Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Morfa

"Morfa." FICER PENMAKNMAWR YN LLUNDAIN. Un o'r prif siaradwyr yn nghyfarfod blynyddol y Church Pastoral Aid Society, yn Llundain, y dydd o'r blaeu, oedd y Parch. Griffith Mathews, ficer Penmaenmawr. Cafodd dderbyniad gwreaog, a thraddododd ei araeth yn hyawdl ac argyhoedd- iadol. Dywedodd mai braint oedd iddo gael aefyll ar y llwyfan hwnw, a chyfrifoldeb. Yr oedd arno ofn nad oedd y Cymry, yn enwedig rhai o honynt, yn dderbyniol iawn na phoblog- aidd iawn ar hyn o bryd. Eto, teimlai yn anrhydedd i fod yn weinidog i'r hen Eglwys Brydeinig, yr hon oedd a'i gwreiddiau yn y wlad er dechreu'r bodwaredd ganrif (cymeradwyaeth). Dymunai ddweyd gair o safbwynt yr Eglwys a'r agwedd grefyddol o Gymru. Cymwys oedd i'r gymdeithas gael Cymro ar y llwyfan, pe ond i ddangos dyled Cymru iddi yn ystod y 70 mlynedd diweddaf. Ni wyddent beth oedd ar ddigwydd, ond edrychent ymlaen yn ffyddiog at y dyfodol, gan deimlo y bydd i'r Gymdeithas yma, a miloedd heblaw, o Eglwyswyr Lloegr sefyll wrth yr Eglwys yn Nghymru yn ei chyfyngder, a rhoi pob cynorthwy iddi (cym.). Yr oeddynt yn aiolch i Dduw am y gwaith mawr a gyflawnwyd gan yr Ymneillduwyr yn Nghymru gan' mlynedd yn ol, pan oedd yr Eglwys yn Nghymru a Lloegr mewn cyflwr truenus. Bu y tadau Methodist- aidd yn foddion i achub Cymru rhag marw yn ysprydol. Nid oedd neb am wrthod rhoi i'r Ymneillduwyr hyny y clod a'r anrhydedd sydd ddyledus iddynt, ond nis gellir rhoi i Ymneilldu- wyr y dyddiau picsenol y ganmoliaeth eu bod yn feddianol ft dim o ddifrifoldeb, zêl, ac ysprydol- rwydd eu cyndeidiau ac anghyfiawn hefyd yw ymweled & chospi yr Eglwys yn Nghymru heddyw am gysgadrwydd a difrawder yr Eglwys gan' mlynedd yn ol (cym.). Yna aeth Mr. Mathews i son am waith yr Eglwys yn Nghymru yn ystod y 70 mlynedd diweddaf, a'r help rodd- wyd iddi gan y C. P.A S. Nid oedd gymdeithas yn Eglwya Loegr heddyw a chanddi orphenol mwy gogoneddus, na chanddi addewid mor fawr am ddyfodol dysglaer. Beth bynag oedd i ddigwydd i'r Eglwys yn Nghymru, cysurus oedd y ffaith fod 103,000 o Ymneillduwyr wedi gwrth- dystio yn erbyn y drwg mawr o amddifadu yr Eglwys o 2157,000 y flwyddyn. Diolchodd Mr. Mathews yn gynes i'r gymdeithas am ei gwaith da yn cynorthwyo llawer i blwyf anghenus yn Nghymru yr oedd yr Eglwys yn Nghymru yn wir ddiolchgar am weddïau a rhoddion y gym- deithas, ac edrychai ef ymlaen at yr amser pan y byddai yr Eglwys yn Nghymru yn ddigon cryf i dalu rbywfaint yn ol o'r hyn a dderbyniodd. HANES ENWAU LLEOL. Darllenais erthygl ddyddorol dros ben y dydd o'r blaen yn rhifyn diweddaraf yr 4 Archurologia Cambrensis' (a fenthyciwyd i mi gan Mr. R. Jones-Morris) ar 4 Hanes Enwau Lleoedd yn Ardal Llanelwy,' gan y Parch. John Fisher, B.D. Dengys Mr. Fisher mor ddwfn ddyddorol yw hanes yr enwau yma. Adlais yw llawer iawn o'r enwau yma, o fynydd a dol, o'r dyddiau gynt- adlais o'r iaith lefarwyd gan rai drigent yma ymhell cyn i'r un Celt droedio Prydain. Ifanc yw yr efrydiaeth yma eto, a rhaid maddeu i'r rhai ydynt yn dechreu cripian yn y gelfyddyd- waith, oherwydd nwyfuB iawn a chwareugar ydynt yn eu hanes o darddiad y gair yma a'r gair arall. Er engraifft, afon yw y Rhymney, rhwng Morganwg a Mynwy. Un adeg, wele byddinoedd y Saeson a'r Cymry yn cyfaifod ar ei glanau, wyneb yn wyneb. Medde'r cadfridog Saesneg draws yr afon, I Are you ready ?' ac medde'r Cymry yn ol, R'ym-ni.' Dyna darddiad y gair