Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL." { OYNWYBIAD AM MEHEFIN. 5 Y Mis. < Y Deffroad yn Ffrainc, j Llyfr y Barnwvr. Y diweddar E. W. Tbomas, Organydd ac Arweinydd Cor St. Ann's (gyda Darlun). í Cerdd Goffa y diweddar F. S. f Percival, Ysw., Bodawen, j Porthmadog. j Eglwys y Siarter. < Rwyr-ddydd Haf. j O'r Arsyllfa. j Safle'r Eglwys ar ol yr Helynt. Achub Cymru. j Capelulo. | | Hanesyn am I-len Chwarelwr. | Nodion Eglwysig. > Bwrdd y Golygydd. < Sonedau. > Adolygiadau. <

Advertising

PKRL Y PLANT CYNWYSIAD AM MEHEFIN. ",i, :r.4-.õ"L. Dadleuon Magi Jones. Tridiau ar y Mynyddoedd (gyda Darluniau). ^Mis Meliefin. Y Paganiaid Bach Duon. | Drama—Trafferthion Bywyd. | Esiampl (gyda Darlun). j Betb mae yr Eglwya yn ei Wneyd. Dalen Dirwest. Ffyddloniaid yr Ysgol Sul. | Holwyddoreg; Y Conffirmasiwn; Marconi. Bwrdd y Gân. j Seryddiaeth fel Llaw-forwyn i j Qrefydd (gyda Darlun). I Yr Eglwys Lin Gatholig. j Y Gystadleuaeth. ¡ Llithiau Priodol am y Mis. j Perlau y Perl.' Barddoniaeth. I

Llythyr Llundain

¡¡¡¡¡;¡;¡¡¡- Llythyr Llundain. MR. MASTERMAN. Beth sydd i ddyfod o'r gwr hwn ? Mae yn chwilio yn ddyfal am le sydd yn barod i'w ethol fel aelod o'r Senedd. Fel arfer, maent yn edrych tua Chymru, gan feddwl fod y wlad hono yn sicr o roddi lie iddo. Y gred gyffredinol oedd y gwnai y Brenin anrhyd- eddu un o'r aelodau Seneddol dros Gymru ar ddydd ei ben blwldd drwy ei drosglwyddo i Dy'r Arglwyddi, ond nid felly y bu; am hyny mae Mr. Masterman yn dal ei swydd, ac yn derbyn ei gyflog, er fod y wlad wedi llefaru ddwywaith yn ei erbyn.

Y GYLLIDEB

Y GYLLIDEB. Nid yw pobpeth yn hwylus ymhlith y blaid Radicalaidd. Maent wedi bod yn chwilio i mewn i'r Gyllideb ddiweddaf. Erbyn hyn, mae'r Rhyddfrydwyr yn deall eu bod hwythau yn gorfod talu'r trethi, ac mai nid bychain ydynt. Ceir nifer lluosog o wyr cyf- oethog ymhlith canlynwyr Mr. Asquith, ac er eu bod yn derbyn 400p. y flwyddyn am eu ffyddlondeb, yn ddiau maent yn gorfod talu mwy na hyn yn y trethi ychwanegol, ac felly tybiant ei bod yn bryd iddynt wrtbdystio yn erbyn rhan o'r Gyllideb. Yn ei Gyllideb ddi- weddaf, yr oedd y Canghellor yn bwriadu codi trethi heb ddangos y rheswm am hyny, —heb gyfeirio at pwy ddyben yr oedd yn bwriadu defnyddio yr arian. Ac o'r di- wedd dyma Lefarydd y Senedd yn datgan ei farn, mai anghyfreithlawn ydyw ceisio arian cyn sicrhau trwy fesurau neilldu- 01, pa fodd y maent yn bvriada eu defnyddio. Felly, gorfod i'r Llywodraeth ranu y Gyllideb yn ddau er mwyn myned yn mlaen a'r gwaith o gasglu'r arian.

