Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

v i YR HAUL., CJYNWY8IAD AM MAI, Y Mis. ¡ Dr. Rees, Bronant. | Cadwen o Englynion. j A phyrth U fiern nis gorchfyg- ant hi. j Cofta am Mr. W. Williams, Port Penrhyn Lodge, Bangor (gyda Darlun), j Bwrdd y Golygydd. j Adgyfodiad y Catecism. At y Beirdd. Mam. | y Methodistiaid ar y Gori-, waered. i O'r Arsyllfa, j Nodion Eglwysig. |

Advertising

I PERL V PLAN1 CYNWYSIAD AM MAI. Dadleuon Magi Jones. Uno Chwedlau'r Paganiaid. Seiat y Capel. Fy A thrawon. Plant y Perl ym Mlaenau Ffes- tiniog (gyda Darlun) i Holwyddoreg: Y Conffirmasiwn. | Ton—4 Mi glywais lais yr Iesun Dweyd.' Darn heb Atalnodau. | Dyled Cymru i'r Eglwys. | The Toyage (gyda Darlun). jSeryddiaeth fel Llaw-forwyn ( Grefydd (gyda Darlun). Adduruiadau'r Eglwys. ■| Ffyddloniaid yr Ysgol Sul. 1 Decbreuad a Nodweddiadau Bywyd Dynol. Dalen Dirwest. | Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd [ Y Gystadleuaeth. Mis Mai. e Y Paganiaid Bach Duon. j Llithiau Priodol am y Mis. Perlau y Perl.' Barddoniaeth.

rDadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys

-.r Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Y TRYDYDD DARLLENIAD YN NHY Y CYFFREDIN. Yu Nhy y Gyffredin, ddydd Llun, dygwyd ymlaen festir dadgysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru am y trydydd ddar- lleniad. Cyn ei ddwyn ymlaen yn ffurfiol, hysbyswyd fod y rhai canlynol wedi eu pen- odi yn ymddiriedolwyr eiddo yr Eglwya, yn y dyfodol, Bef Syr Henry Prlrrirose, aelod o Eglwys Eagobaethol Ysgotland Syr William Plender, aelod o Eglwys Loegr, ac yn dal amryw swyddi ynglyn & chyfrifon, a Syr J. H. Roberts, A.S., Anghydffurfiwr ao aelod sen- eddol Rhyddfrydol dros Orllewinbarth Sir Ddinbych er 1892. Bydd un o'r dirprwywyr yn derbyn 1500p. y fiwyddyn, un arall IQOOp., a'r trydydd dim, a pharhant mewn swydd am dair blynedd. Aethpwyd drwy rai o adranau blaenaf y mesur heb ymraniad o gwbl drwy rym y cloadur. Hawliwyd ymraniad gan yr Uudeb- i wyr, a chafwyd fod gan y Llywodraeth fwy- afrif o 94. Cynygiwyd gwrthodiad y mesur gau Mr. Hume-Williams, ac mewn araeth nerthol elfeirioodaty gwrthwynebiad a fod- olai yn y wlad yn erbyn y mesur. Gofynal pa brawf pallach a, ddym unal y Prif Weinidog yn y ffurf o ddatgan y farn gy- hoeddus. A ydoedd yn aros am i Esgob Ty Ddewi i ymosod ar ei ddarlun gyda bwyall, neu a ddisgwyliai i ganoniaid Llandaf eistedd yn yr orial i daflu eydau o flawd at y rhai a eisteddent ar faine flaenaf y Trysorlyi31 Oni tfai ana bleidleisiau y Cenedlaetholwyr Gwyddelig, buasai y Mesur wedi cael ei daflu aflati Utwer gwaith. Eiliwyd ^y eynygiad gan yr Anrbyd. Edward Wood mewn araeth ddifrifol. Galwodd sylw neillduol a'r effalth niweidiol y Mesur ar Gristionogaetb drwy y byd. Mr. William Jones ydoedd y nesaf i siarad, a ba yu chwysu am awr yn ei waith yn clod- fori Ymneillduwyr Cymru, ac mown ceisio dangos nad oedd yr Eglwys mewn cyffyrddiad k pbobl Cymru. Gohiriwyd yr ymdrafodaeth hyd dranoeth. Parhawyd yr ymdrafodaeth ddydd Mawrth. j Ymhlith y siaradwyr yr oedd Mr. Llewellyn Williams, yr hwn, fel arfer, a roddodd ffrwyn i'w ddyohymygion pan ddywedai y byddai disgwyliad pryderiis mewn mlloedd o dai drwy Gymru am glywed canlyniad yr ym- drafodaeth ar y meatir,, a byddent yn ddiolch- gar. Yr oedd. y frwydr wedi ei chario ymlaen am ddwy genbedlaeth. Yr oeddynt yn ami wedi ofnl, ond yn awr yr oedd y faddugoliaeth wedi dyfod. Datganodd Arglwydd Hugh Cecil nad oedd unrhyw bosibilrwydd i ddyfod 1 gytundeb, gan fod y gwahaniaethau yn rhy ddwfn. Eu cwyn yn erbyn y mesur ydoedd ei fod yn anghyfiawn. Dymunai arnynt beidio oredu fod y Ddeddf Seneddol wedi dinystrio cyf- ralth foesol y bydyaawd. Nis gallent gyf- newid y ddeddf gyffredinol a lywodraethai ac a gosbal anghyfiawnder. Gallent fod yn slero hyny. Daeth Mr. Lloyd George ymlaen, gan wneyd ychydig sylwadau. Yr oedd llawer o'r Eglwyswyr a gondemnlent y Llywodraeth fellladron ac ysbellwyr yn mwynhau eiddo a ladratawyd oddiar yr Eglwys. Dylent fod yn fwy cymedrol pan yn condemnio pobl Cymru amhawlio eu heiddo eu hunaln. Mewn modd pendant dangosodd Mr. F. E. Smith mai nld dadgysylltiad a geisld gan y Llywodraeth a'i chefnogwyr, ond yr arian oedd mewn golwg, a chyfeiripdd, ynghanol chwerthiniad cyffredinol, at fynegiad Mr. Ellis Griffith dro yn ol, Mae arian ynddo.' Chwalodd haeriadau Mr. Lloyd George, Gofynai paham na ddywedai Mr. Lloyd George, 4 Yr ydym am gael eich arian, a mynwn eu cael. Na hidiweh paham.' Wedi ychydig eiriau gan Mr. McKenna., rhanwyd y Ty, pryd y cafwyd Droay Mesur 328 Yn arbyi) 251 Mwyafrif o blaid 77 Yr oedd 77 o Wyddelod yn pleidlelsio o blaid, a thrwyddynt hwy y pasiwyd y mesur

Advertising

Undeb Ysgolion Sul yr Eglwys yn Nghymru. MAES LLAFUR, ADFENT 1913-1914. Esboniad ar yr ACTAU: II> (Gan yr HYBARCH ARCHDDIACON MORGAN). RHAN I.-Penod I.-XII. (Amlen Bapyr). Prisiau:- 1 2 3 4 5 6 12 7c. 1/2 1/9 2/4 2/11 3/3 5/- YR OLL O'R ACTAU— Amlen Bapyr-l 2 3 4 5 It 6 12 176 3/- 4/3 5/8 7/1 7/6 13/- Llian Hardd-1 2 3 4 5 6 12 2/6 5/- 6/9 9/- 11/3 12/- 18/- RHAID ANFON TAL GYDA PHOB ARCHEB. LLAWLYFR Y PLANT: (Sef Crynhodeb o Gwerslyfr Rhif III.) Gan y Parch. OWEN THOMAS, Tydweiliog Fris iic. yr un, neu is. y ddwsia yn rhad drwy'r post. RHAID ANFON TAL GYDA PHOB ARC HEB. ANFONER AT Y MANAGER, "LLAN" OFFICE, LAMPETER. -_u.

