Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
HANES MONI

[ALL RIGHTS RESERVED.] I A HANES MON. GAN Y DIWEDDAR 0. WILLIAMSON, DWYRAN. (PARMAD). Cyn hyn, fel y sylwyd o'r blaen, arferion a chyfreithiau lleol y tywysogion tylwythol oedd yn awdurdededig yn M6n ond erdydd- iau Rhodri Mawr yr oedd y cynllun tywysog- ol yn ymdaenu dros Fon, ac yn awr daeth Owain Gwynedd a'r deddfau Brythonig i weithrediad, fel ag y daeth Mon yn hollo) Frythonig mor bell ag yr oedd trefniadau cyfreithiol yn myned. Dyna oedd meddylddrych Hywel Dda, a'r un gymerwyd i fyny gan Owain Gwynedd, ac yn fwy diweddar, mae'n debyg, a eangwyd ac a drefnwyd, ac a ddaeth yn brif sail adeilad- aeth y Cyfarisoddiad Prydeinig. n

LLYWODRAETH FRYTHONIG MON

LLYWODRAETH FRYTHONIG MON. I bwrpas llywodraethol, rhanwyd Mon, yn gyffelyb i Wynedd oil, i gymydau a chantrefi Cynhwysai Mon dair cantref; dau gwmmwd yn gwneyd cantref; ac felly yr oedd chwe: chwmmwd yn Mon :— Cantref Aberffraw -cymmydau Llifon a Malldraeth. Cantref Cemmaes-cymmydau Talabolion a Thwr Celyn. Cantref Rhosyr, neu Niwbwrch-cymmyd- au Din Daeth wy a Menai. Yr oedd tri dosbarth o lysoedd yn M6n :— Llys Tywysog a'i brif sedd yn Aberffraw Llysoedd Cantref, yng Nghemmaes a Niw- bwrch, neu Rosyr; a llys cwmmwd ymhob un o'r cymmydau.. Gan fod mwy nag un ystyr i'r gair llys, megis Llys Brenin a Thywysog, llys barn, a llys esgob, nid anfuddiol nodi y gwahaniaeth rhyngddynt. Gelwir Llys Barn weithiau yn llys brenhinol, er na fydd y Brenin yn eistedd yno fel Barnwr, ond barnwyr cyfreithiol a'i cynrychiolant; a dywedir fod llysoedd yn Aberffraw, Niwbwrch, a manau eraill. Yr anhawsder ydyw gwahaniaethu rhwng llys milwrol, neu ymgynghorol, y Tywysog, a'i Iys barnol. Nid oes i ni ond cofio cyngor Jethro i Moses, na ddeallir ar unwaith ei bod yn anmhosibl i Dywysog Gwynedd ymbresen- oli yn y llysoedd barnol tywysogol ymhob man o'i dywysogaeth. Y cwestiwn eto ydyw,-A fu Tywysog Cymru yn bersonol yn arfer (neu yn achlys- urol) cartrefu yn Mon, yn llys Aberffraw, neu lys Niwbwrch, a elwir felly, fel y gwnai mewn Ileoedd fel Aber. a Dinorwig, a -manau amddi- ffynol eram Ni cheisir yma benderfynu dim, oblegid y mae'n bwnc anhawdd ei ben- derfynu, er bod hen gredinwyr wedi ei ateb yn gadarnhaol bob amser. Mae'r enw Llys CaswaUon, yn agos i Amlwch, wedi arwain rhai i gredu fod Caswallon Law Hir wedi bod yn trigianu yno. Ond nid yw enw llys yn unig yn dweyd dim, neu buasai Llys Dulas yn cyfeirio at dywysog. Ni ddylid rhoi pwys ar fabinogl y Llaw Hir. Ceisiwyd dangos eisoes mai yr Osmaelion a ymsefydlodd gynt- af yn Mon oedd dan lywodraeth dylwythol y Goideliaid. Ceisiwyd dangos hefyd mai y ffaith ydyw