Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. CYNWYSIAD AM MAI. Y Mis. Plwyf Nanfccwnlle Hen a Diweddar. Suddiad y Titanic." Llyfr Josuah Gohebiaeth. Y Parch. John Gower Rheithor Trefriw a Llanrhychwyn (gyda Darltiti.) Adolygiad. Dwfr: Ei Natur a'i Ddefnydd- ioldeb. O'r Arsyllfa, Symudiadau Eglwysig. Bwrdd y Golygydd. Gwobr. Manion.

Advertising

i PERL Y PLANT I CTXWTSIAD AM ULL. | Dadleuon Magie Jones. Richard Dover y Bachgen Drwg. Tridiau yn Mhen-y-Pasa (gyda Dar- ) luniau). V Diplodocus. i Y Paganiaid Bach Duon. | 0 Canada i Gymr*. Mis Mai. E.ob yn Bwyta Plant. Pregeth Fach i'r Plant. Tystiolaeth o Fol Pyagodyn. Ton—" Mawl i'r Iesu." Khestr y Ffyddloniaid. Mil. Margaret Evans, BlaenartheD, ( Troedyraur. Diwrnod yn Xgholeg Dewi Sant. | Y Ffordd i fod yn Gryf. Un n Delynogion Glaeynys. Belli mae'r Eglwys yn ei Wneyd. Caueuon Plant y Perl." | Perlau y Perl." Y Gystadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Yr Esgob Owen yn Ystalyfera

Yr Esgob Owen yn Ystalyfera. Nos Iau diweddaf, traddododd Esgob Ty Ddewi ei araeth hir-ddisgwyliedig, mewn am- ddiffyuiad o'r Eglwys ya Nghymru, i weith- wyr rhanau uchaf Dyffryn Tawe yn Ystaly- fera. Nodwedd arbenig yr amgylchiad oedd v nifer fawr o weithwyr ddaethent ynghyd, a'r modd astud y gwrandawent ar araeth ofynai gryn grgiffder meddyliol i'w dilyn. An- rhydeddodd yr Esgob y gweithwyr mewn 0 ffordd auniegwyliadwy. Cymerodd yn gan- iataol eu bod yn darllen acyn nieddwl. Hyn yn benaf sydd yu cyfrif am lwyddiant yr araeth. Ohcrwydd ped nad adnabuasai'r Esgob ei wrandawyr, a dechreu abrad islaw iddynt, nis gallasai lai na disgwyl tynged gy- ffredin llawer un bona fod yn arweinydd heb ei fod yn ogyfuwch a'r rhai geisia arwain. Tarawodd ei arglwyddiaeth ar nodyn nas gall lai na gwefreiddio y rhai sydd yn cymeryd dyddordeb yn symudiadau Plaid Llafur. Y nodyn hwnw oedd, fod cystadleuaeth (com- petition) wedi cael gormod o raff ar feusydd bywyd cymdeithasol y byd. Dywedodd gyda nerth ac eglurder fod Plaid Llafur yn dysgu gwers i'r Eglwys mewn undeb a chymdeith- asiaeth. Hyn yw llawenydd pobl Ystalyfera heddyw. Mae'r araeth anfarwol nos tau yn profi fod yr Eglwys, drwy ei Hesgob, yn cadw ei bys ar waedgnriad y wlad, a mwy, fod yr Eglwys mewn cydymdeimiad ag ym- drechion y gweithwyr am well bywyd, a gwell manteision i fyw. Dywedodd y buasai mewn areithiau yn y dyfodol yn gweithio allan y cwestiwn bwn i'w ben draw. Gallwn sicr- hau ei arglwyddiaeth y bydd disgwyl mawr am yr areithiau. hyny, cmys nis gall lai na bod o'r dyddordeb mwyaf i wel'd y cwestiwn yn cael ei drin gan feddwl mor graff. Ond yr amcan mewn golwg wrth alw sylw at y cwestiwn nos Iau oedd dangos mor angbyson ag undeb a brawdgarwch yw gwaith Ymneillduwyr y wlad yn ceisio clwyfo'r Eglwys sydd ar ei gorcu i gario yr un gwaith a hwythau ymlaen. Yn ngwyneb difaterwch, anffyddiaeth, ac anfoesoldeb yr oes, a yw yn gyson ag ysbryd Cristionogaeth fod y rhai a alwant eu hunain yn ddisgyblion Crist yn ceisio eu goreu i ladd eu brodyr ? Ni welir hyn yn mysg gweithwyr, hyd yn oed. Ni cbeirfod un undeb yn ceisiolladd yllallheddyw, ond ceir fod yr undebau yn taflu eu boll egni o blaid y gwaith geisiaut hyrwyddo trwy uno a'u gilydd. Swn uno sydd yn mhob man ond yn y byd crefyddol. Swn uno fyddai yuo hefyd onibai am y discord achosir gan ysbryd ang-Nghristionogol y Dadgysylltwyr. Wedi aros ychydig ar y tir hwu, aeth ymlaen i ddangos hawl gyfreithiol yr Eglwys i'w medd- ianau, ac ar ol hyny ei hawl foesol, ac yma eto tarawodd danli anwyl gau feiblon llafur, ac yn neillduol meibion hedd weh, sef cyflafar- eddiad. Soniodd am gyfaddefiad Dr. Meyers nad oedd yn gallu gwei'd i waclod yr anhaws- der, a'i gynyg i roi'r ewestiwn i'w benderfynu gan reithwyr dysgcdig. Datganodd el fodd- lonrwydd,a boddionrwyddyr Eglwys iroi'r peth yn fater cvflafareddiad corff o bobl ddiduedd. 'Gwyr y gweithwyr,' meddai, pan mae un blaid yn foddlon i gyflafareddiad, a'r llall yn anfoddlon, pa un sydd yn debyg o fol yn iawn.' Siaradodd yn Gymraeg a Saesneg, a llwyr foddlonodd y dyrfa lanwai y Drill Hall yn Ystalyfera. Oud rhaid iddo gofio y bydd y gweithwyr yma yn disgwyl ei wel'd eto. Dyma benyd rhagoroldeb bob amser.—D. Charles.