Y GRWGNACHWYR

Y GRWGNACHWYR. Onibai y 400p. o gyflog mae'r aelodau yn dderbyn, ayddai yna ragor o rwgnach yn erbyn trethi y Llywodraeth bresenol. Yr oedd rhan o'r blaid weithiol ymblith y grwg- nachwyr. Nid oeddynt yn ddedwydd am fod bwyd yn cael ei drethu. Dyma gyfaddefiad rhyfedd. Yn ol holl leferydd y gweinidogion yn ystod yr etholiad cyffredlnol, nid oedd son am hyn. Yr oeddynt yn addaw bwyd yn rhad ac am ddim. Cyhuddo yr Undebwyr oeddynt o geisio trethu y bwyd, ac wele gwyr fel Mr. Snowden a Mr. Henderson yn cyhuddo y Llywodraeth bresenol o'r un peth. Pe byddal'r Ty yn rhanu ar y pwnc yma, ni fyddai eisieu i'r Uywodraeth ofni, oblagid mae'r blaid weithiol -yn berffaith ufudd i'r rhai sydd yn rhanu eu cyflogau iddynt, ac y maent yn barod i bleidleisio dros yr hYt) maent yn wrthwynebu ar air.

Y DYDD YN AGOSHAU

Y DYDD YN AGOSHAU. Yn araf ond yn sicr mie'r Llywodraeth bres- enol yn myned yn brysur i'w dinystr. Fel yr wyf yn ysgrifenu hyn mae Arglwydd Crewe yn dwynmesur i wellhau yr hyn nag sydd gyfraith eto. Beth wna Ty yr Arglwyddi a'r mesnr t Rhaid aros a gweled, ond yn ol lleferydd Arglwydd Lansdowne a Syr Edward Carson, nid oes liawer o obaith am heddweh. Gwas- trafl' amser ydyw i'r Arglwyddi geiaio gwella yr hin sydd wedi derbyn cymaint o wellhad ag a fedrai o dan olygon Mr. Redmond, Efe ydyw meistr y sefyllfa, ac iddo ef rhaid i Mr. Asquith a'r blaid edrych os ydynt am Wybod beth i wneyd nesaf. Ni fu ein gwlad mewn sefyllfa mor beryglus erioed o'r blaen, a bydd yr wythnos hon yn un o'r rhal rnwyaf pwysig yn hanes ein gwlad. Anes- rowyth iawn ydyw bywyd y Prif Weinidog yn y dyddiau hyn, ond dyma'r pris mae yn orfod talu am ei ymdrecb i glwyfo Hen Eglwys y Cymry, oherwydd oni'bai y cytun- deb sydd wedi bodoli rhwng y Gwyddelod a'r Rhyddfrydwyr, anmhosibl fyddai cario y ddau fesur. hyn, sydd i ddwyn am genhedl- aethau amryfusedd gwleidyddol a chref- yddol.

t ADFFURFIO TYR ARGLWYDDI

t ADFFURFIO TY'R ARGLWYDDI. v Anmhosibl ydyw cael gan Mr. Asquith i r ddatgan pa bryd mae yn bwriadu dwyn y mesur o adffurfio Ty'r Arglwyddi gerbron y Senedd. Mae tair blynedd wedi myned heibio er pan addawolid hyn, ond nid oes dim wedi ei wneyd. Mae ganddo, mi gredaf, fwy o ffydd yn y Ty Uohaf presenol nag sydd ganddo yn y Ty Isaf, fel y dengys ei barodrwydd i dwyn y mesur o welliant ynglyn a Hunan Lywodraeth i'r Ty yma. Mae Arglwydd Hugh Cecil beunydd a byth yn chwilio am atebiad i'w ofyniad, Pa bryd y bydd y mesur o Adffurfio yn cael ei ddwyn ger ein bron.' Nid oes yr un ateb. Mi ofynaf yr un cwestiwn yr wythnos nesaf eto,' oedd ergyd olaf yr Arglwydd medrus hwn.