mai Goidelig oedd M6n, bron yn hollol, hyd amser Owain Gwynedd, yr hwn drefnodd lywodraeth M6n ar y cynllun Bryth- onig; ac felly, y pryd hwnw yr unwyd M6n yn ffurfiol a hollol a Gwynedd. Cyn hyny, fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd M6n beth bynag yn haner annibynol, ac yn eiddigeddus lawn o'i sefyllfa. Dyna'r rheswm paham yr oedd yn noddfa ddiogel mor ami i dywysogion Brythonig o'r tnallan iddi a gymerent noddfa ynddi. Bu Cadwallon yma yn ddiogel rhag canlyniadau eithafol brad Edwin; a bu Cynan Dywysog yma mewn anffawd gyffelyb; ac yma y ganwyd ei fab Owain Gwynedd. Ond nid oes hanes i un o honynt, nao hyd yn oed Rhodri Mawr, fod yma yn cynal llys tywysog- ol na barnol. Yn y canrifoedd ddilynasant oresgyniad heddychol Mon gan y Brythoniaid, ceir crybwylliadau o lysoedd yn y Ileoedd enwyd, ond ni sonir fod Tywysog Gwynedd wedi bod yn aros yn M6n fel Ilywodraethwr, fel y gwnai mewn parthau eraill o'i dywysogaeth. Dyw- edir fod gan y Tywysog faenorau, neu etifedd- iaethau, i'w gynhaliaeth ddarparedig fel tywysog ond nid yw hyny yn profi y byddal yn mynychu el etifeddiaethau I bwrpas cy- hoeddus, neu lywodraethol. Fel tywysog yr oedd ei bawliau tywysogol dros y wlad i gyd. Bu Hywel ap Owain Gwynedd yma fel cadfridog a chynrychiolydd milwrol ei dad yn arolygu amddiffyniad M6n, tra 'roedd ei dad a'i frodyr yn Fflint yn gwylio symudiadau y gelynion; ond fel tywysog milwrol yr oedd yma, ac nid fel gweinyddwr cyfraith. Mae hanes symudiadau Tywysogion Gwyn- edd mewn manau oeddynt agored i ruthriad- au y gelyoion, megis yn nghyfeiriad Tegelngl, Dyffryn Ciwyd, ae Arllechwedd, a'u pen- cadlysoedd mewn Ileoedd cyfleus, tuallan i F6n. Ond ymddiriedai Gwynedd yn nghad- ernid ynysol Mon, a dewrder a ffyddlondeb digyffelyb y trigolion. Ar ol dweyd cymaint rhoddir chwareu teg i'r darllenydd fftirflo barn. Yn hanes Owain Gwynedd gwelir desgrifiad 1 o'r ychwanegiad a wnaeth at hen drefniant milwrol y Brythoniaid drwy drefnu y genedl yn llwythau gyda phenaeth ar bob un. Dewiswyd pymtheg o brif deuluoedd Gwyn- edd, penaethiaid y rhal a ddalient swyddau uchel yn llywodraeth y dywysogaetb. Yr oedd swyddogaethau y rhai hyn yn etifeddol, a'r etifeddlon a ddaliasant eu swyddau o amser Owain Gwynedd hyd yr amser yr un- wyd Cymru a. Lloegr yn nbeyrnasiad Edward y Cyntaf. Ni ellir yn awr nodi y rhesymau I paham y dewiswyd y boneddigion Cymreig I hyny gan Owain Gwynedd i'r cyfryw swyddau anrhydeddus; ond mae'n hysbys fod un o'r ddau gynrychiolal Fon, os nad oedd y ddau, yn bertbynasau i'r Tywysog trwy briodas ond sicr yw nad oedd yr uebel w yr tnallan i'r cylch swyddogol yn llai anrhydeddus na'rlleill. (I'w barhau).

