Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
Nodiadau ar yr Actau

Nodiadau ar yr Actau. Yr Olyniaeth .A postokÚdd. Un anican o'r Ymgnawdoliad ydoedd sefydlu cymcleithas grefyddol i bregethu Efengyl Crist ac i gymhwyso at ddyn fen- dithion ysprydol ei Aberth a'i Gyfryngdod. Ysgrifennodd ar y llwch unwaith ond dim gair ar lyfr i'w esponio gan bob oes 1. ddelai yn ol ei barn ei hun. Teslyn Ei bregethu ydoedd egwyddorion a'r gwir am ei Berson Dwyfol ei Hun. Sicrhaodd gartref sefydlog iddynt mewn cymdeit-has (onide, darfod a diflasiu a wnaethent), syl- faenwyd gan Ei Apostolion wedi eu hadd- ysgu a'u hyfforddi yn fanwl ganddo. Gadawodd iddyut htvy dan ddylauwad yi Yspryd Glan drefnu cyfundrefn y gym- deithas a datblygu ei chyfluniaeth (organi- sation) a darparu rheolau a defodau ar gyfer y dychweledigioD, fel byddai r angen yn codi. Yn rhinwedd eu hawdurdod fel goruchwylwyr gwrthodasant arfenon 0 I ddwyfol osodiad megys enwaediad (o ran y cenedl-ddyn) a'r Sabbath ar y seithfed dydd, a derbyniwyd eu bespomadau ar fvwyd Crist a'u hatiirawiactliau fel rhan hanfodol o'r efengyl. Swyddogion anghy- ffredin oedd yr Apostolion yn meddu ar ddoniau anghyffredin, rhai i barhau dros dymor yn unig megys cyflawni gwyrthiau, eraill i'w trosglwyddo megys yr awdurdoa i weinyddu'r sacramentau, i benderfy-nu pynciau'r ffydd ac i fod yu gyfryngau y derbynid drwyddynt ddoniau ysprydol a bendithion arbennig oddiwrth Dduw. Ai trais ar reswm yw dal hyn ? Os ydyw, fe gyfeiliornodd yr Eglwys (a hithau yn gyf- lawn o ddoniau'r Pentecost a S. loan eto n fvw) cyn dechreu'r a;l ganrif o.c., ac ar hyd yr oesau yn ei hcsponiad o'r weinidog- aeth. j j Bu farw'r Apostolion y dywedwyd wrthynt, "Megys y danfonodd y Tad fi, yr wyf Finnau yn eich danfon chwi." ac eto iddvnt hwy y llefarwyd y geiriau, "Wele yr wyf Fi gyda chwi bob amser hyd ddi- wedd y byd." Yn ol gosodiad yr Eglwys cyflawnir yr addewid rasol hon ym modol- aeth yr Olyniaeth Apowtolaidd, drwy yr hon y cedwir ac y diogelir awdurdod a swydd Apostol yn eu grym hyd ddiwedd y byd, ac yr ardystir fod yr hawl i weinvddu sacramentau yn dyfod oddifry ac nid oddt, isod, o Dduw ac nid o ddyn. Dym-a giiew- yllyn yr athrawiaeth. Gall cynulleidfa enwi a phenodi offeiriad, eithr nis gallant ei gysegru a'i ordeinio i'r gwaith. Oddi- uchod y mae r romisiwn. Nid yw'r olyn- iaeth yn dibynnu ar dair urdd. Ni fyddai tor neu wall ynddi, pe byddai r holl offeir- iaid plwyf mewn esgobaeth neu wlad yn esgobion urddedig i gyd. Yr hyn a'i dis- trywiai, fyddai i fagad o offeiriaid ymgy- meryd ag ordeinio rhywun i swydd offeir- iad, fel y gwnaeth Charles Wesley, neu i gynulleidfa benodi un o'u plith drwy bleid- iais i weinyddu'r Cymun, neu i rywun oaod ei hun yn y swydd gan ddweyd fod llais Duw yn ei gydwybod yn ei awdurdodi. Heb. v, 4. Ni chyfrifwyd S. Paul yn fewyddog yn yr Eglwys, er ei alw gan yr Arglwydd Iesu ei hun, nes ei ddanfon drwy arddodiad dwylaw yr Apostolion, Act. xiii, 2. 