No title

w .„ =—=——————————. creulawn ac anghyfiawn. Fel yr oedd yr aelodau yn gadael en seddau, gwaeddodd aelod o'r Wrthblaid, Cymerwch eicb arianv Judas.'

Coleg Dewi Sant

Coleg Dewi Sant. C.E.M.S.—Cynhaliwyd cyfarfod cyffred- inol y gymdeithaa hon yr wythnos ddi- weddaf, ac fe ymddengys oddiwrth ad- roddiad yr ysgrifienydd fod y flwyddyn bresenol wedi bod yn un neillduol o lew- yrehus. Mae rhifedi yr aelodau yn fwy nag y bu erioed o'r blaen, ac er fod y gymdeithas wedi anfon tanyagrifiad o gini i gronfa tanchwa Senghenydd mae swm sylweddol mewn Haw i'w "drosglwyddo at waith y fiwyddyn ddyfodol. Ethohvydy rhai canlynol i ddwyn y gwaith ymlaen yn ystod y flwyddynsydd ar ddyfod Ysgrifenydd, Mr. Johnson trysorydd, Mr. Eddie Evans; pwyllgor, Mri. T. C. Edwards, O. E. Thomas, Towyn Jones, Gallen, W. G. H. Thomas, a W. T. James. CEICET. — Ymwelodd gwyr Athrofa Aberystwyth a ni yr wythnos ddiweddaf. Gwelir oddiwrth a ganlyn mai drawn game" ydoedtl diwiedd yr ymdrechfa. Aberystwyth. J. O. Williams, run out 1 A. E. Herbert, bwl Perrot 3 D. J. Busher} bwl Perrot 6 B. C Bevan, ct. L, G. Lewis, bid. Towyn Jones 8 J. O. Thomas (Capt.), et. and bid. Perrot 5 J. G. Morgan, bid. Towyn Jones 14 H. Knight, bid. Towyn Jones 3 Glyn Jones, ct. 1. T. Davies, bid. Perrot 30 L. Rodrick, bid. Bodycombe 7 E. Evans, not out I 4 E. H. Davies, to bat 81 Byes 2 Inning declared 83 Dewi Sant. Bodycombe, bid. J. O. Thomas. 3 L. G. Lewis bid. J. O. Thomas 1 R. Fletcher,' bid. J. O. Thomas 0 I. T. Davies, ct. Bevan, bid. Rodrick 17 H. S. Richards, bid. Rodrick 3 Towyn Jotnes, ct. and bid. Busher 10 L. G. Rees, bid. Rodrick ,• 3 Perrot, bid. J. O. Thomas 5 Gallon, not out 2 Picton and O. E. Thomas5 to bat I 44 I Byes 7 t 51 WWW. TENNIS.—Mae Ilu o'r myfyrwyr yn cyst,adlu am y gwobrwyon yn y tourna- ment." Rhydd ein Prifathro wobr ar- benig i'r novices," ac mae llu o'r rhai hyn ar y rnaes hefyd. Bu ein hadgor yn llwyddianus yn erbyn Llandyssul, ond fe gawsant eu curo yn Aberystwyth. # # Y PUMED SUL GWEDI'R PASG.-Talocld Archddiacon Lloyd, Rhyl, ymweliad a. Chapel y Coleg nos 8ul. Pregethwyd ym Mhencarreg gan Mr. W. J. Jones, a llafarganwyd y awasa-naeth gan Mr. B. J. Meyrick. Pregethwyd ym Mhentrebach gan Mr. J. Stephens, a chymerwyd y gwas- anaeth gan Mr. Picton, L.D. Darllenwyd y llithoedd yn Nghymraeg yn Eglwys y Plwyf gan Mr. T. W. Jones.

