Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

f YR HAUL. OYNWYSIAD AM MEDI. y mis: Prydain, Awat, 1914 Llyfr y Barnwyr. j Dyhuddiant, i At y Beirdd. Henry Vaughan, Silurist, 1621- 1695 Newyddiaeth. Huw Morys. John Jones i Yr Hwyr a fu a'r Bore a fu." f Or Arsyllfa. J Adolygiadau, j Nodion Eglwysig, Bwrdd y Golygydd j Manion. ¡ í

Advertising

PERL Y PLANT j CYSWYSIAD AM KBDI. | Dadleuon Magi Jones. Dyn yn Gwerthu ei Enaid am j haner coron. leuan Gwynedd. | Yn y Mynyddoedd (Darluniau). i Dalen Dirwpst. | Y Gorlan Dramorol (Darlun). Y Pagan Bach Du. TON-I Huna, Blentyn Iesu.' (Seryddiaeth (gyda Darlun). Emynwyr Cymru, Thomas Aquinas. Y diweddar Harold Jones, Glan- ogwen (gyda Darlun). | Beth mae yr Eglwya yn ei Wneyd. k Y Gystadleuaeth, Perlau y Perl.' > Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth. (

Advertising

GWEL Ffurf-wasanaeth ar ran Milwyr a Morwyr yn y Rhyfel. TUDQAri^ s.

o OOLLEDION TRYMION IR AWSTRIAID

o OOLLEDION TRYMION I'R AWSTRIAID. DEWRDER Y MILWYR PRYDEINIG. GERMANI YN NEWID El OHYNLLUNIAU. Cerlr y rhyfel ymlaen yn brysur, ond ychydig mewn cymhariaeth o fanylion dder- byniwyd y nalll ddydd ar ol y Halt, gan fod yr awdurdodau yn Llundain yn awyddus i gadw rhai pethau yn ddirgelaidd am ryw hyd. Yn adeg rhyfel Deheudir Affrica, ach- oswyd llawer o fllnder I awdurdodau y wlad hon gan rai gohebwyr rhyfygus, y rhai fyneg- ent newyddion a roddent fantais i'r gelyn. Yr adeg hono yr oedd llawer yn Lloegr a Chymru yn elyniaethus i'w gwlad, ond yn bresenol mae pawb bron yn unol a'r Llywodr- aeth, yr hon a ymgymerodd a'r gwaith o am- ddiffyn Belgium yn unol a. chytundeb arwydd- wyd gan y ddwy wlad flynyddoedd yn ol. Nid rhaib na chais i ychwanegu at ei thiriogaeth au barodd i Loegr fyned i ryfel, ond ymgais onest i amddiffyn y gwan yn erbyn trahaus- der Ymerawdwr Germani. BYDDINOEDD LLOEGR A FFRAINC. Newyddion a dderbyniwyd ddydd Sadwrn afynegant ua fu y milwyr uchod mewn cyffyrddiad ag aden orllewinol y fyddin Ger- manaidd, a chredir fod y byddinoedd unedig mewn safle foddhaol i daro yn effeithiol pan geir cyfle. Yr adeg a nodwyd yr ydoedd y fyddin Germanaidd wedi cyraedd i Griel, deng milltir ar hugain o Paris. UNO DAN Y FANER BRYDEINIG. Yn y Guildhall, Llundain, ddydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod mawreddog ynglyn a, chreu brwdfrydedd mewn dynion ieuaine i uno i'r fyddin, ac felly gydsynio a chais Arglwydd Kitchener, yr hwn a ddymuna aicrhau byddin ychwanegol o gan' mil o wyr. Er fod y neuadd yn un eang, eto bu miloedd yn analluog i fyned i mewn. Cafwyd anerch- iadau ardderchog gan Mr. Asquith, Mr. Bonar Law, Mr. Balfour, a Mr. Winston Churchill, ac enynasant frwdfrydedd nad anghofir yn mhawb oedd yn bresenol. Pasiwyd pender- fyniad cryf ac unol