Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. f CYNWYSIAD AM MEDf. < Y Mis. '> William Lewis, yr Emynydd. Gweledigaeth y Dillad Budron. Y Diweddar Barchedig John Clough Willianis-Ellis, M.A., Glasfryn, Eifionydd. Llyfr Josua ) They are all gone into the World of Light." O'r Arsvllfa. Tystiolaeth Ieuan Brydydd Hir Mae'n dywyll Cymerwch fy Haw. Adolygiad. j Nodion Eglwysig. > Bwrdd y Golygydd. Un Eglwys, un Ffydd, un Arglwydd. Manion.

Advertising

PiiHL V PLAsT CYNWYSIAD AM MIDI, Dadleuon Magie Jones. j Pum' Niwrnod yu Lausanoc .gv Darluniau) j Pregeth fach i'r Ferliaid j Caneuon Plant y Perl.' Cefndryd (gyda darluniau) Dwrdd y Gan. Emynwyr Cymru' Hon Adgoiion. Dylanwad. Er Cof, I Beth mae'r Eglwys yn ei Wnevd Pertau y Perl.' Y Gystadleuaeth, Y Paganiaid Bach Duon. Llithiau Priodol am y Mis Barddoniaetli. < t

Y Genhadaeth Dramor

Y Genhadaeth Dramor. ♦ CYNHADLEDD PENMAENMAWR. Dydd Llun diweddaf, Medi 8fed, cynhal- iwyd cynhadledd genhadol yn y N elladd Eglwysig, Penmaenmawr. Nid oedd y gyn- hadledd hon o dan unrhyw gymdeithas arben- ig, ond, :yn un gyffredinol, wedi ei galw ynghyd i greu mwy o ddyddordeb a brwd- frydedd droa y gwaith mawr hwn. Os yw nifer yn profi rhywbeth, ymddengys i'r gyn- hadledd gyflawni ei bamcan i raddau. Yr ydoedd y rhai canlynol yn bresenol :—Yr Argiwydd Esgob, Y Deon, Archddiacon Lloyd Jones, Parchn. Canon R. T. Jones, Canon Lewis, Canon Edwards, Lewis Jones, Glan- I adda Morgan Jones, Caernarfon H. Lunt, Llanberis; J. Salt, Llandinorwic J. Morrit, Llandwrog E. E. Hughes, Penisa'rwaen J. L. Jones a Ben Thomas, Llanfairisgaer J. Williams, Llanllyfni D. Thomas, Llanrug W. J. Williams, Pentir R. M. Jones, Bettws- y-Coed D. Price, Caerhun J. W. Roberts a T. A. Cooke, Conwy; G. Mathews, T. D. Jones, D. Ll. Jones, Penmaenmawr; R. Jones, Gyffin R. Williams, Llanbedr D. A. Jones a Hughes-Jones, Llandegai Ll. R. Hughes, D. T. Jones, E. Ff. Davies, a Richards, Llandudno Watkin-Davies, Llan, fairfechan; J. C. Jones, Llangelynin; E. Davies, Llanllechid W. Morgan a R. Wynne Griffith, St. Anns D. C. Moiris, Trefriw R. Jones, Heneglwys; E. H. Griffith, Llangad- waladr; A. O. Evans, Llanfaethlu; D. J. Daries, Llansadwrn 0. K. Willlams, Llan- gwyllog; 0. B. Williams a R. J. Hughes, Aferiai Bridge Morris Roberts, Rhosybol T. H. Hughes, Blaenau Ffestiniog; D. R. Lewis, Dyffryn; H. J. Mank-y, Llanbedrog 0. Thomas, Tydweiliog T. A. Davies, Llan- tihaugel; Mr. A. Evill, Llanfairfechan; Mr. R. Jones-Morris, Talsarnau Mri. B. Arwick a W. J. Key, Penmaenmawr, ynghyd ag eraill. Dechreuwyd y cyfarfod am 11.30, Ar- glwydd Esgob Bangor yn