Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. OYNWYSIAD AM MAI. YMis. Dr. Rees, Bronant. Cadwen o Englynion. A phyrth Uflern nia gorchfyg- ant hi. Gofta am Mr. W. Williams, Port Penrhyn Lodge, Bangor (gyda Darlun), Bwrdd y Golygydd. Adgyfodiad y Catecism. At y Beirdd. Mam. Y Methodistiaid ar y Gori- waered. O'r Arsyllfa. i Nodion Eglwysig. |

Advertising

PHL V PLAN"I I Dadleunn Magi Jones. Un o Chwedlau'r Paganiaid. Seiat- y Oppel. Fy A thrawoa. Plant y 'Perl I ym Mlaenau Ffes. tiniog (gyda Darlun). Holwyddoreg; Y Conffirmasiwia TSu—' Mi glywais lais yr Iesu* DweydDarn beb Atalnoda*, Dyled Cymru i'r Eglwys. The Voyage {gyda Darlun). Seryddiaetb fel Llaw-forwya Grefydd (gyda Darlun). Adduruiadau'r Eglwys. Ffy

0 Wythnos i Wythnos

0 Wythnos i Wythnos. Daliwyd brithyll yn pwyso 6 pwys yn yr Afon Ene, yn Tiverton, Sir Dyfnaint. Mae'r awdurdodau yn ninas Bradford yn bwriadu trefnu fel gall plant yr ysgolion fyned yn rhad i lyfrgelioedd y ddinas, Penderfynodd meistriaid y certynwyr yn Scarborough dalu fel y cyflog lleiaf 24s. yr wythnos, yr hyn a oifynwyd gan y dynion, ac felly arbedwyd y streic oedd yn bygwth, Mae gan gyngor trefol Cro'esoswallt lythyr o waith Haw Oliver Cromwell, a dy- wedodd Maer y dref ei fed wedi ei fenthyca i nodachfa oedd yn cael ei chynal yn y lie ar y telerau fod y llythyr yn cael ei ddi- ogelu rhag tan neu dy-doriad.. Derbyniodd gweithwyr y'\L. and N.W. Railway gyda llawenydd y newydd oddi- wrth eu rhpolwr eyffredinol fod rhyddid iddynt hwy a'u gwragedd a'u teuluoedd fyned unwaiih y flwyddyn yn rhad ac am ddim i unrhyw ürsaf ar y rheilffordd. Oherwydd diffyg yngiiylch v dwfr yn mhentref Chevington, Northumberland, daeth dros ddau gant, o Jowyr allan ar streic, ac y maent yn cadw eu plant gartref or ysgol hyd nes y bydd y percbenogion yn gwella y diffyg. Gadawodd Mr. Geo. Falconer, bargyf- reithiwr enwog, Aberdeen, ei eiddo i gyd •yn ed ewyilyis i'w glerc, Mr. Jmaes Gray. Nodockl allan yn yr ewyllys fod digon i'w gael gan ei holl berthyuasau, ac yr oedd yn dymuno dangos ei gymeradwyaeth o'i fiyddlondeb. ;Yl Bu farw Mr J. P. Rowlands, Penror- sedd, Llanrliwydris, yn ddisymwth iawn. Yr oedd yn gadeirydd lllewn, cyngerdd yn ngbapel Wesleyaid Llanfairynghornwy, Sir Foil, ac ar ol traddodi ei araeth agoriado], eisteddodd gan ofyn i'w gymydog 'a oedd ef wedi dweyd rhywbeth yn ystod ei araeth i ofidio nnrhyw un.' Cyn iddo gael afceb syrthiodd i'r llawr a chawd ef wedi niarw. Fel yr oedd siopwr yn Gorsham yn tori cosyn, cafodd gostrel fechan yn ei ehanol, ac yn y gostrel neges oddiwrth ddynes, oedd yn gwneyd caws yn Taraanaki, New Zealand. Yr oedd hi yn gobeithio y byddai y caws wrth fodd r un oedd yn ei dori, acyr oedd yno gais hefyd i'r sawl oedd yn derbyn y iie-cls i ddanfon llythyr ati. Wrth bob hanes mae yn bwriadu gwneyd hyny. Gadawodd Mrs. Emily Mary Pritcfiard, y Priordy, Aberteifi, ei heiddo i gyd i'w (chyfeilles anwyl,' Agnes Deng-wall- Pordyce, merch y Cadfridog Syr John Dengwall-Fordyce. Mae'r etifeddiaeth yn werth 42,130p. Wrth ddarllen hanes marwolaeth Canon McLoughlin, o Eglwys y Pabyddion, Aber- gwaun, ceir engraifft o hunan-aberth ar- dderchog. Ychydig wythnosau yn ol, cafodd y Canon gardotyn mewn poen dychrynllyd ar ochr y ffordd, yn dioddef o herwydd rhyw wenwyn. Tynodd ei siaced oddi am dano, a chan ei dodi am y cardotyn cariodd ef at y meddyg agosaf, ac mewn ychydig aniser daeth ato ei hun a chafodd adferiad i'w iechyd, ond yr oedd y Canon trwy ei garedigrwydd wedi dynoethi ei huii, er ei fod yn dioddef oddiwrth anwyd trwm, ac o ganlyniad cafodd ei daraw yn sal, ac er pob gofal ei gyfeillion hunodd mewn ychydig ddyddiau. Yn ystod ymddadleu maitli rhwng cyf- reithwyr ynghylch darlleuiad o'r gyfraith dywedodd y Barnwr Parry, yn Nghwrt Bach Maidstone, ei fod yn synu am nad oedd y Canghellor wedi trethu llyfrau yn nghylch y gyfraith. Mae caniada.u c-eiliogod Hunstanton pan niae y dydd yn gwawrio yn cythryblu ym- welwyr a'r He hyd nes gofynwyd i'r Cyngor Trefol roddi terfyn ar v niweidbeth. 'Yr beddwn am weled y fcren yn ymneidio fel ya y Cinema,' dyna beth ddywedodd hogyn o'r enw John Arkman, 11 mlwydd oed, pan gyliuddwyd ef ynghyd a chyfaill iddo am roddi 'sleeper' ar y rheilffordd yn Falkirk. Goreu pan gyntaf y peidiant- ddangos darluniau o'r fath oedd barn y Sirydd. Mewn afceb i .ofyniad, dywedodd Mr. MontagTie, ysgrifenydd arianol y Trysor- lys, fod yna 6100 o fenthyewyr arian ym

