Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL.! GYNWTSIAD AM EBRILL. j Y Mis. 1 Y Methodistaidd Calvinaidd a J Datgysylitiad yr Eglwys yn Nghymru. j Llyfr Josua. j Gwaddol yr Eglwys. O'r Arsyllfa. j Yr Haul' yn 1844 ac 1845. Blodau Beddau Mawddwy. j Aderyo Du Gwyn. j Adolygiad. j Yspryd y Puritan. Gwobr. ( Symudiadau Eglwysig. < Bwrdd y Golygydd. Manion. j I

Advertising

PERL Y PLANT. CYXWrSIAD AM MBPILL. Dadleuon Magie Jones. Joke yu rhwystro Achos yn y Llys. Pregeth Fach i'r Plant. Ffwl Ebrill. Pwy ydyw'r Cantwr Honai. Coleg Dewi Sant (gyda Darlun). Bwrdd y Gan. Pwy yw y Goren (gyda Darluuiau). Rhestr y Ffyddloniaid. Mis Ebrill. Caneuon Plant y Perl." Beth mae'r Eglwys yn ei Wneyd. Cronfa Eglwys Newydd i Ojmry y Wladfa. Y Paganiaid Bach Duon. Perlau y Perl.' Y Gystadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Y Mesur Dadgysylltioi

Y Mesur Dadgysylltioi. A YDYW YR YMGAIS BRESENOL I DDADGYSYLLTU A DADWADDOLI YR EGLWYS YN NGHYMRU I'W GYMERADWYO T Testyn dadl ydyw yr uchod a gymerodd le yn y Gymdeithas Gymraeg Drefnewydd dar- y t, llenwyd papyr rhagorol gan Mr. R. Jones, BryntirioD, ar yr ochr gadarnhaol, a darllen- wyd yr hyn sydd yn dilyn gan Mr. William M. Roberts, y ddau o'r Drefnewydd. Nid ydyw yn angenrheidiol heno, oherwydd prinder amser, i egluro y mesur presenol, canys y mae pawb o'r bron yn gwybod i raddau helaeth am y mesur. Dyna yw prif ymddiddan y dydd, prif erthygl y newydd- iaduron, ac hefyd un o'r pynciau mawr sydd o flaen y Senedd ar hyn o bryd. Y mae Ilawer i ymgais wedi bod o dro i dro, a hyny er's llawer o flynyddoedd, i ddadgysylltu yr Eglwys yn Nghymru, ond y cwbl yn ofer, a'r rheswm da dros hyny yw, fod yr ymgeisiadau yn cael eu anghymeradwyo. Y mae y cwestiwn heno yn awgrymu hyny ar unwaitb, sef y gair presenol 'a ydyw yr ymgais bresenol,' Ac. Ond ceisiaf ateb nad yw yr ymgais bresenol, mwy na'r ymgeisiadau o'r blaen, i'w cymeradwyo. Nis gallaf ddyfynu dim o fesur Mr. McKenna, am ei fod wedi ei ddarnio yn ormodol. Yr oeddwn yn eyffelybu y mesur pan ddarllenwyd ef y tro cyntaf i ddyn tew, ond erbyn beddyw y maent wedi ei deneuo, nes y mae fel skeleton. Y mae byn eto yn ddigon ar unwaith i brofi fod yr ymgais bresenol i'w anghymeradwyo, achos y maent wedi andwyo y mesur o'r hyn ydoedd ar y cychwyn, a hyny gan Ryddfrydwyr. Nid oes yr un dyn ystyriol a gonest yn