3. Beth bynnag oedd swydd offeiriadol henadur yn yr eglwys, ymddengys fod yr Apostolion a S. Paul a'r rhai a benodwyd ganddynt megys Timothy a Titus yn uwch eu swydd. Dwy urdd yn unig fe ddichon, sef diac- oniaid a'r henuriaid, a fodolai am beth amser yn Rhufain ac yn Alexandria, os na chamarweiniwyd J erome-canys efe sydd yn ei ddweyd—gan rai o elynion S. Athan aaius. Os gwir hyn, rhfyedd iddo ysgrif- fennu mewn man arall, "Beth sydd oddieithr ordeinio, nas gall henadur ei wneyd yn gystal ag esgob?" Y tebyg yw fod y cyf- ryw henaduriaid wedi eu cynysgaeddu a ewydd yr offeiriadaeth yn ei chyflawnder, gyda'r hawlfraint i neillduo unrhyw u17 d'u plith at waith esgob. Dyma'r espon- iad goreu ar 1. Tim. iv. 14, ac ar 'esgobion' Phil, i, 1. Ymhob man arall ar hyd a lied gwledydd cred gwelir y tair urdd a dim ond y tair. Mae llythyrau S. Ignatius (disgybl S. loan, un a wyddai feddwl yr Iesu yn well na neb) mor fore a 110 o.c. yn bendnnt o ochr y tair. Pe glaniai dyrn- aid o Eglwyswyr ar ryw ynys anghyfanedd, nis gallent" ffurfio eglwys' fel y dywedir. Byddai raid anfon am offeiliad cyn cael cymun ac am esgob cyn cael arddodiad dwylaw. Y mae teulu'r bedyddiedig yn gyfangorff y perthyn iddo fel cyfangorff "offeiriadaeth sanctaidd," 1. S. Pedr, ii, 5, eithr megys mewn corff dynol y mae rhai o'r aelodau wedi eu neillduo at ddibenion ar- benig (y genau, y dwylaw, y llygaid, pob un ohonynt a'i waith priodol ac wedi eu dosparthu felly rhag anrhefn ac er mwyn hylwysdod), felly hefyd yn y corff Eglwysig neillduir rhai o'r aelodau at weinyddu'r fiacramontau er lies y lleill, megys dwylaw i weithredu dros y corff eithr afreolaidd, hyson a thraddodiad ac yn groes i arfer- iad hynach na'r T.N. fyddai neillduo neb heb ddwylaw e.:¡goh ac felly dori bwlch yn yr Olyniaeth. Serch hynny nid gwadu 11 In n efIelthlOlrwydd yw hyn yng ngweinidog- aeth yr Ymneillduwyi". Yn amser di- eithriol y T.N., ni fu ei gyffelib gynt nac wedyn. gorlifodd tywalltiad yr Yspryd Glan fel afon dros ei glannau: yn y tair canrif ddiweddaf gwelwyd Ef etc yn gweithredu yn nerthol ymlilith yr en- wadau, ac ym mywyd pur dilychwin rhai naa arddelent unrhyw ordinhad neu weim- dogaeth. Mae bendith Duw a'i raslon- rwydd yn rhy helaeth a thoreithiog i'w eyfyngu o fewn terfynau penodedig, ac yn ddiameu y mae ganddo ffordd i achub tu allan i drefn yr Eglwys Gatholig, trefn y gwelir ei seiliau a'i hegwyddor yn amiwg yn y T.N. Ond bai mawr ar Eglwyswyr fyddai troi o'r hen ffordd freiniol a. i cheiTig milltir yn gerrig beddau apostolion, mer- thyri a thadau Eglwysig, a mil-fyrddiwn o seintiau wedi ei throedio dan orfoleddu tua'r nef. Heb esgob heb eglwys. Gwasariafthau r Kgluvys. Ar y dechreu arferai'r Apostolion gyda phob Cristion o Iddew, tra yn aros yn Jerusalem, fynychu gwasanaethau arferol y deml beunydd (bore, prynhawn a hwyr). Act. ii, 46. iii, 1, gan bregtehu yn ei chyn- teddau nes Ilenwi r ddina-s a'u hathraw- ieth v, 28. Ymddengys hefyd y cedwid naw a'r gloch y bore i goffau dyfodiad yr Yspiyd Glan ii, 15, a chanol dydd yn awr gweddi x, 9. Ymhen amser ychwanegwyd dwy awr arall, sef canol nos a