Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
13 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. CYNWYSIAD AM EBRILL. Y Mis. Y Methodistaidd Calvinaidd a Datgysylltlad yr Eglwys yn Ngbymru. Llyfr Josua. Gwaddol yr Eglwys. O'r Arsyllfa. Yr 'Haul' yn 1844 ac 1845. Blodau Beddan Mawddwy. Aderyn Du Gwyn. Adolygiad. Yspryd y Puritan. > Gwobr. Symudiadau Eglwysig. Bwrdd y Golygydd. Manlon.

Advertising

J'tiKJL Y PLANT CYNWYSIAD AM EBRILL. Dadleuon Magie Jones.: Joke yn rhwystro Achos yn y Llya. Pregeth Fach i'r Plant. Ffwl Ebrill. Pwy ydyw'r Cantwr Henal- Coleg Dewi Sant (gyda Darlun). Bwrdd y Gan. Pwy yw y Goren (gyda Darluniau). Khestr y Ffyddlouiaid. Mis Ebrill. Caneuon Plant y "Perl." Beth mae'r Eglvrysyn ei Wueyd. Cronfa Eglwys Newydd i Oymry y Wladfa. Y Paganiaid Bach Duon. Perlau y Perl. Y Gyatadleuaeth. Llilhiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Ffair Dalis yn LlanbedrpontStephan

Ffair Dalis yn Llanbedr-pont- Stephan. *Mae y ffair hon yn enwogdrwy y byd, a'i dylanwad yn cynyddu fwy-fwy bob blwyddyn. Er mai ar y 6ed, 7fed, a'r 8fed cyfisol y cyn- helid hi, yr oedd nifer dJa o brynwyr wedi cyraedd i'r dref erbyn y dydd Sadwrn blaen- orol, a dydd Llun gwerthwyd amryw geffyl- uu am brisiau da. Boreu ddydd Mawrth, yr oedd canoedd o brynwyr ar yr heolydd yn chwilio am fargeinion, a rhai o honynt wedi dyfod o Ffrainc, Germani, Itali, Belgium, &e. Golygfa hardd oedd gwylio y ceffylau yn myned ol a blaen ar hyd yr heolydd, a chlywed y prynwyr yn gofyn "Ow much ac ar ol cael atebiad yn decfteu bargeinio, wedi i'r ceffyl droion orfod carlamu gryn bellder, er gweled ei wahanol bwyntiau. Dy- ddorol yw sylwi ar y prynwyr yn archwilio ceffyl, ac yn ymdrechu canfod rhyw fai ar ei wynt, ei goesau, ei gamau, Ni raid i amaethwyr Sir Aberteifi gwyno ynghylch y prisiau a gawsant yn y ffair hon, gan fod ceffylau gwedd yn gwerthu yn rhwydd am o 40p. i 60p., tra y cafwyd 70p. i 120p. am geffylau ysgeifn addas i gerbydau. Gwerthid cobs enwog y sii am o 24p. i 30p. yr un, a merlynod am o 16p i 20p. Gwerthwyd rhai canoedd o geffylau ddydd Mawrth yn unig, a chludwyd hwy gyda cerbydresi arbenig i bob rhan o'r byd. Yn anffodus, nid oedd y tywydd yn ddymunol o gwbl, yn enwedig prydnawn ddydd Mercher, pan y gwlawiai yn drwm. Dydd Mawrth ydoedd diwrnod mawry ffair geffylau, ond cafwyd gwerthiant da ddydd Mercher, pan yr oedd y prisiau ychydig yn is na'r dydd blaenorol. Cafodd y prynwyr eu boddhauyn neillduol yn y ffair hon, a phrawf o hyny yw i un o'r prif brynwyr, sef Mr. Clutterbuck, bwrcasu 47 o geffylau trymion am brisiau yn amrywio o 40p. i 60p. Mae yn glod i dref fechan fel Llanbedr ei bod yn alluog i letya y fath dyrfa o brynwyr a gwerthwyr ag a ddaethant i'r ffair, ond llwyddwyd i wneyd hyny yn foddhaol i'r naill a'r llall. Mae un nodwedd arbenig y dylid crybwyll am dani, aef mai ychydig iawn o feddwdod oedd yn ganfyddadwy, ac un dyn yn unig a ddygwyd ger bron yr ynadon am hyny. GolIJnwyd ef yn rhydd ar y deall- twriaeth ei fod yn gadael y dref ar unwaith. Mae yr heddgeidwaid i'w canmol am eu trefn- iadau doeth, gan mai gorchwyl peryglus i'r eithaf sydd ynglyn a chanoedd o geffylau yn gwibio drwy yr heolydd ar hyd y dydd. Parhaodd y ffair hyd ddydd lau, pan y dyg- wyd nifer dda o wartheg, bustachlaid, etc., i'r dref, am y rhai y cafwyd prislau da. Teilynga awdurdodau y rheilffordd ddiolchgarwch am eu gwaith yn trefnu cerbydresi arbenig i gludo yr anifeiliaid, a digwyddodd yr oil heb i un ddamwain ddigwydd.