Nghymru heddyw a all ddweyd fod dinystrio Bglwys Dduw i'w gymeradwyo yr wyf yn gwybod fod llawer ohonoch yn barod iawn i daflu pob drygair at yr Eglwys, ac yn gallu pwyntio at ei holl feiau heb wybod dim am ei daioni. Yr wyf yn cydnabcd nad oes gan yr un o honoch fawr o gydymdeimlad a'r Eglwys, am eich bod yn ei chyfrif fel estrones neu esgymunbeth, a llawer ohonoch erioed wedi bod oddi mewn, nac wedi darllen dim .'i hanes, Y mae i'r Eglwys ochr oleu, ac wrth edrych ar yr ochr oleu yna, yr wyf yn argyhoeddedig fod pob ymgais i'w drygu i'w anghymeradwyo. Chwi welweh mai drygu yw fy ngair i am ddadgysylltu, dyma y gair mwyaf respectable; y mae yn well na'r gair lladroni, er' mai lladroni ydyw egwyddor y mesur. Y mae cysylltiad yma, yr hwn sydd yn celsio cael ei dori y mae fel modrwy, nis gall neb ddangos ymha le y mae yr Eglwys a'r Llywodraeth wedi asio. Y mae y fodrwy heb ddechreu na diwedd felly y mae y cy- sylltiad yma, y mae beb iddo na dechreu dyddiau na diwedd einioea i fod. Cofiwch mai nid Eglwys y Llywodraeth ydyw yr Eg- lwys wedi bod, ond i'r gwrthwyticb-Ilyw- odraeth yr Eglwys ydyw y Senedd wedi bod yr oedd yr Eglwys yn bod cyn bod Senedd, a hi roddodd fod i'r Senedd, ac fe fu y ddwy yn caru yn glos iawn yn y canrifoedd cyntaf, a'r canlyniad fu, hwy a briodasant. Wedi prlodi o honi a dwyn plant, ac i'r plant dyfu i fyny yn fawr a chryfion, y maent yn dechreu codi yn un mob yn erbyn yr hen Fam, ac am dori y cysylltiad yma sydd wedi bod mor gynes trwy yr oesau. Y maent yn anghofio yr hyn y mae yr Eglwys wedi wneyd. Beibl yr Eglwys ydyw y Beibl sydd genym ni beddyw; hi sydd wedi ei gyfieithu a'i amddiffyn. Pan oedd. Pabyddiaeth yn cynyddu yn y wlad, hi sydd wedi bod yn gadwrfa i'r Ysgrythyr, a'i adael yn gymunrodd yn nghartref y Cristion hyd ddiwedd amser dyma y cymwynasydd mwyaf bendithiol i'r genedl ymhob oes. Ond cododd brenin arall, yr hwn nid adnabu mo Joseph felly y mae y genbedlaeth bresenol wedi codi, y rhai nid adnabu y daioni y mae yr Eglwys wedi wneyd i'n cenedl a'n gwlad pe tasa dim ond hyn i'w ddweyd am yr Eg- IWYR, y mae yn ddigon i brofi fod yr ymgais presenol i'w anghymeradwyo. Yr wyf yn barod iawn i gyfaddef fod yr Eglwys wedi bod ynburgysglydyn nhgyfnod y leanoloesau, a bod Pabyddiaeth wedi enill llawer o dir, ac wedi cael ei throed i lawr yn hynod o gadarn. Dechreuodd Pabyddiaeth

