Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

1 ♦ i YR HAUL. CYNWYSIAD AM MAWRTH. Y Mis. Rhai Gwersi o Hanes Dewi Sant a'i Amserau. Pregeth. Yspryd y Puritan. Y Methodistaidd Calvinaidd a Datgysylltiad yr Eglwys yn Ngbymru. Crist Hanes. O'r Arsyllfa, i Bwrdd y Golygydd. Man ion. <

Advertising

PERL Y PLÅT < CVNWrSIAD AM MAWRTH. j Dadleuon Magie Jones. Darluniftu Mi Mawrth. Darluim, Proifad Henri Bach. Y Proffeswr a'r Pryfaid- [lun). Hugh Samuel Williams (gyda Dar. Sul y Blodau. Heiyntion Caplan Llong Ryfel. Ton, Am yr Yegol Bad Sabbothol. Yr Alarch a'i Gywion. [Wladfiix < Adgweiriad Eglwys i Gymry y Cynydd yr Eglwyp. Golygydd Newydd yr Haul." Huwcyn a'r Ci. Bwrdd y Gan Rhestr y Ft'yddloniaid. Er Cot am David Jones Thomas. Geneth yn Dychwelyd ei Thad. Beth mae'r Eglwvs ya ei Wneyd. Y Pagan Bach Du. Eglwys Hynod. j V Paganiaid Bach Duon. Perlau y Perl.' Y Gyatadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Cynhadledd Fawr Llandudno ai Harwyddair Sursum Corda i

Cynhadledd Fawr Llandudno a'i Harwyddair "Sursum Corda." i (Gan NORTHMAN.) I Anhawdd iawn yw cael dim byd newydd yn y dyddiau hyn. Ond am y Gynhadledd uchod gellir yn gywir ddywedyd 'Wele beth newydd.' A'r newydu-beth oedd fod dwy es- gobaeth, sef Bangor a Llanelwy, yn uno ynghyd mewn un gynhadledd. Mae yn debyg na ddigwyddodd hyn erioed o'r blaen, ond yr wyf yn credu fy mod yn datgan dy- muniad bron yr oil oedd yn bresenol, wrth ddymuno cael cynhadledd gyffelyb yn fuan eto. Yr oedd grym yn cael ei ycbwanegu at .y gynhadledd. Beth pe cyfarfyddem yn Rhyl y flwyddyn nesaf ? Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn bwysig a hanesyddol yn mywyd yr Eglwys, os na ddaw ymwared buan o'r Orsedd fry. Bydd angen ar yr Eg- lwys am farn a phrofiad pwyllog ei dynion goreu yn yr argyfwng hwnw. Ond yn ol at Gynhadledd eleni. Cynhal- iwyd hi yn Llandudno, Ebrill 9fed a'r lOfed. a bu'r tywydd yn gwenu yn garedig drosti. Cynhadledd a drefnwyd ar frys ydoedd ni chlywsom y rheswm droa y prysurdeb ond dlau fod rheswm digonol pe buasem yn ei wybod. Yr oedd olion pryaurdeb ar rai o'r trefniadau, ond ar y cyfan yi oedd y pwyll- gor lleol, gyda'r rheithor, Parch. Ll. R. Hughes, yn gadeirydd, a Mr. R. Roberts, (leu.) Aldworth, yn ysgrifenyad, wedi gweith- io yn dra llwyddianus, ac mae pobl Llandud- no i'w mawr ganmol am eu croesaw calonog. Nos Fercher, cynhallwyd dau wasanaeth, un yn Saesneg yn Holy Trinity, a'r Hall yn Gymraeg yn St. George's, ac yr oedd y ddwy Eglwys fawr ac eang yn llawn. Carasem yn fawr pe buasai yn bosibl bod yn bresenol yn y ddau wasaoaeth, ond gan fod y ddau ar yr un awr, rhaid oedd dewis, a dewisasom fyned i Trinity. Cafwyd yma wasanaeth ardderch- og, y Rheithor a'r Parch. T. Redfern, Din- bycb, yn arwain, a'r llithiau yn cael eu dar- llen gan yr Archddiacon Lloyd Jones, a Deon Bangor. Y pregethwr arbenig oedd yr Es- gob Bernard, Ossory, Iwerddon, un o ysgol- heigion Groegaidd penaf y byd. Dyn tal, hardd yr olwg, a golwg y myfyriwr ai bob modfedd o hono. Ei destun oedd Psalm xlviii. 