Marwolaeth Mr Ben Evans

Marwolaeth Mr. Ben Evans. Boreu dydd Sul, bu farw Mr. Benjamin Evans, U.H., Llanfair Grange, Llanymddyfri, yn 71 oed. Efa sefydlo Id y busnes ftwr yn Abertawe a gerir yn mlaen o dan yr enw I Mri. Ben Evans a'i Gwmni.' Gauwyd Mr. Evans yn Maesyrhiw, ger Llansadwru. Pri- ododd yn 1870 Miss Maria Collier, merch Mr. Thomas Collier, Cefn Cribbwr, ond nid oes iddynt blant. Pan y trowyd y fasnach yn gwmni, yr oedd Mr. Evans yn gwneyd elw o'r slop o 15,000p. y flwyddyn. Yr oedd yn ddyn haelfrydig iawn. Eglwyswr oedd, a bydd collod fawr ar ei ol.

CENHADAETH EGLWYSIG DWYRAIN LLUNDAIN

CENHADAETH EGLWYSIG DWYRAIN LLUNDAIN. Nos Iau cawsom ein cyfarfod adloniadol olaf am y tymor. Yr oedd yr oil o'r trefniad- au yn nwylaw Mr. T. Lloyd, Roman Road, Bow. Yr oedd y byrddau wed.i eu hullo yn llwytbog a moethus, a gwnaeth pawb gyfiawn- der dyn oddimewn. Yna aethpwyd trwy raglen faith a choeth dan ofal Gwilym Aeron, ac yr oedd yn amlwg fod Gwilym a Mr. Lloyd yn adnabyddus i lu o gyfeillion cerdd- orol, oherwydd nid oedd drai ar gantorion, ond nid anghofiaf yn hir am waith y bachgen ieuanc addawol oedd yn chwareu y berdoneg, oherwydd ei fod yn feistrolgar a mynegiadol, nac am y plant bach y rhai a roddasant i ni ddwy action song yn gosod ailan Irish

CENHADAETH EGLWYSIG DWYRAIN LLUNDAIN

charactersj a Welsh characters.' Yr oedd y rhai hyn wedi enill. y brif wobr yn Strat- ford am y best display allan o nifer o ym- geiswyr. Yr oeddynt yma dan ofal Mrs. D. Lloyd, Upton Park. Cawsant dderbyniad tywysogaidd. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. D. Davies, Gloucester Road, Hackney. Ac er ei bod yn hwyr arnom yu diweddu, gwelais y boneddigesau ieuainc yn rhoddi cwpaned o de i'r rhai oedd wedi dyfod o bell. Rhai ardderchog am gwpaned o de yw merched y Mission, a pha ryfedd fod y lie yn llawn. Diolch iddynt, ac I Mr. Lloyd am y fath wledd chwaethus i glust ac i feddwl.- Mesen.

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 LARGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30/- per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

