Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
17 erthygl ar y dudalen hon
DROS FIL 0FYWYDAU WEDI EU COLLI

DROS FIL 0FYWYDAU WEDI EU COLLI. GWRTHDARAWIAD MEWN NIWL. SUDDIAD AGERLONG MEWN DENG MUNYD. Yr wythnos hon mae genym I groniclo an- fiawd arswydus ar y mor, yr hon yn ei manyl- ion sydd yn gyffelyb i'r hyn ddigwyddodd ynglyn &'r Titanic ddwy flynedd yn ol. Am chwarter i ddau o'r gloch boreu Gwen- er, gwrthdaro odd Hong gl6 perthj nol i Norway, o'r enw Storstad,' yn erbyn yr agerlong deitl-iol 'Empress of Ireland,' yr hon oedd ar ei ttiaith o Quebec i Lerpwl, yn yr afon St. Lawrence, ugain milldir i'r dwy- rain o Farher Point, a chyn pen deng munyd suddodd y diweddaf, a chollodd dros fil o deithwyr a'r dwylaw eu bywydau. Ar ei bwrdd yn cychwyn yr oedd 1594 achubwyd, 529; ar goll, 1058. Yr oedd yr Empress of Ireland' wedi ei hatal i fyned ymlaen gan ciwi tew, a thra yn aros yn yr afon daeth y lloug arall heibio, gan ei tharaw nes gwneyd twll anferth yn ei hochr. Gogwyddodd mewn amrantiad, a dilifodd dwfr i mewn. Gwnaed arwyddion gvda'r pellebyr diwifr am gynorthwy, ac anfonwyd drwy agerlong perthynol i'r Llywodraeth o'r porthladdoedd agosaf, sef Rimouski a Father Point.

NERTH Y GWRTHDARAWIAD

NERTH Y GWRTHDARAWIAD. Pan ddigwyddodd y gwrthdarawiad, yr oedd y rhan f o yaf o'r teithwyr yn cysgu yn eu gwelyau, ac tuur gyflym y suddodd y Hong fel na chafwyd dim amser i ddwyn nebifyny i'r dec. Llesteiriwyd gwaith y dwylaw gan ogwyddiad y lIong, ac nid oedd ond naw o fywydfadau wedi eu lansio pan suddodd y llong i 144 troedfedd o ddwfr. Achubwyd rhai canoedd-anhawdd rhoddi cyfrif manwl pan ydym yn ysgrifenu, ond derbyniodd rhai o honynt niweidiau, o'r rhai y buont feirw yn ddilynol, a dioddefai yroll oddiwrth yr oerfel. Gan nas gallai y teithwyr oeddynt yn eu gwelyau gyraedd y dec mewn pryd, dwylaw y llong ydynt fwyafrif y rhai aehubwyd, y rhai allent nofio, a llwyddwyd i waredu y cadben, yr hwn oedd yn y dwfr. Ychydig ferched a achubwyd, ac ymddengya fod y rhan fwyaf o deithwyr y dosbarth cynt-if wedi colli eu bywydau. Llywyddid y lleBtr gan Cadben Kendall, yr hwn ydoedd y swyddog fu yn foddion i ddwyn Crippen i afael yr awdurdodau pan yn teithio yn ei lestr blaenorol. Y mhlith y teithwyr yr oedd amryw ddynion o nod, a thua 160 o swydd- ogion Byddin yr Iachawdwriaeth, y rhai oeddynt yn myned i gynhadledd yn Llundain. Cyrhaeddodçl agerlongau o Rimouske a lleoedd ereill, a llwyddasant i achub rhai oeddynt yn ymdrechu am eu bywydau yn y dwfr, gan eu cymeryd i ddiogelwch. Niweidiwyd y \Storstad hefyd drwy y gwrthdarawiad. Yr oedd ysgrechiadau a gwaeddiadau y trueiniaid oeddynt yn cael eu sugno i lawr gan y dwfr yn galonrwygol, a thrwm ydoedd gwrando ar eu dolefau, gan nad oedd amser i'w hachub oherwydd sydynrwydd y gwrth- darawiad.