0 Wythnos i Wythnos

Mhrydain Fawr yn bregenol. Plyny yw, y rhai sydd wedi eu cofrestru, canys mae, yna filoedd o'r gwyr hyn sydd yn b-enthyoa arian yn v wlad hon. Yn Sutterton yr oedd yno iar a cbywion cl-iiewngardd. Daeth bran fawr yn eu plith gan ymdrecliu myned â, un o'r cywiou ymaith. Ar un waith, yrrioscdodd y fam ar y lleidr, ac ar ol ymladdfa lym gadawyd y fran wedi ei lladd ar y llawr. Gadawodd v diweddar Barch. Charles We-'ley, Rheithor Grosmont, Sir Pynwy, llllp., ac yn ei ewyllys rhoddodd ei gefTyl, 'Tenby,' i Mr. Douglas Graham, Helston Park, Mynwy, gan ddeisyf arno ei saethu cyn gynt,ed ag y byddai yn gyfleus. Gadaw- odd lOOp. i'w forwyn, Fanny Griffiths, ac hefyd tysitiolaethodd (rhag ofn y byddai yn chwilio am aefylla arall) ei bod yn berffaith onest, yn lan, wrth ei gwaith; ac yn berson dymunol mewn pob modd i lanw y swydd o forwyn. Llosgwyd saith o gefIylau i farwolaeth mewn tan a gymerodd le yn stablau Mri. Lewis-1 Brothers. Pontardawe. Maent yn methu deall pa fodd y cymerodd y lie dan. Dyma'r chweched tail yn Pontardawe yn ystod ychydig wytliiioqati. Yn ol y ffigyrau roddir gan yr Ysbyttai gwelir fod nifer yr ymgeiswyr sydd yn bwriadu bod yn feddygon yn lleihau yn Oifnadwy, a chyn bo hir cawn brinder yn mlilith y Doctoriaid. Credir fod Mesur yr Yswiriant yn atebol dros hyn o herwydd fod y Doctor yn colli peth o'i 'status;' blaenorol. Er iddo gael ei roddi yn y Llythyrdy 23 mlynedd yn ol, ychydig ddyddiau yn ol derby niwyd y llythyr-gerdyn yn Waltou- b oti-Tli,in-La,. Dim ond sait,h milldir oedd rhwng y ddau Ie. Bu farw Mr. Daniel Horrocks, Bolton, dan amgylchiadau athrist neillduol. Yr oedd yn breeenol yn nghyfarfod y Cyngor 'd Lleol, ac fel yr oeddynt yn cynnyg pleid- lais o gydymdeimlad gyda teuluun o'r hen gyngborwyr a fu farw yn ddiweddar, syrthiodd Mr. Horrocks i'r llawr yn gorff marw. —————*—.————.