Rhymney,' os gwelwch fod yn dda Tarddiad y gair 'Nebuchodonosor' yw Neb- uwch-o-dan-y-scr.' Ac felly yn y blaen. Bech- gyn y dosbarth A.B.C. yw y rhai'n.. Mae Mr. Fisher wedi paaio Standard VII. er's lawer dydd bellach, ac yn un o'r awdurdodau cadarnaf sydd genym ar bethau fel hyn. Ond er uched yw Mr. Fisher yn y gelfyddyd o chwilotta hanes enwau lleol, addefa am Mr. Egerton Phillimore fel hyn Our greatest authority on Welsh place- names.' Cyfeiria Mr. Fisher at law-ysgrif hynod ddyddorol geir yn y Llyfrgell Esgobol yn Mbalas Llanelwy, yn yr hwn ceir cip rhyfedd i fywyd cymdeithasol yr hen Gymry. Dyma rai enwau o'r llawsysgrif :-Nant, Esgob, Maes y Groes, Maes y Pab, Gallt y Benglog, Perth y Saint, Cae Elidyr, Dol Bebyd, Dol a Gwern Geiriadog, Perllan Feilir, yr Henffordd, Allt Tanwas, Lletty Rhiwallon, a Nant Gwy Kweir. A dyma restr o enwau personau geir yno :—Adda Llechwr, Bleddyn Fongam, Ririd, Seisyllt, Hilin a Carwed. Mae yma gyfeiriad hefyd at Prydydd y Moch, sef Llywarch ab Llywelyn, bardd o ddyddiad 1160-1230, bardd teulu Llywelyn ab Iorwerth, ac awdwr 4 Awdl yr Haearn Twymn.' Dyddorol fyddai gwy bod hanes y geiriau Coed Ynyd, Gwerglodd Ynyd, a Cae Gwenwisg. Y syniad cyftredin am y gair Plas' yw, mai talfyriad yw o'r gair. Saesneg 'palace.' Nid felly, medde Mr. Fisher, a da y gwnaeth ddweyd hyn wrthym. Benthyciad yw o'r gair Saesneg 4 place,' sef trigfan y person pwysic- af mewn pentref neu dref fechan. Arwydda y gair I plas' ambell waith ddarn o dir neu gae, ar yr hwn ni fu ty crioed. Tyddyn sydd air arall y rhydd Mr. Fisher esponiad arno. Dyddorol iawn oedd hwn i,mi, oherwydd enw y ty yr wyf yn byw ynddo yw Tyddyn-yr-Eglwys.' Ystyr y gair 'tyddyn' yw fferm fechan.1 Syniad rhai, ie y mwyafrif, am y gair I tyn yw mai talfyriad o tf yn yw, the house in.' Dim o'r fath beth. Pe felly, beth am drigfanau fel Tynyffynon, Tynypwll, a Tynysimdde ? Nid yn hir yr arhosai yr un tenant mewn tai o'r fath. Talfyr- iad o tyddyn' neu tygdyn' yw tyn.' Ystyr y gair S&fO' yw—a causeway, a paved or cobbled road. Byiiia espotliad i mi ar y gair 'Talsarnau.' I Diolch, Mr. Fisher. Tarddiad ac ystyr y gair Rhuddlan yw -ihudd, 'red,' a glan, 'a bank' ] cyfeiriad at geulau goch yr afon Clwyd, Enw Saesneg yw Prestatyn, p un peth a Preston. Rhyw'fastard' o enw yw Rhyl hefyd, sef y Cymraeg yr,' a'r gair Saesneg, hill,' ac felly yat) r ygai" 'Rhyll yw-Y Bryn, the hill; dim mwy. Diolch eto i chwi, Mr. Fisher, am ysgrif ddyddorol dros ben. Rhagor o'r un peth yn fuan, syr, os gwelwch fod yn dda. Cofion. C.M.S. Dyma deitl etthygl arweiniol y Ooleuad am Mai 26ain, 1914. Rhaid i ni ganmol y Ooleuad yn wir am ddangos y fath haelfrydedd ac amlyg- rwydd i un o gymdeithasau cenhadol pena'r byd, a hono yn perthyn i'r Eglwys. Dyma ranau o'r ysgrif j-' Tair Uythyren yw yr uchod ag sydd yn esbonio eu hunain i bawb sydd yn gyfarwydd â chenhadaethau y byd. Ystyr y cyfan yw 'Church Missionary Society,' hyny yw, Cm. '(;

Advertising

t t t HEAD OFFICE: LOMBARD Slr. | LLOYDS BANK LillED]" The Bank is prepared, in M/Mmtm approved cases, to act as i|| Executor and Trustee of :l|| WillSi Trustee of Settlements, mLjfijr Trustee of Debenture Stock Issues, &c. Copies of the regulations can be obtained from the Trustee Department, l i ■$& 71, Lombard Street, or from |lp[{l SI 1 J any of the Branches. 1^11. XL i. PI THIS BANK HAS OVER 850 OFFICES IN ENGLAND & WALES. PARIS AUXILIARY; LLOYDS BANK (FRANCE) LIMITED.