llywyddu. Wedi rhoddi emyn allan gan y Ficer, ac offrymu gweddi gan y Parch. T. D. Jones, aed ymlaen gyda gwaith y gynhadlcdd. Dywedodd yr Esgob iddo ddeall mai amcan y cyfarfod hwnw ydoedd i greu mwy o ddydd- ordeb yn y gwaith cenhadol yn gyffredinol, ac nid yn ngwaith unrhyw gymdeithas arbenig sydd yn llafurio o dan nawdd yr Eglwys. Teimlwyd bod angen am fwy o C, y weithgarwch. Y peth mawr ydoedd i bawb wneyd rhywbeth er hyrwyddo gwaith yr Arglwydd mewn gwledydd tramor. Yr oedd plwyf Penmaenmawr ar hyd y blynyddoedd wedi gwneyd gwaith rhagorol dros y Gym- deithas Genhadol Eglwysig. Galwodd yr Esgob ar yr Hybarch Archddiacon Moule i anerch y cyfarfod. Mae Dr. Moule wedi treulio dros 50 mlyn- edd yn China, a serch iddo ddal bywoliaeth yn Lloegr yn awr, hawdd ydoedd gweled fod ei galon yn China. Buaswn yn dychwelyd yfory nesaf pe bawn i yn cael cyfle,' meddai. Addewais wrth y Chineaid y buaswn yn dychwelyd hyd nes i mi gyrhaedd 90 oed.' Mae'r Archddiacon yn awr yn 78 oed, ac yn iach yr olwg. Synwn i ddim iddo gyflawni ei ddymuniad. Nid oedd angen, meddai, i amddiffyn y gwaith cenhadol, canys dyna brif amcan bodolaeth yr Eglwys, ac os oedd dyn yn proffesu enw Crist rhaid iddo gefnogi y gwaith o ledaenu yr Efengyl trwy'r holl fyd. Dywedodd y buasai yn beth da i ddyrchafu clerigwyr ieuainc i'r maes cenhad- ol, wedi iddynt dreulio pedair i bum' mlynedd yn y wlad hon, ond iddynt wylied rhag cymeryd eu amheuon gyda hwynt. Yr oedd gwrando yr Archddiacon yn ysbrydoliaeth i'w wrandawyr. Mae'n debyg na ddarfu i ni crioed glywed un oedd wedi treulio, gymaint amser mewn gwlad estronol dros ei Feistr, ac ar dan eisieudychwelydynol i'rmaes. Clywsom lawer o'r newydd am China. Gall Dr. Moule siarad gydag awdurdod ar y pwnc yma. Mae llawer wedi cymeryd lie yn y wlad hono er pan yr aeth allan gyntaf, ac yntau lawer gwaith wedi bod mewn perygl am ei fywyd. Dywedodd fod dyfodol disglaer i'r wlad hono, nid oherwydd y chwyldroad gymaint, ond oherwydd dymuuiad y trigolion i efelychu y Gorllewin. Bydd ei weled a'i glywed yn argralledig ar ein meddyliau dros amser. Dywedodd Deon Bangor mai uu anhawsder oedd i ddwyn o flaen y bobl hanes a hawliau'r gwaith cenhadol Yr oedd mwy o alwad am nofelau o'n llyfrgelloedd cyhoeddus na dim arall. Buasai'n dda ganddo newid chwaeth y cyhoedd, a chael mwy o lyfrau yn rhoddi manyliou am y gwaith mawr a gyflawnwyd ar y maes cenhadol. Yr oedd eisieu mwy o sel dros y gwaith. Yr oedd y Canon J. P. Lewis o'r farn y dylai yr Eglwys arddangos mwy dros y gwaith, gorymdeithio mewn lleoedd canolog, gyda baneri, ac anfon darluniau o'r cyfryw i gefnogi a symbylu