Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

s I [ YR HAUL. $ OYNWYSIAD AM MEDl, ? Y- Y Mis. t Prydain, Awst, 1914 < Llyfr y Barn wyr, i Dyhuddianfc. f [■ At y Beirdd. ? Renry Vaughan, Silurist, 1621- 1695 Newyddiaeth. j Huw Morys. John Jones i 41 Yr Hwyr a fu a'r Bore a fu," Or Arsyllfa. j Adolygiadau. Nodion Eglwysig. j Bwrdd y Golygydd j Manion. | i i

Advertising

r D Li I PERL Y PLANT. CYNWYSIAD AM MKDI. | Dadleuon Magi Jones. Dyn yn Gwerthu ei Enaid am i haner coron. leuan Gwynedd. < Yn y Mynyddoedd (Darluniau). J Dalen Dirwest. j Y Gorlan Dramorol (Darlun), | Y Pagan Bach Du. j Ton—' Huna, Blentyn Iesu.: | Seryddiaeth (gyda Darlun). Emynwyr Cymru. j Thomas Aquinas. I Y diweddar Harold Jones, Glon- } ogwen (gyda Darlun). Beth mae yr Eglwya yn ei Wneyd. Y G "t adleua th j Y Gystadleuaeth. j Perlau y Perl.' i Llithiau Priodol am y Mis. | Barddoniaeth.

Advertising

Ff urf-wasanaeth ar ran Milwyr a Morwyr yn y Rhyfel. TUD^ife ».

Y RHYFEL EWROPEAIDD o

Y RHYFEL EWROPEAIDD. o MILOEDD 0 FILWYR WEDI EU LLADD A'U OLWYFO. BUDDUGOLIAETHAU PRYDEINIG AR FOR A THIR. Ddiwedd yr wythnos, derbyniwyd newydd- ion brawychus o wahanol ranau o faes y frwydr ofnadwy sydd yn cael ei ohario ym- laen rhwng y gwahanol alluoedd Ewropeaidd. Dygwyd lluoedd o glwyfedigion i Loegr ddydd- iau Iau, Gwener, a Sadwrn, ac oddi wrth yr adroddiadau a dderbyniwyd ganddynt, yr oedd yn amlwg fod y Germaniaid yn ceisio amgylchynu y Prydeiniaid, ond ofer fu eu hymgais, fel y gwelir isod. PEDWAR DIWRNOD 0 YMLADD. ,DEWRDER Y MILWYR PRYDEINIG. Derbyniwyd yr adroddiad canlynol oddi wrth yr Ysgrifenydd Rhyfel :-Er nad yw cenadwrlaethau swyddogol Syr John French ynglyn a'r brwydrau diweddaf wedi dyfod i law, y mae yn bosibl yn awr i roddi rhyw ad- roddiad cyffredinol beth fu rhan milwyr Prydain yn y brwydrau a ymladdwyd ar y 23ain, 24ain, 25ain, a'r 26ain. Yn ystod yr holl gyfnod hwn bu y milwyr Prydeinig mewn undeb a'r byddinoedd Ffrengig, yn cymeryd rhan yn y gwaith o wrthwynebu ymruthriad y Germaniaid, ac mewn cilio yn ol i amddi- ffynfeydd newyddion. I Dechreuodd y fAydr yn Mons ddydd Sul, pan yr ymosododd y Germaniaid gyda ffyrnig- rwydd drwy y dydd a rhan o'r nos. Gwth- ient ymlaen yn herfeiddiol, ond llwyddodd y Prydeinwyr i'w cadw draw. Ddydd Llun, y 24ain, darfu i'r Germaniaid wneyd amryw geisiadau, gyda nifer ychwan- egol o filwyr, i rwystro y Prydeiniaid I encilio, ac i'w gorfodi i fyned I Manbeuge. Gorth- rechwyd y ceisiadau hyn eto gan y Prydein- laid gyda cholled drom i'r Germaniaid. Erbyn nos Fawrtb, yr oedd y Prydeinwyr wedi meddianu Uinell Cambrai-Landrecies Le Cateau. Yr oedd y Germaniaid wedi bwriadu ymosod drachefn ar doriad gwawr y 26ain, ond nis gallent gario allan eu cynllun hyd y prydnawn, pan y cymel odd brwydr boeth le gyda cholledion trymion i'r ddwy ochr. Llwyddodd y Prydeiniaid i encilio yn drefnus. Amcangyfrifa Syr John French fod y Pryd- einiaid wedi colli o bum' i chwe' mil o