Y Mesur Dadgysylltioi

wthio i mewn yn y tiwyddyn 1066, pan oedd Harold yn teyrnasu. Yr oedd y Pab o Rufaln yn arfer; pob moddion a phob dichell i eangu a mwyhau ei ddylanw ad yn Mhrydain i gyd, ac, yn wir, yr oedd wedi llwyddo agos i lethu yr Eglwys Seisnig ymbob dull. Parhaodd yr Eglwys Gymraeg yn annibynol hyd y flwyddyn 1180, ond o'r flwyddyn hono y mae wedi bod dan allu ao awdurdod Archesgobion Caergaint. Ond er fod Eglwys Rhufain wedi cael yr oruchafiaeth yn ystod y cyfnod yma, eto yr oedd rbai o'r personiaid yn gwrth- dystio yn erbyn ei chyfeiliornadau athraw- iaethol, ac yn ystod teyrnasiad Edward III. y cyfododd Wickliff, o Goleg Merton, Rhyd- ychain. Efe oedd y cyntaf i godi ei lais yn erbyn llygredd a gau-atbrawlaeth yr oes. Efe a gyfieithodd y Beibl i'r iaith Saesneg, a phregethodd yn eofn yn erbyn yr athraw- iaeth o draws-sylweddiad. Ond yn y flwydd- yn 1575, codwyd y ty cwrdd cyntaf erioed, sef capel henaduriaethol; nid oes neb yn amea eu crefyddoldeb na'u duwioldeb, ond y mae genym hawl i ameu eu doethineb. Y mae llawer o honoch yn credu mai peth di- bwys ydyw ymneillduo o'r Eglwys, nid mor ddibwys. Fe ddewisodd y milwyr wrth y groes fwrw coelbren ar wisg y Gwaredwr yn hytrach na'i dryllio. Beth am ddryllio'r Corff 7 Pa olwg drymach a ellir ei gweled na'r rhwygo a'r ymrwygo a'r dwbwl ymrwygo sydd wedi bod hefo agos I bob un o'r gwahan- ol sectau I Er engraifft, dyna'r Trocbwyr wedi eu tori yn bump darn; dyma eu henwau yn Saasneg-' General Baptists,' Particular Baptists,' 'Serenih-day Baptists,' 'Scotch Baptists/a' New Connection General Baptists.' A rwygwyd Crist 1 Dyna'r Wesleyaid dra- chefn wedi ymddryllio yn saith dryll. A ydyw hyn yn gydweddol ag ewyllys a gweddi lesu Grist: Ac nid wyf yn gweddio dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof Fi trwy eu hymadrodd hwy fel y byddont oil yn U. Yn y Hwyddyn 1642, dyma'r cyfnod o'r fath aflywodraeth a blinder a thy wall t gwaed fel y gobeithlo Duw na welwn byth mo'i gyffelyb. Anfonwyd deg o esgoblon i d*r Llundain, trowyd y personiaid o'u bywoliaeth- au, taflwyd llawer i garchar, a threngodd llawer o eisieu bwyd. Ar y cyhuddiad o an- foesoldeb, ni pbrofwyd fod dim ond cant yn anfoesol o'r miloedd a fwriwyd allan. Wrth gydnabod fel hyn fod yr Eglwys wedi bod yn gysglyd, yr wyf yn credu fod gwaith yr Ym- neullduwyr i'w anghymeradwyo am adael yr Eglwys. Nid oes yr un adnod yn y Beibl yn cefnogi eu gweithred, ond yn hytrach eu condemnio. Cymerwn yn gyntaf esiampl lesu Grist. Efe a ddaeth yn aelod o'r eglwys luddowig, a hyny o'i wirfodd eglwya ei genedl a'i wlad, a hithau wedi madru gan raib ffurfioldeb a rhagrith ac efe a barhaodd yn aelod o'r eglwys lygredig hono, gan gadw Gwyl y Pasg, a Gwyl y Cysegriad, &c. Yn ail, ryfarwyddyd lesu Grist. I