8, Dinas Arglwydd y lluoedd,' ac yr oedd y bregeth fel y canlyn -Dymar, teitl anrhydeddus a roddodd perganiedydd Israel i'r ddinas a ystyriai'r genedl fel ei phrif ogoniant—' dinas Arglwydd y lluoedd, dinas ein Duw ni.' Yn ei gyfrif ef, dim llai na hyu oedd Jerusalem, a hyn oedd yr enw uchaf fedrai efe roddi iddi. A thrwy boll Lyfr y Salmau, lie y rhoddir y mynegiant perffeith- iaf i ddelfrydau uchaf y dinesydd Hebreig, y mae'r meddwl hwn yn ymddangos drachefn a thrachefn. I'r Iuddew, nid oedd un ddadl nad braint benaf eL bobl oedd eu crefydd gen- edlaethol-nid oedd dadl nad o'r grefydd genedlaethol y ffynonellai yr holl bethau goreu yn mywyd y genedl. Deuai'r Eglwys o flaen y wladwriaeth o ran trefn eu codiad. Trwyddi hi y gwnaethpwyd y wladwriaeth. Prophwydi ac offeiriaid oedd eu gwladwein- wyr mwyaf. Ar fynyddoedd sanctaidd yr oedd y seiliau a'r arwyddlun amlwg i'r holl fyd o'r undeb hwn a Ddwyfol drefnwyd rhwng y wladwriaeth a'r Eglwys oedd y Demi a gyfodasid ar gaerfa Seion, canolfan eu haddoliad cenedlaethol. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear oedd mynydd Seion, oblegid Duw yn ei phalasau a ad- waenid yn amddiffynfa. Nid ei chyfoeth, nid ei buddugoliaethau oedd coron a gogoniant Jerusalem, ond hyn, ei bod, er iddi bechu a methu o lawer a chyraedd y nod uchel a osodwyd o'i blaen, eto yn Ddinas Arglwydd y lluoedd. Nid fod braint ac enw yr Eglwys yn deilliaw oddiwrth y Wladwriaeth. Ni ddaeth y fath syniad i feddwl luddew. Yr hyn a olygir yw, fod y Wladwriaeth yn der- byn ei hysbrydoliaeth rnhaf oddiwrth yr Eg lwys, yr hon, hefyd, a wnaeth y Wladwr- iaeth yr hyn ydyw erbyn hyn. Frcdyr yn Nghrist-aelodau o Eglwys henafol Cymru, buasai'n anheilwng o'r lie sanctaidd hwn, buasai'n ddarostyngiad ar y pwlpud Cristionogol, buasai'n anweddus i a ddyeithrddyn, er yn gyfaill, pe y siaradwn wrthych chwi heno ynghylch y manteision tymhorol a ddeilliant o'r cysylltiad agos sydd wedi bod am gynifer oes yn y Dywysogaeth rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ond y mae un peth yn meddwl pawb ohonom- fedrwa ni ddim dianc rbagddo-sef y perygl sydd yn bygwth defnyddioldeb ysbrydol Eglwys Cymru, y pwnc a"Il dygodd chwi ynghyd i ymgynghori. Cenhadaetb ysbrydol yr Eglwys yw'r pwnc a fyn y lie blaenaf yn ein meddyliau fel y codwn oddiar ein gliniau —cenhadaeth ysbrydol yr Eglwys at y genedl pcrygl i'r genedl o wanbau apel yr Eglwys ati, y perygl i grefydd—y grefydd Gristionogol wyf yn feddwl—sy'n cael ei fygwth trwy hysbyddu adnoddau'r Eglwys, neu gyfyngu maes ei gweithrediadau, a rhyddld ei gweinyddiad o weinidogaeth y gair ac o'r Sacramentau i bobl Cymru. Pa beth wyf yn feddwl wrth berygl i'r i'r genedl ? Yn hyn, ysywaeth, yr wyf yn siarad am yr hyn a wn ac a welais. Y mae'r rhai sydd yn siarad yn ysgafn am wahanu'r Eglwys a'r Wladwriaeth