ddyn- ion, ond collodd y Germaniaid lawer lawn mwy. Yn Landrecies ar y 26ain, aeth catrawd I o filwyr Germanaidd i heol gul, yr hon a lanwasant yn llwyr. Daeth ein gwyr ni a'u y pelriant saethu i'r fan, ac ysgubwyd can- oedd o honynt. Cymerodd rhuthr le ar ran y Germaniaid, gan adael o wyth i naw cant o felrw a chlwyfedigion yn yr heol hono yn unJg. Rhuthrodd meirchfilwyr Germanaidd ar y 12fed Brigad o draediilwyr Prydain, ond- gorfodwyd y blaenaf i ddianc mewn annhrefn. Nid yw hyn ond ychydig engreifftiau o'r gor- ucbanaethau syrthiodd i ran ein milwyr y dyddiau diweddaf. Oddiar y 26ain, heblaw yr ysgarmes a'r meirchfilwyr, cafodd ein milwyr lonydd. Llwyddwyd i gael ychydig orphwysdra, a daeth adgyfnerthion i lanw y bylchau, a mwy. Mae pob cyflegr wedi eu hail osod, ac y mae y fyddin yn barod yn awr i gymeryd rhan egniol yn y frwydr nesaf. BYDDIN NEWYDD FFRAINC. Dywedir fod Ffralnc wedi ffurfio byddin newydd o ohwarter miliwn o wyr, yr hyn fydd yn gaffaeliad gwerthfawr yn ngwyneb rhuthriadau y Germaniaid. Symuda y Ffrancod ymlaen ar draws y wlad i Abbeville, ac y mae y Germaniaid yn ceisio myned i Paris. SYMUDIADAU Y RWSIAID. Yn ol fel yr adroddir o St. Petersburg, y mae'r Rwsiaid yn ymdaith ymlaen yn brysur I gyfelriad amddiffynfa Konigsberg, ac wedi gwthio'n ol fyddin flaen y gwarchodwyr. Y maent wedi mcddianu amryw fylchau pwysig dros yr afon Alle. Rhwng y Vistula a'r Dueister y mae'r milwyr Rwsiaidd wedi cyf- arfod a. milwyr Awstria-Hungari. Buont mewn brwydr ffyrnig ger Towaschoff a Mouasterzyska, un o'r dyddiau diweddaf. Dywedir yn swyddogol eu bodwedi meddianu Tilsit. Enill tir y maent yn Prwsia, ac y mae'r Germaniaid wedi gorfod clllo o'u blaenau i Osterode. Y maent yn ymarferol wedi galw eu milwyr ynghyd oll-wyth mil- iwn o filwyr, wedi eu rhanu yn bedair byddin o ddwy filiwn yr un, ac anfonir hwy i'r maes y naill ar ol y Ilall. Y mae adran gref o honynt wedi cychwyn ar eu hymdaith i Berlin, a disgwylir y cyrhaeddant yno ymhen tair wythnos. Ag eithro Konigsberg y mae'r Rwsiaid wedi meddianu'r oil o Brwsia ddwyr- einiol. Y maent yn myned ar eu hymdaith i gyfeiriad Danzig. Ffy y trigolion o'u blaenau yn finteioedd brawychus. Y mae'r Cossacks wedl dechreu ymlid y Germaniaid, y rhai sydd ya ffoi i bob cyfelriad gan adael eu harfau, eu bwyd, a'u cyflenwadau ar ol. Y maent wedi cymeryd miloedd o'r Germaniaid yn garcharorion. Y FRWYDR YN HELIGOLAND. Dywed gohebydd i'r Central News, ddarfod ei hysbysu i'r adran gyntaf ac ail o'r dinystr- wyr Prydeinig gyrhaedd cesail Heligoland oddeutu pedwar o'r gloch fore Gwener. Tan- iwyd yr ergyd gyntaf oddeutu 6.30, gan un o'r cyflegrfeydd Germanaidd ar yr ynys. Yna ymagorodd y dinystr-fadau allan yn haner cylch, a pharhawyd tanio prysur o bobtu am gwrs o amser, ond yr oedd y cyflegrfeydd yn anelu'n wael ac ni chafodd eu hergydionfawr o effaith. Yn nesaf bu ysgarmes cydrhwng dau o'r dinystr-fadau Germanaidd A'r eiddom ni, a suddwyd hwy yn