enwi ond un, Efe a orchymynodd i'w ddisgyblion gadw a gwneuthur pob peth a baral yr Yag- rifenyddion a'r Phariseaid iddynt wneyd, oblegid os dylid ufuddhau i'r dysgawdwyr neu swyddogion yr eglwys oherwydd eu swydd, ac er gwaethaf eu drygioni, pa sail sydd dros Ymneillduaeth ? Yn drydydd, iaith yr Arglwydd at y saith eglwys sydd yn Asia. Nid oes crybwylliad am iddynt ymneillduo o'r Eglwys. Yn bedwerydd, gwaherddir Ymneilltuaeth gan yr Apostolion, y rhai oedd ganddynt i ym- wneyd ag eglwysi dychrynllyd o ddrwg, et3 ni soniasant am i Gristionogion ddyfod allan o honynt. Ni ddarfu i Paul (medd Wesley) na neb arall o'r ysgrifenwyr ysprydoledig, erioed gynghori dynion sanctaidd i ymneillduo o'r Eglwys. Felly yn fyr, chwi welwch fod Ym- neillduaeth yn egwyddor groes i'r hyn y mae y Beibl yn ei ddysgu, a chan fod yr enwadau wedi gaqael yr Eglwys, y maent yn colli pob braint wrth wneyd hyny, ac y mae hyny yn iawn, am iddynt fod mor annoeth. Beth pe buasai un o honoch wedi bod yn aelod o gym- deithas, dyweder yr 'Oddfellows,' am 15 mlynedd, a'ch bod yn dewis ymadael' a'r j gymdeithas hono, a ydych yn meddwl y bu- asech yn cael eich rhan arianol wrth yma- dael ? Na, pan yr ydych yn ymadael a'r gymdeithas, yr ydych yn colli pob hawl ami. Felly am yr .ymgais bresenol i ddadwaddoli yr Eglwys, y mae i'w anghymeradwyo. Os ydyw pregethwyr yr oes bresenol yn cen- figenu fod yr esgobion yn cael cyflog da, cynghoraf hwynt i geisio cael lie yn ficer yn rhywle, ac hefyd i'r rhai hyny sydd yn cwyno fod yn ormod o dasg iddynt gadw gweinidog a thalu at yr Eglwys, cynghoraf hwy i dd'od yn ol i'r Eglwys (y man y dy- lent fod) rhag blaen, ca'ent ymwared a'r baich yn fuan. Y mae cwmwl o dystion Ymneillduol en- wog yn gryf yn erbyn dadgysylltu a dad- waddoli yr Eglwys, yn unig am fod yr amcan yn ddrwg nid oes amser i'w henwi i gyd, ond enwn ddau neu dri. Dyma ddywed y diweddar Barch. Dr. John Owens Byddai cymeryd ymaith y gynhaliaeth gy- hoeddus a ddarparwyd gan ddaioni rhaglun- iaeth ddwyfol i gynal cenhadon cyhoeddus yr Efengyl, yn ddirmyg ar ofal ffyddlawn Duw am el Eglwys, ac mewn geiriau plaen yn Itadrad noeth.' 'Nis gall unrhyw Fethod- ist gwir ddidwyll fod yn wrthwynebol i'r Eglwys Sefydledlg, nac i dalu teyrnged neu ddegwm at ei chynal,' meddai y Parch. John Elias o Fôn. Yn y dyddiau hyn,' meddai y Parch. Dr. Campbell Morgan (y bachgen o Gaerdydd), 'pan y bygythir bywyd crefyddol y wlad gan alluoedd y diafol a materoliaeth, teimlaf in ddylid gwneyd unrhyw beth a geidw yn fyw ymryson yn mhlith galluoedd ysprydoliaeth. Yr wyf yn argyhoeddedig y ehwanegai Eglwyswyr Rhyddion yn ddirfawr pe gadawent yr oil o'r gwaddoliadau hyn i'r Eglwys Esgobyddol.' Mr. Henry Radcliffe, Methodist selog, a chefnogwr y Forward Movement,' Caerdydd, a ddywed