Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

-,t YR HAUL. OYNWYSIAD AM GORPHBNAP. Y Mis. Llyfr y Barnwyr, Boaz ai Weithwyr. Murmur y Mor, Cylchgronau Eglwysig Oymreig y Gorphenol. Ymdddiswyddiad yr Hybarch Archddiacon Evans (gyda Dar- lun). O'r Arsyllfa. Hynodion Llangyfelach (gyda Darluniau. At y Beirdd. Hiraeth y Duwiol. Adolygiad y Wasg. Y Tri Cyfaill. Nodion Eglwysig. Dylanwad Esiampl Bwrdd y Golygydd. Manion.

Advertising

PKKL Y PLANT CYNWYSIAD AM GORPHENAF. Dadleuon Magi Jones. Y (46g Hen Bont Lucerne (gyda Darlun. Y Paganiaid Bach Duon. j Y Blaw See (gyda Darlun) ( Pwyslais. Emynwyr Cymru. Mis Gorphenaf. Y Gystadleuaekh Miss Winifred Rowlands, Pen. rhyndeudraeth (gyda Darlun). Darn heb Atalnodau. | Seryddiaeth fel Llaw-forwyn i Grefydd (gyda Darlun). Grace Anne Hughes, Penygroes, (gyda Darlun). Beth Ddywedodd Geneth Fack wrth y Brenin. Dalen Dirwest. Ton—" Pwy welaf o Edom yn d'od 1" The Church Bell. Yr Angel Gwarcheidiol." Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. Llithiau Priodol am y Mis. Perlau y Perl.1 Barddoniaeth.

Yr Helynt Rhwng Awstria a Servia o i

Yr Helynt Rhwng Awstria a Servia. o RHYFEL EWROPEAIDD YN ANOOHELADWY. PRYDAIN FAWR YNUNOL A DIYSGOG. m Darfu i Mr. Asquith wneyd datganiad di- frifol yn Nhy y Cyffredin ddydd Iau, gan ddweyd fod heddwch neu ryfel yn hongian yn yglorian. Dywedodd ymhellach el fod o'r pwys mwyaf i Brydain Fawr fod yn unol a phenderfyool yn yr argyfwng oedd yn eu bygwth. Cyfododd Mr. Bonar Law i fyny a'r un- waith i sicrhau y Prif Weinidog y byddai i'r Undebwyr a phobl Ulster wneyd yr oil yn eu gallu i gefnogi y Llywodraeth, a chymeradwy- wyd ei sylwadau gan y Ty. BRWYDRO YN BELGRADE. Derbyniwyd manylion am y brwydro fu yn Belgrade. Nid oedd llawer o golledion yn y dref ihjano, meddir, ond hysbysir fod milwyr Awstria wedi derbyn colledion trymion yn eu hymosodiad ar Semendria. Ar ol brwydr galed yn Loznitta, ymneilldu- odd y Serfiaid ar ol derbyn colledion mawr. Adroddid o Vienna nos lau, fod lie y oedwid pylor wedi ffrwydro yn Belgrade, a bod y ddinas yn fflamau. GwAaeth y Serfiaid ar dforiad y wawr ymgais aflwyddianus i ddinystrio y bont. Tanbelenodd y Serfiaid o Swyddfa'r Tollau ar gorphluoedd Awstria, ond troes y diweddaf eu magnelwyr ar yr adeilad, a dinystriwyd ef. Yn ystod ymosodiad y Serfiaid ar y bont, cymerwyd un a'r bymtheg ohonynt yn gar charorion a chymerwyd hwy i Peter warden. Adroddiadau to Rufain, ddydd Iau, a ddywedant i filwyr Awstria barhau i symud ymlaen o dri chyfeiriad. Gwrthodwyd hwy, gan adranau bychain o filwyr Serfia, ond yn ddilynol troes y Serfiaid yn ol. Aeth corphluoedd Awstria ymlaen i fyny i Ddyffryn Morava, a daethant i gyffyrdd- iad a'r Serfiaid yn Semedria- Daliodd milwyr Serfia i wrthsefyll hyd nes y daeth yn nos. Cafodd y ddwy oclir golledion mawr. Nid ydyw'r .Adran Ddeheuol fa Fyddin Awstria wedi symud eto. Dywedir eu bod yn disgwyl dyfarniad Montenegro a oedd- ynt am gymeryd rhan yn yr ymrafael. Y CAISAR AC YMHERAWDWR RWSTA. Caed hysbysrwydd o Berlin ddydd Iau fod yr Uch-Dduc Hesse wedi gadael yno am St. Petersburg gyda cherbydres arbenig i gyflwyno i Lywodraeth RWEia neu i'r Ymherawdwr atebiad y Caisar i neges y Tsar. Adroddir hefyd fod Llywodraeth yr Almaen wedi gwneyd ymdrech arbenig i sicrhau heddwoh drwy anfon negeseuau i St. Petersburg, Paris, a lleoedd ereill. CYFFRO YN BERLIN. Adroddir o Berlin, pan gyhlpeddodd un o'r newyddiaduonr yno fynegiad i'r perwyl fod gorchymynion i drefnu'r byddinoedd wedi eu danfon allan, fod swyddogion wedi rhuthro adref i wneyd trefniadau, a phry- surodd masnachwyr i gau eu siopau. Ymhen ychydig wedi hyny daeth yr un newyddiadur ag argraphiad arall allan yn dweyd fod y mynegiad yn eu hargraphiad blaenorol yn gamgymeriad. Cyhoeddodd. newyddiadur y Pabyddion yr un newydd, a, daethpwyd ag argraphiad arall allan i'w gywiro. PRYDER YM MHARIS. Edrydd gohehydd o Paris yr edrychir ar y sefyllfa yno yn bur ddifrifol. Yr oedd cryn bryder yn bodoli yn y ddinas, a gellid ei weled ar wynebau pobl yn yr heolydd. .Nid oedd gwen ar wyneb neb. #' Cynhelir arddangosiadau mawr gan y Sosialwyr bob nos a gwaeddant 'I lawr a'r rhyfel.' Cymerwyd rhai personau i'r ddalfa am ymyryd a'r plismyn. Mae mwyafrif mawr o bobl Ffrainc yn dawel, ac yn gobeithio y ceir heddwch. MYNEGIAD YN NHY'R CYFFREDIN. Yn Nhy'r Cyffredin ddydd Iau, gofynodd Mr. Bonar Law i'r Ysgrifenydd Tramor (Syr Edward Grey) a oedd ganddo unrhyw hysbysrwydd allai roddi i'r Ty parthed yr argyfwng Ewropeaidd. Dywedodd Syr E. Grey mai yohydig iawn allai ddweyd. Gofidiai nas gallai ddweyd nad oedd y sefyllfa yn Ilai difrifol nag oedd y diwrnod cynt. Yr oedd y prif ffeithiau yn debyg. Yr oedd Awstria wedi dechreu rhyfela yn erbyu Serfia. Yr oedd Rwsia wedi gorchymyn trefnu'r .byddin- oedd. Nid ydoedd hyny wedi arwain i Alluoedd ereill wneyd yr un peth eto. Yr oeddynt hwy yn y wlad hon yn parhau i geisio cadw heddwch yn Ewrop, ac i'r amcan hwnw yn cadw mewn cyffyrddiad a galluoedd ereill. Nid. oedd, fodd bynag, wedi bod yn bosibl i'r Galluoedd ymuno i gyd-symud fel y tybiwyd dydd Llun. Yn Nhy'r Cyffredin nos Wener, dywed- odd Mr. Asquith fod Rwsia wedi galw ei Byddin a'i Llynges ynghyd, a bod y gyf- raith filwrol wedi cael ei chyhoeddi yn Ger- mani. Yr oedd yn ddealledig y gelwid byddin Germani ynghyd, os y gwneid yn hysbys fod byddin Rwsia i gael ei galw ynghyd. Hysbyswyd yn hwyr nos Wener fod y Rwsiaid wedi chwythu pont ffordd haiarn i lawr ger ffiniau tiriogaeth Awstria. Os gwir hyny, y mae'r rhyfel rhwng Awstria a Rwsia wedi dechreu. AWSTRIA YN CYCHWYN YR YMGYRCH. Ymosododd Awstria ddydd Llun ar Servia, gan dfin-belenu Belgrade, ei phrif