Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. OYNWYSIAD AM AWST. J Mis. I ljlyfr y Barn wyr.$ Gohebiaeth. > Yr Eisteddfod Genedlaethol. j Cydymdeimlad. j Or Arsyllfa. | At y Beirdd. Coffa am Mr. John W. Jones i (Asaph Tegai), Bryntwrw, Tre- garth, Bangor. j Cylchgronau Eglwysig Oymreig 5 y Presenol. Bwrdd y Qolygydd. Triagl. Adolygiad y Wasg. Nodion Eglwysig. Manion.

Advertising

PEKL Y PLANT, CYNWYSIAD AM AWST. Dadleuon M&gi Jones. Gwers o'r Coran. Mis Awst. Y Llyfr Tonau. Cyntaf (gyda Darlun). Ton—' Min y Dw'r.' 1 Ty Coch,' Porthdinlleyn. Pwyllgor Ty yr Arglwyddi. I Trip yr Ysgol Sul (gyda Dar- I luniau). Y Dyn ar y Bont. Seryddiaeth fel Llaw-forwyn i Grefydd. Roger Ascham. i Gwers gan Bagan. Y Credo. ) Talemachus a'rGornestwyr(gyda [ Darlun). Dalen Dirwest. Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. | Llithiau Priodol am y Mis. i Perlau y Perl.' Barddoniaeth. j Y Paganiaid Bach Duon. j Y Gystadleuaeth.

Y RHYFEL EWROPEAIDD o

Y RHYFEL EWROPEAIDD. o BRWYDRAU FFYRNIG. DWY FIL 0 BRYDEINIAID WEDI EU LLADD A'U CLWYFO. DYDD IAU. Y MILWYR PRYDEINIG YN FFRAINC. Derbyniiwyd y newydd calonogol fod y milwyr Prydeinig wedi cyraedd Ffrainc yn ddlogel. Cymerwyd hwy i chwech o wahanoi borthladdoedd yn y wlad hon, a glaniasant yn yr un nifer 0 borthladdoedd yn Ffrainc, a chariwyd pobpeth allan yn daw el. Credid y byddai i'r adgyflenwad hwn galonogi y Bel- glaid yn eu hymdrech ddewr i wrthsefyll rhuthriadau rheibus y Germaniaid. SYMUDIADAU Y GERMANIAID. Oddiwrth newyddion a dderbyniwyd hedd- yw, ymddengys fod gallu cryf o feirchfilwyr Germanaidd wedi eu gorfodi i gillo yn ol. 'Mae Brussels ar hyn o bryd, pa fodd bynag, mewn perygl o ymosodiad arall ar ran y meirchfilwyr Germanaidd, ac y mae y Llys- genhadwr Prydeinig wedi ymadael oddiyno. Ond mae pob rhagocheliad wedi ei wneyd i wrthwynebu unrhyw ymosodiad. Awgrymwyd fod i'r fyddin Belgaidd ym- neillduo i Antwerp, ond gwrthwynebwyd hwy gan y brenin. Erys chweoh o gatrodau y Belgiaid mewn disgwyliad am gael myued ymlaen, ond nid oes ond un o honynt wedi bod yn ymladd. hyd yma. DIRGELWCH SYMUDIADAU Y GERMAN- IAID. Bodola llawer o ddirgelwch gyda golwg ar safle sicr prif alluoedd y Germaniaid. Ad- roddir fod tua wyth mil o feirchfilwyr Ffren- gig wedi gwneyd eu ffordd i Fraiture, lie a saif o'r tu ol i'r fan lie y tybir fod y fyddirf Germanaidd. Os yw yr adroddiad yn gywir, Germanaidd. Os yw yr adroddiad yn gywir, un ai mae y mllwyr hyn wedi myned drwy fwlch yn y fyddin Germanaidd, neu mae prif gatrodau y Germaniaid wedi syrthio yn ol, a newid oyfeiriad eu symudiadau. Os oes cyf- newidlad wedi ei wneyd yn y syrnudiadau, esbonia hyny paham na roddodd y German- iaid y ddyrnod ofnadwy ag yr arwelaid pawb i gredu a gymerai le. Yn ol yr adroddiadau a