Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL, CYNWYSIAD AM MEDI. Y Mis. William Lewis, yr Emynydd. Gweledigaeth y Dillad Budron. Y Diweddar Barchedig John Clough Williams-Ellis, M.A Glasfryn, Eifionydd. Llyfr Josua They are all gone into the World of Light." O'r Arsyllfa. Tystiolaeth Ieuan Brydydd Hir Mae'n dywyll Cymerwch fy Haw. Adolygiad. Nodion Eglwysig. t, el Bwrdd y Golygydd. Un Eglwys, un Ffydd, un Arglwydd. Manion.

Advertising

I PKHL Y PLANT I CTNWT3IAD AM MIDI. Dadleuou Magie Jones. Pum' Niwrnod yn Lausanne (gyd* Darluniau) Pregeth fach i'r Perliai d Caneuon Plant y Perl.' Cefndryd (gyda darluniau) Dwrdd y Gan. Emynwyr Cymru: Hon Adgotion. Dylan wad. Er Cof, Beth mae'r Eglwys ya ei Wnevd Perlauy 'Perl.' YGystadleuaeth. Y Pagauiaid Bach Duon. Llithiau Priodol am y Mis Barddoniaeth-

Y GYNGRES EGLWYSIG

Y GYNGRES EGLWYSIG. Ymgynulliadau Mawreddog yn Southampton. DYDD MAWRTH. 'Roedd rai o'r cyfarfodydd wedi dechreu ddydd Lluu, a phregethau, ifce., vfedi cael eu traddodi y Sul blaenorol, ond dydd Mawrth oedd dechreuad swyddogol y Gyngres. Ar ol croesawiad gan Faer Southampton, ymdeith- iodd yr offeiriaid â. banerau o'u biaen i dair Eglwys erbyn 11 a.m. St. Mair, St. Luc, a'r Holl Saint. Archesgob Caergaint bregethodd yn y cyntaf, Esgob Llundain yn yr ail, ac Esgob Jarrow yn y drydedd. Pregeth Esgob Llundain oedd, mae'n debyg, y drymaf 0 a'r bwysicaf o'r tair, ar erthygl y Credo, Cymun- deb y Saint. Yr oedd yn hwyr arnaf yn cyraedd y dref, ac erbyn i mi gyraedd Eglwys Fair 'roeddynt yn canu emyn o flaen y bre geth, a'r lie yn orlawn o wrandawyr. Ofnais na cbawn glywed dim o'r drws, ond dangosis Press Ticket i swyddog gerllaw, ac yn union arwelniodd fi i fyny, a chefaiii gadair wrth ymyl y pulpud. Cafwyd pregeth ardderchog gan yr Archesgob oddi ar Phil. i. 27. Dych- mygai St. Paul yn talu ymweliad yn awr a Southampton, a dywedai y gwelai yr un Eg- IWyi o ran cyfundrefn yn dal 'y flydd a dra- ddodwyd unwaith i'r Saint,' ond ofnai y caffai ei siomi yn fawr wrth weled aelodau yr Eg- lwys yn cymeryd cymaintyn ganiataol, ac nid yn tyfu a gwresogi yn ngwyneb datguddiad- au mawr trefn gras—ofnai y meddyliai am lawer eu bod wedi oeri a cholli eu ttariad Cyntaf. Anogai fwy o zel a brwdfrydedd crefyddol, ac anogai ar i bob gwaith dinesig gael ei gyflawni fel gwaith Eglwysig ac o dan ddylanwad crefydd Crist. Pwysai ar y gwir angenrheidrwydd yn fwy nag erioed o sylfaenu addysg fydol ar eg- wyddorion yr Efengyl. 