ddinas, a gorfodi y trigolion i ffoi am eu bywydau. Gan fod Servia yn gysylltiedig a Rwsia, nis gallai y diweddaf oddef hyn, ac anfonwyd gorchym- ynion ar unwaith i grynhol y milwyr ynghyd. Mae Germani mewn cyngrair ig Awstria, ae os symudai Rwsia byddai i Germani wneyd yr un modd. Os ymyrai Germani a Rwsia, yna gorfodid Ffrainc i gynorthwyo Rwsia yn unol a'r cytundeb sydd rhyngddynt. Felly ofnid y gwaethaf os na ellid cyfyngu yr ymrafael i Awstria a Servia i'w benderfynu. GERMA YN CYHOEDDI RHYFEL YN ERBYN RWSIA. Am baner awr wedi saith nos Sadwrn, cyhoeddodd Llywodraeth Germani ryfel yn erbyn Rwsia. Hyd y funyd hono, coleddid gobaith y deuld I gytuodeb heddychol. Yr oedd Czar Rwsia wedi datgan wrth Ymher- awdwr Germani na fyddai Iddo gasglu ei fyddinoedd ynghyd nag ymosod ar Awstria tra y byddai ymdrafodethau yn cael eu cario ymlaen. Yr oedd byddin Germani yn awyddus am ryfel, a dydd Sul croesodd y ffindir i Ffrainc, heb unrbyw rybudd, mewn tri He, sef Longwy, Cirey, a Delle, ac yr oedd milwyr Germani.ardir Firainc nos Sul. Mae. milwyr Germanaidd befyd wedi myned i Luxemburg, gwlad anmhleidiol fechan ar y cyffiniau, lie y cyferfydd terfynau Germani, Ffrainc, a Belgium. Mae hyn yn droseddlad ar ddeddf Ewrop a'r cytundeb a wnaed yn Unndain, cytundeb sydd yn sicrhau anmhleidgarwch Luxemburg. Arwyddwyd ef yn 1867 gan Brydain Fawr, Ffrainc, a Germani. Mae cenadwri benderfynol wedi el hanfon i Llywodraeth Germani i'r perwyl os anfonir milwr Germanaidd i osod ei droed ar dir Belgium y bydd i'r Llynges Brydeinig ar unwaith weithredu yn erbyn Germani. Dywedir fod Germani wedi cymeryd medd- iant o agerlong Brydeinig yn Kiel, a llestr yn cludo glo gerllaw y gamlas yn Brunsbuttel. Gorchymynodd Ymherawdwr Germani ar i holl alluoedd milwrol ei deyrnas gael eu casglu ynghyd am 5.15 brydnawn Sul, ond mewn gwirionedd yr oeddynt wedi cario hyny allan yn ddirgelaidd dri diwrnod yn gynt, sef Gorphenaf 31. Y LLYWODRAETH FFRENGIG. Gorchymynodd Llywodraeth Ffrainc arfod I'w milwyr gael eu casglu yngbyd am 12 o'r gloch nos Sadwrn, a disgwylir y bydd yn alluog i anfon miliwn o filwyr i ymladd ar y terfynau cyn diwedd yr wythnos hon, a bydd byddinoedd ereill yn barod i roddi pob cefn- ogaeth iddynt. SAFLE ITALI. Mae Itali wedi datgan na fydd iddi gefnogi Germani nac Awstria, gan nad yw ei chytun- deb yn ei gorfodi i gymeryd rhan mewn rhyfel o'r fat Pe ymosodid ar Germani neu Awstria heb achos, yna byddai yn rhaid iddi gymeryd rhan. PENDERFYNIAD PRYDAIN FAWR. Yr oedd y Llynges Brydeinig wedi gwneyd pob trefniadau ar gyfer unrhyw alwad erbyn y Sul, ao anfonwyd gorchymyn ar i'r naval reserves ddyfod at eu gilydd. Mae pob porthladd Prydeinig, ynghyd &'u gorsafoedd glofaol dros y m6r, wedi derbyn cyfarwydd- iadau manwl. Ni theimlir unrhyw bryder am gyflenwadau digonol o yd yn y wlad am