Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 5 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

a I I I I A Sample Bottle will I be sent carriage paid on receipt of 3s. 6d. Po :■ Speaa//y ise/ectec/ /or HOLY COMMUNION mm JlHi W aitffailll fJd&WMIR&IMBilf wtfin IT If Hi itiifAl Hfiflgft IT IS PAR EXCELLENCE The Altar Wine G win yr Alior l BOTTLES NETT TF-RMS i WAIT-BOTTLES 3SH onion fel yr adnewydda'r dwr y W f blodeuyn gwywedfg-felly y rhydd F J ^=7 r™ 'Wincarnis' fywyd newydd i gyfan- L ft «ri 1 S Boddiad Uuddedlg. Gallwch ei j dsimto yn lianw eic hboll gorffgydad iechyd newydd—nerth newydd—ynnl mwydd a bywydd newydd—hyd ya oed oddiwrth y glasaid cyntaf. ■HH Dechreuwch fod yn lach \y> YN RHAD Anfonwch am brawf-gostrel yn rbad o WUr carnis'—nid yn tfnig cael el flas, oed tflfoa I Am

Damwain yn Chwarel y Penrhyn

Damwain yn Chwarel y Penrhyn. Oddeutu pump o'r gloch nawn Gwener digwyddodd un o'r damweiniau mwyaf prudd er's amryw flynyddoedd yn Chwarel y Penrhyn drwy gwympiad rhan o'r mur a adwaenir fel y sydd ynghanol y chwarel. Y mae oddeutu dwy flynedd er pan ddechreuwyd gweithio yn y ponciau a elwir y 'Malacoff,' ac yr oedd y muriau hyn wedi eu liadeiladu er's cyfnod lied faith er diogelwch a hwylusdod i'r gweithwyr fyned a'r gwageni a'r oerryg. Yr oedd y mur yn bum' Hath a'r hugain o uchder, sef hyd pone yn y chwarel ac yr oedd nifer fawr o chwarelwyr yn gweithio yn y rhan hon o'r chwarel. Derbyniodd y chwarelwyr canlynol ni- WY weidiau pur ddifrifol i'w penau ac ofnir fod y ddau flaenaf wedi tori eu eoesau hefyd: Joseph Evans, Gerlan; Richard Pritohard, Perthi, Tregarth, ac Owen Pritohard, ei fab. Da genym hysbyau i John Williams, Z. Ciltwllan, ddod yn llawex gwell nag yr ofnid ar y dechreu. Mae y rhai liyn oil yn chwarelwyr ac yn ddynion 0' gryfder ymhell tuhwnt i'r cyftredin.

Gohebwyr a Llysoedd Ynadol

Gohebwyr a Llysoedd Ynadol. Ddydd Mercher, yn Llys Ynadol Aberdar, caed trafodaeth ar bawliau'r wasg, pan glir- iwyd y Llys er mwyn clywed aohoslon yn erbyn plant. Dywedodd Mr. R. A. Griffith (Elphin), y Dirprwy Ynad Cyflogedig, gan droi at gynrychiolwyr y wasg, fod yn ddrwg iawn ganddo ofyn iddynt adael, am fod y gyfraith yn gorfodi clirlor Llys pan yn gwtandaw achosion yn erbyn plant. Yr oedd cynrychiolwyr y wasg yn gryf yn erbyn myned am fod ganddynt, meddent, bawl i aros yn ,ol Deddf 1908. Ar y Haw arall, yr oedd Mr. Griffith yn gryf yn erbyn iddynt aros. Gadawodd y cynrychiolwyr y Llys, ond daetbant yn ol, fodd bynag, ymhen ycbydig funudau gyda llyfr y gyfraith, yr bwn a ddarllenwyd gan Mr. Griffith. Gwel odd Mr. Griffith ei gamgymeriad a gwnaeth ymddibleuriad i gynrychiolwyr y wasg am ofyn iddynt adael y Llys, a chanddynt hwythau berffaith bawl i fod yn bresenol pan glywid achosion, o'r fatb.

Advertising

ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLU8 YN SWYDDFA'R LLAN."