dderbyniwyd, mae ymladd caled wedi bod ar y ffrynt rhwng Liege a Namur, yr hyn oedd yn fath oar- brawf ar nerth a safle y Germaniaid. Y FFRANCOD YN ALSACE. Newyddion o Bile a hysbysant fod y Ffrancod yn Alsace yn symud mewn cyfeiriad gogleddol. Mae y Ffrancod yn Lorraince wedi enill llawer o dir, ac ar hyn o bryd mewn safle i fygwth gyda'u meirchfilwyr symudiadau y Germanlad ynglyn a Metz, Maent wedi meddianu Saarburg, lie o bwys- igrwydd, gyda deng mil o boblogaeth, ar y brif reilffordd o Metz 1 Strasburg. YCHWANEGIADAU AT Y FYDDIN BRYDEINIG. Nid oes unrhyw argoelion fod ymres triad mlllwyr newyddion, ar gala Arglwydd Kitchener, yn lleihau yn ei frwdfrydedd. Er's pan ddeehreuoddy rhyfel, mae 65,000 o ddynion wedi ymrestru, ond disgwylir llawer yn ychwanegol, a dyledswydd pob dyn rhwng 19 a 30, os yn iaeh a chryf, yw dyfod ym- laen yn yr argyfwng presenol, pan y mae ein gwlad yn y perygl mwyaf. DYDD GWENER. CYFRES 0 FRWYDRAU. Ymddengys fel pe bae cyfres o frwydrau- digon posibl mal dechreu y frwydr fawr ydynt-fel ar gymeryd lie ar hyd llinell o 210 o filldlroedd, o TirTemont 1 Mulhouse. Mae gan y Ffrancod 22 o gatrodau (40,000 o ddynion ymhob un), tra yr amcangyfrifir fod gan y Germaniaid ychydig yn llai, ac Awsfcria 120,000 o ddynion yn barod. Mae y sefyllfa wedi newid oddiar frwydr Waterloo, pan yr ymladdai 227,000 o wyr mewn Ilinell o dair milldir. Heddyw, ceir dwy filiwn a haner yn barod i ryfel mewn llinell o 250 milldir. Mae rhif y mllwyr yn fwy na deng waith cymaint, a'r hyi yn bedwar ugain gwaith gymaint. Y GERMANIAID YN NGOGLEDDBARTH BELGIUM. Ni pharodd y newydd fod y Germaniaid wedi cyraedd gogleddbarth Belgium unrhyw syndod 1 awdurdodau milwrol Ffrainc, Lloegr, a Belgium. Y syndod yw na fliasent wedi gwneyd hyn wyth neu ddeng ddiwrnod yn gynt. Ni ddychymygodd neb ar ddechreuad y rbyfel y buasai Belgium yn alluog i gadw y lluoedd Germaniaid yn ol cyhyd. Mae pob darpariaeth wedi ei gwneyd i gyfarfod un- rhyw rhuthr. Mae symudiad Llys Belgium o Brussels i Antwerp wedi amddifadu y lie cyntaf o'i phwyaigrwydd. Tref agored yw, nid amddiffynfa, ac ni fyddai ei goresgyniad yn effeithio ar y rhyfel o gwbl. Mewn gwirionedd, wrth ymdaith yn nghyfeiriad Brussels mae y Germaniaid yn myned yn hollol groes i'w hymdaith i Paris, yr hyn oedd prif amcan eu cynilun. Maent yn colli amser afreidiol pan y mae pob munyd o bwys. AMDDIFFYNFEYDD ANTWERP. Drwy gillo i Antwerp, mae y fyddin Belgaidd yn derbyn nodded amddiffynfa nerthol a chadarn. Amddiffynir Antwerp gan bymtheg o amddiffynfeydd llawn arfog, y rhai a safant o chwech i naw milldir o bellder o'r dref. Wedi hyny, ceir unarddeg o amddiffynfeydd ereill yn nea i'r dref. Yn wahanol i Liege, amgylchynir y dref gan gadwen o weithfeydd, fel, pe llwyddai ymosodwyr i