No title

deithas Genhadol Eglwys Loegr. Mae yr ad- roddiad blynyddol am eleni mor eithriadol, acyn ffynhonell y fath lawenydd i bawb o garedigion teyrnas Crist yn y byd, fel yr wyf yn gofyn eich hynawsedd, Mr. Golygydd, i wneyd ei gynwys yn hysbys i ddarllenwyr y Goleitrtcl. Eleni yw y bedwaredd flwyddyn ar ddeg ar ol y cant o oed y Gymdeithas, ac y mae wedi dadblygu i fod y gymdeithas fwyaf yn y byd. Mae yn perthyn iddi 1318 o genhadon, yn cael eu gwneyd i fyny o 522 o feibion, 796 o ferched, yn cynwys 376 o wragedd cenhadon, a 420 o ferched ereill, megis meddygon, &c. Flwyddyn yn ol yr oedd rhagol- ygon y Gymdeithas yn dywyll ac ansier. Fel bron bob cymdeithas ddyngarol a chrefyddol arall yr oedd mewn dyled. Yr oedd cyllid y Gymdeithas yr adeg hono £ 28,000 yn fyr i gyfarfod y treuliau, a hyny yn ychwanegol at ddyled flaenorol o £ 46,000. Beth oedd i'w wneyd ? Yn ol pob tebyg anghenraid fyddai ileihau a galw llawer o'r cenhadon yn ol. Cyn- haliwyd cynhadledd yn Swanwick o gyfeillion yr achos i ymgynghori beth i'w wneyd ac i gael gwybod beth oedd ewyllys y Meistr mawr ar y mater. Ffrwyth y cyfan oedd casgliad neillduol o gan mil o bunau (^101,200) i gyfarfod angen eithriadol heb i hyny leihau dim ar adnoddau arferol y gymdeithas. Golyga hyn dalu yr oil o'r hen ddyled, cyfarfod a threuliadau presenol yn llawn, a buddsoddi Y,26,000 i fod yn drysorfa adeiladu i gyfarfod galwadau taer o wahanol ranau y maes cenhadol. Yr oedd holl gyllid y Gymdeithas dros haner miliwn (^508,215), Edrychid ar hyn fel prawf diymwad mai ewyllys yr Arglwydd yw ar i'r Gymdeithas fyned rhagddi i feddianu'r byd yn enw ein Harglwydd ni a'i Grist Ef. Yn Uganda-rhamant cenhadaethau y byd—derbyniwyd i'r Eglwys ar eu proffes o Grist dros chwe' mil y flwyddyn ddiweddaf. Mae pob aelod yno yn gallu darllen, ac yn hyddysg o gynwys y Testament Newydd. Deugain mlynedd i eleni y daeth Stanley allan o'i daith fawr ar draws Cyfandir Affrica, ac y gwnaeth yn hysbys i'r byd fod y fath wlad ag Uganda yn bod. Cymhellodd yr Eglwys i anfon cenhadon. Yn 1880, y cyrhaeddodd Alexander Mackay a'i gyfeillion i'r wlad, ac ar ol hyny y llofruddiwyd Hannington ar ororau Uganda. I Slave,' meddai wrth ei lofrudd-I ao tell your master that I have opened a way to your country at the price of my blood.' Erbyn heddyw wele eglwys o gan' mil yno, a hono yn ganolfan cenhadol i'r gwledydd oddiamgylch. A meddai O. Matthias, Llanymynech, ysgrifenydd yr erthygl hynod ddyddorol hon-wrth ddi- weddu, A oes rhywbeth yn anmhosibl yn y grediniaeth y bydd y byd i gyd wedi ei lefeinio a chrefydd Crist yn ystod y ganrif bresenol.' Diolch i chwi, Mr. Matthias, am eich ysgrif gadarn, llawn symbyliad a chalondid, ac i chwith- au, Mr. Golygydd y Goleuad, am ganiatau iddi ymddangos, a rhoi lie mor amlwg iddi yn eich papyr. Gwna ei darllen les i lawer, a bydd ei darllen yn foddion i enyn teimlad o gynhes- rwydd tuag at yr Eglwys sydd yn cyflawni gwaith mor ardderchog. Diolcb, syr GEMAU. 'If only we had grace-washed eyes, we should look at ourselves every morning in the presence of our God, and we should add a cubit to our stature by thinking that we were the children of the eternal God.' It is worth a thousand pounds a year to have the habit of looking on the bright side of things.' 