Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL., OYNWYSIAD AM AWST. Y Mis. Llyfr y Barn wyr. Gohebiaeth. Yr Eisteddfod Genedlaethol. Cydymdeimlad. Or Arsyllfa. At y Beirdd. Cofia am Mr. John W. Jones (Asaph Tegai), Bryntwrw, Tre- garth, Bangor. Cylchgronau Eglwyaig Cymreig y Presenol. j Bwrdd y Golygydd. Triagl. Adolygiad y Wasg. Nodion Eglwysig. Manion. <

Advertising

PERL Y PLANT CYNWYSIAD AM AWST. Dadleuon Magi Jones. Gwers o'r Coran. Mis Awst. Y Llyfr Tonau Cyntaf (gyda Darlun). Ton—' Min y Dw'r.' Ty Coch,' Porthdinlleyn. Pwyllgor Ty yr Arglwyddi. Trip yr Ysgol Sul (gyda Dar- luniau). Y Dyn ar y Bont. Seryddiaeth fel Llaw-forwyn i Grefydd. Roger Ascham. Gwers gan Bagan. Y Credo. Talemachus a'r Gornest wyr (gyda Darlun). Dalen Dirwest. Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. Llithiau Priodol am y Mis. Perlau y Perl.' Barddoniaeth. Y Paganiaid Bach Duon. Y Gystadleuaeth.

Y RHYFEL EWROPEAIDD o

Y RHYFEL EWROPEAIDD. o SUDDIAD RHYFEL-LONG BRYDEINIG. Y SENEDD YN OANIATAU RHODD 0 GAN MILIWN 0 BUNAU. Digwyddodd cyflafan arswydus i'r wib- long Brydeinig 'Arnphion' yn Mor y Gog- ledd ddydd Iau. Yr oedd wedi cyflawni gwaith da ynglyn ag atal y Germaniaid i osod mwnfeydd tanforawl, a'r dydd a nodwyd dinystriwyd hi gan un o'r mwnfeydd ffrwydr- ol hyn. Yn ol y newyddion a dderbyniwyd, collwyd 130 o fywydau. Llwyddwyd i achub 16 o swyddogion a 136 o'r dwylaw. Adeil- adwyd hi yn Pembroke y flwyddyn ddiweddaf ar draul o 278,000p. RHODD ARDDERCHOG GAN Y SENEDD. Yn Nhy y Cyffredin. ddydd Iau, pleidleis- iwyd can' miliwn o bunau ynglyn a'r rhyfel i'r dybenion canlynol1, I ychwanegu haner miliwn o wyr at y fyddin Brydeinig 2, Dar- paru ar gyfer parhad gwaith; 3, Er Hiniaru unrhyw achosion o angen. Wrth ddwyn y oynygiad ymlaen, dangosodd Mr. Asquith fod Lloegr wedi gwneyd yr oil yn eigalln i atal rhyfel, ond gwthiwyd hi arnom. Llefarodd yn llyoi ar gynygiad Germani y dylai Lloegr fod yn anmhleidiol mewn anghydfod rhwng Germani a Ffrainc. Datganodd Mr. Bonar Law fod y rhyfel yn ddyledus i annoethineb a drygau dynol, ond nid oedd Lloegr yn euog o'r naill na'r llall. Mae ein trefedigaethau wedi dyfod allan yn anrhydeddus o blaid y fam-wlad. Dywedodd Mr. Asquith fod pob un o honynt yn barod i aberthu dynion, llongau, ac arian, yn eu hawydd i gynorthwyo Lloegr yn yr argyfwng presenol, ac hyd yn nod ceid cynorthwy gwerthfawr o Ddeheudir Affrica. YMLADD YN BELGIUM. Y prif symudiad ddydd Iau ydoedd gwaith y Germaniaid yn ceiaio myned heibio am- ddiffynfeydd Liege yn Belgium. Hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifeim (dydd Gwener), mae milwyr dewr Belgium wedi llwyddo i gadw y Germaniaid draw. Amgylchynir Liege gan gad wen o ddeuddeg o amddiffyn- feydd, a phob un o honynt yn meddu nifer o gyflegrau. Achoswyd colled o 8000 i'r Ger- maniaid ddydd Iau, ond parhaodd yr ymos- odiad nos Iau. Yn ystod y nos, aeth