ddiweddaf. Diolchwyd i'r rheithor, y Parch. Ll. R. Hughes, M.A., am anerchiad ysplenydd. Wedi hyn penodwyd rhai pethau at y tymor nesaf. Dylwn ddweyd fod cyf- arfodydd y tymor hwn wedi bod yn llwydd- ianus dros ben, ac yn ol pob tebygrwydd, fe fyddant yn llwyddianus y tymor nesaf.

Advertising

ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLcS YN SWYDDFA'R LLAN."

Llosgi Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys Gymreig

Llosgi Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys Gymreig. GOLYGFEYDD RHYFEDDOL YN NGOGLEDD CYMRU. RHEITHOR YN EGLURO EI AMCAN. Dlsgwylid gan lawer y ceid golygfeydd cyffrous yn Newmarket, Sir Fflint, nos Sul diweddtf, ond camgymerodd llawer yr awr ar yr hon y byddai i'r Parch. S. A. Jones, rheithor, gario allan ei addewid i losgi y Mesur Dadgysylltiol Cymreig. Credid y gwneid hyn ar ol y gwasanaeth hwyrol, a theithiodd llawer o bobl yno erbyn wyth o'r glecb, pan gawsant fod y digwyddiad wedi cymeryd lie. Gwyddai pentrefwyr New- market beth oedd i ddigwydd, gan fod y Rheithor wedi darllen y rhybudd canlynol o'r pwlpud :— Gwahoddir yr holl Eglwyswyr i'm cyfarfod ar rodfa y Rheithordy am chwech o'r gloch heno. Yn y mater hwn yr wyf yn uwylaw Duw. Gall glowyr Ffynongroew fy lladd i. Gwn na wna pobl Newmarket hyny. Bydd i mi fyned i lawr i Ffynongroew unrhyw adeg y dymuna y glowyr hyny, a gallant ymddwyn tuag ataf fel y dymun- ant. Ymhell cyn chwech o'r gloch, cyrhaeddodd yr Eglwyswyr, a gwnaetb dirprwy brif- gwnstabl Sir Fflint ei ymddangosiad gyda phedwar o heddgeidwaid, ond nid oedd angen am eu gwasanaeth. Canodd cloch yr eglwys yn galw f bobl i'r gwasanaeth hwyrol, ae yn fuan wedi chwech e'r gloch ymddangosodd y rheithor, yn gwisgo ei wenwisg, yn cael ei ddilyn gan ei wraig a swyddog Eglwysig. Cariai y mesur yn hongian wrth ffon, a rhoddwyd y mesur ar dan gyda matsen. Fel y Ilosgai y mesur, cariodd y rheithor ef tua'r llidiart, lie yr oedd tyrfa wedi ymgynull. Edrychai y rheithor yn llwyd ei wedd, oni yn hollol dawel. Gan osod y mesur llosgedig ar y ddaear, penliniodd efe a'i wraig, a gweddiodd efe fel y canlyn Yr ydym yn dyfod o'th flaen y nos hon, gan ddwys edifarhau am ein holl bechodau. Nid oes neb i'w feio ond myfi fy hunan. Os pechod yw hyn, maddeu i mi, a phar fod i hyn losgi pob gwabaniaetb sydd rhwng Cristionogion a'u gilydd Megis yr ydym yn un yn Newmarket, pir Di ein bod yn un drwy holl Gymru. Pa un ai trwylr Senedd, ai trwy guiad, neu trwy ryw ffordd arali, pAr Di ein bod yn un. Edrych arnom, 0 Dad, a maddeu i ni ein pechodau, y rhai sin dduon, fel y mae'r acbos hwn o elyniaeth a orwedda ar y llawr yn ddu. Yr oedd llawer o'r dyrfa yn ben-noetb, Anghydffurfwyr yn gyetal ag Eglwyswyr. Gwyliodd y Rheithor y gwreichion o'r mesur yn diffodd, a chan gyfodi gyda'i wraig, cerddasant at y llidiart yn arwain o'r rheith- ordy. Ymgiliodd y dyrfa yn weddaidd a thawel, ac aeth y rheithor a'i wraig i'r eglwys, yn cael eu dilyn gan aelodau y gynulleidfa. GWRTHDYSTIAD ANGHYDFFURFIOL. Ymddangosaiydyrfaynawyddusi ddilyn,ond ar y funyd clywid canu yr emyn 'Marchog lesu yn llwyddianus,' a chanfyddic1 nifer o Anghyd- ffurfwyr yn gorymdeithio ar y brif-ffordd, pellder o gan' Hath. Yna rhuthrwyd i'r ftorda. Y cantorion oeddynt aelodau y capel Annibynol, y rhai ddaethent o'r capel. Ym- ffurfiasant yn gylch, a chynygiodd eu gweini- dog, y Parch. S. Thomas, benderfyniad i'r perwyl fod Anghydffurfwyr Newmarket yn gwrthdystio yn erbyn gwaith y Rheithor yn Uosgi y Mesur Cymreig ar ddydd oedd yn gysegredlg i bawb, ac yn erbyn argyhoedd- iadau crefyddol Anghydffurfwyr. Eiliwyd gan Mr. Ellis Jones, Dinbych, yr hwn ddywedodd ei bod yn gywilyddus fod cynrychiolydd yr Eglwys gyfoethocaf yn gwueyd y fath beth ar y Sul. Pasiwyd y penderfyniad. Ymadawodd y dyrfa, ond ymddygasant yn weddaidd. Gwelid liawer o lanciau yn myned tua Newmarket yn ddiweddarach yn yr hwyr. Yn y gwasanaeth hwyrol yn yr eg- lwys, yr oedd cynulleidfa fawr yn bresenol. Yr oedd y Rheithor wedi bwriadu Ilosgi y Mesur gerllaw Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain, nos lau (neithiwr), ond rhoddwyd y bwriau heibio.

Advertising

ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTL^a YN SWYDDFA'R LLAN."