bedwar mis, heb gyfrif yr hyn ddaw i mewn eto. Mae trefedigaethau yr Ymher- odraeth Brydeinig yn barod i gynorthwyo y fam-wlad os bydd yn angenrheidiol, ac y mae sicrwydd swyddogol wedi ei dderbyn am hyn. MILWYR RWSIAIDD A GERMANAIDD YN TANIO AR EU GILYDD. Taniodd milwyr y ddwy wlad uchod ar eu gilydd ddydd Sul, ond ni wyddis y canlyniad- au. Bwriada Germani ddefnyddio 1,250,000 o filwyr I ymladd â Ffrainc, a 125,000 i wrth- sefyll Rwsia. Os meiddia Germani ymosod ar Belgium, bydd gallu o 250,000 yn barod i'w gwrthwynebu. Y SENEDD BRYDEINIG A'R RHYFEL. Yr oedd Ty y Cyffredin yn orlawn ddydd Llun, gan y gwyddid y gwneid mynegiadau pwysig ar ol yr ymgynghoriadau yn nghyfar- fodydd y Cyfrin Gyngor ddydd Sul. Yr oedd Germani wedi anfon cenadwri at lywodraeth Belgium yn hawlio i'w milwyr gael myned drwy Belgium, ond gwrthodwyd hyny yn bendant gan Belgium, yr hon a apeliodd at y Brenin George am amddiffyniad. Mynegodd Syr Edward Grey yn y Ty y byddai i Brydain Fawr amddiffyn tueddau Ffrainc rhag unrhyw ymosodiadau gan lynges Germani y byddai iddi amddiffyn anmhleidgarweh Belgium os gwneid ymosodi-ad gan Germani, a defnyddio ei holl alluoedd pe byddai angen. Pan orphenodd Syr Edward Grey eiaraeth, cyfododd Mr. Bonar Law i ddatgan y byddai i'r biaid Undebol roddi pob cynorthwy i'r Llywodraeth, a dywedai Mr. John Redmond y byddai i wirfoddolwyr y Cenedlaetholwyr a gwirfoddolwyr Ulster amddiffyn yr Iwerddon os byddai y milwyr yn ymadael oddi yno i gymeryd rhan yn y rbyfel. Anghofiwyd pob gwahaniaeth gwleldyddol gan y pleidiau, ac nis gallai dim fod yn weil na'r penderfynlad a ddangoswyd ganddynt i amddiffyn yr Ymherodraeth yn yr argyfwng presenol. RHAIB GERMANI. Anfonodd Llywodraeth y wlad bon at Germani i ofyn a barchal anmhleidgarwch Belgium ai peidio, ond atebiad anfoddhaol a gafwyd. Mae Germani wedi ymosod ar ddwy wlad anmhleidiol, sef Luxemburg a Belgium. Pe sicrbaai Germani dramwyfadrwy Belgium, galluogai i'w byddinoedd fyned i Paris drwy y ffordd feraf, felly gyraedd y milwyr Ffrengig ydynt wedi ymgasglu ar dueddau Alsace- Lorraine. Byddai ymosodiad o'r cyfeiriad j hwnw yn beryglus, gan mai ychydig amddi- flynfeydd a fedda. Dywedir fod Germani hefyd wedi meddianu trefi Czenstochora, Bendzin, a Kaliez yn Rwsia-Poland. Mae y llynges Germanaidd yn fywiog yn y Baltic, a dywedir fod brwydr wedi oymeryd lie rhyngddi a llongau Rwsiaidd. Glaniodd gallu Germanaidd yn Ynysoedd Aland, gan eu nueddianu. Taniodd rhyfel long Germanaidd ar borth, ladd llynges Rwsia yn Libau. Mae prif allu llyngesol Germani wedi pasio drwy gamlas Kiel i'r Mor Gogleddol. GALW ARGLWYDD KITCHENER YN OL. Ymadawodd Arglwydd Kitchener o Dover am Calais ddjdd Llun, ond erbyn iddo gyraedd y He olaf derbyniodd frysneges yn galw arno i ddychwelyd i Lundain yn ddioed. Y mae wedi ei benodi yn Ysgrifenydd Rhyfel. CYNORTHWYO Y FAM-WLAD. 0 bob rhan o'r ymherodraeth Brydeinig, mae cynygion o gynorthwy wedi eu derbyn. Os bydd Prydain yn cymeryd rhan, bydd Llynges Awstralia at ei gwasanaeth, ynghyd ag ugain mil o ddynion, y draul i'w dwyn gan y drefedigaeth. 