GostyngeiddrwyddI I

Gostyngeiddrwydd. Prynhawn Sul braf o Mehefin ydoedd, a'r gloch yn canu bum munyd i dri o'r gloch i Wasanaeth Seisnig. Cymerais fy lie fel arfer yn yr Eglwys, a dechreuwyd ar y Gwasan- aeth Prydnawnol. Cenid emyn i ddecbreu, a chanai yr adar ei goreu oddi allan, nes llauw y lie o fawl. Ebedodd gwennol i fewn drwy y drws, ac wedi ehedeg o gwmpas, cymerodd hithau ei sedd mewn congl ddistaw o'r adeil- ad. Clywn swn modur neu ddau yn aros yn ymyl, a gwelwn y rhai oedd ynddynt yn nesu at y porth, ac yn dyfod i fewn. Adnabyddwn yr oil yn dda oddigerth un yr oedd ef yn ddyeithr. Cesglais ei fod yn rhywun oddi wrth ei gwmui, ond pwy a pheth oedd nis gallwn wybod. Tynodd fy sylw wrth gerdded y llwybr i fyny i un o'r seddi blaenaf, nid am fod dim neillduol yn ei berson. Un o daldra cyffredin ydoedd, ac yn tueddu i fod yn gloff. Gwisgai spectol am ei lygaid, a cbariai ffon yn ei law. Cymerodd ei sedd, a phlygodd ei lin yn dra defosiynol. Unodd yn ddistaw yn y gwasanaeth; fel Hannah gynt symudai y gwefusau, ond nid oedd y Ilais i'w glywed. Methwn a thynu fy llygaid na'm meddwl oddi amo. Beth ynddo a dynai fy sylw mor llwyr, nis gallaf ddweyd. Tra y bu y pre- gethwr yn y pwlpud, gwrandawsai yn astud iawn,-gwrandawai fel pena byddai nebarall yn bresenol ond efe, ac fel petai y pregethwr yn llefaru wrtho ef yn unig. Nid dim yn ei wisg na'i edrychiad a hoeliai fy meddwl mor dyn, ac eto yr oedd yno rywbeth o atdyniad anorchfygol, a cheisiwn ddyfalu beth allasai fod yr achos o'r atdyniad. Y gwasanaeth drosodd deuwyd allan, a chyflwynwyd ni y naill i'r llall. Dywedai yn addfwyn ei fod wedi mwynhau ei hun yn y gwasanaetb, a mwynhau y gwasanaeth syml mewn Eglwys wledig. Efe oedd Master y Temple. Deallais wed'yn, ac yr wyf yn deall yn awr, beth oedd y gallu atdyniadol ynddo. Nid ei fawredd, oherwydd ni wyddwn ddim am el fawredd ar y pryd. Ni ddaeth i fy meddwl ei fod yn ddyn mawr o gwbl, a dy- wedwn, pe gofynid i mi ar y pryd, nad oedd yn perthyn o'r nawfed ach i ddynion mawr. Ond gwelaf y cwbl yn glir yn awr. Gos- tyngeiddrwydd y dyn oedd y gallu atdyniadol ynddo. Cerddai yn ostyngedig, penliniai yn ostyngedig, a theimlid ei fod yn rhy ostyng- edig i ddyrchafu ei lais. I mi yr ydoedd yn bictiwr byw o ostyngeiddrwydd. Pan dde- allais pwy ydoedd, saethodd fy meddwl fel mellten at Hwnw a ddywedai am dano Ei Hun, 'Addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.' Nid dysg, na safleoedd uchel mewn cymdeithas, sydd yn gwneyd dyn yn fawr, nid rhwysg a balchder, ond addfwynder a gos tyngeiddrwydd. Ac