DEWI SAtfT PADDINGTON

DEWI SAtfT, PADDINGTON. GWASANAETHAU BLYNYDDOL.—Cynhaliwyd y rhai hyn ddydd Sul a nos Lun, Mai y 4ydd a'r 5ed. Caed cynulleidfaoedd da yn yr oil o'r gwasanaethau, a nos Sul yr oedd yr eglwys yn orlawn. Ein pregethwr Cymraeg arbenig eleni ydoedt y Parch. T. D. James, Llanerfyl, Maldwyn. Gan fod y pregethwr euwog hwn yn adnabyddu8 ao yn dra chym- eradwy trwy Gymru benbaladr, ni raid iddo wrth ein canmoliaeth ni. Yr oedd el fater yn rhagoiol, et draddodiad yn groyw, ei iaith yn gref, a'i arddull yn feistrolgar. Yn ddi- ameu, y mae Mr. James yn asset i'r Egtwys yn Nghymru. Traddodedd y Parch. H. H. M. Bevan, mab Archesgob Middlesex, bregeth Saesneg dlos yn y prydnawn, gan wneyd cyf- eiriadau pert at Gyrfra a'i Hoglwys. Dar- llenwyd y gwasanaethau ar y Sul gan y Parch. T. Smith, a nos Iau gan y Parch. J. Crowle .Ellis. Darllenwyd y llithiau foreu Sul gan y wardeniaid, Mr. John Williams a Mr. David Evans; nos Sul gan Mr. John Williams a Mr. Edward Pierce; a nos Lun gan Mr. Thomas Jones, cenhadwr. Nos Sul, canodd y cor dan arweiniad Mr. T. Vincent Davies yr anthem, I will pour out My Spirit' (Cuth- bert Harris), a chaed yr unawd gyaegredig, I He shall feed His flock,'yn bur offeithiol gan Miss Winifred Lewis. ANRHEG.—Cyflwynodd Mr. a Mrs. Morris Parry, Elgin Ave.enu erbyn y Sul diweddaf, bar o vases heirdd i'w dodi ar yr allor, Can' diolch iddynt.

LLANGRANOG

LLANGRANOG. Dydd Iau Dyrchafael, cynhaliwyd gwasan- aethau yn eglwys Dewi Sant, Llangranog, yr oedfaon am 10.30 a 2.30. Aeth y gwahanol Yagolion Sabbothol drwy eu pynciau, pryd yr holwyd hwy yn ddyddorol gan y Parchn. J. D. Lewis, ficer Llanarth, ac R. H. Richards, M, A., Llanbedr. Llafarganwyd gan y Parch. J. D. Lewis. Ya yr hwyr, am 6.30, traddododd y Parch. R. H. Richards anerchiad godidog ar amddiffyniad yr Eglwys, Yr oedd cynnlleidfa fawr yn ei wrando, a mawr fwynhawyd ei ymdriniad mtistrolgar a boneddigaidd o'i bwnc. Ni ddywedodd yr un gair i ddolurio teimlad unrhyw Anghydffurfiwr, ond yr oedd ei wirioneddau llym yu suddo yn ddwfn i 3 galonau y cysegr-ysbeilwyr. Treuliwyd y diwrnod drwyddo mewn modd defosiynol ac addysgiadol. Yr oedd y canu yn effeithiol dan arweiniad Mr. J. Jones, Tre- cregin Farm, a ohanwyd yr anthem, 'Pwy yw y rhai hyn?' (J. Staiuer), yn felus. Cbwar- euwyd gan Miss Hope, Pigeonsford, a Miss S. Lewis, Penrhiw. Ar ol gwasanaeth y boreu, eisteddoid pawb i lawr i ginio blasus yn P wily wheel, yr hon oedd wedi ei darparu gan y Rheithor.. Ar ol cyfarfod y prydnawn, yr oedd y boneddigesau canlynol wedi parotoi te ardderchog: -Mrs. James, Arthach Mrs. Davies, Cefacelliog; Mrs. Rees, Bryndewi; Mrs. Lewis, Peurhiw Mrs Davies, Penbont- arfotht; Mrs. Lewis, Ffynonllefrlth, ac eraill.