i roddi pob eefnogaeth i ap61 Arglwydd Kitchener, ac y mae miloedd yn ymrestru yn ddyddiol ymhob rhan o r deyrnas. Yn Nghaerdyddd yn unig, ymrestr- odd 2600 ddydd Gwener. GORUCHAFIAETH I SERBIA. Newyddion o Nish, ddydd Gwener, a hys- bysant fod yr Awstriaidwedi eu gorchfygu yn Ilwyr gan y Servia-id yn mrwydr Jadar. Amcangyfrifir fod yr Awstriaid wedi colli o 30 000 i 32,000 rhwng y rhai a laddwyd ac a glwyfwyd, ac adrodda y Cadfridog Yourichitch el fod wedi gorchymyn i 10,000 o gyrff gael eu claddu. Heblaw y colledion uchod, myn- egir fod yr Awstriaid wedi colli cant o gyf- legrau, 2500 o geffylau, tri o ysbyttai, 37 o beiriauau saethu, miloedd o din-beletiau, llwythi o bylor. Cymerwyd hefyd 4600 o garcharorlon, ac yn eu plith lawer o swydd- ogion, seindorf Hawn ac arweinydd, tri bocs mawr yn llawn o aur ac arian, ac un awyr- long. Dechreuwyd y frwydr yn Nyffryn Jadar Awst 12fed, pan y croesodd yr Awstri- aid y Drina a'r Save, a therfynodd ar Awst 22ain gyda'r colledion Awstriaidd a nodwyd. Cymerodd dau can' mil -o Awstriaid ran yn y frwydr. CENADWRI ODDIWRTH SYR JOHN FRENCH. Derbyniwyd cenadwri galonogol iawn oddi- wrth Syr John French ddydd Llun, a dywed fod pob cwmnl o filwyr Prydeinig o bob gradd wedi profi eu bod ymhell uwchlaw milwyr Germanaldd ar y mae I. Mae gan y genedl Brydeinig achos i fod yn ddloichgar i'r milwyr Prydeinig dewr a aethant allan Ffrainc, lie y maent wedi cadw i fyriy anrhydedd eu gwlad. Wrth gyfeirio at y colledion Pry- deinig, y rhai o ddechreu y rhyfel hyd ddydd Llun a gyrhaeddant tua pymtheg mil, nid ydynt yn drymion a chymeryd i ystyriaeth nodwedd y brwydrau. Pan fyido byddin yn gorfod encilio o flaen galluoedd llawer iawn cryfaoh, rhaid gadael ar ol luaws nas gallant fyned ymlaen mor gyflym ag ereill; o'r rhai hyn, disgwylir y bydd i lawer o honynt ddychwelyd i'r rhengoedd Prydeinig, tra yr ofnir fod rhai wedi syrthio i feddiant y gelyn. Mae sicrwydd fod 2680 o garcharorlon Pry- deinig wedi cyraedd i Doberitz, gerllaw Berlin. CYFNEWIDIADAU Y GERMANIAID. Dywedir fod y Germaniaid wedi cyfnewid rhai o'u cynlluniau, ac na fwriadant, ar hyn o bryd beth bynag, fyned ymlaen â'u bwriad i feddianu Paris. Mae y Ffrancod a'r Pryd- einwyr yn barod iddynfc, ac ni chymerant eu hudo i gael eu camarwain gan y ddyfais ystrywgar hon. Y RWSIAID YN CYFLAWNI GWAITH DA. Mae rhan o fyddin Itwsla wedi cyraedd i Stryi, haner ean' milldir i'r d6 o Lemberg, ac y mae meirchfilwyr Rwsiaidd yn nghymydog- aeth mynyddoedd y Carpathians. Yn mhellach i'r gogledd, mae Rwsiald ereill wedi cyraedd Nlesaava, dim ond 230 milldir o Berlin. Mae ugain o gorphluoedd Rwsiaidd yn awr i wynebu y Germaniaid. Yn y dê, mae y Rwsiaid yn gwthio yr Awstriaid yn ol yn rymus, a disgwylir clywed eu bod wedi gorchfygu