Gwell fyddai genyf weled y degwm a dalaf yn cael ei ddyblu neu ei dreblu yn hytrach na'i weled yn cael el gymeryd ymaith oddiwrth amcaniou crefyddol at ach- osion bydol. Y mae y Llywodraeth a wna hyn yo sicr o ddwyn barn arnl ei hun, ac yn haeddianol.' Os dadgysylltir yr Eglwys, bydd yn rhaid talu y degwm fel cynt. Y mae llawer yn meddwl y bydd y degwm yn cael ei ddiddymu; camgymtriad mawr. Felly, chwi welwoh heb i mi ychwanegu, mai cenfigen at yr Eglwys am ei bod yn derbyn y cyfryw, ydyw yr aohos o'r ymgais bresenol i'w drygu, ac yn wir y mae yn dda gen i ddeall eu bod yn dechreu sylweddoli hyny yn y Senedd ar hyn o bryd, acbos y mae y Mesur, yr hwn oedd yn dew ac yn frigog, erbyn hyn wedi ei deneuo yn bur fain, ac yr wyf yn gobeitbio y bydd yn cael ei roddi yn y fasged hyd nes y bydd wedi tewychu ar gyfiawnder. Y mae y Meaur i w anghymeradwyo (1) am 81 fod yn yspeilio yr Eglwys. Dyma i chwi arian yr Eglwys yn cael eu cymeryd oddi arni :29,OOOp, I Gynghorau Trefol 96,000p. I Gynghorau Sirol; 47,000p. i'r Cynghor Cenedlaethol mewn gair, bwriedir cymeryd oddi ar yr Eglwys 244,000p. bob blwyddyn. (2) Am nad yw yn Ilea i'r amaethwyr. Bydd yn rhaid iddynt dalu y degwm yn y dyfodol fel o'r blaen. Son am ei ddiddymu wir, mae'r peth yn anmhosibl; nid treth yw'r degwm ond eiddo. (3) Am nad yw yn lies i'r trethdalwyr. Dywed y Mesur yn eglur y rhaid i'r degwm fyned at bethau nad yw y trethi yn gyfrifol am danynt. Ofer felly yw dweyd y bydd y trethi yn gostwng ar ol dadgysylltu yr Eg- lwys. (4) Am nad yw yn lies i Eglwyswyr. Dywed gwrthwynebwyr yr Eglwys mai lies yr Eglwys sydd ganddynt mewn golwg dy- wedant fod gwaddoliadau yn Uadd yspryd gwirfoddol. Gyda Haw, y mae y beichlau mawr dyledion sydd gan yr enwadau i'w dwyn yn gwneyd llawer mwy o niwed i ys pryd gwir grefydd. Fel rheol, nid oes dimai o ddyled ar ein Heglwjsi, ac ni ddylal fod dimai o ddyled ar Dy Dduw gwell gwaddol aa dyled. Am nad yw yn lies i Ymneillduwyr. Y mae lie i gredu y bydd beichiau Ymneilldu- wyr yn cynyddu yn hytrach na lleihau. Yn iwr dengys llawer o Eglwyswyr eu cydym leimlad â'u cymydoglon Ymneilltuol trwy gyfranu yn haellonus at eu hachosion, ac yn wir, oni bai am y cynwrf ynglyn &'r ymosod- [ad ar yr Eglwys, buasai yr Eglwyswyr yn llawer parotach i roi llawer mwy. Amlwg yw gan hyny na wna Dadgysylltiad cldim lies i'r amaethwr, dim lies i'r trethdalwr, dim lies i'r Ymntillduwyr, dim Iles i'r Eglwys, na lies i'r wlad, a phe bai amser bawdd fuasai dangos na wna Dadgysylltiad ddim lies i'r tlodion, dim lies i'r gweithiwr, dim lies i achos crefydd a moesoldeb, dim lies yn achos undeb, ond i'r gwrthwyneb, yn creu mwy o elyniaeth nag a fu erioed felly yr wyf yn credu fod yr ymgais bresenol t Ddadgysylltu a Dadwaddoli yr Eglwys i'w anghymeradwyo. -W.M.R.

