Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

( YR HAUL.) f CYNWYSIAD AM AWST. j Y Mis. t Penod yn Mywyd Elis o'r < Nant (gyda Darlun). j Undeb yr Eglwysi. Canu'r Cysegr. Adolygiad. Llyfr Josua O'r Arsyllfa. j Nodion Eglwysig. j Bwrdd y Golygydd. ¡ Manion.. j I < í í

Advertising

PKKL S PLANT CYNWYSIAD AM AWST. Dadleuon Magie Jones. Hendadau Qleffyl (gyda darlun) Emynwyr Cymru Pregeth fach i'r Perliaid Richard Nanney (gyda darlun) Y Bedydd Esgob, 239. Gwaddoli Un o'r Ffyddionkid (gyda darlun) Y Ffyrdd yn Siarad Y Saith Cysgadur a Chysgaduriald Eraill Caneuon Plant y Perl: Cofio'r Testyn (gyda darlun) 248 Darlun. Crwydriad yr Adar, 2$l, id Cyfiawnder, ond Pardvrn Beth mae'r Eglwys yn ei Waevd iT Gystadleuaeth, 255. Y Paganiaid Bach Duoa. Perlau y Perl,' 266 Llithiau Priodol am y Mis iarddoniaeth-

Cyfarfodydd Bythgofiadwy Gwrecsam

Cyfarfodydd Bythgofiadwy Gwrecsam. ARGRAPHIADAU OFFEIRIAD. Gan eich bod yn g wall odd rhywun i ysgrifenu peth o hanes cyfarfodydd byth- gofiadwy Gwreesam y dydd o'r blaen, tyb- iais mai doeth yiiwyf fuasai ceisio dodi i lawr rai pethau ddaeth i'm meddwl y dydd hWllW ac ar ol byny. Amcan cyntaf a phenaf yr hyrwyddwyr ydoedd gwneyd arddangosiad (demonstra- tion). Nid y siarad ua'r siaradwyr a'n cymhellodd i fyned oddicartref y dwthwn hwnw, ond awydd angerddol, onest, gydwy- bodol i brofi tuliwnt i bob amheuaeth ein bod yn credu yr egwyddorion a broffeswn, a'n bod yn barod i aberthu nid ychydig erddynt. Y11 yr ystyr liwn rhaid ysgrifenu a chadw mewn cof ar gyfer yr oesoedd a ddel ddarfod i Eglwyswyr Gogledd Cymru yn ngwyneb haul, llygaid goleuni, ac yn enw cyfiawnder a barn, ymgynull yn dyrfa- oedd nas gwelwyd eu cyffeljyb erioed yn hanes crefydd Gwynedd i ddatgan eu har- gyhoeddiad trylwyr mai cam a chrefydd, ac mai lladrad 0 eiddo pertliynol i Dduw y Nefoedd yw trawsfeddianu eiddo presenol yr Eglwys a'u defnyddio at yr amcanion a nodir yn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. Barn lluaws o gyfeillion y bu'm yn siarad a hwy oedd nad posibl i unrhyw un o'r cyfundebau crefyddol gynal arddangosiad cyffelyb i eiddo yr Eglwys prydnawn Sadwrn. Yr oedd amryw o'm cyfeillion o'r fam nad oes yr un pwnc arall yn bod, nac wedi bod er's hir amser, allasai ganol- bwyntio ynddo ei hun y fath frwdfrydedd amddiffynol, y fath argyhoeddiad o'r angen am benderfyniad