Nodion or Gadair Ddwyfraich

Nodion o'r Gadair Ddwyfraich. (GAN LLYGADOG). Yn unol a'n haddewid, yr y'm yn dych- welyd at safle ATHRAWON YBGOLION HLFBNOL yn yr Hen Wlad, ac o waelod ein calon yr y'm yn dymuno eu gweled mewn gwell sefyllfa, ac yn cael cyflogau teilwng am eu llafur. Gwelwn fod Pwyllgor Addysg Sir Ddin- bych wedi rhoddi derbyniad caredig i Ddir- prwyaeth yr Athrawon, ond rhywfodd neu gilydd, cyndyn iawn yw y Pwyllgor 1 gydna- bod hawliau yr athrawon, ac yn enwedig i fabwysiadu scaie' neu raddfa. Ymhob cylch o ddiwydrwydd, ac mewn cysylltiad a phob galwedigaeth, o'r braidd y mae'r eg- wyddor yn cael ei chydnabod. Yn yr arian- dai, ac yn swyddfeydd y Llywodraeth, 'scale' sydd yn rheoll cyflogau y cyflogedig. Teil- yngdod a ffyddlondeb a wobrwyir, a sicrha hyn yni a gweithgarwch. Lie nad oes scale y mae yr anghyfartaledd yn nghyflogau yr athrawon yn gywilyddus, ao y mae'r anghyfiawnder hwn yn amlwg iawn yn Nghymru, yn enwedig er yr amser y gwnaed y Cynghorau Sirol yn awdurdodau ADDYSG Y WLAD. I'r athrawon yr oedd yr hen Fyrddau Ys- gol a Chyfundrefn Wirfoddol yr Ysgolion Brytanaidd ao Ysgolion yr Eglwys yn Ilawer gwell ar y cyfan i'r athrawon, a drwg genym ddeall fod cyflogau prif athrawon llaweroedd o'r Ysgolion Eglwysig yn siroedd y Gogledd a'r De yn llawer is nag oeddynt yn y dyddiau a fu. Nid ewyllys yr offeiriaid a'r goruchwylwyr yw hyn, ond ffrwyth gormes a rhagfarn Ymneillduol aelodau yr Awdur- dodau. Y mae yr yspryd anghyfiawn hwn wedi ac yn cael ei amlygu yn yr anghyfartal- edd sydd yn nghyflogau atbrawon yr Ysgol- ion Sirol a'r Ysgolion Gwirfoddol, ac er fod hyn wedi oael ei brofi yn anghyfreithlon trwy offerynoliaeth yr Awdurdodau Eglwysig yn Abertawe; eto y mae'n ddrwg dweyd ei fod yn cael ei addef er hyny mewn rhanau eraill o'r wlad. Offeiriaid a goruchwylwyr yr Ysgolion Eglwysig a fu yn foddion penaf i blygu Awdurdod Addysg Sir Henffordd I ganiatau oais yr athrawon am Seale a chyf- iawnder; ac os y rhaid i'r athrawon yn yr Hen Wlad dd'od allan ar streic, yr wy'n sicr y c'ant gynorthwy a chydymdeimlad yr offeir- iaid yn yr argyfwng. Os na chaniata Awdurdod Addysg Sir Ddinbych gais yr ath- rawon, yr y'm yn hyderu y safant yn bur i'w gilydd, ao y cymerant eu barwain gan Swyddogion eu Hundeb, canys trwy hyny yr enillant fuddugoliaetb. ISELDER MASNAOH Y LLEOH CHWARELAU. Bu Dirprwyaeth cysylltiedig a'r Llech- Chwarelau ar ymweliad a Mr. Lloyd George, Canghellydd y Trysorlys, ddydd Sadwrn di- weddaf, ac nid oes dadl na chafodd yr aelodau derbyniad croesavius, ond nls gwn a barodd ei eiriau a'i addewidion am y dyfodol lawer o gysur a gobaith iddynt ai peidio. Ar wahan i ddoethineb ao addewidion y Canghellydd, y mae'n rhyfedd genyf na ddeallai'r chwarelwyr mae y gwir achos o'r ieelder sydd wedi goddi- weddid y chwarelau ydyw cystadleuaeth tramor. Cyn agor chwarelau yn Germani, Ac., yr oedd y chwarelau yn mwynhau byd da ac helaethwych beunydd,' oanys o'r Hen Wlad y cyflenwid gwledydd y cyfandir a Germani & lleohau, pa rai a dderbynid yn ddidoll yn y wlad ddiweddaf; ond, pan y darganfyddodd y Germaniaid fod yn nghrombil eu mynyddau hwythau y Ilechfaen buan yr agorwyd chwarelau yno ac inewn yehydig o flynyddau yr oeddynt yn alluog i gyflenwi nid yn unig angen y wlad, ond mwy na digon,' ac ni chollasant amser mewn codi toll ar Uechau Cymru yr hyn a Uethodd ein masnach ni & hwy, ond trwy hyn yr oeddynt yn am- ddiffyn eu buddianau eu hunaiii a phwy a all eu belo 1 Ond beth am yr Hen Wlad ? O! ein cri tragywyddol ydyw- Masnach Rydd tra ar yr un pryd, y mae chwarelau Cymru yn cael eu dirwasgu o fodolaeth gan y ffaith nad allwn i anfon lletchan ddime/ i Germany heb dol], tra yr un pryd y goddefwn i'r Germaniaid anfon a fynont i farchnadoedd Lloegr heb un gwg na tholl. A yw hyn yn deg a ohyfiawn. Os masnach rydd, bydded felly yn all round. Ond beth am addewidion y Canghellydd i'r Ddirprwya.'th? (0,' meddai, 'mae amser gwell i dd'od. Y mae'r Llywodraeth wedi penderfynii cario allan yr Housing System yn drwyad] trwy'r lioll wlad, a phar hyn fywyd newydd yn y chwarelau.' Da iawlii-chware,latt .pa wlad a ga'r fan- tais ? Germany ynte Cymru ? A yw Mr. Lloyd George am fabwysiadu 'clause' yn yr Act, i'r perwyl mai a llecliau Prydeinig yn unig y rhaid toi y miloedd tai a addewir? Os felly, lie mae masnach rydd yn sefyll? Oni thoir tai a defnyddiau eraill; a gauir y rhai hyn allan hefyd;? Os felly, beth am ryddid o fewn i'n hynys ein hunain? 0 ystyried y petiiau liyn nid wy'n meddwl y byddai i aelodau y Ddirprwyaeth gania- tau i'r Canghellydd eu harwain i BAHADWYS FFYLIAID gan ei addewidion teg ond anmhosibl.