ADRODDIADAU Y RHAI ACHUBWYD

ADRODDIADAU Y RHAI ACHUB- WYD. Mae rhai o'r personau waredwyd wedi gwneyd mynegiadau am y trychineb, a chyhoeddwn ychydig o honynt:—Dr. George Grant, meddyg y Hong, ddywedai na wyddai ddim am y ddamwain hyd nes y dymohwelwyd ef o'i wely gan ruthr yr ysgogiad. Ceisiodd roddi y goleuni try- danol mewn gweithrediad, ond pallodd hwnw. Gydag anhawsder y Uwyddodd i agor drws ei ystafell, a phan gyrhaeddodd y fynedfa yr oedd bron yn anmhosibl myned ymlaen, gan fod y llestr wedi dym- chwelyd ar ei hoehr, a thaflwyd ef gyda sydynrwydd i'r dwfr gyda tua chant o deithwyr. Ceisiodd nofio yn nghyfeiriad yr agerlong "Storstad," a phan bron di- ffygio drwy yr ymdrech a'r oerfel, pigwyd ef i fyny gan fywydfad. Derbyniasant bob ymgele dd a charedigrwydd ar fwrdd y "St-orstad," a phan yn alluog gwnaeth a allai i gynorthwyo y rhai waredwyd. Yr oedd rhai mor lluddedig fel y buont feirw. Lladdwyd rhai drwy gael eu gwasgu yn erbyn y llong. Mr. Fergus Duncan, cyfreithiwr o Lun- i dain, a ddywedai, "Fel yr oeddwn yn nofio, ymaflodd chwech o ddynion yn fy erbyn, ac yr oedd yn rhaid i mi eu gwthio ymaith gystal ag y medrwn. Fel y nofiwn, teim- lwn luaws o gyrff noeth danaf. Gwelais amryw ddynion yn rhoddi eu life-belts i ferched. Ychydig funydau wedi i'r llong suddo, ciliodd y niwl, a chanfyddai oleu- adau y 'Storstad' yn y pellder o filldir." Yr oedd Capten Rufus Spooner a'r Is- gadben Keith ymhlith yr ychydig aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth i gael eu liachub. Dywedai y diweddaf pan agor- odd ddrwa y caban, llifodd y dwfr i mewn yn genllif. Dringodd i fyny y gangway gyda llawer o anhawsder, a llwyddodd i gyraedd un o'r rheiliau, wrth yr hon y glynodd hyd nes oedd y dwfr o fewn llathen iddo. Yna neidiodd i'r dwfr, a nofiodd, ond ni theimlai unrhyw nerth yn ei freich- iau na'i goesau. Tarawodd ei ben yn erbyn pren, ac ymhen ychydig funydau rhwbiodd cwch yn erbyn ei ysgwydd, a llwyddodd i afael ynddo. Mae Mr. Greenway (brodor o Gaerdydd), aelod o'r seindorf, yn ddyledus am ei fywyd i naid wyllt a wnaeth i fywydfad, yr hon a ddisgynodd yn union o'i safle, gan ddisgyn ar ddau gwch islaw, y rhai oeddynt yn llawn o deithwyr. Maluriwyd y cychod, a chollodd y rhai oedd ynddynt eu bywydau drwy gael eu lladd neu foddi. Darfu i swyddog arall perthynol i Fyddin yr Iachawdwriaeth, sef yr Uch- gadben Attwell, nofio at gwch, gan gludo ei wraig ar ei gefn. Gyda Mrs. Attwell, pan ddygwyd hi a'i gwr i'r Ian, yr oedd geneth wyth mlwydd oed o'r enw Grace Hanagan, merch un o'r seindorf, a dywed- odd wrth ohebydd, "Nid oeddwn wedi dychrynu hyd nes y gwelais Mr. a Mrs. Attwell yn myned i'r dwfr. Yna aethum inau i lawr-yn ddwfn, ddwfn. Daethum i fyny o'r diweddi a gwelais fy mam a'm tad yn nofio gerllaw. Aethum i lawr un- waith yn ychwaneg, a llyncais lawer o ddwfr cas. Pan godais i'r gwyneb, gwelais oleuni, a galwodd dyn arnaf. Ymdreohais afael mewn rhaff, ond yr oedd fy nwylaw yn ddu fel tar, felly tynodd y dyn fi i'r cwch.' Nid yw yr eneth druan yn gwybod eto fod ei thad a'i mham wedi boddi. Adroddai Miss Eva Bale, 21 mlwydd oed, yr hon oedd ar ei ffordd i'w chartref yn Lloegr, ei bod wedi dringo gyda merch arall i'r dec uchaf, ond drwy ysgytiad y llong gwahanwyd hi oddiwrth ei chyfeill- esau. Neddiodd i'r mor, ond cofiodd nas gallai nofio. Canfyddodd ddyn yn taflu allan ei freichiau yn y dwfr, a gwnaeth hithau yr un peth, a thrwy hyny bu yn alluog i gadw ei hun rhag suddo. Gwared- wyd hi gan fywydfad, a than lefain dy- wedodd, "Myfi yn unig a adawyd o barti o ddeg." Mr. R. E. Abbott, a ddyry ei dystiolaeth ynglyn a Mr. Laurence Irving (mab y di- weddar Syr Henry Irving). "Cyfarfyddais ag ef gyntaf ar un o'r mynedfeydd, pan ofynodd yn dawel, 'A yw y llong yn suddo?' Dechreuodd Mrs. Irving lefain, ac fel yr oedd Mr. Irving yn ymestyn at lifebelt, yn sydyn darfu i'r llong ysgytio'n mlaen, a thaflwyd ef yn erbyn drws ei gaban. Yr oedd ei wyneb yn gwaedu, ac aeth Mrs. Irving yn gynhyrfus. Darfu i Mr. Irving gario ei wraig drwy anhawsder mawr i fyny i'r dec. Gofynodd Mr. Abbott a allai estyn cynorthwy iddynt, pan atebodd Mr. Irving, "Gofalwch am eich hunan yn gyntaf, ond Duw a'ch bendithio yr un modd. Neidiodd Mr. Abbott i'r dwfr, ac wedi iddo gael gafael mewn darn o goed, edrychodd o'i gwmpas, a chanfyddodd Mr. a Mrs. Irving yn ymgofleidio ac yn cusanu eu gilydd. Un o'r golygfeydd dwysaf ymhlith y rhai aohubwyd ydoedd Florence Barber, wyth mlwydd oed, ó Cumberland, yr hon a am- ddifadwyd o fam a chwaer. Mae y gyflafan hon yn dilyn y golled gafodd drwy farwol- aeth ei thad, yr hwn laddwyd yn ddiweddar yn Ontario, ac yr oedd y teulu ar eu ffordd adref i Loegr.