TAI BYW

TAI BYW. Pan fydd hanes ymdrechion y Llywodraeth bresenol yn cael ei adrodd ynglyn a'r pwnc o dai i'r gweithwyr, i'r Undebwyr y bydd y diolch yn ddyledns am gadw'r pwnc yn fyw. Prinder tai ydyw achwyniad pob trefedigaeth oherwydd Cyllideb enwog Mr. Lloyd George yn 1910. Mae'r Llywodraeth yn siarad digon ynghylch y peth, ond yn gwneyd dim. Maent wedi lladd mesur ardderchog Syr Arthur Griffith Boscawen am mae Undebwr ydyw. Mae yr Undebwyr yn dangos eu bod yn edrych ar y sefyllfa bresenol gyda phob gonestrwydd, gan geisio gwella'r sefyllfa wrth siorhau tai gweddus i weithwyr y wlad.

Mesur Ymreolaeth

Mesur Ymreolaeth. Cyflwynwyd y mesur gwellianfcol ynglyn a'r uchod yn Nhy yr Arglwyddi ddydd Mer- cher gan Arglwydd Crewe. Oddiwrth yr hyn a ddywedodd, nid yw y mesur gwelliantol amgen na'r hyn a ddygwyd ymlaen Mawrth ftfed, sef cau allan rai o'r siroedd yn Ulster o ddarpariadau Ymreolaeth am chwe' mlynedd, yn ol en dewisiad eu hunan, y oyfryw sir- oedd cauedig i gael eu llywodraethu gan yr arglwydd raglaw yn unol a gorchymynion y Cyngor, a bydd eu haelodau yn eistedd yn Nhy y Cyffredin yn Westminster. Dangosodd Arglwydd Lansdowne nad oedd y cynygiad amgen na goaod rhaff ar wddf Ulster. Credai yn ddiysgog nad oedd y mesur hwn yn ddigonol i osgoi rhyfel gartrefol, ond dyna y man pellaf yr aethai Mr. John Red- mond. Iarll Grey a rybuddiodd y Ty y goiygai rhyfel gartrefol yn yr Iwerddon ryfel gartref- ol yn y Deyrnas Gyfunol a thrwy yr ymerod- raeth. Anogai ar fod i gynhadledd, cynwys- edig o'r holl bleldiau, gael ei galw i siorhau cytundeb heddychol. Paalwyd y mesur yn ffurfiol am y waith gyntaf.

Marwalaeth Mr John Jones Tanydduallt Maentwrog

Marwalaeth Mr. John Jones, Tanyddu- allt, Maentwrog. Gyda theimladau galarus yr ymgymerwn a'r gorchwyl pruddaidd o gofnodl marwolaeth y gwr hynaws a charedig, Mr. John Jones, Tanydduallt, Maentwrog, yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth, yr 16eg cyfisol, yn 68 mlwydd oedd. Cafodd gystudd maith a chaled, pa un a ddioddefodd yn hollol dawel a dirwgnach. Ni wyddai neb faint ei boenau gan mor ddistaw y dioddefai, ac ymadawodd a'r fuchedd hon a gwdn ar ei wyneb. Dyn distaw, tawel, ydoedd bob amser, ac iddo air da gan bawb a ohan y gwirionedd ei hunan.' Un ydoedd garai wneyd ei oreu i bawb, a hyny yn hollol ddirwgnach, ac ni chlyttid son am un gymwynas a wnai wedyn. Un o'r gweithwyr caredig a distaw hyny garai wneyd ei ran heb gael ei weled ydoedd efe. Yr oedd yn uchel iawn ei barch gan ei gyd-weithwyr, a chan ei luaws cydnabod yn gyffredinol, ac y mae yr holl gymydogaeth mewn galar trwm o'i golli. Yr oedd yn Eglwyswr cydwybodol, a Ilawer ddadleuodd dros yr hen Eglwys yn yr argyfwng pwysig y mae ynddi. Yr oedd yn Geidwadwr egwyddorol o ran ei ddaliadau, a phob amser yn barod i wneyd yr hyn a allai Bu am rai blynyddau ya warden y Rheithor yn amser y diweddar Birch. R Killin, a mynvchodd Eglwys St. Twrog yn gyson hyd y gallodd. Y boreu oedd ei hoff wasanaeth bob amser. Hebryngwyd ei wedd- illion i gladdfa y teulu yn Ffestiniog ddydd Gwener, y 19eg cyf. Gwasanaethwrd yn y ty gan y Parch. W. Walter Jones, B.A, Tremadog, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. T. A. Williams, B.A., rheithor, a'r Parchn. L. Davies a W. G. Jones, curadiaid y plwyf. Gedy weddw ac un mab, sef Mr. D. Morris Jones, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn efrydydd yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, i alaru colled priod car- edig a thad gofalus a thyner. Nerth oddi uchod a gaffo y ddau i ddal y ddyrnod drom, a bydded iddynt sugno cysnr oddiwrth y ffaith iddynt gael gwneyd eu goreu iddo yn ei gystudd, ac fod 'gwir ddioyel obaith' y eint eto gyfarfod 'ar y lan hyfryd draw, lie na raid byth ymadael mwy.' Hedd i'w lwch yn y beddrod tawel hyd gaoiad yr udgorn diweddaf. <<—