nid gwneyd dyn yn fawr ychwaith y raae y grasusau hyn, ond gwneyd dyn yn naturiol Mor annaturiol yw y balch a'r ucbel ei syniadau am dano ei hun Mor hawdd yw ei dramgwyddo Mor anodd ei foddloni! Yr acbos o hyn yw ei hunan-ymwybyddiaeth. Y mae hunan yn bresenol yn ei feddwl o hyd, ac y mae yn gyfan-gwbl o dan lywodraeth ei deimladau., Fel y mae ei deimladau y gweithreda, heddyw yn serchog a chymwynasgar, ac yfory yn ddiffaeth a sur, nes y mae yn wrthrych gwawd ei deimladau el hun. Y ffordd i feddianu Gostyngeiddrwydd yw dechreu trwy anghofio hunan, a byw i was- anaethu eraill. Y mae byw yn ormodol i hunan yn lladd ysbryd gostyngeiddrwydd. Mor ostyngedig oedd yr Athraw Mor ostyngedig yw ei wir ddilynwyr Blodeuyn prydferth iawn ar gyroeriad yw gystyngeidd- rwydd. Pan chwyth ystormydd o dlodi ni bydd i'w ddail wywo na'i flodeu- yn syrthio. Ac o dan belydr llwyddiant erys ei ddall yn dirf ac iraidd, a'i flodeuyn yn hardd. Y mae y cymeriad sydd yn dwyn y blodeuyn hwn fel pren planedig yn rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd, a phobpeth a wnel yn llwyddo. Nid oes yr un drws yn rhy isel iddo fyned trwyddo, na'r un yn rhy uchel i'w dderbyn. Gostyngeiddrwydd oedd y blodeu- yn gwyn a wisgal yr Arwr Groegaidd ieuanc i fyned i'r Castell yn y chwedl. Ni agorwyd y pyrth i neb ond a wfsgai ar ei fynwes y blodeuyn gwyn. Chwedlonol yw yr hanesyn, ond yn fynych fe geir gronynau o wirionedd mewn chwedloniaeth. Ac y mae gronyn tan- baid o wirionedd yn y chwedl hon. Nid oes gan ddysg na safleoedd anrhydeddus mewn cymdeithas, ar wahan i ostyngeiddrwydd, hawl mynediad i deyrnasoedd, ond i'r gostyng- edig y mae y pyrth o led y pen, a phyrth pob teyrnas, hyd yn od teyrnas nefoedd, 0 ran hyny, nis gellir dyfod yn ddysgedig, nac enill safle anrhydeddus mewn cymdeithas, ond trwy rodio ar hyd llwybr gostyngeidd- rwydd. 'A pheth bynag a wnel, efe a lwydda.' Nid dyn yn synied yn isel am dano ei hun yw gostyngeiddrwydd, fel y myn rhai ei ddeffinio. Dyna oedd deffiniad Wil Bryan- un yn rhedeg ei hunan i lawr er mwyn cael ei ganmol. Rhagrith sydd wrth wraidd syniad o'r fath, a rhagrithiwr a'i cynyrcha. Yn hytrach, gostyngeiddrwydd yw hunan- anghof, un yn meddwl dim am dano ei han. Fe gyfarfyddir &'r rhai hyn ymhob cylch o gymdeithas, a hyfrydwch yw bod yn eu cwmni. Ni fydd gan y cyfryw byth gyrn ar eu penau nac ar eu traed. Hwynthwy yw haleti cymdeithas. Gostyngeiddrwydd sydd yn prydferthl1 cymeriad, ac yn pereiddio coffadwriaeth, a chyda'r gostyngedig y trig yr Addfwyn a'r Gostyngedig o galon. KOHELETH.