Y MUNYDAU OLAF

Y MUNYDAU OLAF. Dyma ddisgrifiad un o'r teithwyr, Mr. Raymond Duncan, o'r olygfa ar y llong cyn iddi suddo. Wrth gwrs, yr oedd yno annrhefn mawr. Nid oedd hyny ond peth i'w ddisgwyl mewn amgylchiadau felly, ond gwelais rai o'r criw yn helpu teithwyr. ac amryw ddynion yn rhoi eu lifebelts i ferched. Yr oeddwn i wedi gadael fy life- belt yn y cabin, ond cyfarfum a dyn a chanddo ddwy a chefais i un ganddo. Oni- bai am hyn ni fuaswn ar dir y rhai byw yn awr. Pan oedd y teithwyr ynghanol yr holl ferw hyn, rhoes y llong dro ar ei hochr, a thaflwyd pawb oddiar y dec i'r mor. Pawb drosto'i hun oedd hi wedyn. Sgrechai gwragedd a gwaeddai dynion wrth ddisgyn i'r dwfr. Suddais i'r dwfn ond daethum i fyny drachefn, ac yr oedd y sgrechain a'r bloeddio yn fyddarol o'm cwmpas, ond distewai un ar o] y Hall fel y gorchfygid hwy gan y tonau ac y cleddid hwy yn y mor. A gwelais ddvnion yn ym- ladd a/u gilydd ym mhaineeyd-d ang-eu Aeth yr 'Eureka' a'r 'Lady Evelyn' yn ol i Rimouski. Yr oeddynt yn llwythog o gyrff, rhai yn farw a'r Ileill yn vmyl marw Yr oeddynt oil bron yn noethlvmun, ac amryw ohonynt wedi eu h .nafu'n ddifrifol gan y gwrthdaro. Yr oeddvnt wed- haner rhewi yn y dwr, a'u haelodau'n ddideimIad hollol.