Parliament y CpefFtwyr 4

Parliament y CpefFtwyr. <4 (Gan COLMAN). PRNNOD LI. SAM Y SAER.-Wel beth wyt ti yn ddweyd 'nawr, Rhys t Fe ddywedais i wrthyt dy fod yn dechreu crawcan dipyn yn rhy gynar. Pa le mae Mesur y Dadwaddoliad heddyw ] Fe ddywedaist ti y byddai yn siwr o dd'od yn gyfraith erbyn Gorphenaf y cyntaf. Nid oes ond saith diwrnod rhyngom a Gor- phenaf, ac nid oes un argoel y daw dy fesur d1 yn ddeddf. Oni ddywedais i*wrthyt ti dy fod yn dechreu cadw swn yn rhy gloi 1 Mae y papyrau yn dweyd fqd Ty yr Arglwyddi wedi crogi y mesur i fyny hyd amser an- mhenodol, ao ni wyddys beth ddigwyddith mwy. Yr oedd Mr. Asquith a'i griw wedi bwriadu i Fesur y Dadwaddoliad i dd'od o flaen yr Home Rule, ond yr oedd yr Arg- lwyddi wedi codi mor ioreu a hwythau. Mae ar y Llywodraeth ofn yr aiff hi yn draed moch pan ddaw yr Home Rule o flaen yr Arglwyddi, ac am hyny yr oeddynt wedi treio scetnio i gael y Dadwaddoliad yn gyntaf cyn dechreu o derfysg yr Home Rule. Dyna beth oedd i'w wel'd yn hyn oedd cyfrwysdra y sarph, ond nid oedd yma ddim o ddiniweid rwydd y golomen. Mae yr Hen Lyfr yn dweyd am i ni fod yn gyfrwys fel y sarph, ond ar yr un pryd yn ddiniwed fel y golomen. Yr wyf wedi sylwi lawer gwaith pan y mae dynion yn dechreu scemio, fyddant hwy ddim yn hir cyn cael allan fod dynion eraill yn gallu scemlo cystal a hwythau; ac ni all cyfrwysdra y sarph fyned ymhell heb ddiniweidrwydd y golomen. Ac felly y mae wedi bod gyda chyfrwysdra y Llywodr- aeth, yr oeddynt yn meddwl eu bod yn hynod o gyfrwys. Yr oeddynt hwy wedi cynllunio ac wedi amcanu i Dy yr Arglwyddi I basio neu i wrthod y Dadwaddoliad ar un- waith, cyn y daethai cynwrf a helynt yr Home Rule fel gwrthban dros y wlad, ond y mae eu cynllun wedi methu; dyma'r Ar- glwyddi wedi crogi y mesur i fyny hyd amser anmhenodol. Dyma beth oe id bod yn too clever by half. Aroswch chi dipyn bach, fe aiff hi yn halahalw yn y man, ac ni wyddom pJ. le y bydd diwedd y terfysg. RHYS Y GWAUDD.-Wel feallai na ddaw hi erbyn y cyntaf o'r mis nesaf, ond fe fydd yn siwr o ddod cyn pen blwyddyn. A beth yw blwyddyn yn hanes ein gwlad; dyw hi ddim. Ond hwyr neu hwyrach, y mae yn sicr o ddod, ao yr wyf fi yn synu na fyddai Eglwys- wr mor weithgar ac mor selog a ti, Sam, yu barod i groesawu y cyfnewidiad. Fe fyddai yr Eglwys yn sicr o fod yn fwy bywiog ac yn fwy gweithgar. Fe fyddech wedi hyny yn gallu penodi eioh offeiriad eich hunain, ac nid yn gorfod derbyn rhywun fydd yr Esgob yn dewis anfon atocb. A beth mae'r Esgob yn wybod am danoch chwi na'ch Eglwys ? Neu o bosibl mai rhywun arall fydd yn penodi offeiriad arnoch ag sydd yn gwybod llai am danoch na'r Esgob. Fe fyddwn i yn meddwl y buasech yn falch iawn ac yn barod i groesawu y fath gyfuewidiad. EVAN PENWAUN.