oddiwrth eugilydd ychydig, diolch i Dduw, sydd yn siarad yn ysgafn am dano, ond y mae rhai yn anghofio yr ysbeilir y genedl trwy'r fath wahaniad o'r unig foddion iddi allu siarad ag un llais wrth Dduw. Heb rwymyn rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, anodd fydd trefnu i gysegru gweithredoedd cyboeddus y Wladwriaeth trwy weddi a mawl unedig. Goddefer i mi roddi un engraiftt o'r anhawster Cymerodd y rban fwyaf o honom ran yn y gorfoledd a'r gweddiau ar y prydiau y coronwyd dan frenin, Edward VII. a George V., Duw a'u cad\o Yr oeddem ni, Eglwyswyr yn y Werddon yn teimlo yr un ffunud a chwithau pan oedd y petbau pwysig hyn yn uwchaf yn meddyliau dynion trwy yr holl Ymherodraeth Dymunasem gael gwasanaeth ymbiliadol mawr i santeiddio dydd y Coronlad, gwasan- aeth ag y gallai Gwyddelod teyrngarol bawb ymuno ynddo. Ond ni allai hyny fod. Cadwodd Pabyddion a Henaduriaid draw-ni ddywedaf air i'w beio—o'n gwasanaeth ardderchog yn hen Eglwys Gadeiriol St. Padrig. Fedrem ni ddim cymaint a dweyd ein gweddiau gyda'n gilyddd dros y Brenin. Yn Mynachlog fawr Westminster penliniodd ei ddeilliaid o bob gwlad ac o bob corff crefyddol ynghyd i ofyn bendith ar y Brenin oidiwrth yr un Duw a Thad hwnw a addolent hwy oil fel eu gilydd yn Nghrist lesu ein Harglwydd. Ond yn ol pob tebyg rhaid dileu hyn a phob gwarogaetb gyhoeddus o'r fath i Frenin y Brenhinoedd, os na wna'r Wladwr- iaeth gydnabod yr Eglwys Genedlaethol ymhellach. A oes unrhyw ddyn difrifol a ddeil fod y fath broffes gyhoeddus o gred yn Nuw ein Tad ni oil, a Christ a'n prynodd ni oil, yn ddiwerth i gyfranu bendith i'r boll wlad, neu yn treisio unrhyw egwyddor o oddefiad crefyddol ? Tybia dynion y bydd Datgysylltiad yn foddion i sicrhau cydraddoldeb crefyddol- dyna'r ymadrodd poblogaidd. Gwir y bydd cydraddoldeb o ryw ffasiwn, ond pa ffasiwn fydd hono, a pha bris fydd raid dalu am dani 1 Y pris fydd symnd pob cydnabydd- iaeth o grefydd o fywyd y genedt, a dysgu'r bobl nad yw crefydd Crist ond math o attodiad neu ychwanegiad at ddeddfau ym- ddygiad, yn lie bod yn llygad ffyuon pob peth sydd uchaf a goreu yn ein plith. Yr wyf fi yn dyfod o wlad lie nad oes crefydd wladol. Y mae oblegid hyny yn wlad lie nad oes i'r genedl, fel cenedl, er ei bod yn genedl grefyddol, un cyfle i offrwm ei gweddiau cenedlaethol. Caniatiied Duw na chaffo'r drwg hwn ddim goddiweddyd eich gwlad chwi, a phared i seiliau yr hyn oil sydd oreu ym mywyd Cymru barhau i orphwys, fel yn y dyddiau fu, ar fynyddoedd sanctaidd mynyddoedd sanctaidd eich oysegroedd cenedlaethol, He y dysgodd Cymry'r oesau gynt addoli Duw yng Nghrist. A pha fodd yr effeithid ar genhadaeth ysbrydol yr Eglwys at bersonau unigol drwy wahanu yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth a difrodi ei hadnoddou ? Ei chenhadaeth ysbrydol, rieddaf ni fynaf son yn awr am ei safle a'i breintiau bydol. A barnu eto am yr hyn ellir ddisgwyl yng Nghymrn oddiwrth