cwmni o filwyr Germanaidd ar ruthr i dref Liege, gyda'r bwriad o'i meddianu, ac ni ddychwel- odd cymaint ag un o honynt allan yn fyw. Addefa y Belgiald fod y mil wyr a aethant i mewn wedi arddangos dewrder anghyffredin. AWYRLONGAU YN CAEL EU SAETHU. Ymddengys fod Germani yn defnyddio nifer, dda o awyrlongau i chwilio ac adrodd am symudiadau milwyr Belgium, ac y mae amryw o honynt wedi eu dinystrio drwy gael eu saethu. TWRCI AC ITALI YN ANMHLEIDGAR. Mae Itali yn benderfynol o fod yn an- mhleidgar yn y rhyfel hon, gan nad yw yn rhwym wrth unrhyw gytundeb. Pe buasai cytundeb yn bodoli, cyflawnasai ei dyled- Iwydd yn anrhydeddus, er y byddai hyny yn erbyn ei buddianau ei hun. Ni wyddai Itali ddim am yr anghydfod hyd nes y derbyniodd y Nodyn Awstriaidd. Dymuna Twrci rybuddio pawb i beidio credu unrhyw haeriadau am y cwrs a gymer ynglyn a'r rhyfel, gan ei bod yn benderfynol o fod yn hollol anmhleidiol. CREULONDEB Y GERMANIAID. Saethwyd offeiriad Moineville, Alsace, am iddo ganu oloch yr eglwys i rybuddio y Ffrancod fod y Germaniaid yn dynesu. Meddianwyd trigolion Amsterdam a dig- llonedd pan ddeallwyd am greulondeb y Ger- maniaid pan yn ymladd yn Vise. Saeth- wyd y postfeistr yn farw am iddo oedl anfon brysneges Germanaidd, a saethwyd llawer o'r trigolion dinivfred hefyd heb unrhyw reswm. Am ei bod yn feddianol ar lawddryll, saethwyd merch ieuanc a rhoddwyd y ty lie y gorweddai ei chorff ar d&n ganddynt Am i blant bach redeg i hysbysu fod y Germaniaid wedi cyraedd Monfontaine, saeth- wyd hwy yn farw. CODI PRISIAU ANGENRHEIDIAU BYWYD. Mae masnachwyr drwy y wlad wedi cymeryd mantais ar y y rhyfel bresenol i godi prisiau eu nwyddau yn afresymol, ond y mae y Llywodraeth yn ceisio dyfod i ddealltwr- iaeth gyda'r phrif fasnachwyr drwy gyfrwng cynhadleddau fel ag i reoleiddio y prisiau. Cynhaliwyd un o'r cynhadleddau a nodwyd ddydd Iau, pryd yr oedd Mr. Runciman a Mr. McKenna yn bresenol i drafod y pwnc gyda'r masnachwyr, a sefydlu prisiau. Tra y pery y rhyfel, cynhelir cynhadleddau eto, a cheislr cael cyd-welthrediad a dealltwriaeth rhwng y Llywodraeth a'r masnachwyr fel na byddo neb yn dioddef cam. SIOMEDIGAETH GERMANI. Yn ystod y dyddiau diweddaf, mae myneg- lad wedi ei wneyd i'r perwyl fod Germani wedi coleddu y dybiaeth na allasal Lloegr gymeryd rhan yn y rhyfel bresenol oherwydd yr aflonyddwch yn yr Iwerddon, ond y mae wedi gwneyd camgymeriad dybryd, ac yn gofidio yn ddwys fod y llysgenhadwr yn Llun- dain a'r gortichwylwyr Germanaidd yn yr Iwerddon wedi cymeryd gormod yn ganiataol BRWYDR RHWNG Y GERMANIAID A'R FFRANCOI). Dydd Llun, derbyniwyd y newydd fod y Germaniaid a'r Ffrancod wedl bod yn ymladd yn ffyrnig yn Aitkireh nos Wener, pryd yr enillodd y Ffrancod, ac y cymerasant fedd- iant o Mulhausen, prif dref Alsace, talaeth a gymerwyd oddiar Ffrainc gan Germani pan ydoedd yn rhyfel rhwng y ddwy wlad flyny- ddoedd lawer yn