HIRWAUN

HIRWAUN. Y DTRCHAFAEL.—Nos Fether, sef noswyl Gwyl y Dyrehafael, bydd Gosper (corawl) yn Saesneg, am 7.30, pryd y pregethlr gan Ficer y plwyf. Boreu Ian, gwelnyddiad o'r Cymun Bendigaid am 7.30., a nos Iau gwasanaeth Cyinraeg a phregeth. SUL Y GWICDDI 'AU.-AR y Sul yma, sef y pumed gwedi'r Pasg, a elwirSlll y Gweddlau, pregetbwyd foreu a hwyr ar y mater o weddi. Yn y boren pregethwyd ar Eiriolaetb, seilied- ig ar eirfau yr Apostol St. Iago, Gweddiweh dros eich gilydd.' Ymdriniwyd &'r pwnc o dan bedwar penawd: 'Y ddyledswydd o weddio dros eraill4 Esiaoopl bersonol Grist 1 Cylch eiriolaetb, neu drosl bwy yr ydym i weddio,' ac yn olaf, Amodau eiriolaeth, sef maddeuant a chymod.' Yn yr hwyr drachefn, pregethwyd yn rymas ar IDyag i ni weddio,' gan Ficer y plwyf. Myiior y PERL ymhob ty yn Nghymru