LLANGADWALADR

LLANGADWALADR. Nos Iau Dyrchafael, am saith o'r gloch cafwyd gwasanaeth a phregeth gan y Ficer yn Eglwys y Plwyf. Daeth yciiydig ffydd- loniaid ynghyd i goffhau esyniad Crist i'r nef. Mac y ffaith hon yn (ietyn i ddiolch am dano, ac i fyfyrio yn ddwys ami gyda meddwl ysprydoledig. Mae y dydd hwn, fel llawer o ddyddiau pwysig ereill, yn cael ei dreulio yn ddigon difeddwl. Pob un sydd a. pharch YIl ei galon i enw Iesu, mae ganddo barch mawr i'r dyddiau sydd yn dal cysyllt- iltd uniongyrchol 56,11 Harglwydd bendigedig. Pe caem olwg arnom ein hunain, fel peel ad- uriald drwg-haeddianol, a sylweddoli yr hyn a wnaeth lesu ar ein rhan, byddem yn fwy gwyliadwrus ar ein dull o dreulio y dyddiau sydd yn dal cysyllt-iad a'n hiachawdwriaeth

LLANGADWALADR

bersonol a thragwyddol. Ond fel arall y mae yn ami, ysywaeth, mae pobl yr oes hon, trwy oferedd a difaterweh, yn colli golwg ar en pwysigrwydd a'u cysegredigrwydd. Mae dyrchafael yr Arglwydd lesn yn rhagdybio eu ddarostyniad blaenorol, ac yo cyo w ys ei ad- gyfodiant, ei esgyniad, ei eisteddiad ar dde- heulaw y Tad, ei waitb yn derbyn pob awdur- dod yn y nef, ac ar y ddaear, ynghyd a'i benodiad i fod yn Farnwr byw a meirw, yn y dydd olaf. Mae y (faith, ogoneddns hon, nid yn unig yn anrhydedd i Grist, ond hsfyd yn galondid i ni gofio ei bod wedi esgyn i eriol trosom, ac i anfon y Dyddanydd arall yn ei ddylanwadau nerthot i'r dyddanu a'n ham- ddiffyn rhag ymosodiadau ein gelynion, ac i roddi ynom wroldeb i'w arddel a'i wasanaeth- au yn y cylchoedd yr ydym yn troi yn- ddynt, tra yma yn y byd.-Lla?tc o'r Llan. I