ein cyfeillion oeddynt yn gweithio dros Grist mewn gwledydd pelf. I Pwys anerchiad y Parch. E. H. Griffith, Llangadwaladr, oedd tristwch o herwydd yr ychydig a wneir gan Esgobaeth Bangor dros y gwaith cenhadol, wrth gydmara y tanysgrif- iadau a'r hyn a roddir gan Esgobaethau ereill. Un anhawsder i'r gwaith oedd yr ychydig wybodaeth am y gwaith cenhadol mewn llawer plwyf. Yn lie cael pregeth flynyddol, dylid cyhoeddi o bob pwlpud yr hyn a wnaed o fis i fis, ac na ddylai fod angen anfon 'deputation unwaith yn y flwyddyn i bleidio hawliau'r gwaith cenhadol ar haelioni Eglwyswyr. Gwnaeth y Parch. D. R. Lewis ychydig sylwadau i'r perwyl mai un rheswm dros laesu dwylaw yn y gwaith hwn yn Nghymru ydoedd yr argyfwng presenol. Cyfyngodd y Parch. Morris Roberts, Rhos- ybol, ei sylwadau i'r priodoldeb o ffurffo yn yr Esgobaeth undeb cenhadol i'r clerigwyr. Rhoddodd fanylion parthed ei gychwyniad a'i ddygiad ymlaen. Dallwn mai dyna'r bwriad sef cael un i'r curadiaid o leiaf. Mae yna deimlad cryf dros gychwyn y fath undeb, ac oddi wrth yr ymgom a gawsom gyda nifer o'r clerigwyr ieuainc, ymddengys fod brwdfryd- edd nid ychydig dros y mudiad. Cyhoeddir mauylion pellach gyda hyn. Dywedodd y Parch. Griffith Mathews, ficer Penmaenmawr, iddo ymlawenhau weled cynifer wedi derbyn y gwahoddiad i'r Gyn- hadledd. Os oeddynt am enill cydymdeim- lad a chefnogaeth Eglwyswyr ymhob math ar waith Eglwysig, y ffordd oreu i wneyd hyny ydoedd drwy ddyddori ein pobl yn y gwaith cenhadol. Dyna ei brofiad personol ef. Pe byddai'r Eglwys yn cael ei dadwadd- oli, ni buasai ef yn colli ffydd yn ewyllysgar- wch Eglwyswyr i roddi yn haelionus tuag at waith yr Eglwys, pe byddent yn parhau i ddangos sel dros y gwaith cenhadol. Cymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth hefyd, gan yr Hybarch Archddiacon Lloyd Jones, a'r Parchn. A. 0. Evans, a II. J Manley. Rhoddodd y ficer, ar ei ran ei hun a Mr. Evill, wahoddiad i bawb oeddyut bresenol yn y Gynhadledd, i giniaw yn y Mona.' Dat- ganwyd y fendith gan yr Arglwydd Esgob. I Z!1 Dyma gynhadledd lwyddianus ymhob ys- tyr, ond, mawr obeithiwn nad Grys yna. Teim- lasom megys lIef ddistaw fain yn sibrwd yn ein clustiau wrth fyned o'r neuadd Dos Gweitbia Yn y prydnawn, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y plwyf dros waith y Gymdeithas Genhadol Eglwysig. Yr Arglwydd Esgob eto yn llywyddu, a rhoddwyd anerchiad gan yr Hybarch Arch- ddiacon Moule. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod yn Gym- raeg, Mr. R. Jones-Morris, Y.H., Talsarnau, yn llywydd, y Parch. Morris Roberts yn anerch, a'r ficer yn talu diolch.