ol. Rhoddwyd croesaw annisgrifiadwy i'r Ffrancod yn Alsace. Rhwng y rhai wedi eu lladd a'u clwyfo, collodd Germani 30,000, a Ffraino 15,000. Defnyddiodd y Ffrancod eu bidogau gydag effeithiolrwydd, a gorfodwyd y Germaniaid i ffoi mewn annhrefn. Pan oedd yn dechreu tywyllu nos Wener, cyrhaeddodd gallu cryf o'r Ffrancod i gyffiniau Altkirch. Yr oedd y dref yn amgylchynedig ag amddiffynfeydd cadarn, a'r Germaniaid yn gwarchae oddi- mewn Llwyddodd y Ffranood i fyned i mewn, ac ar ol ymladdfa galed gorfod- asant y Germaniaid i fIol. Aeth nifer o feirchfilwyr ar eu holau, gan beri. colledion pellach iddynt. Yn y tywyllych, anhawdd ydoedd dilyn y German- laid yn mhellach, a meddianwyd y lie gan y Ffrancod. Dyrchafwyd bloeddiadau o groesaw gan y trigolion pan ganfyddasant fod y Ffrancod mewu meddiant. Ar doriad gwawr ddydd Sadwrn, aeth y Ffrancod ymlaen, ond ni chyfarfyddasant ag un milwr Germanaidd. Erbyn pump o'r gloch y prydnawn, yr oedd y Ffrancod wedi meddianu Mulhausen, ac felly wedi meddianu rhan fawr o dalaeth Alsace. Bodolai brwdfrydedd mawr yn Paris ar dderbyniad y newydd, a ffurfiwyd gorym- deithiau mawrion, y rhai dramwyasant y prif heolydd, gan ganu alawon gwladgarol. MEDDIANIAD TREF LIEGE GAN Y GERMANIAID. Tra y profodd cymeryd amddiffynfeydd Liege yn ormod i'r Germaniaid, eto dywedir eu bod wedi meddianu y dref. Dywedir fod colledion y Germaniaid ynglyn ag amddiffyn- feydd Liege yn drymach nag mewn unrhyw frwydr mewn blynyddoedd diweddar. Rhuthr- odd galluoedd cryfion o Germaniaid yn erbyn yr amddiffynfeydd cadarn, ond gwrth- safasant bob ymosodiad. Adgofiai rhai am yr ymosodiad ar Port Arthur, pan y coll- wyd cymaint o fywydau. Tua diwedd yr ym- osodiad ar amddiffynfeydd Liege, er gwaeth- af cymhelliadau a bygythion eu swyddogion, gwrthododd y milwyr Germanaidd yn ben- dant i wynebu ergydion Belgium yn hwy. Dolefai rhai o'r clwyfedigion Germanaidd am ymborth a dwfr, gan ddatgan na chawsant unrhyw gynhaliaeth am ddau ddiwrnod. Dengys hyn nad oedd y Germaniaid wedi cyfrif y draul, na rhoddi unrhyw ystyriaeth i'r hyn y byddai yn rhaid i'w dynion ddioddef. MEIRCHFILWYR GERMANAIDD YN GORFOD FFOI. Hysbysir o Brussels am alanastra i'r meirch- filwyr Germanaidd, y rhai oeddynt wedi croesi yr afon Meuse, i'r gogledd o Liege. Daeth- ant I wrthdarawiad a meirchfilwyr Belgium, y rhai a lwyr orchfygasant y Germaniaid gyda lladdfa fawr. Dinystriwyd bron yn llvvyr saith o gatrodau Germanaidd rhwug y 0 rhai laddwyd a'r rhai gymerwyd yn garchar- orion. GWRTHOD CADOEDIAD. Yroedd y Germaniaid yn y fath gyflwr ad- fydus ddydd Sadwrn fel y crefasant am 24 awr o gad-oediad gan Belgium, ond gwrthod- wyd cydymffurfio â'r cais. I MEDDIANU PORTHLADD GER- MANAIDD. Dydd Sadwrn, cyhoeddwyd fod Prydain wedi meddianu porthladd Germanaidd, sef Lomo, yn Togoland. Gwnaed hyn ar 0 orchymyn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. CRONFA TYWYSOG