GWRHYDRIR CAPTEN

GWRHYDRI'R CAPTEN. Gwnaeth Capten Kendall wrhydri mawr. Yn y gwrthdaro fe'i taflwyd oddiar ei draed, ond oododd ar amrantiad, a rhoes orchymynion i'r criw y wneud y peth hwn a'r peth arall. Gwelais ef ar y bout (meddai Mr. Hayes, y purser cynorthwyol) pan oedd y Hong ar soddi. Gafaelodd meyn lifebelt, a phan welodd fi'n dynesu ato tynodd hi oddiamdano a thaflodd hi ataf gan waeddi gair o gysur i mi. Yna, ymhen ychydig neidiodd Capten Kendall oddiar y llong, ond ymhen haner awr gwel- ais ef yn y mor yn gafael mewn darn o bren. Llwyddasom i'w godi i'r cwch yr oeddwn i ynddo, a chyn gynted ag y daeth ato'i hun dyma ef yn gafael yn un o'r rhwyfau. "Yn oil, am ychwaneg," meddai, a throdd ben y cwch yn ol. Am bedair awr daliodd ati i rwyfo yn 01 ac ymlaen tra y codid ychwaneg o gyrff, ac fel hyn fe achubwyd 75 o fywydau gan y cwch hwn. Ond yr oedd y Capten dewr wedi rhoi gor- mod o dreth ar ai nerth, a hysbyswyd fore Sadwrn ei fod yn marw yn Rimouski. Erbyn dydd Sul, fodd bynag, dywedid ei fod yn well, ac fod gobaith yr arbedid ei fywyd drwy'r cwbl.

YMCHWILIADAU AM Y CYRFF

YMCHWILIADAU AM Y CYRFF. Dodwyd y cyrff a gafwyd mewn eirch, a dydd Sul cludwyd hwy ar fwdrd yr ager- long 'Lady Grey' i Quebec. Mae ym- chwiliadau am 40 milldir ar lanau yr. afon yn cael eu gwneyd gan ugeiniau o swydd- ogion.

CADERNID YR EMPRESS OF IRELAND

CADERNID YR EMPRESS OF IRELAND." Sicrheir na ddigwyddodd y trychineb alaethus hwn drwy fai neu esgeulusdra neb, gan fod pob mesur i sicrhau ei diogelwch wedi ei gymeryd. Meddai ar wBJeIod dwbl cadarn, yr hyn a allasai ei hachub pe cyfar- fyddai a. mynyddau o rew megis ag a wynebodd y Titanic." Yr oedd ei threfn- iadau mewnol yn gyfryw ag y credid y gallai ddal i nofio am amser rhesymol pe digwyddai damwain, a chariai ddigon o gychod ar gyfer pob un ar ei bwrdd. Ni arbedwyd traul na thrafferth i'w gwneyd mor ddiogel a chysurus ag oedd ddichon- adwy, a chadwyd mewn cof y diffygion fod- olent ynglyn a'r "Titanic." Er gwaethaf pob gofal a rhagocheliad, tra y safai yn llonydd ar afon fawr St. Lawrence daeth y "Storstad" i wrthdarawiadi a hi gyda'r fath nerth, nes y rhwygodd ei hochr, a chyn pen deng munyd yr oedd wedi suddo, a chan- oedd o'r rhai. oedd ar ei bwrdd wedi suddo i'w dyfrllyd fedd. v