0 Wellington, hysbysir fod galluoedd llyngesol New Zealand at alwad Lloegr, ac y maent wedi galw eu milwyr a'u mor- wyr ynghyd. Hysbysir o Ottawa fod miloedd o gynyg- ion wedi eu derbyn gan yr awdurdodau i gyflenwi dynion ar gyfer y llynges neu yr adran filwrol. Mae ugain catrawd o'r cartrefiu hefyd yn cynyg eu gwasanaeth. Cynygia Manitoba fil o filwyr arfog. Mae y Cadfridog Smuts wedi cyhoeddi proclamasiwn yn galw allan yr ol filwyr drwy Ddeheudir Affrica. Ceisia Mr. Norton Griffiths, A.S., gasglu byddin o rai fuont yn ymladd yn Neheudir Affrica, ac y mae eisoes dros ddwy fil wedi ai-tfon eu henwau i mewn. Cynhaliwyd cyfarfod yn N ghaerdydd ddydd Sul, pryd y cynygiwyd ffurfio catrawd o feirohfilwyr perthynol i Gymru, ac y mae y mudiad yn derbyn cymeradwy- aeth gyffredinol. PRYDAIN YN CYHOEDDI RHYFEL YN ERBYN GEICMANI. Am 11.30 nos Fa wrth, cyhoeddodd Reuter fod Germani wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Prydain Fawr am saith o'r gloch y noson hono. Erbyn haner nos, cafwyd adroddiad swyddogol fod yr hysbysiad hwnw yn gamarweiniol, ac mai Prydain oedd wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn German. Am lianes nos, hawliodd Syr Edward 'Goschen, y llysgenhadwr Prydeinig yn Berlin, ei bapyrau swyddogol, ac ymad- awodd. Yr oedd Prydain wedi anfon y neges olaf at Germani, a ohan na chafwyd atebiad boddhaol erbyn 12 o'r gloch nos Fawrtli, nid oedd dim i'w wneyd ond cyhoeddi rhyfel. Ymddengys fod Germani yn gwrthod gadael Belgium, ac yn benderfynol o'i haflonyddu, felly nid oedd gan Loegr ddim yn agored iddi ond cadw at y cytun- deb. Mae llyngesoedd Prydain a Germani yn awr yn gwynebu eu gilydd yn y Mor Gogleddol, ac anhawdd dweyd beth ddi- gwydd. Gyda golwg ar lyngesoedd ar y mor, gallant hwy ymladd ar fyr rybudd, ond bydd yn rhaid aros am rai dyddiau cyn y cymer brwydrau Ie ar y tir, gan nad yw y milwyr wedi ymgasglu at eu gilydd yn gryno eto. Mae gan Germani rhyw fwr- iadau i ddinystrio y Llynges Brydeinig, ac atal ein trafnidiaeth fasnachol ar y mr. Ynglyn a'r Llynges Brydeinig, bydd can' mil o swyddogion a dynion yn cymeryd rhan. ac y mae y Llyngesydd Syr John R. Jellicoe, K.C.B., wedi ei benodi yn brif lywydd y Llynges. RHEILFFYRDD PRYDAIN. Er mwyn hwylusdod yn ystod yr ar- gyfwng presenol, mae y Llywodraeth wedi dyfod i gytundeb a phob un o'r cwmniau i reoli y rheilffyrdd, ac i fod at wasanaeth y Llywodraeth yn hollol er mwyn cyfleus- derau i'r milwyr. Bydd gweision y rheil- ffyrdd yn gweithredu dan eu huwch swydd- ogion fel arferol. Mae y Tiriogaethwyr a'r ol-filwyr drwy y deyrnas