BETH MEDDWCH CHWI

BETH MEDDWCH CHWI? Y dydd o r blaen yr oeddwn ar ymweliad a hen dreflan enwog Conwy, ac yn ddam- weiniol daethum ar draws cwmni lied ddifyr oeddynt. yn mwynliau awelon iachus yr afon. Ebrai un wrth aelod arall o'r cwmni: Paham y mae Beirdd talcen slip yn feddwou gan mwyaf ? Ac atebai'r llall: Nid am eu bod yn ddiffygiol o synwyr cyffrediu, ond am eu bod yn awyddus i ddyddori eraill sydd yn ddiffygiol o hyny. Beth meddwch chwi?

Ymhlith yr Enwadau

Ymhlith yr Enwadau. [GAJf SYLWEDYDD.] Drwg genyf am fy hir oediad yn anfon fy sylwadau i'r LLAK, ond y mae amgylchiadau yn dyfod ar draws dyn gyflawni ei fwriadau, ac felly finau. Yn ystod yr wythnos ddi- weddaf yma, yr wyf wedi bod yn darllen a chwiiio papyrau yr Ymneillduwyr gyda golwg ar yr hyn fwriadant wneyd yn y dyfodol. 0 mae'r dwfr yn dyfod o ddanedd llawer un o'r rhai culion, crebachlyd wrth feddwl am ranu yr ysbail—lladrad gerir ymlaen, medd- ent hwy, er lies yr Eglwys Ymddengys fod y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yn canfod rhyw ddyfodol dedwvdd. a erwnaeth sylwadau ar hyn mewn rhyw gymanfa. Mae rhyw siarad wedi bod am uno yr enwadau, a rhoddodd hyn gyfleusdra iddo ddatgan el deimladau ei hun ar y pwnc fel y cyfleir hwy mewn erthygl arweiniol yn yr Herald Cym- raeg -1 Y mae undeb hollol a chyflawn yn amhosibl. Y mae undeb rhanol hefyd allau o'r cwestiwn. Beth wnelr, ynte ? Myner y cydweithrediad llawnaf a llwyraf sy'n bosibl rhwng yr holl enwadau. Ac y mae Mr. Williams yn gwahodd yr Eglwys Wiadol-yr Eglwys ddadsefydledig fydd hi yn y man—i uno gyda'r enwadau eraill ymhob mudiadsyn dyrchafu cenedl. Beth fydd ateb yr Eglwys i'r gwahoddiad hwn? Dibyna hyn yn hollol ar yr arweinwyr Eg- Iwysig yr arweinwyr presenol a'r rhai fydd yn eu harwain yn y dyfodol wedi ffurfio ei chyfansoddiad newydd. Wedi tori ei chysylltiad A'r Llywodraeth ac & Chymanfa Caergaint, bydd Eglwys Esgobol Cymru yn rhydd i welthio allan ei hiachawd. wriaeth ei hun. Bydd gwyiio dibaid ar ei symudiadau, a theimlir pryder, yn ddiau, ynghylch y dyfodol. El hangen penaf o dan yr oruchwylketh newydd fydd arweinwyr. Nid teilwng o'r enw hwnw y bobl sydd heddyw wrth y llyw, ond pan ddaw'r oruch- wyliaeth newydd, gyda rhyddid perffaith a gwir gydraddoldeb, fe gyfyd arwehtwyr newydd, ni a hyderwn. Ni bydd eisieu oyn- ffona