Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
A HANES MON

[ALL RIGHTS RESERVED .J A HANES MON. GAN Y DIWEDDAR O. WILLIAMSON, DWYilAN. (PARHAD). Dechreuodd Gruffydd ap Cynan yn dda; ond, cyn gyntoo. ag y sylfaenwyd brenhin- iaethi Gwynedd ganddo cod odd yr anghyd- fod a nodwyd. Gorchfygwyd ef fel y gwel- wyd, a chafodd flas chwerw alltudiaeth, a chauwyd ef, meddir, yngharchar ei elyn yng Nghaer dros ysbaid maith. Gelynion gwaethaf dyn yn ami yw tylwyth ei dy ei hun; ond dyblir y brofedigaeth pan yr ymuna amgylchiadau i agor drws i ddieithr- iaid goresgynol a rheibus i .gymeryd man- taa o ymryson cartrefol i niweidio'r holl ulu. Ar ol brwydr Bron yr Erw bu Gruffydd yin alltud dros wyth mlynedd. Wedi i gyfleusdra ymagor o'i flaen, anfonodd gen- hadau i wahanol gyfeiriadau i gasglu byddin o gynorthwywyr i adnevvyddu ei vxndrechion i geisio gyrru ei elynion o Wvnedd. Gwralldawodd gwyr Mon arno, acymgasglasant yn fyddin, pan y daeth pennaeth 0 Goidelig o Ogledcl Mon i sylw cyhoeddus am y tro cyntaf. Y gwr yma oedd Cynddelw ap Cwnnws, yr hwn mae n debyg oedd tad Hwfa a briododd i deulu Gruffydd ap Cynan, ac a wnaed yn y teyrn- asiad nesaf, gan Owen Gwynedd, yn ben- naeth y cyntaf o bymtiieg llwyth Gwynedd. Dilynwyd Cynddelw yn yr ymgyrch yn mhlaid" Gruffydd ap Cynan gan Wyr Gogledd Mon, fel y sylwyd, yn rhifo wyth ugain o wyr dewisol, a ffurfient adran a ddaeth yn enwog yn yr ymgyrch yn erbyn Trahaiarn. Am y tro olaf mae'n debyg yn yr hanes presenol, nod-ir yma eto gyfeiriad at y Goidelod yn Mon dan yr enw annirnadwy Daniaid Dublin, yr hyn sy'n gamddarlun- iad dtbryd gan yr hen fynach, neu gan ad- ysgrifydd Hanes Gruffydd ap Cynan. Nicl t) YNV In debyg i'r Daniaid ddyfod i Fôn ond fel mor-ladron ysbeilgar. Mae'n sicr fod gyda "I I Gruffydd ganlynwyr o ddwy genedl; ond tebyccach, os nad sicrach, yw mai Goidel- iaid o Ogledd Mon oeddynt, ac ymsefydlwyr Brythonig yno. Peth arall hefyd, nid yw'n anbebyg 'r Pictiaid oeddynt o brydwedd dywyll gael .en desgrifio fel Daniaid dieithr. Gellid casglu fod y dosbarth milwrol mewn gwlad fechan fel Mon yn teimlo yn dost ar bryd- iau oddiwrth y dyhysbyddu parhaus oedd ar y bendefigaeth filwrol yn Mon, ac i'r awdurdodau mewn achosion neillduol, fel y presenol, rstru dynion i gyfarfod ag ar- gyfwng pwysig; ac felly alw allan gyn- northwywyr newyddion o r dosbarth oe-If tD vddydol o Bictiaid Mon. Yn .hanes Owen Gwynedd, mab Gruffydd ap Cynan, ni cheir un crybwylliad am Wyddelod na Daniaid. o'r Werddon yn cymeryd rhan o du nac yn erbyn Tywysog Gwynedd. Oddiwrth hyny cesglir fod y nodiau gwahamaethol amlwg oedd rhwng iin genedl a'r llall yn Mon wedi eu dileu, fel nad oedd lliw y