phlygain, ac erbyn y 4edd ganrif arferai'r mynachlog- ydd gynnaJ eu 'Horiau' gweddi scithwaith yn y dydd yn ol esiampl y Salmydd, Salm 119, adnod 164. Gelwir hwynt yu Gym- raeg Pylgeint (6 a.m.), Bore neu Awr Brim (9), Anterth (12). Nawn (3 p.m7, Gosper neu Echwydd (6), Complin neu Hwyr (9), Ucher (12). Cadwai myneich S. Benedict o'r flwyddyn 528 o.c. un awr arall, sef. Dewaint (3 a.m.). Yn yr Eglwysydd plwyf gwasanaethid yn y bore a'r hwyr yn unig. Crynhoad a thalfyriad o'r 'oriau' yw y Weddi Foreol a IIwyr a arferwn, a dylid eu cael yn ol cyfar- wyddyd pendant y Llyfr Gweddi ymhob plwyf mewn rhyw eglwys neu gilydd yn feunyddiol. Mae "pob offeiriad a diacon yn rhwymedig i ddywedyd L< unydd y Forrol a'r Brydnhawnol Weddi' mewn eglwys os bydd modd yn y byd (ni thai unrhyw esgus oddieithr afiecliyd trwm), boed cynulleidfa neu beidio. Yn rhin- wedd eu sWJdd rhaid iddynt fod ar eu gliniau yn yr eglwys yn gweddio dros y praidd a rwystrir gan eu gcrchwylion rhag dyfod. Torri Bara. Cedwid y Sabbath yn ogysfcal a'r Sul lle cwympo Jerusalem a thorri'r hen gysyllt- iadau ag Iddewaeth o herwydd ei gelyn- iaeth. Yna mabwysiadwyd y drefn Rufeinig o gyfrif y dydd i ddechveu am hanner nos yn lie 6 (p.m.) y noson gynt yn ol arfer yr Iddewon. Y canlyniad fu newid amser Swper yr Arglwydd. Pan beidiodd yr Eglwys a meddwl mwyach fod dydd yr Arglwydd, sef y dydd cyntaf o'r wythnos, yn dechreu am 6 (p.m.) nos Sadwrn, symudwyd awr y Cymun i fore Sul cyn glasiad dydd, gyda'r amcan o gadw agosed ag oedd modd at amser ad.- gyfodiad y Gwaredwr, a gohiriwyd i ryw amser arall y gamiu-wledd (Agape) elai gyda'r Cymun gynt. Mewn ambell i fan am ganrifoedd fe weinyddid y Cymun nos Sadwrn ar waeth- af gwg yr awdurdodau (hirhoedlog yw pob hen arfer), ac mewn mannau eraill ar nos Iau y Cablyd (= y Cabin, neu Capillatio adeg eillio'r corun i'r myneich), sef y noswaitli cyn Gwener y Groglith; ond am Gymun nos Sul nid oes son na hanes yn yr Eglwys tan rywle tua 1850, pan fenthyciwyd arfer yr Enwadau, arfer seiliedig ar gamddealldwriaeth o'r Ys- grythyr, canys yno wedi hanner no•« yw'r amser, Act. xx, 7. 11. Gweinyddir yn awr y Cymun Bendigaid mewn llawer eglwys beunydd yn ein trefydd mawr yn ol dull yr Apostolion, Act. ii, 42. Os gor- mod o beth yw hyn yn y wlad, dylid rhoddi'r cymun o leiaf bob Sul a gwyl y.) ol amcan a bwriad y Llyfr Gweddi wrth benodi Colectau, etc., priodol ar eu cyfer. Trefn y CJivasanafthav. Dengys y Fannod (Y) a welir yn y gwreiddiol cyn gweddi a yweddiau, Act. i, 14. ii. 42. vi, 4. y defnyddid rhyw ffurf neillduol o weddi, yn ddiameu y Paler a olygir, ac wrth dorri bara ail-adroddiad o eiriau Crist yn yr ouwch-ystafell. Cenit; Salmau ac Emynau (er nas ceir ond darnau o honynt yn y T.N. 1. Cor. xv, 42. I. Tim iii, 16. 1. Tim. 2, 11. 12. go eithrio'r Magnificat a'r Nunc Dimittis (S. Luo. i. ii). Darllenid hefyd adrannau o'r H.D., yn bennaf proffwydoliaethan am y Messiah, a gwrandewid ar yr AposWior, yn cynghori ac yn athrawiaethu 4. Crynhoad a sylwedd eu pregetliati yw Credo'r Apostolion.