yr Awstriaid, y rhai ydynt yn rhifo 53 o filoedd. CYTUNDEB RHWNG Y PLEIDIAU. Mae cynrychiolwyr Prydain, Rwsia, a Ffrainc, wedi arwyddo cytundeb na fydd i'r naill na'r llall o honynt arwyddo telerau heddwch ar wahan, ond yr ymladdant ochr yn ochr hyd y diwedd. ADRODDIADAU Y MILWYR. Dengys y llythyrau a anfonwyd gan filwr yn yr Army Service Corps i'w gariad fod ysbryd ymladd wedi meddlanu y Fyddin Brydeinig yn llwyr. Edrydd un am y croeso gafodd y catrodau Prydeinig yn Ffrainc, ac wele fel y mae yn adrodd ei brofiadati Rhaid i mi ddweyd fod rhai o'r boneddigesau yn gwisgo'n hardd, ond maent yn brin. Siarad am yddfau noeth. Ofnaf y blinid rhai o'n personiaid pe baent yma Yr oeddwn yn myned am dro nos Lun, pan ddaeth bachgen byohan ataf, gan ofyn i mi fyned adref gydag ef-gallai siarad Saesneg ychydig—i weled ei fam. Pan aethum yno yr oedd yr boll deulu yno, yn cynwys amryw gyfelllion, a llwyddais i'w deall gyda chymorth geiriadur. Cefais hwyrbryd a gwydriad o win, a chefais wahoddiad yno drachefn. Cyn i mi ymadael dywedodd rhoi na fyddai gany fyddin gymaint i'w wneyd a'r llynges. Credaf y newldiai rhai eu tdn pe byddent yma. Credaf y pery'n hwy nag y cred rhai pobl. Disgwyliwn fod yma am ddeunaw mis o leiaf. Yr ydym newydd glywed fod y Pryd- einwyr wedi atal y Germaniaid, gyda cholled- ion mawrion i'r olaf. Gwelwch ein bod yn cychwyn yn rhagorol. Rhagoroldeb y cyfleg- wyr a wnaeth y difrod, oherwydd iddynt saethu o bell. Mewn llythyr diweddarach, ac mewn cywair mwy difrifol, dywed :—' Wel, beth yw eich barn am y rhyfel I Nid ydys ddim i'r hyn a ddisgwyliwn. Mae y German- iaid yu anfon byddinoedd mawr i'n herbyn. Amcangyfrifir fod ganddynt ugain milwr am bob un i iii ond yr ydym yn dal ein tir, ac mae y Germaniaid yn cael colledion mawr. Mae cyrff eu meirw yn gorffwys ar eu gilydd oherwydd eu bod mor niferus. Mae ein catrodau ni yn yr ysbryd goreu, ac yn awyddus i fyned i'r ffrynt. Clywsom ddoe fod y Prydeiniaid yn y ffrynt yn pysgota, ac yn defnyddio eu gynau a'u bidogau gyda llinyn ar eu blaen fel gwialen bysgota, ac nid ydynt yn ymddangos yn hitio dim yu yr helynt sydd o'u cwmpaa. MWNFEYDD TANFORAWL Y GERMANIAID. Mae y rhai hyn yn peri colledion yn harhaus, ac un o'r dyddiau diweddaf caf- wyd fod y 'Pathfinder/' mi o longau Prydaiii wedi ei chwythu i fyny, a bod Iluaws o fywydau wedi eu colli. Mae y mwufeydd hyn yn greulawn, a gwelir engraifft, o hyn yn ninystriad y llong deith- iol 'Runo,' yr hon a ddnystriwyd. gyda cholled o 28 o deithwyr. CENADWRI ARGLWYDD ROBERTS. Y mae Arglwydd Roberts wedi anfon y genad a ganlyn i'r milwyr Prydeinig. Dodwyd hi mewn Testamentau a roddir i'r milwyr gan genliadaeth neillduol:—'Er- fyniaf arnoch roddi eich ymddiried yn Nuw. Efe a'ch gwylia ac a'ch nertha. Cewch