mwyach er enill anrhydedd a swydd, ac yr ydym yn mawr obeithio y bydd i hyn ym- lid o'r Eglwys ysbryd gormes, defodaeth, a Sais-addoliad, sydd wedi ei meddianu mor llwyr. Os llwyddir gyda hyn o orohwyl, fe geir cydweithrediad yn y man rhwng yr Eglwys a'r enwadau, ond os pery'r defodau Pabyddol a'r ysbryd Seisnig- aidd, yna ffarwel i gydweithrediad.' Onid yw yr olygfa yn un ysblenydd I Pa un bynag a ddadgysylltir as a ddadwaddolir yr Eglwys ai peidio, mae un peth yn sicr, sef na fydd cydraddoldeb rhwng yr Eglwys a'r enwadau, felly rhodder y meddylddrych gwlg hwnw heibio ar unwalth. Erys yr Eglwys, er pob ymosodiad ami, yn ddlgryn. Ceir darlun hollol wahanol gan olygydd y Tyst, yr hwn sydd yn bencampwr ar ddefn- yddiad ansoddeirlau chwyddedig a châs. Ar ol datgan ei lawenydd fod Mesur y Dadgy- sylltiad wedi pagio y trydydd darlleniaa yn Nhy y Cyffredin, dywed ■« Eithr mae dau ddosbarth yn bytheirio bygythion difrlfol. Un ydyw y cleriglaid, y rhai sydd wedi gwneyd eu meddwl i fyny na siaradant ac na chydwelthiant mwy ag Ymneillduwyr ar unrhyw fath o amgylchiad. A thybia rhyw obl ddiniwed yn Lloegr fod hyn yn dryeh- ineb crefyddol na welwyd el fath er dyddiau ysgymundod fawr y Canol Oesoedd Druan ohonynt! Nid yw hyn yn beth newydd o gwbl yn Nghymru. Pa bryd y gwel- wyd clerigiald Cymru yn cyfathrachu neu gydwelthio a'r Ymneilltuwyr ar un- rhyw fater ? Ai nid eu hen arfer yw dirmygu ac anwybydda gweinidogion Ym- ciellltuol Cymru, er iddynt fod yn ganmil dysgedicach, galluocach, a mwy dylanwadol na hwynt 1 Yn wir, erbyn hyn, ciwradiaid Cymru yw'r dosbarth mwyaf anniwyllledig a lleiaf eu dyig o holl weinidogion crefyddol y genedl ae eto ymddygant tuag at eu brodyr Ymneilltuol fel ethnig a phublican.' 0 ran hyny, maent yn llawer mwy cyfeillgar 4'r olaf nag at hwynt. Na; nid all Datgysylltiad wneyd unrhyw wahaniaeth yn y cyfeiriad hwn, gan fod yn anmhosibl i bethau fod yn waeth nag y maent yn awr. Yr ydym wedi hen gynefino ag ef, ac wedi dysgu malio botwm corn ynddo, ac nid ofnwn barbad ohono.' Dyna ben ar ragolygon undeb yr enwadau ? Ni ddyfynaf ychwaneg yr wythnos hon, a fy unig amcan yn dyfynu y ddau uchod yw dangos i'ch darllenwyr syniadau gwahanol rhai a ymffrostiant eu bod yn perthyn i'r I Yglwyst Rhyddion.' Rhyngddynt 'does bosib na ddygir trefn ar yr Eglwys ac ar Eglwyswyr!

LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. MARWOLAETH.— Ar ol dioddef nychdod am flynyddau maith, bu farw Mrs. Jemima Edwards, gweddw y diweddar Mr. James Edwards, clochydd, ddydd Llun, yn 77 mlwydd oed, gan adael pedwar mab, dwy ferch, a lluaws o berthynasau ereill I ataru ar ei hol. Yr oedd Mrs. Edwards wedi el chyf- yngu i'w hystafell er's blynyddoedd, ond dioddefodd ei holl boenau gydag amynedd Cristionogol. Gweinyddwyd arnl yn ystod ei hafiechyd yn ffyddlon a gofalus gan Miss Lizzie Edwards, ei merch leuengaf. Cladd- wyd ei gweddillion marwol yn mynwent eg- lwys y pi wyf ddydd Iau. FFAIR Y SCLGWYN.— Cynhaliwyd y ffalr hon ddydd Mercher, ac yr oedd yn un lwydd- ianus iawn. Yn ffodus, cafwyd tywyddsych, a daeth tyrfa fawr o bobl ytighyd. Dygwyd cyflenwad da o geffylau, gwartheg, a moch i'r ffair, a gwerthwyd hwy yn rhwydd lawn am brisiau da. Gwerthai ceffylau trymion am o 3lp. i 40p. yr un ceffylau ysgeifn, 20p. i 28p.; meriynod, 12p. i 18p gwartheg ieualne gyda lioi 12p. i 16p. 10s.; blwyddiaid, 7p. 10s. i lOp. 10s.; dwyflwyddiaid, 9p. 10s. i 12p. Araf y gwerthai buchod hen, ac ni ddygwyd unrbyw dda tewion i'r ffair. Mwynkaodd y rhai ddaethant i'r ffair i ymbleseru eu hunain yn dda yn ystod y prydnawn, ac ychydig welwyd ag arwydd diod arnynt yn yr heolydd. YMWELYDD.—Da oedd genyf gyfarfod 1r gohebydd ffyddlawn, y Parch. J. Bangor Jones, Edern, y dydd o'r blaen. Edrychai yn lion ac iach, a disgwyliai am gyfaill iddo, ond nis gwn a ddaeth ai peidio. Buasal ya dda genyf weled yr arwr bwnw hefyd.—X.