'Roedd yn bregeth amserol a phwysig, yn cael ei thraddodi gan wr Eglwysig sydd yn wladweinydd crefyddol, ac yn teimlo i'r byw gyfrifoldeb ei swydd uchel. Ar ol y gwasanaeth, ol-ymdeithiodd yr offeiriaid a'r Maer, ac aelodau y Cyngor Trefol-yr esgobion (ac yn eu plith, Esgob Ty Ddewi), a'r archoffeirlaid yn cael eu blaenori gan y Borough Police Band. Yn yr orymdaith, oludid banerau Cyng- resau blaenorol, Ac., ac yr oedd y cyfan yn gwneyd darlun prydferth i'r llu o edrychwyr ar ochrau yr heolydd trwy ba rai yr ym- deithid. Y COLISNUM. Yma y cynhelid y cyfarfodydd. Adeilad mawr, wedi ei addurno a baneri, ac a gyn-j w ysal 2500 o bobl. 'Roedd yr adeilad yn orlawn bob dydd, ac yn enwedig felly y di- wrnod cyntaf, am 2.30 p.m., pryd yr agorwyd y Gyngres gan araeth agoriadol y llywydd, Arglwydd Esgob Winchester, yr hwn a am-1 gylchynid ar y llwyfan gan lawer o arwein- wyr Heygol, ac a phrif ddysgediglon yr Eg- lwys. Cyn dechreu, daeth dirprwyaeth o Ym- neillduwyr y dref ymlaen i groesawu y Gyngre3» ac 1 erfyn bendikh Duw ar eu gwaith ac°ymhlith pethau da ereill, dyma un gair doeth a ddywedodd gweinidog Ymneillduol wrth ategu yr anerchiarl yogrifenedig-, Yr hyn a wanha eich gallu ysbrydol chwi, a brofa yn ofid i Ili., 0 na welai Ymneillduwyr Cytnru oil fel eu brodyr yn Lloegr mai yr hyn a ddryga yr Eglwys fydd yn sicr 0 U ni- weldio hwy hefyd. Cafwyd araeth odidog gan y Llywydd, wedi iddo ddiolch i'r ddirprwyaeth. Gwr tawel, hamddenol, pwyllog, yn mesur a phwyso ei eiriau, ac yn gymedrol ond cadarn ei farn yw Esgob Winchester, ac yn foneddwr Cristion- ogol bob modfedd o hono. Edmygwyd ei lywyddiaeth gan bawb. Hir gofir y Gyngres hon am ei rhaglen ysprydol. 'Teyrnas Crist' oedd y testyn, ac ymdrinid a rhyw agwedd o hono bob dydd fel yr oedd yn dwyn cysylltiad a gvvahanol ddosbarthiadau o gymdeithas. Heddyw, y llinell oedd Her y Brenin '—Crist—gan y Llywydd. Yna, (1) 'Crist Prophwydoliaeth,' gan Proff. Scott Holland. (2) 1 Crist Hanes.' (3) Crist Profiad.' Ymdriniwyd ar yr agwedd- au hyn yn feistrolgar, dyddorol, ysgoleigaidd, gan ddarllenwyr y papyrau a siaradwyr eraill. Gwledd oedd i'r meddwl a'r deall o'r radd oreu. DYDD MIRCHER. Ymdriniwyd a delfrydau dyndod a gwreig- dod (ideals of manhood and womanhood) am 10.30 a.m.—1.15 p.m.; 2.30-5 p.m., 'Priodas,' ac yn yr hwyr am 8—10 pm., Safon Gristionogol i gyfraith y wlad.' Ymhlith y darllenwyr yr oedd Deon Man- celnion, Mrs. Luke Paget, Miss Ruth Rouse, Miss Soulsby, Esgob Lewes, Parch. T. A. Lacey, Esgob Southampton, Deon Durham, Mr. G. J. Talbot, ac eraill. Un peth a sylwais oedd y nifer fawr o wragedd oeddynt yn siarad, ac yn siarad yn dda odiaeth. 'Roedd yr ymdrafodaeth trwy'r dydd yn hynod ddyddorol, ond ofer I mi, o ddiffyg gofod, gelsio ei roi i Jawr yma. Teimlem fel yn gwrando ar gewri meddyliol, ond eto nid i gyd yn cytuno a'u gilydd—weithiau yr oedd yno groesi cleddyfau. Tra llefarai un dyn el farn yn hyglyw, anghydsyniodd y Deon Weldon ag e yn uchel o'r tu ol iddo. Trodd y siaradwr ato, a dywedodd, 'Well, Ioan't help that (anghydsy i > i ad y deon) but I must speak what I believe.' Pob