TYDDYNGWYN

TYDDYNGWYN. Nos Fawrth diweddaf, yn Ysgol y Manod, am 7 o'r gloch, traddodwyd darlith ddyddorol gan t, y Parch. W. G. Jones, curad, ar 'Ddyfodiad yr Efengyl i'r wlad hon,' yn cael ei hegluro trwy ddar- luniau gyda'r hud-lusern. Cychwynodd Mr. Jones gyda hanes yr Eglwys ar ddydd y Pentecost (Act. ii.), a daeth a 111 gyda' hanes yr Apostol St. Paul o Jerusalem i Rufain, m oddi yno i wlad y gorllewin f?, y tybir gan rai i'r Apostol ymweled gwlad ni ar ol ei garchariad cyntaf yh Rhufain. Dangoswyd hefyd olion yr hen Eglwysydd yn y wlan lion, pan ddaeth y Rhufeiniaid yma. a chredir yn gryf mai Derwyddiaeth oedd crefydd y wlad hon yn y canrifoedd cyntaf. Dylem ddiolch o waelod calon fod Efengyl Mab Duw yn cael ei chyboeddi ymhob cwr o'r wlad yn bre- y senol. Yr oedd Mr. Jones yn bur hyddysg yn yr hanes, a mawr ddiolchwn iddo am ei ddarlith ragorol. Llywyddwyd y cyfar- fod gan Mr. Richard Lewis, a diweddwyd trwy ganu emyn. PREGETHWII DYEITHR. Y Sul diweddaf cawsom y pleset. o wrandaw yu yr Eglwys uchod ar y Parch. R. Ward yn traddodi y genadwri. Mae vii gwasanaethu yn y plwyf hwn i aros y Rheithor newydd i'w le; hefyd deallwn mai efe yw olynydd Parch W. J. Williams, Llanaber, Abor maw. Mae yn draddodwr hyawdl a deail- adwy.

Eisteddfod y Plant yn Llanllyfni

Eisteddfod y Plant yn Llanllyfni. Cynhaliwyd yr uchod nos Wener a Sadwrn, Tachwedd 21ain a'r 22ain. Nos Wener, yn absenoldeb Dr. Davies, Peny- groes, cymerwyd y gadair gan Mr. Linton, ysgolfeistr yr Ysgol Ganolraddol. Nos Sadwrn, yn absenoldeb Mr. Dyson, Taly- sarn, cymerwyd y gadair gan Mr Thomas, Glen-cot, Talysam. Arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd v Parch. R. R. Hughes, rheithor. Cyfeilydd, Mr. Harold Dobb, Bangor. Beirniad Cerddorol, Mr. Jones- Owen, F.C.M., L.T.S., Bangor. Beirniad Traethodau, Parch. D. J. Jones, B.A., Diocesan Inspector, Pwllheli. Barddon- iaeth, Parch. John Davies (Isfryn). Cat- echism, Parch. R. Roberts, St. Thomas, a Mr. Ellis. Penfforddelen, Arholiadau Ysgrifened'g, Parch. D. J. Jones. Arhol- iadau Llafaredig, Mr. Edwards, Llan- dNN-rog, a Mr. Richard Jones, Clynnog. Adroddiadau, Parch. John Daviss (Isfiyn). Amrywiaeth, Mr. Griffiths, Bronfoel C. School; Mrs. Robinson Talysarn; Mrs. Dr. Davies, Penygroes; Mrs. Thomas, Glen-cot; Mrs. Williams, Talyllyn; Mrs. Hughes, Rectory; Miss Griffith, Cochrwd House; Mr. Edward Thomas, Glen-cot; Mr. Edward Williams. Gelli Bach; Mrs. Griffith Griffiths, Penygroes; Miss Wil- liams, Gerlan TRAETHODAU. 'Gwyliau r Eglwys, eu hanes a'u Hadd- ysg, a'r Pwysigrwydd o'u cadw': 1, Miss Nellie Wood Griffiths, Penygroes. 