1 Not understood. How many breasts are aching For lack of sympathy Oh day by day, How many cheerless, lonely hearts are breaking How many noble spirits pass away Not understood ?' 'Each sin has a door of entrance, Keep—that—door—closed Bar it tight Just outside the wild beast crouches In the night. Pin the bolt with a prayer, God will fix it there.' The serene, silent beauty of a holy life is the most powerful influence in the world next to the might of God.' Some say we shall all be tired of creeds and sermons, but never of This do in remembrance of Me." I So long as the streams run down, As long as the robins thrill, Let us taunt old Care with a merry air And sing in the face of ill.' r Don't wait for your ship to come in row out tJ meet it.' Be strong We are not here to play, to dream, to drift; We have hard work to do and loads to lift; Shun not the struggle face it. 'Tis God's gift.' 0 Do all the good you can, By all the means you can, 111 all the ways you can, In all the places you can, To all the people you can, As long as ever you can.' Be pitiful, for every man is having a hard If the stream at which you drink is muddy, go higher. The fountain is clear.' I hold those lives far nobler that contend and I win I The close hard fight with beautiful fierce sin, Than those that go untempted to their graves, Deeming the ignorance that haply saves Their souls some splendid wisdom of their own. You could not have any pity more tender than that of St. Paul; and yet he was filled with lightning. Do you know what Luther said ? Suffer and be still, and tell no man thy sorrow trust in God and his help will not fail thee.' This is what Scripture calls keeping silence before God. It was said of John Knox by the Regent Morton :—'He never feared the face of God.' FFYNNON CAPEL. Yn yr un rhifyn o'r I Archwologia Cambren- sis,' gwelaf ysgrif for, rhy far o lawer, gan Mr. R. Jones-Morris, Gwrach-Ynya, ar y testyn uchod, ynghyd 4 darlun o'r Ffynnon. Mae'r ffynom mown cae a el wir Cae Capel, ar Ffarm Tyddyn Sion Wyn, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Traethau, Meirionydd, rhyw chwarter milldir i'r ochr dde o'r hen ffordd sydd yn myn'd o'r Bermo i Tan y Bwlch, ar hyd yr hon y trafeiliodd Gerallt drwy Gymru, ac o fewn rhyw ddau can' llath i Glyn, trigfan Arglwydd Harlech. Nid yw Mr. Jones- Morris wedi gwel'd cyfeiriad ati yn yr un llyfr. Talodd Pennant ymweliad a'r Glyn, ond ni sonia am y Ffynnon na 'chwaith gyfeiriad ati yn Mhererindod' Edward Lhwyd, Hyd y fiynon, pum' troedfedd, dwy fodfedd ei lied, o'r tufewo, pedair troedfedd a thri chwarter i bum' troed- fedd ddyfnder, rhyw dair troedfedd. Ar yr ochr dawyreiniol, eisteddfa rhyw droedfedd o 10d. Rhyw haner milltir o wrthi, arferai fod hen dy, Dolysgymynach, ar Ffarm Lletty'r Wialch, ond yn 1865 adeiladwyd ty newydd ar seiliau Dolysgymynach i denant Lletty'r Wialch. Yn ddiameu fod yna gysylltiad rhwng Dolysgymyn- ach a Chae Capel. Yn yr hen amser, pan arferid y Capel i gynal gwasanaethau, dylid cofio fod Eglwys Llanfihangel-y-Traethau ar ynys, ac ni fedrai y plwyfolion fyn'd bob amser i addoli i'w Heglwys, oherwydd y mor, a dyma'r rheswm yn ddiameu am y capel y sonir am dano. Gres- yn na chaed dipyn