wthio rhwng yr amddiffynfeydd, nia gallent fyned i'r drei. Mae yr amddiffyn- feydd yn hynod am eu cadernid, yn llawer mwy nerthol, ac wedi eu harfogi yn well na Liege. Os oes unrhyw amddiffynfeydd diweddar yn anorchfygol, yn Antwerp y ceir hwy. Gall y milwyr o'u mewn gael cyflen- wadau unrhyw adeg drwy y m6r. Mae y Belgiaid wedi eu gosod mewn safle hynod ffodus yma, gan y gallant yn hawdd ymosod ar golofnau y Germaniaid ydynt yn gwthio ymlaen tua'r gorllewin, a gallant eu dyfetha yn llwyr. Y RWSIAID A'U SYMUDIADAU. Mae y Rwslald wedi cyraedd Gumbinnen, tref yn meddu ar boblogaeth o 15,000, yn Nwyreinbarth Rwsla, ac wedi meddianu tref Lyk ar ol tri diwrnod o ymladd. Mudiad pwysig arall o eiddo y Rwsiaid yw eu hymdaith yn erbyn Burkovina, talaeth Awstriaidd gyda phoblogaeth fawr o Ruman- iaid a Rwsiaid. Dywedir fod 400,000 o fil- wyr Rwsiaidd wedi myned i mewn i'r dalaeth hon, ac yn nesau at y brifddinas, Czernowitz. Y SERVIAID YN YMLID YR AWSTRIAID. HawHa y Serviaid eu bod wedi enill budd- ugoliaeth bwysig ar yr Awstriaid, yn ol y newyddion diweddaraf o Lbabatz. Mae y Serviaid a'r Montenegriaid yn ymosod ar Bosina, lie y maent yn sicr o dderbyn cefnog- aeth eu delliald ydynt ar hyn o bryd dan lywodraethiad Awstria, ac y mae hyn wedi achosl pryder dwfn i'rawdurdodau Awstriaidd. DYDD SADWRN. MEDDIANIAD BRUSSELS GAN Y GERMANIAID. Pan aeth y Germaniaid I mewn i Brussels, ni wnaethpwyd unrhyw ymdrech I'w gwrth- wynebu, gan mai ofer fuasai i'r trigolion freuddwydio am wneyd hyny, Aeth y blaen- filwyr i mewn ddydd Iau, a dilynwyd hwy ddydd Gwener gan finteioedd ereill. Y m- ddygasant yn greulou at y trigolion. Gosod- wyd treth ar y trigolion o wyth miliwn o bunau. Gan fod poblogaeth y dref a'r am- gylchoeddtua 730,000 bydd y draul yn lip. y pen. Dengys y Germaniaid mai eu prif amcan yw gwneyd arian, a byny drwy dwyll. O'r tucefn i'r fyddin Germanaidd yn Brussels, mae gallu arall o gan' mil o wyr. MEDDIANIAD GHENT. Aeth haner can' mil o Germaniaid i Ghent ddoe, gan ei meddianu. Drwy hyn mae y Germaniaid wedi cymeryd cam peryglus iddynt eu hunain, gan y gall galla cryf o Ffrancod ddyfod ar eu gwarthaf, gan orfodi y Germaniaid i ffol yn nghyfeiriad Antwerp, lie y mae prif alluoedd y Belgiald yn ymgynull- edig. Byddai y Germaniaid felly rhwng y Ffrancod a'r Belgiaid. DYDD LLUN. BUDDUGOLIAETH Y RWSIAID YN Y DWYRAIN. Tra y mae y byd yn disgwyl newyddion o'r pwysigrwydd mwyaf o Belgium, daw bryaneges o St. Petersburg i hysbysu, fod y Rwsiaid wedi enill eu brwydr fawr gyntaf yn y dwyrain. Nis gall y ddyrnod drom hon effeithio nemawr ar y Germaniaid yn Bel- gium, ond bydd yn sicr o gael effaith ddwys ar Ymerawdwr Germani, yr hwn sydd wedi eyhoeddi rhyfel yn erbyn haner Ewrop. Bydd yn rhwym o effeithio ar awdurdodau Germani