parch iddo am ei annibyniaeth wrol a boneddigaidd. Fe ddywedwyd un peth ddydd Mercher a wnaeth i chwerthiniad iachus dori allan dros yr holl dorf. Yr oedd Miss Soulsby wedi dweyd 81 bod yn credu yn yr hen:arferiad o drefn trafaelu yn yr hen amser-style y pillion-y dyn yn mlaenaf a'r wraig ar y pillin tu ol. Felly, meddai hi, y dylai fod yn awr-y gwr i arwain a'r wraig i ddilyn. Ac meddai gwr o siaradwr yn ei dilyn, Ie,' meddai, y pillion style sydd oreu-y gwr yn gyntaf a'r wraig y tu ol-y ddau yn symud ymlaen ochr yn ochr (chwerthia braf) a'r dyn druan yn methu deall paham y chwarddent, ond pan eglurwyd iddo ymddi- heurodd ond gwadodd mai Gwyddel oedd sercb iddo wneyd 'Irish bun.' Ar ei ol ef daeth un arall i ddweyd mai nid dyddiau y pillion oedd hi yn awr, ond dydd y side-tar a'r fnwyaf medrus i ddrivo. Creodd hyn dipyn o ddyddordeb yn y gweithrediadau. Wrth grynhoi dadl fywiog i fyny, dywed- odd y llywydd y dylai fod yn y dyn goreu rywbeth o'r bachgen ac o'r fenyw, ac yn y fenyw oreu ceir gwir ddyndod (manliness), yr hyn a wnaeth i mi feddwl am y bachgen hwnw a ddywedodd wrth el fam ar amser o bryder, Mother be a tnan Ac y mae yn eithaf cywir ar lawer adeg i ddweyd mae'r fenyw, yn enwedig y fam, yw'r dyn. DTDD IAU. Testyn y dydd hwn oedd Teyrnas Dduw a'r gwahanol Genhedloedd/—'The Kingdom of God and the Races.' Yn y boreu, o 10.30 -1.15 p.m., ymdriniwyd a'r berthynas sydd rhwng cenhedloedd gwareiddiedig ac anwar- aidd, i raddau mawr. I Iarll Selborne, Esgob Cameron, Syr Syd- ney Olivier, a Mr. E. D. Morel (arwr y Congo), oeddynt y prif siaradwyr. Cafwyd gwledd gan y rhai hyn oil. Dynion profiad- ol yn deall eu pwnc yn drwyadl bob un. i.30 p.m.—Ar yr awr yma, cafwyd cyfar- fod i wrthdystio yn erbyn Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Yr oedd prydnawn dydd lau wedi cael el roi o'r nellldu i'r aelodau fyned i weled golygfeydd y dref a'r cylch, i ymweled a'r Docks, ac ag un o'r Liners' mawr, &c., ac ofnid na fyddai y cyfarfod hwn yn rhyv lwyddianus iawn. Ond pan ddaeth yr awr, yr oedd yno ddwy fil a rhagor yn yr adeilad, a dyma'r cyfarfod mwyaf cynes a brwdfrydlg o holl gyfarfodydd y Gyngres. Llywyddwyd gan Esgob Win- chester, yr hwn, wrth gynyg y penderfyniad, a ddywedodd eiriau gwerthfawr a phwysfawr, a phan ddywedodd fod calon a chydwybod a hall nerth yr Eglwys yu Lloegr o blaid Eg- lwys Cymru yn ei hymgyrch yn erbyn y Mesur, ategwyd ei eiriau gan 'cheers' byddar. ol y cynulliad mawr—y rhai a gynrychiolent bob rhan o'r wlad ben-bwy-gilydd. 