o hanes y Capel yma, a natur y gwasanaethau a gynhelid ynddo. Hwyrach y cawn oleuni ryw ddydd. Mr. Jones-Morris yw'r dyn at y gwaith. RIGION O'R "GOLEUAD." Da genyf weled tyrfa barchus o bregethwyr yn dilyn George Duncan ar hyd cwrs y golfyn Aber- ystwyth ddydd Mercher. Wrth edrych arnynt, bu'm yn meddwl onid bendith Tuasai cael rhyw areithydd penigamp i ro'i gwersi mewn areith- yddiaeth fel y gwneir gyda golf ? Gwelaf fod Dr. Vyrnwy Morgan yn myned i sefyll fel ymgeisydd seneddol yn Grimsby yn yr etholiad netfaf. Nid yw wedi dweyd dros bwy y bwriada ddyfod allan. Hwyrach nad yw hyny yn bwysig, gan fod Dr. Vyrnwy Morgan yn ddigon annibynol i sefyll ar ei wadnau ei hun I Syr Isambard Owen oedd y prif areithydd yn ngwyl flynyddol YsgolSir Dolgellau,a thraddododd anerchiad teilwng o hono eihunaryramgylchiad. Pwynt yr araeth oedd dangos fod angen mwy o drefn yn ein cyfundrefn addysg, ac unoliaeth yn y syniad am yr hyn ddylai yr arholiadau fod, yn lie fod pob galwedigaeth a'i gofynion ei hun fel y mae yn awr. Rhoddodd bwys, hefyd, ar yr angen am wneyd rhywbeth i gymhwyso becbgyn ar gyfer bywyd masnach. Pwy yw awdwr y ddwy linell ganlynol A glywaist ti a gant yr jch oedd yn dyrnu ? Na id i'th bregethwyr i haner newynu.' Y maent yn bur hen. Diau fod angen am dan- ynt pan y llefarwyd hwynt gyntaf, a gresyn yw meddwl fod angen am lefaru yn groew mewn llawer cylch hyd yn nod heddyw. Onid oes llawer o ddynion ieuainc o ddeunaw oed i ugain weithiant yn y pyllau glo yn enill gwell cyflogau na llawer o weinidogion yn Nghymru ymboen- ant, a hyny yn gydwybodol, i' dori bara y bywyd' i'r cynulleidfaoedd ? ,,Gwyr. pawb nad yw y glowr yn cael yr un geiniog yn ormod. Ond da fyddai cofio fod y prsgethwr yn fynych yn cael rhy fach, a thra y gwrthdystir yn egniol mewn cylchoedd eraill yn erbyn y sweating system,' nid drwg fyddai ymholi rhag fod yr un drwg yn ffynu yn ein cylchcedd cysegredicaf. GWEDDI DEULUAIDD. Lord, behold our family here assembled. We thank thee for the place in which we dwell; for the love that unites us for the peace accorded us this day for the hope with which we expect the morrow for the health, the work, the food, and the bright skies that make our lives delight- ful for our friends in all parts of the earth. Purge out of every heart the lurking grudge. Give us grace and strength to forbear and per- severe. OffeLders, give us grace to accept and forgive offenders. Forgetful ourselves, help us to bear cheerfully the forgetfulness of others. Give us courage and faith and the quiet mind. Spare us to our friends, soften us to our enemies. Bless us, if it may be, in all our innocent en- deavours. If it may be, give us strength to en- counter that which is to come, that we may be brave in peril, constant in tribulation, temperate in wrath and in all changes of fortune, down to the* gates of death, loyal and loving one to another. As the clay to the potter, as the wind- mill to the wind, as children of their sire we be- seech of Thee this help and mercy for Christ's sake.