brofiad y deugain mlynedd diweddaf yn y Werddon, digon tebyg mai yr hyn a gynyrehai y cyfnewidiad mwyaf yn niwefti- iadau gwaith yr Eglwys yw y lleihad bron anocheladwy a gymerai le yn nifer ei hoffeiriaid. Yn fy Esgobaeth i-Esgobaeth wledig dlawd, gyda phlwyfi gwledig tra eang, ac heb drefydd mawrion, o angenrheidrwydd lleihaodd nifer yr offeiriaid fwy nag nn rhan o dair. Yn 1871, yr oedd genym 213 o offeiriaid plwyfol; yn 1911, nid oedd genym 'ond 12>. Nid oes mo'r help am hyny, gan nad oes genym y modd i gynal rhagor. Mae'n wir na fu lleihad nifer gweinidogion yr Eglwys a 0 fel hyn ddim yn achos o niwed alaethus i ni am y rbeswm pruddaidd fod poblogaeth y Werddon. yn gyffredinol, ac, i raddau llai, poblogaeth yr Eglwys yn neillduol, wedi lleihau yn barhaus er y pryd hwnw. Yn 1871 yr oedd oddeutu 30,000 o Eglwyswyr yn fy Esgobaeth i: yn awr nid oes yno 20,000. Y mae'n beth a anghofir yn fynych, pan wneir ymgais i gymharu yr amgylchiadau, nad oes un tebygrwydd rfeyngddynt, yn y Werddon a Chymru, y buasai nifer yr offeir- iaid fedr ein Heglwys ddadfwfydledig ni gynal yn hollol anigonol i weini i'n pobl, oni buasai am leihad y boblogaeth trwy ymfudiad. Y mae lliaws o'n pobl dlotaf-pobl na fedrent gyfranu dim byd sylweddol at gynal yr Eolwys-wedi ymfudo, ac feUy ni osodwyd arnom y baicb-baich ag yr ymdrechwn ei ddwyn yn liawen-o weini iddynt hwy. Er hyny, hyd yn oed fel y mae pethau yn awr, y mae nifer ein hoffeiriaid yn y parthau gwled- ig mewn rhai manau yn anigonol: y mae'r rhandiroedd a wasanaethant yn rhy eang ond i ddynion ieuainc a chryfion ac y mae pell- der rhai ffermydd o'r Eglwys agosaf yn ei wneyd yn anodd iawn i'r oedranus a'r gwan fynychu'r addoliad cyhoeddus fel y buasem yn dymuno. Yr ydym yn diolch i Dduw ein bod wedi gallu cadw yr hen blwyfi trwy en huno, fel nad oes erw o dir yn y Werddon heb fod rhyw offeiriad yn gyfrifol am dano. Diolchwn am yr haelioni a ddangosodd ein haelodau yn ngwyneb ygalwadau arnynt. Diolchwn am ffyddlondeb ein hoffeiriaid. Ond ni allwn lai na gweled, pe buasai genym i ymwneyd a phoblogaeth gynyddol o bobl dlodion, y bu- j asem yn analluog i gyflenwi gweiniadau'r Eglwys iddynt mor gyflawn ag y dylem. Fel y saif pethau yn awr, y mae arnom angen llawer yn ychwaneg o offeiriaid mewn lleoedd j poblog, fel dinas Belfast. Nid yr un yw eich amgylchiadan a'r eiddom ni. Byddai gorchwyl yr Eglwys yn Nghymru, pe dad waddolid hi, yn un llawer anhawddach na'n gorchwyl ni yn yr I 'Werddon. Nid ydwyf, dalier sylw eto, yn siarad am safle a braint—y peth sydd yn fy meddwl yw'r anhawsder gwir ddifrifol i sicr- hau i'r tlodion weinyddiad o'r Gair a'r sacra- mentau. A siarad yn ddynol, rhaid i effeith-j iolrwydd ysbrydol eglwys gael ei anmharu, os na fedr sicrhau gwasmaeth nifer digonoi oj offeiriaid i weini yn rheolaidd i'w holl bobl yn ol angen pob un. Rhwystrau o'r fath hyn i effeithiolrwydd ysbrydol yw y rhai y gweddi.wn ni, eich