yr un modd ag y darfu i'r newydd am fuddugoliaeth Wellington yn Salamanca effeithio ar Napoleon yn Leipzig. Y GERMANIAID YN NEWID EU CWRS. Mae y Germaniaid wedi newid eu cwrs, gan fwriadu ymosod ar y galluoedd unol rhwng Roubaix a Charleroi, y rhai ydynt yn sefyll 60 milldir oddiwrth eu gilydd. Gan fod y Belgiaid, Ffrancod, a'r milwyr Pry- deinig wedi gweled yr ystryw hon, maent wedi gwneyd parotoadau helaeth ar gyfer yr ymosodiad bwriadedig. Ceir adroddiadau am ymladd caled yn y cyfeiriad hwn, a chymer- odd y meirchfilwyr Prydeinig ran helaeth yn yr ymladd fa. YMOSOD AR NAMUR. Dywedir fod y Germaniaid yn brysur wrth y gwaith o din-belenu gadarnle Namur, yr hon a amddiffynir yn ddewr gan allu cryf o Belgiaid. JAPAN A GERMANI. Mae Japan wedi eyhoeddi rhyfel yn erbyn Germani, a disgwylir y bydd i'r Japaniaid wneyd gwrhydri ar f6r a thir, gan eu bod wedi rhoddi prawf o'u galluoedd lawer gwaith cyn hyn. DYDD MAWRTH. BRWYDR GALED YN BELGIUM. Mynegir fod brwydr galed yn myned ymlaen yn Belgium, ond nid oes unrhyw fanylion wedi gyraedd. Dechxeuodd dydd Sadwrn, pan y cymerodd y milwyr Pryd- einig a'r Ffrancod yr oohr ymosodol. Yr oedd y Germaniaid yno mewn gallu nerthol, gyda 360,000 o draedfilwyr a 20,000 o feirchfilwyr. Adnewyddwyd y frwydr ddydd Llun, a ohymerodd brwydrau le yn heolydd.Char- l!eroi, tref yn meddiant y Ffrancod. Dy- wedir fod y Germaniaid wedi cael oolledion trymion, ond ni chafwyd gwybodaeth awyddiogol. A'r un modd ni cliadarniheir' y sibrwd eu bod wedi eu gyru yn ol i Hal, tua 25 milldir o Cliarleroi. CWYMP NAMUR. Newydd a syfrdanodd bawb oedd y 1 mynegiad fod y Germaniaid wedi dinystrio y amddiffynfeydd cadarn Namur. Medd- ienid hwy gan alluoedd cryfion o filwyr I Belgaidd, ac, fel Liege, yr oedd yn amddi- ffynedig gan amryw wersylloedd nerthol. Credid y gellid herio pob ymosodiad am dri mis o leiaf, end os yw yr adroddiad yn gywir ni pharodd yr amddiffyniad ddau ddiwrnod. Mae y Germaniaid, meddir, drwy y fuddugoliaeth hon, wedi enill llyw- odraethiad llwyr ar y pontydd a'r rheil- ffyrdd yn Namur. Hona y Germaniaid eu bod wedi medd- ianu Luneville, tref Ffrengig bwysig. GWEITHREDIADAU Y FFRANCOD YN ALSACE. Gyda golwg ar weithrediadau y Ffrancod yn Alsace, lie y ma,e y Cadfridog Pau yn ymlid gyda gallu cryf. Nid oes unrhyw fanylion wedi cyraedd pan yr ydym yn ys- grifenu, ond diau y clywir cyn diwedd yr wythnos. ANHAWSDERAU Y RWSIAID. Gohebydd o St. Petersburg a ddywed fod. nifer fawr o arnddiffynfe-ydd a fyddant yn sicr o beri blinder i'r Rwsiaid ar eu taith yn Neheubarth Prwsia. Yn ffodus, mae y Rwsiaid yn ymdaith mewn galluoedd oryfion, a liyderir y llwyddant i feistroli unrhyw anhawsderau a'u cyfarfyddant. SERVIA YN GORCHFYGU AWSTRIA. • Mor Uwyr ydoedd gorchfygiaid yr Awstriaid gan