—R. L. Stevenson. PSRSONOL. Deon Gwladol newydd Ardudwy yw y Parch. R. Lloyd Roberts, rheithor Abermaw. Allan o'r Church Times I- (yn sdn am y Mesur Dadgysylltiad): I The Bill, however, is not yet made law, and a General Election, which will certainly come in the near future, will pro. vide yet one more opportunity of frustrating this iniquitous design. We trust that the Lords, when the Bill is presented to them for the third time of asking will send it back to the place whence it came, in all its naked barbarity. Nothing can make it decent.' Mwyafrif y Llywodraeth pan y pasiwyd y Bil Dadgyssylltiad-77. A dyma yn union rif yr Aelodau Gwyddelig a fotiasant drosto. Y mwy- afrif blaenorol 107 a 103. Cawn wel'd beth wna Ty yr Arglwyddi. Da genyf glywed am benodiad y Parch. David John Jones i Lanwnda. Un o frodorion yr hen Shir—Shir Abertein-yw. Ysgolhaig, athronydd, a duwinydd allan o'r cyflredin. Dyn o gynhedd- fau meddyliol cryf. Ei feddwl yn gadarnach o gryn dipyn na'i gorph. Dyn craff, dyn tyner, digon o synwyr cyflredin ganddo, a phawb yn well ar ol bod yn ei gwmni. Dyn noffua yw. A da y gwnaeth awdurdodau Coleg yr Iesu, Rhydychen, ei benodi. Bydd yr Eglwys yn Llanwnda ar ei henill. Derbynied fy nymun- iadau goreu, a hyny o'r galon. 'Are you quite sure this is alligator skin ?' Positive, madam. I shot it myself.' 'But it looks rather soiled on this side ?' Oh, that, madam, is where it struck the ground when it tumbled from the tree.' Y tro cyntaf y gwelodd Dorothy fach drol y Town Council yn watro'r stryd, dacw hi yn rhed- eg at ei mham-gan waeddi. Oh, mother, just see what that man's got on the back of his wagon to keep the boys from hitching on behind.' Yn yr Ysgol Sul. 4 What happened to Baby- Ion ?' 4 It fell.' And what became of Nineveh ?' It was destroyed.' 'And what of Tyre ?' 'It was punctured V Eto, yn yr Ysgol Sul. 4 And when Delilah cut Samson's hair, he became mild as a lamb. Can you understand it ?' Well,' medde Twm Stryd- gefn -1 it does make you feel 'shamed when a woman cuts your hair.' I beard that you were going to marry Archie Blueblood, Esther; Is it true f Marry him I should say not I Why, I would'nt know what to do with him. He can't ride, play tennis, golf, or drive a motor-car 4 Well,' medde'r gyfeilles 'he can swim beautifully, you know.' 'You would'nt want a husband that you had to keep in an aquarium, would you ?' Medde'r 'teacher':—' Who led the children of Israel into Canaan V Neb yn ateb. I Why, children, don't any of you know 1 You must have studied the lesson. Will the boy on that seat next the aisle please answer ? Who led the children of Israel into Canaan ?' A medde'r hogyn bach, newydd ddod i'r ardal, Please, ma'am, it was'nt me. I only just moved here last week from the country.'

LLANGADFAN

LLANGADFAN. Cynhaliwyd Gwyl Ysgolion Sul rhan uchaf Deoniaeth Caereinion, yn cynwys plwyfi Llanerfyl, Llangadfan, a Garthbeibio, yn Eglwys St. Cadfan, ddydd Gwener, y 29ain cynfisol, yn y drefn ganlynolAm 2.30; holi'r plant yn Hanes Abram, gan Mr. D. Pierce Roberts, a'r dosbarthladau hynaf ar Ddameg yr Hauwr, gan y Parch. Mr. Davies, Llanfihangel-Gen eu'r-Glyn, -oaf wyd atebion parod. Am 6.30, Gwasanaeth Corawl, pryd y cymerwyd rhan gan Reithoriaid Llanerfyl, Llangadfan, a Garthbeibio. Yr anthem ydoedd I Betidigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel' (John Thomas). Yr oedd y canu yn hynod o dda dan arweiniad Mr. G. V. Humphreys, ysgolfeistr Llanerfyl, a chyfeil- iwyd gan organydd Llanerfyl, a chafwyd pregeth briodol i'r amgylchiad gan y Parch. Mr. Davies. Rhwng y ddau wasanaetb, darparwyd te yn rbad i bawb gan foneddig- esau perthynol i'r Eglwys