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 LARGKE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30h per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

Deoniaeth Lleyn

Deoniaeth Lleyn. (0 dan &rolygiaeth y Parch. H. R ROBERTS, Llanengan.) SIAPTER Y DDEOIAETH.-Darfu i ohebydd ffyddlawn anfon hanes ein cyfarfod chwarter- ol yn Abersoch yn eich rbifyn diweddaf, fel nad oes genyf ddim i ychwanegu ond tynu sylw Eglwyswyr at ein harferion yma, a'r modd y maent yn ddiweddar wedi myned trwy gyfnewidiadau gwellhaol. Y rheol gy- ffredin ydyw derbyn gwahoddiad i dai per- soniaid. Yn ddiweddar, yr ydym wedi cael ein derbyn yn dywysogaidd gan amryw foneddig- ion lleygol, ac yna, pan fo gorfod, daw rhyw berson neu gilydd i'r adwy. Awgrymaf yma, Onid da a doeth yw byn, fod lleygwyr yn I derbyn aelodau siapter eu deoniaeth i'w tai, yn lie bod yr offeiriaid a'u gwragedd yn gor- fod, bob amser, ddwyn y baich? Ond nid yw pob ty yn addas i dderbyn ped war ar hugain o ddynion ar unwaith, ac i'w gwneyd yn gy- suru.s. A'r peth nesaf ydyw yr hen arferiad, ar ol gweddi, o esbonio penod o'r Testament Groeg. Gwnawd hyny yma trwy i un gy. meryd y flaenoriaath fel athraw yn yr Ysgol Sul, gan dynu sylw at y cyfieithiad, yr arddull, ac esboniad o'r cynwysiad. Ar y diwedd ceir cyfleusdra i ofyn cwestiynan ac i alw sylw at unryw fater ag sydd yn codi i feddwl rhywun. Pan eir i bIwyf arall, yr offeiriad hwnw fydd yn cymeryd y flaenor- iaeth gyda'r benod yn yr iaith lloeg. Tra bo hyn yn cymeryd lie, y mae rhai yingwrandaw heb lyfr yn y byd, ac eraill yn iistud ganlyn. Er mwyn cael pob un i ganlyn ac i gymeryd dvddordeb, fe benderfynwyd ein bod yn ein siapter nesaf yn Aberdaron yn cymeryd bob un ei adnod yn rheolaidd, yr Offeiriad Plwyf- ol o hyd i fod wrth y lIyw. Bu genym arferiad i apwyntio un cymwys i wneyd boh tro, gan fyned i mewn i'r gwaith o ddifrif, a gweithiodd hyn yn dda. Nid ydym ni well na Deoniaethau ereill, a chredaf fod ein ffaeleddau yn gyffredin. LI.AN'*OWAN*.—Givasanaethait Blynyddol. — Fe gynhelir y rhai hyn eleni ar nos Iau, yr 22ain o'r mis hwn, pan y pregethir gan y Parch W. S. Williams, B.A., rheithor Bottwnog boreu dranoeth yn Saesneg, gan y Parch. R. 1-i. Iioberfcs, B.A., Towyn (brawd, y Ptheithor); yn y prydnhawu gan y Parch. Bangor Jones, Edern, ac yn yr hwyr gan! y Parch. R. R. Roberts yu Gymraeg. Mae'r gwasaijaethau hyn a gwasanaethan diolch. garwch yn foddion tynu tyrfaoedd tua'r Llan nad ydynt yn dyfod ar adegau eraill. Y MW.ELWYB, -Ar hJ.j o bryd y mae amryw o ymwelwyr yn aros am ychydig ddyddiau yma a thraw, ac yn eu plith mae'r Parch. Mr. Nunn, o Fanceinion, ynghyd a 25 o fechgyn Ysgol Ramadegol ac un o'r athrawon eraill. Y ruaent yn byw mew a pebyli, ac yn gofalu eu hunain am en hangenrheidiau. Daethant oll i'r gwasanaeth Saesneg foleti y Sulgwyn yn eglwys genhadol Abersoch, a chyfranogas- ant o'r Cymuu Sanctaidd. Pregeth wyd gan Mr. Nunn, a gweinyddwyd y Sacrament gan y Rheithor. BEDYDD CYIIOEDDUs.-Ar .ol yr ail lith yn y Gosper yn Llanengan ar Wyl y Pentecost, bedyddiwyd Griffith Orin, pbntyn cyntaf- anedig Wm. Freeman Parry ac Ann ei wraig, gan y Rheithor. Y n c'ohniafon oeddynt y tad a'r fam, a Mr. a Mrs. Manley. Ein gweddi yw am iddo barhau yn filwr ffyddlawn yn eglwys lesli Grist.