diwyro i ymladd o blaid cyfiawnder ac achos Duw, ac ar ddiwedd y dydd ni weljais neb ar nad oedd yn fodd- lawn fod protest egwyddorol,"onest, ac, ni a obeitliiwn, effeithiol, wedi ei gwneyd. Er mwyn i'ch darllenwyr gael rhyw syniad tebyg i fod yn gywir o'r digwyddiad hanesyddol, rhaid crybwyll fod ystrydoedd Gwrecsam yn Hawn, mor llawn nes y gellid cerdded, pe mai doeth hyny, ar benau y protestwyr. Yr oedd y peth nesaf at an- rnhosibl i sicrhau tamaid o fwyd—nid am nad oedd pobl dda Gwrecsam wedi parotoi ar ein cyfer, ond am fod nifer pobl mor fawr a'r cerbydresi yn cyraedd y gorsafau mor agos i'r un adeg. Yr oedd yr "ymos- j odiad" ar y dref yn sydyn, ond ni fu tyrfa mwy parchus, tawel, a mwy argylioedd- iadol o gyfiawnder a phwysigrwydd eu protest yn cerdded strydoedd unrhyw dref. Anhawdd gan lawer gredu nad oedd y dorf anferth o wynebau yn cyfrif mwy na 25,000. Rhoddai y banerau olygwedd Eglwysig a chrefyddol i'r orymdaith. Yn yr ystyr hwn, drachefn, Eglwyswyr yn unig allent wneyd y peth. I mi, yr oedd yno I pageant' Eglwysig ardderchog, a gwers ar hanesyddiaeth Eg- lwysig i'r miloedd edrychwyr. Gwelem y dosbarthiad Eglwysig o'r wlad yn gyntaf, scf yr esgobaeth, ynghyd A baner a darlun o'r Eglwys Gadeiriol, dyddiad 305 O.C., a'r Esgob yn blaenori ei bob!. Yna gwelson yr all ddosbarthiad, sef yr archddiaconiaethau, a'r Archddiaconiaid Morgan a Lloyd-Jones yn seconds in command.' Ar ol hyny, dra- chefn, gwelid banerau y dconiaethau gwladol, a'r deoniaid gwladol mor bybyr a gwrol ag arweinwyr Eglwysig unrhyw oes. Yn dilyn yr oedd y gwahanol blwyfi a'r offeiriaid Ileol, fel 1 sergeants' mewn byddin, yn cerdded ac arwain eu deiliaid yn neillduol o effeithiol. Yr oedd gan agos bron bob plwyf trwy'r Gogledd ei baner i'w blaenori, a thra yn breuddwydio am fuddugoliaeth ardderchog i'r Eglwys, sylweddolais y gellid gwneyd y banerau hyn yn enill mawr i'r Eglwys yn y dyfodol. Dylid yn bendifadde eu defnyddio ar bob amgylchiad posibl-Gwyl Ysgolion Sul, Gwyliau Canu, Diolchgarwcb, &c. Gall hyn fod yn ysprydiaeth i filoedd, ac i ychwanegu dyddordeb yn y moddianau Eg- lwysig. Cydolygir yn gyffredinol fod y canu fu ar ral o'r emynan yn anyhvffredin o ddylanwad- ol. Am udwysder tenniad y cantorion nid I oedd eisiau gwell prawf. Ond y procession darawai lygaid pobl, a dyma yn ddiddadl hyawdledd mwyaf y dydd.