Prawf Llanbedr

Prawf Llanbedr Ac nid yn unig prawf o Llanbedr, ond prawf sydd wedi gwrthsefyll amser. Byddai yn anmhosibl cael tystiolaeth fwy argyhoedd- iadol. Ar Hydref 24ain, 1911, dywedal Miss E. Davies, 6, Market Place, ger Neuadd y Dref, Llanbedr Yr oedd fy nghefn wedi bod yn ddrwg am gyyn amser, ac nid oeddwn yn gwybod yr achos o hono. Deallais wedi hyny fod fy elwlenod allan o drefn, a hyn achosal y poenau arteithiol arferwn gael ar draws fy nghefn. Pan y plygwn ychydlg, yr oedd gymaint ag a allwn wneyd i ymsythu drachefn. Yn fynycl^ hefyd dioddefwn oddiwrth boenau creulawn yn fy mhen. Gan i mi gael fy nghyngori i ddefnyddio Doan's backache kidney pills, penderfynals roddi prawf arnynt. Cyn i mi orphen un blychaid, teimlwn yn llawer iawn gwell; yr oedd y poenau wedi ymadael o'm cefn, ac yr oedd fy mhen yn ddiboen. Wedi darganfod y fath feddyginiaeth werthfawr a pheleni Doan, mae yn hyfrydwch genyf eu cyflwyno sylw. (Arwyddwydd) E. DAVIES." Ar ChwefrOr 12fed, 1914-dros ddwy fiynedd yn ddiiueddarach Yr wyf yn wedd- ol dda yn awr, mae'n dda genyf ddweyd. Yr wyf yn siarad yn gymeradwyol am beleni Doan, gan iddynt wneyd llawer o les I mi." Os bydd pob anwyd ac oerfel yn effeithio ar y cefn, a'r dwfr, os teimlwch yn ddiyni ac yn annaturiol gysolyd, neu yn dioddef oddiwrth y grafael, careg, crydcymalau, drops!, neu y gymalwst, bydd i Doan's back- ache kidney pills eich cynorthwo fel ag y cynorthwyasant Miss Davies. Pris 2s. 9c. y blychaid; chwe blychaid am 13s. 9c.; ar werth gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am back- achei and kidney pills,-gofynwch yn bendant am Doan's backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Miss Davies.

J0 Wythnos i Wythnos

J 0 Wythnos i Wythnos. Y mfoddlonodd y Brenin ar etholiad Dr. Quirk, Esgob rhaglawaidd Sheffield, i fod yn Esgob rhaglawaidd Jarrow. Defnyddir gweddiau neillduol yn Eg- lwysi yr holl wlad ar y 12fed o Mehefin, pan gynhelir gwasanaethau o eiriola-eth ar ran yr Eglwys yn Nghymru. Ceir 27 o ddeintyddion (dentists) yn gweithio yn y Llynges yn edrych ar ol danedd y morwyr. Mae'r treuliau ynglyn a hyn yn 10,000p. y flwyddyn. Oherwydd fod yna nifer neillduol o bobl o'r enw Jones yn nghwm Abertawe, mae'r awdurdodau yn cael tipyn o drafferth i ddosparthu llythyron i'r bobl iawn ac felly maent yn erfyn ar y cynghorau i roddi enwau priodol ar yr heolydd a rhif ar bob drws. Bu farw y Parch. John Birch Reynard- son yn 98 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod am y 70 mlynedd diweddaf yn rheithoB Careby, gar Bourn, yn neheudir Lincoln. Penderfynodd Pwyllgor Addysg Kent ychwanegu at gyflogau eu hathrawon cyn- northwyol. Mae hyn yn peri 5000p. rhagor yn y flwyddyn. Llwyddodd Miss Megan Thomas, merch Mr. John Thomas, yr arweinydd enwog o Llanelli, i enill ysgoloriaeth o lOOp. yn p. Academy, Llundain. Yr oedd yna 71 o ymgeiswyr. Torodd lladron i fewn i ficerdy Troedy- rhiw, Mert-hyr Tydfil, yr wythnos ddi- weddaf > gan ddwyn oddiyno 7p., sef arian Bane yr Ysgol Sul. Wedi cael gafael yn allwedd yr