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE c'ANGLICAN PDLPIT LIBRARY" 12 LARJGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30/- per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

No title

Rhoes gwraig i filwr yn West Norwood en- edigaeth i dri o efeilliaid, bechgyn, yr wyth- In nos ddiweddaf. Tra yr oedd dan fachgen yn chwareu gyda reiffl bychan yn Ipswich, y dydd o'r blaen, aeth yr ergyd allan, a lladdwyd un o honynt. Y mae o ddeutu 125 o felinau alcan yn segur yn Neheudir Cyrnru--aniryw o honynt yn Briton Ferry. Y mae hyn am fod masnach yn isel.

Llifogydd Trymion

Llifogydd Trymion. Mewn canlyniad i'r gwlaw trwm a ddisgyn- odd y dyddiau diweddaf, mae llifogydd wedi peri llawer o golledion yn Ne a Gogledd Cymru, yn enwedig ddyddiau Sul a LIuD, Cafwyd cawodydd trymion nos Fawrth, ynghyd a mellt a tharanau. Heblaw llesfceirlo gwaith amaethwyr, dywedir fod llawer o ani- feiliaid wedi eu cario ymaith gan y rhy- ferthwy, a phytatws a hadau wedi eu golchl ymaith yn llwyr.

LLANDDERFEL

LLANDDERFEL. Marwolaeth.—Pruddaidd iawn genyf gof- nodi am farwolaeth hen gyfaill ag oedd anwyl iawn gan bawb, sef Mr. Richard Roberts, Post Office, yr hyn a gymerodd le ganol dydd Gwener, Ebrill 4ydd, 1913, yn ddwy a pbed- war ugain oed. Cafodd gystudd trwm am y deg wyfchnos diweddaf. Dioddefodd yn ddi- rwgnach yr oedd yn addfwyn iawn, yn ddi- olehgar am bob cymwynas, yn cydnabod llaw yr Hollalluog Dduw, ac yn ostyngedig iawn iddo. Dydd Mawrth canlynol, talwyd y gymwynas olaf iddo drwy hebrwng y rhan farwol o hono i'w gladdu yn meddrod el dad- au, sef yn mynwent Eglwys Sant Derfel. Gwasanaethodd y parchedig Relthor yn y ty, yn yr Eglwys, ac ar Ian y bedd, mewn telm- lad dwys a hiraethus dros ben. Trefn y gladdedigaeth, yr hon oedd yn breifat, oedd fel y canlyn:- Y eludwyr oeddynt Mr!. Charles Jones, Tyddynisa Robert Roberts, Lletyrawen; Edward Edwards, Trafalgar Street; John Thorns- Cross View, yn cael eu cynorthwyo gan y llythyrgludwyr, pa rai fuont yn ei wasanaeth am ysbaid o 14 1 17 o flynyddau. Gwahoddedigion oeddynt:—Dr. Williams, Bala; Mri. T. E. Armstrong,. Llandderfel; J. B. Jones, a Charles Jones, ei hen gyfaill, ae o'r un oedran ag ef; Mrl. J. Owen, John Jones, John Williams, Postfeistr, Bala Mri. T. H. Jones, D. P. Jones, a'r ddau warden, sef Mr. 1. 0. Wynne Williams, ei gyd- warden, a D. R. Edwards, warden cynorthwyol. Bu yr ymadawedig yn Churchwarden am 40 mlynedd, yn organydd, yn bostfeistr am 38 o flynyddoedd hefyd bu yn bandmaster am flynyddoedd lawer. Gwelwn ynddo gym- hwysder i ddal y gwahanol swyddi, a hyny heb ymffrostio o hono a gwneyd trwst; pob peth yn dawel, distaw, a diseremoui. Gellir edrych ar Richard Roberts mewn gwahanol ffyrdd. Yr oedd yn siriol lawn, gwen slriol ar bawb, oyfoethog a'r cyffredin ei sirioldeb yn dwyn serch, hyd yn nod plant y Han yn ei edmygu, ac yr oeddynt oil yn barcbus ac anwyl iawn o hono. Yr oedd ef hefyd yn ddyn na chlywid mo hono yn dywedyd gair bach am neb yn ei gefn, yn fach nac yn isel ac atgas ond distaw claddu pob peth o'r golwg. Gellir dywedyd am dano yn ngeiriau y Salmydd, Heb absenu hi dafod, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog.' Yr oedd yn ffyddlon yn yr Eglwys, yn ffyddlon i bob peth yr ymgymerai ag el., ac yr oedd yn ffyddlon a dl-drol-yn-ol; nid oedd dim fuasai yn ei rwystro, ac y mae ei ffyddlondeb yn esiampl i bob un o honom i'w ddilyu, ao i'w osod yn nod o'n blaen. Dyna gymeriad, ac ac yn esiampl y gallwn ei efelyehu i fod mewn pryd i bob peth gyda gwaith y bywyd tym- horol, ac mewn pryd yn yr Eglwys i wrando gair Duw. Welwyd erioed mo hono ar of, fel arfer rhai, ond yno, wrth yr organ ac yn chwareu ben donau anwyl ganddo, hen donau ag oedd iddo fel nefoedd feclian ar y ddaear. Teimlad hiraethus yw gweled ei sedd yn wag; er nad cedd yno er's rai blynyddoedd, eto yr oeddem rhyw feddwl am dano, ac fel pe tai nad oedd efe i farw. Ond yn awr mae yr hen gadair freichiau yn y ty yn wag, ei le yn wag yn y llythyrdy, ac yn gwneyd i'r galon fyrlymu ei gofid gan wylo yn hidl. Gadawodd briod anwyl yn ei olwg: buont yn cydfyw am 65 mlynedd yn hapus, gyda dwy ferch a phump o feibion, gyda llu o berthynasau i alaru ar el ol. Fy nymuniad calon yw ar i Dduw fod yn llon'd ei addewid i chwi, sef Barnwr i'r weddw, ac yn Dad i'r amddifaid. Trowch ato yn y brofedigaeth lem hon, ac efe a nesa atoch chwi. Heddwch i'w lwch.-Un oedd yn hojf o hono, Myner y PERL ymhob ty yn Nghymru.