CYMRY AR Y BWRDD

CYMRY AR Y BWRDD. Wrth-edrych drwy y rhestr gwelir enw llawer iawn o Gymry yn eu plitb, ond ni yn wyddis pwy ydynt oil nag o ba le y maent dod, ond y mae sicrwydd ynghylch rhai o hon- ynt. Ymhlith y stiwardiaid yr oedd Cymro o Rhostylleri, Wrecsam, o'r enw Cadwaladr Rob erts, tair ar ugain oed. Bu gyda'r llestr yn ystod yr ugain mordaith diweddaf. Yr oedd trigolion Bangor mewn cyffro a phryder mawr pan gyrhaeddodd y newydd yno oberwydd fod tri oddiyno ar ei bwrdd. Y tri o Fangor ydynt Charles Burns, Manny Bray, a W. Roberts, yr oil yn fechgyu ieuainc o bump ar hugain i bymtheg ar hugain oed. Mab i weddW yn byw yn y Garth yw Burns, ac y mae'r teulu yn fawr eu parch yn y ddinas. Y mae yno amryw feibion a merched eraill. Stiward ar y Hong oedd Burns. Bachgen pump ar hugain oed yw Manny Bray, mab i Bray, y Swyddog sydd yn gwylio y I Clio' yn y nos. Dyma ei drydedd fordaith gyda'r I Empress of Ireland.' Yn adran y bwyd yr oedd ef. Bachgen pump ar hugain oed yw W. Roberts, a thriga yn Fair View, Bangor. Bu yn ddosbarthwr llythyrau ym Mangor ac yr oedd yn neilltuol o boblogaidd ymhlith pobl ieuainc y ddinas. Yr oedd yn ddatgan- wr rhagorol, a mynych y gelwid arno i ganu i deithwyr y- 'dosbarth cyntaf. Yr oedd dau o Fethesda ar ei bwrdd, sef Thomas Williams, mab Mrs. Williams, Coedyparc (gweddw). Efe oedd y prif stiward, ac oddeutu deuddeg ar hugain oed. Hefyd, yr oedd Harold Jones, mab Mr. 0. T. Jones, Elfed Terrace, ami. Bachgen ieuanc dwy ar hugain oed yw ef, a gwasanaethai fel stiward cynorthwyol. Daeth gair yn ddiweddarach yn dweyd ei fod yn ddiogel. Yr oedd C. A: Williams, bachgen o Ddinbych, hefyd ymhlith y rhai achubwyd.

TRYCHINEBAU BLAENOROL

TRYCHINEBAU BLAENOROL. Ymhlith y trychinebau difrifol ar y m6r y blynyddau diweddaf, nodir y rhai canlynol:- Blwyddyn. Bywydau golhvyd. 1913.- Volturno, ar dan yn yr Atlantic 126 1912,-Titanic, suddodd ar ei mor- daith gyntaf 1503 1910.-General Chanzy, collwyd ger- llaw Minorca 200 1909.-Waratah, diflanodd 211 1908.-Sardinia, llosgwyd ar For y Canoldir 125 1907.-Berlin, suddodd yn yr Hook of Holland 128 1906.-Sirio, drylliedig ar dueddau Y spa en 300 1905 -Hilda, dryHiedig yn St. Malo. 128 1904.—General Slocum, llosgwyd ger Rfrog Newydd 1000 1899 —Stella, collwyd ar dueddau Alderney 105 lR95.-Drummond Castle, drylliedig ar dueddau Ushant. 247

GWERTH DAU CAN MIL 0 ARIAN WEDI SUDDO

GWERTH DAU CAN' MIL 0 ARIAN WEDI SUDDO. Newyddion o Montreal a fynegant fod gwerth dros 200,000p. o arlan, oeddynt yn cael eu cludo yn y llong wedi suddo, ond gwneir ymchwiliadau gan ymsuddwyr i ddwyn i fyny bobpeth ellir.

CRONFA GYNORTHWYOL

CRONFA GYNORTHWYOL. Eisoes mai rhai miloedd o bunau wedi eu casglu tuag at gynorthwyo teuluoedd y rhai gollasant eu hanwyliaid. Gwneir casgliadau ymhob rhan o'r deyrnas, a hyderir na fydd i neb esgeuluso cyfranu tuag at amcan mor ardderchog. Casglwyd 413,212p. 2s 10c. at drysorfa y I Titanic,' a rhenir 20,000p. yn flynyddol o'r drysorfa hono.