gwallt, ymddangosiad corphorol, nac arferiou cymdeithasol yn achosi camgymeriadau i'r rhai y syrthiai dieithriaid yn fynych. Nid oes gamgy- meriad o'r fath yn bresenol ond yngwaith y darllenydd oeidwadol yn derbyn y dull esmwythaf o ddysgu hanes, hynny yw, drwy anwybyddu ymchwiliadaeth sy'n achoai llafur. Ar ol rhyw ddiwygiad yn y darpariaeth- au milwrol nad ops yn awr wybodaeth i'w hegluro-n llawn, ymgyfarfu y pleidiau dra- chefn mewn brwydr fawr a elwir brwydr Mynydd y Garn, lie lladdwyd Trahaiarn. Gan ei bod yn anhawdd dilyn yr hanes ihenafol, ac mai hanes Mon yw y maes llafur presenol, proffesir yma eto mai o fewn i derfynau Mon y ceisiwn aros, os na elwir arnom gan amgylchiadau mewn parthau eraill o Wynedd i gymeryd sylw neillduol o 4ouynt. Mae banes y Normaniaid yng Ngwynedd, en gorthrwm, a'u herchyllderau yn eu ihymddygiad tuag at y trigolion, mor adgas, a'r fath niwl. yn gordoi desgrifiadau yr haneswyr, fel mai amhosibl yw cael golwg ddigon eglur i wahaniaethu rhwng ffaith a ffug yn y cymysgedd tryblith. Ond gan na wedir yr hanes gan haneswyr, v mae'n rhaid cymeryd sylw o'r goresgyn- iad Normanaidd yn Mon beth bynag. b, Y Norraaniaid a ymsefydlasant yn Mon oeddynt dan arweiniad Hugh Flaidd o Gaer, ac larll Amwythig, a elwir y Coch. I zn) Yr oedd eu se'fyllfa filwrol yng Nghastell Lleiniog, ger Beaumaris. Pan oedd y ddau Normaniad ynghanol eu mwyniant yn gortlirymu ymwelwyd a'r arfordiroedd gan for-frenin a elwir yn yr hanes yn Magnus, brenin Norway. Cymerod 1 Magnus ei ryfel-long i Leiniog; a phan welodd efe y Normaniaid yn nesau tuag ato, efe a orchymynodd i filwr anelu saeth i'r cyfeiriad, yr hon a dreiddiodd i lygad vr larll Coch., yr hwn a neidiodd yn ei boen wrth farw. Pan welodd Magnus hynny, efe a waeddodd—"Gadewoh iddo ddawn- sio." Ni cheir mwy o'r hen hanes, ond ym- ddengys i Magnus ddychwelyd i Norway, ac i Hugh Flaidd fyned i Gaer^ a chafodd Mou lonydd am dymmor. Tua'r flwyddyn 1090, o.c., y bu liyn, Ar ol i'r Narmaniaid gael eu gym o Wynedd, ac i Gruffydd gael heddwoh i lywodraebhn ei dalaeth, decbreuodd llwyddiant llaguro a thyfu, a dwyn ffrwyth lawer. Efe a sefydlodd lywodraeth a tbrefn. Adeiladodd dai, medd yr ben hanes, a phlannodd erddi a pherllannau, a darparodd fel y gallodd pob dyn hau a medi, a cbasglu digonedd i'w fwynbau mewn heddwch Adeiladodd Gruffydd eglwysi, sefydlodd lysoedd cyfiawnder, ac a lywodraethodd, medd yr un awdwr, a. llaw gref, gan gadw heddwch gyda'i gymydogion, drwy osod ei feibion yn y cantrefi nesaf i'r terfynau i fod y rhai cyntaf yn amddiffyniad eu gwlad. Ac yn y diwedd, pan oedd efe yn ddwy a phedwar ugain oed efe a fu farw wedi gorphen ei waith. (I'w barhau).