Llythyp Liundain

Llythyp Liundain. Er fod Col. Seeley wedi Ylllddiswyddo o herwydd y ffeithiau ddygwyd i'r golwg ynglyn a'r Iwerddon, eto y mae yn parhau i fod yn bresenol yn nghyfarfodydd pwyllgoramddiffynol y wlad. Dygwyd y ffaith hon i'r golwg trwy i'r Ardalydd Tullibardine ofyn i'r Prff Weinidog os oedd hyn yn wirionedd. Dywedodd Mr. Asquith ei fod yn wirionedd. Gofyniad nesaf yr Ardalydd oedd hyn, "A ydyw yn fuddiol i un a fu gynt yn weinidog cy- hoeddus ag sydd yn awr wedi colli ym- ddiried y Cyfrin Gyngor, gael ei alw i fewn i ymgyngorion y pwyllgor amddi- ffynol. Atebodd Mr. Asquith, 'Nad ydyw Col. Seely wedi colli ymddiried y Cyflrin Gyngor.' 'Wei,' meddai yr Ar- dalydd, 'os nad ydyw, paham nad ydyw yn aelod o'r Cyfrin Gyngor heddyw?' Ni roddodd Mr. Asquith yr un atebiad. METHIANT MR. CHURCHILL. Dywedodd Mr. Churchill pan yn ar- eithioi mewn gwledd a, gynhaliwyd gan yr 'Early Closing Association' ei fod yn cyflrif Mjesur y Siopau fel y eiomedigaeth a'r methiant mwyaf yii hanes ei fywyd politicaidd. 'Nid oes un mesur,' meddai, 'sydd wedi cael cymaint o ofal a llafur wedi dwyn mor ychydig o fendithion.' Ai dyma'r rheswm, tybedi, y symudwyd ef i'r Llynges ? YR EGLWYS. Cawsom y Senedd yn aros tair awr dros gynygiad arianol sydd yn sicrhau taledig- aeth i'r 'Commissioners' sydd wedi eu dewis i rami arian yr Eglwys ymhlith y gwahanol dderbynwyr, ac eto nid yw y Llywodraeth yn rhoddi tair munyd er mwyn ymddadleu ar y cynygion sydd yu dwyn oddiar yr Eglwys ei degwm, ei tliir, a'i mynwentydd. Mae trefniadau y Llyw- odraeth mor anfoesol a'r mesur ei hun. # Y DIRPRWYWYR, Ar ol hir oediad cyhoeddwyd enwau v tri dirprwywr sydd i ranu yr arian iqn fydd yr Eglwys wedi ei dadwnddo^i. Addawodd Mr. McKenna gyhoeddii eu heuwau er ys blwyddyn yn ol, a hawdd ydyw gweled y rheswm paham na chry- bwyllwyd eu henwau cyn hyn, am nad oeg neb o'r 'Cymry' sydd wedi bod yn gwaeddi cyh yd am y mesur wedi ei ethol i'r swydd, Pe byddent yn gwybod hyn, yn ddiau byddent wedi tawelu er ys llawer dydd. Appwyntiwyd y Gwir Anrhydeddus Syr Henry Primrose, K.C.B., I.S.O., brodor o'r Alban, ac yn aelod o'r Eglwys Esgobawl yn yr Alban; mae efe i dderbyn 1500p. y fiwyddyn. Yr ail ydyw Syr William Plender; mae efe i dderbyn lOOp. y fiwyddyn; aelod o Eglwys Loegr. Y trydydd ydyw Syr Herbert Roberts, A.S. Nid yw efe i dderbyn tal gan ei fod yn cael 400p. fel aelod y Senedd, ac er mwyn cynrychioli y ddirprwyaeth yn y Senedd y dewiswyd ef. Mae'r Llywodraetih fel pe byddai gas ganddynt, gyffwrdd a'r arian eu hunain, yn ethol dau Eglwyswr, ond fel y dywedodd un Eglwyswr selog, 'Nid oes llawer o gysur i un sydd yn colli ei arian fod cyd-addolwr iddo vn rhanu yr yspail.' 'WtW NID WRTII FARA YN UNIG. Traddododd Dr. Clifford araeth ryfedd yn nghyfarfod blynyddol y 'Liberation j Society,' pan ddywedodd ei fod yn llawen- hau wrth ystyried fod dydd dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru ger 11aw, a galwodd ar ei ganlynwyr i fyned ymlaen i wneyd yr un peth a'r Eglwys; yn Lloegr. .'Angen mwyaf crefydd ydyw Dadgysylltiad yr Eglwysi,' medd Dr. Clifford. Mor wahanol ydyw ymddygiad Esgob Liundain. Adeiladu ac nid tori i lawr ydyw g-waith ei fywyd, Mewn araeth, ychydig ddydd- iau yn ol, dywedodd yr Esgob ei fod yn gwneyd ymdrech i adeiladu Eglwys gogyfer a phob 8000 o bobl ycliwanegol sydd yn dyfod i fewn i'w Esgohaeth. Cawsom y Parch. R. J. Campbell yn liefaru o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yr wytlmos ddiweddaf. Llefarodd fel gwyl- iedydd yn edrych allan i'r tywyllwch dudew, a ohyfaddefodd nad ydoedd yn gweled y wawrddydd. Yr oedd yn cyd- nabod nad oedd gan y dyn eyftredin amser i fyfyrio ynghylch ei enaid oherwydd fod pob peth yn myned mor gyflym, ac an- hawdd ydyw credu y deffry i weled mai nid wrth fara yn unig y bydd byw dyn. Ni bu yr eglwys erioed yn ei hanes, yn ol Mr. Campbell, yn gweit,hio yn fwy ffydd- lawn. Mae'r blinderog a'r llwythog yn gwaeddi allan am orphwysfa, ao nid oes gan y byd ddim i roddi ond gorthrymdexv Yr ydym yn chwilio am foddion i wella'r sefyllfa bresenol, ac amlwg yw mai nid wrth ymraniadau y daw hyn i ben, ac nid chwaith wrth glwyfo eu gilydd, ond with gydweithrediad, ac ni ofyn yr hen Eglwya am ddim arall ond cyfleusdra i wneyd ei dyledswydd. YR IWERDDON. Rhaid cyfleirio unwaith eto at y sefyllfa bresenol oherwydd mae'r Llywodraeth yn ymddwyn yn rhyfedd tuag ato. Mae Mr. Asquith yn awr yn addaw, ar ol i'r mesur presenol basio, ddwyn mesur o welliant ger bron y Ty. Fel y sylwodd Mr. Balfour. mae hyn yn dangos yn eglur anmher. ffeithrwydd y Inesur presenol, os oes lie am welliant arno; ac mae'r British Weekly, newyddiadur a elwir yn 'Gydwybod; yr Ymneillduwyr,' yn rhybuddio Mr. Redmond ei fod yn gofyn am yr hyn sydd amhosibl pan mae yn disgwyl cael Ulsetr o dan ei lywodraeth. Mae'n hen bryd i Ymneillduwyr Lloegr i glustymwrandaw ar leferydd eu cyd-gredinwyr yn yr Iwerddon i'w cadw hwy allan o gyrhaedd y Pab, o herwyd dyna ydyw ystyr Hunan Lywodr- aeth. Ni fydd ylia ryddid i'r Ymneill- duwr bellach yn yr Iwerddon.