Gyru Gormod o Gig Traftnr ir Farchnad

Gyru Gormod o Gig Traftnr i'r Farchnad. Y peth amlycaf yn Marchnad Smithfield, Llundain, ddydd LI nn, oedd y gostyngiad mawr yn mhris bitf, oddeutu 25 y cant ar briaiau yr wythnos flaenorol. Achos y gos- tyngiad oedd cynydd iiiawr yn swm y biff o Argentine. Ymddengys fod cytundeb wedi ei wneyd yn ystod y do.inaw mis diweddaf rhvtug y saith cwmni sydd yn cludo cig Û I Argentine ynglyn a rheoleiddio y llwythi o t, y gig. Y mae dan o'r cwmniau hyn yn perthyn i gyfalafwyr y Beef Trust yn Chicago, ond mae aughytundeb wedi digwydd trwy i'r pum' cwmni arall hawlio cynydd mawr yn eu rhan hwy o gig i'w yru drosodd. Gwrthodwyd hyn, ac mewn canlyniad dygir mwy o gig o Argentine i Lundain nag a ellir ei weithu, ond am brisiau llawer is nag arfer.

Llythyp oddiwrth Arglwydd Esgob Tyddewi

Llythyp oddiwrth Arglwydd Esgob Tyddewi. DR. CLIFFORD A'R YMNEILLTUWYR. Syr,—Mewn erthygl rymus ac urddasol, gan weinidog biaenllctw gyda'r Bedyddwyr I Cymreig, y Parch. W. A. Williams, Ponty- pridd, yr hon a ymddangosodd yr wythnos ddiweddaf yng ngholofn oiygyddol Seren Cymru,' newyddiadur swyddogol y Bedydd- wyr Cymreig, teflir goleuui torcalonnus ar yr erthygl galonysgafn o eiddo Dr. Clifford ar Gyfoeth cynyddol yr Ymneilltuwyr," yr hon a ymddangosodd yn y Times yr un diwrnod. Cyhoedda Mr. Williams ei erthygl yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd y Gronfa Weinidogaetbol uewydd a gych- wynwyd eleni gan Undeb Bedyddwyr Cymru, a hysbysa fod yr Eglwysi sy'n perthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru wedi eu cau allan yn derfynol rhag cyfranogi mewn unrhyw fodd o'r rhoddion sydd i'w gwneud gan Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon allan o'r Gronfa Gynhaliol at ba un y cesglir yn awr. Amcenir casglu chwarter miliwll o bunuau, ac y mae'r banner wedi ei sicrhau medd Dr. Clifford yn y flwyddyn sydd newydd derfynu. Yng ngeiriau Mr. Williams: Y rheswm. digel a roddwyd dros y penderfyniad hwn oedd, fod ein tylodi y fath, fel os cedwtd ni. y byddem yn sicr o suddo y Hong, ac foi yn rhaid ein clirio oddiar y bwrdd." Yna geilw sylw ei ddarlleiiwyr at- I Y ffaith ddifrifol, fod genym heddyw dros naw ugain o Eglwysi heb weinidogion, ac focty mwyafrif mawr ohonynt heb fug- eiliaid am y rheswm syml o ddiffyg ad- noddau, a threfniaut priodol I gyfuno a gwneud defnydd o'r adnoddau sydd i'w cael. Y canlyniad yw y gellir teithio deg, a hyd yu nod ugain milltir mewn mwy nag un ardal yng Nghymru heb gyfarfod ag un gweinidog i'r Bedyddwyr." Ychwanega fod tua 90 o weinidogion 0 m Yn ein mysg yn awr yn derbyn cyflog- au yn amrywio o ^30 i 70 y flwyddyn." Ag eithrio ychydig iawn, Eglwysi Cymreig 'yw y rhai perthynol i Undeb Bedyddwyr Cymrn