Coleg Dewi Sant

Coleg Dewi Sant. CLERIGWYR A RIIYDDID MEDDWL.—Dyma ydoedd testun anorchiad Archddiacon Cun- ningham, Ely, ddiwedd yr wythnos ddiwedd- af, pan yn ymweled a ni ar ei ffordd i Aber- ystwytb, lie y bu yn anerch cynhadledd 0 'Oddfellows.' Yr oeddym yn disgwyl cael tipyn o oleuni ar y pwnc dyrus hwn, siomed- igaeth gafodd y rhan fwyaf. Rhagymadrodd campus ydoedd yr araeth, a phe baem wedi cael yehydig ychwaneg gan y gwr parchus, yn ddiameu cawsem beth goleunl. Ymhob oes yr oedd y syniad am Dduw yn tyfu ac yn dadblygu, a hyny ar linellau hollol ysgryth- yrol, ac yn y cyfeiriad hwn yn unig yr oedd rhyddid meddwl gan y clerigwyr. Rhybudd- iodd ni i gadw hyn mewn cof a gwylied y linell derfyn. TENMIS.—Enillwyd y wobr roddwyd gan ein Prifathro yn y 'Novices Tournament' gan Mr. Lloyd Jones. Gwelwyd y pedwar canlynol yn y I semi-final round:Mri. T. Lloyd Jones v. J. Jenkins (c), Dan Davles v. Hugh Hughes. CRICKET.—Dyna hanes y gwyr hyn yn ystod yr wythnos ddiweddaf. COLEG LLANYMDDYFRI V. COLJSG DEWi SANT." Llanymddyfri, H. H. G. Williams, b Bodycombe 19 S. M. Williams, b Perrott. 0 T. D. Davies, b Bodycombe 35 T. C. Davies, c J. T. Davies, b Bodycombe 8 A. E. Warhurst, b Bodycombe 48 J. G. Williams, c T. C. Edwards, b Perrott 61 G. G. Roberts, do. do. 1 J. R. Samuel, not out 15 R. H. Roderick, b Perrott. 19 R. M. Jones, not out 11 L. E. Roberts, to bat Byes 17 231 Dewi Sant (First Innings). R. A. Gallen, c L. E. Roberts, b H. G. Williams 8 Bodycombe, b R. H. Roderick 0 J. T. Davies, c Samuel, b H. G. Williacaa 0 L. G. Lewis, st., b H. G. Williams 17 R. Fletcher, c T. C. Davies, b 14 Towyn Jones, run out 0 R. Perrott, b Roderick 0 G. Pieton, b H. G. William 0 D. E. Thomas, at., b H. G. Williams 0 T. C. Edwards, not out 10 T. Jeffreys, c L. E. Roberts, b H. G. Williams 6 Byes 5 60 Dewi Sant (Second Innings). Towyn Jones, c G. G. Roberts, b L. E. Roberts 39 T. C. Edwards, b H. G. Williams 38 L. G. Lewis not out 62 I. T. Davies not out 1 Byes 2 Total for two wickets 134 DEWI SANT V. REV. MH. FOOTMAN'S XI.— Chwareuwyd hon ar faes y Coleg ddydd Sadwrn pryd yr enillodd y Coleg yn rhwydd. Y score ydoedd—Rev. Mr. Footman's XI., 59; Coleg Dewi Sant, 129. Y SULGWYN.-Pregethwyd yn Mhencareg gan Mr. H. Hughes, ac yn Mhentrebach gan Mr. J. J. Simon, pryd y cymerwyd y gwasan- aeth gan Mr. W. H. Williams. Darllenwyd y llitboedd yn Eglwys y Plwyf yn Nghymraeg gan Mr. W. Thomas, ac yn Saesneg gan Mr. J. B. P. Williams.

Dyrchafiad y Parch Griffith Jones

Dyrchafiad y Parch. Griffith Jones. Llongyfarchwn y Parch. Griffith Jones, B.A., curad-mewn gofal, Llangyfelach, ar ei benodiad i Sceriaeth Caio a Llansawel, Sir Gaerfyrddin, gan yr Arglwydd Canghellydd, ac y mae y penodiad wedi rhoddi boddbad i'w luaws cyfeillion ac edmygwyr. Hana Mr. Jones o gyff Eglwysig o'r iawn ryw, sef teulu Y Foel, Llanfihangel-Rhosycorn, lie y pres- wylia ei fam yn awr. Derbyniodd Mr. Jones ei hyfforddiant ar gyfer urddau yn Ngholeg Dewi Sant, lie y graddiodd yn B.A. yn 1900, a'i guradiaeth gyntaf ydoedd Llawhaden, Narberth, o'r hwn le y cafodd ei benodi yn gurad Llangyfelaeh. Mae ei lafur wedi el fendithio gan Dduw, a'i weinidogaeth wedi bod yn gymeradwy a derbyniol iawn gan blwyfolion Llangyfelacb, y rhai tra yn falch ei fod wedi derbyn dyrchafiad, a hlraethant am dano yn hir. Gweithiwr egniol ydyw, ac y mae yn ymwelydd cyson a'i ddeadell, ac yn bregethwr hyawdl ac effeithiol yn Saesneg a Chymraeg.

