Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. CYNWYSIAO AM GORPHENAE, Y Mis. I Llyfr J osua Dwfr Ei Natur a'i Ddefnydd- ioldeb. Pregeth. Rhagluniaeth. O'r Arsyllfa. Beddfeini Henafol Penmachno. Nodion Eglwysig. Bwrdd y Golygydd. Manion,

Advertising

PERL Y PLANT < CYNWYSIAD AM OORPHENAF. Dadleuon Magie Jones. j "Edrychwn at Dduw i rwyatro y Bil" (gyda Darlan) j Grym Profiad. i Sant Pirana'i Gysegr (gyda Dariun) j Y Gofyniad Mawr. Y naill a gymerir a'r llall adewir," (gyda Darlnn). Caneuon Plant y P«rl.' GweddJ. | Ni ddichon i'r Hen Wr wneuthur j dim o'i le. Emyuwyr Cymru, | Rhestr y Ffyddloniaid. J Eglwys Bren Greenstead (gyda | Dariun). Y Palas a'r Plas. j Hen Ddywediadau. | Beth mae'r Eglwys yn ei Waevd Y Paganiaid Bach Duon. < Perlau y Perl. I Y Gystadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mis ) Barddoniaeth.

Mesur yr Eglwys Gympeig

Mesur yr Eglwys Gympeig. ESGOB LLANELWY A'R GWIR AMCAN. Yn slarad yn nghyrddau'r Glwysgor blyn- yddol yn Llanelwy, ddydd Mercher, ymdrin- iodd Esgob Llanelwy ag addysg a'r Mesur Dadgysylltiol mewn araeth danllyd a galluog. Dywedodd eu bod y diwrnod hwnw wedi gwrando adroddladau dyddorol ar addysg. Yr oedd y Llywodraeth, fel y gwyddis, wedi hysbysu'r bwriad o gyhoeddi mesur addysg newydd. Darllenodd efe araeth Ysgrifenydd Adran Addysg pan gyflwynodd y greadigaeth hono i'r Senedd. "(Chwerthin). Yr oedd cwestiwn addysg, hyd yma, heb ei ddadrys, a rhy gynar ydoedd i drafod y mesur ar hyn o bryd. Dywedwyd llawer am dreialon a chaledi Deddf 1902, ond tybiai ei bod wedi sefyll prawf llawer o flynyddau, a gwnaed gwaith da. Tra nad oedd y Ddeddf wedi cryfhau eu safle fel Ymddiriedolwyr Ysgolion yr Eglwys, tybiai ei bod wedi gwneyd llawer er dyrchafiad addysg. (Cymeradwyaeth). Safai un ffaith yn amlwg yn nbrafodaeth yr wytb mlynedd diweddaf, sef y deuai'r athraw allan fel person a ystyriai fuddianau'r ysgolion. Canolbwynt ei safle ynglyn ag addysg grefyddol oedd cymeriad yr athraw. Ni fynai wneud yr athraw yn anibynol ar y Corff Llywodraethol, ond amlwg oedd ei fod mewn safle o annibyniaeth a nerth, na fyddai flynyddau'n ol. Galwyd arnynt i ymddiried yn yr athraw, a thybiai y gallent wneyd hyny yn dda (cymeradwyaeth). Parthed disgyblion ysgolion dyddiol yr esgobaeth yr oedd yn tD el ffaith ryfeddol na fn cynydd sylweddol yn ystod y flwyddyn aeth heibio (cymeradwy- aeth). Sonid llawer am y rhan gymerth yr Eglwys mewn