y Serviaid, fel y collodd y diweddaf 61 o gyflegrau pan ffoisant. LLYNGES JAPAN. Mae Llynges Japan wedi dechreu ar y gwaith o daii-belenu Tsing-tao, yr amddi- ffynfa Germanaidd yn Kiao-chau. I gynorthwyo gyda'r gwaith, dafnyddia: y Japanaid eu hawyr-longau bychain, rheol- wyr y rhai a roddant gyfarwyddiadau pa fodd i gyfeirio y tan-belenau. COLLEDION PRYDEINIG. Derbyniodd yr Is-gadben larll Leven a Melville, Royal Scots Greys, niweidiau per- yglus ddydd Sadwrn, Awst 22ain. Yr un diwrnod, archollwyd y Sergeant- Major D. S. Jillings, Royal Flying Corps, ond y mae yn gwella yn dda. Derby niodd y Cad ben C. S. A. Akerman, Royal Engineers, niweidiau i'w ben a'i fraich drwy gael ei daflu oddiar gefn ei geffyl, DYDD MERCHER. YN Y SENEDD. Ar ail ymgyfarfyddiad y Senedd ddoe, cafwyd mynegiad yn Nhy y Cyffredill gan y Prif Weinidog i'r perwyl fod y fyddin Brydeinig wedi cyflawiii gwrhydri y dydd- iau diweddaf. Yn Nhy yr Arglwyddi, hysbysodd Ar- glwydd Kitchener rai manylion am y modd y darfu i filwyr Lloegr gadw i fyny anrhyd- eidd eu gwlad. Rhoddwyd derhyniad gwresog i Arglwydd Kittchener tra yn siarad am y tro cyntaf yn Nhy yr Ar- glwyddi, er ei fod yn aelod o'r Ty Uchaf er's amryw flynyddoedd. Y MILWYR PRYDEINIG YN BRWYDRO. Bu y Prydeinwyr a'r Ffrancod yn ymladd yn ffyrnig yn erbyn gallu cryf o'r Gieiimaiiiaid yn iL:o,rtra,ine, Lv Idyddijau di- weddaf, and bu raid iddynt encilio yn ngwyneb y lluoedd aneirif a'u gwynebai, gyda, cholled o dros ddwy fil rhwng lladd a chlwyfo i'r Prydeaniaid. Ni fynegir coll- edion y Ffrancod na'r Germaniaid. Mae sefyllfa y byddinoedd ar hyn o bryd fel y canlyn:—Dywedir fod y rhan fwyaf or milwyr Germanaidd yn Belgium yn ymdaith ymlaien yn nghyfeiriad y de, ac erys y milwyr Seisnig a Ffrengig am danynt mewn He cyfleus. Amcenir encilio yn ol o gam i gam, a thrwy hyny amddifadu y gelyn o'r cyfle i daraw, ac yna eu gyru yn ol i gyfarfod y Rwsiaid. Drwy hyn enillir amser, ac y mae pob munyd o bwys yn y rhyfel hon. Mae yn angenrheidiol i'r Rwsiaid gael nifer penodol o ddyddiau i symud i Prwsia Ddwyreiniol a chwblhau eu trefniadau i oresgyn Berlin. Am can a y Cadfridog Joffre rod di pob mantais iddynt wneyd hyn drwy gadw in Germaniaid yn y gorllewin. DEFNYDDIAD AWYRLONGAU. Gan fod y Germaniaid wedi methu hyd yma yn eu hynxgais i amharu amddiffyn- feydd Antwerp, defnyddiant awyrlongau i ollwng tan-belenau ffrwydrol i blith y Belgiaid dewr gyda'r amcan o'u dychrynu. Nid yw y Germaniaid yn talu unrhyw sylw i aiirhydedd a moesioldeb, gan iddynt dan- belenu ar glafdy Belgiaidd, a chyflawnant y fath weithredoedd anfad tuag at y rhai a -3 gymeraent i'r dida.Ifa a barant arswyd a digllonedd drwy yr holl fyd gwareiddiedig. MANION. Gwaredcdd masnachwr yn Willesden yr holl fanerau Germanaidd a feddai trwy eu gwertbu i lanhau pibellau. 