Y Byd ar Eglwys GF

Y Byd a'r Eglwys. GF AMRYWION GAN "LLYGADGRAFF." Y MERCHBD A'R BLEIDLAIS. Dywedodd un siaradwr mewn cynhadledd bwysig yn Lloegr yn ddiweddar mai tri symudiad mwyaf nerthol yr oes yr ydym yn byw ynddi ydynt yr eiddo llafur, y genhad- aeth dramor, a'r merched. Ychwanegir, nid heb sail, mai un o ffrwythau a meini-prawf gwareiddiaeth bur ac uchel mewn unrhyw wlad ydyw y safle a roddir a'r sylw a delir i hawliau merched a phlant. Yr ydym wedi arfer meddwl mai yn y wlad hon, yn anad pob gwlad arall dan y nefoedd, y rhoddir y sylw penaf a'r parch dyfnaf i'r rhyw deg,' ond pa fodd mae cysoni hyn gyda gwrthodiady bleidlais iddynt nid ydym yn gwbl glir. Hawdd y gallwn ddychymygu rhyw ddarllenydd yn ateb mai parch i a phryder dros lesbad y merched eu hunain a gynhyrfa y mwyafrif mawr o ddynion i wrthod y bleidlais iddynt.' Ond cyfyd y cwestiwn, Ai onid y boneddig- 0 esau eu hunain ydynt y beirniaid goreu parthed yr hyn sydd oreu iddynt 1 Ai teg ymddwyn tuag atynt fel plantos, fel rhai anghymwys i farnu drostynt eu hunain 1 Onid ydynt yn ami, lie rhoddir perffaith chwareu teg iddynt, yn profi eu hunain yn gyd-radd a dynion mewn dealltwriaeth ? Yr ydym wedi cael engreifftiau tarawgar o hyn yn ddiweddar, ac y mae y 'professions' yn cael eu taflu yn agored iddynt o un i un. Onid ydynt eisioes yn gweithredu ar rai o gynghorau pwysicaf y wlad, fel nad oes prin ond y Senedd yn gauedig iddynt? Onid gwragedd fu ornaments' disgleiriaf yr orsedd Brydeinig ? Ar ba dir yn rhesymol y gellir gwrthod y bleidlais iddynt, yn enwedig lie y talant y tollau a'r trethi, ac y cwbl- hânt gyfrifoldeb 'house-holders.' Os nad ydym yn cyfeiliorni, lied ddistaw mae colofnau y LLAN wedi bod ar y cwestiwn hwn. Buasal yeh- ydig drafodaeth gan eich gohebwyr, Mr. Gol., yn eithaf buddiol. GWRAGEDD PRIOD A'R BWDJET. Un o'r dyddiau diweddaf ymddangosodd y paragraph a ganlyn yn un o'r papyrau Seisnig :—' In spite of the hopes held out by Mr. loyd George last year nothing has been done to remove the grievance of married women with regard to the Income Tax. The Married Women's Property Act was intended to give married women complete independ- ence of control over their own property, but Income Tax is still levied on the joint income' of husband and wife as though the wife's income still belonged to the husband.' Sylwer ar y frawddeg olaf-I fel pe byddai cyllid y wraig yn eiddo y gwr' hyny yn ddiau ydyw asgwrn y gynen.' Mae y Llywodraeth wedi hen gydnabod fod eiddo y wraig yn eiddo y wraig ac nad oes gan y gwr lywodr- aeth drosto fel y cyfryw, ond mewn gweith- rediad ymarferol mae y Llywodraeth a'r wlad yn parhau i ymddwyn tuag attynt fel pe bai dim yn eiddo iddynt—na'u cyrph na'u heneidiau na'u plant na'u heiddo. Pa ang- hyfartalwch naturiol all fodoli cydrhwng dyn a dynes (os yw yn bodoli o gwbl) nid yw y Ilestr gwanaf erioed wedi ei fwriadu i fod yn slave y dyn, ond yn hytrach