— Wet wir, Rhys, dwi' ddim yn eich gweld yn gwneyd rhyw benod- iadau hapus iawn tua Chapel Brynteg yna. Mae tipyn o gymysgwuh a therfysg wedi bod yna ynghylch appwyntio gweinidogion ofewn dy gof di a minau. Yr ydych wedi bod weithiau am fisoedd os nad am flynyddoedd hab yr un gweinidog, yn methu yn lan a chytuno Alch gilydd. Ac yr wyf fi wedi gweld rhai dynion ag oedd fwyaf dros gael rhyw ddyn neillduol yn weinidog yn codi yn lied arw yn ei frig cyn ei fod wedi bod gyda ahwi fawr o dro, ac yn ddigon parod i roi y cwd iddo, Yr wyf yn cofio rhyw ddeg mlyn- edd yn ol clywed siarad rhwng un o Eglwys- wyr plwyf Nantyffin, ac un o flaenoriaid y Methodistiaid yn y gymydogaeth Yr oedd offeiriad newydd weii dyfod i'r plwyf, ac mi glywais i ysiarad canlynol yn cymeryd He. Yr oedd Mr. Dafis yma yn clywed y cyfan, a gall dystiolaethu ynghylch gwirionedd y peth. Wei wir,' meddai blaenor y Method- istiaid wrth yr Eglwyswr, yr ydych wedi bod yn hynod olwcus yn eich ffeiriad newydd, a chofio nad oedd genych ddim llais yn y pcnodiad.' 0 meddai'r Eglwyswr,' dyna'r achos paham I ni wedi bod mor lwcus; pe bai y penodiad yn ein dwylaw ni nid yw yu debyg y byddem ni wedi gallu gwneyd cystal job ar ol trin a thrafod am wythnosau a misoedd.' Yr oedd y Method- istiaid yn Nantyffin heb yr un bugail yr amser hwnw, ac wedi bod heb un er ys tipyn. Ac fel hyn yr atebodd y blaenor, Wei wir fe fyddai yn dda gen i pe bae'r Esgob yn anfon bagail i ninau hefyd Ml a wn fod Mr. Dafis yma yn cofio pob gair a lefarwyd. Josi'r Gof.-Fe alien i feddwl mewn peth fel hyn, nad oes neb yn fwy addas ua'r Esgob i benodi offeiriad i blwyf. Mae efe yn ddyn o addysg, gwybodaeth, a safle. Mae yn ad- nabod yr offeiriaid yn go lew, a phan y niae bywoliaeth yn d'od ya wâg, gwyr i drwch y blewyn pwy i anfon yno. Mae yn gwybod angenion y gwahanol blwyfi, ac yn gwybod cymhwysderau y gwahanol offeiriaid, ac fe allwn i fel dyn cyffredin i feddwl mai dyma y ffordd mwyaf priodol i benodi offeiriaid. Mae yn bosibl, wrth gwrs, i gamsyniadau i gael eu gwneyd. Mae yn bosibl i'r Esgobion i wrandaw gormod ar ddynion eraill, a rhy fach arnynt eu hunain. Fy mhrofiad i yn fy ngwaith a'm busnes faoh fy hunan yw hyn —mai y cyngor goreu i'w ddilyn yw cyngor fy hunan. Er cymaint o olwg sydd genyf ar fy nghymydogion, mae genyf dipyn bach fwy o olwo, arnaf fy hunan. Dyna, 'fel rheol, pan yr wyf fi yn gwneyd camsyniadau yw, pan yr wyf yn gwrandaw ar gyngor dynion eraill, pan maent yn