CYMRU. Dydd Gwener, anfonodd Tywysog Cymru apel am danysgriifadau tuag at gynorthwyo gweddwon ac amddifaid rhai o'r wlad hon, ac y mae arian yn dylifo i mewn bob dydd. Tra yr ydym yn ysgrifenu mae wedi cyraedd cyf- answm o dros haner miliwn o bunau. Nid yw Prydeinwyr byth yn pallu eu cynorthwy pan fyddo angen am hyny. TEYRNGARWCH CANADA. Mae Due Connaught wedi anfon hysbys- rwydd hynod dderbyniol i'r wlad hon, sef cyflenwi rhodd o filiwn o sachau o flawd, pob sach yn eynwys 98 pwys, gwerth 500,000p, ar ran Canada i'r fam-wlad. Derbyniwyd y rhodd gyda diolchgarwch diffuant gan Mr. Harcourt ar ran y Llywodraeth. Mae y Llywodraeth wedi gwneyd trefniaciau i ystorio y blawd mewn gwahanol gauolfanau. Nis gallai rhodd fwy derbyniol gael ei derbyn, yn enwedig pan ystyrir ystrywiau dirmygus masnachwyr i orlethu y tlawd drwy godi pris blawd a bara pan nad ydoedd angen am hyny o gwbl, a theilynga y Llywodraeth ddiolch- garwch diffuant am roddi terfyn ar y fath an- fadwaith. -YMBORTH ANIFEILIAID. Un oeffeithiau anocheladwy y rhyfel ydyw codi pris ymborth anifeiliaid yn y fatli fodd fel ag i beri i amaet-hwyr gwein- iaid yn enwedig i ladd eu gwartheg, eu defaid, a'u mocli. Effaith hyny drachefn fydd creu prinder cig, a chreu drudaniaeth trwy yr holl wlad. Mewn atebiad i hyn dywedai Mr. Runciman, Gweinidog Am- aetliyddiaeth, fod hyn, ymysg pethau eraill, yn cael sylw cyflawn y Llywodraeth, a bod gan y Llywodraeth yn awr gyfryw wybodaeth ag a leddfai y dychryn oedd ymysg amaethwyr ac eraill. Yr oedd y Llywodraeth yn awr yn cymeryd y fath fesurau fel na byddai unrhyw angenrheid- rwydd i amaethwyr ladd eu lianifeiliaid ieuainc oherwydd cvfyngder arianol neu resymau eraill. Bydd hyn yn newydd da i lawer. Y GALLUOEDD YN CRYNHOI. Nid yw cryfder y byddinoedd eto wedi dod i wrthdarawad. Temlo'u ffordd y mae'r galluoedd ar hyn o bryd, ac ar ychydig iawn o'r hyn gyhoeddir y gellir di. bynu ei fod yn wir. Y mae'r Llywodraeth wedi bod dan orfod i brot-estio yn erbyn yr adroddiadau anghywir a gyhoeddir. Beth bynag, ymddengys fod Ffrainc yn enill tir yn Alsace a Lorraine, a chryn ddifrod wedi bod yno. Y mae'n bur sicr hefyd fod Hong ryfel o eiddo Germani, sef y Panther, wedi ei suddo. Hon oedd y Hong aeth I Agadir tua dwy flynedd yn ol ac a fu bron ag achosi rhyfel yr adeg liono. Nid mor fyr gwaith ag y tybiodd Germani yw myned i Ffrainc trwy Belgium. Deil y Belgiaid eu tir yn dda, ac y maent wedi rliwystro dylifiad y Fyddin Germanaidd i Ffrainc y ffordd hono. PARHAD Y RHYFEL. Wrth drafod y cwestiwn pa mor hir y pery y rhyfel dyma a ddywed Gohebydd Rhyfel Arbenig y 'Times':—'Y mae y cwestiwn pa mor hir y pery y rhyfel yn cael sylw gan bawb yn Ewrop, ond rhyfedd ydyw meddwl mor wahanol eu barn ydyw pobl ar y cwestiwn. Y mae y gwahanol farnau yn amrywio o dair wythnos i dair blynedd, ac y mae'n amlwg mai ychydig o ystyriaeth y mae rhai pobl wedi ei roddi i'r cwestiwn. 