0 hyn allan cad want yr ystafelloedd ad- filwrol yn agored ar y Sul, er mwyn prysuro'r gwaith o greu y fyddin newydd sydd gyn- wys 100,000 o wyr. Hyd yn hyn derbyn- iwyd 70,000. Defnyddir tri elephant' gan yr awdurdod- au milwraidd yn y rhyfel bresenol. Aeth Major Riehardson a'i waedg*n enwog allan i Belgium. Bwriedir defnyddio y cwn i chwilio allan y clwyfedig ar faes y frwydr. Traed tyner' ydyw aehos gwrthodiad aifer lluosog o rai sydd yn ymdrechu ymuno &'r fyddin. Ceir hanes am anrheg ardderchog oddiwrth lywodraeth Quebec, sef 500,000 pwys o gaws. Cynygiodd Mr. William Cain, Lerpwl, aeroplane' i'r Llywodraeth. Disgwylir arnynt alw y peiriant The Liverpool.' Mae Esgob Caerodor, yr hwn sydd yn bresenol oddicartref, wedi ysgrifenu at Arg- lwydd Faer y ddinas, gan gynyg ei balas fel ysbytty, os bydd angen am un. Gwnaeth Arglwydd Esgob Bangor apel neillduol i'r clerigwyr am iddynt fod yn eu plwyfi yn ystod yr amser prysur yma, oherwydd dyma'r amser dylent ddysgu eu plwyfolion i ymddibynu ar Dduw am gymorth, Ceir y Milwriad Yenables Llywellyn yn hyfforddi nifer o drigolion Pontnewydd i iawn ddefnyddio drylliau, tra o Gaerfyrddin ceir hanes am Glwb Saethwyr llwyddianus mewn cysylltiad stg Eglwys Sant Pedr. Derbyniodd pum' mil o chwarelwyr yn Sir Gaernarfon a Meirionydd rybuddion na fydd yna unrhyw sicrwydd o waith ar ol diwedd y mis hwn. Mae Arglwydd Selbourne yn ymddwyn yn foneddigaidd dros ben a'i ddeiliaid, oblegid nid yw yn bwriadu derbyn rhent oddiwrth berthynasau neb sydd yn ymladd yn y frwydr bresenol. Er pan ddechreuodd y rhyfel, hon, mae 83 o wasanaeth-ddynion ein rheilffyrdd wedi eu clwyfo gan ergydion oddiwrth ddrylliau ein milwyr, am eu bod yn methu rhoddi ateb- iad i'w gal wad rhybuddiol. Mae cyfanswm Belfast tuag at Gronfa Tywysog Cymru wedi cyraedd 15,000p. ar, hyn o bryd. Dywedir fod yna dros 17,000 o ddynion allan o waith yn Manchester o herwydd y ryfel. Mae'r awdurdodau yn ymdrechu creu gwaith i'r rhai hyn. Gorfod i August Arndt fyned i'r carchar am fia am ddweyd nad oedd erioed wedi bod yn y fyddin Germanaidd. Nid oedd hyn yn wir, ond dywedodd yr anwiredd er mwyn cael y fraint o aros yn y wlad hon. Oherwydd angen y fyddin a'r llynges, rhoddwyd archiad am ddefnydd dillad i weithfeydd yn Swinton ac Worsley, ger Manchester. Bydd hyn yn foddion i roddi gwaith i ganoedd o wehyddion am y tri mix nesaf. Yn marchnad yd Hull ddydd Mawrth yr oedd yr yd yn rhatach o chwe awllt y chwar- ter. Yr oedd prynwyr yn brin, ond y cyflen- waeau yn ddigocol. Dy wed Syr Lomer Gouin, Prif Weinidog Quebec, na fydd y dalaeth ar ol pan ddaw y cwestiwn o gynorthwyo y Famwlad gerbroD. Mae gwasanaeth agerlongau Cwmni y Great Western rhwng Abergwaun a Waterford wedi ei ail gychwyn.