yn y Llyfryn bychan hwn arweiniad mewn iechyd, cysur mewn afiechyd, a chymorth mewn profedigaeth.' ANFFAWD I LONGAU PYSGOTTA. Mewn modd dirgel, ymosododd nifer o ryfel-longau Germanaidd ar 15 o longau pysgotta yn Mor y Gogledd. Cymerasant feddiant o'r holl bysgod oedd ynddynt, a gwnaed y pysgotwyr yn garcharorion. Wedi dinystrio y 15 llongau pysgotta, aeth y llongau Germanaidd yn ol i'w hym- guddfan. DISGWYL BRWYDR ANFERTH. Yn ol y newyddion a dderbyniwyd ddydd Mawrth, mae pob argoelion fod brwydr anferth ar gael ei hymladd. Mae milwyr Germani, Prydain a Ffrainc wedi ym- gasglu ar hyd llinell, o'r gogledd i Paris, 120 milldir o hyd. Mae milwyr y ddwy wlad-•ddiweddaf a. nodwyd yn feddianol ar safleoec'd manteisiol. a bydd byddinoedd gwrlthwynebol mewn ymdrech a'u gilydd yn fuan bellach. Darfu i'r Germaniaid a groesasant yr afon Mame gyraedd mor bell i'r de o La Ferte Caucher, 45 milldir i'r dwyrain o Paris, ond mewn canlyniad i ymosodiad ffyrnig ar ran y Ffrancod a'r Prydeinwyr, bu raid i'r Germaniaid encilio nos Sul gyda cholledion trymion. Mae y canlyniad hwn yn galonogol iawn, ac yn ernes o'r hyn ellir ddisgwyl eto. Mae y Germaniaid yn awyddus i ddwyn y frwydr fawr oddiam- gylch mor fuan ag sydd bosibl er mwyn myned i amddiffyn Berlin cyn gwanhau eu nerth yn Ffrainc, lie yr amcangyfrifir fod ganddynt o leiaf ddwy filiwn o filwyr. I SAETHU YSBIWYR. Saethwyd dyn o Denmarc yn Hamburg ar gyhuddiad o fod yn ysbiwr. Gwnaed yr un modd ag offeiriad Seisnig oedd yn byw gydag ef. Cyhuddwyd yr ehedwr German- aidd enwog, Hirth, o fod yn ysbiwr yn Berlin. Ymddengys ei fod yn gyfaill i'r ehedwr Ffrengig Garros a'i fod wedi anfon llythyr ato ar ddechreu y rhyfel. Ded- frydwyd Hirth i'w saethu. LLWYDDIANT MILWYE, RWSIA. Yn y dwyrain, mae y Rwsiaid, er eu bod wedi treulio pythefnbs yu ymladd, yn dal eu tir yn dda. Mae y buddugoliaethwyr yn Lemburg wedi gwthio ymlaen yn egniol, gan gymeryd Przemysi, ac felly Iwyddo i fyned o'r tu cefn i fyddin gyntaf yr Awstriaid, yr hon sydd wedi derbyh colled- ion trymion tra yn ymladd yn Lublin, Poland. Mae y Rwsiaid mewn safle hynod fanteisiol i enill goruchafiaeth derfynol ar yr A wstriaid. CYNLLWYNION Y GERMANIAID YN AFFRICA. Mae y Germaniaid wedi cael siomedig- 1 19- aeth yn Ngorllewinbarth Affrica, lie y maent wedi bod yn ceisio darbwyllo y Boer- iaid i ymladd yn erbyn Prydain, ond bu eu holl ddyfeisiau yn ofer. Gofala y Llywodr- aeth Brydeinig roddi terfyn ar yr ymyr- iadau hyn. SUDDO LLONG ARALL I GERMANI. Cyrhaeddodd pellebyr o Amsterdam ddydd Gwener yn cynwys y newydd fod llong-ryfel gyflym arall yn perthyn i Ger- mani o'r enw 'Madgeburg' wedi ei suddo. Rhedodd i'r lan mewn niwl ar Ynys Oden- sholm, yn y Gulf of Finland. Oherwydd fod y niwl mor dew ni fedrai llongau