Advertising

MAD OFFtOE: LLOYPS MMK LIMITED Chairman: R. V. VA88AR-SMITH. || Chairman i J. W. BEAUMONT PEASE. f Capital Subscribed £ 26,304,200. Capital paid up 4,208,672. Reserve Fund 3,000,000 Advances, &c.. 50,871,240 i Deposits, &C 91,947,968 inn If THIS BANK HAS OYER 650 OFFICES IN ENGUHO i WtL £ S Pa Ml Colonial and Foreign Dopartnent; 60, Lombard !t„ E.C. Mfa P«,.WX.UA»V: LLOYDS BANK (FRANCE) LTD., 26, AVENUE DE L'OPERA.

Priodas Merch Arlywydd America

Priodas Merch Arlywydd America. Dydd Iau diweddaf bu ail briodas yn ystod y Weinyddiaeth bresenol, yn y White House, Washington, pryd y priodwyd Miss Eleanor Wilson, merch ieuangaf yr Arglwydd gyda Mr. William McAdoo, Ysgrifenydd y Trys- orlys. Yn Nhachwedd diweddaf y priodwyd ei chwaer, ond nid oedd cymaint o rwysg o gwmpas yr ail briodaa. Priodwyd hwy mewn ystafell a adnabyddir fel Blue Room, ystafell lai na'r East Room, lie y priodwyd ei chwaer. Yr oedd yr Arlywydd yi) dyrt)tino'r YRtafell hon, a Mr. McAdoo befyd oberwydd ei symlrwydd, Yr oedd yn bresenol aelodau y Cyfrln-Gynor a'u teuluoedd, ycbydig Sen- eddwyr a Chynrycbiolwyr, aelodau o'r Prif Lys, a nifer o swyddogion. Yr oedd yr yst- afell wedi cael ei haddurno gyda rhosynau, a pbalmwydd wedi eu gosod ar hyd ochrau yr ystafell

No title

Myner y PERIj ymfiob ty yn Nghymru. I

Yn Nyffryn Teifi

Yn Nyffryn Teifi. GAN 'JOHN y GWAS.' ,P.ENODIADAU.Mae y Parch. Arthur George, rheithor Penrith, wedi ei ddyrchafu i blwyf Taf-fechan. Eiddunir i'r bardd offeiriad talentog weinidogaeth fendithiol yn ngwlad Brychan. Y Parch. J. R. Morgan, Pontat- dawe, sydd i ddod i Llechryd. Gwelir nad yw y Parch. T. Geler Jones wedi'r cyfan yn mynd I Llandyssilio, ond y mae wedi ei benodi yu ficer Felinfoel, ger Llanelli. Pbnboyr.—Nos Fawrth diweddaf yr oedd gwasanaeth gosod y Parch. D. Jenkins mewn meddiant o'r rheithoriaeth. Ceir hanes yn ein rhifyn nesaf. Dydd Sul, cynorthwywyd y Rheithor yn St. Barnabas gan y Parch. E. T. Davies, Berriew. Llangeler.—Dydd Sadwrn diweddaf, yn mynwent y plwyf, claddwyd gweddillion mar- wol y diweddar Mr. Evan Davies, Blaenrogo. Yroedd yr ymadawedig yn 60 mlwydd oed, ac yn frodor o blwyf Penboir. Gweinydd- wyd yn yr angladd gan y Parchn. H. Jones, ficer, a J. Evans, St. Iago. Y prif alarwyr oeddyntMrs. Davies (gweddw), Miss Davies (merch), Mr. John Davies, Llwyn- scawen (brawd), Miss Eliza Davies, Danffyn- on, (chwaer), a llawer o berthynasau ereill. Yr oedd yr ymadawedig yn Eglwyswr a Cbeidwadwr trwyadl, ac yn un a berchid yn gyffredinol. Cafodd gystudd maith, ac un ar ol y llali gweiodd y mwyafrif o'i blantyn cael eu cipio i'r bedd. Nawdd y nef fo'n dirion dros yr oU o'r galarwyr. Cbrddorol.— Mae agosrwydd Gwyl y Llungwyn yn galw ar y corau i ddyblu eu hymdrechion i wneyd yr wyl yn deilwng o'u harweinydd clodfawr, Mr. D. Jenkins, Felin- dre.