groes i fy marn fy hunan. A digon tebyg mai dyna pryd y mae yr Esgobion yn gwneyd cam- syniadan yw pan y maent yn gwrando ar farn dynion eraill, a hyny yn groes i'w barn eu hunain. Yn awr yr ydych i gyd yn gwybod fod Henri'r Glyn wedi ysgrifenu at yr Esgob yn erbyn y Ficer oedd yn y plwyf hwn o'r blaen, yr hwn, fel y gwyddooh, oedd yn weithiwr mor galed. Mae yn debyg i rhyw scratch fach gymeryd lie rhwng Henri a. gwraig y Ficer, a dyma fe yn ysgrifenu yn union fel bulldog at yr Esgob. Fel yr ydych yn gwybod, 'dyw Henri ddim yn cael ei ys- tyried yn haner call. Mi glywais i yr offeir- iad yn adrodd yr helynt rhyw ddiwrnod yn yr efail, ao yr oedd yn edrych yn ofidus dros ben. Yr oedd yn dweyd na ddaeth i wybod fed Henri wedi ysgrifenu at yr Esgob am amryw fisoedd wed hyny, ac mi clywais ef yn dweyd na fu ef gymaint ag un awr yn gysurus yn y plwyf wedi iddo ddeall hyny. Yr own i yn ceisio ganddo i beidio gofidio, ac yn gofyn iddo, Ydych chwi yn meddwl fod yr Esgob mor ddwl a gwrando ar rhyw haner call fel Henri'r Glyn Wel,' meddai, fe fyddai yn go ehwith o beth genyf i feddwl hyny, ond hyn a wn, fod liawer o bethau cyn hyn wedi oael eu gwrando a'u coello ag oedd yn hollol wrong. A chwedyn beth wn i ?' 0 dir anwl yr oedd yn rhyfedd o ddrwg genyf drosto y tro cyntaf y galwodd yn yr efail ar ol claddu ei wraig. Yr oedd yn dweyd ei fod braidd myned yn ynfyd pan yn edrych ar wyneb ei wraig yn y coffin, wrth feddwl fod rhyw hen greadur fel Henri'r Glyn wedi ysgrifenu at yr Esgob i achwyn ami. A digon tebyg mai dynion fel hyn yw y rhai mwyaf parod i ysgrifenu at yr esgob- ion. Ni chymerai un dyn call ao ystyriol ddim llawer am wneyd y fath beth. Yr Eg- lwyswr rhesymol, cymedrol a gweithgar, fyddai yr olaf i feddwl am wneyd y fath beth. Ac felly mae lie i ofni nad yw yr esgobion yn feddianol ar farn a phrofiad dynion goreu eu hesgobaethau.1 Ni freuddwydiai y rhai hyn I ai byth am ysgrifenu atynt. Y dynion eithafol -y dynion hyny sydd yn ddiffygiol mewn balance,' sydd yn fwyaf parod i wneyd hyn, ac fe allwn i feddwl fod hyn yn berygl i'r esgobion. Os ydynt yn cael llawer o lythyr- au oddiwrth ddynion fel Henri'r Glyn, y mae yn rhyfeddod eu bod yn gallu gwneyd eu gwaith gystal ag y maent. Yr wyf wedi clywed o'r blaen mai anfantais a pherygl i'r esgobion yw gwrando ar ddynion sydd a bwyill ganddynt i'w hogi. Pan y mae bwyell gan ddyn i'w hogi, mae ei feddwl a'i fryd ar ei fwyell, ac nid oes amser ganddo i sylwedd- oli beth mae ffydd, barn, a gwirionedd yn ddweyd. Fe allwn i feddwl nad yw yn saff iawn i wrando ar gyngor ly dynion hyny sydd a'u bryd ar eu bwyill.