sydd wedi eu hatal rhag manteisio ar Gronfa Gynhaliol Ganolog yr enwad i ba un y perthynant. Gydag ychydig iawn o eithr- iadau, cauiateir i'r Eglwysi Bedyddiol yng Nghymru lie y defuyddir yr iaith Saesneg, i fanteisio ar y Groafa Gynhaliol Ganolog. CAU ALLAN YR ANIBYNWYR HEFYD. Mae'r Eglwysi Anibynnol hynny yng Nghymru yn mha rai y defnyddir yr iaith Gymraeg, sydd mewu cysylltiad a'r Undeb Anibynnol Cymreig, wedi cael eu can allan yn yr un modd, rhag cyfranogi o'r rhoddion a wneir or Gronfa o chwarter rriiliwn o bunnan sydd wedi ei chasglu'n ddiweddar gan Undeb Anibynnol Lioegr a Chymru, er fod Eglwysi Anibynnol yng Nghymru lie y defuyddir yr iaith Saes- neg yn derbyn eu cyfrau o'r rhoddion a wneir gan y Gronfa Gmolog hon. Mewn llythyr a ymddangosodd mewn newyddiadur Rhydd- frydol, Rhagfyr 7fed, 1911, dywedodd y Parch. H. M. Hughes, Caerdydd. golygydd y 'T,vst,' i)ewyddiaitir swydtloool yr Anibyn- j wyr, y gwr oedd yn gweitbredu fel prif lef- arydd y ddirprwyaeth o un-ar-bymtheg o I Weinidogion Cymreig yr hon, o dan nawdd lleygwr a rybnddiodd Mr. McKenna a'r Blaid 1 Seneddol Gymreig d(lyd(i Mawith diweddaf rhag dangos gronyn rhagor o drugaredd i'r I Eglwys yng Nghymru,— Y gwir reswm paham y cauwyd ni allan oedd, yr amhosibilrwydd honedig o gasglu cronfa ddigonol i'n cymeryd ni i 11 11 fewn." Dair biynedd yn ol peuderfynodd yr Un- deb Anibynnol Cymreig gasglu mewn pum" miynedd Groufa Gynhaliol Gymreig ar wahan, ond yn ol enhygl gan y Golygydd yn y '■ Tyst am y lofed o Ionawr diweddaf, nid oedd dim wedi cael ei gyfrannu at y Gronfa hon ddechreu'r flwyddyn. CYFLOGAl* ISEL YNG NGHYMRU, Addefodd y Parch. James Evans nad oes I yr un gweinidog yn wlnabod pob than o Ddeheudir Cymru'n well na Dr. Cynddylan Jones, yr hwn a ddanghosodd mewn llythyr ar y 18fed o Chwefror fod Hhoddion GwirL-ddol yng Nghymru heddyw yn anigonol i sicrhan i weinidog- I el 0 I ion gyfiog agos digun deilwng." Ac mewn llythyr ar y 23ain o Ionawr, rhodd- odd, fel engraiffc, m Adroddiad ddygwyd o Gyfarfod Misol Sir Gaerfyrddin i'r Gymdeithasfa ddiweddaf yn Neheudir Cymru yn dangos nad yw cyflog wythnosol Gweinidogion y Meth- odistiaid Calfinaidd yn y Cyfarfod Misol hwnnw dros ddeg swllt ar hugain yr wyth nos ar gyfartaledd." Mewn atebiad i Dr. Cynddylan Jones, ar y cyntaf o Chwefror, gwnaeLh y Parch. James Evans, yagrifeunydd Pwyllgor Dadgysylltiol t, t5 C, Cyngrair Eglwysi Rhyddion Cymru, yr addefiad tarawiado a ganlyn :— Mae Dr. Jones yn camgymeryd yn holl- oi pan ddyweda fod yr egwyddor wirfoddol yn fethiant yng Nghymru. Mae'r pwysau anferth a ddodir ar yr egwyddor hon oble- gid cynnydd y boblogaeth mewn ardaloedd gwelthfaol, yn achosi peth anhawster ar hyn o bryd. Ond meiddiaf ddweud mai nid ein cyfundrefn