addysg. Ni wyddai fod gan hanes lawer o awyn i neb y dyddiau hyn — (chwerthin)—ond yr oedd ffeithlau yr aaran yna yn gystal ag mewn eraill (chwerthin). Yn 1845 anfonwyd Arglwyd Lindley gyda'r Ddirprwyaeth i adrodd ar gyflwr addysg yn Nghymru. Nid oedd llawer o bobl yn hoffi'r adroddiad hwnw. Yr oedd yn adroddiad clir a rhyfedd lawn, ond nid oedd yn ganmoladwy. Dymunai bwysleisio'r ffaith fod arweinwyr yr Eglwys y dyddiau hyny, yn lie dyfynu o'r Llyfrau Gleision, yn dangos ffyddlondeb a defosiwn ynglyn a'r gwaith o osod i lawr sylfaen sicr i gyfundrefn addysg boblogaidd yn Nghymru (cymeradwyaeth). Nid oedd yn unman waith harddach dros addysg na'r hyn gariwyd allan yn Esgobaeth Llanelwy gan yr Esgob Short, yr hwn nid yn unig a wariodd ei incwm swyddogol, ond cyfran helaeth o arian el hun wrth ofalu fod pob plwyf yn cael ysgol (cymeradwyaeth). Credai ei fod yn gywir wrth ddweyd i Mr. Foster, yn 1870, pan yn cyflwyno'i Fesur Addysg, ddweyd pe bal'r holl wlad wedi ei chyflenwi &g ysgolion elfenol, fel y rhai yn Esgobaeth Llanelwy, ni fuasai cymaint angen am ei Feaur Addysg (cymeradwyaeth). Dymunai hefyd bwysleisio'r ffaith nad oedd gan yr Esgob Short yr unig amcan gwleid- yddol wrth wneyd hyny, gan nad oedd gan y gwelthiwr bleidlais yr amser hono (cymeradwyaeth). Gofalai yr Eglwys yn Nghymru am addysg plant y gweithiwr cyn y gallai weithredu'r pwysau hyny a wnaeth addysg yn destun mor ddeniadol i wleidydd- wyr ar ol i'r gweithiwr gael y bleidlais. Nid oadd gan yr Eglwys yn Nghymru ddim i gywilyddio o'i herwydd yn ystod yr 80 neu'r 90 mlynedd a baslodd ynglyn ag addysg (cymeradwyaeth). Yr oedd yn falch o wel'd nad oedd y brwdfrydedd amlygid gan yr Esgob Short wedi darfod. Bwriadent fyn'd ymlaen gyda'r gwaith hwnw. Carai ddweyd gair neu ddau ar s&fle'r Eglwys ar hyn o bryd, ac ynglyn a Mesur Datgysylltiad a Dadwaddoliad a basiodd drwy Dy'r Cyffredin. Bu ganddo ran yn y ddadl ers 40 mlynedd, a gwyddai rywbeth am dano. Yr oedd yn ddiolchgar iawn am un peth. Fod awduron y mudiad heb ollwng yr amcan cyntaf a'i parodd—yr amcan mai er budd yr Eglwys yr oedd (cymeradwyaeth). Tybial fod hyny wedi ei adael, a daeth mor ddigyw- ilydd erbyn hyn fel na fynai neb ei ail-ad- rodd. Ni fynai ddweyd pethau celyd, ond hoffal ddweyd y gwir (cymeradwyaeth). Dy- wedai yn agored ei fod i'w feddwl ef yn ddigon a phoenus glir nas gellid dweyd fod yr amcan mewn golwg yn un uchel neu grefyddol.