TRENGHOLIAD AR Y CYRFF

TRENGHOLIAD AR Y CYRFF. Cynbaliwyd trengholiad ddydd Sadwrn yn Rimouski, pan y rboddwyd tystiolaeth gref erbyn Cadben Andersen, yr hwn lywyddai y Storstad.' Tystiai Cadben Kendall, llywydd yr Empress,' y gallasai pob un ar fwrdd ei long gael ei achub pe buasai Cadben Ander- sen wedi gadael i'w long sefyll yn y twll a wnaeth yn yr I Empress,' yn lie myned ymaith wedi i ddymuniad gael ei wneyd i'r perwyl hyny. Gan fod Cadben Andersen wedi myned i Montreal, nis gall roddi ateb- iad i'r cyhuddiad hyd ddydd Sadwrn nesaf. CYDYMDEI Y TEULU BRENHIN-

MLAD Y TEULU BRENHINOL

OL. Mae y Brenin, y Frenhines, a'r Gyn- Frenhines Alexandra, yn unol a'u harfer, wedi anfon brysnegeseuon at deuluoedd y rhai gollasant eu bywydau, ac wedi cyfranu yn haelionus tuag at gynorthwyo teuluoedd y rhai gollasant eu bywydau.

HAWLIO IAWNDAL

HAWLIO IAWN-DAL. Mae perchenoglon yr Empress of Ireland wedi anfon gwys am 4Q0,000p. o iawn-dal am y golled a dderbyniasant.