'It is not to be a long, but a strong meeting,' meddai'r cadeirydd a strong oedd e. Pwysleisiodd y ffaith fod y mudiad yn erbyn y Mesur yn fudiad crefydd. ol o'r dyfnaf. A dywedodd nad oedd dim mwy gwrthun ac atgas na chlywed pleldwyr y Mesur yn son am danynt eu hunain fel Ym- ddiriedolwyr eiddo cenedlaethol, a hwythau yn gwybod yn ddigon da mai eiddo yr Eglwys yw yr eiddo wedi bod erioed—eiddo at was- anaethu y genedl, mae'n wir, ond trwy offer- ynoliaeth yr Eglwys a'i chyfundrefn. Pharls- jeaeth pur, meddai, y w s6n am eiddo cenedl- aethol.' To me,' meddai'r Esgob, it is naus eous,' a dyma gymeradwyaeth fel swn taran oddi wrth y dorf fawr i ategu a chadarnhau ei eiriau. Esgobion Llanelwy a Thy Ddewi oedd yr unig siaradwyr, a gwnaethant areithiau peni- gamp. Poethodd y cynulliad dan eu geiriau nes sefyll ar eu traed fwy nag unwaith i ddangos eu penderfyniad i ymladd hyd y diwedd yn ddi-ildio. Pasiwyd y penderfyn- iad yn ddiwrthwynebiad. Pan ddywedodd Esgob Ty Ddewi, It is not straightforward statesmanship—it may be clever tactics, but it is not fair play,' braidd na chlywidy cheers yn Llanbedr, gan mor llawn o gydymdeimlad oedd y cynulliad a points smart a galluog y ddau Esgob. All in favour of motion say Aye,' ac yr wyf yn el glywed o hyd gan mor uchel a phenderfynol y daeth o enau y mil- oedd. PETHAU ERAILL. Gwelais rai o'r Eglwysydd. Bedyddfan dilin iawn yn y Eglwys St. Mihangel, fel yr un yn Westminster, o farmor du—un mawr sgwar a cherfluniau cywrain. Lectern bres o'r 14eg ganrif. Gwelais eglwys lie y ceir gwasanaeth yn y Ffrancaeg wrth ymyl hon y mae y Godly Houses, lie rhoddir tair ystafell yr un i bed war o ddynion a phedair o wragedd a 12s. yr wythnos. Gwelais un o honynt, yn 91 mlwydd oed. Gwelais y golofn goffadwr- iaethol i'r Pilgrim Fathers, a llun y May- flower' ar ei phen bum o amgylch hen furiau y ddinas gwelais y porth gorllewinol trwy yr hwn yr aeth y milwyr i ymladd brwydr Agincourt. Yn mhellach i lawr yr oedd hen balas y Breuin loan, ac wrth ymyl y Wool House, lie pwysid y owilui pan oedd y gwl&n yn amser Edward III. yn brif export' Lloegr. CD YR HXHlBITieN. Dyddorol iawn oedd hon fel arfer. Hen Feiblau, Llyfrau Gweddi, Missals, dodrefn y cvsegr hen a newydd, desk y Parch. John Keble, basin a ddefnyddid gan Oliver Crom- well yn 1664 cyn brwydr Newbury, y Ramsey Psalter, Pilgrim Bottle (pewter 1685), oriawr Esgob Ken a'i Destament Groeg. llythyr o waith Oliver Cromwell, Black letter breeches Bible 1580, a llu o bethau dyddorol eraill. CHURCH LADS' BRIGADE. Dydd Mercher, gwelais rhwng 700 a 800 o Church Lads' Brigades' a I Scouts' yn eael eu reviewo gan Arglwydd Grenfell, bonedd- wr o filwr yn hanu o Abertawe. Yr oedd y bechgyn yn myned trwy eu gwaith yn dda iawn, a'r Cadfridog wedi ei foddloni yn fawr gyda'u drill, &-c. MWBDD. Wei, dyma rhyw ychydig o hanes fy ym- weliad a'r Gyngres. Drwg ge nyf nad yw yn well. Cefais amser da, tywydd rhagorol, a mwyniant mawr. Fe gollais gyfarfodydd dydd Gwener. Diweddwyd (fe glywais) gyda canu'r Te Deum diwedd prydferth a phriodol.