Mesur yr Eglwys Gympeig

Ymhlith llawer iawn o Ymneilltuwyr Cymru bu ysbryd rhy wbeth heblaw eariad Cristion-1 ogol at yr Eglwys, nid oedd ychwaith unrhyw awydd gwirioneddol i farnu'r Egiwys yn deg (cymeradwyaeth). Byddai'n anfoddlon i syl- faenu unrhyw obaith mawr yn y dyfodol ar gariad Cristionogol a chydymdeimlad caredig y rhai oedd hyd yma y tu ol i'r mudiad am Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad. Ofnai yr ysbryd-a thybiai yr ysbryd drwg-a wth- iodd mater hwn ymlaen y byddai'n ysbryd yr hwn, hyd yn oed pe pasiai'r Mesur yn gyfraith, y byddai raid i'r Eglwys ymdrech ag ef wedyn (cymeradwyaeth). Clywyd llawer am ddadl genedlaethol. Byddai'n hwylusdod i rai'n cymeryd dyddordeb yn y ddadl i gael gwybod yn nghynt ffigyrau'r iaith yn y cyfrif diwedd- af. Ni wyddai pa'm, ond yr oeddynt flwydd- yn ar ol yn cael eu cyhoeddi. Ffigyrau rhyf- edd oeddynt. Ar lal o boblogaeth yn 1891 yr oedd 508,000—haner miliwn-o bobl yn y Dywysogaeth a ddywedent eu bod yn Gymry unlaith. Yn y cyfrif nesaf yn 1901 lleihaodd yr haner miliwn i 280,000, lleihad go fawr a'r boblogaeth yn cynydd u; ac yn y cyfrif dlweddaf, gwedl i Fesur Dadgysylltlad basio drwy Dy'r Cyffredin- yr oedd y ffigyrau wedi gostwng 190,000 ar gynydd sylweddol yn y boblog- aeth, rhif Cymry unlaith yn gostwng mewn 20 mlynedd o 508,000 1 190,000—ni fwriadai drin yn mhellach ar y pwynt. Yr oedd yn eithaf amlwg. Gobeithiai y trechid Mesur Dadgysylltiad, ac na phesid un yn ystod eu hoes. Amcan amlyca'r blaid Ryddfrydol oedd cael gafael ar yr arian oedd gan yr Bglwys- wyr. Yr oedd y Ddeddf Seneddol wedi creu dinystr lawer, ac ni ddaeth i feddwl Mr. As- quith erioed y deuai y fath ddrwg o'r Ddeddf. Os y pesid y Mesur hwn drwy'r Ddeddf, byddai cyffro mawr yn y wlad. Rbaid i Eg- lwyswyr ddeffro a rhoi'r eithin ar dân, ac yna byddai eu dylanwad yn gryf. Yr oedd y cyrdd- au, nifer afrifed o honynt, yn gwneyd argraff dda lawn arno ef. Ymhob cyfeiriad drwy'r wlad yr oeddis yn deffro ac yn datgan eiddig- edd yn erbyn y fath gam. Ei bwynt olaf oedd pwyso ar i bob Eglwyswr ac Eglwys- wraig yn Nghymru wneyd eu goreu i arbed I Cymru rhag y fath ddlnystr. Hyderai y teimlai pob un yn ddyledswydd arno fyned i Wrecaam y Sadwrn nesaf i'r arddangoslad sydd i'w gynal ar y maes chwareu. Nid yn gymalnt myned yno i wrando'r areithiau yr oeddis, ond dangos eu hoohr. Rhaid lddynt fod yno yn eu miloedd. Dyna eu dyled- swydd bob un. o

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 LARGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS By the greatest Preachers of the Church. 30/- per set., (2/6 per volume). I Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton, Hall Lampeter.

Advertising

ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLUS YN SWYDDFA'R LLAN."