Yn Nyffryn Taiti

Yn Nyffryn Taiti. GAN JOHN Y GWAS.' ANGLADDAu.-Dydd Iau diweddaf, daeth torf fawr o gymydogion ynghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol o'r ddiweddar Mrs. Hannah Jones, Gwendraeth, Drefach i fynwent Hen- llan. Gweinyddwyd ar yr achlysur prudd- aidd gan y Parch. E. J. Daves, rheithor, a chwareuwyd yr organ gan Mr. Emrys Davies, Aberbank School. Yr oedd hefyd yn bresenol Rheithor Penboyr, a Ficer Llangeler. Y prif alarwyr oeddynt:—Mr. Thomas Jones (priod), Misses Mary Hannah Jones, a Maggie Jones, Mrs. Elizabeth Davies, Mr. Henry Davies, Parch. J. Hughes Jones, Tregarth, Llandegai, a Mr, Evan Jones, Merthyr (plant). Yr oedd yr ymadawedig yn 58 mlwydd oed, acfel gwraig dda, mam dyner, a chynadoges beddychol anwylir ei choffadwr- iaeth. Estynir y cydymdeimlad llwyraf a phawb o'r galarwyr. Prydnawn ddydd Iau, yn mynwent Llangynllo, claddwyd yr hyn oedd farwol o'r ddiweddar Miss Alice Davies, "I Ysgol Velindre. Gweinyddwyd yn yr ang- ladd gan y Parchn. D. Jenkins, rheithor Penboyr, a E. 0. Jones, rheithor Llangynllo. Yu blaenori yr orymdaith bruddaidd yr oedd plant Ysgol Felindre, ac unwyd â hwy gan blant Aberbank. Y galarwyr oeddynt:- Mrs. Davies (mam); Mrs. Jones, Abertawe (modryb); Miss Ada ns, Llundain (modryb); Mrs. Foxall, Senghenydd; Mrs. Vincent; Miss Jones, a Mr. Ernest Jones; Abertawe. Chwareuwyd yr organ yn Llangynllo gan Mr. D. Jenkins, C.M., Felindre. Gorchuddid yr arch a blodeudyrch prydferth, yn cynwys rhai oddiwrth Lady Lloyd a Miss Lloyd, Bronwydd, athrawon a plant Ysgol Felindre, athrawon a phlant Ysgol Aberbanc, Ysgol Sul St. Barnabas, &o. Cafodd yr ymadawedig fisoedd o gystudd caled, a thorwyd hi ym- aith yn 28 mlwydd oed. Gyda cyfoedion a phlaut hir yr erys cof o't bywyJ tyner. Huned mewn hedd o dwrf y byd nes tyr y wawr. Nos Sal diweddaf, yn St. Barnabas, traddododd y Parch. D. Jenkins bregeth goff- adwriaothol i'r ymadwedig. LLANGELER.—Mae y gwaith oainewyddu'c Eglwys yn cael sylw dyladwy, a deallir fod y contract yn awr wedi ei osod allan. Rhwydd hynt i Eglwyswyr y plwyf i gael pob cynorth- wy. NODION.—Yn y flwyddyn 1803 yn nghof- nodion Cymdeithas Sir Gaerfyrddin ceir— I To David John of the Parish of Llangeler labourer for having brought up and put out 10 legitimate children without any assistance from the parish.—First Premium X2 2s. Yn yr un flwyddyn aeth y trydydd premium o .£1 5s. i un William Thomas o'r plwyf hwn, am ddwyn i fyny chwech o blant cyfreithlon heb un cynorthwy plwyfol. Yn yr un rhestr ceir hefyd enwau gwragedd o blwyfi Penboyr a Llangeler wedi derbyn gwobrau gan yr un gymdeithas.am nyddu hyn a hyn o bwysauo wlin. MEROIIED Y BLEIDLAIs.-Onid oes yni di- hysbydd yn perthyn i rhaini Gyda Haw, pwy sydd wedi e'u dysgu i wrthryfela mor ynfyd ? Onid adlais o'r Passive resisters' ydyw! Naturiol yw cofio. In peace beneath this stane Lies the lovely Lady Jane Upon English heads she laid many thumps And when her legs were cut off, she fought upon her stumps.' Wele rydd gyfiaithiad Fan yma dan y garreg lau Mewn hedd ygorphwyaa Lady Shan. Ar bennau'r Saeson yn ddiri Ddyrnodiau ami darawai hi Aphau ei choesau dorwyd bant. Ar ei ffyn-baglau curai ganfc.