wirfoddol sydd wedi profi'n fethiant, ond ein cyfundrefn enwad- ol. Nis gall unrhyw gyfundrefn yn y byd oddef pwys ein holl wendidau a ffaeleddau enwadol.Pa beth yw ein hanes yn y gor- ffenol ? Mae pob sect wedi bod yn ceisio dysgu eihathrawiaeth arbennig ymhob pea- tref trwy'r wlad. Mae Eglwys Loegr ya y el alluog i wneud hynny yn unig trwy gyfrwng gwaddoliadau'r Llywodraeth. Ac yn awr mae Y mueilltuaeth wyneb yn wyneb a'r ffaith nas gall gynnal y man achosion hyn o dan yr amgylchiadau presennol." Dengys ystadegau swyddogol yr Ymneilltu- wyr fod y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfin- aidd, a'r Anibynwyr yng Ngbymru wedi llei- hau 34,219 yn nifer eu haelodau, a 29,970 yn nifer en hysgolheigion Suler 1905, blwyddyn tD ffigyrau y Comisiwn Eglwysig, tra y dengys blwydd-lyfr swyddogol Eglwys Loegr fod cynnydd sylweddol wedi cymeryd He yn y pedair Esgobaeth Gymreig yn nifer ysgol- heigion Sul yr Eglwys yn ogystal ag yn c cl nifer y cymunwyr yn ystod yr un cyfnod. SEFYLLFA DDIFRIFOL. Mewn erthygl olygyddol yn y "South Wales Daily News," Mai 23, 1911, dywedir mai'r gwir achos o dditywiad diweddar Ym- ueilltuaeth yog Nghymru yw'r ffaith fod cyflogau gweiaidogion Y mneilltuol yn rhy fychain. Dyma'r geiriau Y mddengys fod y gwir achos yn gor- wedd yn ddyfnach ceir ef yn yr eglwygi yn hytrach nag yn nghyndynrw ydd y werin. Cyflog wael a delir i bregethwyr heddyw, ac nid yw'r amgylchiadau yn calonogi'r dyuion goreu i ddyfod ymlaen i'r gwaith Yng Nghymru mae mwy na hanner y byw- oliaethau yn yr Eglwys yn werth L200 y flwyddyn neu lai, ac allan o 264 o weini- dogion Bedyddiol, nid oes ond tri yu derbya dros £200. Nid yw amgylchiadau o'r fath yn tueddu i sicrhau gwaith effeithiol. Mae'r cyfwng yn ddifrifol i'r eithaf. Mae amryw eglwysi, sydd wedi sylweddoli hyn, wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o godi cyflog- au eu gweinidogion. Rhaid cael y dynion goreu i'r pulpud heddyw. Dibynna pob peth arnynt bwy." Dengys y tfeithiau a'r iiigyrau hyn nas gall lai na pheri uiwed i achos crefydd trwy Gymrn benbaladr i ddewis, fel y gwna'r Llyw- odi-aetli. y riiiii dlottf o E, wvs Loegr er nrwyn digysegrua throi i amcauionbydol yr oil o'i hen waddoliadau crefyddol pan y bydd y ficeriaid presenno! wedi marw. Gwnelai Dr. Clifford well deinvdd o'i ddylanwad eang a'i alluoedd mawrion pe ymdrechai sicrhau i weinidogion Bedyddiol ac Anibynnol Cymru gyfran o fudd- iannau Cronfeydd Cynhaliol Canolog yr en- wadau y perthynant iddynt, yn lie celalo proii oddiwrth "gyfoeth cynyddol Ymneilltu- aeth yn Lioegr fod Bif bach gwael Mr. McKenna i Gymru yn gyfiawn ac yn deg. Mai 12. J. ST. DAVIDS.

Advertising

AEGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLOS YN SWYDDFA'R "LLAN."