LLANGADW ALADR SIR FON

LLANGADW ALADR, SIR FON. Cynhaliwyd cyfarfod Siapter Deoniaeth Wladol Malltraeth, yn Llangadwaladr, dydd Llun, Medi 15fed, y Deon Gwladol yn llywyddu. Penderfynwyd yn unfrydol gynal cynhadledd ddeoniaethol yn Ysgoldy Henblas, y 27ain o Fedi. Mater y gynhadledd fydd Cerddoriaeth y Cyssegr,' i'w agor gan Mr. E. G. Thomas, Llangadwaladr. Trinir hefyd faterion eraill, sef 11 y priodoldeb o gynal Cymanfa Gerddorot dros y ddeoniaeth a Chynbadledd Genhadol yn Llangefni. Dewis- wyd pynciau neillduol gyferbyn a Chynhad- ledd flynyddol y Deoniaid Gwladol yn Glyn- garth. Disgwylir i'r holl blwyfi a'r Ysgolion v 11 Sul anfon eu cynrychiolwyr i gynhadledd Ilenblas.

Advertising

Gwasanaethau Diolchgarffch YR UNIG WASANAETH AR GYFER Gwyliau Diolchgarwch am y Gynhauaf Sydd wedi ei gymeradwyo gan y pedwar Esgob Cymreig. o LLAWLYFR GWYL Y CYNHAUAF. YN CYNWYS TREFN Y FOREOL A'R BRYDNAWXOL WEDDI GYDA'R CYFNEWIDIADAU DIWEDDARAF, YNGHYD A FFURFIAU ARBENIG o DDIOLCH, SALMAU, AC EMYNAU PWRPASOL &c. « 5s. 6c. y Cant yn rhydd drwy y Llythyrdy. ENGLISH EDITION. HANDBOOK FOR THANKSGIVING SERVICES, WITH MORNING AND EVENING PRAYER, PRAYER OF THANKSGIVING, APPROPRIATE PSALMS, HYMNS, &C. 5s. 6d. per 100 post free. DUOGLOT HANDBOOKS 8s. per 100, post free. POSTERS FOR THANKSGIVING SERVICES Posters for Tbanksgiving Services can be obtained at the following prices on applica- ton to the Manager Posters (Plain), with spaces for particulars about 11x9. 25 for 1/3 post free. 50 for 1/9 post free. Prompt attention given to all orders. Apply— MANAGER, CAXTON HALL, LAMPET ER

Family Notices

Genedigaeth. ROWLANDS.—Medi lOfed, yn y Ficerdy, Tref- eglwys, Maldwyn, priod y Parch. J. H. Rowlands, ar fereh. ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLUS YN SWYDDFA'R "LLAN."