'Yr ydym yn bur gydnabyddus a. rhyfel- oedd yn cael eu llusgo am flynyddoedd. Fel rheol yr ydym yn amharod i ryfel, ac yn ein rhyfeloedd Trefedigaethol, nid yw o wahan- iaeth yn gyffredin pa. un ai buan ynte hwyr y gwnawn daro. Nid yw'r gelyn, fel rheol, mewn safle in gwneyd i dalu'n ddrud am ein amharodrwydd, felly, fe fyddwn yn cy- meryd ein hamser i lusgo drwodd. 'Ond saif y rhyfel hoii,-v trobwll hwn o ryfeloedd,—yn yr hon yr ydym wedi cael ein llyncu, yn hollol wahanol. Rhaid i ni ei hystyried o safbwynt Garmanaidd, oher. wydd mai Germani y1t'r cynhenwr ac hwy fydd yr ymheddychwr. I Germani ni fydd rhyfel faith ond dinystr hollol. Y mae ei safle rhwng dwy Dalaeth Filwrol fawr elyniaethus, ei hagosrwydd i'r mor, parlysiad ar ei holl fasnach, a'r perygl ag y mae ei threfedigaethau dros y mor yn- ddo, • yn rhwystr iddi lusgo'n hir gyda'r rhyfel.' Y mae sicrwydd fod pedair miliwn, os nad chwe' miliwn, o Germaniaid o dan arfau wrth gyfrif y gwarchodlu, y gorsafau, y reserves, &c., ac er fod gwyr cyfarwydd mewn cyfrifon arianol yn Germani, sydd wedi ys- grifenu ar ryfel, wedi awgrymu cynlluniau I godi y gwynt' am chwe' mis, nid oes neb yn medru gweled y tu hwnt i'r terfyn yna, a rhagor, nid ydynt wedi ystyried y bydd mwy na thair miliwn ohonynt ar y maes. Y mae'n hollol angenrheidiol i'r taro fod yn ddigon sydyn a llethol fel ag i gynyrchu yr effaith wleidyddol a milwrol ag y mae gwir angen am dani, a chadw i Germani y parod- rwydd anorchfygadwy ag y mae wedi march- ogaeth mor llwyddlanus arno am gymaint o amser. Ymha ffordd y bwriada roddi yr ergyd hon nid yw yn hollol glir hyd yn hyn y mae arwyddion fod nifer fawr o'i byddin rhwng Liege a Thionville, ac y gwneir yma nid yn unig un ymosodiad effeithiol, ond y prif ymosodiad. Yn yr achos hwn, bydd y Germaniaid yn sicr o geisio croesi y Meuse, ac y gweithiant eu ffordd i gyfeiriad gogledd- ol a deheuol yr afon. Bydd y rhwystr yn Liege, a'r metbiant ym- ddangosiadol i sicrhau mynediad i'r dref, yn ergyd annymunol i'r fath gynllun. Beth bynag all cynlluniau Germani fod, rhaid i ni fod yn barod am ymosodiad gan holl lynges Germani, a chan bob llong Germanaidd sydd yn nofio. Bydd yn ddlwrnod mawr pan y daw y Llaoges Brydeinig allan yn ffroenfalch i ymladd, a chynes fydd y croeso iddi. ARGOELION 0 FRWYDR ENBYD. Mae arwyddion y bydd brwydr bwysig yn cael ei bymladd cyn pen ychydig orian. Mae y Germaniaid yn ymgasglu yn lluoedd i ddau bwynt pwysig. Yn y gogledd bydd un frwydr yn debyg o gymeryd lie rhwng Tongeron a Liege, rhyw naw. milldir oddi wrth eu gilydd, a'r ail bwyut fydd y rhandir lie ymgyfarfydda Luxemberg, Belgium a Ffrainc. Ymdeithia gallu cryf o Germaniaid drwy Luxemberg, ac y mae y rhan flaenaf wedi cyraedd i gyffiniau Belgium. Derbyniwyd hysbysrwydd ddydd Mercher fod y Germaniaid a'r Ffrancod wedi dyfod i wrthdarawiad, ond ni chafwyd manyl- ion. AMDDIFFYNFEYDD