Eglwys aethant yno hefyd ond ni chawsant ddim arian yno. Ceir hanes truenus o Pontardawe. Cawci Gomer Davies, 29 mlwydd oed, yn gorwedd wedi ei glwyfo ar y rheilffordd a'i ben wedi hollti. Bu farw mewn ychydig amser ar ol i gyfeillion ei gludo i'w dy. Yn ol pob tebyg yr oedd wedi bod yn gorwedd yn ei boen trwy y nos, oherwydd credix iddo gael ei glwyfo gan y tren hwyrol tua canol noo. Rhoddwyd croesaw neillduol i Mr. J. Oswald Francis gan blwyfolion Merthyr, ei Ie genedigol. Efe ydyw awdwr 'Change,' y ddrama ardderchog a chwareuwyd yn Nghaerdydd yr wythnos flaenorol. Mae dyfodol disglaer yn ei arcs. Adroddwyd hanes creulawn yn nghwrt Newport pan gyhuddwyd Jsoeph Lewis Hughes, o Bontnewydd, am ddwyn offeryn oerdd oddiar William Jones. Yr oedd Jones yn ddall, a defnyddiai yr offeryn er mwyn enill ei fywoliaeth. Gorfod i Hughea dalu 3p. Mae un o letywyr Gwallgofdy Banning, Kent, wedi cerfio allan o bren derw reredos a screen ardderchog i'r Eglwys sydd yn perthyn i'r gwallgofdy. Mae rhai sydd yn hyddysg yn y gwaith yn prisio ymdrechion y claf yn lOOOp. Cymerodd saith mlynedd i gwblhau y gwaith. Collodd Mr. Bosomworth amaethwr o Thursk, Efrog', fuwch werthfawr yn ddi- symwth iawn, ac er mwyn boddhau ei hunan cafodd feddyg anifeiliaid i agor y creadur marw, a gwelwyd fod nodwydd 4 modfedd o hyd yn y galon. Yn ddiau ys oedd y fuwch wedi ei llyncu ar rhyw adeg. Mae y Parch. J. Knox, gweinidog Capel Independiaid Bury, wedi rhoddi i fyny ei swydd weinidogaethol er mwyn dyfod yn ysgrifenydd personol i Syr William Lever, Port Sunlight, gwr enwog y sebon. A ydyw yn bosibl i Wesleyan ddal swydd o warden yn yr Eglwys? Dyma gwestiwn oedd yn aros barn Canghellor Esgobaeth Caer. Yr oedd Rheithor Thornton-Ie- Moor wedi dewis Mr. Joseph Littler, Wealeyad, fel ei warden, ac yr oedd warden y bobl yn gwrthwynebu y dewisiad. Pen- derfynodd y Canghellor os oedd Mr. Littler yn foddlawn tanysgrifio y mynegiad ar- ferol yr oedd ei ddewisiad yn gyfreithlawn, ac y mae y mater rhwng Mr. Littler a'i gydwybod. Yn arddangosfa fawreddog y Bath and West of England, yn Abertawe, llwyddodd y Brenin i enill y wobr gyntaf am y tarw goreu ymhlith yr Herefords. Dyma yr unig greadur oedd ganddo yn yr arddang- osfa. Cospwyd perchenogion Pwll Glo Digby, Nottingham, am greulondeb tuag at fer- lynod. Dywedwyd fod merlyn 4 troedfedd a 6 modfedd mewn uwchder yn gorfod gweithio mewn lie 4 troedfedd a 2 fodfedd. Cyfanswm y dirwyon oedd 64p. Rhoddwyd tystiolaeth rhyfedd yn Llya Trefaldwyn. Dygwyd geneth ieuanc, 16 mlwydd oed, ger bron am ladd wyth 0 fuchod a dwy anner, eiddo ei meistres, Mrs. Oweiit Groespluan, ger Trallwi-ii. Yr oedd hefyd wedi rhoddi yr ysgubor ar dân. Tysftiodd y meddyg ei bod yn gryf yn ei synwyrau. Dedfrydwyd hi i dair blynedd o garchar. Mae awdurdodau Prifysgol Cymru yn: Aberystwyth yn dywedyd fod yna berson, yr hwn nid yw yn ewyllysio datguddio ei enw, yn foddlawn rhoddi 3000p. y flwydd- yn am bum' mlynedd er mwyn galluogi J coleg i ddechreu ysgol gerddorol. Mae Arglwydd Lisburne yn bwriadu cy- mieryd* gwraig ato ei hun yn fuan, set Mile. Bittencourt. Mae ganddo ddwy etifeddiaeth fawr ger Aberystwyth, sef yn Crosswood a Birchgrove, yn cynwys 42,800 erw.

No title

Myner PERL Y PLANT yn mhob tJ; yn Nghymru.