TREFDRAETH PENFRO

TREFDRAETH, PENFRO. Dydd Mercher, drwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Bowen, Llwyngwair, gwahoddwyd nifer o bleidleiswyr Ceidwadol Trefdraeth a'r cylch i gyfarfod ag aelodau Cymdeithas Undebol Menywod Sir Benfro. Ymhlith y dorf, yr oedd yn dda genym gweled y Parchn. D. G. Phillips, D.G., Kernes; J. Morgan, Parrog, ac Ebenezer Richards, rheithor Llanllawer. Buwyd yn llwyddianus lawn yn y tywydd, oblegid yr oedd yr hin yn ardderchog, a chaf- wyd y pleser o weled amgylchoedd prydferth Llwyngwair ar eu goreu, yr hyn sydd yn ddigon o wledd heb son am ddim arall. Ymhell cyn cyraedd y palas, canfyddem y llieiniau gwynion yn amdoi nifer o fyrddau o flaen y ty, y rhai oedd yn llwythog o'r bwyd- ydd goreu, y rhai, hefyd, fyddai yn sicr o demtio y Suffraget' penboethaf. Gwelem, hefyd, amrywiol fanerau amryliw yn ymdoni ar yr awel fwynaidd. Ar ol gwneyd cyfiawnder hollol a'r tê, y bara L ?c- brith a'r melus-fwydydd eraill, symudwyd i fangre gerllaw y Llysieufa, ac yno cafwyd gwledd berswynol o ryw arall, sef cerddoriaeth offerynol a Ueisiol gan ferched hynaws Llwyn- gwair, sef Mrs. Evans, Ffrwdgrech, a Misses Blanche, Easter, a Joan Bowen. Wedi gor- phen y canu, cychwynwyd y wledd areith- yddol gan Mr. G. B. Bowen, y cadeirydd, ac yn ei araeth cafwyd cyfeiriadau hyaod eff- eithiol ynghylch yr helynt enbyd sydd yn yr Iwerddon a manau eraill o'r wlad. A hawdd gwybod oddi wrth y modd yr oedd Mr. Bowen yn trin y mater ei fod ef yn gallu canfod o bell holl ddichellion a chyfrwystra Pat. Siaradwyd yn nerthol hefyd gan Mr. Marlay Samson, ymgeisydd Undebol sir Benfro. Ym- driniodd yn feistrolgar ar y pynciau pwysig, Llywodraeth Gartrefol, a Dadwaddoliad yr Eglwys, a lloriodd y biliau au cefnogwyr, drwy ddangos perygl un, ac anghyfiawnder y Hall. Yn olynol cafwyd araeth yn Gymraeg a Saesneg gan Mr. Davies, Abertawe. Trueni fod yr araeth Gymraeg mor fer, ond rhaid ei ganmol, oblegid cafwyd araeth odidog ganddo ar amryw bynciau. Ymhlith pethau eraill sylwodd yn gryf ar y Fasnach Rydd, a chwynai Mr. Davies o achos fod gweithwyr Prydain Fawr yn cefnogi yr hyn sydd yn dis- trywio- gwerth eu llafur caled. Yn olaf, eto nid y Ueiaf, areithiwyd yn effeithiol iawn gan Mr. J. B. Bowen. Tynodd sylw y gwrandawyr at anghysondeb a ffaeledd y Llywodraeth bresenel, yr hyn sydd yn taflu ac yn achosi terfysgoedd drwy yr holl wlad. Cyn gorphen y drydedd wledd, cafwyd araeth fer bwrpasol gan Mrs. Howell Walters, ar am- can y Gymdeithas Fenywaidd, sef cynorthwyo y Ceidwadwyr i gadw undeb y deyrnas yn nghwlwm tangnefedd, a phob rhinwedd duwiol arall. Terfynwyd y eyfarfod hwn fel eraill, drwy dalu diolch. Diolchodd Miss B. Bowen yn ddeheuig iawn i'r gwahanol areithwyr am eu hareithiau grymus, ac eiliwyd gan Mr. J. LI. Havard, y goruchwyliwr Ceidwadol. Diolchwyd i Mr. Bowen am gadeirio, ac hefyd iddo ef a Mrs. Bowen am eu haelioni yn rhodiad y wledd gyntaf gan Mr. H. R. Felix, ac eiliwyd gan Mr. E. Lewis, Blaenmeini. Wedi canu yr anthem genedlaethol, aeth pawb adref yn Hawen, ie, a gobeithio i fyfyrio yn astud ar yr hyn glywyd, a chyfranu y wybod- aeth i eraill, fel bod llesyn deilliaw oddi wrth ymdrechion ac amcanion arweinwyr ein gwlad.-Un diolchgar.