ei gydymaith -ei gydymaith Jrnhob dim—ei ymgeledd gymhwys' Mae hanes yn dweyd pan ddring- odd yr Hen Wron o Ben ar-lag (Mr. Gladstone) i safle o anrhydedd a chyfrifeldeb fel gwlad- weinydd ei fod un diwrnod wedi rhoddi y dewisiad i'w briod o wybod yr oil o'i gyfrinach neu ddim—' all o'r none' meddai. Atebodd hithaii heb betrusder all'—yr unig atebiad allai boneddiges o urddas a hunan-barch ei roddi, ond yr oedd dyfod yn gyfranog o holl gyfrinach y gwladweinydd enwog yn gyfrifol- deb nid bychan, ond danghosai ei bod yn dy- muno ac yn hawlio bod yn gydymaith iddo yn ngwir ystyr y gair. Son am wareiddiaeth uchel Prydain Fawr, mae Denmark wedi rhoddi esiampl, ac wedi cymeryd cam ag mae Lloegr yn petruso ei gymeryd- mae hi Daill ai wedi rhoddi neu ar fin rhoddi y bleidlais i ferched, yn penodi merched ar y rheithfainc, yn heddgeidwaid, yn State- servants,' ar yr un telerau a dynion, a hyny yn annibynol ar y cwestiwn o briodas. Mae Mudiad y Merched' yn enill nerth mewn gwledydd ereill, ac mae y ffaith uchod parthed Denmark yn deilwng o ystyriaeth pob Prydeiniwr. Ein prif amcan yn hyn o baragraph ydoedd galw sylw ati. Mae yn profi, hefyd, chwedl un,' that all is not rotton in the State of Denmark.' Mae yn lied sicr fod mwyafrif mawr o ferched y wlad hon heddyw yn ffafr estyniad yr etholfralnt iddynt, er yn anghymeradwyo ystranciau y blaid eithafol, ac mae yn amheus a ydyw y mwyafrif o'r dynion yn wrthwynebol i hyny. Bydd yn rhaid i'r Weinyddiaeth nesaf, beth bynag a fydd, wynebu y cwestiwn gyda phob difrifwch. DF WEDIR Fod 'Cyngrair y Friallen' wedi gwneyd parotoadau eang ar gyfer rhoddi Iletygarweh yn y wlad hon i wragedd a phlant y gwir- foddolwyr dewrion sydd yn barod i aberthu eu bywydau er mwyn rhyddid ac annibyn- iaeth eu gwlad. Fod dwy ffordd y gellir rhoddi help llaw i Ulster yn yr argyfwng presenol, sef trwy drefnu llettygarwch yn mhob ardal, neu anfon rhoddion i'r pwyllgor yn uniongyrchol.! Mae Cynrair y Friallen' o ddifrif yn y gwaith. Mai ofer yw siarad am bobl yr Ynys Werdd fel pe baent o un gwaed ao un genedl, heb son arp un grefydd. Mai Ysgotiaid sydd yn y North,' a Gwyddelod yn y South,' heb ddim yn gyffredin rhyngddynt. Waeth i'r Llywodraeth heb dabyrddu a churo yn erbyn Natur. Can hawdded cymysgu olew a dwfr a ohymysgu y bobl hyn. Yn hyn mae Asquith yn gweithredu o chwitb,' chwedl cymydog. Mai arwydd arall o chwithdod' rhyfedd y Prif Weinidog (Asquith) ydyw y modd y mae wedi myned yn mltien yn ei ddaliadau crefyddol, sef o Anghydffurfiaeth i Eglwys Loegr, ac yn ol yn ei ddaliadau gwleidyddol, oblegid nid ydoedd yn dadsefydlu,' fel mae heddyw, bob amser. Nid oes genym yr amheuaeth lleiaf na chyflawnai Volte face arall gyda rhwyddineb mwyaf pe gwyddai sut. Wait and see.' Fod yn eglur fod Esgobaethau Lerpwl, Caer, a Llanelwy wedi eu huno i bob amcan ymarferol ynglyn â'r Gymdeithas henafol er Lledaeniad yr Efengyl (S.P.G.), ac mai yr ysgrifenydd