I Yr Argyfwng yn Neheubarth Affrica

Yr Argyfwng yn Neheubarth Affrica. PAROTOI AT Y STREIC. Dydd Mercher, Parhau yn daw el y mae pethau ar y Rand. Gweithia y pleidiau yn ddistaw, ac y mae y cyhoedd yn aros yn bryderus, heb wybod yn iawn beth all ddigwydd. Y mae yr aw- durdodau gwladol yn parotoi yn ddistaw rhag y dichon i streic gael ei chyhoeddi. Y mae y Llywodraeth yn gwneyd parotoadau hel- aeth er delio a'r sefyllfa. Daw y gyfraith filwrol i rym yn rhanbarthau y streic, a bprnir y caiff y brodorion sydd yn y mwn- gloddiau eu hanfon dros y tir i'w terfynau eu hunain. Y mae Arglwydd Gladstone (Llywodr- aethwr Cyffredinol Deheu Affrica) wedi anfon ei eglurhad i Ysgrifenydd y Trefedig- aethau yn Mhrydain (Mr. Harcourt) dros i filwyr Ymherodrol gael eu galw allan yn ystod y streic ddiweddaf. Dywedai pe buasai Llywodraeth yr Undeb wedi galw i fyny pob dyn posibl o eiddo eu^ hamddiffyn- iad eu hunain, a phob heddwas, y buasent wedi hyny yn fyr o allu delio a'r terfysgoedd heb fod dan orfod i alwr allan y milwyr Ym- herodrol. Noda Arglwydd Gladstone hefyd fod y .streicwyr yn aHogi eu hunain, ac fod pylor a ffnvydradau o wahanol fathau wedi eu darganfod mewn ystaijelloedd neillduol, ac yn cael eu casglu gan y streicwyr. GWELL RHAGOLYGON. Dydd lUll. Y mae pethau yn edrych yn well ar y Rand. Y mae Pwyllor Dirgelaidd y streic oedd i roddi yr arwydd am stneic gyffredinol yn Neheu Affrica wedi ei ddymchwelyd, ac y mae y Cynghrair Masnacliol yn chwilio am ffordd i "ddringo i lawr," heb golli llawer o'u liurddas. Y mae y pryder a'r ofn rhag streic gyffredinol yn awr wedi ei symud i raddau mawr. SIBRWD YNGHYLCH ETHOLIAD CYFFREDINOL. Dydd 

Dypehafiad Teilwng

Dypehafiad Teilwng. PENODIAD Y PARCH. T. JESSE JONES, M.A., GELLYGAER, I GANONIAETH DRIGIANOL. Da genym hyabysu fod Esgob Llandaf wedi penodi y Parch. T. Jesse Jones, M.A., rheithor poblogaidd Gellygaer, i ganoniaeth drigianol yn Eglwya Gadeiriol Llandaf, yr hon swydd ddaeth yn wag drwy ddyrchafiad y Parch. Ganon Griffith i ddeoniaeth Llandaf. Cydnebydd pawb o'i gydnabod fod y Parch. T. J. Jones yn tellyngu y dyrchafiad hwn, gan ei fod yn un o'r clerigwyr mwyaf gweith- gar yn Nghymru, ac wedi cael profiad helaeth yn Ngogledd a Deheudir Cymru, yn bregeth- wr ac areithiwr di-ail, ac wedi cyflawni gwaith godidog yn ystod ei yrfa o blaid yr Eglwys. Brodor yw Mr. Jones o Abergele, ac ymrodd- odd a'i holl egni pan yn fachgen ieuanc i ber- ffeithio ei hunan ymhob cangen o ddysgeid- iaeth, a chymaint ydoedd ei lwyddiant fel y penodwyd ef yn gynar yn ei yrfa yn brlf- athraw mewn ysgol yn Nghaernarfon, ac yn ddarlithydd yn Ngholeg Hyfforddiadol Gogledd Cymru i athrawon. Tra yn cyflawni y awyddi hyn, denodd sylw y diweddar Ddeon Edwards, ac ar anogaeth y boneddwr hwnw aeth i Goleg Merton, RhydychaiD, ac yno drachefn cafodd yrfa lwyddianus. Ar ol ei ymadawiad o'r Brifysgol, cafodd ei urddo, a'i guradiaeth gyntaf ydoedd Llandegfan a Beaumaris, ac yna penodwyd ef yn gurad Llandudno. Tra yn Llandudno, penodwyd ef i ficeriaeth Pontlottyn, ac ar ol gwasanaethu yno gyda ffyddlondeb am dair blynedd penodwyd ef yn 1900 yn rheithor Gellygaer, ac yn ddeon gwladol deoniaeth Caerphili yn 1902. Mae ei waith godidog yn Gellygaer yn hysbys ddi- gon i'n darllenwyr, a chymer ddyddordeb anghyffredin ymhob mudiad crefyddol a chymdeithasol perthynol i'r plwyf. Fel am- ddiffynwr pybyr i'r Eglwys, saif yn y rheng flaenaf, a phleser o'r mwyaf yw gwrando arno yn traethu ar ei hoff bwnQ gyda'r fath hy- awdledd ymresymiadol. :9jId yn sicr o gyflawni ei swydd newydd gydag anrhydedd a pharch, a llongyfarchwn ef ac esgobaeth Llandaf ar ei benodiad. Mae yn broctor yn y Confocasiwn er's 1910, a pherchir ef gan Eg- Iwyswyr ac Ymneillduwyr am ei wrthsafiad llwyddianus yn erbyn gwyrdroad yr elusen ynglyn ag Ysgol Ramadegol Pengam flynydd- oedd yn ol. Mae yn lienor ac awdwr o fri, a'r wythnos hon gwasanaethai fel un o'r beirn- iaid yn Eisteddfod y Fenni. Pob bendith a llwyddlant i'r Canon Jones. -8