brodyr yn yr Iwerddon, am i chwi gael eich gwaredu rhagddynt. Am y rheswm ein bod yn gweled y perygliti ar y llwybr a nodir allan i chwi gan rai i'w gerdded y gobeithiwn ni na fydd byth orfod arnoeh ei ddilyn. Trist, yn wir, a fuasai, pe na eUid darparu i ddinasyddiaeth Dinas Ar- glwydd y lluoedd foi yn rhydd ac yn agored i'r tlotaf o'r tlodion. Dinas Arglwydd y lluoedd Nid dinasydd- iaeth ddistadl mo honi, a phan oedd Jerusa- lem yn ei bri, nid ag ysbryd anewyllysgar y cynygid hi. Fel yr edrychai ysgrifenwyr y Salmau i'r dyfodol, yr hyn a welent ydoedd dinas yn cyuwys dynion o bob dosbarth a thueddfryd yn cyfranogi o'i breintiau. Am Siou y dywedir, y gwr a'r gwr a anwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha lii. Ac y mae Sion yn golygu Eglwys cenedl Israel- y dymer i fod mor hynaws, y fynwes ddigon eang i gofleidio plant o gynifer gradd, y galon i guro gyda chynifer meddwl ac awyddfcyd- dyma nodweddion Eglwys Genedlaethol. A ellwch chwi gael y rhain os peidia'r Eglwys fod, a hawlio bod, yn genedlaethol 1 Nid oes un Eglwyswr, ac yn bendifaddeu, nid oes un a berthyn i Eglwys a chanddi allu i wneuthur deddfau i'w haetodau ei hun, a dybial yn fach o fauteision y rhyddid i ddedd- fu a geir trwy wahanu'r Eglwys oddi wrth y Wladwriaeth. Y mae'n werth talu cryn bris am dano. Ond y mae profiad yn ein dysgu via cheir ef ond am bris mawr iawn. Un o nodweddion godidooaf Eglwys Loegr ydyw el bod mor eang a chynwysfawr. Da fyddai cofio na ellid dim cadw'r nodwedd yna i'r un graddau ag yn awr pe peldiai'r Eglwys gael ei chydnabod fel y cyfrwng i ddatgan dy- headau ysbrydol y genedl oil. Dywedodd y dyn mawr a doeth hwnw, Archesgob Temple, lawer o tlynyddoedd yn ol Y mae'r cysyll- tiad a'r Wladwriaeth yn gorfodi'r fath fesur o oddefgarweh ag nad ellid ei sicrhau heb hyny.' Y mae profiad yn gwirio'r sylw yua. Y mae rhwymau disgyblaeth Eglwysig yn Bier o angenrheidrwydd o fod yn dynach pan lunir hwy gan yr Eglwys ei hun er ei diogelwch ei hun na phan raid eu hanfon i'w hadolygli gan Gynghor y genedL Ac os dymuna Eglwys y Wlad hon barhau yn a gartref ysbrydol dynion o wahanol fryd, 0 tymer, a dybead-dynion yn cytuno o ran athrawiaethan sylfaenol eu cHd, ond yn gwahaniaethu yn fawr ynghylch y modd goreu i gymhwyso'r athrawiaethau ermagwr- aeth bersonol yr enaid, ac yn defnyddio rhyw gymaint o ryddid i ddewis yn ol eu dymuniad ffurfiau allanol eu haddoliad pan ddynesant i wyddfod y B61 Tragwyddol-os dymuna'r Eglwys hyn, yna nid hawdd y boddlona i dori'r cysylltiad rhyngddi a'r waldwriaath. Cyfyngu ei therfynau yw rhan o'r pris raid iddi dalu os byth y daw'r dydd iddi beidio cynrychioli'r genedl yu swyddogol mwyach. Y mae rhai a dybiant fod hynaws- edd ac eangfrydedd yr Eglwys Sefydledig ym Mbrydain wedi cael gormod o raff, ac a gredant.y byddai hi yn gryfach pe byddai hi yn llymach ei disgyblaeth ar ei haelodau. Y mae õraiil a gredant mai ci heangfrydedd a'i