trefniadol yn y dyfodol fydd y Parch. E. H. Day, 165 Sea View Road, Liscard. Mae yn debygol felly fod y Parch. E. Herbert Evans, rheithor Cerrigydruidion, wedi canu'n iach i ni yn yr ystyr hon. Gobeithio y caiff yr ysgrifenydd newydd y gefnogaeth a deilynga. Ymwelodd a, Thre- ffynon Sul neu ddau yn ol, a chlywsom iddo bregethu yn rymus ac ardderchog. Mae'n gofyn am ymrwymiadau ychwanegol. Mae y si ydyw fod Esgob LI undain o'r diwedd wedi penderfynu bwrw ei goelbren gyda'r 'rhyw deg,' nid trwy gymeryd unrhyw foneddiges neillduol dan ei aden feddyliwn, ond trwy bleidio yn benodol a chyhoeddus y bleidlais i ferched.' Yn ddiau bydd hyn yn gaffaeliad i'r symudiad. Fod y trychineb ofnadwy sydd wedi goddiweddyd y llong odidog, Empress of Ireland,' ar y St. Lawrence wedi cynhyrfu y wlad g\vr bwygilydd, nad yw ond ail yn ei harswydolrwydd i eiddo y 'Titanic' ei hun, ac o ran sydynrwydd a chwimwthdra ei dinystr yr oedd yn fwy felly. A oes 'border aur' i gwmwl pygddu fel hwn? Diau y fod, neu ni oddefai Rhagluniaeth ddwyfol iddo\ gymeiyd lie. Gallwn ganu eto mewn ffydd- 0 Arglwydd Dduw Rhagluniaeth Ac Iachawdwriaeth dyn; Tydi sy'n llywodraethu Y byd a'r nef yn un.' Fod y lietreat i'r clerigwyr yn Mhen-ar- lag i gymeryd lie eleni o'r 22ain eyfisol hyd 25ain, ac mai yr arweinydd fydd y Parch. F. Vincent Watson, Tait Missioner. Dylai y rhai sydd yn arfaethu bod yn bresenol anfon eu heiiwau yn ddioedi i The Warden, S. Deiniol, Hawarden. Tal 15s. Mai teitl llyfr dyddorol iawn sydd wedi ei gyhoeddi dan nawdd Sant Deiniol, Pen- ar-lag, ydyw 'The Infancy of Religion, gan y Parch. D. C. Owen, Rheithor Stoke Abbott, gynt S. Asaph. Diau y bydd i enw yr awdwr sicrhau darlleniad eang iddo yn mblith clerigwyr Cymreig. Mae ynddo saith o bennodau llawn i'r ymyl o ddyddor- deb. Ei bris ydyw 3a. 6c. (net). Ei gyhoeddwyr: Oxford University Press ao eraill. Yn nghyfres St. Deiniol cyhoedd- wyd eisoes: 'The Inspiration of Prophecy,' gan y Warden (Joyce), 'Death and the Here-after' (Pregethau). gan Harry Drew, 'St. Basil and His Rule,' gan E. F. Morison. Fod cyfres o gyfrolau gwerthfawr gan wahanol awduron wedi cael eu hychwanegu eto yn ddiweddar at y Llyfrgell yn S. Asaph—rhy faith i'w henwi, ond gellir eu benithyca trwy ymofyn a'r Parch. T. J. Davies, Bodlondeb, S. Asaph, yr ysgrif- enydd mygedol. Fod y Parch. E. W. Lewis, M.A., B.D., Bugail Eglwys gyfoethog y King's Weigh House, Liuiida-i n,'y'n rhoddi i fyny ei swydd (y cyflog X600 y flwyddyn) i fyned i fyw y 'bywyd syml.' Ysgrifenodd y llythyr yn mynegu hyn o Assisi—arwyddocaol iawn fel y lie sydd wedi ei fytholi gan enw St. Francis, un a gymerodd tlodi i'w fynsves fel ei briod. Nid ydym heb arwyddion fod yna ryw symudiad dwfn a distaw yn y wlad lion tuag at adfer urdd o friars eto. Yr hyn a fu, a fydd eto efallai, er nad yn gwbl ar yr un llinellau, ond y mae teimUd yn yr eglwysi am y fath urdd. Fod teulu goludog Llandinam wedi