Cyfarfodydd Bythgofiadwy Gwrecsam

Am oriau, pasial y protestwyr. Ar y dechreu, gwelid rhai edrychwyr yn crechwenu yn ddistaw, eraill yn ceisio gwawdio mewn dull respectable, ond fel y parhai y canoedd ar ol y canoedd, a'r miloedd ar ol y miloedd o brotestwyr, rhoddwyd o'r neilldu bob tueddiad at wawdiaetb, ac edmygid y bobl am y fath arddangosiad o deyrngarwch Eglwysig. Anhawdd credu na fydd i gy- farfod mawr Gwreesam argyhoeddi pobl Gogledd Cymru fod ffydd Eglwyslg mor anwyl i'r Eglwyswr bellach ag y bu argy- hoeddiadau dyfnaf Ymneillduwyr yn nyddiau eu caethiwed.' Rhaid dweyd ychydig am y siaradwyr. I bobl eagobaeth Bangor, Lord Robert Cecil oedd yr arwr. Yr oedd yn dda genym ei weled, ac wedi gweled ei ddull pwyllog a medrus o siarad nid rbyfedd genym fod y Stormy Petrel' wedi ei dal yn nyth aderyn arall mor deg ganddo. Hoffem hefyd Lord Wolmer. Synwyd ni wrth weled bachgen mor ieuano wedi enill safle mor anrhydeddus yn gynar ar ei fywyd. Cawsom guro ein dwylaw a ohip ar wynebpryd Mr. Ormsby Gore. Teimlem yn falch fod achos yr Eglwys yn nwylaw dynion mor foneddigaidd, mor deg, ac, ni gredwn, mor grefyddol a'r tri uchod. Gyda'r fath ddynion mae gwleidyddiaeth yn sicr o ddylanwadu yn dda, ac yn eu dwylaw teimlwn fod achos yr Eglwys yn cael pob chwareu teg. Beth fydd y diwedd ? Ni wyddom. Un gair a ddywedwn, ac mae hwnw yn cynwys ein hargyhoeddlad, cofiwn nad oes too late' yn ngeiriadur Duw. 4 Man's extremes are God's opportunities.' Gadewch i ni edrych a disgwyl am fuddugoliaeth yr Arglwydd. Towyn, R. t

Advertising

THE BEST PRESENT TO A CURATE. THE "ANGLICAN PULPIT LIBRARY" 12 LARGE VOLUMES OF SERMONS, NOTES and ILLUSTRATIONS ■'i By the greatest Preachers of the Church. 30/- per set. (2/6 per volume). Orders should be prepaid, and addressed, Manager, Caxton Hall Lampeter.

CAERFYRDDIN

CAERFYRDDIN. GWIBDAITH.-Dydd lau, y 7fed cyfisol, cynhaliodd eglwys .Cambrian Place ei gwib- daith flynyddol. I Llanstephan yr aethpwyd eleni, a chafwyd diwrnod hapus dros ben. NODACHFA.