0 Wythnos i Wythnos

0 Wythnos i Wythnos Ar y Sul cyntaf yn Nghorphenaf bydd tren yn rhedeg am y tro cyntaf ar y Sul yn Dun- mow, Essex, er fod yna reilffordd er's haner can' mlynedd. Ar ol bod yn amgauedig mewn pwllglo yn Cawdor, ger Abertawe, am ugain awr, achub- wyd yr oil o'r glowyr, 200 mewn rhif. Yn mhwll Cwmni North Amman y digwyddodd y ddamwain. Ceisiodd y Parch. J. Jones, yr hwn sydd wedi bod yn gaplan Tlotdy Epping am 13 mlynedd, godiad yn ei gyflog o 80p. y flwyddyn. Dywedodd ei fod yn gwneyd y cais er mwyn sicrhau iddo ei hnn angen- rheidiau bywyd. Serch hyny, ni roddwyd codiad iddo. Mae pump o gywion bach yn cael eu magu gan gath yn Dover, tra mae yn magu ar yr un pryd ei chath fach ei hun. Rhoddodd Syr W. J. Thomas 1,000 gini er mwyn gwaddoli gwely yn Ysbytty y Morwyr, Caerdydd. Prynodd dyn o Nuueaton gi yn Taunton, a chludodd ef i'w gartref newydd. Tranoetb collwyd y ci, ac mewn pythef tios dyrna'r ci yn troi i fyny yn ei hen gartref wedl rhodio yr 160 o filldiroedd sydd rhwng y ddau le. Cafwyd corff Ann Owen, gweddw y di- weddar Humphrey Owen, Pontnewydd, wedi ei anafu yn ddychrynllyd ar y rheilffyrdd. Credir ei bod wedi ei lladd trwy i'r tren ddyfod arni yn ddisymwyth tra'r oedd yn rhodio ar y ffordd. Dim ond tri mis oedd wedi'myned er pan gladdwyd ei gwr. Galwodd dynes o'r enw Sarah Antrobus mewn lluesty yn Rhyl er mwyn cael ychy- dig I runi.' Cyn iddi dderbyn yr hyn a ofyn- odd am dano, cwympodd i'r Hawr, a bu farw yn y fan. Yr oedd ei tbeull1 yn byw mewn van tu allan i Rhyl. Yr oedd pobl Port Eynon, ger Abertawe, yn methu yn lan a chyfrif am ddiflaniad cadachau oddiar y llinell ddillad, ac felly rhybuddiwyd yr heddgeidwaid o'r ffaith er mwyn iddo ymdrechu dal y lleidr. Daeth hogyn o Abertawe i'r ardal, gan chwilio am nythod, ac mewn dderwen fawr cafodd nyth aderyn wedi ei wneyd o'r cadachau colledig, y rhai oedd yr aderyn wedi amblygu oddiam- gylch y canghenau. Ynghanol dinas Nottingham, yn ngardd ei dy, gwelodd Mr. David Willman gadno ardderchog yn rhodio. Ar ol tipyn o ffwdan dalwyd ef, ond dim cyn i'r cadno gnoi Mr. Willman yn arswydus ar ei law. Yn nghyfarfod gwarcheidwaid y tlodion yn Aberystwyth, dygwyd y ffaith hyn gerbon yr aelodau fod yna dyn wedi myned i'r gwersyll gyda'r Territorials, gan adael ei wraig a'r plant i dderbyn arian o'r plwyf. Mae'n debyg fod amaethwr wedi cynyg gwaitb iddo, a'i fod wedi gwrthod, gan ddweyd os gwnai hyny ni dderbyniai ei wraig arian o'r plwyf. Fel y dywedodd un o'r aelodau, Mr. Llywellyn, mae'n waradwyddus I feddwl fod y wlad yn ymddibynu ar ddynion o'r fath. Mewn trengholiad ar gorff Selwyn Roboth- am, 8 mlwydd oed, mab i weddw yn Trefforest, yr hwn a fododd yn nyfrffos y gwaith alcan, tystiodd hogyn o'r enw Gilbert Wiltshire ei fod wedi dweyd wrth dri dyn ger llaw am y digwyddiad, ac iddynt drol, eu cefnau ar y bachgen yn y dwfr. Dywedodd y trengholydd mai anbawdd ydoedd credu ygwnelai unrhyw un y fath beth, ac yn ddiau fod y bachgen wedi gwneyd camsynied. Rhyfedd iawn ydyw hanes Mr. Tom Chalk, ysgrifenydd yn Ngwaith Porthladd Abertawe. Collwyd ef oddicartref am nifer o ddyddiau, ond o'r diwedd cawd ef gartref yn ei wely. Dywedodd wrth ei wraig nad oedd yn cofio dim ar ol iddo adael gartref hyd nes iddo weled dyn o Abertawe yn Nghaerfyrddin, ac yna daeth ato ei hun. Daeth ei gof yn ol a cherddodd gartref. Yr oedd ei wraig yn y cyfamser wedi myned at ei chwaer. Aetb ef i mewn i'r ty ar ben ei hun. Yr oedd wedi dioddef caledi tra yn ymdeithio o dref i dref fel yma. Dydd Llun diweddaf, claddwyd yn myn- went Trealaw weddillion y ddiweddar Mrs. Duffy, yr hon a gollodd ei bywyd yn y ddamwain a ddigwyddodd i'r llong Empress of Ireland ychydig amser yn ol. Yr oedd ar ei ffordd i Gymru o'r America pan aeth y Hong i lawr. Tra yr oedd llwyth o wair yn cael ei ddwyn trwy Heol y Cadno, Lerpwl, cymerodd dan yn ddisymwth iawn. Diffoddwyd y ffl imau gan y Fire Brigade.' Yr unig achos am y llosgfa oedd y gwres ofnadwy oddlwrth yr haul yn ystod y tywydd twym. Cawd engraifft neillduol o ffyddlondeb ci i'w feistr yn y trengholiad ar gorff Albert Woodhead, yr hwn a fu farw yn ddisymwth. Yn yr hwyr, cawd Woodhead yn gorwedd wedi marw, a'i gi yn aros wrth ei ben. Ni adawai i neb gyffwrdd ei feistr, gan gnoi unrhyw un oedd yn agosbau at y corff. O'r diwedd, Uwyddodd rhai o berthynasan y marw i wenieithio'r ci i'w gadael i ddwyn y corff adref. Ar hyny, er eu bod yn dwyn y ci adref o hyd, aeth yn ol i'r fan lie y syrth- iodd ei feistr. < Yr wythnos diweddaf ceisiodd Wm. Raffles 1 ei flwydd-dal o 6c. y dydd, yr hyn oedd yn ddyledus iddo er y flwyddyn 1892. Mae'r f awdurdodau yn bwriadu talu yr ol-ddyledion, y rhai sydd yn dyfod i 200p.