NEVERN

NEVERN. BWRDD ARIANOL TR ESGOBABTH.-Cynbal- iwyd cyfarfod o offeiriaid ac etholwyr lleyg, cysylltiedig a Deoniaeth WJadoJ Kemes, i ystyried cynllun Bwrdd Arianol yr Eagob- aeth, yn y Neuadd Goffadwriaethol, ddydd Mercher, y 18eg oyfisol, am 3 o'r gloch, dan lywyddiatth y Parch. D. G. Phillips, rheithor Trefdraeth, a Deon Gwladol. Yr oedd yn bresenol y Parohn. L. Roderick, ficer Nerern; D. Williams, rbeithor Bridell; T. M. James, Meline; Capt. J. Phillips, Llystin Mrl. G. B. Bowen, Llwyngwair; J. Francis, Henllan; D. Darles, Plough, Eglwyswrw; T. B. H. Williams, Bryn Villa, ac E. George, Pen- ralltddu. Ar ol ychydig sylwadau arweiaiol, galwodd y Deon Gwladol ar Mr. Bowep, Llwyngwair, i egluro y cynllun. Mewn araeth alluog a dyddorol, dywedodd Mr. Bowen ei fod wedi cael y fraint o fod yn bresenol mewn rhai cyfarfodydd ynglyn i'r mudiad, a thraethodd olygiadau Deon Ty Ddewi, Mr. F. J. Warren, Hwlffordd, ynghyd a'i brofiad personol ef ei hun o amryw blwyfi yn Sir Efrog, ar y cwestlwn. Ystyrid y dylal y ddeoniaeth wladol hon gyfranu swm o 146 i .£50 tuag at y gronfa yn flynyddol. Awgrymodd y Deon Gwladol y dylai eglwysi lie yr oedd casgliad wythnosol roddi y ddeg- fed ran, a'r rhai lie yr oedd un misol y burned ran, i drysorfa y Bwrdd Arianol. Mynegid fod casglu drwy gyfrwng amleni yn llwydd- ianus iawn yn mhlwyf Moylgrove, ac y bwriedid ei fabwysiadu yn mhlwyf Dinas. Ar gynygiad Mr. G. R. Bowen, yr hyn a eilhvyd gan Mr. D. Williams, peuderfynwyd fod y ffurf hon o gaaglu i gael ei harfer yn gyffredinol drwy yr oil o'r Ddeoniaeth Wlad ol. Rhoddodd yr offeirjaid oeddynt yn bresenol amcan-gyfrif o'r symiau allesid ddisgwyl o'u plwyfi hwy. Cymeradwywyd Ilyfr ceiniog, cyhoeddedlg gan Mri. W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin, sef Pender- fyniadau gyda chofnodeb,' fel un pwrpasol yn egluro y cynllun yn ei wahanol agweddan. Ar gyuygiad y Parch. L. Roderick, yr hyn a eiliwyd gan Mr. E, George, cyfiwynwyd diolchiadau gwresocaf y cyfarfod 1 Mr. Bowcu am ei araeth feistrolgar, a chynygiwyd ac eiliwyd gan y Parchn. T. M. James ac L. Roderick gyftelyb bleidlais i'r Deon Gwlad- ol am lywyddn mor ddelieuig, a chydnabydd- I wyd yn ddyladwy gau y drl. Myner y PERL vmVoK ty yn Nghymru