ereill yn perthyn i Germani ei helpu o'r perygl. Pan welodd y capten ei bod ar ben arno, penderfynodd aberthu'r llong gan fod adran o lynges Rwsia yn barod i ymosod ami. YMLADD CALED YN FFRAINC. Newyddion a dderbyniwyd ddydd Mer- cher fynegent fod brwydro caled yn myned ymlaen yn Ffrainc, a bod y milwyr unedig yn cael goruchafiaeth ar y Germaniaid, y rhai orfodid i gilo yn ol. Cymerodd y Prydenwyr a'r Ffrancod feddiant o fataliwn o Germaniaid (mil o wyr), ynghyd a wag'eni yn llawn o bylor, etc. Encilia y Germaniaid yn nghyfeiriad Marne, yr hyn rydd gyfleusdra ychwanegol i'r milwyr unedig. Cafodd y Germaniaid golledion trymion yn ne Chalons. YR AWSTRIAID YN COLLI R DYDD. Mae prif fyddin yr Awstriaid yn Poland yn cael ei gyru yn ol gan y Rwsiaid. y rhai ydynt wedi bron ddistrywio y fyddin Aws- triaidd, a golwg gwan sydd y bydd yr Aws- triaid yn alluog i ymladd yn hir eto, gy- maint yw y bylchau a wnaed yn eu rheng- oedd. Mae y Serviaid yn ymladd yn galed yn erbyn Awstria, ac wedi amgylchynu Bosnia. DIOLCH I ARGLWYDD KITCHENER. Mae y Cadfridog Joffre, penaeth y fyddin Ffrengig, wedi anfon brysneges o ddiolch- garwch i Arglwydd Kitchener am y gefnog- aeth barhaus a ffyddlon a dderbynia y Ffrancod gan filwyr Prydain. LLOSGI TREF ARALL. Yn ystod eu harosiad byr yn Termonde, wedi i'r milwyr a'r preswylwyr ymadael, cyflawnwyd llawer o anfadwaith gan y Germaniaid, y rhai a losgasant ugeiniau o dai, dwy eglwys, a chlafdy, gan symud y clwyfedigion i faes gerllaw. YMRESTRU YN SIR ABEKTEIFI. Ddydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Dref, Llanbedr-pont-Stephan, dan lywyddiaeth y Milwriad Davies-Evans, arglwydd raglaw Sir Aberteifi, er cymeryd i ystyriaeth y moddion goreu i'w mabwys- iadu er cael dynion ieuainc i ymrestru yn y fyddin. Wedi ymdriniaeth faith, cynyg- iwyd gan Mr. Vaughan Davies, A.S., ac eiliwyd gan Mr. R. E. Jones (uchel sirydd), Borth. fod i bwvlle-orau fIael eu sefvdln vn gynwysedig o ynadon. a chyngorwyr siro] a dosbarthol, y rhai feddent hawl i alw cyfar- fodydd yn eu gwahanol ardaloedd, i'r rhai y gwahoddid dynion ieuaine. Pasiwyd y cynygiad yn unfrydol. ENCILIAD Y GERMANIAID. Brysneges a dderbyniwyd nos Fercher a fvnega fod y Germaniaid yn enemo yn brysur rhag eu gelynion ar hvd rr hnll H11P'1. I BUDDUGOLIAETH ARALL I'R RWSIAID. Yn y dwyrain hysbysir fod y Rwsiaid wedi enlll buddugoliaeth arall ar yr Awstriaid ar dueddau Poland. Mae yr Awstriaid wedi dioddef colledion anferthol, ac os y parha y Rwsiaid I enill ychydig yn hwy, byddant wedi llwyr ddifodi yr Awstriaid. MEDDIANU LLONG GERMANAIDD BERYGLUS. Gohebydd o Hull a adrodda fod rhyfel- long Brydeinig wedi cymeryd meddiant o long Germanaidd oedd wrth y gwaith o osod ffrwydron yn y MOr Gogleddol. Yr oedd 200 o ddefnyddiau