Ystormydd Colledfawr

Ystormydd Colledfawr. Dydd Gwener, cafwyd ystorm enbyd o fellt, taranau, a gwlaw, mewn gwahanol ranau o'r wlad. Tra yn cerdded ar hyd llwybr gyda'i mam, tarawyd geneth fach, pedair mlwydd oed, merch i James Thomas, llafllrwr, West Thurrock, Essex, i lawr gan fellten, a syrth- iodd yn farw wrth draed ei mham. Pan yr oedd George Maddison, llafurwr, yn cerdded ar draws cae, ar ei ffordd adref oddiwrth ei waith, yn Haughton, Swydd Nottingham, ar etifeddiaeth Due o New- castle, lladdwyd ef gan fellten. Yr oedd ei eneth gydag ef, ond diangodd hi yn ddianaf. Yn Richmond, tarawyd gyriedydd 'van,' Stephen Search, Wandsworth, gan fellten yn ei ben, a chymerwyd ef i Ysbytty Richmond ar unwaith mewn sefyllfa ddifrifol. Lladd- wyd y ceffyl mewn amrantiad. Bodolai yr ystormydd mewn gwahanol ranau o'r wlad, ym hell oddiwrth eu gilydd, sef yn Llundain, Dyffryn y Dafwys, Essex, Suffolk, Swydd Lincoln, Swydd Nottingham, Tipperary, &c. Yn Llundain, olynodd yr ystorm ddiwrnod o wres trwm a gorlethol. Dangosai y gwres- fesurydd 80 gradd yn y cysgod, ac yn gynar yn y nos, clywid y taranau yn rhuo, ac yn fuan disgynai y gwlaw yn bistylloedd, gan wlychu pobl at y croen mewn yehydig eiliadau, a'n gorfodi i redeg am nodded. Tarawyd eglwys St. loan y Bedyddiwr yn nociau Tilbury, gan fellten, ac ysgubwyd y llechi oddiar y tô. Niweidiwyd amryw dai yn y cyffiniau, a llanwyd yr heolydd a dwfr. Maluriwyd croes geryg ar ben clochdy eg- y It!, lwys St. Andreas, Leytonstone, a chafwyd cenllysg yn mesur haner modfedd yn y dref hono. Parodd yr ystorm i foneddigesau ffoi o'r Arddangosfa Geffylau yn Richmond. Yr oedd London-road, Isle worth, wedi ei gorlifo gan ddwfr lathen o ddyfnder, ac yr oedd yn rhaid i'r moduriaid a ddychwelent o Ascot gymeryd taith feithach i gyraedd eu cartrefi. Hyrddlwyd tua chant o lechi oddiar do masnachdy y Mri. Oites a'i Fab, cigyddion, Sunningdale, gosodwyd trawstiau ar dân, a thorwyd gwifrau y pellebyr. Tarawyd Pinefield, Addlestone, lie y pre- swylia y Milwriad F. W. Hyde-Edwards, a thaflwyd rhan o'r adeilad i lawr i'r lawnt. Syrthiodd cenllysg anferth yn Saffron Walden, a bu yn rhaid cael y tan-ddiffodwyr i ddefnyddi sugnedyddion i gael dwfr allan o seleri amryw dai. Nofiai y dodrefn mewn amryw breswylfeydd. Lladdwyd llawer o anifeiliaid yn Tipperary Ddeheuol, a gosod wyd gwair ar dan. Bu farw Winifred Greaves, pedair mlwydd oed, yn Northcote-street, Bradford, gan wres yr haul tra yn chwareu yn ben-noeth ar yr heol. Digwyddodd gorlifiad dyfroedd yn mhen- tref Kirk-michael, Swydd Perth, Ysgotland, a rhuthrodd y dwfr i lawr Old Market street, gan wneyd sianel o chwech I wyth troedfedd o ddyfnder. Cludwyd tunelli o geryg gan y cenllif am bellder mawr. Mewn canlyniad i'r tywydd poeth, cymer- wyd plant lleiaf ysgol Intake, ger Sheffield, i goedwig ddydd Gwener i gael eu hyfforddi. Gosodwyd nifer o honynt i eistedd ar goeden gwympiedig, a phan oedd y gwersi ar waith sylwyd fod y goeden yn llithro i lawr y goriwared, a chyn i'r athrawesau gyraedd yr oedd pedwar neu bump o'r plant wedi eu gwasgu gan y goeden. Pan ryddhawyd hwy, cafwyd fod un plentyn wedi marw, a dau ereill wedi derbyn niweidiau trymion. Dydd Sadwrn,tra y cynhelid picnic' 1 blant mewn cae yn Apperley Bridge, ger Bradford, taflwyd bachgen i lawr gan fellten. Cymer- wyd ef gartref yn ddioed, ond heblaw ysgyt- iadau ni dderbyniodd unrhyw niwed. Taflwyd byrddau, cadeiriau, a llestri i lawr, a gwas- garwyd hwy yn ddarnau ar hyd y cae. Tarawyd ffermdy yn Driffield, swydd Efrog, gan felltèn nos Sadwrn, a dinystriwyd y tô. Maluriwyd coeden 60 troedfedd o uchder, a llanwyd heolydd y dref gan lifog- ydd. Mewn-trengholiad a gynhaliwyd ar gorff James William Harris, llafurwr, Kennington, ddydd Sadwrn, dygwyd rheithfarn ei fod wedi marw mewn canlyniad i wres yr haul. Cwynai bacbgen 16 mlwydd oed, o'r enw Hall, fod y gwres yn ei orlethu ddydd Gwener, a boreu Sadwrn cafwyd ei gorff mewn pwll gerllaw ffermdy Evington Hall, Cheltenham. Aeth 80 o filwyr i adeilad i osgoi cawod drom o wlaw tra yn gwersyllu yn Orleans, Ffrainc, ddydd Gwener. Tarawyd yr adeilad gan fellten, a niweidiwyd 18 o honynt yn drwm.