'Cariad Brawdol,' i rai dan 20 oed: 1, Nellie Wood Griffiths; 2, Kate Hughes, Penygroes. 'Bywyd Joshua, a'i nodweddion,' dan 18 oed: 1, Mr. John Alun Thomas,. BARDDONIAETH. Beddargraph i'r ddiweddar Miss Martha Roberts, Llwydcoed Bach, Llanllyfni: 1, Mr. John Charles Jones, Tatysarn. Marwnad i'r diweddar Mr. Henry Hughes, Penygroes: 1, John Williams. Penygroes. CERDDORIAETH. Corau Plant 1, Sant Rhedyw, Llan- llyfni. Unawd soprano neu denor: 1, Mr. John Roberts. Canu penillion, ar yr alaw 'Penrhaw*: 1, OIwen; 2, Eleanor Ellis; 3, Annie Wood Griffith; 4 (cydradd). Maggie Jones a Annie Humphreys. Ton i blant, dan 14 oed, 'CaswalT: 1, Jennie Roberts, Nellie Thompson. Unawd i blant, 'Aderyn Pur': 1, Annie Wood Griffiths; 2, Annie Humphreys; 3, Mary W. Jones. Her-unawd, rhydd i'r byd, 'Bore tryd- ydd dydd': 1, Evan W. Williams, Talysarn Unawd, rhydd i'r byd, i rai dan 16 oed 'Cartref': 1, Annie Wood Griffiths; 2, Hannah E. Owen. Deuawd, rhydd i'r byd, i rai dan 14 oed, '0 mor hardd yw Iesu Grist': 1, Annie Wood Griffiths a Maggie Parry; 2, Mary a Hannah. I barti o ddeg o blant dan 18 oed, 'Lili'r Dwr': Parti St. Rhedyw. Unrhyw chwareuad ar offeryn chwytb: 1, Willie Jeffreys, Penygroes. CATECISM. Gofyniadau a'r termau: Cydradd 1, Gracie Jones, Evelyn Wood Griffith. Yr oil o'r Catecism: 1. Alice Grey Grif- fith; 2, Annie W. Griffith; 3, Richard Emyr Thomas. Catecism hyd ddiwedd y Dyledswyddau 1, Annie Roberts; 2, Martha Jones; 3, Johnnie Thomas. Credo a'r Deg Gorchymyn: 1, Idwal Jones; 2, Daniel G. Jones; 3 (cydradd), Mary E. Thomas a Gwladys Lloyd. Credo a Gweddi'r Arglwydd: 1, Jennie Hughes; 2, Violet Smith; 3, Christmas Evans; 4, Enid Thomas; 5, John Handel Griffith. ARHOLIADAU YSGRIFENEDTG. Ateb chwech o gwestiynau ar 'Hanes yr Eglwys': 1, John Alun Thomas. Ateb chwech o gwestiynau ar y Catecism (allan o'r Gwerslyfr): 1, John H. Jones; 2, Evelyn W. Griffith. ARHOLIADAU LLAFAREDIG. Ateb cwestiynau ar y Conffirniasiwn: 1, Alice Grey Griffith; 2, Mary Smith. Hanes St. Paul: 1, Annie Edwards; 2, Alice G. Griffith. Hawl ac Ateb: Cydradd, Enid Thomas a, John Handel Griffith. Dysgu allan, Catecism ar yr Yspryd Glan: Cydradd, Roily Skyi-itie a Richard Emyr Thomas. ADRODDIADAU Unrhyw adroddiad, rhydd i'r bvd: 1, Annie Wood Griffith. Adrodd. 'Yr hogyn fu'n ffeind wrth fi

Eisteddfod y Plant yn Llanllyfni