ddiatreg. Ag un er- gyd suddodd un o'r dlnystr-fadau wib-long arall. Daliwyd un arall oedd wedi ei chloffi a rhoddwyd pen arnl. nAr hyn daeth rhai o wib-longau Prydain i'r lie gan beri i'r llestri ereill perthynol i'r gelyn encilio ar frys dan gawod o ergydlon, ao un o honynt ar dan. Y CLWYFEDIGION GERMANAIDD A PHRYDEINIG. Dydd Sadwrn adroddir o Harwich fod lladdedigion a'r clwyfedigion Germanaidd a Prydeinig wedi cyrhaedd yno, pa rai a anfon- wyd i'r Shotley Hospital. Rywle yn agos i haner dydd cyrhaeddodd Upng arall gydag amryw o carcharorion Germanaidd, y rhai anfonwyd i'r Shotley Barracks. Rhifent oddeutu dau cant. Gyda'r llong hon hefyd cyrhaeddodd amryw fdr-filwyr fuout yn llygaid-dystion o'r frwydr, y rhai a ddesgrif- ient y golygfeydd ar fwrdd y gwib-longau Germanaidd o'r fath fwyaf calo#rwygol yr oedd y deciau yn orchuddiedig a chyrff malur- iedig a gwaedlyd-rhal gyda darnau o aelodau maluriedig-mewn gwirionedd yn rhy ofnad- wy i'w desgrifio. Melldithlal un o'r clwyfed- igion Germanaidd yr Ymherawdwr a'i -ryfel gorphwyllog. Y MILWYR UNEDIG YN FFRAINC. Mae safle milwyr Ffrainc a Phrydain yn parbau yn foddhaol, ac y mae eu llwyddiant ynglyn a gorfodi y Germaniaid 1 encilio yn ganmoladwy iawn. Enillodd y Ffrancod dir yn Lorraine, a llwyddasant i orfodi deu- gain mil o Germaniaid i ffol o Guise. Bu ymladd caled, ond ni lwyddodd y Ger- maniaid, fel yr honant, i dori y Uinell Ffrengig. Mae un pwynt peryglus ar hyn o bryd, sef ymgais y Germaniaid i dori trwodd rhwng y Prydeinwyr ar y dde a'r Ffranood ar y ohwith. Mae 80,000 o Germaniaid wedi ymadael o Ffrainc i gyfarfod y Rwsiaid yn y dwyrain. Pasiodd 140 o gerbydresi yn llwythog o filwyr drwy Belgium. Y RWSIAID YN YMOSOD AR AMDDI- FFYNFEYDD GERMANAIDD. Dynesa y Rwpiaid at Grandens a Thorn, dwy o brif amddiffynfeydd y Germaniaid ar y Vistula. Saif Thorn o fewn 200 milldir i Berlin. Bu y Rwsiaid mewn ymladdfa ffyrnig gyda'r Awstriaid yn Galicia, ond ni wyddis y oanlyniadau pan yn ysgrifenu. DINYSTRIO TAI YN PARIS. Dydd Sul, dinystriwyd miloedd o dal, masnachdai, a ffactrioedd yn ninas Paris gan yr awdurdodau Ffrengig er mwyn caellle clir i d&nbelenu ar y gelynion pan- ddeuant yno. Clywid sftn y ffrwydro am 80 milldir o bellder. YSTRYWIAU Y GERMANIAID I AM- GYLCHYNU Y PRYDEINWYR. Newyddion a dderbyniwyd ddydd Mawrth a hysbysant fod pob ystryw o eiddo y Ger- maniaid! i amgylchynu y milwyr Prydeinig wedi bod yn fethiant, a gyrwyd hwy yn ol bob tro gyda cholledion trymion. Yn mhell- ach i'r de mae y Ffrancod wedi rhwystro pob ymdrech Germanaidd i dori drwy eu rhengau. Ond ofnir y bydd i'r ymosodiadau hyn gael eu hadnewyddu ar gynllun llawer mwy pe ond i ddathlu brwydr y Sedan yn 1870. Mae tair miliwn o filwyr yn gwynebu eu gilydd-— miliwn a haner o Germaniaid a miliwn a haner o Brydeinwyr a Ffranood, ac ofnir y ceir brwydr arswydus cyn pen ychydig orlau. Rhwng y frwydr hon a chyfarfyddiad y Rwsiaid a'r Germaniaid mewn lleoedd eraill