Croesawu Brenin a Brenhines Denmare

Croesawu Brenin a Brenhines Denmare. Cyrhaeddodd y Brenin Christian o Den- marc a'r Frenhines Alexandrina i Lundain ddydd Sadwrn, ar ymweliad i'r Brenin a'r Frenhines, a rhoddwyd iddynt dderbyniad brwdfrydig. Foreu Sul, aeth Brenin a Bren- hines Denmare a'r gyn-Frenhines Alexandra i wasanaeth Danaidd yn righapel Marlborough House, ac yn y prydnawn aethant i Gastell Windsor. Ciniawsant gyda'r Brenin a'r Frenhinesyn Mbalas Buckingham. Yn ys- tod yr wythnos, talasant ymweliadau a. lluaws o leoedd, a derbynasant groesaw calonog gan bawb. i

Gwrthdarawiad yn yr Awyr

Gwrthdarawiad yn yr Awyr. Daeth dwy awyrlong i wrtbdarawiad uwcb- ben Aldershot ddydd Mawrth, gan ddiagyn i'r llawr gyda chanlyniadau alaethus. Lladd- wyd Cadben E. V. Anderson, a ofalai am un o bonynt, a derbyniodd peirianydd yn y llall niweidiau angeuol. Cymerwyd yr is-gadbet) Wilson i'r ysbytty, ac y mae yn gwella yr rhagorol.