Melldith Cymru

Melldith Cymru. Parhau i gynyddu mae beichiau trethdal- wyr tlodion Cymru y naill flwyddyn ar ol y llall, er addewidion parhaus yr arweinwyr Radicalaidd fod y naill ddeddf ar ol y llall yn dyfod i'w ysgafnhau. Yn Sir Feirionydd ar hyn o bryd maent wedi cyraedd y marc uwchaf. Yn ol adroddiad yr archwiliwr, gwelwn fod y derbyniadau yn bedwar ugain mil, tra mae y taliadau droa wyth mil a phedwar ugain, yn gadael gweddill o ddyled dros wyth mil o bunau. Dengys y ffigyrau yna gynydd o bedair mil ar bymtheg ar y flwyddyn flaenorol. Mae yn ddyledswydd ar y trethdalwyr fynu ymholiad ac ymchwil- iad I ba le mae yr holl filoedd yma yn myned, Clywsom lawer o son am ostyngiad y trethi ar ol blwydd-dal yr hen bobl, ac ar ol deddf anffaeledig yr insiwrin, yr hon, fel y tystiodd ein hanrhydeddus aelod, oedd yn myned i ymlid y gelyn diweddaf o blith dynolryw. Hwyrach ei fod yntau erbyn hyn wedi gallu trawsffurfio potel goch fawr ddwfr Hiwiedig y meddygon yn eli gras gwladgarwch y tiriog- aethwyr gwirfoddol. Beth yw y rheswm na chafodd y sir hon ei chyflawn grants o fwrdd y prif-ffyrdd Oddiwrtb adroddiad, gwelwn fod holl siroedd oraill Cymru wedi dyblu eu grants, tra mae hon yn aros yn llonydd. Gwyddom fod cynydd mawr mewn trafaelio y ffyrdd trwy y moduron, gwyddom hefyd fod y derbyniadau i'n trysorlys yn fwy, a ohredwn nad ydym yn gofyn ond am ein hiawnderau pan yn ceisio cad goleuni ar y cynydd uehod. Oddiwrth dystiolaekh ein hen ffrynd, Mr. William George, cawn fod Cymru wedi bod am y deugain mlynedd di- weddaf yn yr auialwch, ac ni chlywsom erioed gymaint o wir wedi dyfod o enau y rhaglaw hwn. Dyma yr amser y cafodd yr hen wlad ei thwyllo gan y criw, ac y gwerthodd ei genedigaeth fraint, a byth er m hyny mewn anialwch y mae wedi bod. Ond mae arwyddion y dyddiau presenol fod y genedl bresenol wedi blino ar addewidion gau, y rhwymn.u caethion, a'r scriws trn mae penboethiaid Radicalaidd wedi roddi arnynt, ac yn dyheu am gyfleusdra i ddwyn i gyfrif y goruchwylwyr anghyfiawn. Mae Arglwydd Loreburn am i Gymru gael cydraddoldeb crefyddol drwy daflu y Bil ysbeilgar presenol o'r naill d u, a dweyd as you were' wrth y cynhyrf- wyr politicaidd. Mae prif ddynion y Wein- yddiaeth yn gweled na fydd modd gwneyd trefn ar sectiau bach Cymru heb iddynt gael asgwrn i'w gnoi. Beth ddaw o gapel Undeb- ol Paradwys Wrecsatn anodd fydd dweyd, os na ellir cael gwasanaeth cymwys i waddoliad Llandinam i bwrcasu cloesia i blant gwledig Meirionydd. Cwyna rhai o'r terfysgwyr mai'r achos o geisio gohirio y bil ysbeilgar ydyw gwaitb yr amddiffynwyr Cymreig yu gwatwar yr achosion at ba rai y bwriadwyd i arian yr Hen Fam fyn'd ar ol eu lladrata. Does dim byd wedi digio Sanbalat yn fwy ni bod yr amaethwr wedi cael ei oleuo i'r ffaith fod yn rhai talu y degwm ar ol dadwaddol- iad, ac y maent, er ceisio cael y dosbarth yma yn ol i'w ewch, yn ceisio agor rhyw ffordd, meddir, i'w rhyddhau o gaethiwed tirfedd- ianwr. Dyma brogram da i San, a gall ddechreu yn Llawr-y-Bettws yma, i ryddhau tenantiaid y Cyngor Sir o ddwylaw caeth- iwus y 'Land Valuers.' Yr ydym yu barod wedi clywed digon am tax the Dukes and Lords' trwy y gyllideb ddiweddaf. Gwel y wlad erbyn hyn fod y dosbarth oedd yn perchenogi y tir yn brysur yn ei wcrthu, ac mai y Due a'r Lord fydd yn gorfod talu y gofynioti fydd y pwar ffarmwr a'r gweithiwr yn ddwyn, tra y bydd y cyfalaf yn cael ei ragfasnachu mewn gwledydd tramor er hyr- wyddo gwaith gweithwyr tramor i gystadlu a. gwaith yr hen wlad, a bydd eu heiddo hefyd yn rhydd o grafanc ein Trysorlys. Son am 'chwaneg wir o dreth dirol, yr ydym ni yn y Llawr yma wedi dwad i gredu fod hi yn hen bryd cael I Valuations ar Marconis a'i broffit, ac yn credu mai oddiwrth ei enillion y dylid trethu, a'r amser a gy- merir i enill o saith cant i fil o bunau. Gellir yn hawdd symud lluaws o bwysau sydd yn disgyn ar gyfangorff y Werin trwy gael allan beth yw y proffid a dderbynir o alkali, sebon, a cocoa, a threthu y cyfryw yn ol eu henillion. Wed'yn ni ehlywem fawr o son am drethu y gweithiwr ar ei incwm. Dyma obaith am fara a menyn i'r gweithiwr, a gallant gael llenwi eu cylla trwy uno yn gryno er ceisio rhyddbau y tir o'r balch annheg sydd ar y defnydd sydd yn parotol ymborth rhad. Ein polisi ddylai fod hyr- wyddo amaethyddiaeth wywedig ein gwlad, a cheisio bob amser gael dau flewyn i dyfu yn lie un. MERLLYNWR.