ffrwydrol ar ei bwrdd, a chymerwyd y Hong ymaith i borthladd anhysbys. Ffawd oedd darganfod y llestr hon, gan y gallasai y dyhirwalth a gyflawnid gan ei dwylaw achosi colledion annhraethoi. CYNORTHWY 0 INDIA. Derbyniwyd newyddion calonogol iawn o India ddydd Mercher, sef fod lly wodraethwyr brodorol taleithau yn India, 700 mewn nifer, wedi cynyg eu gwasanaeth, eu harian, a'u deiliald i Brydain Fawr yn ystod y rhyfel. Cydnabyddwyd y cynygiad gwerthfawr yn Nhy y Cyffredin nos Fercher. Byddant yn anfon o leiaf 70,000 o ddynion i'r rhyfel, yn annibynol ar yr hyn a anfonir gan Lywodr- aeth India. MANION. Nid oes sail i'r mynegiad fod ymgais wedi ei gwneyd i lofruddio Czar Rwsia ychydig ddyddiau yn ol. Yn ol adroddiad o Rhufain, mae 200,000 o filwyr Germanaidd wedi eu hanfon o Ffrainc I w ynebu y Rwsiaid. Rhoddodd y Germaniald ysbytty Ffrengig y Groes Goch ar din yn Beauvais, yn yr hwn nid oedd ond awyddogion a milwyr German- aidd olwyfedig yn unig. Llosgwyd yr oil o o honynt i farwolaeth. Mae dro8 ddeng mil o wyr yn Sir Forganwg yn unig wedi ymuno a'r fyddin yn ystod y dyddiau diweddaf, heblaw canoedd mewn sir- oedd ereill. Y mae siroedd y Gogledd hefyd wedi gwneyd yn dda yn yr un cyfeiriad. Ni chynhelir unrhyw ymrysonfeydd ynglyn a'r bel droed yn Nghymru y flwyddyn hon, fod gair y mwyafrif o aelodau y clybiau wedi ymuno a'r fyddin. Mae y Llywodraeth wedi gorchymyn cau tafarnau Llundain awr yn gynarach bob nos, ac yn Nghaerdydd, Barry, a Penarth rhaid eu cau am naw o'r gloch bob nos. Yn y rhagolwg y parha y rhyfel am amser maithf mae y Germaniaid wedi rhoddi gorchymynion ar i nifer o ryfel-longau newyddion gael eu hadeiladu yn ddioed. Tra yn ffarwelio yn synagog Caerdydd, prydnawn Sul, a. nifer o Iuddewon oeddynt wedi uno a'r milwyr, cymerwyd Mr. Isaac Samuel, un o ynadon y ddinas, yn wael, a bu farw ychydig oriau yn ddiweddarach. Yn mhentref East Hendred, swydd Berks, nid oes ond 58 o'r trigolion yn addas i ymuno a'r fyddin, ond o'r nifer hwn mae 38 wedi uno, ac yn awr yn gwasanaethu eu gwlad yn y llynges, yn Ffrainc, neu gyda'r tiriogaeth- wyr. Heblaw hyn, mae ysbytty wedi ei ddarparu yn y pentref, am yr hwn y gofelir gan wragedd y lie. Dyma esiampl ragorol i drefi a phentrefi ereill. Dywedir fod Ficerdai ein gwlad wedi dan- fon allan i faes y gid fwy o fechgyn ar gyfar- taledd nag un dosbarth arall. Dywedir mai 'Kaser' oedd yr hen ffurf o sillebu teitl brenhinol Germani. Rhaid oedd I William gael I I' i fewn yn ei deitl. Dywedir fod Dwyrain Cymru yn fwy parod I ymladd dros y Brenin na Gorllewin Cymru. Dywedir fod Ymneillduaeth yn gryfach yn y Gorliewin na'r Dwyrain. Dywedir fod Ymneillduwyr Cymru yn cyf- ranu yn helaeth at bob achos da, ond mal casgliadau bach geir at ReHef Fund Tyvygog cym, ti. °