Ceidwadwyr Sir Fflint

Ceidwadwyr Sir Fflint. Dan nawdd Cymdeithas Undebwyr Sir Fflint, cynhallwyd chwareuon yn mharc Bellesfield, Sir Fflint, un o'r dyddiau di- weddaf. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Syr Wyndham Hanmer, a dywedodd y buasai Ceidwadwyr Sir Fflint yn croesawu y cyfle I droi o swydd y Llywodraeth fwyaf anghyfiawn, anghyfrifol, a mwyaf niweidiol a fu erioed yn y wlad hon. Dywedodd Mr. David Pennant, yr ymgelsydd Celdwadol dros Sir Fflint, y gall Meliur Dadgysylltiad dd'od yn Ddeddf y flwyddyn nesaf os na ddigwydd etholiad gyffredinol cyn yr adeg. Rhaid i un fod yn fuan ar ol hyn, ac yr oedd y Ceidwadwyr wedi dweyd yn ddigon clir os y llwydda y Llywodraeth i basio Mesur y Dadgysylltiad, ac i'r Celdwadwyr gael eu rhoddi mewn awdurdod yr etholiad dllynol, byddai Iddynfc- dderbyn dyfarniad y bobl a'i ddifodi.

Cofio Esgob

Cofio Esgob. Y mae mudiad wedi ei gychwyn yn Nghaer- wys, Sir Fflint, I adeiladu cof-golofn I'r di- weddar Dr. Rowland Ellis, Esgob Aberdeen. Ganwyd Dr. Ellis yn Nghaerwys, a bu yn Ficer Gwersyllt, Sir Ddinbych, a Fleer y Wyddgrug ar ol hyny. Yn ddilynol aeth Yrf. Ficer Eglwys St. Paul, Edinburgh, ac ychydig flynyddoedd cyn ei farw gwnaed ef yn Esgob Aberdeen ac Orkney. Y mae apel wedi ei hanfon allan, wedi el harwyddo gan y Parch. A. E. H. Hyslop, rheithor Caerwys, a Miss Mary Davies Cooke, Wyddgrug, am arian tuag at y gofeb yo Eglwys Caerwys. Pen- i derfynwyd fod y gofeb i fod yny ffurf o gloc yn y twr a thabled pres yn yr Eglwys, a thybir fod yn angenrheidiol cael tua I, 120 at y gwaith.