—Dydd lau diweddaf, dannawdd eglwya blwyfol Merthyr (ger Caerfyrddin), cynhaliwyd nodachfa hynod o lwyddianus. Agorwyd y nodachfa gan Mrs. E. Howell, Penbigwrn, Mydrim. Yr oedd y trefniadau yn llaw y Parch. J. M. Evans, rheithor y plwyf, a Mr. Percy Thomas, Derllys Court. Yr oedd yr elw yn myned at adgyweirio yr eglwys ac organ' yr eglwys. C.E.M.S.—Deallwn fod aelodau canghen eglwys St. Pedr o'r C.E.M.S. wedi ymgymer- yu a phaentio ysgol Heoi y Prior.—E.T. Myner PERL Y PLANT yn mhob ty yn Nghymru.

IEisteddfod Castellnewydd Emlyn

I Eisteddfod Castellnewydd Emlyn. Er i'r bin droi yn anffafriol bore dydd Mercher (dydd yr Eisteddfod)- cafwyd cyn- uijiad mawr. Tyrai y bobl i'r dref. Cadwodd Dr. G. Lewis hwy mewn hwyl dda am amser hir hyd nes i'r cystadleuwyr gael cyfle i gyraedd y lie. Cadeiriwyd gan Mrs. Roch, gwraig Mr. W. F. Roch, A.S. dros Sir Benfro. Siar- adodd Gymraeg glan gloew. Y Barnwr S. T. Evanc oedd i lywyddu, ond methodd ddyfod, ond gwnaeth iawn am y methiant drwy ddanfoil £6 at dreuliau yr Eistedd- fod. Clorianwyd y beirdd a'r llenorion gan yr Archdderwydd Dyfed, a'r Parch. D. Lewis (Ap Ceredigion), Bangor. Beirniaid y gerddoriaeth oeddynt Mri. A. Fagge a John Williams. Cyfeiljyddion, Mri. D. Richards, Llundain, a R. Howell, Aberdar. Telynwr, Mr. J. Emlyn Thomas (Telynor Myrddin). Cor Llanelli enillodd ar y prif ddarnau corawl. Cor Pliant Llanelli enillodd ar y darn "Merry June," a Chor Meibion Bargoed Teify ar y darn, "The Hebrew Captives." Cadeiriwyd y Parch. E. J. Herbert, Cydweli. am y bryddest fuddugol i'r di- weddar Barchedig Evan Phillips, Castell- newydd-Emlyn. Cafodd y Parch. T. Davies, Horeb, Llall- dyssul, ganmolia-etli am ei draethawd buddugol ar "Ddylanwad Cristionogaeth ar y Celfau Cain." Am y baritone solo gwobnvywyd Mr. 1" C. Morse, "Buxvry Port. Unawd soprano, rlianwyd rhwng E. Jones, Landore, a Maggie Davies, IJ:an- elli. n n- Tenor solo, Mr. Nathan Evans, Clydey. Cafwyd cyngerdd llwyddianus iawn yn yr hwyr. Llywyddwyd gan Syr Marteine Lloyd, Bronwydd. Band y Grenadiers, yn cael eu cynorthwyo gan Miss L. Williams a Mri. David Evans, David Richards, Llundain, a R. Howell, Aberdar, oeddynt y eyfeil/wyr. Hyderwn fod yr Eisteddfod a'r cyngherdd wedi dod ag elw sylweddol i'r pwyllgor. Buont yn foddion i ddwyn elw mawr i fasnachwyr y lie.