LLANRUG

LLANRUG. GWFL ST. MIHANGEL A'R HOLL ASGYLIOS. —Cynhaliwyd yr Ayl hon eieni yn yr eglwys uchod ar y 29iu a'r 30ain o fis Medi. Dechreuwyd gyda Gosper a phregeth nos Lun, am 7.30. Dydd Mawrth, am 8, Cytnun Bendigaid; 10, Litani a phregeth; 11, Boreuol Weddi a phregeth, yn Saesneg; 2, anerchiad yn yr eglwys i weithwyr yr Eglwys, i aelodau Undeb y Mamau, a'r District Visitors,' a therfynwyd gyda Gosper a phre- geth am G. Y cenhadwr y flwyddyn hon ydoedd y Parch. J. A. Rees, B.A., rheithor- Rhoscolyn. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog, yn enwedig nos Fawrth, pryd yr oedd yr hen adeilad cysegredig yn orlawn o addolwyr parchus a defosiynol. Traddodwyd pregeth- au, a rhoddwyd addysgiadau ar brif bynciau y Ffydd Gatholig, gan y cenhadwr, ac mae He i gasglu fod pawb wedi cael mwynhad dir- fawr wrth ei glywed yn egluro mewn modd I syml ddefodau yr Eglwys. Yn y prydnawn, rhoddodd anogaeth i bawb i fod yn fwy gweithgar yn ngwasanaeth yr Arglwydd trwy ganlyn esiampl yr angylion sanctaiad yn eu zel, eu gweithgarweh, a hefyd eu gweddeidd-dra yn mhresenoldeb Duw. Nid oedd y cynulliad y prydnawn yr hyn ddy- lasai fod. Y mae pawb yn ddiolchgar i'r cenhadwr am ei gynghorion pwysig, a mawr obeithir y ceir gweled ffrwyth ei lafur caled I yn y plwyf hwn heb fod yn hir, oherwydd dyna yr unig beth a rydd galondid iddo I yntau i fod yn genhadwr ffyddlon a diwyd dros Iesu Grist. Llawenydd calon oedd i ni weled offeiriaid v plwyfi cylchynol yn bresenol, sef ein Deon Gwlidol, ficer Llanfairisgaer Parch. J. Salt, Mrs. a Miss Salt, Llandinorwic, a'r Parch. E. E. Hughes, St. Helens. Cynorthwywyd y Cen- hadwr yn y gwasanaethau gan yr offeiriaid plwyfol, y Parchn. D. Rees a D. Thomas. — r Cafwyd casgliadau sylweddol yu ystod yr wyl a rhoddwyd yr oil i gronfa y curad. "PRAYER DESK "—Cyflwvnwyd at wasan- aeth Daw, am bob amser, Prayer Desk,' yn Eglwys y plwyf, JI1 y gwasanieth hwyrol dydd Sul. Cymerwyd y gweddiau a'r ffurf o gysegru allan o'r hyn a elwir A Manual of Offices for severa! occasions in the Diocese of Bloemfontein.' Cymer.vyd y gwasanaeth neillduol gan y rheithor, y Parch. D. Rees. Er cof am Owen Griffith, Ty'nywinllan, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain angeuol flwyddyn yn ol, y gosodwyd y dodrefnyn hwn yn yr Eglwys.