bydd yr wythnos hon yn un hynod yn hanes y byd. RHOI TREF AR DAN. Hysbyswyd yn Llundain ddydd Gwener ddarfod i'r Germaniaid ary 25ain cynfisol, wedi iddynt orfod cillo'n ol, droi yn sydyn a myned i Louvain, trel yn perthyn i Belgium. Yr oedd nifer o Germaniaid wrth byrth y dref a saethasant at eu cyd-wladwyr mewn cam- gymeriad, gan feddwl:mai Belgiaid oeddynt. Er i'r awdurdodau wadu, mynai'r Germaniaid, er mwyn cuddio'u camgymeriad, mai trigol- ion y dref oedd wedi saethu atynt. Yr oedd hyny yn amhoslbl. Heb wneyd yr un ym- chwiliad a gwrandaw ar wrthdystiad, hysbys- odd y swyddog Germanaidd y byddai i'r dref gael ei dinystrio, ac archodd i'r holl drigolion adael eu tal. Cymerwyd nifer o'r dynion yn garcharorion. Yna anfonwyd milwyr gyda ffrwdbelenau I bob rhan o'r dref a rhoisant hi ar dan. Llosgasant bobpeth, yn cynwys eglwys ardderchog St. Pierre, y colegau, y llyfrgelloedd ac adeiladau cyffelyb. Saeth wyd nifer o'r dinaawyr mwyaf blaenllaw. Nid yw'r dref ardderchog o 45,000 o drigolion ond pentwr o ludw. Adroddlad arall o Amsterdam a ddywed fod dwy adran o Germaniaid yn ymladd a'u gilydd yn heolydd Louvain. Camgymerodd y naill y Hall fel gelyn, a phan welsaat eu camgymeriad, er mwyn dial, difethaasant nifer fawr o gof-golofnau ac adeiladau, ac ymosododd nifer o honynt ar drigoloion dinlwed. YR YMLADDFA FAWR YN MYNED YMLAEN. Mae y frwydr fawr rhwng y milwyr unedig a'r Germaniaid yn myned ymlaen, ond ychydig fanylion oedd wedi cyraedd- erbyn ddydd Mercher. Ymddengys fod y Ffrancod wedi myned ymlaen i Lorraine a'r Vosges. Amcan y Germaniaid yw amgylchynu y Prydeinwyr, ond hyd yma maent wedi methu, a cheisia y Prydeiniaid, o'r ochr arall, i ohirio dynesiad y gfelyn mor hir ag sydd bosibl, i roddi curfa dda i'r Germaniaid, ac yna encilio yn raddol. AMDDIFFYN PARIS. Gwneir pob parotoad er amddiffyn Paris Er 1870, amgylchynir Paris, gan gadwen o amddiffynfeydd cadarn. Hyd y llinell yw can' milldir, ond y mae bwlch o naw milldir. Ni esgeulusir unrhyw bwynt yn yr amddi- ffyniad, gan fod y Ffrancod wedi dysgu gwers bwysig yn 1870. 0 COLLEDION PRYDEINIG. Nos Fawrth, cyhoeddwyd yn swyddogol nifer y Prydeinwyr a laddwyd ac a glwyfwyd perthynol i Loegr. LLADDKDIQIOSf. Swyddogion 36 Milwyr cyffredin 127 ? CL WYFBDlGION, Swyddogion 57 Milwyr cyffrediu 629 AR GOLL. Swyddogion 95 Milwyr cyffredin 4183 Cyfanrif 5127 Disgwylir rhagor o fanylion cyn diwedd yr wythnos. SUDDO PEDAIR 0 LONGAU RHYFEL Y GERMANIAID. Wedi disgwyl yn ofer am dalr wythnos am ymddangosiad y rhyfel-longau Germanaidd sydd yn ymguddio yn Mor y Gogledd, gwnaeth nifer o ryfel-longau Prydeinig xuthr ar y gelyn a'i orfodi i ymladd. Penderfynwyd ar gynllun neillduol, er y golygai ei weitbio allan gryn berygl. Yn ffodus, fodd bynag, II wyddodd, y cynllun yn hollol a gwnaed difrod mawr ar lynges y Germaniaid. Collodd y gelyn bedair o longau rhyfel, a nlweidiwyd amryw ereill. Cafodd un o'r llongau Pryd- einig niwed bychan. Yr hyn