ILlythyr Liundaiii

I Llythyr Liundaiii. CHVVILIAD Y GENEDL. Mae'r Gweiuidogion cyboeddus wedi taflu i'r naill ochr hawl y Senedd i'r enw o 'Chwiliad y Genedl,' fel y galwodd Mr. Asquith hi. 0 fewn ychydig ddyddiau ar ol ei bedydd, cawsom Mr. Asquith a Mr. Churchill yn dywedyd nad oeddynt yn bwr- iadu ateb yn yehwaueg ofyniadau nad oedd yn gyfleus iddynt ateb. Mae'r agwedd yma yn gyson a'u hymddygiad cyffredinol tuag at aelodau'r Senedd, ond y mae yn gareg filltir bwysig yn nghwrs Llywodraeth ormesol. EWYLLYS YR ETHOLWYR. Engraifft arall o ormes llywodraeth y Cyfrin GyDgor a'r Prif Weinidog' sydd i'w weled yn ymddygiad Mr. Asquith tuag at ddirprwyaeth a ddaeth ato, yn cynwys mwy na haner aelodau'r Senedd, yn taer erfyn arno gael y Llywodraeth i ail ystyried eu penderfynia.d i beidio cymeryd rhan yn Ar- ddangosfa fawreddog Panama, The Panama Exhibition.' Os ydyw Ty y Cyffredin yn adlevyrchu ewyllys y bobl, fel y dywed y Llywodraeth bresenol yn fynych pan fo yn fuddiol iddynt ddweyd felly, yr oedd y ddir- prwyaeth hon yn archiad bendant iddynt fyned yrnlaen. PARHAD Y SENEDD. Penderfynodd y gweinidogion fod eu can-! lynwyr wedi eniH eu 400p. am eleni, oherwydd nid ydynt yn bwriadu cyfarfod yn yr Hydref o gwbl. Nid ydyw eu canlynwyr yn ddigon hoff o'r Gyllideb i aberthu ychydig fis- oedd ar ei rhan. Ystyr y penderfyniad yw hyn :—Bydd y Senedd yn parhau hyd ddech- reu mis Medi, ac er iddi eistedd cyhyd bydd yn rhaid iddynt obiro rhai o'r mesurau sydd gynwysedig yn y Gyllideb. Gwneir pob ymdrech gan yr Undebwyr i gael gwybod yn fuan pa fesurau sydd i ddyfod gerbron y Ty, a pha rai sydd i'w gadael. DAROSTYNGIAD MEWN MASNACH. Yn ystod ei araeth pan yndwyn y Gyllideb gerbron y Senedd, dywedodd y Canghellor osy byddai yna ddarostyngiad mewn mas- nach o gwbl, ychydig iawn fyddai, a byr- hoedlog. Pa faint bynag fydd y daros- tyngiad, credir fod yr adlithiriad wedi dechreu mor bell ag y mae masnach dramor yn myned, beth bynag; oherwydd yn mis Ebriil dygwyd i mewn werth l,300,000p. yn llai na'r llynedd, tra y mae yr allforion wedi cwympo 3,100,000p. Feallai y bydd y Senedd yn abl i brofi cyfrifiad y Canghellor cyn y rhoddant y Gyllideb allan o'u d wylaw. GWIR YSTYR Y GYLLIDEB; Mae y 'ffrwythau adfywiol' estynwyd allan gan y Gyllideb bresenol i'r awdurdodau lle.ol yn diflanu o'r golwg yh raddol am y flwyddyn hon. Nid yw y rhoddion i gymeryd lie, fel y dywedodd y Canghellor ei hun, byd nes bydd y mesurau sydd yn eu rbeoli ac yn trawsSurfio y modd o brisiad wedi dyfod yn gyfraith. Gan fod y Llywodraeth wedi pen- derfynu yn erbyn cyfarfod yn yr hydref, an- mhosibl fydd i'r holl fesurau gyraedd llyfr y deddfau eleni. Uall y trethdalwr gael ei 'jam' yfory. ond nid beddyw. RHYDDFRYDWYR A'R GWEITH- WYR. Amlwg yw po fwyaf mae y Rhyddfryd- wyr ac aelodau y blaid Wei thiol yn syd- weithio yn y Senedd, mwyaf oil ydyw eu casineb tuag- at eu gilydd pan yn gwynebu yr ethohvyr. Mae hyn yn brawf o'r ffol- ineb o feddwl fod y Llywodraeth bresenol yn datgan "ewylhrs y bobl." Mae"r ddw-v bl-aid wedi penderfynu penodi swyddym- geisydd yn yr etholiad sydd yn fuan i gy- meryd Ile, yii East Derby. 0 blaid y Gweithwyr yr oedd yr aelod diweddaf, Mr. H arvey, yr hwn a fu farw ychydig ddyddiau yn ol, ond cafodd ei ethol fel Rhyddfrydwr Mae y gweithwyr yn awr wedi dewis Mr. J. Martin, Llywydd Cymdeithasfa y Glo- wyr yn Derbyshire, fel eu swydd-ymgeis- ydd, tra mae y Rhyddfrydwyr wedi dewis Mr. J. P. Houfton, yr hwn sydd yn per- chen sawl pwll glo yn yr ardal. Mae Major Harland Bowden yn ymladd y frwydr dros yr Undebwyr, ac mae ganddo gyfleusdra neillduol i enill y frwydr. Dis- gwylir i ganlynwyr y Llywodraeth bre- Bienol ychwanegu rhif y Rhyddfrydwyr a'r Gweithwyr, ar mwyn profi rhywbeth neu gilydd, os bydd yr Undebwyr yn llwydd- ianus. t* Brisiad tir amaethyddol. Yn ol barn Mr. Justice Scrutton, mae'l' modd a ddefnyddiwyd gan ddirprwywvr yr "Inland Revenue" mewn perthynas a. phrisiad y tir amaethyddol yn hollol anghywir, ac yn ol barn Mr. Iventderdine., ysgrifenydd y "Land Union," mae pob prisiad sydd wedi ei wnevd hvd yn hyn yn anghyfreithlawn, ac felly bydd yn rhaid prisio r tir drachefn, gan ddadwneyd gwaith y tair blynedd diweddaf. Gwelir oddiwrth y ffigyrau canlyiiol y gwahanialeth rhwng prisiad yn ol y Llywodraeth a'r pnsiad yn ol y Barnwr Scrutt:on Prisiad y Barn yr ri TT I.Iywodr*eth. HighCourt Gross Value 12,741 11 935 Total Value 12,625 11 829 Full Site Value 7,650 4,62b Assessable Site Value 7,534 4'509 ULSTER. Gyfaddefodd y Prif Weinidog yr wythnoa hon yn v Senedd fod y Llywodraeth wedi penderfynu mai anfuddiol fyddai dwyn ger bron y llys y bob! oedd yn gyfrifol am ddwyn arfau i fewn i Ulster y mis diwedd, af. "Cymerir mesurau eraill," meddai y rhai nid ydynt yn ddymunol i mi yn awr eu datguddio." Pan gofiwn y modd y siaradodd yn y Ty pan ddaeth son gyntaf am yr hyn a gymerodd le, yr ydym yn synu braidd fod un o honynt yn fyw, ond dyma yw ymddygiad y Llywodraeth o hyd disgwyl i rhywbeth ddigwydd, rhyw "wait and see" ohyd. °>Tn S7nted ag yr eistedd- odd Mr. Asquith i lawr wele Mr. Keir Hardie ar ei draed yn union, gan ofyn a oedd efe yn bwriadu "ymddwyn yr un moddJ at y Suffragettes sydd yn peri cymaint o anesmwythder, ond yr oedd Mr. Asquith yn fud. Ar hyn safodd Mr. Amery i fyny gan. roddi rhybudd ei fod yn bwriadu codi y testyn o "wangalondid y Prif Weinidog yn ei driniaet-h o Ulster." "Arhoswn ac fe allai gwelwn."