Cyfarfodydd Blynyddol y Gymdeithas YGenhadol Eglwysig

Cyfarfodydd Blynyddol y Gymdeithas .Y Genhadol Eglwysig. Ar ddiwedd blwyddyn newydd (Mawrth 31) o ymdrechion cenadol, pwy a'n beia am fod yn ddiolohgar am y symudiad calon- ogol i hyrwyddo teyrnas yr Iesu. Gwir nas gall y diolchgarwoh fod yn gyflawn, canys rhaid wylo wrth gofio fod cyllid y wlad yn X205,000,000, tra nad yw yr holl gyllid cenadol (pob enwad) yn ddwy filiwn. Gwerir ar gyfartaledd X- 3 y pen y flwyddyn ar ddiodydd meddwol, tra na roddir un geiniog ar ddeg y pen ar waith oenhadol. Ond yr ydym yn symud yn y blaen. Bu cyfarfodydd Mai eleni eto ynjllawn brwdfrydedd, a chyn myned yn mhellach, carwn i'r darllenydd gyd-ddiolch â niam lwyddiant y cymdeithasau ereill, yn en- wedig eiddo yr S.P.G. Derbyniodd y Gymdeithas hon yn 1913 zC34,000 yn fwy nag yn 1912, a mwy o offrymau bywydol nag erioed o'r blaen. Yr ydym hefyd yn diolch am adferiad iechyd Esgob Mont- gomery, ysgrifenydd y gymdeithas. Y mae wedi llwyddo i enill edmygedd pob un ar sydd yn caru'r Deyrnas. Hir y parhao i ddal yr awenau. Am ein cymdeithas ni, G.G.E. (C.M.S.), yr ydym wedi croesi yr hailner can' miliwn eleni. Cafwyd dros Xilo,ooo mewn atebiad i apel Swanick. Yr Arglwydd a.wnaeth i ni bethau mawr- ion, am hyny yr ydym yn llawenychu. Y Duw a'n harweiniodd hyd yma a'n nertha eto i gyflawni gweithredoedd mwy, a gobeithio y'n ceir yn Nghymru yn dal brechiau yr holl gymdeithasau cenadol. Y BREGETH FLYNYDDOL. Bellach, ed- rychir ar Eglwys St* Bride fel Jerusalem caredigion y G.G.E., canys yno y pregethir y bregeth flynyddol. Yn gyntaf oil yn y boreu ceir gweinyddiad o'r Cymun Bendig- aid, ceir cyfarfod gweddi yn Ngiholeg Seion a'r gwasanaeth hwyrol efo pregeth am 6.30 yn S. Bride. Eleni, cafwyd pregeth gan Arglwydd Esgob Moule, o Durham, Tad Ysprydol y Gymdeiithas, ao arweinydd tyner ac addfwyn ei phlant. Cymerodd ei destyn o Actau i. 7, 8, 'Chwi a fyddwch dystiion i mi.' Neges hanfodol Eglwys Crist. Er fod yr alwad yn hen, eto ail eiwir arnom i ddechreu o'r newydd. Dyma gyfrinach bywyd unigol ac hefyd bywyd corfforaethol. Er mwyn ceisio sicrhau y gwirionedd o'r priodolrwydd o ail ymaflyd yn y gwaith cenadol,edrychodd yr Esgob ar y gwirionedd o dri safbwynt: (1) Y Byd. (2) Yr Eglwys. (3) Yr Efengyl. 0 dan y penawd cyntaf olrheiniodd ei Arglwydd- iaeth hanes gwledydd fel Japan, India, a China, eu penderfyni ad i ymarfogi a ohleddyf dysig. I'r Crisition, gwel fod hyn yn ddrws agored. Nid oes dim i'w fraw- ychu, er ei fiod yn llesmeirio gan syndod wrth weled pob gwlad yn rhoddi genedig- aeth i ddyhead am fywyd uwch. Dyma alwad i'r Eglwys gartref i ateb y lief o Macedonia. 0 dan yr ail benawd, yr oedd llawer o ddisgwyliad beth a ddywedai am Kikuyu. Ni soniodd yr enw, ond mewn geiriau sobr, pwyaedig, heb yr un tuedd ar gulni, gosod. odd mewn ychydig eiriau rhywbeth mwy pwysig nag amgylchiad Kikuyu, sef yr egwyddorion hyny sydd y tu ol i amgylch- iadau o'r fath. Gwell rhoddi ei eiriau yn Saesneg rhag gwneyd cam a. hwynt trwy gyfieithiad 'These are questions that gather around —Order and Union. Of these also I speak with a serious restraint. This is a momemti when the man who would contribute his item to the unification of Christendom for the work of witness should abstain with all his will from every word that may even seem partial or provocative. Let us pray now, if ever, for the good hand of our God upon us all, on every side, guiding usi all, always, towards a real unity of the Spiritl in the bond of peace of Christ. On the one part may that hand avert all inconsiderate breaches with the living continuity of the Christian part; all restive misliking of re- verential discipline, all semblence of the thought that a really apostolic order does not greatly matter. On the other part may the Divine Guide shew usnot to dis- tort order into obstacle; how not to erectt into vital truths of revelation even the most authentic, beneficial, venerable insti- tutions of which yet it cannot be said that the Scriptures have given them as open re- velatons to the Church. May we all be illuminated to see things in their spiritual proportions. In the words of a great and independent leader in the Church, lately addressed to myself, may we never forget that order, succession, transmitted autho- rity, are good and great, and that the Spirit and His life are yet better and yet greater We shall not go astray, as we ponder the pagan and Moslem world in front of us, and the work of wit- ness to be done in that vast and formidable presence.' CYRNOL KENYON, R.E. Llaweilydd! oedd cael sylwadau y lleygwr uchod, yr hwn a roddodd ei argraffiadau o'r gwaith a welodd yn nwyrain Affrica. Y cyntaf oedd y diolchgarwch a ddylid deimlo yn lledaen- iad Eglwys Dduw. Soniodd lawer am Kavorondo, lie mae llaweroedd yn dyheu am fedydd. Cred fod cynhauaf mor dor- eithiog, os nad mwy, yma nag yn Uganda. Yr ail argraff oedd fod yrt holl orsafoedd heb ddigon o gynorthwywyr, yn enwedig cynorthwy lleygwyr. Golygfa dorcalonus oedd gweled offeiriaid yn gorfod treulio eu hamser i adeiladu ysgolion, etc. Un oedd yn hynod lwyddianus gyda'r gwaith o gyf- ieithu a orfodwyd i adael ei waith er mwyn adeiladu Eglwys. 'Paham?' medd y Cyrnol, 'am nad ydym ni fel lleygwyr yn cymeryd rhan o'r baich.' Paham y dis- gwylir i offeiriaid, doctoriaid a nurses yn unig i fyned allan ? Paham na cheir ereill, megis seiri coed, seiri maen, amaethwyr, cryddion, teilwriaid, etc. ? Onid yw yr gwaith yn perthyn iddynt hwy? Onid ydynt hwy yn aelodau o Eglwys Dduw? Paham ynte na cheir lleygwyr—dynion wedi eu hysprydoli, ac wedi eu hangerddoli gan y tan Dwyfol i estyn cortynau y babell? YSGOL HAF GENADOL.—Erbyn hyn mae bron yr holl gymdeithasau yn cynal ysgol- ion haf cenadol. Eleni ceir dwy gan y C.M.S., un yn Lowestoft a'r llall yn Grey- stones. Mae yr olaf yn agos i Dublin, ac a gynier le o Mehefin 12—21. Trwy garedig- rwydd cyfeillion yn y lie medr y Gym- deithas gynyg telerau rhad am letygarweh, e.g., gellir cael ystafell ac ymborth am yr holl amser am £2 neu X 1 10s. Os una dad efo'u gilydd, gellir cael y telerau olaf am £1 5s. yr un. Cymerir y gadair eleni yn Glreystones gan Esgob Ingham, a cheir anerchiadau gan yr Esgobion Gill o Trav- ancore a Peel o Mombasa, Parohn. J. A. Cullen, o Bengal; E. E. Lavy, o Arabia, a J. H. Linton, o Persia. Cymerir yr adran ddefoisiynol gan yr enwog genadwr cenadol, y Parch. Hubert Brooke a Chanon Bud- rough o Tiverton. Man tlws ar lan y in or yw Grey stones, yn agos i'r Brifddinas. Ceir rhyddid i fyned oddiamgylch yn y pryd- nawnau, pryd y ceir cyfleusderau i wele