a wnai yr antur- iaeth hon o eiddo y rhyfel-lougau Prydeinig yn beryglus oedd y ffaith iddynt fynd i ddyfroedd lie yr oedd y Germaniaid wedi dodi i lawr mines,' ar draws pa rai yr aeth amryw longau masnach perthynol i'r gwahanol wled- ydd ac y chwythwyd hwy i fyny. Ond, fel y dywedwyd eisoes, gallodd y rhyfel-longau Prydeinig osgoi y perygl, a dychwelyd wedi enill buddugoliaeth fawr. Cymerodd y frwydr le yn gynar foreu Gwener. Yr oedd y tywydd yn niwlog, a chyn bod y Germaniaid yn syl- weddoli yn iawn beth oedd yn cymeryd lie yr oedd y rhyfel-longau Prydeinig, mawr a bach, yn gwibio o'u cylch ac yn eu t&n-belenu. Suddwyd dwy cruiser a dwy destroyer perth- ynol i'r Germaniaid, a chredir i oddeutu chwech ereill gael eu niweidio. Gwelwyd un o honynt yn myned ymaith ar din ac fel pe ar suddo. Gwyr cydmarol leuainc yw y rhai oeddynt yn carlo allan y cynllun ar fwrdd y rhyfel-longau Prydeinig. Y mae yr ieuengaf yn 39, a'r lleill yn 41, 44, a 47. Cymerodd y frwydr le wrth ymyl Ynys Heligoland, perthynol i Germani. Y mae symiau mawr- ion o arian wedi eu gwario ar yr ynys hon i'w galluogi i wrthsefyll ymosodiad, ac o'i chylch dywedir fod mineB' wedi eu gosod I lawr. Gwelir felly fod y rhyfel-longau Prydeinig mewn perygl nid yn unig oddi wrth y mines' ond hefyd y gynau mawr ar yr ynys. COLEG DEWI SANT AR RHYFEL. Mae y Parch. Ddr. Bebb, prifathraw Coleg Dewi San5, wedi anfon y eylehlythyr canlynol at bob un o'r myfyrwyr :— 41 have no doubt that here, as at other Universities and University Colleges, the authorities will see that every student who responds to the imperative call of the Country for personal service will receive the utmost possible consideration in regard to Academic standing, Scholarships, kc. 0 The call for men is the imperative need of the moment, and should feel that I was not doing my duty as Principal, if I did not remind every Student and Intending Studeut that he must seriously consider his obligation to respond to that call. I am glad to say Mr. Whitfield has applied for and obtained a commission in the tempor- ary army, and will, I hope, return to the College later, and I shall be proud to learn that many of t lose qualified by age, health, &-c., have felt able to offer themselves for training or service at this critical moment. In view of the necessity of making arrangements it will be a convenience to know as soon as possible who intend to be in reeidence next term. Lampeter, LL. J. M. BXBB. Sept. 1st, 1914. J PRISIAU BWYD. Dyma uwchrif prisiau bwydydd yn Mhry- daia yn ystod yr wythnos hon. Cosbir pwy bynag a ofyno yuhwaneg na'r prisiau isod s. d. Siwgr min 0 31 y pwyc Siwgr lwmp 0 4- u Ymenyn tramor 1 5 to Caws tramor 0 10 it Lard (Amerlcanaidd) 0 8 it Margarine 0 9 „ Bacwn tramor 1 0 M Biewn Prydeinig I 1 „ MANION. Mae ambell I foneddwr eto ar gael, Dywedodd Arglwydd Lincolnshire na fyddal iddo ymofyn am rhent bwthynod lle'r oedd unrbyw aelod o'r teulu wedi ymuno 