godiefgarweh yw ei choron odidocaf. Ni chymeraf fi arnaf fy hun farnu pa un o'r ddau olygiad yw'r doethaf yn eich amgylch- iadau chwi. Ond y mae'n iawn i mi wneud liyn yn berffaith eglur, y rhaid i ddisgyblaeth Eglwys rydd oddiwrth y wladwriaeth fod yn llymach a manylach na disgyblaeth Eglwys ag y mae gan bob aelod o'r genedl ryw hawl ami—rhaid i derfynau y flaenaf gael eu roddi allan yn fwy eglur a phendant Dinas Arglwydd y lluoedd. Wele eich dinasfraint, frodyr a chyfeillion-eich dinas- fraint chwi a minau—dim llai na hyn. Dyna'r hyn sydd yn eich meddwl fel yr amgylebwch eich Sion ac yr ewch o'i bam- gylch hi, gan rifo ei tbyrau ac ystyried ei rhagfuriau. Ac y mae dinasyddiaeth yn golygu dyledswydd, ac aelodaeth yn golygu rhwymedigaeth. Mi a geisiais siarad wrthych am freintiau a bendithion eich et feddiaeth genedlaethol yn Eglwys eich tadaf. Na ato Duw i ni anghofio nac ar eich ochr chwi o For y Werydd nac ar ein hochr ninau, fod y ddinasfraint santaidd hon yn golygu gwasan- aeth—gwasanaeth personol pob dyn a dynes sydd wedi cael rhan ynddi. Wrth gyd- weit.hrediad ei Ueygwyr ydisgwylia'r Eglwys, ac y rhaid iddi ddisgwyl, am fodd i gyflawni el gorchwyl mawr. Ni allai dim wneuthur niwed mor angeuol i'r Eglwys Genedlaethol nag i ryw dybiaeth enill tir mai Eglwys yr offeiriaid ydyw mewn rhyw ystyr neilltuol nen ar y cyfan. Nage, Eglwys y lleygwr ydyw. A mwyfwy fel bo'r dyddiau'n myned heibio, pa un bynag ai sefydledig ai dadsefydl- edig fyddo, fe erys y traddodiad hwn, Ouw a'i caniatao, yn ein plith ? Felly y bu gyda ni yn y Werddon. Y nvie ein lleygwyr yn earn eu Heglwys fel y cerwch chwi yr eiddoch chwithau. Ac nid oes dim y gall Eglwyswr Gwyddelig feddwl am dano gyda 11 el mwy o ddiolch na hyn, fod ein lleygwyr o bob gradd yn teimlo fod ganddynt le yn ngwaith a chynghorau'r Eglwys, a'n bod yn dangos n el trwy eu set en bod yn Uawenhau am gyfranoi ohonynt yn ei chyfleusderau i wasanaethu. Y mae, feallai, yn wir fod yr ymdeimlad o aelodaeth wedi cael ei fywhau gan y ddyrnod a ddisgynold arnom pan dafl- wyd Eglwys y Werddon ar ei hadnoidau C, ei hun. Y mae aflwydd weithiau yn foddion i ddwyn i'r amlwg allu cuddiedig mewn dynion ac mewn cyrff cymdeithasol a chrefyddol, i ymgyflwyno mewngwasanaeth -gallu na wybuent yn Hawn am dano yn nyddiau llwyddiant ac esmwythder. Ond nid oes raid wrth un weithred Seneddol nac o sefydliad na dadsefydliad, i egluro llawn ystyr aelodaeth o Gorff Crist, nac i roddi grym i'r apel a wnel. Nid yr un swydd sydd i'r holl aelodaui ond y mae gan bob aelod ryw swydd, rhyw wasanaeth all efe wneyd i'r Corff y mae efe yn byw trwyddo. A diau mai yr hyn yr apelia eich Cynhad- ledd am dano yw ymgyflwyniad mwy cyflawn, gwasanaeth mwy diwyd ar ran pawb sydd yn ddyledus i Eglwys Cymru am aelodaeth yn N ghorff Crist. Pa beth bynag a ddigwydd, y mae hyn yn aros, oblegid nid rhodd y Wladwriaeth yw yr aelodaeth hon, nid oddi- wrth ddynion y mae'r alwedigaeth