Advertising

Dydd Sadwrn, hwyliodd Colonel Pryce Jones, A.S., am Canada, ar fwrdd y Lauren- tia,' o Lerpwl. Y mae Mr. Davies, gorsaf-feistr Dinbych, I wedi ei benodi yn orsaf-feistr yn Nghaemar- fon, yn lie Mr. Parry, yr hwn sydd wedi ym- neiilduo.

Lloffion a Nodion

Lloffion a Nodion. (GAN CTNWYL). LLAFARU'N EGLUR. Un o'r pethau mwyaf angenrheidiol mewn cysylltiad ag amddiffyn yr Eglwys yw llefaru yn eglur. Pa ham yr ydych yn siarad mor blaen ?' ebe y gwr wrth ei wraig. Yr wyf yn siarad yn blaen er mwyn i chwi fy neall i,' oedd ei hatebiad parod. Pan fydd un yn llefaru yn eglur y mae yn fwy sicr o gael gwrandawiad, a chymerir mwy o ddydd- ordeb yn yr hyn fydd yn cael ei ddywedyd, ac argreffir yn fwy dwfn ar y cof a'r meddwl yr hyn gafodd ei lefaru. Pan oedd y pro- phwyd Esaiah wedi cael ei yru i argyhoeddi rhagrith, dywedwyd wrtho fel hyn Llefa t'th geg, nac arbed dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dy Jacob' (lyiii.). Pan mae dynion yn gwneuthur eu goreu i fyned a Degwm yr Eglwys oddi ami, er ei lies, meddent hwy, tra ar yr un pryd yn gwneuthur eu goreu i ychwanegu gwaddol eu gwahanol gapeli, onid ydynt yn rhagrithio? Os yw gwaddol yn fendith i'r capel, pa fodd y mae gwaddol yn felldith i'r Eglwys 1 Os yw gwaddol o les i'r capel, pa ham nad yw gwaddol o les i'r Eglwys ? Mae cwestiynau o'r fath yma wedi cael eu gofyn gant a mil o weithiau, ond ni chafwyd erioed un atebiad boddhaol iddynt. Yn amser rhyfil y Degwm flynyddau yn ol, pan oedd nifer o ddynion yn ymadaei o gyfarfod lie yr oeddynt wedi penderfynu gwrthod talu un ddimai o'r Degwm, gwelsant ddyn ar yr heol a dywedasant wrtho yr hyn oedd wedi cymeryd lie, a bod un brawd yn y cyfarfod wedi addaw haner cant punt at yr achos, a gofynasant i'r dyn ar y rheol wneyd penill i'r amgylchiad. Eglwyswr sclog oedd y dyn yma, a farmwr cyfrifol hefyd. Gan fod tafarn yn ymyl y fan y safent, aethpwyd i fewn, ac yn fuan wele y ffermwr yn codi ar ei draed ac yn dywedyd :— Haner can' punt rowd cyn marw Gyda Twm y streglyn salw, At yr achos gwir annheilwng 0 gei»io'n 11 wyr ladrata'r Degwm,' ac ymaith ag ef yng ughanol syndod y gwrth-ddegymwyr anonest, a Twm yn eu pilth. Dyma Eglwyswr yn siarad yn eglur. Mae Dr. John Owen, Ymneillduwr, yn dy- wedyd fod cymeryd meddianau yr Eglwys oddi arni yn downright robbery—yn lladrad amlwg. Mae yn eithaf eglur ebe Baxter, fod yn rkaid i'r rhai fynant gadw y grcfydd Brotes- tanaidd, wneuthur eu goreu i'w chadw i fyny yn eu heglwysi plwyfol eu hunain a'r neb a'i IIygrant ac a'i tan-gloddiant, neu a'i tynant hi ymaith i eglwysi cyfrinachol goddefol, a'i gyrent hi allan o'r wlad fel un genedlaethol ac eang, ac a galliatant i Babyddiaeth ddyfod i mewn i fod yn grefydd y werin yn ei lle.' Bydd cyfrif difrlfol i'w roddi gan y rhai hyny ydynt yn bradychu eu genedigaeth- fraint-eu Heglwys, os na wnant eu goreu i oleuo eu gwrthwynebwyr o'u pechod a'u cam- wedd yn darostwng Eglwys Dduw. Mae angen deffroi llawer un sydd yn per- thyn i'r Eglwys i wneyd eu goreu i argy- hoeddi eu gorthrymwyr yn yr argyfwng pre- senol. Yn awr yw yr amser i ystyried y perygl a'r canlyniadau o amddifaduyr Eglwys o'r moddion sydd ganddi at ei chynhaliaeth tymhorol. Rhaid siarad yn blaen, llefaru yn eglur, y camwedd, y golled, y pechod o wneyd yr hyn sydd yn anghyfiawn. Pe byddai y mwyafrif dros fyned a meddianau yr Eglwys oddiarni, ni fyddai hyny yn profi fod y weith- red yn un gyfiawn. Yr oedd mwyafrif y trigolion tuallan I Arch Noa yn amser y diluw, ond dyfrllyd fedd iddynt fu'r canlyniad er eu lluosog- rwydd. Yr oedd y mwyafrif o'r Iuddewon yn yr anialwch wedi mjned i addoli y 110 aur Dywedasant, hefyd, dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aipht ond dywedodd yr Arglwydd wrth Moses am danynt, 1 Gwelais y bobl hyn ac wele, pobl wargaled ydynt' (Ex. xxxii. 8, 9), a lladawyd I ynghyleti tair mil o wyr yn eu ptith o herwydd y pechod yna. Yr oedd prophwydi Baal a phrophwydi y Uwyni yn y mwvafrif ar fynydd Carmel, ond gweddi Elias yn unig gafodd el hateb, ac nid gweddiau ac erfyniadau y gau brophwydi. Onid ydyw nifer y Cristionogion yn y byd yn y lleiafrif? A ydyw y ffaith fod nifer lluosocaf trigolion y byd heb gymeryd iau Crist arnynt yn brawf nad yw Cristionogaeth ond ffug a rhagrith ? Nac ydyw, yn ddiau a'n dyledswydd ni yw gwneyd pob ymdrech I cangu teyrnas Gwaredwr y byd, a'i goronl Ef yn gar a chyfaill i bawb o bobl y byd. My Jesus to know, And feel His blood flow, Is life everlasting And heaven below.'