dyfod ailan yn anrhydeddus iawn eto, y tro hwa yn y ffordd o waddoli cerddoriaeth Gyi?i- reig yngl yn a. Choleg y Brifysgol yn Abe"- ystwyth. Da, eu gwaith. Mae 'gwaddoli' yn y gwynt y dyddiau hyn. Mae Bedydd- wyr Cymru a Lloegr wedi casglu swm en- 6 9 fawr yn ddiweddar i'r amcan hwn. Os da iddynt hwy, paham mae yn ddrwg i neb arall? Pa le mae 'perl cysondeb' wedi myned? A oes dichon gweled rhywbeth yma ond 'malaisi'? Fod y Parch. R. R. Roberts, cluad Towyn, Sir Feirionydd, wedi derbyn dyrch- afiad i fywoliaeth S. Thomas, Groeslon, Sir Gaernarfon. Haeddianol hefyd, I'r cwestiwn: 'A all Wesley ad fod yn Warden Eglwysig?' mae y Canghellydd Syr Philip Baker Wilbraham, yn y Consistory Court yn Nghaerj wedi ateb yn y cadarnhaol—'gall.' A yw hyn yn gymwysiadwy at blwyfi newYJddion neu Eglwysig ? Fod y 'List of Presidents' i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Bangor wedi ei chyhoeddi, a'i bod ar y cyfan yn amlygu doethineb a thegweh. Fod bywoliaeth Penstrowed wedi efe llanw trwy benodiad y Parch. O. B. Williams, curad, Menai Bridge, gan ESigob Bangor. Gweinyddodd Mr. Williams fel j curad yno am bymtheg mlynedd—dyma i ddyfal-barhad os yw rihywbeth. Rhaid ei fod yn gadael llu o gyfeillion. 'One of the greatest achievements of Christianity,' meddai Deon enwog S. Pauls ydyw 'gwraig dda.' Y 'Gloomy Dean' y gelwir ef. Nid cywir. Byddai yn fwy cywir ei alw y 'Deon Eofn.' Nid oes arno ofn neb, meddant hwy. ond Duw. Nid yw ond cymharol ieuanc, a chawn glywed llawer am dano yn y dyfodol. Fod nodchfa yn cael, ei chynal yr wyth- nos hon yn Connha's Quay tuag at gronfa yr Eglwys newydd. Gobeithio y coronir yr ymdrech a. llwyddiant ac y dylifa y 'da. crynion' i ddwylaw y trysorwyr. Mae y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym iawn yno, ac felly gyfrifoldeb y ficer a'i gefnog- t,Y wyr.

Apwyntiad y Parch E A Davies Llanwinio i Egremont a Glynderwen

Apwyntiad y Parch. E. A. Davies, Llanwinio, i Egremont a Glynder- wen. Gyda. phleser mawr y darllenasom am yr uchod. Mae yn ddewisiad rhagorol. Mae Mr. Davies yn wr o brofiad helaeth, yn bregethwr grymus, ac yn fugail ftyddlon a gofalus. Cychwynodd ar ei yrfa weinidogaethol yn Llansamlet dan yr enwog Ddr. Walters. Wedi hyny bu am beth acaser yn gurad Ponty- berem, ac oddiyno symudodd i Langyfelach, lie y Ilafuriodd am flynyddau lawer gyda llwyddiant mawr dan y Canon Watcyn Morgan, a ficer pretietiol y plwyf pwysig hwnw. Y mae wedi bod yn Llanwinio am yn agos i ddeg mlynedd, ae yn y cyfamser wedi cyflawni gwaith rhagorol. Y mae wedi codi ficerdy ardderchog ar y draul o l,700p.s wedi ychwanegu gwerth y fywoliaeth o bron j 150p., ac wedi casglu 500p. tuagat adeiladu Neuadd Eglwysig, tra y mae nifer y cymun- wyr wedi cynyddu yn fawr. Mae yn chwith iawn gan bobl Llauwinio feddwl ei golli, a chyngborwndrigolion Egremont aClynderweu i dderbyn y gweithiwr difefl hwn a breichiau agored.-Un a'i hadwaen.