oruchel hon. Fe erys hyn, fod Duw wedi ein galw, bob un o honom, i'w wasanaetb, a'i fod wedi i rhoddi ac yn rhoddi yn Nghriat ac yn ei Lin Eglwys yr ewyllys a'r gallu i'w wasanaethu Ef. Sursum Corda. Oyrchefwch eich calonau, frodyr. Oblegid llawenydd penaf y ddinas- fraint hon yw yr erys hi byth, ac nad all dim ei dwyn hi ymiath. Ie, ni a'i gwyddom. Y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragyw- ydd, Efe 'n fcywys ui hyd angeu. Hyd angeu Na, nid dyna ddiwedd y ddinaafraint Gristionogol. Dyna fendith oreu'r ddinas Nefol, Ei weision a'i gwasanaethant Ef, a chant weled Ei wyneb. Yn St. George's, cymerwyd y gwasanaeth gan y Parchn. E. Lumley a Ffrydlais Davles. Darllenwyd y llithiau gan y Parch. Canon Jones, Glanogwen, a datgauwyd y Fendith ar y diwedd gan yr Hybarch. Archddiacon Morgan, hon reithor y plwyf. Yr oedd corau St. George's, St. Beuno, a Bodafon wedi uno ynghyd, a chana,sant Haleliwia yn y gor- uchaf,' (Beethoven), yn dra effeithiol. Pre- gethwyd gan y Parch. T. Jessie Jones, Gelly- gaer, oddiar Ephesiaid vi. 10—13, a chyhoedd- ir y bregeth yn ein rhifyn nesaf.

DYDD IAU

DYDD IAU. Am S o'r gloch, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid yu Holy Trinity i nifer fawr iawn gan Esgob Bingor, yn cael ei gynorth wyo gan Esgob Ossory, Deon Bangor, Archddiaconiaid Morgan a Lloyj Jones, Rheithor Llandudno, ac ereill. Am 9 o'r gloch. yr oedd Canon Rowlands, Aberdovey, a'r Parch. D. R. Lewis, Dyffryn,- Dean gwladot Ardudwy, wedi gwahodd nifer fawr i foreubryd i'r Imperial Hotel. Siaradwyd yma ar y gwaith Cenhadol gan Parchn. Canon Rowlands, D. R. Lewis, Griffith Mathews, Morris Roberts, Canon Davies, R. Evans, Llanidan Mr. R. Jones Morris, ac ereill. Y GYNHADLEDD. Am 10.30, ymgynullwyd yn y Pavilion eang. Yr oedd Esgob Bangor (ilywydd) yn cael ei gynorthwyo gan Esgob Ossory, Deon Bangor, Archddiaconiaid Bangor a Meirion, Canon Davies (Dyfrig), Canon Joyce, Canon Nicholas, Fflint; Canon Jones, Glanogwen Canon Darby rheithor Llandudno; Parch. T P. Ring, Parch. T. Jesse Jones, Parch. T. Redfern, Arglwydd Penrhyn, Syr Hugh Ellis Nanney, Syr Richard Williams Bulkeley, Syr Foster Canliffe, Colonel Sandbach, Mr. Arthur Hughes, Dr. Dalton, Mr. R. Jones-Morris, Mr. R. Gordon Roberts, Mr. Nathan Jones, etc. Yn ddiweddarach daeth Esgobion Llan- elwy a Thy Ddewi i mewn, a derbyniwyd y ddau gawr gyda tharanau o gymeradwyaeth. Darllenwyd gweddiau addas gan Reithor Llandudno, ac adroddodd pawb Gredo'r Apostolion. ARAETH ESGOB BANGOR. Fy nyled gyntaf yw ditgan ein diolch gwresocaf i'r prelad foyglod, fy mrawd o Ossory, am ei garedigrwyd 1 yn croesi o'r Werddon i agor ein cynhadledd gyda'r geiriau yr anerchodd ni a hwy neithiwr. Pan grefais arno ddyfod, cydsyniodd gyda'r caredigrwydd rhadlon hwnw sydd, fel y dywedodd un o'i gydwladwyr ef, yn dyblu'r pwyth. Yn wir, y mae yn beth mor dra cbymwys i ni ei gael yma heddyw, fel y tueddir fi i ddweyd, gaa