LIEGE. Yr oedd yr amddiffynfeydd uchod heb eu cymeryd nos Fawrth, er fod y Germaniaid wedi cyrchu eu cyflegrau trymaf i ymosod arnynt. RWSIA AC AWSTRIA. Mae y milwyr Rwsiaidd yn dylifo i Awatria, a thra yn myned drwy Ddyffryn Style, gorchfygasant gwarchodlu blaenaf yr Awst- riaid. Bwriad y Rwsiaid yw meddianu Lem- berg, prifddinas talaeth Galicia. MEDDIANIAD TOGOLAND. Ymddengys fod meddianiad porthladd Togoland gan filwyr Prydain wedi peri braw i borthladdoedd Germanaidd ereill, ac wedi achosi i'r Germaniaid eu gadael yn ebrwydd. Y FFRANCOD YN GORFOD FFOI. Nos Lun, daeth gaUu cryf o Germaniaid o Mutheim, y rhai orfodasant y Ffrancod i ymadael o Mulhausen, ond llwyddasant I ail-sefydlu eu hunain ar ben bryu, o'r hwn le y parhasant i ergydio yn effeithiol ar y Germaniaid. YSPIWYR GERMANAIDD YN BELGIUM. Yn ystod y dyddiau diweddaf, mae dwy fil o ysbiwyr Germanaidd wedi eu cymeryd i'r ddalfa yn Belgium, y rhai oeddynt wedi ymwisgo yn debyg i'r Belgiaid. Yr oedd yn eu meddiant lawer o ddyfeisiau i beri dinystr, a lleoedd neillduol wedi eu marcio i gael eu ohwythu i fyny gan dan.belenau. Saethwyd cant o honynt, ac y mae rhybuddion di- gamsyniol wedi eu cyhoeddi ynglyn ag yspiwyr yn y dyfodol. Gwylir pawb a dramwyant drwy y wlad. MEIRCHFILWYR CYMREIG. Mae y mudiad i ffurfio catrawd o feirch- filwyr Cymreig wedi £nyn teimladau teyrn- garol yn Ngogledd a Deheudir Cymru, a digon o wyr yo cynyg eu gwasanaeth i fyned i ymladd dros eu gwlad. Mewn Iluaws o drefi yn Nghymru mae amryw ddynion ieuainc wedi ymrestru befyd fel traed-filwyr. MANION. Ceir fod dros 200 o brif fasnachwyr dinas Llundain wedi penderfynu talu haner cyf- logau i'w dynion sydd yn myned allan i ymladd yn y rhyfel. Mae miloedd o fynywod yn eymeryd lie y dynion yn y llaw-weithfeydd, ac hyd yn nod ar y trams, er mwyn eu galluogi i fyned i ymladd. Cynygiodd Arglwydd Tredegar ei long ardderchog i'r Llywodraeth i'w defnyddio fel ysbytty. Derbyniwyd y cYllygiad gyda diolgarwch. Ymhlith y rhai sydd wedi cynyg eu gwas- anaeth i'r Llywodraeth, cer y ddau frawd H. H. a J. H. James, Na-rberth. Maent yn perchen ar 'aeroplane,' ac yn medru ei gyru. Er mantais i'r plant, penderfynodd Cyngor Sirol Llundain ail-agor yr ysgolion ddydd Mencher, a cheisiwyd gan y rhieni eu danfon i'r ysgolion. Mae gan Mrs. Collis, Epsom, saith o feibion yn y rhyfel bresenol. Mae hithau yn weddw i filwr. Dengys y Teulu Brenhinol eu bod yn barod i roddi bob cymorth i'r Wladwriaeth Bydd gan y Brenin ddau fab yn barod i'r alwad, sef Tywysog Cymru yn y fyddin, a'r Tywysog Albert C, fel morwr ar fwrdd y 'Collingwood.' Mae Archesgob Caergaint wedi cynyg Palas Lambeth i'r Llywodraeth i'w ddefn- yddio fel ysbytty, os hydd angenrhaid. Daetli y rhan fwyaf o weithwyr Meistri. Drummund Brothers, Guildford, yn ol o'u gwelyau, ar gais y cyflogwyr, er mwyn cyf- lawni archeb oedd wedi dyfod o'r Swyddfa Ryfel.