Darlithiau Haf Cymdeithas Cymryr Brifysgol Caergrawnt

Darlithiau Haf Cymdeithas Cymry'r Brifysgol, Caergrawnt. Y mae manteiiion addysg elfenol dda wedi bod o fewn cyraedd pawb am y chwarter canrif diweddaf, a hwyrach na fanteisiwyd ar y eyfleusderau hyn mewn uu man yn fwy nag yn Nghymru. Er hyny y mae iddynt derfynau angenrheidiol wedi y diwedda dydd- iau ysgol, ac o ganlyniad nid yw llawer mor gyfarwydd a chynydd canghenau dyddorol mewn addysg ag y dymunetit fod. Gwnaeth colegau'r Brifysgol eisoes lawer, ac hyd y bu'n bosibl ni adawsant anghenion y bobl heb eu diwallu eithr ni roddir i'r rhai na chawsant hyflbrddiant yn y Brifysgol ond odid ychydig gyfleusderan i ymgydnabyddu a'r wybodaeth newydd. I'r dyben o roddi'r hyfforddiant hwn, penderfynodd aelodau Cymdeithas Cymry Caergrawnt gyflwyno rhan o wyrtfcu'r haf i draddodi cyfres o ddarlithiau ar byaciau o ddyddordeb cyffiedinol. Drwy hynawsedd Cyngor Coleg y Brifysgol Gymreig, Aberystwyth, traddodir y darlith- iau yn y Coleg yn ystod yr haner olaf o fis Awet. Hyd y bo'n bosibl gochelir termau y 0 'teehnical,' a gwna'r holl ddarlithwyr eu goreu i gyflwyno'u pwnc mewn dull syml ac eglur. Eglurir y darlithiau pan fdr angen k 'lantern slides.' Drwy'r cwrs, o'r 16eg o Awst hyd y 30ain, traddodir dwy ddarlith bob bore, ac un bob hwyr-ddydd. Bydd dar- lithiau'r bore yn agored i bawb a restrant eu hunain yn aelodau o'r ysgol drwy dalu haner coron. Am ddarlithiau'r hwyr byddant yn fwy poblogaidd eu natur, ac yn rhydd i bawb a garant ddod. Ceir telerau teithio arbenig i'r aelodau gan y gwahauol reilffyrdd. Cynhelir yr ysgol dan nawdd Maer Aber- ystwyth, y Prif-athro T. F. Roberts, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., y Gwir Anrhydedduli William Abraham, A.S., yr Anrhydeddus W. G. A. Ormsby Gore, A.S., Syr John Rhys, Rhydychen, Mr. David Davies, A.S., Llandinam, a Mr. D. A. Thomas, Llan- wern. Dymunir ar I bawb a allo dd'od-i'r ysgol, ac y gwna eraill a gymerant ddyddordeb ynddi eu goreu i'w gwneyd yn hysbys, fel y bo'i llwyddiant yn sicr. TERRY THOMAS, St. John's College, Cambridge. DAVID BRUNT, Trinity College, Cambridge. O.Y.—Byddai'n gryn hwylusdod ped ym- gynghorai'r rhai a fwriadant dd'od a'r ysgrif- enyddion, a cheir oddiwrthynt hwy bob man- ylion pellach.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergafeni yr wythnos hon. Dydd Llun, cynhelld arddangosiad hanesyddol mawredd- og, a dydd Mawrth y deGhreuwyd ar weith- rediadau yr Eisteddfod. Yr oedd torf luosog yn yr Orsedd. Caed anerchiadau gan Dyfed, Llew Tegid, Pedr Hir, ac eraill. YW Y PAFILIWN. Yr oedd torf o ddeuddeng mil yn bres- enol yn y Pafiliwn pan ddechreuwyd ar y brif gystadleuaeth gorawl. Gwnaed y dyfarniadau a ganlyn boreu Mawrth Mezzo-soprano—Miss Clssle Thomas, New- port. Tenor a Baritone—Mr. Bob Roberts, Hal- kyn, a Mr. Watkin Hughes, Rhos. Unawd ar y chwibanogl Mr. Ernest Tobias, Treforis. Pedwarawd llnynol-Parti o Dreforrls. Dyfarnwyd cor o Gaerdydd yn oreu am ganu y rhan gyntaf o 'St. Paul' (Men- delssohn), a chor Rhymni yn ail. Ymgels- lal wyth o gorau, a chafwyd cystadleuaeth ardderchog. Ceir adroddiad llawn o weithrediadau yr Eisteddfod yn ein nesaf.