FFESTINIOG

FFESTINIOG. Yn WYL GORAWL.-Prydnawli Sadwrn y Sidgwynj yn Eglwys y Plwyf, sef S. Michael, cyiihaliwyd yr uchod. Unodd corau S. Michael, Blaenau Ffestiniog, Tyddyngwyn, Trawsfynydd, Tyiiant, a Maentwrog. Yr oedd y tywydd yn hynodi o ifafriol. Cafwyd y rhagbaratoad am ddau o'r glocli. Wedi cael to yn y Neaudd Gyhoedclus, hwyliwyd am yn Eglwys erbyn ohwarter i bump. Trefnwyd yn gerddoriaeth. am eleni y foruol weddi! Te Deum (Goisis), yr anthem 'Y boreu claer aeth heibio.' Arweinydd yr wyl oedd Mr. J. Williams, Eglwys Crist, Caernarfon.; Yr organydd oedd Mr. R. Walker Davies, B.A., Cae'rblaidd. Yn yr orymdaith i'r Eglwys gwelsom Ficer Blaenau Ffestiniog, y Parclm. G. Jones, S. Martha, a cliurad Ffestiniog, rheithor newydd plwyf Ffes- tiniog, a phregethwr yr wyl, sef y Canon R. T. Jones, Glanogwen. Cymerodd y rhai hyn ran yn y gwasanaeth. Gwelsom offeiriaid eraill yn y gynulleidfa. Am y canu gallwn ddweyd yr hyn a glywsom, sei ei fod yn refined. Yn ol trefn y cylcli deallwn y bydd yr wyl nelsaf yn S. Dewi. Wei, dyna, yn fyr hanes yr wyl, ac ofer yw myned trwy restr y tonau, etc. Gan ein bod eisoes yn ysgrifenu goddefer i ni ddatgan ein profiad personol yno. Wrtl1 gerdded yr heol, gofynwyd i ni gan gerodor amlwg ai astudio beth i'w osod allan trwy y LLAN oeddem yn wneyd? Wel, ateb- asom y rhoddem air i'r wasg. Gan ein bod wedi cael byw i weled holl wyliau corawl ein plwyf, yr ydym mewn safle i basio barn. Yr oedd y canu yn swynol ac effeithiol, ? phregeth hynodi o bwrpasol. Nid oeddeiil yn cael y canu mor rymus a nerthol ac a glywsom y blwyddi a aeth heibio. Ofnwn. fod sel ein gwyliau corawl yn tueddu i fod ar eu gogwydd. Er y cwbl, boddhaol iawn oedd yr wyl eleni. Nid annyddorol i Eglwyswyr y plwyf fydd hyn o nodiadaia o berthynas i'r canu. Yn 1784 talwyd i un John Jones ddeg swllt am ddysgu y plwyfolion ganu y Salmau; yn 1791 talwyd chwe' cheiniog am 'Ysgladsan Salmrwys" (llechfaen yn ddiameu); yn 1802 talwycl gini yr un i Evan Rilchard a Robert Job 'For laming Salmsi in the Parish.' Bydded i ni gadw y traddodiadau. Hyderwn fod holl eglwysi y cylch yn canu y Salmau ymhob gwasanaeth. Da iawn oedd genyns weled rheithor newydd y plwyf, a byddeCl i'w freichiau gael eu cynal. 'Efe yw yf rheithor ag sydd yn digwydd bod pan y mae mesur y Dadgysylltiad wedi gorpben ei yrfa, yn Cyffredin. Henry Thomas oedd rheithor y plwyf yn adeg Cromwell efe a drowyd allan (gweler 'Walker's perse- cution of the Clergy).-D. D, Roberts Ddydd Mawrth, ymddanghosodd teiliwr o Bury o'r enw James Mulligan am y 150 tro yn yr heddlys, pan y cyhuddwyd ef o fod yn feddw, ond rhyddhawyd ef ar yr amod y gwnai ymddwyn yn briodol. Ddydd Mercher^ p oedd y gerbydres 9.35 yn y bore yn myned o Derby i Fan- ceinion taniwyd ergyd o Wll, gan bersoii anhysbys, a tharawyd un o ffenestri'r tren. Cafodd un o'r teithwyr ddihangfa gyfyng. <