Cyffredinol

Cyffredinol. Yr haf presenol bydd Syr Edward Anwyl yn gadael Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, lie y bu yn broffeswr mewn Cymraeg am un mlynedd ar hugain, a bydd yn deohreu ar ei waith fel prifathraw Coleg Newydd Caer- leon. Y mae'r awdurdodau wedi peidio ap- wyntio olynydd am flwyddyn, a gwneir trefniadau i apwyntio rhai yn gyfnodol i ofalu am yr adran Gymreig. Digwyddodd ffrwydrad yn ngwaith Plwm. Kingside, Cwmystwyth, nos Lun. Salf y fwnfa rhwng Aberystwyth a Rhaiadr, tair milltfr o Devil's Bridge. Pan oedd trl dyn yn tyllu craig, ffrwydrodd gelatine oedd wedi aros yn y twll, a bu ffrwydrad dychrynllyd. Derbyniodd John Roberts, 35, Ochryglog, nlweidiau mor ddifrifol fel y bu farw'n fuan ar ol hyn. Anafwyd dau arall o'r enw Thomas James, Tycwrdd, a W. R. Edwards, Sencuwch, yn dost lawn. Ofnir y bydd i'r cyntaf gollf gwasanaeth el lygaid. Mae'r dirwasglad yn y fatnach hetlau yn Denton wedi effeithio'n ddifrifol ar y teulu- oedd yno a enillal o 4s. i 10s. yr wythnos. Dengys adroddiad y Trysorlys o Ebrill laf hyd Mai 23ain mat eyfanewm y derbyniadau oedd 28,669,0 12p, a'r treullau 26,384,172p. Cyfanswm y derbyniadau am yr un cyfnod y llynedd oedd 25,272,825p. a'r treuliau 24,336,941p. Y mae Syr Erneit Shackleton a'r pum' aelod o'r flntai i Begwn y De wedi dychwelyd i Loegr, ar ol cwblhau eu harbrawfion yn Norway. Y mae'r hinsawdd a'r amgylohlad- au yno y rhai tebycaf posibl i'r rhal a gyfar- fyddant ar eu talth. Yn ystod y rhan fwyaf o'r daith bu'r arbrawfion yn foddhaol lawn, yn arbenig gyda y slediau motor a yrid gan propeller.' Y mae'r rhai hyn yn abl i gludo llwythi trymion. Mae amryw Ryddfrydwyr adnabyddus, ar ol ymweled A'r Twerddon, wadi datgan eu bod wedi eu hargyhoeddi yn erbyn Ymreolaetb, ac y dylid penderfynu y pwnc drwy etholiad gyffredinol. Perthyna y Rhyddfrydwyr hyn i Bedford, Stafford, Stockton-on-Tees, &o. Mae yr. arddangosfa amaethyddol fawr- eddog a gynhaliwyd yn Abertawe yr wythnos hon, sef y Bath and West of England Show," wedi trof allan yn ltwyddlant. Ymwelodd 46,903 a'r arddangosfa ddydd Mawrth. Un- walth erioed y cafwyd nifer fwy ar un diwrnod, sef yn 18T4, pan gynhaHwyd yr ar- ddangosfa yn Bryste. Cyrhaeddodd Mr. Joseph Chamberlain a Mrs. Chamberlain i Birmingham o Lundain nos Fawrth. Y mae wedi derbyn llawer o fudd oddiwrth y daith i Cannes, ao nid oedd fawr waeth ar ol y daith yn y trfin ddydd Mawrth. Bydd Neuadd Aberglaslyn, ger Beddgelert, perthynol i Mr. J. A. Williams, yn cael el chynyg ar werth y mis nesaf gan ffirm adna- byddus o arwerthwyr o Lundain. Saify neu- add yn un o'r lleoedd prydferthaf yn Ngogledd Cymru ar ochr bryn coediog, ych- ydig islaw pont enwog Aberglaslyn, sy'n cysylltu Arfon a Meirionydd. Ffurfia rhan o'r ystad un ochr i Fwlch Aberglaslyn. Dy- wedir fod y Frenhines Mary yn hom Neuadd Aberglaslyn yn fawr lawn, a sibrydir y bydd i Dywysog Cymru gynyg am y lie. Tra yn cerdded gerllaw chwarel Cornelly, Sir Forganwg, ddydd Mawrth, cwympodd y tir dan draed dyn o'r enw Thomas Richards, a hyrddiwyd ef i lawr pwll 41 troedfedd o ddyfnder, gan dderbyn niweidiau angeuol. Brydnawn Iau, fel yr oedd Mr. William WilHams, Sea View Terrace, Trefor, yn dilyn ei orchwyl yn Chwarel yr Eifl, syrtbiodd darn mawr o graig ar el gefo, gan ei wasgu 1 farwolaeth. Ymddengys ei fod wedi saethu rhan o'r graig yn y bore, a'i fod yn ceisio rhoddi pylor yr ail dro yn y lie, a phan oedd wrth y gorchwyl hwnw llithrodd y plygion ar ei gefn. Efe oedd y mwnwr hynaf yn y chwarel. Yr oedd yn 72 mlwydd oed, ao wedi gweithio tua 50 mlynedd yn y chwarel. Mae'r Barnwr Atkin. un o'r barnwyr a benodwyd yn ddiweddar, yn awr ar gylch- daith De Cymru, ac yn y Frawdlys yn Hwlffordd y dydd o'r blaen, cyreiriodd at yr adeg pan y cychwynodd ef ar ei yrfa fel bargyfreithiwr un mlynedd ar hugain yn ol- Ymunodd a. chylchdaith De Cymru, a dechreuodd gyntaf yn Hwlffordd. Yr oedd rhieni y Barnwr Atkin yn byw yn Ngogledd Cymru, a bu ef yn efrydydd yn Ysgol y Friars, Bangor. Derbymodd llawer o wyr enwog eu haddysg foreuol yn yr ysgol hon. Hysbyawyd yn Taleatuaiio, pan gyraedcT- odd y llong Lerpwl 'Naiad' yno i'w chapten gael ei olchi dros y bwrdd a boddi.