DEWI SANT PADDINGTON

DEWI SANT, PADDINGTON. TYNU LLUNIAU. Yn ddiweddar tynwyd llun aelodau'r Cynghor Eglwysig, un ar bymtheg o honynt, ac mae'r darlun wedi datblygu yn rhagorol. 0 edrych arnynt ymddangosant yn nifer o ddynion hardd. Dyma'r fintai o ieygwyr ffyddlon a safant wrth gefn eu gweinidog er dwyn y gwaith ymlaen, a theimla yn hynod falch o honynt. Gresyn na. chaem block o'r twr i ymddan- gos yn y LLAN. YMWELIAD GWR DiErTirR. -Nos Sul di- weddaf, pregethwyd gan y Parch T. J. Gloodwin, B.A., curad Llanelli. Mae yn berchen Hals cyfoethog, a rhoddodd i ni imryw emau tlysion. Mi gredwn fod i'r wr ieuanc hwn ddyfodol disglaer. Myner y PERL ymhob ty yn Nghymru.

Y Goiian Dramorol

Y Goiian Dramorol. YSGOL If AF. Yrwythtios ddiweddaf gynhaliwyd yr ail ysgol haf eleni o dan nawdd y Gymdeithas I Genhadol Eglwysig yn Greystones. Cyn- haiiwyd y gyntaf yn Lowestoft, pan y daeth dros 600 ynghyd, a chafwyd yn yr Iwerddon dros 500 Anhltwdd rhoddi desgrifiad o ys- gol genhadol. Yno eeir yspryd brawdol a chariadus, brwdfrynedd yn rhedeg dros y llestri, mawl a gweddi yu reality, a phawbyn son am y genadaeth. Son am foethau, dyma amheuthyn, pawb yn yr ysgol yn hoff o siarad am waith pwysicaf Eglwys Dduw. Neb yn son fod cymaint o waith i'w gyflawni gar- tref,' ac fod yn rhaid cael organ newydd; yna o bosibl y ceir casgliad o ychydig sylltau i'r acbos cenhadol.' Er pan ddechreuodd y G.G.E. a'r Ysgolion Heli, mae'r ysgol erbyn hyn yn cadw pump o genhadon, heblaw y llawercedd sydd wedi myned allan ar gost y Gymdeithas. Eleni cafwyd llawer i ddanfon eu benwan ac i gynyg eu bywydau. Nis gwyddom eto beth fydd y ffrwyth, canys wedi cynyg rhaid aros amser maith cyn derbyniad. Rhoddir test caled ar yr holl ymgeiswyr. Gwelais y dydd o'r blaen un o'r golygfeydd gogoneddusaf sydd yn bosibl, ac eto y mwyaf torcalonus. Wedi gwrandaw ar araeth y Parch. T. Leynton o Persia, pan yn sefyll gyda un o'r meddygon cenadol, y tu allan i'r tent' daeth boneddiges ieuanc atom, a'r dagrau yn rhedeg dros ei gruddiau. Ei chwyn oedd fod y Gymdeithas wedi ei gwrthod yn 1911 o herwydd sefyllfa ei hiechyd. Er y pryd hyny yr oedd wedi ceisio adgyfnerth- lad, ond i fawr ptfrpas. Gofynai onid oedd yn bosibi iddi fyned allan i le a fyddai yn gydnaws a'i sefyllfa iechydol, a mwy na'r oyfan, boddlonai fyned allan hebgyflog. Gan fod genym feddyg yn y cwmpeini, gwelai nad oedd fawr o obaith, ond nis gallai roddi ateb iddi heb yn gyntaf weled y pwyllgor dewisol. Ymhen tua haner awr gwertais hi wrth ei hun yn cerdded ar Ian y mor, ac hawdd gweled ei bod mewn ingoedd ysprydol. Mewn byd Ile mae cymaint o hunanoldeb a'r dy- head am bleser, llawenydd oedd gweled un a. chanddi ddigon o arian i fyw heb weithio, yn offrymu ai hun i'w Gwaredwr