Fam' (allan o'r 'Perl'): 1, Alice Grey Griffith. Adrodd, 'Dei Dwm Dili' (allan o'r 'Perl'): 1, Daniel G. Jones. Adrodd, 'Mae genyf ddwylaw': 1, Mary E. Thomas; 2, Emlyn Jones; 3 Christmas Evans; 4, Violet Smith; 5 (cydradd), Jennie Hughes, Willie Lloyd, a John Handel Griffith. Credo St. Athanasius: 1, Mary Smith; 2, Richard Emyr Thomas. Credo Nicca: 1, Gwennie Thomas. Unrhyw Ddadl: 1, Annie a Evelyn Wood Griffith. AMRYWIAETH. Pencil sketch o Eglwys Crist, Peny- groes: John Alun Thomas. Pair of white antimacassars: Mrs. W. Jones, Llanllyfni. Night-dress case: Mrs. G. J. Griffith, Penygroes. Ffon Gollen: Henry Jones, Tyddyn Engan. Brodio twll mewn hosan: 1, Annie Edwards, 2, Florie Smith; 3, Annie W. Griffith; 4, Winnie Roberts. Button hole: Gwennie Thomas; 2, Florie Smith; 3, Annie Roberts. Hemio hankercliief: 1, Gwladys Lloyd; 2, Emily C. Jones; 3, Mary Smith. JIemo modfedd aJr galico gwyn: 1, Roily; 2, Mair; 3, Jennie Roberts. Cawsom gystadleuaethan lluosog, a chynulliadau mawrion, ac yn sicr mae'r eisteddfod wedi troi yn llwyddiant ymhob ystyT, trwy ymwrechiadau Uwyddianus y ddau ysgrifenydd gweithgar, Mri. Evan Jones a Hugh Emyr Richards. BLAENAU FFESTINIOG. DOROTHY ELSIE WEDT MARW.—Dyma y newydd torcalonus redai drwy'r ardal fore LIun dlweddaf. Syrthiai arnom gyda'r j fatli sydynrwydd fel yr oedd bron yn an-! rtxhosibl i neb ei gymeryd i fewn a'i goelio.l ,,y Cyn i ni orphen sychu ymaith ein dagrau ar ol ein cyfeillion yn y Deheudir, wele ni heddyw yn tywallt dagrau lieilltion o liir- aetli dwfn ar ol y ferch ieuanc uchod. a gymerwyd ymaith yn mlodeu ei hoes. Ni chafodd ond diwrnod o gystudd, ond hwnw yn un caled iawn, a bore LIuJl diweddaf, I pan nevyrdd adael ei phedair ar ddeg a haner, wele ei hyspryd yn hedeg ymaith at yr Hwn a'i rhoes. Fel y blodeuyn a dorrir i lawr pan yn agos i wyneb heulwen y dydd, felly hefyd y torwyd i lawr y blod- euyn prydferth hwn, pan bron yn agor i wynebu heulwen bywyd. Unig ferch Mr. y 0 a Mrs. Rowland Hughes, 20, Jones Street, ydoedd gwrthddrych yr ysgrifen hon. Bore Gwener elai yng nghwmni ei chyfeillesau tua/r ysgol, a gwen ar ei gwyneb. gan ym. ddangos yn holliach, a

Advertising

I cAOWOH EICH ARENAU YN DDA, A HWY A'CH CADWANT CHWI YN DDA. II Pob dnrhm J 8 ddyweL hanes. MRDDYG: Ai yna mae'r boen? Ah! Annhrefn yn yr Arenaa yw. Defnyddiwch BELENI ARENAU CEFNBOEN DOAN (Doaa's Backache Kidney Pills) at Boen yn y Cefn, Annhrefnau Troethol (Urinary Disorders), Orafel, Cryd Cymmalau, Dyfrglwyf (Dropsy). 