Merched y Bleidlais

Merched y Bleidlais DINYSTRIO TAS WAIR. RHODDI YSGOL AR DAN. Yn gynar foreu lau torodd tan allan ar fferm Caegwyn, Richmond Hill), Caernar- fon, yn ymyl gwersyll y Tiriogaetliwyr ar ffordd Bethel, pryd-y dinystriwyd tas fawr. Ni feddyliodd neb ar y dechreu gysylltu'r tan a'r suffragettes, ond yn ddiweddarach caed lie i amheu hyny, o herwydd y canfu- wyd cardiau yn ymyl y lie yr oedd y das ag arnynt y geiriau "Pleidais i Ferelied," ac "Mae dinystr yn dilyn Gweinidogion JJ Cabinet. 0 J YR YSGOL GANOLRADDOL AR DAN; Pan yr oedd Mr. Joseph Hughes, ceidwad yr Ysgol Ganolraddol, Caernarfon, yn myned i'r ysgol ychydig cyn wyth boreu lau i'w glanhau, gwelodd fod drws ystafell y "gymnasium ar dan. Sylwodd hefyd fod fframiau ffenestri yn y prif adeilad ar dan. Ar ol gweithio pur galed llwyddwyd i gael rheolaeth ar y tan. Canfuwyd oJ llenyddiaetli perthynol i Ferched y Bleidlais tu allan i'r ysgol. Ar rai o'r papyrau yr oedd y geiriau "Rbyddid i Ferched Prydain,' "Os am hysbysrwydtl ynghylch y tan hwn gofynwch i Mr. Lloyd George." Ar bapyr arali yr oedd "Yr ydym ni yn gwneyd gwaith pan y mae Mr. Lloyd George yn pregethu," "Pleidlais i Ferched Cymru." Yrr oedd yn amlwg fod ymgais wedi ei wneyd i gael mynediad i'r ysgol drwy un or ffenestri, o herwydd yr oedd y gwydr wedi ei dori gan erfyn at. y pwrpas. Yr oedd darnau o good ac olew arnynt wedi eu dodi ar sil y ffenestri y tu allan, a chanfuwyd hefyd ddefnyddiau tan yn y lie. Y chydig wedi un ar ddeg nos lau canfu- odd dyn goleu loiiipau fwg yn dyfod o ddau dý svdd newTdd eu hadeiladu yn College Road, Upper Bangor. Nid oes neb eto yn byw yn y tai. Hysbysodd y dyn y plismon Roberts, yr liwn aeth i chwilio am gy 11 ort hwy. Caed gwasanaeth nifer o ym- welwyr sydd yn aros yn y College Hotel, a llwyddwyd i ddiffodd y tan. Gwnaed ymchwiliad gan y plismyn. a chaed ailan fod olew a defnyddiau ereill at fflamio wedi en dodi ar lawr y tai, ac wedi hyny rhoed tan arnynt. Tybir mai gwaith merched y bleidlais ydyw, ond ni chaed hvd i ddim o gwmpaa oedd yn cysylltu'r merched a'r tan. Buwyd yn ffodus iawn i ddarganfod y, tan mewn pryd, neu bua-sai y tai wedi eu llosgi yn llwyf cyn pen ychydig amser, gan fod'cyniaint o'r stwff at fflamio wedi ei led- aenn o gwmpas. BYGWTH EIDDO YN Y SIR. Derbyniodd y Prifgwnstabl (Mr. J. Griffith) lytliyr dienw yn bvgwtli gwneyd niwed i eiddo cyhoeddus yn y sir. Ar gerdyn yn y llythyr yr oedd a ganlyn "1" mae Mr. Lloyd George a'i gynghreir- wyr yn araf lofruddio Mrs. Paiikhurst. Rhaid diddymu v 'Cat and Mouse Act

Advertising

Ddydd LIun, cynhaliwyd trengholiad yn Aberdar ar gorph Roger Jones (37), 2 Oak Street, Aberdar. Yn ol y dystiolaeth, yr oedd Jones ar ymwellad a thy cyfaill yn Nhrecynon, prydnawn Sadwrn, ya ystod yr vstorom o fellt a tharanau, ac yn eistedd ar bwvs ffenestr. Tarawyd ef gan fellten, a bu farw mewn tua deng munyd. 0