Ymosod ar Ysbytty I

Ymosod ar Ysbytty. ''I! Yr oedd dyn a dorodd ei goes yn gorwedd yn ysbytty St. Denis, Paris, yn aros ei brawf am dori i mewn i dy. Nos Fawrth, gwnaeth naw o'r cyfeilllon ymgais feiddgar i'w gael oddiyno. Cyrhaeddasant yr ysbytty oddeutu haner nos mewn cerbyd modur. Dringodd un o honynt dros glawdd yr ardd, a llwydd- odd i agor y drwa ac yna dilynwyd ef gan chwech o'i gymdeithion. Gadawyd y ddau arall i edrych ar ol y 1 car' ac i roddi rhybudd os byddai angen. Ar 01 myned trwy'r ardd, cyrhaeddasant at y ward He yr oedd George Esnau, eu cydymaith. Y nyrs nos oedd yr unig un yn y ward oedd yn effro, a gofyn- odd y dynion iddi ddangos gwely Esnau idd- ynt. Syiweddolodd hithau eu ha mean ac yn wrol iawn gyrodd hwy i ben chwithig y ward,' a thra yr oeddynt yno yn chwilio y naill wely ar ol y llall, canoid y nyrs gloch. Gyda hyny cafodd y dynion hyd i Esnau, a chofloldiasant ef yn aiddgar. Daethom i'ch symud,' meddent, a ydych yn barod ?' Y mae hyny yn anmhosibl,' meddai ynfai, 'canysnidyw fy nghoes wedi ei rhwymo.' Yn cymerodd y dynion blanccd, a lapiasant Esnau ynddi. Rhoddodd hyny loes i goes y claf, a gwaeddodd dros y He. Ar hyny rhuthrodd haner dwsin o ddoctoriaid a gwas- anaethyddion i mewn, a ffodd y lladron at eu cerbyd modur. Cyrhaeddasant ef a gyrasant ymaith yn ffyrnig. Aeth pump o blismyn ar eu holau ar geffylau haiarn, ond hyd yn hyn y maent wedi methu eu dal. Y mae Esnan vridi cael ei symud i ysbytty carclur Paris.

Darllen

Darllen. Lie fll yn ffynonell cysur mawr i saint Cymru fu y Ddarllenfa, ac yn ddiddadl y mae beddyw i lawer eto, yn darddle ded- wyddwch pur a diderfyn,—i Eglwyswyr sydd heb golli bias at y pethau nad adnabu y byd. I Gymry, mae Gair Duw yn fwy ei bwys na nemawr genedl, oddigerth y rhai hyny y mae y cenhadwr yn seren foreu eu gobaith mewn ystyr eangaeh na'r cenhodloedd feddent fath o wareiddiad cyn i'r cenhadwr a llusern oleu y Gair yn ei law sangu tir eu gwlad i ymlid i ffwrdd dywyllwch yr oesau. Gair Duw oedd llenyddiaeth gyntaf y Cymry yn ngwasg Caxton. Dyma fu cyfrwng deffroad llenydd- ol y genedl. Ond y mae un peth yn Hinder ysbryd yn nhrefn y llithiau fel y mae genym heddyw. Da genym feddwl mai dyma un o destynau sylw y dydd. Mae son mawr am ddiwygio y Llyfr Gweddi Gyffredin, ac y mae yn amser i newid peth ar wedd y Llyfr Gweddi, er cystal ydyw. Mae y Cymry yn hawlio rhan neillduol yn y diwyglad cyntaf awgrymir. Gan mal ar y Sul yn unig y can- iateir i nifer mawr o leygwyr fwynhau dar- lleniad y Gair yn yr Eglwys, credwn ei bod o'r pwysigrwyddmwyaf fod trefniant gwell o'r llithiau. Fel y gwyddis mae nifer y Suliau yn yr Ystwyll ac wedi y Drindod yn amrywio yn fawr nes y mae llawer o'r Ysgrythyr yn dianc sylw yr addolwyr. Nid oes neb na wyr am swyn y Gair yn amrywio. Mae rhagor rhwng penod a phenod, a llyfr a Ilyfr. Gwyr y sawl fedd brofiad o ddarilen am y modd yr amryw- ia y mwyniant iddo ef, ac y mae un rheol safadwy a digyfuewid taw y rban o'r ysgryth- yr fwynha. y darllenydd fwyaf y mae y sawl a'i gwrandawa yu fwynhau oreu. Pe am gael tywysiad yu y diwygiad hwn, credwn mai yn ymddygiad yr hen a'r profiadol y mae cael hwnw. Cofiwn un hen addolwr, y Sul diweddaf fu yn yr eglwys oedd y Sul cyn yr Adfent, ac fe gofia y darllenydd mai yr xi. a'r xii. o'r penodau ya Llyfr y Pregethwr ddarllenir yn y boreu o'r Hen Destament. Darllenai y darllenydd yn ystyrbwyll gyda goslef dda a pharabliad difai, ac i goroni y gwasanaeth yr oedd ei ddifrifwch yn deim- ladwy. Treiglai y dagrau yn hid I i lawrdros [ruddiau yr hen wron wrth wrandaw ar y darluuiad o henaint yn y xii. benod. Wedi dar- lleniad y boreu hwnw,cydgerddai y darllenydd ag yutau adref. Dywadai mai ponod oes iddo ef oedd hono. Dichon fod rhai yn gyfar- wydd a'r enw rydd ambell un ar y Sul cyn yr Adfent, I Stir up Sunday y gelwir y Sul gan rai, am mai 'Stir up' ydyw dau air cyntaf y Colect am y Sul hwn. Bu un yn adrodd wrth yr hen gymeriad am ei brofiad yn yr ysgol oddicartref, y modd y taenai gwen dros wynebau yr ysgolheigion y boreu hwnw yn yr ysgoi. Gwyddent fod dydd eu gollyngdod ar wawrio am fod y Nadolig, hen "'Y I y teulu, yn agoshau. Mae Stir up Sunday," meddai, 'yn meddwl mwy i mi o Sul i Sul hyd y Nadolig, a phob blwyddyn fel y mae fy chwedl yn prysuro i ben.' Teimlai yn angherddol bob tro y clywai y Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd,' a graddiai y teimlad nes pan y darllenid (Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ienenc- tyd.' ni allai llestr pridd ddal y wasgfa. Bu ei bun yn darllen o Sul i Sul, ac yr oedd yn cofio mai yn Nehemiab, He y deisyfai yr ysrifenydd am fyned i dalu gofal am ddinas be'drod y tadau y dechreuodd ddarllen nn nos Sul ac yntau yu ddyn tra ieuano. Teimlai y tardcliant hefyd pan' ddelai penod dinas beddrod y tadau yn ei thro. Hoffai yn fawr yr Efen4ylaii a'r Epistolau, ac ni allai byth feddwl colli boreu Sul y Drindod, He y mae Abraham yn oirlol dros y rhai cyfiawn. Cofiai benodau a Suliau felly. Galarai yr hen \Vr yn fawr na cblywsai bob blwyddvn am dy fy Nhad a'r trigfanau lawer.' Nid eithriad gredwn oedd yr hen (vr. Byddai ail- drefnu y llithiau yn welliant mawr, gan fod rhai penodau a rhanau o'r Ysgrythyr a ddar- llenir yn llai eu dyddordeb, ac ar gyfrif hyny yn fwy tebyg o'u gollwng I golli.' Gyda hyn y mae o bwys fod y cymhwysiad mown aidoliad yu effeithiol, ac y rnae llawer tro wedi bod ar fyd oddi ar y lluniwyd ein Llyfr Gweddi a threfa y llithiau. Gyda hyn o ddiwygiad, dichon mai nid anfuddiol fyddai cyffwrdd a gwedd ara