rLLANLLECHIDr j

rLLANLLECHIDr j Nos Sul, y 24ain o Fai, bu Arglwydd Esgob Bangor yn gweinyddu Conffirmasiwn yn Eglwys Llanllechid ar nifer dda o ieu- enctyd, ynghyd a. nifer o Eglwys St. Cross- Hefyd dadorchuddiwyd ar y noswaith bon j y cofebau a roddwyd i fyny yn yr Eglwys j un er cof am Archddiacon Meirionydd a diweddar beriglor y plwyf am 26 o flyn" yddoedd. yr hon a roddwyd gan ei blant, J ac hefyd un a roddwyd gan gor a chyunll- j eidfa Eglwys St. Llechid er cof am y di- J weddar Mr. Thomas Pierce, Pantygwaif) lie y bu yn gwasanaethu yn ffyddlon fel ar- j weinydd y cor am 36 o flynyddoedd. BoreM y Sul hwn cyflwynwyd i wasanaeth Du^ J gan y rheithor, ddysgl elusen, ate arni t „ geiriau canlynol wedi eu tori: 'Gwyn fyd i ystyria wrth y tlawd. Er gogoniant Dduw, ac er cof am Thomas a Margaret Pierce. Rhoddedig gan eu plant, 1914.' Y mae yr anrheg yn dderbyni^ iawn.-II.R.H.

MARCHNAD CAERFYRDDIN

MARCHNAD CAERFYRDDIN. Dydd Sadwrn, Mal 30ain.-Daeth llawer 0 bobl ynghyd heddyw, ac yr oedd y cyflenwad a'rgalwyn dda iawn. Ymenyn yn bwy^» llcypwys; mewn casgiau, 10ic i I lo; leit ieuanc, Is 2c y pwys hen ieir, 2s 9c 1 3s yr un; caws, 43s y canpwys; wyau, 14 am Is. ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLTIO YN SWYDDFA'R LLAN." j