1r fyddin. Nid pethnawydd ydyw y billau ugain swllt sydd mewn cylchrediad. Yr oeddynt yn bod oddeutu can' mlynedd yn ol, a chafodd ami greadur ei grogi oherwydd ceisio gwneyd rhai ei hunan. Dyna ydoedd y ddeddf y pryd hyny am forgio. Brussels ydyw prif dref Belgium. Y hi ydyw un o ddinasoedd harddaf y byd. Y mae ya nodedig am ei heglwysi hardd. Nodweddir hi hefyd am ei hathrofeydd di- guro. Salf Namur yn nyffryn yr afon Meuse, ac yna y tyra llu telthwyr bob blwyddyn. Erbyn hyn, gwnaeth magnelau Germanaidd ddifrod erchyllawn ar y llecyn prydferth. Credir fod gan y Germaniaid ynnau yn pwyso rhwng deugain a chant a haner o dunelli. Gall y rhai hyn hyrddio un ergyd yn pwyso yn agos i dunell o bWYRau dros filldir o ffordd. Nid 088 yn Togoland ond rhyw beth fel pedwar cant o Germaniaid, Nid ydyw y diriogaeth yn cynwys ond yn unig rhyw 34,000 o filldiroedd ysgwar. Miliwn ydyw y boblogaeth. Cymerwyd meddiant o'r lie hwa gan Brydain pan ddechreuodd y rhyfel. Tri can punt ydyw pris pob ergyd danir o'r gynau mawr y fyddin, ac y mae yn agoa i bedwar cant o'r gynau hyn gan y llynges. Gwnaeth un Auguste Babel, German o duedd sosialaidd, ameangyfrif beth fyddai rhaid dalu yn fisol pe b'ai rhyfel rhwng Ffrainc a. Germany y swm ydoedd can' miliwn a haner, a phe b'ai Prydain Fawr, Awstria ac Italy yn ymuno byddai y swm yn ddim llai na phedwar can' miliwn a haner o bunau bob mis. Gan un cIerigwÿr yn unig y mae y V.C., sef y Parch. J. W. Adams. Enillwyd hi ganddo yn Afghanistan yn 1879 drwy achub bywyd dau filwr o ganol afon ddofn, a hyny yn ngwyneb saethiadau y gelynion. Drwy orchymyn y Frenhines Victoria yny flwyddyn 1856 y daeth bathodyn y V.C. I fod. Nid ydyw o fawr werth ynddi ei hun. Ond rhaid ei henill cyn ei chael. Ar faes y gwaed yn unig y gellir ei sicrhau drwy ddangoa gwrhydri personol diamheuol. Dywedodd Canon Newbolt, pan yn pre- gethu yn St. Paul's y dydd o'r blaen, y dylal, pob eglwys drwy'r wlad fod yn agored. Nid oes galwad ar offeiriaid ein gwlad i ymladd mewn un frwydr, ond fe ddylai eu cydwybod beri iddynt gynal gwasanaeth foreu a hwyr bob dydd i weddio ar Dduw yn yr argyfwng presenol. Mae gan y Germaniaid gatrawd o wyr i dori beddau yn dilyn y fyddin. Credir fod eu gorchwyl yn un dibaid ar hyn o bryd. Tybir y gall Rwsia anfon yn agos i saith miliwn o wyr yn erbyn Germani. Eu tuedd ydyw arafweh yn ymgasglu ynghyd. Y gred gyffedinol ydyw y bydd oddeutu tair miliwn ar bugain o filwyr yn eymeryd rhan yn y rhyfel cyn y gwelir ei therfyn. Pan yn dechreu ar el waith newydd, y path cyntaf wnaeth Arglwydd Kitchener ydoedd gofalu fod gwely yn ei weithdy. Talaeth fechan ydyw Luxemburg. Mae Cymru gymaint saith gwaith a hi. Bren- hlnes sydd yn eistedd ar yr orsedd, ac er nad ydyw ond ieuanc, cydmerir hi i'r Frenhines Victoria. Mae ei haelioni yn ddiarebol. Gwyr fwy am wleldyddiaeth na llawer i henafgwr profiadol. Fe fu son fod un o feibion y Brenlu George a'i lygad ami, ond nid gwit y si.