LLANBEDRPO NTSTEPHAN

LLANBEDR-PO NT-STEPHAN. CYFLWYXiAf ANRHEG.—Yr wythnos ddi- weddaf, yn ysgol St. loan, Pembroke Dock, cyflwynwyd anrheg o oriawr a chroes aur i'r Parch. R. Keble Williams, B.A., un o guradiald y dref hon, gan el gyfeillion yn nhref y dociau, lie y bu yn gwasanaethu yn ffyddlon fel curad am bum' mlynedd. Gwnaed y cyflwyniad gan y Parch. D. L. Prosser, M.A., ficer, yr hwn a gyfeiriodd at ffyddlondeb a theyrngarwch Mr. Williams fel offeiriaid cynorthwyol, ac anerchwyd y cyfarfod gan amryw ereill, y rhai hefyd a ddygent dystiol- aeth i'r gwaith da a gyflawnwyd ganddo yn eu plith, ac a ddymunent bob benditla iddo yn y dyfodol. Diolchodd y Parch. R. Keble Williams iddynt mewn anerchiad teimladwy am eu caredigrwydd, a therfynwyd cyfarfod dyddorol gyda'r diolchiadau arferol. GOBEITHLU YR EGLWYS.—Dechreuwyd cy- farfodydd Grobeithlu yr Eglwys nos Lun diweddaf, pan y daeth cynulliadau da o blant ynghyd. Mae y cyfarfodydd hyn yn rhwym o fod o werth dirfawr i'r plant, a gobeithio y bydd i rieni ofalu anfon eu plant yn brydlon a chyson i'r cyfarfodydd. LLWYDDIANT COLEGAWL.—Da genyf gael llongyfarch Mr. D. Rees Jones, efrydydd yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, ar ei waith yn pasio arholiad Ysgrythyrol pwysig yn y Coleg hwnw yr wythnos hon. Mab yw i Mr. W. Jones, un o'n wardeiniaid yma, a dymun- iad pawb yw iddo esgyn y ris tichaf yn y Coleg. Yr wythnos ddiweddaf, pasiodd Mr. Archibald O. Jones, mab Mr D. Jones, Britannia Stores, arholiad caled yn yr iaith Roeg yn Rhydychain. Cymydogion agos yw y ddau ysgolhaig, bechgyn da ac addawol, a'r ddau wedi bod yn aelodau ffyddawn yn nghdr eglwys y plwyf. COLEG DEWI SANT.- Ymgeisiodd dros 60 o fyfyrwyr Coleg Dewi Sant am ysgoloriaethau ddyddiau Mawrth a Mercher. Cyhoeddir y canlyniadau yn y rhifyn nesyf. Bydd yr holl fyfyrwr yn dychwelyd 0'1'1 gwyliau yr wythnos nesaf, ac eir ymlaen a dechreu tymor v Nadolig.-X.

LLANDUDNO

LLANDUDNO. EGLWTS ST. TUVNO.- Y mae y gwasan- aethau ar y Sul wedi gorpben am y flwyddyn hon, ac y mae'r gwasanaethau hyn wedi bod yn hynod o boblogaidd yr haf yma. Yr oedd y tywydd mor ffafriol fel y caed cynulleidfaoedd mawrion yn yr awyr adored. ApwyNTIAD. Da genym ddeall fod y Parch. Daniel Thomas, Cwmyglo, wedi ei apwyntio fel offeiriad cynorthwyol i'r plwyf, a sicrhawn Mr. Thomas y caiff dderbyniad croesawgar i Landudno pan y claw i'n plith. YMAUAWIAD.—Ymadawodd Mr. D. Morgan Richards, Darowen, yr hwn fu yn cyn- orthwyo yn ystod yr haf fel darllenydd lleygol yn Bodafon. Bydd yn ail-ddechreu ar ei waith colegawl yn Rhydychain ymhen ychydig ddyddiau. CYMDEITHA* Y BRYTHOMAID.—Cyfarfu ael- odau o'r pwyllgor gyda'r Llywydd a'r Is- lywyddion am y tymor ddwywaith i dynu rhaglen ar gyfer eleni. Da genym ddweyd fod rhagolygon disglaer am gyfarfodydd dyddorol, a deallwn fod yna ddau offeiriad wedi addaw darlien papyrau, a lleygwr dysgedig-adnabyddus iawn yn Nghymru. Cawn anfon y manylioll yn ddiweddarach ynglyn a'r testynau. Cyfarfu Pwyllgor y St. Tudno's Guilddre yn ol, ac y maent wedi gadael y gwaith o drefnu y testynau a'r siaradwyr i'r Is- bwyllgor. Dyna y cwbl o newyddiou am y plwyf yn awr, Mr. Golygydd. Cewcii ych- waneg fel yr awn ymlaen.