yn nhywyll leoedd y ddaear. Nid anghofiaf yr olygfa byth. Nid hi yw yr unig I wrthodedig.' Cymdeithasau yn unig fedr wrthod. Ni wrthyd Duw yr un dyn, ac fe dderbyn was- anaeth ei blant gartref yn ogystal ag yn dramorol. Nid yw o wahaniaeth ymha le y gweithiwn, os bydd y lie hyny yn gydweddol ag ewyllys Duw. Yr hyn sydd o bwys i ni ydyw, a ydym yn y man yr ewyllysia Duw ? Os myn Efe i ni weithio yn Affrica, yna gwae ni os yn Nghymru y'n ceir. Gwaith go ddyrus ydyw adnabod Ei ewyllysmewn cwestiwn o'r fath. Un o fendithion ysgol haf ydyw adnabod Ei ewyllys yn hyn o beth. Buan y gwna'r Yspryd neillduo bob Barnabas a Saul. 0 bosibl y carai'r darllenydd wybod sut y treulir y dydd. Dyma raglen un dydd 8 a.m. Gwasanaeth Ymbiliadol yn yr Eglwys. 10—10.30. Esboniad o Air Duw. 10.30-11.30. Y Gwaith Tramorol, e.g., India. Anerchiadau gan Esgob Gill, o Tra- vancore, a'r Parch. J. A. Cullen, o Bengal. 11.30-12. Seibiant. 12-1. Agweddau o'r Gwaith Gartref, (a) Gleamrh Union. 7.30-8.15. India, Dydd Mab y Dyn. Araeth gan Esgob Gill. 8.15—8.45. 'Eglwys yr Iwerddon a'r Gwaith Cenhadol,' gan Esgob Ossory. 8.45-9. Gwasanaeth Defosiynol, gan Dr- Burroughs. Ceid y prydnawnau yn rhydd i 'sbio o amgylch y wlad, ac i roddi seibiant i'r meddwl. O'r 500 yn yr Iwerddon, daeth ttia,200 o Loegr, ac un o Gymru. Nodweddid yr Ysgol eleni yn enwedig gan oed yr ysgolheigion. Pobl ieuainc welid fwyaf, offeiriaid ieuainc, ac hawdd oedd can- fod eu bod o ddifrif. Yr ydym wedi hir gysgu, ond mae'r deSroad wedi dyfod. Gwelir cyfnewidiad dros yr holl wlad am yr ugain mlynedd diweddaf, nid ydym ond wedi megis cyffwrdd ag ymylon y gwaith. Mae Duw yn agor drysau pob gwlad, ond ychydig ydym yn fanteisio ar yr alwad. Agorwyd drysau cyn hyn, ond nid Cristionogion aeth i fewn. Collwyd y cyfleusdra, aeth plant proffwyd yr anialwch i fewn, a chymer amser i'w di-etifeddu. Beth fedra i wneyd ? Myfi yw'r lleiaf o'r llwyth. I am only one; but I am one, j I cannot do everything, but I can do some- thing. i What I can do, I ought to do, I What I ought to do, by the Grace of God I will do.' Dysgwch y penill i'r plant. Penmaenmawr. ESGAIR.

LLANTRISANT SIR ABERrEIFIj

LLANTRISANT, SIR ABERrEIFI. j Cynhaliwyd gwasanaethau blynyddol yr Eglwys hon ddydd Gwener, Mehefirt 19eg, pryd y cafwyd tywydd godidog a chynulliad- au mawrion, yn enwedig yn yr hwyr. Y mae y gwasanaethau hyn yn boblogaidd iawn, a disgwylir pregethwyr poblogaidd i draddodi y genadwri. Eleni cawsom y fraint o glywed y Parchn. T. R. Davies, Llwynhendy, ger Llanelli, a'i fab, J. R. Davies, curad, Llan- badarn Fawr. Nid peth cyffredin yw clywed .1 tad a'i fab yn pregethu yn yr un gwasanaeth- au ond felly yr oedd y tro hwn, a mwynha- wyd eu pregethau yn fawr, yn enwedig eiddo y tad.