1 an v cwaela yr arenau («tdneyt), gwaela yr holl gfirph. Ymlioona v cefn, cwyna yr aelodau, trymhiy niclyna y gwedd. Nis gallwch aros wrth eich gwaith fel imwaith y ^allasoch, na cherdded mor bell, na mor dda. llwyrach y sylwch ar flinderau troethol (urinary troubles), grafel, a lliw llwch pridd- t':u n y tlwfr, a natur chwyddedig y fferau. M.ynych y ceir cdr yn y pen, prydiau pensyfr- poenau crj-d cymmalau yn y llywethan a'r '\vssvlltau. be cich archwacth at fwyd yn newidiol, y galon yn gweithredu yn ddieithr; ewch yn glefychlyd, yn bntddglwyfus, yn ofnus, ac yn tinfoddus. Y rhai hyn a llawerocdd o annhrefn- au ereill ydynt arwyddion diffael o anhwyldod yn yr arenau. Achosir hwynt gan wenwyn arenol yr hwn v metha yr arenau a'i hidlo allan ac nis gallwch fod yn iach nea y cryfheir hwynt i w gwaith naturiol. Aiff PELENI ARENAU CEFNBOEN DOAK yn uniongyrchiol i'r arenau, a gwnant hwynt yn iach, gan eu hadfywio ac adeiladu eu nherth. (ij'rant allan o honynt snrni dyfrol, glanhint yr arenau, a lliniarant y fflameg (inflammation). Yu y modd yma, rhydd PELENI DOAN (Doem's PiiU) i'r arenau gwaullyd gychwyniad newydd yn eu gwaith mawr o hidlo allan wenwynau arenol. 3tse yr arenaa yn organan mor dyner ac yn cael en gweithio mor galed nea y mae anwyd, neu ryndod, neu yaigiad, yn rhwystr iddynt, ac yn eu taflu yn ol gyda'u gwaith. Doeth, felly", fyddai cadw blycliiad 0 BELESI AREKAU CEFNBOEN DOAS (Box of DoarCt Backache Kidney Pills) yn j tJ, a chymeryd dogn pryd bynnag naa teimhr i fyny i'r marc. Dylid ymarfer yn rheolaidd BELENI DOAN gan bawb sydd yn cymeryd cwrw, gwiroaau (spirits), neu dfi, gan fod y cyfryw ddiodydd yn cyffroi ac yn ennynu arwynebau tyner yr arenau, a gellir dibynu ar BELENI DOAN i gad w draw bob effaith drwg. Mae y physig- wriaeth arenol hwn yn hollol lysieuol, a gall yT h§n a'r ieuaingc ei arfer gyda diogelwch perffaith. Nid oes ganddo unrhyw weithrediad ar y coluddion. Mae PELENI ARENOL CEFN- BOEN DOAN yn fudd i bob un Iydd raid iddo ymgrymu wrth ei waith ac i'r dosbarthiadau eydd yn agoTed i gyfnewidiadau sydyn yr hinsawdd. A chynghorir y rhai hyny a wyddant i'w rhieni neu i'w hynafiaid ddioddef oddiwrth anhwylderau arenol i amddiffyn eu harenau drwy ymarferiad achlvsurol o BELENI ARENAU CEFNBOEN DOAN (Doarit Backache Kidney Pills) canyg nid oes un aflechyd yn cael ei gyflwyno mor fynych o riant i blentyn na'r hwn sy'n tarddu o anesmwythderan yr arenau. YR UNIG FLWCH -qft DIDWYLL. Gan holl fferjllwyr ac yn y Stores am 2/9 y blwch 6 blwch 13/9 neu yn rhydd drwy y post yn syth oddiwrth y FOSTER MOCLELLAN CO., 8, Welle Street, Oxford Street, London; W.

ST WINIFRED BIRKENHEAD

ST. WINIFRED, BIRKENHEAD. Rhyw dri diwrnod ar ol danfon banes y bazaar i'r LLA yr wythnos ddiweddaf, darfu i wr bonheddig o'r sir hoa anfon clteque o ddeg punt tuag at y gronfa, felly y mae y cyfanswm wedi d'od i fyny i dros 80p.— Isi-ael.