EGLWYSWRW

EGLWYSWRW. Marwolaeth.—Gyda galar dwys y cof- nodwn am farwolaeth un o'r aelodau hynaf perthynol i Eglwys St. Cristolus, sef Mr. John Phillips, Post Office, yr hwn a gymerodd le dydd Gwener, y cyntaf o'r mis hwn, yn yr oedrari teg o 72 mlwydd oed. Nid oedd yr ymadawedlg yn hollol iach er ys amryw flyn- yddau, oud yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fel llythyr-gludydd hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Cafodd gystudd byr, ond poen- us, a daeth y newydd am ei farwolaeth yn dra anniswyliadwy. Dydd Mercher canlynol daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y rhoddwyd y gweddillion i OT edd yo mynweut St. Cristolus. Gwasan- aethwyd wrth y ty, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd, gan y ficer, y Parch. J. Morgan, a'r Parch. T. M. Jones, rheithor Castell Henry diweddar ficer Eglwyswrw. Canwyd emyn- an, Mae'n cyfeillion adre'n myned," Ar lau Iorddonen ddofn," ac "Ofryniau Caer- saiem," o dan arweiniad Mr. D. J. Edwards, Y.H Glandwrganol. Cyfeiliwyd wfthyr harmonium gan Miss Yolk, organvddes. Y prif alarwyr oedd, Mrs. Phillips (gweddw); Mr. John Phillips, B.A., BSe., Merthyr (mab); Mr. a Mrs. Evans, a Mr. Percy Evans, Brynbwa; Mr. J. Thomas, a Miss M. Grey' Aberteifi. Yr oedd yr ymadawedig wedi treulio ei oes bron yn gyfan yn y plwyf hwn, ac yr oedd yn Eglwyswr selog. Gwelsom hefyd y Parch. T. M. James, Meline, a'r Parch. -Richards, Glanrhyd, M.C., yn yr ang- ladd. Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwr iaethol iddo y nos Sul ganlynol, pryd y preg- ethwyd gan y ficer, a chyfeiliwyd gan Miss Vol k. J °