Yr Etholfraint ar Merched

Yr Etholfraint a'r Merched. Yn Nhy y Cyffredin nos Fawrth bu tra- fodaeth ar y priodoldeb neu yr anmhriodol- deb o roddi pleidleisiau i ferched, ac yn yr ymraniad cafwyd fod yr aelodau wedi pleid- leisio fel y canlyn:— Yn erbyn yr ail-ddarlloniaid 266 O blaid 219 Mwyafrif yn erbyn 4T Ofnir y bydd i hyn chwerwl teimladau y merched, y rhai ydynt yn yatod y dyddiau diweddaf wedi cario allan gynlluniau mlleinig a cholledfawr. Nid oes derfyn ar eu rh&lb, a bydd yn rhaid i'r Llywodraeth ddefnyddio mssurau llymach er rhoddi terfyn ar eu gwelthredoedd anfad a gwallgofus.

Hunanladdiad Llofrudd Brenin yn Salonica

Hunanladdiad Llofrudd Brenin yn Salonica. Cofir yn ddiau i adyn o'r enw Sohinas lofruddio y Brenin Sior ar y IS fed o Mawrth diweddaf, a boreu ddydd Mawrth neldiodd y llofrudd drwy ffenestr gorsaf yr heddgeidwaid yn Salonica, a derbyniodd niweidiau marwol. Yn ol yr hyn a ddywedodd Schinas beth am- ser yn ol, wd oedd ganddo unrhyw deimlad o ddygasedd yn erbyn y brenin, ond tra yn cerdded ar hyd yr heol teimlai yu ddigalon, a phan welodd y brenin, taniodd arno. Yr oedd yn dioddef oddiwrth y darfodedigaetb, ac wedi blino ar fywyd pan gyflawnodd yr anfad wai th.