Llith Daniel Davies

Llith Daniel Davies. Ydyw, y mae yr hen Ddaniel Jarles YD fyw o hyd, ae yn myned oddiamgylch y wlad fel arferol ond nid ydyw wedi ysgrifenu i'r LLAX erioed o dan ei enw, er ei fod yn cael ei ystyried yu rhyw fath o leuor hen ffasiwn. Wel, efallai y byddai ychydig o eiriau ganddo ef yn dderbyniol genych, Mr. Got. Y dydd o'r blaen ymwelais ig EgI wys Llanddaniel, y cl Mon. Eglwys ddigou tlws, a phobpeth yn drefnus iawn oddifewn ac oddia^an. Dylaswn ddweyd mai nos Sul yr ymwelais a'r eglwys. Intoniwyd v gwasanaeth gan y Parch. 0. R. Owen, curad-mewn-gofal. Nid oes ei well am fyned trwy y gwasanaeth yn ddefosiynol ac adeiladol. Dyn ietianc arall oedd yn pregethu, achan ei fod yn perthyn yn agos i mi, gwell i mi beidio dweyd dim am ei bregeth, ond gallwn ddweyd ei fod yn draddodwr rhwydd. Yr oedd yr Eglwys yn Hawn o addolwyr, ac y mae hyny yn galondid mawr i Mr. Owen fod ei lafur yn cael ei goroni a llwyddiant. Yr oedd yno ganu da neillduol, ac yn He bydd canu da, fel rheol fe fydd yr Eglwys yn flodeuog. Yr wyf yn deall fod galw mawr ar Mr. Owen i bregethu yn y gwasanaethau diolchgarwch am y cynhauaf. 0 bosibl y cawn y fraint eto o ymweled a'r Eglwys yma, canys fy hoff waitb ydyw ymweled â Eg lwysi blodeuog. Byddaf, rhywfojd, yn teimlo fy bunyn gryfach o lawer i amddi- ffyn yr Eglwys ar ol cael gwasanaeth gwresog. DIOLCHGARWCH AM Y CYllAl:AF.- Y mae gwasanaethau diolchgarwch am y cynhauaf wrth y drws yn awr. Llawer o holi sydd ymhlith lleygwyr y gwahanol blwyfi pwy sydd i bregethu yno eleni. Yn fy mam i, fe ddylai ein hoffeiriaid wneyd eu goreu i sicrhau dynion sydd yn meddu ar dalentau i draddodi y genadwri ddwyfol ar achlvsur fel gwyl y cynhauaf. Gwyddom yn dda y bydd ar- weinyddiou y gwahanol gorau yn parotoi y cor ar gyfer yr achlysur, ac fel rheol fe fydd canu ardderchog yn y mwyafrif o'n Heglwysi, ie, ein Heglwysi gwledig. Wel, pregetb sych, onide, fuasai yn difetha y cwbl. Credwyf nad ydym yn hysbysebu digon an wyl y cyn- hauaf prin y bydil lleygwyr y plwvfymayn gwybod am wyl v .-yuhaiuf yu y agos- af ato Rhai i ;otio y bydd llawer Ileyg ,vr yn falch iawn o fyned i Eglwysi dieithr ar wyl y diolchgarwch am y cynhauaf. Un peth eto. Pwy sydd am roddi te i'r dieithriaid ? Gwyddom am rai wedi cerdded tair milldir i wyl y cynhauaf erbyn gwasanaeth y pryd- nawn, gan feddwl aros yn y gwasanaeth hwyrol, ond o ddiffyg cael gwahoddiad i de gorfod cerdded gartref hell glywed y prsgeth- wr y nos Nid diffyg CJ.redigrwydd yr wyf 11 In I yn sicr, a barod i'r rhai yna orfod cardded adref heb ddini le, ond diffyg meddw Pwy sydd i symud yn mlaen i ddarparu tê i'r di- eithriald I Y lleygwyr ynte yr offeiiiaid ? Fy ateb i ydyw y naill fel y llall. Dylai yr offeiriaid gymeryd rhai i mewn i'r liheithordy neu rhyw ystafell arall gyfleus, ac fe ddylai y lleygwyr hefyd gymeryd rhai o'r dieithriaid gyda hwy gartref. Gvvyddwn fod rhai plwyfi yn darparu ar gyfer dieithriaid oud y maent yn ychydig. Nid anfuddiol fyddai casglu 11 ychydig arian i gyfarfod a Luraul gwyl y cynhauaf, canys fel rheol fe f ')ill casgliadau yr Eglwys yn cael eu rhoddi at y Genhadaeth Dramor neu gymdeithasau yr Esgobaeth. DANIEL DAMES.

No title

Yn llys ynado Gwreesam, dydd Linn, cy- huddwyd bach, a dan 14eg oed o ladrata 7 bresychen o gae parthyno! i ddyn o'r enw Swan. Pan aeth yr erlynydd a heddgeidwad i dy y bachgen dcrbyniwyd hwy mewn modd mor ffyrnig gan dad:, b-chgen fel y bu raid iddynt brysurooddi -i ). Rhoes yr ynadon ddirwy ysgafn. a doriiyniodd y tad gerydd llym gan y maer.