wedi eu casglu ynghyd, ac yn barod i symud pa bryd bynag y daw yr alwad. PENODIAD PWYSIG I ARGLWYDD KITCHENER. Teimlir boddhad drwy y wlad oherwydd penodiad Arglwydd Kitchener i fod yn Weinidog Rhyfel. Teimlid fod rhywbethi yn angenrheidiol er gwella y Swyddfa Ryiel, gan mai Arglwydd Haldane, yr Arglwydd Ganghellydd,* a lywyddai yn 11 Swyddfa Ryfel, ac nid Mr. Asquith, yr Ysgrifenydd Rhyfel. Crybwyllir fod Arglwydd Haldane yn wrthwynebol i'r wlad hon ymyryd yn y cyfarfod o'r Wein- yddiaeth a gynhaliwyd foreu Sul. Mae Arglwydd Haldane yn gyfreithiwr medrus yn ddiau, ond nid oes a fyno a'r Swyddfa Ryfel. Gofala Arglwydd Kitchener na fydd unrhyw ymyriad ag ef yn ei swydd. YMDD DAU AELOD O'R WEINYDDIAETH. Oherwydd nad oeddynt yn cydweled ag aelodau ereill y Weinyddiaeth gyda golwg ar y rhyfel, hysbysir fod Arglwydd Morley a Mr. John Burns wedi ymddiswyddo. YMLADD YN BELGIUM. Newyddion boreu Iau a fynegant fod y Germaniaid wedi eu gorfodi i ffoi o Belgium yn ddioed. Mae y Ffrancod wedi myned i gynorthwyo y Belgiaid yn erbyn ymosodiad y Germaniaid. Collodd Germani lawer o'i milwyr. COLLEDION GERMANAIDD AR Y MOR. Llwyddodd y Ffrancod i feddianu dwy a,gerlong Germanaidd ddydd Mercher, a suddasant y rhyfel-long 'Panther.' LL YW ODR AETH LOEGR A'R RHYFEL. Dydd Iau, yn Nhy y Cyffredin, cynyg- iwyd fod can' miliwn o bunau i gael eu pleidleisio at ddybenion y rhyfel. MEDDIANU LLONGAU GERMAN- AIDD YN NGHAERDYDD. Cymerwyd meddiant o bedair Hong Ger- manaidd yn Nghaerdydd ddydd Mercher gan swyddogion y cyllid a'r heddgeidwaid. Yr oedd nifer fawr o ddrylliau ar eu byrddau.

GLANOGWEN BETHESDA

GLANOGWEN, BETHESDA. MARW A CHLADDu.-Diflino ydyw ymdaith angeu yn yr ardal yma, a cblywir son o hyd am garedigion hoff yn syrthio yn aberth i'w raib anniwall. Dydd Sadwrn, Gorphenaf 25ain, bu farw y brawd Griffith Roberts, Trosyffordd, yn 48 mlwydd oed. Cafodd gystudd caled, a bu farw er goreu tri o brif feddygon y cyleh. Cymerodd ei angladd le y dydd Mercher dilyno), pryd yr hebryngwyd el weddillion i erw Duw yn Glanogwen yn awn cyrn pres Seindorf y Penrbyn o ba un y bu yr ymadawedig yn aelod am flynyddau. Gwasanaethwyd wrth y ty, yn yrEglwys, ac ar lan y bedd gan y Parch. Ganon Jones a'r Parch. J. W. Roberts. Ceidwad Israel fyddo yn dyner wrth ei briod, a'i bunig fereb, a'r petthynasau oil yn eu galar a'u hiraeth. Heddwch fyddo i'w lwch hyd fore mawr y codi. YMWIELIAD.-Dydd Sul diweddaf, ymwelodd y Parch. D. E. Hughes (Esgair), Penmaen- mawr, & Glanogwen, a thraddododd ddwy bregetb genhadol i ni yn ystod y dydd. Yn y prydnawn befyd, rhcddodd anerchiad ar y gwaith cenhadol i aelodau yr Ysgol Sul. Byddedj bob Cymro oedd yn bresenol gym- eryd ei awgrymiadau, i aberthu mwy tuagat hyrwyddo efengyl Mab Duw yn y meusydd ceithadol.- W.H.R.

Advertising

Myner PERL Y PLANT yn mhob ty yn Nghymru.